-> Eich Ffefrynnau

Lleisiau Cymru

Lleisiau Cymru

Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol! Straeon personol ac emosiynol, sgyrsiau diddorol, eich hoff gyflwynwyr, a chymeriadau mwya' difyr Cymru i gyd mewn un lle. A collection of Welsh language podcasts featuring interesting voices and opinions from across Wales.

Gwefan: Lleisiau Cymru

RSS

Chwarae Lleisiau Cymru

Un Cam gydag Elin Fflur

Elin Fflur sydd yn ceisio dod i ddeall pam bod yna gynnydd mawr mewn merched yn rhedeg.

Mae merched o bob oed, bob cefndir, a phob lefel ffitrwydd yn penderfynu rhoi'r esgidiau rhedeg ymlaen a chamu allan o'r tŷ, yn aml i'r tywyllwch neu'r glaw. Ai ffitrwydd yn unig yw’r rheswm dros hyn?

Mae Elin yn siarad efo grwpiau rhedeg Môn Girls Run, Mae Hi'n Rhedeg, Smiles and Miles, Genod Gelert ac Anwen Jones.

Thu, 29 May 2025 12:59:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Lleisiau Cymru

Rhys Miles Thomas

Mae Rhys Miles Thomas wastad wedi eisiau gwneud pethau'n wahanol. Ers pan yn fachgen o Alma, yn Sir Gaerfyrddin, fe ymdrechodd i roi gogwydd gwahanol ar y traddodiadol a herio drwy rannu ei neges ei hun.

Gyda gyrfa lwyddiannus fel actor, cynhyrchydd, cyfarwyddwr, coreograffydd ac awdur, roedd ei ddyfodol yn ddisglair ar lwyfan byd-eang.

Er hyn fe ddaeth diagnosis o Sglerosis Ymledol, i'w herio yn ei fyd proffesiynol a'i fywyd personol. Gyda sawl blwyddyn heb symptomau, fe gynyddodd her y cyflwr gan gyfyngu ar ei allu i wneud tasgau y byddai wedi eu gwneud heb drafferth ychydig flynyddoedd ynghynt. Daw pwysigrwydd cefnogaeth deuluol i'r amlwg, ond hefyd y rhwystredigaethau a ddaw yn ei sgil.

Mae stori Rhys yn onest, yn feirniadol ar adegau ac yn amrwd. Gyda hyn, cawn obaith, gweledigaeth glir a deheuad am fyd cynhwysol a chyfartal i'r gymuned anabl. Hyn oll, wrth i'r byd 'Feddwl Yn Wahanol' am anabledd.

Tue, 27 May 2025 13:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Lleisiau Cymru

Kristy Hopkins

Yr athrawes Kristy Hopkins, sy’n westai ar bennod 2 o ‘Meddwl yn Wahanol’. Cardi yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i theulu, mae Kristy yn gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o fyddardod a’r heriau mae plant a phobl fyddar yn eu hwynebu.

Darganfu Kristy ei bod yn fyddar pan oedd yn 8 oed, pan nad oedd yn canolbwyntio yn yr ysgol. Er iddi gael y diagnosis, roedd ffordd hir o’i blaen cyn iddi deimlo’n ddigon hyderus i wisgo cymhorthion clyw a byw ei bywyd fel person byddar.

Bellach, yn athrawes i blant a phobl ifanc byddar yn Ne Cymru, mae hi hefyd yn ymgyrchu’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth o’r heriau sy’n wynebu hi a’i theulu, gan annog pawb i ddysgu rhywfaint o Iaith Arwyddo Prydain.

Daw’r awch i weithredu wedi i’w merch gael ei geni’n hollol fyddar. Cawn glywed am eu taith wrth iddi benderfynu rhoi mewnblaniad cochlear i’w merch, a’r cymhlethdodau a ddaeth yn sgil hynny.

Er gwaethaf y cyfnodau tywyll, mae ysbryd cadarn Kristy yn disgleirio wrth iddi rannu ei buddugoliaethau a'i gweledigaeth o fyd byddar i blant y dyfodol.

Tue, 20 May 2025 13:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Lleisiau Cymru

Beth Frazer

Y gantores Beth Frazer o Ynys Môn yw gwestai pennod gyntaf Meddwl yn Wahanol. Ar ôl rhyddhau ei senglau pop cyntaf yn 16 oed, fe wnaeth Beth fwynhau cyfnod prysur o berfformio ar hyd Cymru a Lloegr.

Ond ymhen ychydig iawn o amser fe newidiodd ei bywyd yn llwyr. Ar ôl dioddef poenau yn ei llygad, fe gychwynnodd cyfnod hir o driniaeth a arweiniodd at ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd.

Mae Beth yn trafod yr effaith ar ei chorff a’i iechyd meddwl, yn egluro sut y gwnaeth ei theulu ei chynnal drwy’r cyfnodau mwyaf anodd ac yn rhannu ei gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Tue, 13 May 2025 13:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Lleisiau Cymru

Pennod 4: Porthmadog

Pan nad yw’n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy’n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau’r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae’n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o’u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a’u cymunedau nhw’n bodoli ac yn ffynnu.

Un o gewri’r fro sy’n cael sylw y tro hwn. Mae Porthmadog yn chwarae yn y drydedd haen ar hyn o bryd, ond mae rhai o gymeriadau’r clwb yn dadlau mai yn Uwch Gynghrair y mae eu lle!

Fri, 25 Apr 2025 13:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Lleisiau Cymru

Pennod 3: Llanberis a Llanrug

Pan nad yw’n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy’n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau’r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae’n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o’u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a’u cymunedau nhw’n bodoli ac yn ffynnu.

Dim ond 4 milltir sy’n gwahanu’r gelynion. Mae Andy yn derbyn her i wylio hanner gêm yn Llanberis cyn gyrru draw mewn pryd ar gyfer yr ail hanner yn Llanrug.

Fri, 18 Apr 2025 13:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Lleisiau Cymru

Pennod 2: Mynydd Llandegai

Pan nad yw’n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy’n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau’r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae’n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o’u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a’u cymunedau nhw’n bodoli ac yn ffynnu.

Tra’n byw ym Methesda, roedd Andy’n gefnogwr selog o glwb ‘Mynydd’. Cyfle iddo fynd yn ôl at gymeriadau’r fro.

Fri, 11 Apr 2025 13:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Lleisiau Cymru

Pennod 6: Aled Siôn Davies

Fel un o athletwyr mwyaf adnabyddus Cymru, mae Aled Siôn Davies wedi ennill medalau aur mewn gemau Paralympaidd a gemau’r Gymanwlad ar draws ei yrfa anhygoel. Yn y bennod yma, bydd Nigel yn dysgu am y pwysau enfawr o fod ar y brig dros gyfnod hir a’r effeithiau mae hyn yn cael ar y corff a’r meddwl. Fel plentyn, buodd Aled drwy nifer o lawdriniaethau i helpu ei anabledd ac mae e’n dal i ymladd drwy anafiadau a llawdriniaethau di-ri hyd heddiw. Gyda gemau’r Gymanwlad yn 2026 ar y gweill, bydd Aled yn datgelu ei obeithion am y bencampwriaeth a’r dyfodol.

Tue, 08 Apr 2025 13:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Lleisiau Cymru

Pennod 1: Y Felinheli

Pan nad yw’n canu ar hyd a lled y wlad fel y Welsh Whisperer, mae Andy Walton wrth ei fodd yn sefyll ar ochr cae pêl-droed. Dilynwch y gŵr sy’n wreiddiol o Gwm Felin Mynach ar daith o amgylch clybiau’r gogledd orllewin, lle mae cannoedd o bobl yr un fath ag o yn pentyrru bob penwythnos. Mae’n cyfarfod y cymeriadau sydd yn rhoi oriau o’u hamser i sicrhau bod eu timau nhw a’u cymunedau nhw’n bodoli ac yn ffynnu.

Caiff Andy ddod i adnabod y cymeriadau sy’n cynnal clybiau dynion a merched pentref y Felinheli.

Fri, 04 Apr 2025 13:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Lleisiau Cymru

Pennod 5: Iwan Roberts

Fel y Cymro mwyaf poblogaidd yn Norwich, mae Iwan Roberts wedi ymgartrefu yn y ddinas ers blynyddoedd ar ôl gyrfa llawn uchafbwyntiau hoffus. Yn y bennod yma, mae Nigel yn dysgu mwy am gyfnodau anodd gyrfa Iwan, a sut ddeliodd gyda’r pwysau o fod yn ddihiryn cyn troi’n ffefryn gyda chefnogwyr Norwich. Bydd Iwan yn edrych yn ôl ar yr adegau mwyaf cofiadwy o’i yrfa, a chlywn am sut wnaeth ei ddyddiau cynnar lunio ei chwarae ar y cae. Nawr yn lais adnabyddus ar ein darllediadau pêl-droed, mae Iwan yn datgelu’r hanesion tu ôl i’w daith o gwmpas rhai o glybiau Lloegr.

Tue, 01 Apr 2025 13:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy