Mae Lauren a’r criw wedi gadael haul neis Nice a theithio yn ôl i Versailles wrth i garfan Cymru baratoi ar gyfer brwydr fwya’r grŵp yn erbyn Awstralia. Rhys Patchell a’r mewnwr, Gareth Davies sydd yn ymuno â Lauren i drafod y cwbl.
Saturday September 23, 2023
🗣 PODLEDIAD
Dyma bodlediad o erthygl 'Cymeriadau Porth yr Aur'. Hanes difyr iawn am gymeriadau Porth yr Aur! Daw o rifyn 221 Y Wawr - Hydref 2023.
Friday September 22, 2023
Rhodri Davies sydd ag adroddiad o'r digwyddiad ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Friday September 22, 2023
Mae Owain Tudur Jones yn poeni'n fawr am helynt Abertawe, tra bod y cyn amddiffynnwr Wyn Thomas yn ymuno am sgwrs i hel atgofion am ei yrfa hirfaith yn y Cymru Premier. A pha aelod o'r teulu sydd wedi siomi Malcolm Allen?
Thursday September 21, 2023
Podlediad a recordiwyd yn fyw yn siop lyfrau Palas Print, Caernarfon, adeg cyhoeddi Ystlum, pamffled cyntaf Elen Ifan o gerddi, ym mis Tachwedd 2022. Yn holi Elen mae ei ffrind, Mari Elen - ac mae'r sgwrs yn crwydro i gyhoeddi ar instagram, cyfansoddi yn ystod y cyfnod clo, cydweithio gydag artistiaid gweledol a chymaint mwy.
Gyda diolch arbennig i Eirian a Sel o Palas Print, siop lyfrau annibynnol yng nghanol tref caerog Caernarfon yn gwerthu llyfrau Cymraeg a Saesneg o Gymru a'r byd.
Thursday September 21, 2023
Rhodri Davies sy'n sgwrsio am effaith y tywydd gyda Iestyn Pritchard o NFU Cymru.
Thursday September 21, 2023
Y Podlediad Trafod CPD Wrecsam Cymraeg Cyntaf Erioed
The First Ever Wrexham AFC Welsh Language Discussion Podcast
Hosted on Acast. See acast.com/privacy for more information.
Wednesday September 20, 2023
Mae Lauren a’r criw wedi gadael haul neis Nice a theithio yn ôl i Versailles wrth i garfan Cymru baratoi ar gyfer brwydr fwya’r grŵp yn erbyn Awstralia. Rhys Patchell a’r mewnwr, Gareth Davies sydd yn ymuno â Lauren i drafod y cwbl.
Wednesday September 20, 2023
Wednesday September 20, 2023
Rhodri Davies sy'n trafod arolwg diweddar gyda Glesni Phillips o Hybu Cig Cymru.
Wednesday September 20, 2023