-> Eich Ffefrynnau

Am Waith Cymdeithasol

Am Waith Cymdeithasol

Am Waith Cymdeithasol: cyfle i glywed a pharchu lleisiau gwahanol am faterion cyfredol sydd yn ymwneud a Waith Cymdeithasol.

Gwefan: Am Waith Cymdeithasol

RSS

Chwarae Am Waith Cymdeithasol

Gwasanaethau ‘Gorwel’: Y Pwysigrwydd i’n Cymunedau a Chymdeithas

Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ ac i’r rhifyn gyntaf o’r rhaglen arbennig o 4 podlediad a ariannir gan Gronfa Gymunedol Prifysgol Bangor.

Prif ffocws y podlediadau yma ydi cydweithio gydag asiantaethau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u waith pwysig yn ymateb i heriau cymdeithasol o fewn ein cymdeithas ni.

Yn y rhifyn yma mae Osian Elis yn ymuno hefo Wendy Roberts i drafod yr asiantaeth ‘Gorwel’ a’r gwasanaethau gwahanol sydd yn bodoli o fewn yr asiantaeth yma.

Fyddech yn clywed am sut mae Gorwel yn mynd ati i ymateb i anghenion o fewn y gymuned, gyda ffocws ar elfennau gwahanol megis cyd weithio, meddwl tu allan i’r bocs a hybu llesiant staff.

Thu, 09 Nov 2023 06:30:02 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Am Waith Cymdeithasol

Pwy Sydd Eisiau Fod yn Weithiwr Cymdeithasol?

Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ lle bydd y drafodaeth heddiw yn ffocysu ar: ‘Pwy sydd eisiau fod yn Weithiwr Cymdeithasol?’. Mae hyn yn gyfle gwych i glywed am brofiadau un myfyriwr presennol a dau cyn myfyrwyr, yn ogystal a godi ymwybyddiaeth am y cwrs a’r proffesiwn, ac hefyd efallai i chwalu chwedlau ar yr un adeg!Darganfod mwy am y cwrs MA Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Welcome to the podcast 'Am Waith Cymdeithasol' (About Social Work) where today's discussion will focus on: 'Who wants to be a Social Worker?'. This is a great opportunity to hear about the experiences of one current student and two former students, as well as raise awareness about the course and the profession, and also perhaps dispel myths at the same time!Find out more about the Social Work MA at Bangor University

Mon, 19 Jun 2023 15:25:31 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Am Waith Cymdeithasol

Pennod 2: Ffoaduriaid: Beth yw'r mythau a beth yw'r gwir?

Croeso i’r ail bennod o ‘Am Waith Cymdeithasol’. Yn y bennod yma mae’r myfyriwr Bethan Edwards yn ymuno hefo aelodau o’r Tîm MA Gwaith Cymdeithasol i drafod ‘Ffoaduriaid: Beth yw’r mythau a beth yw’r gwir’. Rydym yn trafod materion gwleidyddol, canfyddiadau'r cyhoedd, yr iaith a ddefnyddir wrth drafod unigolion, ynghyd a’r plethiant hefo gwerthoedd gwaith cymdeithasol.Welcome to the second episode of 'Am Waith Cymdeithasol’ (‘About Social Work'). In this episode student Bethan Edwards joins members of the Social Work MA Team to discuss 'Refugees: What are the myths and what is the truth'. We discuss political issues, public perceptions, the language used when discussing individuals, along with the connection to social work values.

Thu, 04 May 2023 10:34:56 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Am Waith Cymdeithasol

Pennod 1: Beth ydi Cymuned?

Croeso i'r pennod cyntaf o'r podlediad newydd 'Am Waith Cymdeithasol' Ar gyfer y bennod gyntaf, bydd aelodau o’r Tîm MA Gwaith Cymdeithasol o fewn y Brifysgol yn trafod ‘Beth ydi cymuned?’, a ddatblygodd o’r thema ar gyfer Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd eleni: ‘Parchu amrywiaeth trwy weithredu cymdeithasol ar y cyd’. Rydym yn ystyried materion fel: sut mae cymuned wedi newid dros amser; y cysylltiad â Covid 19; yn ogystal â’n rôl ni o fewn y gymuned o fewn y trafodaethau.Darganfod mwy am y cwrs MA Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Welcome to the first episode of the new podcast 'Am Waith Cymdeithasol' (About Social Work). For the first episode, members of the University’s MA Social Work Team will discuss ‘What is a community?’, which developed from the theme for this year’s World Social Work Day: ‘Respecting diversity through joint social action’. We give thought and consideration to matters such as: how community has changed across time; the link to Covid 19; as well as our role in community within the discussions.Find out more about the Social Work MA at Bangor University

Tue, 21 Mar 2023 08:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Am Waith Cymdeithasol

Rhagolwg Pennod 1: Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd

Rydym wedi penderfynu lansio’r podlediad yma heddiw ar Ddiwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd gan fod ffocws y podlediad wrth gwrs ar faterion cyfredol sydd yn gysylltiedig â Gwaith Cymdeithasol. Mae Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd wedi cael ei ddathlu ers 2007, a bob blwyddyn yn fis Mawrth mae Gwaith Cymdeithasol yn cael ei hyrwyddo ar draws y byd.

Fri, 17 Mar 2023 17:22:47 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch