Gwrandewch ar y gyfres newydd sbon o bodlediadau o'r enw Am Iechyd.
Podlediad lle y bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mwynhewch y gwrando.
Gwefan: Am Iechyd
Yn y podlediad difyr a pherthnasol hwn fe glywch chi sgwrs rhwng Owain Pennar, sy'n defnyddio gwaasanaeth gofalu, Elen Vaughan Jones, o Uned Hyfforddi Cyngor Gwynedd a Rhian Lloyd, darlithydd o'r rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Bangor dan gadeiryddiaeth Gwenan Prysor, Cyfarwyddwr y rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol, Prifysgol Bangor.
Beth yn union ydy ystyr gofalu cyflogedig a gofalu di-dal? Pa nodweddion sydd gan rhywun sydd yn dda am ofalu? Beth am y prinder diweddar mewn gofalwyr?
Gwrandewch ar y podlediad hwn er mwyn cael gwybod mwy.
Tue, 25 Apr 2023 05:50:01 +0000
Beth mae cydweithio effeithiol rhwng iechyd a gofal yn ei olygu? Sut fydd gofal yn edrych yn y dyfodol? Sut mae rhoi pobl yn ganolog i wasanaethau a beth ydy cyfraniad cymunedau i ofal?
Dyma bodlediad rhif 2 yn y gyfres Am IECHYD lle mae arbenigwyr o faes gofal ac iechyd yn dod at y bwrdd i drafod materion sy'n effeithio arnon ni gyd ar adegau gwahanol yn ein bywyd.
Tue, 21 Feb 2023 05:15:01 +0000
Dyma'r podlediad cyntaf yn y gyfres newydd sbon o bodlediadau AM IECHYD a fydd yn trafod y materion iechyd a gofal sydd yn effeithio ar bob un ohonon ni ar adegau gwahanol yn ein bywyd.
Testun y drafodaeth yn y podlediad cyntaf hwn ydy 'Bronfwydo' a cheir trafodaeth hynod ddiddorol dan arweiniad Siwan Humphreys, Darlithydd mewn Bydwreigaeth yma yn y Brifysgol ym Mangor.
Mae'r panel yn cynnwys Eleri Stokes, Ymwelydd Iechyd, Sian Roberts, Darlithydd Bydwreigaeth a Sharon Breward, Cydlynydd Bwyd Babanod ac Ymgynghorydd Llaetha.
Ymhlith y pynciau trafod yn y podlediad hwn mae buddion bronfwydo i'r babi ac i'r fam, dylanwad pellgyrhaeddol cwmniau cynhyrchu llaeth potel a sut mae annog mwy o famau i fronfwydo.
Mwynhewch y gwrando.
Tue, 24 Jan 2023 06:00:01 +0000
Gwrandewch ar y gyfres newydd sbon o bodlediadau o'r enw Am Iechyd.
Podlediad lle y bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor a gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd yn dod at ei gilydd i drafod materion cyfoes o fewn y byd iechyd sy'n effeithio ar bob un ohonon ni. Mwynhewch y gwrando.
Mon, 16 Jan 2023 09:31:12 +0000