-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Beti a'i Phobol

Beti a

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Gwefan: Beti a'i Phobol

RSS

Chwarae Beti a

Heledd Wyn

Heledd Wyn yw gwestai Beti George mae'n ymchwilio i ddyfodol ein gwlad wrth i'r byd gynhesu. Mae hi'n credu bod rhaid i ni feddwl yn wahanol am y ffordd i ni'n cynhyrchu bwyd. Mae hi'n cyfarwyddo a chynhyrchu yn y byd ffilm a theledu, ac mae'n angerddol am y maes.

Mae hi hefyd wrth ei bodd yn barddoni a chynganeddu a chanu, ac fe gawn glywed hi'n canu cân hyfryd mae hi wedi ei ysgrifennu gyda'i merch Alys Mair 'Camu Mlaen' ar gyfer ei mab tra ‘roedd e’n mynd trwy gyfnod anodd.

Sun, 19 Jan 2025 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Noel Thomas a Siân Thomas: Rhaglen 2

Dyma’r ail raglen lle mae Beti George yn sgwrsio gyda’r cyn is-bostfeistr Noel Thomas a'i ferch Siân am hanes eu brwydr yn erbyn y Swyddfa Bost. Cafodd Noel ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon a’i garcharu am naw mis yn 2006. Yn y rhaglen hon cawn ei hanes yn y carchar a'r ymdrechion yn dilyn hynny i glirio ei enw.

Sun, 12 Jan 2025 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Noel Thomas a Siân Thomas: Rhaglen 1

Yn y gyntaf o ddwy raglen, Beti George sydd yn sgwrsio gyda Noel Thomas, cyn is-bostfeistr a'i ferch Siân am fagwraeth a gyrfa'r ddau yn Ynys Môn ac fel yr oedd Swyddfa Bost Gaerwen yn mynd yn dda tan Hydref y 5ed 2005, pam ddaeth rhai o swyddogion ariannol y Swyddfa Bost a chnocio ar ei ddrws ac yna mynd a Noel i swyddfa'r heddlu yng Nghaergybi a'i gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug.

Cafodd Noel Thomas o'r Gaerwen, Ynys, Môn ei gyhuddo ar gam o gadw cyfrifon ffug fel rhan o sgandal Horizon. Fe gafodd y cyn is-bostfeistr ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o’i gyfrifon. Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach bod hyn o ganlyniad i nam ar feddalwedd Horizon Swyddfa'r Post.

Sun, 05 Jan 2025 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Lisabeth Miles

Yr actores Lisabeth Miles sy’n actio Megan Harris ar Pobol y Cwm yw gwestai Beti George. Mae hi'n flwyddyn fawr i’r opera sebon eleni wrth iddi ddathlu’r 50! Mae’n wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, a cafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg Caernarfon. Aeth ymlaen wedyn i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Wedi gadael y coleg, cychwynodd ei gyrfa efo’r Welsh Theatr Company, ac efo adain Gymraeg y cwmni sef Cwmni Theatr Cymru. Roedd Lisabeth ym mysg actorion Cymraeg cyntaf y cwmni, ynghŷd â Gaynor Morgan Rees a Iona Banks. Bu’n gweithio’n gyson mewn cynhyrchiadau i’r BBC hefyd, gan gynnwys “Esther”, “Y Stafell Ddirgel”, “Lleifior” a “Branwen” yn ystod diwedd y 1960au a dechrau’r 70au.

Sun, 22 Dec 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Eurgain Haf

Daw Eurgain o Benisa’r-waun yn Eryri ond mae hi'n byw ym Mhontypridd erbyn hyn gyda'i gwr a'u dau o blant. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau, ac wedi ennill sawl gwobr am lenydda gan gynnwys Coron Eisteddfod yr Urdd. Eurgain oedd enillydd y fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2024 gyda ' Y Morfarch Arian' . Mae hi'n gweithio fel Uwch Reolwr y Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.

Sun, 15 Dec 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Owain Gwynfryn

Owain Gwynfryn yw gwestai Beti George.

Fe gafodd Owain ei fagu yng Nghaerdydd, ac yna ym Mhrestatyn.

Wedi sefydlu gyrfa lwyddiannus iddo'i hun fel ceiropractydd, fe benderfynodd Owain newid cyfeiriad a mynd i astudio'r llais yng Ngholeg y Guildhall yn Llundain. Graddiodd y llynedd, ac yntau yn ddeugain oed.

Mae'n parhau gyda'i yrfa fel ceiropractydd yn ei glinig yn Llundain, pan fo amser yn caniatáu, ond ei nod yw cyrraedd y brig o ran ei yrfa fel canwr - ym myd opera a thu hwnt.

Sun, 08 Dec 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Anthony Matthews Jones

Anthony Matthews Jones yw gwestai Beti George.

Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae'n byw yn Iwerddon ers dros bum mlynedd ar hugain.

Mae'n gweithio fel ymgynghorydd ariannol, ac wedi sefydlu ei gwmni ei hun.

Ei ddiddordeb mawr yw canu, a hynny ers pan oedd yn ifanc. Mae'n teithio'r byd yn annerch mewn cynhadleddau, ac yn canu ynddynt hefyd.

Sun, 24 Nov 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Meirion MacIntyre Huws

Meirion MacIntyre Huws yw gwestai Beti George.

Mae'n gyfarwydd iawn i ni fel bardd, ac ef oedd Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993.

Mae Mei Mac yn un sy'n barod i fentro a wynebu heriau newydd.

Bu'n gweithio i'r Bwrdd Dŵr cyn ac ar ôl bod yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, cyn ymhel â sawl maes arall fel cartwnydd, dylunydd, rhedeg safle glampio, a gwesty.

Bellach mae ganddo gwmni paneli solar, ac mae'n gweithio fel swyddog enwau lleoedd i Gyngor Gwynedd.

Sun, 10 Nov 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Yr Athro Angharad Puw Davies

Yr Athro Angharad Puw Davies yw gwestai Beti George.

Fe'i magwyd yn Yr Wyddgrug, ond mae hi bellach yn byw yn Abertawe

Mae hi'n arbenigo mewn microbioleg feddygol a heintiau, ac yn ystod y rhaglen fe fydd yn trafod y diciâu, gwaith ymchwil mewn carchar yn Llundain, ymweliad â Siberia, a cryptosporidiosis.

Mae ganddi ddiddordeb mewn llenyddiaeth ac mae'n cynganeddu.

Sun, 03 Nov 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Beti a

Richard Jones-Parry

Richard Jones-Parry yw gwestai Beti George.

Mab fferm Bryn Bachau rhwng Abererch a Chwilog yw Richard. Mae'n gyn athro Cemeg yn Ysgol Breswyl Marlborough, ac wedi bod yn dysgu yn Awstralia hefyd.

Fe dreuliodd gyfnod hefo'i deulu yn gwirfoddoli yn Ghana. Mae'n treulio pedwar mis o'r flwyddyn yng Nghymru a'r gweddill yn Adelaide, Awstralia.

Sun, 27 Oct 2024 19:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy