-> Eich Ffefrynnau

Cwrs Podlediadau

Mae Y Pod Cyf. yn cynnig amryw o wasanaethau sydd yn cynnwys hyfforddiant, cyrsiau cynhyrchu Podlediadau,cyngor a chymorth sut i ehangu a datblygu eich brand yn ddigidol.

Hyfforddiant Podlediadau

Ydych chi eisiau creu Podlediad?

Hyfforddiant Podlediadau / Cwrs Podlediadau - Y Pod Cyf.

Cysylltwch i drafod sut y gall arweiniad a hyfforddiant gan gynhyrchydd podlediadau profiadol a phroffesiynol helpu eich brand.

Mae Y Pod Cyf. yn cynnig hyfforddiant yn y maes recordio, cynhyrchu, a chyhoeddi Podlediadau.

Mae Y Pod Cyf. yn cynnig hyfforddiant dwyieithog ac yn gallu creu cwrs Podledu i gwrdd ag eich anghenion.

Cysylltwch i drefnu sgwrs ac i drafod sut y gallwn ni helpu chi.

Cwrs Podlediadau gan Y Pod Cyf.

Mae arbenigwr podlediadau profiadol Y Pod Cyf. gyda'r atebion i'r cwestiynnau chi eisiau gofyn.

O sut i benderfynnu dechrau podlediad, i'r broses o gyhoeddi, byddwn ni yna i gefnogi chi pob cam o'r broses.

Byddwn yn eich arwain ar hyd y ffordd gam wrth gam ac yn helpu chi i adeiladu cynulleidfa eich podlediad.

Mae ein cwrs Podlediadau yn cynnwys:

+ Cyflwyniad i bodlediadau.

+ Syniadau – penderfynnu ar thema a chynnwys eich Podlediad.

+ Offer – yr offer sydd angen i recordio a golygu Podlediad.

+ Cyngor – Y Da a'r drwg o recordio.

+ Golygu - Cyflwyniad i feddalwedd golygu.

+ Cynhyrchu - Cyngor arbenigol am sut i wella eich cynhyrchiad a thechneg cyflwyno.

+ Cynulleidfa - Hyrwyddo a marchnata eich podliediad.

+ Cwestiynau - Sesiwn holi ac ateb cynhyrchydd podliedadau profiadol.

Marchnata a Tyfu eich brand

Fe allwn Y Pod Cyf. helpu eich brand cyrraedd cynulleidfa newydd.

Mae podlediadau wedi galluogi brandiau i gael cyswllt cryf gyda'r gynulleidfa.

Cyrhaeddwch wrandawyr a chynulleidfa newydd trwy Podlediad.

Gallwch greu perthynas newydd gyda cynulleidfa trwy eich podlediad.

Mae podlediadau yma i aros ac mae Y Pod Cyf. yn wasanaeth hanfodol ar gyfer Podlediadau Cymraeg.

Cysylltwch i drefnu sgwrs ac i drafod sut y gallwn ni helpu chi.