-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Gwleidydda

Gwleidydda

Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.

Gwefan: Gwleidydda

RSS

Chwarae Gwleidydda

Plaid a Reform - Rheoli Disgwyliadau

Mae Bethan Rhys Roberts yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod canlyniad isetholiad Caerffili. Mae'r tri yn dadansoddi ymgyrch Reform UK ac yn trafod os oedd y canlyniad yn fethiant i'r blaid. Mae Cai Parry Jones o Reform UK yn ymuno i drafod y canlyniad gan edrych tuag at etholiad y Senedd blwyddyn nesa'. Mae Vaughan, Richard a Bethan hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd i chi gysylltu trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

Wed, 29 Oct 2025 17:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Gwleidydda

Plaid yn Cipio Caerffili

Ar ôl i Blaid Cymru ennill yr isetholiad yng Nghaerffili mae'r Arglwydd Dafydd Wigley yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod arwyddocad y canlyniad. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi beth mae'r canlyniad yn ei olygu i Reform UK ac i'r Blaid Lafur wrth i etholiad y Senedd blwyddyn nesaf nesau.

Fri, 24 Oct 2025 09:45:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Gwleidydda

D'Hud a D'Lledrith D'Hondt

Gydag etholiad y Senedd ychydig dros chwe mis i ffwrdd mae Vaughan a Richard yn trafod sut fydd y system bleidleisio newydd, fformiwla D'Hondt, yn gweithio. Mae Richard yn dadansoddi beth fydd y canran o bledleisiau tebygol fydd ei angen ar y pleidiau i ennill sedd yn y bae. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch bod modd i chi gysylltu hefyd trwy e-bostio gwleidydda@bbc.co.uk

Wed, 22 Oct 2025 16:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Gwleidydda

Cynhadledd Plaid Cymru a Thactegau Ymgyrchu'r Pleidiau

Cyn ddirprwy Brif Weinidog Cymru a chyn arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon. Mae'r tri yn dadansoddi cynhadledd y blaid a'r awyrgylch ymhlith aelodau gydag etholiad y Senedd flwyddyn nesa' ar y gorwel, a sut all deinameg y pleidiau edrych yn y Bae yn 2026. A chydag is-etholiad Caerffili yn agosáu mae'r tri yn trafod sut mae tactegau ymgyrchu'r pleidiau wedi newid, a sut mae'r pleidiau yn ffocysu ar etholwyr.

Wed, 15 Oct 2025 16:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Gwleidydda

Cynhadledd y Ceidwadwyr a'r Bedyddwyr Albanaidd (ETO)

Arweinyddiaeth arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, sy'n mynd â phrif sylw Vaughan a Richard yr wythnos hon ar ôl ei haraith yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol. Mae'r Cynghorydd Aled Thomas yn ymuno a'r ddau wedi iddo fod yn y gynhadledd ym Manceinion. A beth yw'r cysylltiad rhwng Llanllyfni a'r Bedyddwyr Albanaidd?

Wed, 08 Oct 2025 16:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Gwleidydda

Cynhadledd Llafur a'r Bedyddwyr Albanaidd

Ar ôl i gynhadledd y Blaid Lafur ddod i ben yn Lerpwl, mae cyn Brif Ysgrifennydd Cymru, Alun Michael, yn ymuno gyda Vaughan a Richard i drafod araith Keir Starmer. A fydd e'n llwyddo i ysbrydoli ei blaid? Ac mae Richard yn sôn am ei obsesiwn diweddaraf, sef y Bedyddwyr Albanaidd, a dylanwad gwleidyddol sylweddol yr enwad yng Nghymru!

Wed, 01 Oct 2025 16:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Gwleidydda

Ai Jeremy Miles fydd yr olaf?

Ar ôl i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles, gyhoeddi na fydd yn ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd flwyddyn nesaf, mae cyn-olygydd gwleidyddol BBC Cymru, Betsan Powys, yn ymuno â Vaughan a Richard i drafod yr effaith ar y blaid.

Gyda llai na mis i fynd tan isetholiad Caerffili mae'r tri yn dadansoddi'r ymgyrch hyd yma ac yn trafod y data sydd gan y pleidiau ar gyfer etholiadau.

Wed, 24 Sep 2025 16:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Gwleidydda

Ble nesaf i'r blaid Lafur?

Ar ôl cyfweliad Owain Williams gyda Vaughan yn y bennod ddiwethaf mae Richard yn trafod ei oblygiadau i'r blaid Lafur a'r tensiynau sydd yn y blaid ymhlith y carfanau gwahanol. Mae Richard a Vaughan hefyd yn dadansoddi'r arolwg barn diweddara' gan ITV a Phrifysgol Caerdydd ar gyfer etholiad y Senedd ym mis Mai.

Wed, 17 Sep 2025 16:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Gwleidydda

Dewis Ymgeiswyr Llafur - Cyfweliad Owain Williams

Gydag etholiad y Senedd yn prysur agosáu mae'r pleidiau wedi bod yn mynd ati i ddewis eu hymgeiswyr ar gyfer yr etholiad ym mis Mai y flwyddyn nesa'. Mi oedd Owain Williams yn gobeithio bod ar restr y blaid Lafur yn etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf ond fe fethodd. Mewn cyfweliad arbennig gyda'n golygydd materion Cymreig Vaughan Roderick - mae'n sôn am broses y blaid o fynd ati i ddewis ymgeiswyr.

Sun, 14 Sep 2025 10:30:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Gwleidydda

Problemau Llafur yn Pentyrru ac Is-etholiad Caerffili

Gyda'r tymor gwleidyddol newydd yn San Steffan wedi dechrau mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod effaith ad-drefnu cabinet Keir Starmer ar y blaid Lafur. Ar ôl marwolaeth drasig Hefin David yn 47 oed - mae'r tri yn trafod yr isetholiad yng Nghaerffili. Gyda Richard yn ei ddisgrifio fel is etholiad 'gwirioneddol hanesyddol yng ngwleidyddiaeth Cymru'. Ac mae Vaughan yn sôn am y newid technolegol a ddefnyddiwyd am y tro cynta' yng ngwleidyddiaeth Prydain yn is etholiad Caerffili yn 1968.

Wed, 10 Sep 2025 16:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy