Mae Y Pod yn falch i gyhoeddi ap ar gyfer darganfod podlediadau Cymraeg.

Mae’r ap yn gwneud hi’n haws i chi darganfod podlediadau Cymraeg ar ba bynnag dyfais yr ydych yn defnyddio.

Gwrandwch ar bodlediadau Cymraeg ble bynnag yr ewch chi.

Dyma gyfarwyddiadau ar gyfer llwytho ap podlediadau Cymraeg Y Pod.

Dyfeisiadau Apple – iPhone / iPad / iOS

Ychwanegu App podlediadau Cymraeg Y Pod ar eich iPhone neu iPad.
Ychwanegu App podlediadau Cymraeg Y Pod ar eich iPhone neu iPad.

1. Lansiwch Safari ac ewch i wefan Y Pod – https://ypod.cymru
2. Gwasgwch y botwm Bookmark ar waelod y sgrin (mae’n edrych fel bocs gyda saeth i fyny).
3. Gwasgwch Add to Home Screen.
4. Derbynwch yr enw ar gyfer yr app ac yna ychwanegwch yr eicon i’r sgrin.
5. Bydd app Y Pod yn ymddangos gyda’r apiau arall ar eich ddyfais.

Dyfeisiadau Android – ap Y Pod

Gallwch ddod o hyd i ap Y Pod ar gyfer darganfod podlediadau Cymraeg yn eich Google Play Store.
Chwiliwch am Y Pod neu defnyddiwch y linc yma.

App podlediadau Cymraeg Y Pod yn y Google Play Store.
App Y Pod yn Google Play Store.

Neu dilynwch y canllawiau yma.

1. Ogorwch Chrome Chrome ar eich ddyfais Android.
2. Ewch i wefan Y Pod – https://ypod.cymru
3. Gwasgwch y botwm Add to Home Screen neu ‘Llwytho Ap Y Pod’.
4. Dilynwch y chyfarwyddiadau ar eich sgrin.

App Podlediadau Cymraeg ar eich cyfrifiadur

Ychwanegu App podlediadau Cymraeg Y Pod ar eich cyfrifiadur.
Ychwanegu App Y Pod trwy Google Chrome.

1. Ar eich cyfrifiadur, agorwch Chrome.
2. Ewch i wefan Y Pod – https://ypod.cymru
3. Ar ben y dudalen ar y dde, yn y bar cyfeiriad, gwasgwch Install.
4. Dilynwch y chyfarwyddiadau ar eich sgrin i lwytho ap Y Pod.

Hoffwch derbyn eich adborth am ddefnyddio’r ap. Cysylltwch gyda unrhyw sylwadau.

Cylchlythyr Y Pod

Tanysgrifiwch i gylchlythyr Y Pod i dderbyn y newyddion diweddaraf am bodlediadau Cymraeg yn eich e-bost.

Ap Podlediadau Cymraeg gan Y Pod