Croeso i bodlediad Barddas, y lle i glywed sgyrsiau rhwng beirdd gorau Cymru. Dilynwch Barddas ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y ddiweddaraf am ein cyhoeddiadau, cylchgrawn a digwyddiadau byw. Os hoffech chi danysgrifio i’n cylchgrawn ewch draw i barddas.cymru
Gwefan: Podlediad Barddas
Y Prifardd Aneirin Karadog sy'n sgwrsio am berthynas barddoniaeth a’r iaith Gymraeg â natur, gyda’r Prifardd Twm Morys, Bethan Wyn Jones, Rhys Dafis (golygydd cyfrol o gerddi am natur, Inc yr Awen a’r Cread) a Sara Louise Wheeler.
Fri, 15 Apr 2022 07:00:03 +0000
Casi Wyn, Menna Elfyn, Sian Northey ac Elinor Wyn Reynolds yn trafod barddoniaeth, llenyddiaeth, 'sgwennu, bod yn greadigol, a chanu mewn band.
Cyhoeddwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2022.
Rhybudd: Mae 'na thema anaddas i blant ar ddiwedd y bennod wrth i’r gerdd olaf trafod trais.
Tue, 08 Mar 2022 06:05:02 +0000
Beth yw perthynas cerdd a llun? Pam fod rhai beirdd prin yn cyhoeddi eu cerddi? Pa erthyglau diddorol sydd yn rhifyn y Gaeaf 2022 o gylchgrawn Barddas?
Anni Llŷn, Alaw Mai Edwards, a’r Prifeirdd Twm Morys, Idris Reynolds ac Alan Llwyd sy’n trafod, yng nghwmni Alaw Griffiths, Cydlynydd Barddas.
Wed, 16 Feb 2022 12:49:46 +0000
Mae Nadolig ar y gweill ac mae genom ni wledd ar eich cyfer chi yn y podlediad hwn.
Sgyrsiau difyr am gylchgrawn a’n llyfrau diweddaraf, syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig a llawer mwy.
Yn ymuno efo Alaw Mai Edwards mae’r Prifardd Elwyn Edwards, Y Prifardd Twm Morys, ac Alaw Griffiths, cydlynydd Barddas.
Wed, 15 Dec 2021 07:05:02 +0000
Yn yr ail bennod o bodlediad Barddas yr ydyn yn mwynhau cwmni Laura Karadog, Twm Morys, Grug Muse a Gruffudd Antur.
Podlediad a recordiwyd fel rhan o ŵyl Gerallt a chynhaliwd yn Nhŷ Newydd Llanystumdwy ar ddydd Sadwrn yr 2il o Hydref 2021.
Thu, 21 Oct 2021 04:15:07 +0000
Y Prifardd Mererid Hopwood sydd yn sgwrsio efo’r Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan am ei lyfr DNA. Mae Geraint Roberts yn trafod ein llyfr o’r archif, Siarad Trwy'i Het gan Karen Owen a chlywn sgwrs efo’r Prifardd Twm Morys, golygydd cylchgrawn Barddas, cyn i Gwyneth Glyn darllen un o gerddi Arwyn Evans.
Mon, 19 Jul 2021 17:35:08 +0000