-> Eich Ffefrynnau

Albyms Arloesol

Albyms Arloesol

Dewch ar daith drwy'r archif recordiau Cymraeg wrth i ni holi, a dysgu, am yr albyms arloesol sydd wedi helpu siapio'r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes heddiw. Golygydd Y Selar, Gruffudd ab Owain, sy'n sgwrsio gyda ffans cerddoriaeth Gymraeg am eu hoff albyms, ynghyd â'r artistiaid sy'n gyfrifol amdanynt, gan holi beth sy/'n gwneud yr albyms yma mor arbennig, ac yn wir, yn arloesol. Mae Albyms Arloesol yn gyd-gynhyrchiad rhwng Y Selar a golwg360.

Gwefan: Albyms Arloesol

RSS

Chwarae Albyms Arloesol

Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr: Fflamau'r Ddraig

Yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth Geraint Jarman ddechrau Mawrth 2025, dyma dalu teyrnged i un o’n cerddorion mwyaf dylanwadol. Dewi Prysor a Steff Rees sy’n ymuno â Gruffudd ab Owain i drafod arloesedd Jarman, gan roi’r albwm ‘Fflamau’r Ddraig’ (Sain, 1980) o dan y chwyddwydr.

Fri, 28 Mar 2025 14:30:30 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Albyms Arloesol

Sywel Nyw: Deuddeg

Deuddeg gan Sywel Nyw yw'r albwm cyntaf sydd yn dod o dan sylw'r gyfres Albyms Arleosol.


Gruffydd ab Owain sy’n gwahodd Daisy Williams, un o ffans mwyaf yr albwm, i drafod pam fod y prosiect gan Lewys Wyn yn haeddu lle ar y podlediad.

Thu, 13 Feb 2025 15:09:07 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch