Casgliad o bodlediadau ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd. Sgyrsiau diddorol o bob math fydd yn gymorth ac yn gwmni i chi ar eich taith fel siaradwr Cymraeg newydd. A collection of podcasts for Welsh learners.
Gwefan: Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Naomi Hughes. Merch a fagwyd yng Nghaerdydd yn ardal Llaneirwg yw Naomi Hughes. Mae hi o dras cymysg, ei mam o dras Tsieineaidd a’i thad yn Gymro di-Gymraeg o Gaerdydd. Er iddi gael ei magu yng Nghaerdydd yn yr wythdegau a’r nawdegau prin oedd ei hymwybyddiaeth a’i chysylltiad â’r Gymraeg. Wedi cyfnod yn teithio’r byd yn ei hugeiniau, dychwelodd i Gymru yn benderfynol o ddysgu’r Gymraeg. Cymhwysodd fel athrawes ac erbyn hyn mae’n dysgu ei phwnc drwy gyfrwng y Gymraeg mewn Ysgol Gyfun Gymraeg. Mae’n gadeirydd Menter Iaith Merthyr Tudful ac yn gyfrifol am ddatblygiad y Gymraeg yn ei hardal. Mae hefyd yn is-gadeirydd Yes Cymru.
Tue, 12 Nov 2024 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPodlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Hydref yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Tue, 05 Nov 2024 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchAngharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd, sef Joseff Gnagbo.
Ffoadur a wnaeth ffoi o’r Arfordir Ifori yng Ngorllewin Affrica yn 2010 yw Joseff. Yn dilyn rhyddhau cân rap yn annog ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro yn ei wlad, daeth yn darged milwrol a bu rhaid iddo ffoi o’r wlad. Bu’n byw ym Morocco am gyfnod cyn ymgeisio am loches ym Mhrydain yn 2017. Wedi iddo gyrraedd Cymru aeth ati’n syth i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg fel athro cyflenwi yng Nghaerdydd. Wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chymdeithas yr Iaith, cafodd Joseff ei ethol yn Gadeirydd y Gymdeithas, ac mae'n newydd gael ei ail-ethol yn Gadeirydd am dymor arall. Eleni yn y Brifwyl ym Mhontypridd cafodd Joseff ei urddo i'r orsedd am ei gyfraniad i’r Gymraeg.
Fri, 11 Oct 2024 13:01:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Isabella Colby Browne, enillydd Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni. Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.
Tue, 08 Oct 2024 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPodlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Medi yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Geirfa ar gyfer y bennod:-
Clip 1 Trawsblaniad calon: Heart transplant Cwpan y Byd: World Cup Y garfan: The squad Be mae o’n ei olygu: What does it mean
Clip 2 Ymateb: Response Cyflawn: Complete Rhyng Gol: Inter college Di-lol: No nonsense Yn y pen draw: In the end Enwogrwydd: Fame Rhyngwladol: International Corwynt: Hurricane Cyfweliadau: Interviews Medra: I can
Clip 3 Cyfryngau cymdeithasol: Social media Dilynwyr: Followers Hyrwyddo: To promote Bob cwr: Every corner Yn gyfrifol am: Responsible for Dylsen ni neu dylen ni: We should Cenedl: Nation Yn ormodol: Excessively
Clip 4 Swyddog Datblygu Cymunedol; Community Development Officer Darganfod: To discover Addas: Appropriate Ymgeisiais i: I applied Gwobr: Award Diolchgar: Thankful Enwebu: To nominate Ysbrydoli: To inspire Ystyried: To consider Trochi: To immerse Yn y bôn: Basically
Clip 5 Cynefin: Abode Yn falch iawn: Very proud Cyfathrebu: Communicating
Clip 6 Dylanwad: Influence Degawd: Decade Cyfnod: Period Cyfansoddi: To compose Alawon: Tunes Cyfrol: Book Cyfarwydd: Familiar
Clip 7 Enwebiadau: Nominations Sylweddol: Substantial Yn fraint: An honour Yn ychwanegol: Additionally to Plentyndod: Childhood Cyswllt: Connection Celfyddydau: Arts
Wed, 02 Oct 2024 13:32:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Awst yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Geirfa ar gyfer y bennod:-
Clip 1 – Sian Phillips Cysylltiadau : Connections Dodi : To put Adrodd : To recite Am wn i : I suppose Y fraint : The honour Gwrthod : To refuse
Clip 2 - Megan Williams Awgrymu : To suggest Yr Unol Daleithiau : The United States Yn gyffredinol : Generally Cymuned : Community Golygydd : Editor
Clip 3 – Katie Hall Cyflwyniad : Introduction Gradd : Degree Y fath beth : Such a thing
Clip 4 – Lili Mohammad Caeredin : Edinburgh Ysbrydoli : To inspire Datblygu : To develop Sioe gerdd : Musical Llywodraeth : Government Rhyfel : War Doniol : Amusing Ysgafn : Light O ddifri : Serious Arwain y fyddin : Leading the army
Clip 5 – Elen Rhys ‘Sa i’n gwybod’ : am ‘dw i ddim yn gwybod’ Mo’yn' : am ‘isio’ Diwydiant : Industry Diflannu : To disappear Y cyfnod clo : The lockdown
Clip 6 - Andy Bell Cyfarwydd â : Familiar with Torf : Crowd Drwy gyfrwng : Through the medium Darlledwr cyhoeddus : Public broadcaster Cynghrair : League Campau : Sports Neuadd mabolgampau : Sport halls Corfforol : Physical Ar y brig : On top Dyfarnwyr a hyfforddwyr : Referees and coaches
Clip 7 – Pwyll ap Sion Cyfeirio at : To refer to Cynhyrchu : To produce Mor uchelgeisiol : So ambitious Cysyniad : Concept Offerynnau : Instruments Yn wirioneddol anhygoel : Really incredible Athrylith : Genius Cydio : To take hold Y tu hwnt i : Beyond
Clip 8 – Prif Stiward Deugain mlynedd : 40 years Haeddu mensh : Deserving a mention
Tue, 10 Sep 2024 15:47:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Aleighcia Scott.
Tue, 10 Sep 2024 13:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Kieran McAteer.
Tue, 13 Aug 2024 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Gorffennaf yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Geirfa ar gyfer y bennod:
Clip 1 Cneifio - Shearing Canolbwyntio - To concentrate Bawd - Thumb Cyfathrebu - To communicate Yr wyddor - The alphabet Yn rhyfeddol - Wonderful
Clip 2 Cyn-bostfeistr - Former postmaster Mi gaeth ei garcharu ar gam - He was wrongly imprisoned Cyfrinachol - Secret Enw barddol - Bardic name Yn darlledu - Broadcasting Y profiad a’r anrhydedd - The experience and the honour Gwlychu - To get wet
Clip 3 Penodiad - Appointment Swydd Efrog - Yorkshire Balch - Proud Traddodiad - Tradition Cynghrair y Cenhedloedd - Nations League Hyfforddi - To coach Amddiffynnwr - Defender Caerlŷr - Leicester Datblygu - To develop Amheuaeth - Suspicion
Clip 4 O‘ch cwmpas chi - Around you Cofleidio - To cuddle Cadw cysylltiad - Keeping in touch Adnod - A verse Ara deg - Slow Rhaniad - A split Bellach - By now Cyfoedion - Peers Andros o greulon - Terribly cruel
Clip 5 Wedi hen arfer - Well used to Unigryw - Unique Dyfeisiadau sain - Sound devices Cyn pen hir a hwyr - Eventually Llwythi - Loads Trychinebus - Disastrous Hanner ei malu - Half broken Yn gyfangwbl - Completely
Clip 6 Uchafbwynt - Highlight Gwatsiad - To watch Trydanol - Electric Ocheniad anferthol o ryddhad - A huge sigh of relief
Clip 7 Mam-gu - Nain Yr hewl neu heol - Y ffordd Dwlu ar - Yn hoff iawn o Cymeriadau - Characters Trwy gydol dy fywyd - All your life Cymuned - Community Yn iau - Younger
Clip 8 Paratoi ei ieir - Preparing his hens Creaduriaid - Creatures Padell - Pan Brwnt - Dirty Barnu - To adjudicate Graen - Condition Gwedd - Appearance Dodwy - To lay an egg Sbri - Fun
Tue, 06 Aug 2024 13:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Jess Martin, sydd yn gyfrifol am y cyfrif Instagram ‘dysgugydajess’.
Tue, 09 Jul 2024 08:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchGeirfa Ar Gyfer Y Bennod:
Clip 1 Cynadleddau: Conferences Ar ein cyfyl ni: Near to us Cael ein rhyfeddu: Being amazed Ar y cyd: Jointly Gwthio: To push Gweld ei eisiau e: Missing him Diolchgar: Thankful Dyletswydd: Duty Gwerthfawr: Valuable Hunanhyder: Self-confidence
Clip 2 Rhaid i chi faddau i mi: You must forgive me Ar wahân: Seperately Trafferthion: Problems Antur: Adventure Bwriad: Intention Daearyddol: Geographical
Clip 3 Mam-gu: Grandmother Y bwrdd: The table Cwyno: Complain Sylweddoli: To realise Atgof: A memory Dylanwad: Influence Cerddorol: Musical Yn y pendraw: In the end Magwraeth: Upbringing
Clip 4 Arfogi: To arm Cyfuniad: Combination Cyfranwyr: Contributors Cyflwr: Condition Rhwydd: Easy Ymateb: Response Cyfarwydd â: Familiar with Llwyth: Loads Ystrydebol: Stereotypical Sa i’n siŵr: I’m not sure
Clip 5 Anrhydedd: Honour Diwylliant: Culture Ymafael â: To grasp Ail-law: Second hand Arwydd o barch: A mark of respect
Clip 6 Rhagweld: To anticipate Awyrgylch: Atmosphere Bwrlwm: Buzz Cyfrannu: To contribute Ymchwil: Research Wedi amcangyfrif: Has estimated Dosraniad penodol: Specific apportionment Nwyddau swyddogol: Official products Denu: To attract
Clip 7 Cyfansoddwr: Composer Gwahanol rannau: Different parts Chwibanu: Whistling Aeth y lle yn wenfflam: The place went wild Ei holl adnoddau: All her ‘assets’ Ymddangos: Appearing Syllu: Staring Eiddo: Property Tu draw i gydymdeimlad: Beyond sympathy Trysor: Treasure Cymeradwyaeth: Applause
Clip 8 Tywynnu: Shining Cyfryngau cymdeithasol: Social media Eisoes: Already Dilynwyr: Followers
Tue, 02 Jul 2024 13:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Joshua Morgan, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 'Sketchy Welsh'.
Tue, 11 Jun 2024 08:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mai yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.
Geirfa ar gyfer y bennod:-
Clip 1 Creais i - I created Pam est ti ati - Why you went about it Cerddoriaeth - Music
Clip 2 Hediadau - Flights Ymdopi - To cope Blinedig - Tiring Seibiant - A rest Effro - Awake Wrth y llyw - At the tiller Newid perchnogaeth - Change of ownership Diwydiant - Industry Adfer - To recover
Clip 3 Profiadau -Experiences Antur - Adventure Rhyngwladol - International Gwerthfawr tu hwnt - Extremely valuable Anhygoel - Incredible
Clip 4 Rhydychen - Oxford Rhyfedd - Strange Prif Weinidog - Prime Minister Doniol - Amusing Dwyrain Canol - Middle East Cyfreithiwr - Solicitor
Clip 5 Chwerthin - To laugh Y cof cynta - The first memory O waelod bol- From the bottom of the stomach Gweladwy - Visual Llwyfan - Stage
Clip 6 Ynglŷn â - Regarding Breuddwyd - A dream ‘Swn i ddim yn synnu - I wouldn’t be surprised Wedi eu dodrefnu - Fitted Rargian mawr - Goodness me Cnau - Nuts Chwalu mhen i - Blew my mind Ffasiwn beth - Such a thing
Clip 7 Magu hyder - To build confidence Pennod - Episode
Clip 8 Cyfrifoldeb - Responsibility Dangos parch - To show respect Ysbrydoli - To inspire Croesawgar - Welcoming Gwefreiddiol - Thrilling Yn falch o fy hun - Proud of myself Diwylliant - Culture Llenyddiaeth - Literature
Tue, 04 Jun 2024 13:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd.
Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Luciana Skidmore.Cafodd Luciana ei geni ym Mrasil, ond erbyn hyn mae hi yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.
Tue, 14 May 2024 08:30:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchAr Blât – Elinor Snowsill
Y cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda’r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta’n dda ac yn iach pan oedd hi’n ifanc…?
Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad Always
Dros Frecwast – Toiledau Cyhoeddus
Wel dw i’n siŵr bod Elinor yn bwyta’n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi’n ifanc! Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy’n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi … Diffyg Lack of Cyflwr Condition Coluddyn Bowel Rheolaeth Control Straen Stress Croen Skin Ar hap Randomly Ailadroddus Repetitious Cyfleusterau cyhoeddus Public conveniences Cymryd yn ganiataol Taking for granted
Bore Cothi – Menna Williams
Lois Mererid Edwards oedd honna’n sôn am pa mor bwysig yw bod digon o doiledau cyhoeddus ar gael, yn enwedig i’r rhai sy’n diodde o gyflwr meddygol. Menna Williams o Langernyw yn Sir Conwy ydy enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes eleni. Gwobr yw hon sy’n cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, am gyfraniad sylweddol i fywyd pobl ifanc Cymru. Wythnos diwetha, Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes, a chafodd hi sgwrs fach gyda Menna ar y rhaglen: Tlws Trophy Cyfraniad sylweddol A substantial contribution Braint A privilege Dirprwy Deputy Cyfeilio To accompany (on piano) Amyneddgar iawn Very patient Llenni Curtains Deuawd Duet Pan ddaru o Pan wnaeth e Ienga Ifanca Anrhydedd An honour
Beti a’i Phobol – Shelley Rees
A llongyfarchiadau mawr i Menna Williams ar ennill y Tlws arbennig yna, dw i’n siŵr bydd hi’n mwynhau’r seremoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Shelley Rees yr actores, a chyflwynydd Radio Cymru oedd gwestai Beti George ar ei rhaglen nos Sul. Yma mae Shelley yn sôn am actio. Mae hi wedi perfformio ers pan oedd hi’n blentyn bach, ond nawr bod hi’n bum deg oed tybed ydy hi’n anoddach iddi hi gael gwaith actio? Cyflwynydd Presenter Sefyll yn llonydd Standing still Menywod Merched Arallgyfeirio Diversify Ymgyrchu To campaign Egni Energy Drygionus Naughty Yn go glou Yn eitha cyflym Mam-gu Nain Taw Mai
Aled Hughes – Singapore
Ychydig o hanes gyrfa actio Shelley Rees yn fanna ar Beti a’i Phobol. Basen ni’n disgwyl clywed sgwrs Gymraeg mewn ystafell athrawon, neu gweld eisteddfod mewn ysgol yng Nghymru …ond yn Singapore? Wel dyna sy’n digwydd mewn un ysgol draw ar yr ynys bell honno, diolch i bennaeth o Gymru, sydd wedi recriwtio nifer o athrawon Cymreig i weithio yn yr ysgol. Rhys Myfyr, un o athrawon yr ysgol fuodd yn sgwrsio gydag Aled Hughes: Pennaeth Head Rhyfedd Strange Rhyngwladol International Wedi ei leoli Located Diwylliannol Cultural Hap a damwain Luck Denu To attract Ymddiried To trust Cystadleuol Competitive
Dros Ginio – Llyfrau
Eisteddfod ysgol yn Singapore, gwych on’d ife? Tybed faint o lyfrau dych chi'n llwyddo i'w darllen o glawr i glawr? Yn ddiweddar, mae sawl ap yn crynhoi cynnwys llyfrau, ond ydy hyn yn mynd i gael effaith ar werthiant llyfrau? Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha, buodd Jennifer Jones yn holi'r awdur a'r golygydd, Elinor Wyn Reynolds am ei barn: Clawr Cover Crynhoi cynnwys To summarise the content Cyfrolau Books Adolygiadau Review Yn ei chrynswth In its entirety Drwgdybus Suspicious Yn hytrach na Rather than Bod dynol Human being Bygythiad Threat Annog To encourage Agor cil y drws To open the door slightly
Tue, 30 Apr 2024 13:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1 Trystan ac Emma – Hyd 1.49.
Ar eu rhaglen wythnosol mae Trystan ac Emma yn cynnal cwis gyda Ieuan Jones neu Iodl Ieu fel mae’n cael ei alw. Ac yn ddiweddar roedd rhaid i Ieuan ofyn cwestiwn tie break i Trystan, Emma, a’u gwestai Megan...a dyma’r cwestiwn:
Yn ddiweddar Recently Llongyfarchiadau Congratulations
2 Rhaglen Ffion Dafis – Hyd 2.28.
Wel, dan ni’n gwybod rŵan pa mor gyflym mae cangarŵ yn medru rhedeg yn tydan?
Ar hyn o bryd mae‘r actor Dafydd Emyr yn perfformio mewn drama lwyfan yn Saesneg yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Enw’r ddrama ydy ‘Kill Thy Neighbour‘ a chafodd ei sgwennu gan y dramodydd Lucie Lovatt. Mi gafodd Ffion Dafis, yn ei rhaglen bnawn Sul, sgwrs efo Dafydd Emyr er mwyn cael gwybod dipyn mwy am y ddrama.
Trawiadol Striking Difrifol Serious Cyfoes Modern Cyfredol Contemporary Y felltith The curse Dychmygol Imaginary Trigolion cynhenid Indigenous residents Estroniaid cefnog Rich outsiders Rhwystro To prevent (G)oblygiadau Consequences Gostwng yn ddifrifo Fallen sharply
3 Beti a’i Phobol – Hyd 2.51.
Dafydd Emyr yn fanna’n sôn am y ddrama ‘Kill Thy Neighbour‘ sydd i’w gweld yn Theatr Clwyd yr Wyddgrug.
Y nofelydd, cogydd ac actores Rhian Cadwaladr oedd gwestai Beti George ddydd Sul ac yn y clip hwn mae hi’n sôn am ei henw ‘Cadwaladr’. Mae hi hefyd yn sôn ei bod yn hoff o hel achau, ac wedi canfod ei bod yn perthyn i Cadwaladr, Brenin y Brythoniaid. Mae hi hefyd yn sôn am ei chefndir yn Llanberis a hanes ei rhieni.
Hel achau To genealogize Y Brythoniaid The Britons Canfod To find Plwyf Parish Ymwybodol Aware Rhyfedd Strange Dirprwy swyddog Deputy officer Awyrlu Airforce Be dach chi’n dda? What are you doing? Alla i ddychmygu can imagine
4 Aled Hughes – Hyd 2.00
Wel, wel, mae Rhian Cadwaladr yn perthyn i un o frenhinoedd y Brythoniaid – pwy fasai’n meddwl!
Mae Antur Waunfawr yn dathlu pen-blwydd yn bedwar deg oed eleni. Mae’r Antur yn rhoi gwaith a chyfleoedd i bobol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn y gogledd orllewin. Ddydd Gwener y deuddegfed o Ebrill, ‘roedd na daith feics pedwar deg milltir o hyd fel rhan o’r dathliad. Mi fuodd Aled Hughes draw i Gaernarfon i sgwrsio efo Jack Williams, sy’n trefnu’r daith feics ar ran Antur Waunfawr.
Dathliad Celebration Unigolion Individuals Trwsio To repair
5 Bore Cothi – Hyd 2.26.
A phen-blwydd hapus i Antur Waunfawr sy’n gwneud gwaith gwerth chweil yn ardal Arfon yng Ngwynedd.
Antur arall sy’n gwneud gwaith campus yng Ngwynedd ydy Antur Aelhearn ym Mhen Llŷn, ac yn ddiweddar ar Bore Cothi, cafodd Shan sgwrs efo John Pritchard, Dirprwy Gadeirydd yr Antur. Mae’r Antur am brynu Becws Glanrhyd, Llanaelhaearn, sydd wedi bod yn yr ardal am bron i gan mlynedd.
Gwerth chweil Worthwhile Dychmygu To imagine Galwad A call Arwr Hero Mor ddiolchgar So thankful Llewyrchus Prosperous Yn hanfodol Essential Craidd Core Ehangu To expand Cynhyrchu To produce Go sylweddol Quite substantial Os na watsia i If I don’t look out
6 Dros Ginio – Hyd 2.30.
Pob lwc i’r Antur efo’r fenter newydd, dw i’n siŵr bydd hi’n llwyddiant mawr.
Ddydd Mawrth diwetha ar raglen Dros Ginio, mi gafodd Catrin Heledd gwmni’r meddyg teulu Dr Llinos Roberts, a dyma i chi flas ar sgwrs gaethon nhw am gyflwr ein gwallt ac am effaith hynny ar ein hiechyd:
Cyflwr Condition Dw i yn cyfadde I admit Blewyn A hair Straen Stress Yn raddol Gradually Yn ei gylch e About it Ymddangos To appear Ansawdd Texture Menywod Merched Brau Brittle
Tue, 23 Apr 2024 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion y Dysgwyr – Francesca
Dych chi’n un o’r rhai sy’n symud eich dwylo wrth siarad? Mae ymchwil yn dangos mai Eidalwyr sy’n defnyddio y mwya o’r ‘stumiau hyn wrth siarad a rhannu straeon! Mae teulu Francesca Sciarrillo yn dod o’r Eidal a gofynnodd Alun Thomas iddi oedd hi’n cytuno gyda’r ymchwil...
(Y)stumiau Gestures
Ymchwil Research
Ystrydebol Cliched
Ymwybodol Aware
Sylwi To notice
Hunaniaeth Identity
Am wn i I suppose
Mynegi To express
Lleisiau Voices
Barn An opinion
Pigion y Dysgwyr – Llyfrau Hanes
Bron y gallen ni glywed dwylo Francesca’n symud yn ystod y sgwrs yna on’d ife? Ond dwi’n siŵr mai llonydd iawn basai ei dwylo hi wrth drafod pethau diflas, a llyfrau hanes diflas oedd testun sgwrs Aled Hughes gyda’r hanesydd Dr Mari William fore Iau, ond beth sy’n ddiflas i’r hanesydd tybed?
Llonydd Still
Diflas Boring
Milwrol Military
Agweddau Aspects
Yn ddiweddar Recently
Pori To browse
Taro To strike
Cymhleth Complicated
Rhaid i mi gyfadde(f) I must admit
Ysgolheictod Scholarship
Astrus Obscure
Pigion y Dysgwyr – Beti a Huw
Dr Mari William oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am ba lyfrau hanes sy’n ddiflas iddi hi. Nos Lun ar S4C, roedd cyfres newydd i’w weld sef Cysgu o Gwmpas. Beti George a Huw Stephens sydd yn cysgu o gwmpas Cymru mewn gwestai moethus. Yn y rhaglen gynta, roedd y ddau’n ymweld â Pale Hall yn Llandderfel ger y Bala, ac roedd Beti yn cael aros yn yr un ystafell ac y buodd y Frenhines Victoria yn aros ynddi flynyddoedd maith yn ôl! Shan Cothi fuodd yn holi’r ddau. Moethus Luxurious
Cyflwynydd Presenter
Darganfod To discover
Anhygoel Incredible
Pigion y Dysgwyr – Gwyl Ban Geltaidd
Wel dyna fywyd braf gan Beti a Huw, on’d ife, yn cael aros mewn gwestai moethus ac yn cael bwyta bwyd anhygoel! Sara Davies enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru eleni ac mae enillydd y gystadleuaeth honno wastad yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd, sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn yn Iwerddon. Yn nhref Carlow, yn ne-ddwyrain Iwerddon oedd yr Ŵyl eleni ac enillodd Sara gystadleuaeth y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl gyda'r gân ‘Ti’. Gofynnodd Aled Hughes iddi hi fore Llun sut oedd hi’n teimlo ar ôl iddi hi ennill y gystadleuaeth... Rhyngwladol International
Suddo To sink
Alla i ddychmygu I can imagine
Profiadau Experiences
Canlyniad Result
Pigion y Dysgwyr – Jonathan Rio
A llongyfarchiadau mawr i Sara am y fuddugoliaeth on’d ife! Gwestai Beti George oedd Jonathan Roberts sy’n dod o’r Bala yn wreiddiol ac sydd erbyn hyn yn gweithio fel cyfieithydd yn Rio de Janeiro ers bron i 30 mlynedd. Buodd yn byw yn Lerpwl a Llundain cyn teithio i Brasil a syrthio mewn cariad gyda’r ddinas. Dyma fe’n sôn wrth Beti am yr adeg daeth ei dad i aros ato fe yn Rio...
Buddugoliaeth Win
Cyfieithydd Translator
Peryglus Dangerous
Ffon Stick
Pigion y Dysgwyr – RNLI
Mae’n swnio fel bod tad Jonathan yn ddyn lwcus iawn ond yw e? Mae’r RNLI yn dathlu dau ganmlwyddiant eleni ac Emma Dungey (ynganu fel Bungee jump) o orsaf Bad Achub Y Bari, fuodd yn sôn wrth Shan Cothi fore Gwener am sut daeth hi ymuno â’r RNLI..
Dau ganmlwyddiant Bicentenary
Bad achub Lifeboat
Ymuno â To join
Rhiant Parent
Mewn cysylltiad â In contract with
Hyfforddiant Training
Tue, 16 Apr 2024 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion y Dysgwyr - Rosalie Caryl 020224
Rosalie Lamburn o Moggerhanger ger Bedford oedd gwestai Caryl nos Fawrth ac roedd Caryl eisiau gwybod mwy am gefndir Rosalie. Cafodd hi ei geni yn Hong Kong ar ddechrau’r rhyfel, cyn symud i fyw i Awstralia a symud wedyn o fanno i Ddeiniolen ger Llanberis. Dyma Rosalie yn dechrau drwy sôn am ei hatgofion o Awstralia. Rhyfel War
Atgofion Memories
Mynyddog Mountainous
Anferth Huge
Bobol annwyl Goodness me
Llong Ship
Grawnwin Grapes
Pigion y Dysgwyr – Magnets Oergell Aled Hughes 030424
Rosalie Lamburn oedd honna’n sôn am ei phrofiad yn symud i Gymru o Awstralia pan oedd hi’n chwech oed. Dych chi’n un o ‘r rhai sy’n hoff o brynu magnet i roi ar y ffrij, neu’r oergell, pan dych chi ar wyliau? Wel mae’n ffordd dda o gofio am y gwyliau ymhen blynyddoedd wedyn on’d yw e? Mae Lowri Mair Williams newydd fod yn teithio am 5 mis yn Asia ac fel cawn ni glywed, mae casglu magnetau yn rhan bwysig o’i gwyliau iddi hi...
Traddodiad Tradition
Celf Art
Llawn bwrlwm Buzzing
Cynnyrch lleol Local produce
Pwytho â llaw Handstitched
Pren Wood
Cysylltiad Connection
Atyniad Attraction
Pigion y Dysgwyr – Clare Mackintosh Dros Ginio 02.04.24
Faint o le sydd ar ffrij Lowri erbyn hyn tybed i gadw’r holl fagnetau na? Mae’r awdures Clare Mackintosh, sy’n byw yn y Bala, wedi cyhoeddi ei llyfr diweddara. Fel arfer basen ni’n cysylltu ei llyfrau hi â ffuglen a throsedd, ac mae ei llyfrau wedi gwerthu dros 2 filiwn ar draws y byd. Mae ei llyfr diweddara yn wahanol iawn i’r lleill ac yn sôn am ei phrofiad personol hi o alar…
Ffuglen a throsedd Fiction and crime
Diweddara Most recent
Galar Grief
Dynes Menyw
Cennin Pedr Daffodils
Amser maith yn ôl A long time ago
Yn union Exactly
Pigion y Dysgwyr – Cerys Hafana Beti a’i Phobol 070404
A dw i’n siŵr bydd llyfr diweddara Claire yn gysur ac yn gymorth i rai eraill sy’n galaru ar ôl colli rhywun agos. Tair perfformwraig sydd i’w clywed yn y tri chlip nesa ‘ma gan ddechrau gyda’r delynores ifanc, Cerys Hafana, oedd yn westai ar Beti a’i Phobol ddydd Sul, Dim ond 22 oed ydy hi ac mae hi’n berfformwraig boblogaidd iawn oherwydd ei harddull arbennig yn canu’r delyn. Cafodd hi ei geni yn Chorlton, Manceinion ac yma mae hi’n sôn am hanes ei theulu….
Cysur Comfort
Telynores Harpist
Arddull Style
Chwarelwyr Quarrymen
Dychwelyd To return
Cwympo To fall
Pigion y Dysgwyr – Golden Oldies Bore Cothi 020404
Ac mae Cerys yn perfformio mewn sawl lleoliad yng Nghymru rhwng nawr a’r haf – cerwch i’w gweld os cewch chi gyfle, mae’n delynores arbennig iawn. Buodd Shelley Morris o Faenclochog yn Sir Benfro yn sôn am brosiect arbennig sef y Golden Oldies ar Bore Cothi. Cynllun ydy hwn drwy Gymru sy’n cynnig siawns i rai ddod at ei gilydd i fwynhau a chael cyfle i ganu pob math o ganeuon, nid fel côr, ond yn fwy hamddenol. Ond mae Shelley yn berfformwaig ei hunan hefyd, a dyma hi’n sôn wrth Shan Cothi am ei phrofiad hi o berfformio ar lwyfannau enwog iawn...
Hamddenol Leisurely Profiad Experience Llwyfannau Stages Nefoedd annwyl Good Heavens
Pigion y Dysgwyr – Connie Orff Caryl 030204
Wel pob lwc i’r Golden Oldies on’d ife? Mae’n swnio’n brosiect diddorol a hwyliog iawn. Ac yn ola, y frenhines drag, Connie Orff, gafodd sgwrs gyda Caryl i sôn am beth sy’n gwneud perfformiad drag llwyddiannus … Dylanwadau Influences
Uniaethu fel To identify as
Ffraeth Witty
Israddol Inferior
Caniatáu To permit
Tue, 09 Apr 2024 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion y Dysgwyr – Tomos Owen Mae dyn o Gaernarfon wedi dechrau menter newydd yn gwneud "smoothies". Beth sy’n arbennig ydy bod beic yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r "smoothies". Cafodd Aled Hughes air gyda Tomos Owen ddydd Mawrth diwetha am ei fenter. Cynhyrchu To produce
Ar y cyd Together
Hybu To promote
Maeth Nutrition
Troellwr Spinner
Atgofion Memories
Agwedd Aspect
Lles Welfare
Manteisio ar To take advantage of
Addas Suitable
Pigion y Dysgwyr – Andy John Wel dyna ffordd ddiddorol o gael plant i yfed "smoothies" on’d ife? Sawl Archesgob sydd gyda tatŵ tybed? Wel, mae gan Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andy John, datŵ mawr iawn a fe oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos hon… Archesgob Archbishop
Y Parchedicaf The Most Reverand
Atgof memory
Pam lai? Why not?
Olrhain To trace
Pigion y Dysgwyr – Pasg Hanes tatŵ’r Archesgob yn fanna ar Beti a’i Phobol. Ond sôn am ddathliadau’r Pasg oedd y Parchedig Beti Wyn James pan fuodd hi’n sôn am draddodiadau’r Pasg ar draws y byd wrth Shan Cothi. Dyma’r gweinidog o Gaerfyrddin yn sôn am sut mae Cristnogion Ethiopia’n dathlu… Traddodiadau Traditions
Gweinidog Minister
Amrywio To vary
Y Grawys Lent
Ymprydio To fast
Dipyn o her Quite a challenge
Gwylnos A vigil
Y wawr Dawn
Mae’n ymddangos i mi It appears to me
Pigion y Dysgwyr – Twin Town Y Parchedig Beti Wyn James oedd honna’n sôn am ddathliadau Pasg Ethiopia. Nos Lun wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn gwmni yr actor Llŷr Ifans. Fe, a’i frawd Rhys, oedd prif gymeriadau’r ffilm gomedi enwog Twin Town recordiwyd yn Abertawe a’r cyffiniau. Dyma Rhys yn holi Llŷr am ei atgofion o cael ei gastio i actio yn y ffilm…… Prif gymeriadau Main characters
Cyffiniau Vicinity
Ymchwil manwl iawn Very detailed research
Ymwybodol Aware
Awyddus iawn Very keen
Cyfweliad Interview
Fatha Fel
Plentyndod Childhood
Profiad Experience
Pigion y Dysgwyr – Piano
Ac os dych chi wedi gweld y ffilm, dw i’n siŵr basech chi’n cytuno bod perthynas y ddau frawd wedi dod drosodd yn wych ynddi hi. Mae sawl diwrnod arbennig yn ystod y flwyddyn i ddathlu’r hyn neu’r llall on’d oes yna? Ond oeddech chi’n gwybod bod Diwrnod Rhyngwladol y Piano i’w gael? Catrin Haf Jones fuodd yn holi’r pianydd Gwenno Morgan ar Dros Ginio a gofyn iddi hi beth mae’r diwrnod arbennig hwn yn ei olygu iddi hi…
Offeryn Instrument
Cyflawni To achieve
Anwybyddu To ignore
Cymryd yn ganiataol Taking for granted
Cerddorfa Orchestra
Cyfeilyddion Accompanists
Hyblyg Flexible
Y deunawfed ganrif 18th century
Esblygu To evolve
Pigion y Dysgwyr – Isabella Ac mae perfformio yn ganolog i’r sgwrs nesa ‘ma wrth i ni wrando ar Aled Hughes yn sgwrsio gyda Isabella Colby Browne, actores sydd wedi dysgu Cymraeg, ac sydd erbyn hyn yn actio yn Gymraeg ar lwyfan gyda chwmni Arad Goch.… Mae Isabella yn dal i gael gwersi Cymraeg ar-lein ac mae hi am fynd ar gwrs i Nant Gwrtheyrn cyn bo hir.
Yr Wyddgrug Mold
Llwyfan Stage
O ddifri(f) Seriously
Tanio dy frwdfrydedd Sparked your enthusiam
Argraff enfawr A huge impression
Diwylliant Culture
Ailgysylltu To reconnect
Parch Respect
Tue, 02 Apr 2024 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion y Dysgwyr – Shelley Musker Turner Ddydd Mercher diwetha cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Shelley Musker Turner sy’n aelod o’r grwp gwerin Calan, ond yn y clip nesa ‘ma sgwrsio maen nhw am waith Shelley gyda cheffylau yn y byd ffilmiau. Gweithio fel cyfrwywr mae hi a dyma hi’n sôn mwy am y gwaith Cyfrwywr Saddler
Cymwysterau Qualifications
Ffodus Lwcus
Creadigol Creative
Ail-greu To recreate
Lledr Leather
Cyfrwy Saddle
Ar waith In the pipeline
Amrywiaeth Variety
Pigion y Dysgwyr – Mike Olson Waw, mae Shelley wedi gweithio ar rai o’r ffilmiau mwya enwog, on’d yw hi? Daw Mike Olson o Winnipeg yng Nghanada yn wreiddiol ond mae e wedi dysgu Cymraeg ac yn ei defnyddio yn ei waith bob dydd. Fe yw Dysgwr y Flwyddyn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Mike ddydd Mercher ar ei raglen, a dyma’r cwestiwn cynta ofynnodd Aled iddo fe... Iechyd Cyhoeddus Public Health
Cydweithiwr Co-worker
Sylwi To notice
Heb os nac oni bai Without doubt
Brwdfrydedd Enthusiasm
Y cyfnod clo The lockdown
Degawd Decade
Ymdrech Effort
Pigion y Dysgwyr – Cofio Y Gwanwyn Mike Olson oedd hwnna’n sôn am ei daith i ddod yn siaradwr Cymraeg rhugl. Y Gwanwyn oedd thema rhaglen archif Radio Cymru “Cofio” yr wythnos hon. A phob Gwanwyn wrth gwrs mae’r clociau yn cael eu troi ymlaen awr. Dyma’r hanesydd Bob Morus i esbonio pam dyn ni’n gwneud hyn, a syniad pwy oedd e yn y lle cynta Ymgyrch Campaign
Ymwybodol Aware
Goleuni Light
Glynu To stick
Galluogi To enable
Heulwen liw nos Evening sun
Ennyn cefnogaeth To elicit support
Mesur A Bill
Deddf Statute
Cynhyrchu arfau Arms manufacturing
Ar fyrder In haste
Pigion y Dysgwyr – Liz Saville Roberts Cofiwch droi’r clociau yna ymlaen cyn mynd i’r gwely nos Sadwrn nesa, ac roedd hi’n ddiddorol cael gwybod ychydig o hanes yr arfer yma on’d oedd hi? Liz Saville Roberts yw Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac mae hi newydd ymddangos ar restr flynyddol cylchgrawn ‘The House’ sef ‘Merched San Steffan 2024 – y 100’.. Beth mae Liz yn ei feddwl o fod ar y rhestr hon? San Steffan Westminster
Braint Privilege
Cydnabod Acknowledge
Dylanwadu To influence
Yn eu plith nhw Amongst them
Pleidiau gwleidyddol Political parties
Awch Eagerness
Ysgogiad Motivation
Rhagflaenydd Predecessor
Pigion y Dysgwyr – Geraint Jones A llongyfarchiadau i Liz Saville Roberts ar ennill ei lle ar y rhestr bwysig hon on’d ife? Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos hon oedd Geraint Jones. Mae e’n dod o Sir Benfro a dyma fe’n sôn am ei dad, oedd yn blismon pentre yng ngogledd y Sir. A cofiwch bod cyfle i glywed y rhaglen hon i gyd drwy fynd i BBC Sounds. Cyfrifol am Responsible for
Lles Welfare
Trwyddedau Licenses
Yn feunyddiol Daily
Carcharor Prisoner
Gwendidau Weaknesses
Lleithio Becoming damp
Pallu Methu
Bygwth gwae Threatening
Llyw Steering wheel
Pigion y Dysgwyr – Caryl Wel dyna stori ddoniol, a dw i’n siŵr bod llawer o straeon eraill gan Geraint am ei dad y plismon pentre. Ar ei rhaglen nos Fercher ddiwetha cafodd Caryl sgwrs gyda Huw Rowlands sy wrth ei fodd gyda choginio, ac sydd yn hyfforddi teuluoedd i goginio. Dyma fe i ddweud mwy am sut cychwynnodd y fenter hyfforddi a hefyd am sut dechreuodd e ei hunan goginio Ysbrydoliaeth Inspiration
Denu dy sylw di Drew your attention
Pice ar y maen Welsh cakes
Cas-gwent Chepstow
Cynhwysion Ingredients
Llwyfannau cymdeithasol Social media
Ryseitiau pobi Baking recipes
Cacen glou A quick cake
Tue, 26 Mar 2024 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchDROS GINIO 11.03.24
Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae’r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae’r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg?
Ympryd A fast
Cymuned Community
Nodi To mark
Crefyddol Religous
Datgelu To reveal
Hunanddisgyblaeth Self discipline
Llai ffodus Less fortunate
Ansicrwydd Uncertainty
Heriol Challenging
Adlewyrchu To reflect
ALED HUGHES 12.03.24
Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio. Pwy fasai’n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i’r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy’n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno.
Cynhyrchu To produce
Gwinllan Vinyard
Her A challenge
Grawnwin Grapes
Llethr Slope
Gwerthfawrogi To appreciate
Addas Appropriate
Sefydlu To establish
Micro hinsawdd Microclimate
Yn y man Mewn munud
Gwinwydd Vines
Arallgyfeirio To diversify
GEORGIA RUTH 12 03 24
Ac erbyn hyn mae sawl gwinllan yng Nghymru on’d oes e? Pwy â ŵyr, falle mai Cymru bydd y Bordeaux newydd!
Bardd mis Mawrth Radio Cymru yw Sam Robinson. Mae e'n byw ym Machynlleth, nawr ond yn dod o Rydychen yn wreiddiol ac mae e’n rhugl yn y Gymraeg erbyn hyn. Dyma fe’n sôn wrth Georgia Ruth am daith arbennig buodd e arni i Wlad y Basg...
Rhydychen Oxford
Gwlad y Basg The Basque Country
Offeryn Instrument
Gwneuthurion Manufacturers
Preniach Small pieces of wood
Pastynau Clubs
Gwledda To feast
Wedi swyno Charmed
Ymatebol Responsive
Llanast Mess
Rhyfeddol Wonderful
BORE COTHI 15.03.24
Un arall sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhyfeddol, fel Sam Robinson yw Debora Morgante o Rufain. Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes dydd Gwener, noson cyn gêm rygbi Cymru a’r Yr Eidal, a chafodd hi sgwrs gyda Debora gan ofyn iddi hi sut gwnaeth hi ddysgu Cymraeg yn y lle cynta...
Rhufain Rome
Cwrs Preswyl Residential course
Ymarfer To practice
DROS FRECWAST 14.03.23
Debora Morgante o Rufain oedd honna, fuodd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn yn 2015. Yn anffodus colli wnaeth Cymru yn y gêm yn erbyn yr Eidal a hon oedd gêm ola George North i chwarae dros Gymru gan iddo ddweud basai’n ymddeol yn dilyn y gêm honno. Cennydd Davies fuodd yn sgwrsio gyda George am ei benderfyniad.
Rhestr fer Short list
Penderfyniad enfawr Huge decision
Cyflawni To achieve
Y cyhoedd The public
Uchafbwynt Highlight
BETI A’I PHOBOL 17.03.24
George North oedd hwnna enillodd cant dau ddeg o gapiau i Gymru gan ennill ei gap cynta yn 2010. Trueni mawr ei fod yn ymddeol ond mae e wedi rhoi gwasanaeth arbennig i Gymru dros y blynyddoedd. Hazel Thomas o Lanwenog yng Ngheredigion fuodd yn sôn wrth Beti George am ei hamser yn gweithio fel chef yn y Dorchester yn Llundain …y ferch gynta i wneud hynny!
Trueni Bechod
Sylw a stwr Fuss and attention
Cefn gwlad The countryside
Enwoca The most famous
Bodoli To exist
Tue, 19 Mar 2024 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBORE COTHI 04.03.24
Gredwch chi fod 50 mlynedd ers i Abba ennill yr Eurovision gyda’u cân Waterloo? Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes a buodd hi’n holi’r arbenigwr pop, Phil Davies, am lwyddiant Abba.
Llwyddiant Success
Sbort a sbri Fun
Ysgariad Divorce
Dwfn Deep
Cyfnod Period
DROS GINIO 04.03.24
Ie, mae caneuon Abba dal yn boblogaidd on’dyn nhw? Mae’n pedwardeg o flynyddoedd ers Streic y Glowyr a buodd Rhodri Llywelyn yn holi Amanda Powell, sydd ar fin cyhoeddi llyfr ar y streic. Roedd Amanda yn ei chanol hi fel gohebydd dan hyfforddiant yn ystod y streic yn 84 ac 85.
Glowyr Miners
Ar fin cyhoeddi About to publish
Gohebydd dan hyfforddiant Trainee journalist
Ymhlith Amongst
Cymunedau Communities
Agweddau Attitudes
Cyfryngau cymdeithasol Social media
RHYS MWYN 04.03.24
Amanda Powell yn fanna yn cofio Streic y Glowyr. Mae’r band Cowbois Rhos Botwnnog wedi rhyddhau eu chweched albwm sef ‘Mynd â’r tŷ am dro’ ac ar raglen Rhys Mwyn buodd Iwan ac Aled o’r band yn egluro pa mor hapus oedden nhw gyda un o'r traciau sef ‘Adenydd’, ac yn sôn am sut cafodd y geiriau eu hysgrifennu. Hon ydy cân orau Cowbois erioed tybed?
Adenydd Wings
Rhyddhau To release
Annisgwyl Unexpected
Trefniant Arrangement
Saernïo To refine
Syth bin Straight away
Canu gwlad Country & Western
Isdeitlau Subtitles
Mynegi To convey
Chwysu Sweating
BORE COTHI 07.03.24
Wel mae Rhys Mwyn wir yn dwlu ar gân newydd Cowbois on’d yw e? Y tenor o Hen Golwyn, Ryan Vaughan Davies gafodd sgwrs efo Shan Cothi fore Iau. Mae Ryan yn canu ar hyn o bryd gyda’r Tŷ Opera yn Llundain ac yn brysur iawn fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma...
Dwlu ar Hoff iawn o
Llwyfan Stage
Perthynas Relationship
FFION EMYR 08.03.24
Ychydig o hanes y tenor o Hen Golwyn, Ryan Vaughan Davies yn fanna ar Bore Cothi. Mae Maria Owen-Roberts o Gerrigydrudion yn Sir Conwy yn cynnig gwasanaeth Trefnu a Thacluso Proffesiynol. Mae’n rhedeg busnes o’r enw ‘Twt’ ers tair mlynedd - Twt sef trefn wedi’r tacluso. Roedd Maria’n sôn am sut i gael trefn ar y tŷ, ar raglen Ffion Emyr nos Wener.
Crediniol To firmly believe
Yn gyson Consistently
Eitha rheolaidd Fairly regularly
Tasg anferthol A huge task
Call iawn Very wise
Fesul dipyn Little by little
Llnau Glanhau
Meddylfryd Mindset
Argymell To recommend
Egni corfforol Physical energy
Tarfu ar To disturb
BETI A’I PHOBOL 10.03.24
On’d yw glanhau’r Gwanwyn yn swnio’n waith caled? Pob lwc i bob un ohonoch chi sydd am fynd ati! Dafydd Wigley - yr Arglwydd Wigley - oedd gwestai Beti George ddydd Sul. Mae hi’n 50 mlynedd ers iddo fe gael ei ethol i San Steffan. Buodd e’n cynrychioli Arfon yno am 27 mlynedd. Roedd perthynas enwog gyda fe o Ogledd America, ond dw i ddim yn siŵr pa mor falch yw Dafydd o’r cysylltiad hwn... Cael ei ethol Was elected Cynrychioli To represent Dau ganmlwyddiant Bicentenary Bodolaeth Existence Gyrfa wleidyddol Political career Tyrru mewn To flock in Uniongyrchol Directly Deddf Legislation Deddfwrfa Legislature
Tue, 12 Mar 2024 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchTRYSTAN & EMMA DYDD GWENER 2302
Tesni Evans gafodd air gyda Trystan & Emma fore Gwener. Cafodd hi sialens i gael tatŵ gydag enw band Y Cledrau ar ei choes! Wnaeth hi dderbyn y sialens tybed?
Prif leisydd Main vocalist
Ffyddlon Faithful
Ymwybodol Aware
COFIO DYDD SUL 2502
A miwsig Y Cledrau oedd i’w glywed yn y cefndir yn fanna. Gobeithio, on’d ife, bod y band yn gwerthfawrogi tatŵ Tesni. Mae hi'n flwyddyn naid sef y flwyddyn pan mae dau ddeg naw, neu naw ar hugain, o ddyddiau ym mis Chwefror. Mae'n debyg bod y siawns o gael eich geni ar y dyddiad hwnnw yn un ymhob 1,461. Un o'r mil a hanner rheini yw Elin Maher (pron. Mahyr). Felly faint yn union yw oed Elin nawr?
Gwerthfawrogi To appreciate
Y gwirionedd The truth
Ar bwys Wrth ymyl
Gwneud yn fawr Making the most
Cyfoedion Peers
Ai peidio Or not
Sbo I suppose
Trin To treat
Tynnu sylw To draw attention
RHYS MWYN DYDD LLUN 2602
Elin Maher oedd honna, sydd ychydig bach yn hŷn na thair ar ddeg oed mewn gwirionedd! Ar raglen Rhys Mwyn clywon ni bod y Beatle enwog, George Harrison, wedi treulio amser yng ngwesty Portmeirion pan gafodd sengl y Beatles 'Get Back' ei rhyddhau ar Ebrill 11 1969. Rheolwr Safle Portmeirion, Meurig Rees Jones, sy’n sôn yn y clip nesa ‘ma am sut daeth e ar draws bwydlen oedd wedi ei harwyddo gan George Harrison ar y diwrnod hwnnw. Rhyddhau To release
Arwyddo To sign
Yr arbenigwr The expert
Y cysylltiadau The connections
Anhygoel Incredible
Amrywiaeth Variety
Ymchwil Research
Atgofion Memories
DROS GINIO DYDD MAWRTH 2702
Hanes diddorol George Harrison ym Mhortmeirion yn fanna ar raglen Rhys Mwyn. Sut dysgoch chi Gymraeg - ar-lein, wyneb yn wyneb neu’r ddwy ffordd? Pa ffordd ydy’r mwya effeithiol tybed? Cafodd llythyr ei gyhoeddi yn Golwg yn dweud ei bod yn bwysig cael gwersi Cymraeg wyneb yn wyneb yn dilyn twf dysgu ar-lein yn ystod y cyfnod clo. Jennifer Jones fuodd yn trafod hyn ar Dros Ginio a chafodd hi sgwrs gydag Alison Roberts o’r Alban, ond sydd nawr yn byw yng Nghymru, yn sôn am sut aeth hi ati i ddysgu’r iaith
Effeithiol Effective
Wyneb yn wyneb Face to face
Cymuned Community
Anghonfensiynol Unconventional
CARYL PARRY JONES DYDD MAWRTH 2702
Alison enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg yn anhygoel on’d yw hi, o feddwl nad ydy hi erioed wedi bod mewn dosbarth Cymraeg! Beth sy’n gwneud bwyty da? Llio Angharad, sy’n sgwennu am deithio a bwyd ar y gwefannau cymdeithasol, fuodd yn trafod hyn efo Caryl Parry Jones ddydd Mawrth wythnos diwetha Gwefannau cymdeithasol Social media
Hynod o bwysig Extremely important
Crafu To scratch
Y goleuo The lighting
Swnllyd Noisy
(H)wyrach Efallai
ALED HUGHES DYDD MERCHER 2802
Caryl a Llio yn trafod beth sy’n gwneud bwyta da yn fanna. Dych chi’n cytuno â nhw? Pawlie Bryant o Santa Barbara fuodd yn sgwrsio efo Aled Hughes ddydd Mercher diwetha. Mae Pawlie yn gerddor ac mae e newydd sgwennu ei gân gynta yn Gymraeg! Does dim llawer o amser ers i Pawlie ddechrau dysgu Cymraeg a gofynnodd Aled iddo, pryd oedd y tro diwetha iddo ymweld â Chymru…
Cerddor Musician
O’r blaen Previously
Y Deyrnas Unedig The UK
Dinesydd Citizen
Sylweddolais i I realised
Swyddogol Official
Deunaw 18
Tue, 05 Mar 2024 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Japan
Wythnos diwetha buodd Aled Hughes yn siarad gyda Rhian Yoshikawa sydd yn byw yn Japan. Cafodd e air gyda hi am yr arfer o dynnu sgidiau yn Japan wrth fynd mewn i dŷ rhywun. Ymwybodol Aware
Yn llythrennol Literally
Gofod Space
Yn y bôn Essentially
Lle ddaru Ble wnaeth
Y tu hwnt Beyond
Rheolau Rules
Parch Respect
Ymddwyn To behave
Meistroli To master
Pigion Dysgwyr – Adam Jones
Traddodiadau diddorol Japan yn cael eu hesbonio ar raglen Aled Hughes gan Rhian Yoshikawa - diddorol on’d ife? Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd fel mae'n cael ei nabod. Dechreuodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd e’n 3 oed yng ngardd ei dad-cu, neu daid, yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo, a fe ddechreuodd meithrin sgiliau a gwybodaeth garddio Adam.. Balch Proud
Ar goedd Publicly
Cwato To hide
Rhyched o dato A furrow of potaoes
Tueddiad A tendency
Mas draw Yn fawr iawn
Gwybedyn bach A small fly
Awch A keeness
Cyfuno To combine
Cenedlaethau Generations
Pigion Dysgwyr – Rhys Meirion
Felly mae diolch i dad-cu Adam am y rhaglenni garddio gwych sydd ar S4C. Gwestai Shan Cothi yn ddiweddar ar gyfer slot Cofion Cyntaf oedd y canwr Rhys Meirion. Yn y rhan yma o’r rhaglen mae gwestai gwahanol yn cofio eu dyddiau cynnar a rhai o’u hatgofion cynhara. Dyma Rhys Meirion i sôn am ei atgofion e….. Atgofion cynhara Earliest memories Diffoddwr tân Fire Extinguisher
Gollwng To drop
Arogl A smell
Gwydn Tough
Pigion Dysgwyr – RNLI
Dw i’n siŵr ein bod ni i gyd, fel Rhys Meirion, yn cofio arogl cinio ysgol! Eleni mae’r RNLI yn dathlu penblwydd yn 200 oed. Ers 1824 mae badau achub ar draws Ynysoedd Prydain wedi bod yn achub bywydau a phnawn Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones air gyda Mali Parry Jones o Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn. Mae hi’n gwirfoddoli gyda Bad Porth Dinllaen a dyma hi’n cofio gweld y bad achub yn mynd allan pan oedd hi’n ifanc. Badau Achub Lifeboats
Gwirfoddoli To volunteer
Rhan annatod Integral part
Galwad A call
Clogwyni Cliffs
Ymdrech ehangach A wider effort
Elusen Charity
Ysgogi To motivate
Gwythiennau Veins
Pigion Dysgwyr – Rent
Mae’n amlwg bod y badau achub yn chwarae rhan mawr ym mywyd cymuned Morfa Nefyn on’d yw e? Llongyfarchiadau mawr i’r RNLI ar ei ben-blwydd yn 200 oed. Nos Fercher ddiwetha ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Steffan Lloyd. Mae Steffan yn canu mewn cynhyrchiad o’r sioe lwyfan Rent sydd ymlaen ym Mhort Talbot yr wythnos hon. Gofynnodd Caryl i Steffan yn gynta sut mae’r ymarferion wedi bod yn mynd hyd yn hyn Cynhyrchiad Production
Cyfarwyddwr cerddoriaeth Musical director
Golygfa Scene
Cywilydd gen i ddweud I’m ashamed to say
Cyflwyno To present
Pigion Dysgwyr – Jemeima
A phob lwc i Steffan a’r cast ar y perfformiad. Dw i’n siŵr ei bod yn sioe ardderchog.
Dych chi’n gwybod am hanes Jemima Nicholas helpodd rwystro glaniad y Ffrancod yn Sir Benfro yn 1797. Wel dyma y Parchedig Richard Davies o Gasnewy(dd) Bach ger Abergwaun i sôn am ddigwyddiad dros y penwythnos i gofio am Jemima ar Bore Cothi fore Iau. Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan yn gynnes y diwrnod hwnnw.
Rhwystro glaniad To prevent the landing
Ildio To surrender
Amlwg Prominent
Dadorchuddio To unveil
Mynwent Cemetary
Carreg goffa Memoria stone
Arddangosfa hanesyddol Historical exhibition
Brodwaith Tapestry
Ysbrydoli To inspire
Mas Allan
Tue, 27 Feb 2024 14:28:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Crempog Roedd hi’n Ddydd Mawrth Ynyd ddydd Mawrth diwetha a chafodd Shan Cothi gwmni Lisa Fearn, y gogyddes a’r awdures, ar ei rhaglen. Dyma Shan a Lisa yn sgwrsio am grempogau neu bancos!!!! Dydd Mawrth Ynyd Shrove Tuesday
Crempogau/pancos Pancakes
Poblogaidd Popular
Iseldiroedd Netherlands
Ffrimpan Padell ffrio
Burum Yeast
Dwlu ar Hoff iawn o
Gwead Texture
Twym Cynnes
Dodi Rhoi
Pigion Dysgwyr – Cefn Shan Cothi a Lisa Fearn oedd y rheina’n sôn am y gwahanol mathau o grempogau sydd i’w cael. Dych chi'n cael problemau gyda'ch cefn? Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae bron i filiwn o bobl y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw'n rhy dost i weithio oherwydd poen yn eu cefnau. Cafodd Gwyn Loader, oedd yn cadw sedd Jennifer Jones yn dwym bnawn Mawrth, sgwrs gyda Fflur Roberts o Gaernarfon, sy'n ffisiotherapydd ers pymtheg mlynedd. Gofynnodd Gwyn iddi hi’n gynta oedd hi'n credu bod y nifer o bobl sy’n gweithio o gartre ers y pandemig wedi gwneud y sefyllfa’n waeth?
Swyddfa Ystadegau Gwladol Office for National Statistics
Yn rhy dost Yn rhy sâl
Y Deyrnas Unedig The UK
Cymalau Joints
Gwanio To weaken Pigion Dysgwyr – Chicago Y pandemig wedi gwneud drwg i’n cefnau ni yn ôl y ffisiotherapydd Fflur Roberts a chyngor pwysig iawn ganddi am yr angen i symud o’r sgrîn bob hyn a hyn.. Mae Cymdeithas Gymraeg Chicago yn dathlu chwarter canrif o fodolaeth eleni. Aelod o’r Gymdeithas yw Catrin Rush o ardal Aberporth ger Aberteifi yn wreiddiol, a chafodd hi sgwrs gyda Aled Hughes ddydd Mercher. Gofynnodd Aled iddi hi faint o aelodau oedd gan y Gymdeithas... Chwarter canrif Dau ddeg pum mlynedd
Bodolaeth Existence
Tu fas Tu allan
Digwyddiad Event
Goleuo Illuminated
Pigion Dysgwyr – Y Lleuad Llongyfarchiadau mawr i Gymdeithas Gymraeg Chicago a phob hwyl ar y dathlu on’d ife? Bore Iau diwetha cafodd Gwenllian Grigg a Dylan Ebenezer gwmni Geraint Jones ar Dros Frecwast i sôn am deithiau roced i’r lleuad gan gychwyn ym mis Rhagfyr 1972. Unol Daleithiau USA
Y lleuad The moon
Glanio To land
Llwyddiannus ofnadwy Terribly successful
Gofodwyr Astronauts
Pridd Soil
Llwch Dust
Aflwyddiannus Unsuccessful
Ymdrechion Attempts
Pigion Dysgwyr – Rex Ychydig o hanes teithiau i’r lleuad yn fanna ar Dros Frecwast. Fore Gwener diwetha ar eu rhaglen cafodd Trystan ac Emma gwmni y ffermwr o Abergwaun Charles Lamb. Mae gan Charles gi defaid annwyl iawn o’r enw Rex. Mae Rex yn dipyn o gymeriad ac yn fwy na pharod i ddangos i Charles beth mae e’n hoffi a beth mae e’n ei gasau Yn fwy na pharod More than ready
Ffindir Finland
Pigion Dysgwyr – Aderyn y Mis
Rex yn ei gwneud yn glir nad oedd e am fynd i’r gwely! Bob mis ar ei rhaglen mae Shan Cothi yn cael cwmni yr adarwr Daniel Jenkins Jones i sôn am Aderyn y Mis. Y tro ‘ma y Gornchwiglen oedd o dan y chwyddwydr a dyma Daniel i sôn mwy am yr aderyn arbennig hwn…. Adarwr Ornithologist
Cornchwiglen Lapwing
Chwyddwydr Microscope Yn gyfarwydd Familiar Nythu To nest Wedi prinhau Has become scarce Gwarchodfeydd natur Nature reserves Pert Del Adenydd Wing Pluen Feather Trawiadol Striking
Tue, 20 Feb 2024 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Max Boyce Daeth y newyddion trist wythnos diwetha am farwolaeth Barry John cyn chwaraewr rygbi Cymru a’r Llewod yn 79 mlwydd oed. Roedd yn chwaraewr arbennig iawn a dyma ei ffrind, Max Boyce, yn talu teyrnged iddo fe fore Llun diwetha ar Dros Ginio Talu Teyrnged To pay a tribute Wastad Always
Cyfweliad Interview
Cae o ŷd A field of corn
Sa i’n gwybod Dw i ddim yn gwybod
Gostyngedig Humble
Dewin A wizard
Sylw Attention
Amlwg Prominent
Enwogrwydd Fame
Pigion Dysgwyr -Twr Marcwis
A buodd timau rygbi cenedlaethol Cymru a Lloegr yn talu teyrnged i Barry John cyn y gêm fawr yn Twickenham ddydd Sadwrn diwetha. Roedd e wir yn seren on’d oedd e? Mae tŵr hynafol wedi cael ei ail agor ar lan y Fenai ger Llanfairpwll. Ers dros 10 mlynedd does neb wedi cael cerdded i ben Tŵr Marcwis oherwydd gwaith adnewyddu ar y safle. Cafodd Aled Hughes gwmni rheolwraig y safle Delyth Jones Williams ar ei ymweliad â’r tŵr, a dyma hi’n rhoi ychydig o hanes y Marcwis a’r tŵr... Tŵr hynafol Ancient Tower
Ail agor To reopen Adnewyddu To renovate
Anrhydeddu To honour Clodi To praise
Llawdriniaeth Surgery
Colofn Column
Dehongli To interpret
Yn uniongyrchol Directly
Cefndir Background
Pigion Dysgwyr – Miriam Lynn
Ychydig o hanes Marcwis Môn a’r tŵr enwog yn Llanfairpwll yn fanna ar raglen Aled Hughes. Miriam Lynn oedd gwestai Beti a’i Phobl yr wythnos hon. Cafodd Miriam ei magu ym mhentref bach Llanfynydd ger yr Wyddgrug yn Sir Fflint ac aeth hi i Brifysgol Dundee i astudio Microbioleg. Ar ôl iddi hi raddio gwnaeth hi Ddoethuriaeth yn Newcastle mewn Microbioleg, ond ‘roedd well ganddi weithio gyda phobol, a dyma hi’n sôn wrth Beti am ei gyrfa….. Difaru To regret
Doethuriaeth Doctorate
Ar y fainc On the bench
Hybu iechyd Promoting health
Caergrawnt Cambridge
Gweithwyr Cymdeithasol Social Workers
Mewn gofal In care
Beichiog Pregnant
Gwerth Value
Pigion Dysgwyr – Caryl
Miriam Lynn oedd honna yn sôn wrth Beti George am ei gyrfa ddiddorol. Cafodd cân ddiweddara y grwp Tocsidos Blêr o ardal Dinbych ei lansio ar raglen Caryl Parry Jones wythnos diwetha. Dyfan Phillips o’r grŵp gafodd sgwrs gyda Caryl nos Fawrth…..
Diweddara Most recent
Pedwarawd Quartet
Wst ti be? Wyt ti’n gwybod beth?
Fel ‘tae As it were
Bywoliaeth Livelyhood
Yn ein plith Amongst us
Twrnai Solicitor
Dyfalu To guess
Tynnu stumiau Pulling faces
Pigion Dysgwyr – Rhys Mwyn
Wel dyna gymeriadau yw’r Tocsidos Blêr on’d ife? Dw i’n siŵr bod llawer o hwyl i’w gael yn eu nosweithiau. Nos Lun wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn gwmni Sara Croesor. Trefnodd Sara gyngerdd yn Neuadd y Dref Llanfairfechan yn ddiweddar gyda’r grwpiau gwerin Pedair a Tant yn perfformio. Dyma Rhys yn gofyn iddi hi sut aeth pethau? Lleisiau Voices
Dewr Brave
Aelod Member
Cefnogi To support
Awyrgylch Atmosphere
Offeryn Instrument
Sain Sound
Yn fyw Live
Telyn Harp
Cyflwyno To present
Pigion Dysgwyr – Caryl Roese
Ac arhoswn ni ym myd cerddoriaeth ar gyfer y clip nesa ma. Buodd Caryl Roese o Ystradgynlais yn gantores opera lwyddiannus yn Llundain am gyfnod a buodd hi hefyd yn byw yn Ne Affrica. Mae hi bron yn 87 oed erbyn hyn a dyma hi’n sgwrsio gyda Shan Cothi yr wythnos diwetha am ei bywyd a’i gyrfa... Chi’n ‘bod Dych chi’n gwybod Cerddorfa Orchestra Arweinydd Conductor Academi Brenhinol The Royal Academy Orielau Galleries Sefyll am Aros am Disglair Brilliant
Tue, 13 Feb 2024 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Bethesda Buodd Aled Hughes yn ddiweddar yn Mynwent Tanysgrafell ym Methesda yng Ngwynedd. Mae’r fynwent wedi ei chau ers blynyddoedd ac wedi mynd yn flêr ac yn anniben ei golwg. Ond mae ‘na griw o wirfoddolwyr wedi bod yn ei thacluso ac yn gofalu amdani a dyma Sian Evans o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn sgwrsio gydag Aled ac yn rhoi ychydig o hanes y fynwent.. Mynwent Cemetery
Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd Gwynedd Archaeological Trust
Ddaru nhw Wnaethon nhw
Ymchwil Research
Dogfennau Documents
Oes Victoria Victorian Age
Ehangu To expand
Bwriad Intention
Stad ddiwydiannol Industrial Estate
Pigion Dysgwyr – Robat Arwyn
Ychydig o hanes Mynwent Tanysgrafell yn fanna ar raglen Aled Hughes. Mae ymchwil yn dangos bod cymryd rhan mewn gweithgareddau cerdd yn gallu helpu'r cof wrth i bobl fynd yn hŷn. Mae dau ddeg pum mil o bobl wedi bod yn rhan o astudiaeth ddangosodd bod gwell cof gan bobl oedd wedi bod yn chwarae offeryn neu oedd yn aelodau o gôr. Ydy hynny’n wir tybed? Wel dyma arweinydd Côr Rhuthun, Robat Arwyn, ar Dros Ginio bnawn Mawrth yn dweud pam ei fod e’n cytuno gyda’r astudiaeth... Offeryn Instrument
Arweinydd Conductor
I gyd ar y cof All by heart
Arwyddion cerddorol Musical gestures
Cydsymud Coordination
Ymennydd Brain
Yn effro Awake
Gradd Grade
Gweddill y teulu The rest of the family
Pigion Dysgwyr – Snwcer
Felly dyna ni, os dych chi eisiau gwella eich cof ymunwch â chôr! Cafodd Caryl Parry Jones gwmni Elfed Evans ar ei rhaglen nos Fawrth ddiwetha. Mae Elfed yn aelod o Glwb Snwcer Pwllheli a chafodd e gyfle i hyrwyddo’r clwb yn ei sgwrs gyda Caryl. Gofynnodd hi i Elfed ers pryd mae e wedi bod yn aelod o’r clwb….. Hyrwyddo To promote
Wedi gollwng Dropped
Denu To attract
Poblogaidd popular
Pob gallu Every ability
Pigion Dysgwyr – Steffan Rhodri
Elfed o Glwb Snwcer Pwllheli oedd hwnna’n sgwrsio gyda Caryl Parry Jones. Yr actor Steffan Rhodri oedd gwestai arbennig Bore Sul. Mae e wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar fel esboniodd e wrth Elliw Gwawr... Yn ddiweddar Recently
Ar fin dod mas About to come out
Wedi ei gyfarwyddo Directed
Gwaith dur Steelworks
Teulu cyffredin Ordinary family
Ffoaduriaid Refugees
I raddau To an extent
Mae’n anochel It’s inevitable
Pigion Dysgwyr – Geraint Rowlands
Wel mae Steffan Rhodri wir wedi bod yn brysur yn ddiweddar on’d yw e? Yn y clip nesa ‘ma byddwn yn clywed y patholegydd o Ysbyty’r Brifysgol yng Nghaerdydd, Geraint Lloyd Rowlands, yn sôn am sut buodd e’n codi arian er cof am Alan, ei ffrind o ddyddiau ysgol. Buodd Alan farw o Gancr y Pancreas dwy flynedd yn ôl, a dyma Geraint ar Bore Cothi ddydd Mercher diwetha i sôn mwy am yr her mae wedi ei chwblhau i gofio am ei ffrind...
Her A challenge
Wedi ei chwblhau Has completed
Campfa Gym
Wedi hen gyrraedd Easily reached
Ymdrech Effort
Pigion Dysgwyr – Bryn Terfel
Wel dyna wych, Llongyfarchiadau mawr i Geraint am gerdded mor bell er cof am ei ffrind, on’d ife?
Mae’r canwr opera Bryn Terfel newydd ryddhau albwm newydd, a chafodd Alun Thomas sgwrs gyda fe ar y rhaglen Bore Sul. Buodd Bryn yn sôn am yr adeg pan ganodd e ddeuawd gyda Sting. Gofynnodd Alun iddo fe sut wnaeth e gyfarfod â’r canwr pop enwog am y tro cynta Newydd ryddhau Just released
Deuawd Duet
Cyngerdd mawreddog A grand concert
Cefn llwyfan Backstage
Arddull Style
Cysylltiad Connection
Cychod Boats
Rhediad A run
Tue, 06 Feb 2024 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Arfon Jones Mae deiseb sy'n galw am ddefnyddio’r enw Cymru a Chymru'n unig ac i beidio â defnyddio'r enw 'Wales' wedi casglu dros un-deg un mil o lofnodion. Cyn-athro o Hen Golwyn ddechreuodd y ddeiseb a chafodd Rhodri Llywelyn sgwrs gydag Arfon Jones wythnos diwetha ar Dros Ginio. Deiseb Petition
Llofnodion Signatures
Prif Weithredwr Chief Executive
Gwyrthiau Miracles
Bras Bold
Tristwch Sadness
Cefnogwyr Fans
Digwyddiad Event
Pigion Dysgwyr – Siop Del Wel ie, tybed wnawn ni glywed y cefnogwyr yn gweiddi Cymru yn lle Wales yn y dyfodol. Cawn weld on’d ife? Nos Fawrth diwetha ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Del Jones. Mae Del yn dod o Garn Fadryn ym Mhen Llŷn yn wreiddiol ond yn byw nawr yng Nghlynnog Fawr gyda’i phartner Math. Erbyn hyn mae hi wedi dilyn ei breuddwyd ac agor siop yng Nghricieth a hefyd mae hi‘n rhedeg gwasanaeth glanhau. Dyma Del yn esbonio y daith gymerodd hi ar ôl iddi hi adael ei swydd fel rheolwr gwesty……
Breuddwyd Dream
Penderfyniad Decision
Cryfder Strength
Ymchwil Research
Ffyddlon Faithful
Rhan amser Part time
Y Cyfnod clo Lockdown
Heriol Challenging
Pigion Dysgwyr – Treorci A phob lwc i Del gyda’i menter newydd on’d ife? Ar eu rhaglen Sadwrn cafodd Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips air gyda rhai oedd wedi dod i dafarn y Lion yn Nhreorci . Mae yna gynllun wedi dechrau yn nhrefi Aberdâr a Threorci i annog dysgwyr i fynd i siopau ble mae yna siaradwyr Cymraeg yn gweithio, er mwyn iddyn nhw allu defnyddio eu Cymraeg y tu allan i’r dosbarth. Hapus i Siarad yw enw’r cynllun ag un oedd yn y Lion oedd Jo… Menter Venture
Annog To encourage Sylweddoli To realise
Dwy fenyw Dwy ddynes
Ieuenctid Youth
Diwylliant Culture
Yn ddifrifol (o ddifri) Seriously
Pigion Dysgwyr – Guto Bebb On’d yw hi’n bwysig rhoi cyfle i ni gyd fedru defnyddio’n Cymraeg yn y gymuned? Da iawn a phob lwc i griw Hapus i Siarad. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha oedd cyn Aelod Seneddol Aberconwy Guto Bebb. Un o’i ddiddordebau mwya ydy cerddoriaeth fel buodd e’n sôn wrth Beti... Aelod Seneddol Aberconwy Former Aberconwy MP
Diléit Diddordeb
Gor-ddweud To exaggerate
Buddsoddi’n helaeth To invest massively
Casgliad A collection
Mynd at fy nant i Interests me
Dw i’n dueddol o I tend to
Pigion Dysgwyr – Mills and Boon Pedair mil o albymau? Wel dyna beth yw casgliad helaeth on’d ife? Thema rhamantus oedd ar Dros Ginio bnawn dydd Iau pan buodd Lissa Morgan yn sôn am gyfres ramant Mills and Boon. Mae Lissa wedi bod yn ysgrifennu llyfrau i’r cwmni a dyma hi i ddweud ei stori. Cyhoeddi To publish
Cyflwyno To introduce
Cynhyrchiol Productive
Mor awyddus So eager
Tu hwnt Beyond
Pigion Dysgwyr – Grav Digon o ramant ar Dros Ginio ar ddydd Santes Dwynwen! Ers degawd bellach mae’r actor Gareth John Bale wedi bod yn perfformio y sioe un dyn “Grav” am hanes bywyd y chwaraewr rygbi a’r darlledwr Ray Gravelle, o Fynydd-y-garreg ger Cydweli. Ond cyn bo hir bydd y sioe yn teithio i Adelaide yn Awstralia. Dyma Gareth i sôn mwy… Degawd Decade
Rhyfeddol Amazing
Antur Adventure
Ymateb Response
Cwpla Gorffen
Cawr Giant
Pwysau Pressure
Dehongliad Interpretation
Gwyro To deviate
Gofod Space
Yn uniongyrchol Directly
Tue, 30 Jan 2024 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Anne Uruska Wythnos diwetha roedd hi‘n 80 mlynedd ers brwydr Monte Cassino yn yr Eidal. Un fuodd yn brwydro ar ran y fyddin Bwylaidd yn erbyn yr Eidalwyr a’r Almaenwyr, oedd tad Anne Uruska o Aberystwyth. Roedd Stanislaw Uruski yn rhan o gatrawd fuodd yn brwydro rhwng Napoli a Rhufain am fisoedd lawer. Dyma Ann i sôn am hanes ei thad…. Byddin Pwylaidd Polish Army
Catrawd Regiment
Brwydro To fight
Hanu o To haul from
Cipio To capture
Gwlad Pwyl Poland
Dengid Dianc
Rhyddhau To release
Mewn dyfynodau In exclamation marks
Y Dwyrain Canol The Middle East
Pigion Dysgwyr – Esgusodwch Fi Anne Uruska yn fanna‘n sôn am hanes diddorol ei thad, ac mae’n siŵr bod llawer ohonoch chi’n nabod Anne fel un o diwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth. Gwestai diweddar y podlediad Esgusodwch Fi, sydd yn trafod materion sydd yn berthnasol i’r gymuned LGBT+, oedd y cyfarwyddwr ffilm Euros Lyn. Mae Euros wedi cyfarwyddo Dr Who, Happy Valley, Torchwood, Sherlock yn ogystal â nifer o gyfresi eraill. Dyma fe i sôn am un o’i brosiectau diweddara sef Heartstopper i Netflix…. Cyfarwyddwr Director
Cyfresi Series
Diweddara Most recent
Dau grwt Dau fachgen
Eisoes Already
Ehangach Wider
Cenhedlaeth Generation
Profiad Experience
Yn ddynol Human
Hoyw Gay Pigion Dysgwyr – Antarctica Euros Lyn oedd hwnna’n sôn am y gyfres Heartstopper sydd i’w gweld ar Netflix. Does dim llawer o bobl sy’n gallu dweud eu bod nhw wedi bod yn Antarctica. Ond un sydd wedi bod yno yw y biolegydd morol Kath Whittey, a buodd hi’n siarad am y profiad ar raglen Aled Hughes fore Mawrth diwetha…. Biolegydd morol Marine biologist
Llong Ship
Cynefin Habitat
Anghyfforddus Uncomfortable
Sbïad Edrych
Pigion Dysgwyr – Diwrnod Cenedlaethol yr Het Mae Kath yn gwneud i Antartica swnio fel planed arall on’d yw hi? Roedd Dydd Llun yr wythnos diwetha yn ddiwrnod cenedlaethol yr het. Un sydd a chasgliad sylweddol o hetiau yw Angela Skyme o Landdarog ger Caerfyrddin. Dyma hi’n sgwrsio gyda Shan Cothi am y casgliad sydd ganddi Casgliad sylweddol A substantial collection
Cael gwared To get rid
Hen dylwyth Old family
Menyw Dynes
Drych Mirror
Pigion Dysgwyr – Clare Potter
A dw i’n siŵr bod Angela’n edrych yn smart iawn yn ei hetiau. Bardd a pherfformwraig ddwyieithog yw clare e. potter, ac mae ganddi MA o Brifysgol Mississippi mewn Llenyddiaeth Affro-Garibïaidd. Mae Clare wedi cyfieithu gwaith y bardd Ifor ap Glyn i’r Saesneg ac mae hi wedi bod yn Fardd y Mis Radio Cymru. Mae'n dod o bentref Cefn Fforest ger Caerffili yn wreiddiol a Saesneg oedd iaith y cartref a'r pentref. Cafodd hi ei hysbrydoli gan athro Cymraeg Ysgol Gyfun Coed Duon ac aeth ati i ddysgu'r iaith. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd hi gyda Beti George Llenyddiaeth Literature
Bardd Poet
Ysbrydoli To inspire
Mam-gu Nain
Emynau Hymns
Rhegi To swear
O dan y wyneb Under the surface
Ffili credu Methu coelio
Braint A privilege
Pigion Dysgwyr – Nofio Gwyllt Beti George yn fanna’n sgwrsio gyda clare e. potter ar Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha. Owain Williams oedd gwestai rhaglen Shelley a Rhydian ddydd Sadwrn ar gyfer slot newydd o’r enw Y Cyntaf a’r Ola. Owain yw cyflwynydd cyfres newydd ar S4C o’r enw Taith Bywyd sydd ar ein sgriniau ar hyn o bryd. Yn Llundain mae e’n byw a dyma fe’n sôn wrth Shelley a Rhydian am y nofio gwyllt mae e’n ei wneud…. Degawdau Decades
Llynnoedd Lakes
Tue, 23 Jan 2024 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Gwyneth Keyworth
Mi fydd yr actores o Bow Street ger Aberystwyth, Gwyneth Keyworth, yn perfformio mewn cyfres ddrama deledu newydd, Lost Boys and Fairies cyn bo hir. Dyma Gwyneth ar raglen Shelley a Rhydian yn sôn mwy am y ddrama a’i rhan hi ynddi.
Cyfres Series
Ymdrin â To deal with
Mabwysiadu To adopt
Hoyw Gay
Tyner Gentle
Pigion Dysgwyr – Ian Gwyn Hughes
Gwyneth Keyworth oedd honna’n sôn am ei rhan hi yn y ddrama deledu newydd Lost Boys and Fairies . Gwestai Arbennig rhaglen Bore Sul oedd Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Yn ystod ei sgwrs gyda Betsan Powys mi soniodd Ian am ei weledigaeth pan ddechreuodd weithio efo’r Gymdeithas Bêl-droed.
Gweledigaeth Vision
Pennaeth Cyfathrebu Head of Communication
Cyflwyno Introduce
Naws Cymreig A Welsh ethos
Plannu hadau Planting seeds
Gorfodi To force
Diwylliant Culture
Hunaniaeth Identity
Cynrychioli To represent
Balchder Pride
Ymateb To respond
Gan amlaf More often than not
Pigion Dysgwyr – Nayema Khan Williams
Cofiwch y gallwch chi wrando ar sgwrs gyfan Ian Gwyn Hughes unrhyw bryd sy'n gyfleus i chi drwy fynd i wefan neu ap BBC Sounds. Nayema Khan Williams ymunodd â Beti George ar Beti a’I Phobol wythnos diwetha. Mae Nayema a’i gŵr Osian yn rhan o gyfres Gogglebocs Cymru ar S4C ar hyn o bryd. Mi gafodd hi ei magu yng Nghaernarfon, ond roedd ei rhieni – Mirwas Kahn a Zari Kahn yn dod o Bacistan yn wreiddiol. Daeth ei thad draw yn y 50 i Gaernarfon, ac ar y dechrau mi fuodd o’n gwerthu bagiau o gwmpas tafarndai. Wedyn mi fuodd yn gwerthu bagiau ym marchnad Caernarfon ac mewn marchnadoedd eraill am flynyddoedd. Dyma Nayma yn sôn am ei ffydd…… Ffydd Faith
Dwyn i fyny Brought up
Gweddïo To pray
Aballu And so on
Pigion Dysgwyr – Pilates
Nayema Khan Williams o Gaernarfon yn fanna yn sôn ychydig am Islam. Drwy gydol wythnos diwetha thema Rhaglen Aled Hughes oedd “ Dydy hi byth yn rhy hwyr” sef cyfres o eitemau i annog gwrandawyr i sylweddoli nad ydy hi byth yn rhy hwyr i wynebu sialensau newydd. Mi ymwelodd Aled ag Eirian Roberts yng Nghaernarfon i gael gwers Pilates. A dyma sut aeth pethau Annog To encourage Garddwrn Wrist
Y glun The hip
Anadlu To breath
Asennau Hips
Tueddu i or-ddatblygu Tend to over develop
Sbio Edrych
Pigion Dysgwyr – Chloe Edwards
Gobeithio bod Aled yn iawn ynde ar ôl yr holl ymarferion Pilates ‘na! Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu Cymraeg chwaith, ac un sydd wedi profi hynny ydy Chloe Edwards. Fore Mercher diwetha ar raglen Aled Hughes mi soniodd Chloe wrth Aled am y daith mae hi wedi gymryd i ddod yn rhugl yn yr iaith. Trwy gyfrwng Through the medium
Gweithgareddau Activities
Pigion Dysgwyr – Pantomeim
Ac mae Chloe newydd ymuno â thîm tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor. Pob lwc iddi hi ynde? . Nos Fawrth ddiwetha ar ei rhaglen mi gafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Rhian Lyn Lewis. Mae Rhian ar hyn o bryd yn chwarae rhan un o’r gwragedd drwg ym Mhanto y Friendship Theatre Group yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli. Gofynnodd Caryl iddi hi’n gynta ers pryd mae’r cwmni wedi bod yn perfformio Pantomeim Elusennau Charities
Llwyfan Stage
Pres Arian
Bant I ffwrdd
Y brif ran The main part
Ymylol Peripheral
Tywysoges Princess
Tylwyth teg Fairy
Tue, 16 Jan 2024 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Jessica Robinson Cynrychiolydd Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, cafodd ei gynnal yng Nghaerdydd yn 2023, oedd y soprano o Sir Benfro Jessica Robinson. Ddydd Calan, hi oedd gwestai Shan Cothi ar ei rhaglen, a gofynnodd Shan iddi hi yn gynta beth oedd ei gobeithion hi am 2024…. Cynrychiolydd Representative
Gŵyl gerddorol Musical festival
Safon Quality
Anelu ato To aim for
Datganiad Recital
Yn elfennol bwysig Of prime importance
Cydbwysedd Balance
Cyfansoddwyr Composers
Cyfeilio To accompany
Dehongliad Interpretation
Pigion Dysgwyr – Sion Tomos Owen Wel mae blwyddyn brysur iawn o flaen Jessica yn does? Bardd y Mis ar gyfer mis Ionawr ar Radio Cymru, ydy Sion Tomos Owen o Dreorci. Mae Sion yn arlunydd ac yn fardd, ond mae o hefyd yn un o gyflwynwyr rhaglen Cynefin ar S4C. Dyma fe ar Ddydd Calan yn sgwrsio gyda Sara Gibson, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes, i sôn am un o uchafbwyntiau 2023 iddo fe…. Bardd y mis Poet of the month
Arlunydd Artist
Cyflwynwyr Presenters
Uchafbwyntiau Highlights
Murluniau Murals
Ogofau Caves
Tafliad carreg A stone’s throw
Amgenach Different
Dylunio Designing
Arbrofi Experimenting
Pigion Dysgwyr – Meleri Wyn James Sion Tomos Owen oedd hwnna, Bardd y Mis Radio Cymru yn sôn am graffiti. Bob wythnos ar raglen Bore Sul mae gwestai yn rhannu straeon a phrofiadau. Ar rifyn ola 2023, yr awdures Meleri Wyn James o Aberystwyth fuodd yn siarad gyda Betsan Powys. Meleri enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Boduan a hi hefyd ydy awdures y gyfres boblogaidd, Na Nel. Dyma hi i sôn am sut mae arferion darllen plant, yn ei barn hi, wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwetha … Y Fedal Ryddiaith The Prose Medal
Gofid Concern
Annog To encourage
Dychymyg Imagination
Annibynnol Independent
Gwnïo To sew
Pwytho To stitch
Penderfynol Determined
Disgyblaeth Discipline
Dadwneud To undo
Pigion Dysgwyr – Liz Saville Roberts Ie, mae hi mor bwysig i annog plant i ddarllen ond yw hi? A gobeithio bydd llyfrau Meleri yn llwyddo i wneud hynny yndife? Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, Liz Saville Roberts oedd gwestai Beti a’i Phobol yr wythnos hon. Mi gafodd hi ei magu yn Llundain ond mi gafodd hi ei denu i Gymru oherwydd ei diddordeb yn y Mabinogi. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth mi aeth yn newyddiadurwraig ag yn ddarlithydd cyn iddi hi droi at wleidyddiaeth. Dyma hi’n sôn am ei diddordeb yn y Mabinogi…. Cofiwch bod yna gyfle i glywed y rhaglen gyfan ar BBC Sounds. Cafodd hi ei denu She was lured
Y Chweched Sixth form
Traethawd estynedig Dissertation
Cyhoeddiad A publication
Wedi gwirioni Wedi dwlu ar
Fel petai Seems to
Bellach yn yr etholaeth In the constituency by now
Rhyfedd Strange
Pigion Dysgwyr – Dylan Jones Liz Saville Roberts oedd honna’n sôn am sut oedd y Mabinogi wedi dylanwadu ar ei bywyd hi. Y ceffyl oedd thema Troi’r Tir fore Sul, ac un oedd yn siarad ar y rhaglen oedd Dylan Jones o Foelfre ger Abergele. Mae Teulu Dylan, ers y 70au, wedi bod yn cyflenwi ceffylau ar gyfer y diwydiant ffilm. Dyma fe i sôn mwy...
Wedi dylanwadu Had influenced
Cyflenwi To supply
Diwydiant Industry
Pigion Dysgwyr – Cleif Harpwood Ceffylau Cymru yn chwarae rhan bwysig mewn ffilmiau a rhaglenni teledu. Difyr yndife? Mi fuodd Dei Tomos yn recordio yn ddiweddar yng Nghwm Afan ar gyfer ei raglen Nos Sul. Un gafodd ei fagu yn yr ardal ydy’r cerddor Cleif Harpwood ac mi fuodd o’n sôn wrth Dei am hanes Cymreictod y cwm…… Cerddor Musician
Y Canol Oesoedd The Middle Ages
Arglwyddi Lords
Yr Ucheldir The Highlands
Caerau Forts
Cors halenog Salty marsh
Mintai Troop
Braw A fright
Cenhadu Doing missionary work Y groesgadoedd The crusades
Ymestyn To extend
Tue, 09 Jan 2024 14:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1 John ac Alun – ymweld â Phorthdinllaen:
Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni aeth John ac Alun am dro o gwmpas eu hoff lefydd ym Mhen Llŷn, a dewis John oedd cael mynd draw i Borthdinllaen, a rhoi gwahoddiad i Meinir Pierce Jones, un o ferched yr ardal i ddod yno am sgwrs.
Arwyddocâd Significance Cysgod diogel Safe shelter Delfrydol Ideal Dyfnder Depth Porthladdoedd Ports Gofaint Blacksmith Seiri Carpenters Safle diwydiannol An industrial site Gan fwya Mostly Argian Good Lord Trochi traed Paddling
2 Clip Aled Hughes:
Mae hi’n anodd meddwl am Borthdinllaen fel safle diwydiannol yn tydy? Tybed faint o’r twristiaid sy’n mynd yno bob blwyddyn sy’n gwybod am hanes y lle?
Ac mi arhoswn ni ym Mhen Llŷn efo’r clip nesa ‘ma. Ar Orffennaf y 26ain y llynedd, wrth edrych ‘mlaen at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mi gafodd Aled Hughes gwmni’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac aeth y ddau i gopa’r Eifl, a dyma chi flas o’u sgwrs.
Awgrym A suggestion Machlud Sunset Rhufeiniaid yn cilio The Romans withdrawing Anwybyddu To ignore Gwyddelod Irish people Gwaywffon Spear Penwaig Herring Dinasyddiaeth Citizenship Diwylliedig Cultured Tyndra ar y ffin Tension on the border
3 Beti a’i Phobol:
Dipyn bach o hanes ardal yr Eifl yn fanna gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.
Sioned Lewis oedd gwestai Beti a'i Phobol ar y 7fed o Fai 2023. Mae Sioned yn Gwnselydd ac yn Seicotherapydd ac yn dod yn wreiddiol o Ddolwyddelan yn Sir Conwy. MI fuodd hi’n gweithio mewn sawl maes gwahanol, yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Sioned ydy Cwnselydd y rhaglen Gwesty Aduniad ar S4C. Yn y clip hwn mae hi’n sôn am ei hamser yn dioddef o gancr y fron:
Archdderwydd Archdruid Cancr y fron Breast cancer Efo chdi Gyda ti Cwffio Ymladd Dychmygu Imagining Cyfres Series Triniaethau Treatments Ffydd Faith Blin Yn grac Ymdopi Coping Y blaenoriaeth The priority
4 Bore Cothi:
Sioned Lewis oedd honna’n siarad am ei phrofiad o fod efo cancr y fron.
Ar Fedi’r 27ain y llynedd, mi roedd Max Boyce yn dathlu ei ben-blwydd yn 80, ac i nodi’r garreg filltir arbennig yma mi fuodd Max allan ar y ffordd unwaith eto yn perfformio mewn cyfres o gyngherddau. Mi gafodd Shan sgwrs efo Max cyn y daith, gan gychwyn drwy ofyn oedd y penderfyniad i deithio eto’n un anodd?
Carreg filltir Milestone Yr hewl (heol) The road Rhoi’r ffidil yn y to To give up Cwpla Gorffen Ysbrydoli To inspire Clwb gwerin Folk club Uniaethu To identify Ystyried To consider
5 Caryl Parry Jones:
Y bytholwyrdd Max Boyce yn dathlu ei ben-blwydd drwy berfformio - wel be arall ynde?
Yn ôl ym mis Mai 2023 cafodd Caryl sgwrs gyda Heather Hughes. Mae Heather yn aelod o grŵp nofio Titws Tomos Môn. Yn 2019 mi gafodd hi waedlif ar yr ymennydd a chyflwr o’r enw Hydrocephalus, sef dŵr ar yr ymennydd. Ers hynny mae hi’n nofio yn y môr ym mhob tywydd. Yn y clip hwn cawn glywed Heather yn sôn am ei phrofiad, a pha mor llesol ydy nofio yn y môr iddi hi:
Bytholwyrdd Evergreen Gwaedlif ar yr ymennydd Brain haemorrhage Cyflwr Condition Llesol Beneficial Poblogrwydd Popularity Llwythi Loads Goro Gorfod
6 Trystan ac Emma:
Dyna enw da ar y grŵp ynde – Titws Tomos Môn!
Ddechrau mis Rhagfyr mi gafodd Rhaglen Trystan ac Emma wahoddiad i Gaffi Largo ym Mhwllheli. Mi fuodd yna lawer o hwyl a sbri yn y caffi - yn siarad efo’r staff ac efo pobl leol. Un ohonyn nhw oedd Christine Jones o dre Pwllheli:
Haeddu To deserve Bobol annwyl! Goodness me! Brolio To boast Yn rhagori Surpasses Nionyn picl Pickled onion
7 Ffion Dafis:
Christine Jones – un o gymeriadau ardal Pwllheli yn dod â llwyth o hwyl a chwerthin i Gaffi Largo’r dre.
Ac yn ardal Pwllheli oedd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wrth gwrs ac yno cafodd fersiwn e-lyfr o’r nofel boblogaidd iawn, Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard, ei lawnsio, efo’r actorion John Ogwen a Maureen Rhys yn ei darllen. Yn y clip hwn ar raglen Ffion Dafis mae John yn sôn am y tro cynta daeth o ar draws y nofel:
Digwyddiad Event Gwerthfawrogi To appreciate Beirdd Poets Lleuad Moon Gwên ryfeddol A wonderful smile Dagrau Tears Atgof Recollection
Tue, 02 Jan 2024 14:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1 Uffern Iaith y Nefoedd:
Brynhawn Sadwrn diwetha mi glywon ni raglen arbennig o’r Sioe banel hwyliog Uffern Iaith y Nefoedd dan ofal Gruffudd Owen. Y panelwyr oedd Richard Elis, Sara Huws, Llinor ap Gwynedd a Lloyd Lewis. Rownd cyfieithu caneuon oedd hon:
Nid anenwog Famous (not unfamous) Cyffwrdd To touch Dychwelyd To return Aflonyddu To disturb Nadoligaidd Christmasy Clych Bells
2 Elin Fflur a’r Gerddorfa:
Dipyn bach o hwyl yn dyfalu caneuon oedd wedi eu cyfieithu’n wael yn fanna.
Ddechrau’r mis, mi gafodd cyngerdd arbennig ei gynnal efo Elin Fflur yn canu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Tudur Owen oedd yn arwain y noson a dyma i chi foment emosiynol o’r rhaglen pan mae Tudur yn holi Elin am hanes ei chân fwya poblogaidd, sef Harbwr Diogel – y gân gafodd ei hysgrifennu gan Arfon Wyn, wrth gwrs, a’r gân enillodd cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2002:
Cerddorfa Orchestra Breintiedig tu hwnt Privileged beyond Crïo Llefain Cryndod Tremor Golygu To mean Oesol Everlasting Uniaethu To identify Mor gyfarwydd So familiar
3 Rhaglen Cofio:
Noson emosiynol iawn i Elin Fflur, ac i Tudur hefyd, yng Nghanolfan Pontio ym Mangor.
Nadolig oedd thema rhaglen archif Cofio gyda John Hardy brynhawn Sul, a Noswyl Nadolig yn thema arbennig felly. Un o draddodiadau mawr y Nadolig yn y capeli ydy plant bach yn perfformio Drama’r Geni, ac mae llawer o hwyl wrth i’r plant grwydro o’r sgript weithiau. Dyma glip o ddau weinidog yn cofio ambell i ddrama o’r fath:
Drama’r Geni Nativity play Gweinidog Minister Hogyn Bachgen Gŵr y llety Innkeeper Yn ffradach Chaotic Ymgnawdoliad Incarnation Beichiog Pregnant Gweddi A prayer Mo’yn Eisiau
4 Chwalu Pen:
On’d oes yna hwyl efo Drama’r Geni pan mae’r plant yn penderfynu mynd eu ffordd eu hunain?
Un o uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr Ŵyl ydy’r cwis poblogaidd Chwalu Pen, a chafodd y rhaglen ei darlledu brynhawn Gwener diwetha yr 22ain o Ragfyr. Mari Lovgreen oedd yn trïo cadw trefn ar Catrin Mara, Arwel Pod Roberts, Welsh Whisperer a Mel Owen. Dyma nhw’n trio dyfalu’r rownd gyntaf ond cyn hynny, Mari sydd yn ein hatgoffa o’r rheolau:
Uchafbwyntiau Highlights Darlledu To broadcast Dyfalu To guess Atgoffa To remind Rheolau Rules Y flwyddyn a fu The past year Cwblha! Complete! Cyn seren Former star
5 Ho Ho Hywel:
Mae Mel yn amlwg yn nabod ei chaneuon Nadoligaidd yn tydy?
Ar ddydd Nadolig mi fuodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis yn mwynhau straeon a chaneuon yng nghwmni gwesteion ar y rhaglen arbennig Ho Ho Hywel. A dyma’r comedïwr Dilwyn Morgan yn rhannu rhai o’i atgofion cynnar am y Nadolig :
Atgofion Memories Tro ar ôl tro Time after time Tyddyn bach A smallholding Ar lethrau On the slopes Hel tai Going from house to house Comisiwn Coedwigaeth Forestry Commission Beudy Cowhouse Wedi sychu’n grimp Dry as a bone
6 Talwrn Nadolig:
Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy’r Talwrn ac unwaith eto eleni mi fuodd yna raglen arbennig o’r Talwrn – sef Talwrn Nadolig rhwng dau dîm o feirdd amrywiol – sef tîm Bethlehem a thîm Nasareth. Un o’r tasgau oedd sgwennu cerdd ysgafn ar y testun ‘Cinio Nadolig’, a dyma gynnig Iwan Rhys o dîm Bethlehem:
Cerdd Poem Strach A mess Fflwr Blawd Llysfwytäwr pybyr A staunch vegetarian Ffili treulio Can’t digest Di dafod Tongueless Llosg cylla Heartburn Yn sgit Keen on Ysgewyll Sprouts Achwyn Cwyno Tynn Tight Egwyddor Principle Newydd garw Bad news
7 Rhaglen Ifan:
Bydd Y Talwrn yn ôl ar Radio Cymru ar y seithfed o Ionawr am saith o’r gloch efo rhifyn arbennig rhwng Ysgol Glan Clwyd ac Ysgol Maes Garmon.
Yr actores Catrin Mara oedd gwestai Ifan Jones Evans ar ei raglen yn ddiweddar. Sôn oedd Catrin am yr anrheg Dolig gorau a’r gwaetha gafodd hi erioed:
Allweddell Keyboard Cwningen Rabbit Wedi gwirioni Wedi dwlu ar Cwffio Ymladd Alla i ddim dychmygu I can’t imagine Hwyrach Efallai Erchyll Terrible
Tue, 26 Dec 2023 14:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1 Aled Hughes :
Mair Tomos Ifans fuodd yn siarad efo Aled Hughes yn ddiweddar am rai o hen draddodiadau Nadolig gwledydd Ewrop. Mae Mair yn actores, cantores, sgriptwraig, darlithydd a thiwtor. Ond erbyn hyn mae’n treulio llawer iawn o amser yn adrodd straeon ac yn arwain gweithdai mewn ysgolion:
Traddodiadau Traditions Diniwed Innocent Darn o bren A piece of wood Boncyff A log Ymwybodol Aware Ymddangos Appearing Melysion Sweets Curo To beat Carthen A cover Penodol Specific Gwasgaru’r llwch Dispersing the ash
2 Ffion Dafis :
Golwg yn fanna ar rai o draddodiadau Nadolig gwahanol iawn sydd i’w gael yng ngwledydd Ewrop gan Mair Tomos Ifans.
Mi fuodd y pianydd rhyngwladol Llŷr Williams yn perfformio yng Nghanolfan Pontio ym Mangor yn ddiweddar, ac mi gafodd Ffion Dafis sgwrs efo fo am sut mae o’n mynd ati i ymarfer a dewis ei raglen ar gyfer perfformio:
Bysedd Fingers Hyblyg Flexible Ymwybodol Aware Toriadau Breaks Yn fwy cyfarwydd More familiar Dehongli To interpret Datblygu To develop Amlygu ei hun Manifests itself
3 Bore Cothi :
Y pianydd Llŷr Williams oedd hwnna’n rhannu ambell i gyfrinach efo Ffion Dafis am sut mae o’n paratoi at berfformio.
Ddydd Llun yr 11eg o Ragfyr, Alison Huw y gogyddes oedd gwestai Shân Cothi. Trafod ‘sprouts’ oedd hi, neu ysgewyll Brwsel yn Gymraeg. Nid pawb sy’n hoff iawn o’r ysgewyll naci! Ond yma mae Alison yn sôn am ffordd hyfryd o’i weini ar gyfer eich cinio Dolig:
Cyfrinach Secret Ysgewyll Sprouts Gweini To serve Cnau castanwydden Horse chestnut Hallt Salty Plisgo Peeling Ffwrn Popty Moethus Luxurious Rhwydd Hawdd Yn glou iawn Yn gyflym iawn
4 Dros Ginio :
Wel dyna i chi ambell i syniad am ginio Dolig llwyddiannus, ond be am lwyddo i fwynhau parti Nadolig?
Mae yna ymchwil sy’n dangos bod nifer o bobl yn teimlo'n bryderus yn y partïon hyn. Mirain Rhys o Adran Seicoleg Coleg Prifysgol Met Caerdydd, a ‘Mr Cymdeithasu’ Stifyn Parri sy'n trafod sut mae paratoi'n gymdeithasol ar gyfer y partïon?
Pryder a chynnwrf Anxiety and excitement Curiad fy nghalon My heartbeat Anadlu Breathing Baglu To trip Chwydu Vomiting Pynciau Topics Osgoi To avoid Sleifio mewn To sneak in Corwynt Hurricane Dadleuol Controversial Ysgogwyr Stimuli
5 Rhaglen Caryl Parry Jones:
Wel dyna ni wedi cael syniadau coginio Nadolig, syniadau am sut i fwynhau partïon Nadolig ac rŵan dan ni’n mynd i glywed pa fath o Nadolig bydd Helen Evans o Fethesda yn ei fwynhau. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Helen a Shelley Rees oedd yn cadw sedd Caryl yn gynnes nos Fawrth y 12fed o Ragfyr.
Unig blentyn Only child Ysbrydoli To inspire Wedi mopio efo Wedi dwlu ar Y diwrnod canlynol The following day Llond tŷ A houseful
Tue, 19 Dec 2023 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion 12fed Rhagfyr:
1 Bore Coth:
Pan oedd Shân Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd yn ddiweddar, mi wnaeth hi gyfarfod â dwy fenyw, sef Francis Finney a Marcia Price. Roedd y ddwy wedi penderfynu dysgu Cymraeg, felly dyma eu gwahodd ar Fore Cothi am sgwrs:
Darlledu Broadcasting Cancr y fron Breast cancer Diolch byth Thank goodness Dipyn bach yn iau A little bit younger
2 Beti a’i Phobol:
Francis a Marcia oedd y ddwy yna, ac mi roedden nhw wedi dysgu Cymraeg yn wych gyda Dysgu Cymraeg Gwent yn doedden nhw?
Prif ganwr y band Edward H. Dafis, Cleif Harpwood, oedd gwestai Beti George nos Sul diwetha. Mae cwmni recordiau Sain newydd ryddhau casgliad o holl draciau’r band iconig hwn, er mwyn dathlu hanner can mlynedd ers iddyn nhw ffurfio. Yma mae Cleif yn sôn am ei ddyddiau efo’r bandiau Edward H Dafis ac Injaroc:
Rhyddhau To release Cerddorion penna(f) Leading musicians Yn eitha disymwth Quite suddenly Y gynulleidfa The audience Arbrofi To experiment Atgas Obnoxious Y fath wawd Such scorn Bradwyr Traitors Cyfoes Modern Esblygu To evolve
3 Trystan ac Emma Gwener 1af Rhagfyr:
Hanes diddorol bywyd byr y band Injaroc yn fanna gan Cleif Harpwood.
Bob Nadolig dros gyfnod yr Adfent mae trigolion pentref Corris ger Machynlleth yn addurno eu ffenestri. Ar Trystan ac Emma yn ddiweddar mi fuodd un sy’n byw yn y pentre, sef Elin Roberts, yn sgwrsio am y traddodiad arbennig yma yn y pentref:
Addurno To decorate Dadorchuddio To unveil Ymgynnull To congregate Cynllunio To plan Goleuo To light
4 Aled Hughes:
Yn tydy hi’n braf gweld yr holl oleuadau Dolig yng nhai pobl yr adeg hon o’r flwyddyn? Da iawn pobl Corris am wneud y mwya o gyfnod yr Adfent.
Drwy’r wythnos diwetha ar ei raglen mi fuodd Aled Hughes yn siarad efo gwahanol unigolion sydd wedi cymryd rhan yn ymgyrch Defnyddia Dy Gymraeg Comisiynydd yr Iaith. Mae’r sgyrsiau yn pwysleisio sut mae defnyddio’r Gymraeg wedi bod o fantais yn y gwaith o ddydd i ddydd. Yn y clip yma mae Aled yn sgwrsio efo Gareth Williams, un o hyfforddwyr y Scarlets am sut mae o’n defnyddio’r Gymraeg yn ei waith:
Mantais Advantage Hyfforddwyr Coaches Cyfathrebu Communicating Y prif nod The main aim Carfan Squad Cryn dipyn Quite a few Agwedd Aspect Adborth Feedback Unigolyn Individual Cyfarwydd Familiar
5 Dros Ginio:
Gareth Williams oedd hwnna’n gweld mantais mawr mewn defnyddio’r Gymraeg i gyfathrebu efo aelodau o garfan y Scarlets.
Ddydd Mawrth y 5ed o Ragfyr roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Gwirfoddoli. Mae Ruth Marks o Gyngor Gweithredu Gwirfoddoli Cymru, wedi dweud fod y sector o dan bwysau ofnadwy. Hedd Thomas, o’r Cyngor, a Gwenno Parry sy’n gwirfoddoli gyda Radio Ysbyty Gwynedd fuodd yn tafod hyn efo Jennifer Jones ar Dros Ginio:
Gwirfoddoli To volunteer Pwysau Pressure Argyfwng Crisis Gostyngiad Reduction Cyfleoedd Opportunities Cynrychioli To represent Trafferthion Problems Difrifol Serious Newydd raddio Just graduated Wedi bod wrthi Been at it
6 Ifan Jones Evans:
Wel dyna ni , tasech chi eisiau helpu allan efo’r gwaith gwirfoddoli cysylltwch â’r mudiad gwirfoddoli lleol. Dw i’n siŵr bydd yna ddigon o gyfleodd i chi.
Brynhawn Mercher diwetha, cychwynnodd Ifan ar gyfres newydd o sgyrsiau ar ei raglen. Mae o’n trafod hoff bethau’r Dolig gyda gwestai arbennig bob wythnos, o rwan tan Dolig. A dechreuodd o mewn steil a hynny yng nghwmni Gary Slaymaker:
Cymdeithasu To socialise Cwrdda lan To meet up Ymwybodol Aware Sbort Hwyl Yn llethol Overwhelming Nadoligaidd Christmasy Emynau Hymns Cytgan Refrain Nefolaidd Heavenly
Tue, 12 Dec 2023 14:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1 Bore Cothi: Sioe Aeaf.
Ddydd Llun Tachwedd 27 roedd rhaglen Bore Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Cafodd Shân gwmni mam a merch, sef Ffion a Leia Lloyd-Williams o fferm Bathafarn ger Rhuthun. Roedden nhw wedi bod yn dangos ceffyl yn y Ffair, sut aeth hi tybed?
Darlledu Broadcasting Y Ffair Aeaf The Winter Fair Gwisg Costume Fel pin mewn papur Immaculate Awyrgylch Atmosphere Rhan-frîd Part breed Is-bencampwr Reserve Champion
2 Ffion Emyr: Tips Pwdin Dolig.
Roedd Ffion, Leia a Shân hefyd i weld wrth eu boddau gyda’r Ffair Aeaf on’d oedden nhw? Ddydd Sul Tachwedd 26 roedd hi’n Stir Up Sunday sef y Sul ola cyn yr Adfent, a dyma’r diwrnod traddodiadol i bobl wneud eu pwdin Dolig! Y nos Wener cyn hynny rhannodd Ffion Emyr ychydig o dips ar sut i wneud pwdin Dolig. Roedd Ffion wedi casglu’r tips yma gan chefs enwog fel Delia Smith, Andrew Dixon a Nigella Lawson.
Socian To soak Fel rheol As a rule Gorchuddio To cover Llysieuol Vegetarian Blawd Flour Ffigys Figs Cnau wedi malu Chopped nuts Ychwanegwch! Add! Sinsir Ginger Heb wres Without heat
3 Carl ac Alun Gwener 24ain yn lle Trystan ac Emma: Dr Who.
Wel dyna ni felly, o dan y gwely â’r pwdin Dolig! Tips defnyddiol iawn yn fanna gan Ffion Emyr. Wel mae Dr Who yn ôl! Dych chi wedi cael cyfle i weld y gyfres newydd eto? Dw i’n siŵr bod Ianto Williams o Faesybont ger Caerfyrddin wedi ei gweld gan ei fod yn superfan y gyfres. Fore Gwener Tachwedd 24, Carl ac Alun oedd yn cadw sedd Trystan ac Emma yn gynnes rhwng 9 ag 11 a chaethon nhw sgwrs gyda Ianto a’i glywed yn sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who
Cyfres Series Casgliad Collection Deunyddiau Materials Gwerthfawr Valuable Wedi ei arwyddo Signed Halais i Mi wnes i anfon Yn amlwg Obviously Unigryw Unique Cyfrannu at To contribute to
4 Ffion Dafis: Aled Hall mewn opera newydd.
Ianto Williams oedd hwnna’n sôn am ei gasgliad o ddeunyddiau Dr Who. Aled Hall, y tenor operatig o Bencader, Sir Gaerfyrddin oedd yn cadw cwmni i Ffion Dafis yn ddiweddar. Yn y clip hwn, mae Aled yn trafod ei ran yn yr opera newydd Men Sheds, gafodd ei chyfansoddi gan y cerddor Lenny Sayers. Mae’r opera hon yn ceisio codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl dynion:
Cafodd ei chyfansoddi Was composed Codi ymwybyddiaeth Raising awareness Cymeriad Character Aeth ati Went at it Ymdrin â Dealing with Ymgynnull To congregate Cymunedau di-rif Countless communities Cysyniad Concept Angen trafod Need to discuss
5 Aled Hughes:
Mae’n dda gweld opera ar thema modern er mwyn codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl, on’d yw hi? Wythnos diwetha, Arwyn Tomos Jones o Brifysgol Caerdydd, fuodd yn sôn am hen feddyginiaethau gydag Aled Hughes. Dyma i chi flas ar y sgwrs: Meddyginiaethau Medicines Canrif Century Hollol hurt Totally stupid Ysgyfaint Lung Danadl poethion Stinging nettles Dant y Llew Dandelion Tlodi Poverty Cyn bwysiced â As important as Moddion Medicine Hylif Liquid Dim sail No foundation
6 Dros Ginio:
Dyna ddiddorol on’d ife fel roedd pobl yn defnyddio‘r byd natur o’n cwmpas yn feddyginiaethau yn y gorffennol. Ddydd Mawrth diwetha, banciau bwyd oedd yn cael sylw ar Dros Ginio gyda Jennifer Jones. Mae mwy a mwy o alw am y banciau bwyd y dyddiau hyn, ond mae llai ac yn llai o bobl yn cyfrannu bwyd at y banciau. Yn y clip hwn, Trey McCain, Rheolwr Banc Bwyd Arfon sy’n egluro’r sefyllfa i Jennifer. Mae Trey yn dod o Mississippi yng ngogledd America yn wreiddiol ond wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Budd-daliadau Benefits Hanfodol Essential Gwendidau Weakness Credyd Cynhwysol Universal credit Cyflenwadau Provisions Pwysau Pressure Galluogi To enable Pryderus Concerned Neges The shopping Uniongyrchol Direct Ar y gweill In the pipeline
Tue, 05 Dec 2023 14:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1 Byd y Bandiau Pres:
Ar raglen Byd y Bandiau Pres nos Sul y 12fed o Dachwedd, John Glyn Jones, oedd gwestai Owain Gruffudd Roberts. Mi roedd John Glyn yn arfer arwain Seindorf Arian yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog ond yn y clip nesa ma, cofio Band Pres Ieuenctid Gwynedd a Môn mae’r ddau, pan oedd Owain yn aelod o’r band a John yn arwain:
Arwain Seindorf Arian To conduct the Silver Band Band Pres Brass band Ieuenctid Youth Dyddiau aur Golden era Tu hwnt o lwyddiannus Extremely successful Uchafbwynt Highlight Safon Quality Pencampwriaeth Championship Ac felly bu And so it was Disgyblion Pupils
2 Beti a’i Phobol:
John Glyn Jones ac Owain Gruffudd Roberts oedd y rheina’n cofio eu hamser efo’r band pres.
Tomos Parry, cogydd a pherchennog tri bwyty yn Llundain oedd gwestai Beti George yn ddiweddar. Mae Tomos yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o’n brysur yn rhedeg bwytai Brat, Mountain a Brat Outdoors. Mi enillodd o seren Michelin yn Brat, ei fwyty cyntaf. Yma, mae’n sôn am bobl enwog sydd wedi bod yn ei fwytai:
Cynhwysion Ingredients Yn weddol gyson Fairly regularly Aballu And so on Cefnogol Supportive Ysbrydoli To inspire Cerddoriaeth Music
3 Rhaglen Ifan gyda Hana Medi yn cyflwyno:
Tomos Parry y cogydd oedd hwnna, ac mae’n amlwg bod pobl enwog ar draws y byd yn mwynhau dod i’w fwytai.
Gwestai ar raglen Hana Medi oedd Esyllt Ellis Griffiths Llysgenhades Sioe Frenhinol 2024. Mi fuodd hi’n sôn am gale ndr sy newydd ei gyhoeddi i godi arian at apêl y Sioe Frenhinol yn 2024 – Sioe’r Cardis fel mae’n cael ei galw! Ond ddim calendr arferol ydy hon, o na ond un noeth!…
Llysgenhades Ambassador Noeth Naked Pwyllgorau Committees Trefniadau Arrangements Pen tost Cur pen Balch Pleased Ar y cyfan On the whole Ffili Methu Elusennau Charities Cwympo mas Falling out Cneifio Shearing
4 Rhalgen Ffion Dafis:
Wel dyna i chi gesys ynde? Dw i’n siŵr bydd y calendr yn gwerthu’n arbennig o dda!
Ar Sul y 19eg o Dachwedd, Hywel Gwynfryn oedd gwestai Ffion Dafis. Mae Hywel newydd gyhoeddi cofiant yr actores Siân Phillips, ac mae o ar gael yn y siopau rŵan ar gyfer y Nadolig. Yma mae Hywel yn sgwrsio am y broses o sgwennu‘r cofiant:
Cofiant Biography Rŵan ac yn y man Now and then Yn awyddus Eager Hunangofiant Autobiography Deugain mlynedd 40 years Rhwyd Net Daeth e i fwcwl Came to fruition Gogwydd An angle I raddau To an extent Ffynhonnell Source Ysgrifau Articles 5 Dros Ginio:
Ia, dyna fasai anrheg Nadolig gwerth chweil i rywun ynde - cofiant Sian Phillips gan Hywel Gwynfryn.
Ers dechrau'r rhyfel yn Gaza, mae'r bardd Iestyn Tyne wedi bod yn cydweithio gyda beirdd o Balesteina i gyfieithu eu gwaith a rhoi llwyfan Gymraeg i'w lleisiau a'u profiadau. Mi fuodd o’n trafod y gwaith efo Rhodri Llywelyn ar Dros Ginio bnawn Llun wythnos diwetha:
Beirdd Poets Llwyfan A stage Barddoniaeth Poetry Estyn allan To reach out Mewn difri Seriously Ymwybyddiaeth Awareness Gweithred fach A small deed
6 Aled Hughes:
Prosiect diddorol iawn gan Iestyn Tyne yn cyfieithu gwaith beirdd Palesteina i’r Gymraeg.
Ddydd Mawrth yr 21ain o Dachwedd, Lisa Fearn y gogyddes yn oedd yn cadw cwmni i Aled Hughes. Sôn am daffi triog oedd hi ac am y traddodiad o fwyta’r taffi yr amser yma o’r flwyddyn:
Taffi triog Treacle toffee Cyflaith Toffee Yn rheolaidd Regularly Traddodiad Tradition Gwirionedd Truth Canrif Century Ar ddihun Awake
Tue, 28 Nov 2023 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchClip 1 Trystan ac Emma:
Buodd Steffan Long o Gaerdydd yn sgwrsio ar raglen Trystan ac Emma yn ddiweddar, ac yn sôn am ei waith fel cynorthwyydd dysgu Saesneg mewn Ysgol yn Tokyo, a dyma i chi flas ar y sgwrs:
Cynorthwyydd Assistant Ma’s Allan Hir dymor Long term Parhau Continue Disgyblion Pupils Mymryn A little
Clip 2 Rhaglen Cofio:
Steffan Long oedd hwnna’n sôn am ei waith mewn ysgol yn Tokyo.
Wythnos diwetha roedd hi’n Sul y Cofio a dyna beth oedd thema rhaglen Cofio gyda John Hardy. A dyma i chi glip o Harold Williams yn sôn am ddod i Lanrwst fel ifaciwî o Lerpwl yn ystod yr Ail Ryfel Byd:
Ail Ryfel Byd Second World War Trais Violence Pledu cerrig Throwing stones Cyfnod Period Yn achlysurol Occasionally Mynd yn eu holau Returning Lleia’n byd o sôn oedd The less it was mentioned Buan iawn Very soon
Clip 3 Bwrw Golwg:
Hanes rai o ifaciwîs Llanrwst yn fanna ar raglen Cofio.
Ar Bwrw Golwg ar y 12fed o Dachwedd, mi roddwyd sylw i Diwali neu Ŵyl y Goleuni, sy’n cael ei dathlu gan Hindŵiaid a Sikhiaid. Yn y clip nesa ‘ma mae Mohini Gupta, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn sôn am draddodiadau’r Ŵyl hon efo Gwenfair Griffith:
Goleuni Light Traddodiadau Traditions Addurno To decorate Gweddïau Prayers Buddugoliaeth Victory Tywyllwch Darkness Gwahodd ffyniant Inviting prosperity Pryder amgylcheddol Environmental concern Ymdrechion i annog Efforts to encourage Melysion Confectionary Byrbrydau Snacks
Clip 4 Rhaglen Aled Hughes:
Mae’n swnio fel bod dathliadau Diwali yn llawn o fwyd blasus yn tydy?
DJ Katie Owen oedd gwestai Aled Hughes yn ddiweddar. Mae Katie wedi dilyn Cymdeithas Bêl-Droed Cymru ar draws y byd yn chwarae cerddoriaeth i’r cefnogwyr, ac mae hi wedi dysgu Cymraeg. Buodd Katie ar y rhaglen Iaith ar Daith efo’i mentor Huw Stephens yn 2021. Mi gafodd Aled â Katie sgwrs yng Nghanolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn, ac yn y clip hwn mae hi’n sôn am gymaint mae hi’n caru dysgu Cymraeg:
Cymdeithas Bêl-Droed Cymru Football Association of Wales Cefnogwyr Fans Mo’yn Eisiau Cerddoriaeth Music Ar goll Lost Mi ddylet ti fod You should be
Clip 5 Rhaglen Caryl:
Dal Ati Katie, mi fyddi di’n rhugl cyn bo hir, dw i’n siŵr.
Lowri Cêt oedd yn cadw cwmni i Caryl ddechrau’r wythnos diwetha. Mae Lowri yn chwarae rhan Sindarela ym mhantomeim blynyddol Theatr Fach Llangefni. Yma mae’n dweud mwy am y sioe:
Stori draddodiadol Traditional story Llysfam gas Wicked stepmother Annifyr Unpleasant Yn gyfarwydd â Familiar with Hyll Ugly Gwisgoedd Costumes Cymeriadau Characters Yn brin iawn Very rarely Hawlfraint Copyright
Clip 6 Bore Cothi:
Wel am hwyl ynde? A phob lwc i griw Theatr Fach Llangefni efo’r pantomeim.
Bob nos Fawrth mae’r rhaglen Gwesty Aduniad i’w gweld ar S4C. Mae’r rhaglen yn trefnu aduniad i bobl sydd wedi colli cysylltiad â’i gilydd ond hefyd yn trenu i bobl gyfarfod â’i gilydd am y tro cynta mewn amgylchiadau arbennig. Mae’n gyfres boblogaidd ac emosiynol iawn. Nos Fawrth y 14eg o Dachwedd roedd Guto Williams o Dregarth ar y rhaglen. Mae Guto wedi cael ei fabwysiadu ac yn awyddus i ddod o hyd i’w deulu coll:
Aduniad Reunion Mabwysiadu To adopt Adlewyrchiad Reflection Magwraeth Upbringing Rhieni maeth Foster parents Tebygolrwydd Similarity Cam mawr A big step Greddf Instinct Parch Respect Ffawd Lwc Clamp o stori A huge story
Tue, 21 Nov 2023 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchClip 1: Bore Cothi
Bore Llun y 6ed o Dachwedd, Mici Plwm oedd yn cadw cwmni i Shân Cothi. Gan ei bod hi’n dymor piclo a gwneud siytni, dyma gael sgwrs efo’r prif biclwr ei hunan. Yma mae Mici yn sôn am nionod brynodd o yn Roscoff, Llydaw, a sut mae o am eu piclo mewn cwrw:
Nionod Winwns Llydaw Britanny Ar gyrion Ger Bragdai Breweries Arbrofi To experiment Eirin Plums Eirin tagu Sloes Hel Casglu Y werin The common people Byddigion Posh people
Clip 2 – Rhaglen John ac Alun.
Www, nionyn wedi ei biclo mewn cwrw, swnio’n ddiddorol yn tydy?
Roedd ‘na barti mawr ar Raglen John ac Alun ar y 5ed o Dachwedd– parti penblwydd y rhaglen yn 25 oed! Ac mi ymunodd Dilwyn Morgan yn yr hwyl hefyd, a buodd hi’n gyfle i hel atgofion. Yma, mi gawn ni glywed clip o’r archif sef rhaglen gyntaf John ac Alun cafodd ei darlledu yn ôl yn Ebrill 1998:
Hel atgofion Reminisce Darlledu To broadcast Dipyn o gamp Quite an achievement Para To last Cyflwyno Presenting Cynulleidfa Audience Wch chi be? You know what? Cefndir Background
Clip 3: Dros Ginio
John ac Alun yma o hyd, ac yn boblogaidd iawn gyda gwrandawyr Radio Cymru.
Yn ddiweddar mae llawer mwy o bobl ifanc yn delio efo eco-bryder, sy’n cael ei achosi drwy boeni am effeithiau newid hinsawdd. Mae Fflur Pierce o Ddyffryn Nantlle yn un o’r rheini, a buodd hi’n sôn wrth Cennydd Davies wythnos diwetha am y profiad o fyw efo’r cyflwr hwn:
Eco-bryder Eco anxiety Newid hinsawdd Climate change Cyflwr Condition Yn fengach Yn ifancach Baich A burden Teimlo’n euog Feeling guilty Rhwystredig Frustrating Gwyddonwyr Scientists Sbio Edrych
Amgylchedd Environment
Clip 4: Newid Hinsawdd a Fi
Does na ddim llawer o fanteision i newid hinsawdd nac oes, ond mi glywon ni am un fantais ar y rhaglen Newid Hinsawdd a Fi bnawn Sul y 5ed o Dachwedd. Aeth Leisa Gwenllian draw i Winllan y Dyffryn ger Dinbych. Mae newid hinsawdd yn golygu ei bod yn bosib cynhyrchu gwin yn Nyffryn Clwyd hyd yn oed. Yma mae Leisa yn sgwrsio efo perchennog y winllan, Gwen Davies sydd wedi dysgu Cymraeg:
Cynhyrchu To produce Perchennog Owner Gwinllannoedd Vineyards Cynnydd sylweddol A substantial increase Yn yr un gwynt In the same breath Gwinwydd Vine Arallgyfeirio Diversify Datblygu To develop Aeddfedu To mature Cysgodi To shelter
Clip 5: Rhaglen Ifan Ia, mae na sawl gwinllan wedi agor yng Nghymru dros y blynyddoedd diwetha yn does? Er dw i ddim yn cofio clywed am un mor ogleddol a Gwinllan y Dyffryn chwaith. Pob lwc a iechyd da i holl gynhwychwyr gwin Cymreig!
Yn ddiweddar ar raglen Ifan, tra bod Hana Medi yn cadw ei sedd yn gynnes, sgwrsiodd Hana gyda Cefin Evans o glwb Dyfed Dirt Bikes. Mae Cefin wedi teithio yr holl ffordd o Gymru i’r Ariannin i wylio cystadleuaeth arbennig iawn, un o brif gystadlaethau Enduro’r Byd, a hynny gan fod ei fab Rhys yn cystadlu yno ar ran y clwb:
Ariannin Argentina Eang Wide Mas Allan Bola Bol Paratoi To prepare Tlodi Poverty Gwerthfawrogi To appreciate
Clip 7 – Beti a’i Phobol
Wel dyna brofiad gwych i glwb Dyfed Dirt Bikes ynde? Dw i’n siŵr eu bod wedi mwynhau pob eiliad o’r daith arbennig i’r Ariannin.
Bronwen Lewis, y gantores, oedd gwestai Beti George nos Sul ddiwetha. Cafodd Bronwen ei magu ym Mlaendulais a daeth yn amlwg ar y gwefannau cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo, wrth iddi hi ganu o’i chartref a rhannu’r perfformiad ar Facebook. Mi fuodd Branwen yn cystadlu ar raglen deledu The Voice yn y gorffennol ac mae’n cyflwyno rhaglen ar Radio Wales ar foreau Sul ar hyn o bryd:
Amlwg Prominent Gwefannau cymdeithasol Social media Yr aelwyd The home Tad-cu Taid Ffili Methu Arweinydd Conductor Mas Allan
Tue, 14 Nov 2023 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchClip 1 Rhaglen Trystan ac Emma:
Ddydd Gwener Hydref 27, pan oedd hi bron yn Galan Gaeaf, ysbrydion oedd yn cael sylw ar raglen Trystan ac Emma. Mae Islwyn Owen yn Ysbrydegydd neu Spiritualist Medium, ac mae’n dweud bod ganddo’r gallu i gysylltu a derbyn negeseuon gan ysbrydion. Yn y clip nesa ‘ma mae o’n sôn am ysbrydion yn cysylltu efo fo drwy freuddwydion:
Calan Gaeaf Halloween Ysbrydion Spirits Ysbrydegydd Spiritualist Medium Breuddwydion Dreams Cryn dipyn Quite a bit Arferol Usual Chwalu fy mhen Blew my mind Manwl Detailed
Clip 6: Rhaglen Dros Ginio:
Rhaglen arall fuodd yn trafod ysbrydion ond ar ddiwrnod Calan Gaeaf y tro hwn, oedd Dros Ginio. Dyma i chi Rheinallt Rees, cynhyrchydd y podlediad 'Ofn’, yn sôn wrth Jennifer Jones am ei brofiadau ysbrydol ei hun, a pham bod na fwy o ddiddordeb gan bobl yn y byd paranormal y dyddiau hyn ... Cynhyrchydd Producer Cyffwrdd To touch Unigryw Unique Canolbwyntio To concentrate Synau Sounds Awel Breeze Gwyddonol Scientific Ymennydd Brain Llwydni Mould Esboniadwy Explainable Yn ein plith ni Amongst us
Clip 4 Rhaglen Aled Hughes:
O mam bach, roedd yr holl sôn am ysbrydion yn ein paratoi ni’n dda at ddiwrnod Calan Gaeaf yn doedd? Ac ar y diwrnod hwnnw mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo’r Dr Adam Coward sydd yn arbenigo mewn marciau gwrachod mewn tai. Mae Adam yn dod o Missouri yn wreiddiol, wedi dysgu Cymraeg, ac yn byw yn ardal Aberystwyth erbyn hyn. Dyma i chi ran o’r sgwrs lle mae Aled yn holi Adam lle basai rhywun yn dod o hyd i farc gwrachod a sut basai rhywun yn ei nabod:
Gwrachod Witches Pren Wood Trawstiau Beams Ar bwys Wrth ymyl Amrywiol lefydd Various places Cuddio To hide Rhwymo To wrap Am wn i As far as I know Saer maen Stone mason
Clip 5 Rhaglen Bore Cothi/ Heledd Cynwal yn cyflwyno:
Wel dyna ddigon am wrachod ac ysbrydion, mae’n hen bryd i ni droi at rywbeth ysgafnach yn tydy? Bob nos Fercher ar S4C mae ail gyfres Gogglebocs Cymru i’w gweld am 9 o’r gloch. Buodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes yn diweddar a chafodd hi sgwrs efo un o sêr y gyfres, sef Annaly Jones o Gaerfyrddin. Mae Annaly yn sôn yn y clip yma am gymaint mae hi’n mwynhau bod yn rhan o’r rhaglen:
Ail gyfres Second series
Ysfa A strong desire
O’r dechrau’n deg From the very beginning
Parchedig Reverand
Ta beth Beth bynnag
Wedi cydio Has caught on
Ymateb Response
Annog To encourage
Clip 7: Rhaglen Rhys Mwyn:
Mae Annaly wrth ei bodd efo’r gyfres yn amlwg, ac mae hi’n lot o sbort yn tydy?
Ar raglen Rhys Mwyn nos Lun Hydref 30, mi fuodd Clare Potter o Gefn Fforest ger Caerffili, oedd yn Fardd y Mis Radio Cymru yn ystod mis Hydref, yn sgwrsio efo Rhys am ei chyfnod yn astudio llenyddiaeth Affro Caribïaidd yn New Orleans a Mississippi a dyma i chi flas ar y sgwrs:
Llenyddiaeth Literature Dwlu ar Wrth fy modd efo Cymhariaeth Comparison
Clip 8: Rhaglen Caryl:
Clare Potter oedd honna’n sgwrsio efo Rhys Mwyn am lenyddiaeth Affro Caribïaidd.
Nos Fawrth ddiwetha, Delyth Eirwyn, y cyn actores, ond sydd erbyn hyn yn Bennaeth Drama yn Ysgol Bro Morgannwg, oedd gwestai Caryl Parry Jones. Sôn am fwyd cysur oedd hi, ac yma mae’n trafod lobsgóws fel ei bwyd mwya cysurus pan oedd hi yn sâl:
Cysur Comfort Cig eidion Beef
Mor gysurus So comforting
Trwchus Thick
Maeth Nutrition
Anwydog Full of cold
Gwaith cnoi Chewy
Taten A potato
Cennin a phannas Leeks and parsnips
Tewhau To thicken
Blawd corn Cornflour
Tue, 07 Nov 2023 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBob wythnos ar raglen Bore Cothi mae Shân yn sgwrsio efo gwesteion am eu Atgofion cynta. Ac yn y clip hwn mae Tara Bethan yn cofio am yr arogl cynta, ac mae’r arogl yma wedi gwneud dipyn o argraff arni hi:
Atgofion Memories Arogl Smell Argraff Impression Chwyslyd Sweaty Dw i’n medru eu hogla fo I can smell it Cael fy ngwarchod Being looked after Golygu’r byd Means the world Delwedd Image Carco To take care of
Tara Bethan yn fanna yn cofio aroglau chwyslyd y reslars!
Fel rhan o Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg mae Aled Hughes wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yng nghynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg. Yn ddiweddar mi gafodd ei sgwrs gyntaf gyda’i bartner dysgu, sef Chloe Edwards, sy’n byw ym Mhenmaenmawr ond sydd yn wreiddiol o Cryw. Dyma Chloe yn sôn am sut daeth hi i ddysgu Cymraeg yn y lle cyntaf:
Gwirfoddoli Volunteering Unrhyw gysylltiad Any connection Ymwybodol Aware Gwatsiad Gwylio Anhygoel Incredible
Wel mae Aled wedi cael partner Siarad diddorol iawn yn Chloe yn tydy o?
Francesca Sciarrillo oedd gwestai Ffion Emyr, hi oedd enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Caerdydd a’r Fro yn 2019. Cafodd Francesca ei magu yn Sir y Fflint, ond Eidalwyr ydy ei theulu hi. Mi ddysgodd Francesca Gymraeg fel oedolyn ac erbyn hyn mae hi’n ac yn gweithio i Gyngor Llyfrau Cymru, yn hyrwyddo darllen i blant a phobol ifanc.
Hyrwyddo To promote Wastad Always Parchu penderfyniad Respect the decision Cymuned Community Diolchgar Thankful Mor raenus So polished Heriol Challenging Gwerthfawr Valuable
Ac mae Francesca yn gweithio’n rhan amser erbyn hyn fel tiwtor Cymraeg i Oedolion.
Yr actores Mali Ann Rees oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Pan oedd hi’n 17 oed mi fuodd hi’n fyfyrwraig mewn Coleg yn India am ddwy flynedd yn astudio bagloriaeth rhyngwladol. Mae Mali yn un o’r actoresau mwya enwog Cymru ac wedi actio yn Craith, The Tourist Trap a The Pact. Mae hi hefyd yn un o dair sy’n cyfrannu i’r podlediad wythnosol, Mel Mal a Jal, sef tair Cymraes siaradus. Yn y clip hwn mae Mali yn trafod y profiad o hiliaeth gafodd yn yr ysgol ac yn India:
Hiliaeth Racism Bagloriaeth rhyngwladol International Baccalourate Beirniadaeth Critisism Hunaniaeth Identity Hiliol Racist Chwerthin To laugh Trin To treat Gwerthfawr Valuable
Mali Ann Rees oedd honna’n sôn am brofiadau o hiliaeth annifyr iawn gafodd hi yn yr Ysgol ac yn y coleg.
Nos Lun y 23ain o Hydref Marci G oedd yn sedd Caryl Parry Jones ac mi gafodd o gwmni Sian Elin Thomas oedd yn sôn am ddathliadau penblwydd Aelwyd Crymych yn 80 oed. Mae Sian wedi bod yn aelod ei hun am nifer o flynyddoedd ac yn y clip mi wnewch chi ei chlywed yn egluro beth yn union ydy Aelwyd yr Urdd...
Aelod Member Cefnogol Supportive Traddodiad Tradition Arwain Leading Dathliad A celebration Llywydd anrhydeddus Honorary President Arddangosfa Exibition Lluniaeth Refreshments
A penblwydd hapus i Aelwyd Crymych a gobeithio i chi ddathlu mewn steil ynde?
Nos Fawrth ddiwetha ar raglen Georgia Ruth, roedd Glyn ac Ellis o’r band Mellt yn cadw cwmni iddi hi. Roedden nhw wedi dod adra i Aberystwyth i ymweld â rhai o’r lleoliadau oedd yn bwysig iddyn nhw fel band, gan gynnwys y sied yng ngwaelod gardd tŷ Glyn lle buon nhw’n recordio. Yn y clip hwn mae Glyn yn sôn wrth Georgia am bwysigrwydd geiriau eu caneuon, a’r defnydd o Gymraeg naturiol, bob-dydd:
Lleoliadau Locations Cymhleth Complicated Denu mewn To draw in Pert Pretty Sa i’n gwybod Dw i ddim yn gwybod
Tue, 31 Oct 2023 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchSiw Hardson
Ar raglen Trystan ac Emma roedd Siw Harston, sy’n dod o Landeilo yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Surrey, yn sgwrsio am y siaradwyr Cymraeg mae hi wedi dod ar eu traws dros y blynyddoedd, ym mhob rhan o’r byd:
Anhygoel Incredible Cynhesrwydd i’r enaid Warmth for the soul Y tu hwnt i Beyond
Rogue Jones
Does ots ble fyddwch chi, dych chi’n siŵr o glywed y Gymraeg, on’d dych chi? Buodd Mari Grug yn holi Bethan Mai o’r band Rogue Jones, ar raglen Ffion Dafis yn ddiweddar, hyn ar ôl iddyn nhw ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, nos Fawrth y 10fed o Hydref. Dyma i chi flas ar y sgwrs:
Gwobr Gerddoriaeth Gymreig Welsh Music Prize Sylw Attention Llafur cariad Labour of love Yn ariannol Financially Gwefreiddiol Thrilling Cyfweliadau Interviews Ffydd Faith Llinach Pedigree Rhyfedd Strange Toddi To melt
Jenny Adams
A llongyfarchiadau mawr i Rogue Jones, yn llawn haeddu’r wobr. Roedd hi’n Wythnos y Dysgwyr wythnos ddiwethaf ar Radio Cymru a Heledd Cynwal oedd yn sedd Shan Cothi fore Llun Hydref 16, a chafodd hi sgwrs gyda Jenny Adams, sy’n dod o Surrey yn wreiddiol, ond sy’n byw ym Machen, ger Caerffili ar hyn o bryd:
Yn llawn haeddu Wholly deserving Cyfathrebu Communicate Swyddogol Official Profiad Experience Codi hyder To raise confidence
Disney
Jenny Adams oedd honna – un o’r nifer fawr o ddysgwyr y Gymraeg glywon ni ar Radio Cymru yn ddiweddar. Ddydd Llun rhoddodd Dros Ginio sylw i’r ffaith bod cwmni Disney yn 100 oed, a Catrin Heledd fuodd yn holi’r Dr Elain Price sy’n darlithio ar ffilm a theledu, am ddylanwad y cwmni ar y byd ffilmiau dros y blynyddoedd:
Darlithio To lecture Dal dychymyg To catch the imaginagion Yn ddiweddarach Later on Cydamseru Synchronize Arloesi To innovate Wrth wraidd At the root of Dyfeisio To invent Bodoli To exist Addasu To adapt Cyfarwydd Familiar Tybio To suppose
Mai Lloyd
Dr Elain Price yn fanna yn rhoi ychydig o hanes cwmni Disney i ni. Fore Mawrth wythnos ddiwethaf ar raglen Aled Hughes, Mai Lloyd o Aberteifi oedd yn edrych yn ôl ar ei hamser yn Trinidad a Tobago dros yr haf, yn cystadlu efo’r ddisgen yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad:
Disgen Discus Y Gymanwlad The Commonwealth Uchafbwyntiau Highlights Pobl hŷn Older people
Gareth Wyn Jones
A dw i’n siŵr byddwn ni clywed llawer iawn mwy am Mai yn y dyfodol, a hithau’n amlwg wedi mwynhau’r cystadlu. Gwestai Ifan Jones Evans yn y clip nesa yw ffermwr mwya enwog Cymru, sef Gareth Wyn Jones. Mae ganddo ddilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ddiweddar, mae wedi croesi carreg filltir anferth ac wedi cyrraedd miliwn o danysgrifwyr ar ei sianel You Tube:
Dilyniant Following Cyfryngau cymdeithasol Social media Carreg filltir anferth Huge milestone Tanysgrifwyr Subscribers Diwydiant amaeth Agricultural industry Ymdopi To cope
Tue, 24 Oct 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Peris Hatton Mae Peris Hatton newydd gyhoeddi llyfr ar gasglu crysau pêl-droed o wahanol gyfnodau. Enw’r llyfr yw “The Shirt Hunter”. Mae e wedi bod yn casglu ers dros dau ddeg pum mlynedd….dyma fe i sôn mwy am yr obsesiwn ar raglen Aled Hughes.
Newydd gyhoeddi Just published
Cyfnodau Periods of time
Ddaru Wnaeth
Poblogaidd Popular
Oddeutu Tua
Mwydro To bewilder
Newydd sbon Brand new
Offer Equipment
Pigion Dysgwyr – Jane Blank Peris Hatton oedd hwnna’n sôn am ei obsesiwn gyda chrysau pêl-droed. Ar BBC Sounds ar hyn o bryd mae’r awdures Jane Blank yn sôn am hanes ei theulu mewn cyfres o’r enw “Fy Achau Cymraeg”. Roedd hi ar raglen Shan Cothi wythnos diwetha i sôn ychydig am ei theulu. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cyfres Series
Achau Lineage
Mamgu a tad-cu Nain a taid
Ambell i deulu Some families
Chwant Desire
Tyrchu’n ddwfn To dig deep
Pigion Dysgwyr – Beti George Ewch i BBC Sounds os ydych chi eisiau clywed rhagor o’r sgwrs ddifyr honno. Ers bron i bedwar deg mlynedd mae Beti George wedi cyflwyno Beti a’i Phobol. A hi oedd gwestai gwadd Shelley a Rhydian yn ddiweddar ar eu rhaglen Sadwrn. Dyma Beti i esbonio ychydig am gefndir y rhaglen wythnosol mae hi’n ei chyflwyno
Yn ddiweddar Recently
Bodlon Willing
Enghraifft berffaith A perfect example
Hyn a’r llall This and that
Croesawu To welcome
Dwys Intense
Pigion Dysgwyr – Ifan Huw Dafydd Ac mae Beti wastad yn neis on’d yw hi, ac yn cael sgyrsiau diddorol gyda’i gwestai. Yn ddiweddar buodd yr actor Ifan Huw Dafydd ar daith gerdded Llwybr y Pererinion sef y Camino Frances, i Santiago de Compostela yn Sbaen. Roedd e’n codi arian i elusen Jac Lewis. Mae elusen Jac Lewis yn cefnogi lles meddwl pobl ifanc ac yn cynnig help i’w teuluoedd... Dyma Ifan Huw Dafydd ar raglen Ifan Jones Evans yr wythnos diwetha yn rhannu ambell i stori o’r daith.
Pererinion Pilgrims
Elusen Charities
Lles meddwl Mental welfare
Traddodiad Tradition
Bys troed Toe
Crwtyn Bachgen
Anhygoel Incredible
Llwch Ashes
Gwasgaru Scatter
Pigion Dysgwyr – Heledd Garddio Llongyfarchiadau mawr i Ifan Huw Dafydd am lwyddo i wneud y daith arbennig hon, ac roedd cwmni diddorol iawn ganddo ar y ffordd on’d oedd? Weithiau mae ‘Heledd Garddio’ yn cyfrannu at raglen Caryl Parry Jones i rannu ei chyfrinachau garddio gyda Caryl a’r gwrandawyr. Ond wythnos diwetha rhannodd Heledd gyfrinach wahanol iawn gyda Caryl sef beth fasai ei pharti delfrydol hi…… Cyfrannu To contribute
Cyfrinachau Secrets
Delfrydol Ideal
Crybwyll To mention
Plentynaidd Childish
Sa i di meddwl Dw i ddim wedi meddwl
Pigion Dysgwyr – Awduron Mae parti Heledd yn swnio’n llawer o hwyl on’d yw e? Mae awduron plant ar draws Prydain wedi cyfarfod yn Abertawe yn ddiweddar i gynnal sesiynau storïau ac awduro. Dau oedd yno oedd y gŵr a’r wraig Thomas Docherty a Helen o Abertawe. Maen nhw hefyd wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Dyma nhw ar raglen Ffion Dafis i sôn am eu gwaith…. Awduro Authoring
Amser maith yn ôl A long time ago
Antur Adventure
Cyfleoedd Opportunities
Pe byddai rhywun Tasai rhywun
Dwlu ar Wrth ei bodd efo
Mamiaith Mother tongue
Tue, 17 Oct 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Ellis Massarelli Mae Ellis Massarelli yn organydd ifanc ac yn feistr ar yr offeryn. Fore Mercher diwetha cafodd Ellis air gyda Shan Cothi ar ei rhaglen, gan esbonio iddi hi ble yn union buodd e’n chwarae’r organ ar hyd y blynyddoedd. Offeryn Instrument
Cadeirlan Cathedral
Tŷ Ddewi St David‘s
Prif organydd Chief organist
Dirgrynu Vibrating
Datsain Echo
Pigion Dysgwyr – Richard Holt Ellis Massarelli oedd hwnna a dw i’n siwr bod dyfodol disglair i’r organydd ifanc. Mae stori Richard Holt, y cogydd a'r gŵr busnes o Ynys Môn, yn un ddiddorol iawn. Buodd e’n gweithio i’r cogydd enwog Marcus Wareing yn Llundain cyn mynd i’r y Llu Awyr i fod yn beilot, ond doedd ganddo mo’r arian i dalu am yr hyfforddiant i hedfan awyren. Erbyn hyn mae e’n rhedeg busnes teisennau, siocled a gin llwyddiannus yn Melin Llynon yn Llanddeusant ar Ynys Môn, ac yn mwynhau cyflwyno Yr Academi Felys ar S4C. Dyma fe’n rhoi hanes cael les Melin Llynon ar Beti a’i Phobol... Disglair Bright
Melin Mill
Llu awyr Airforce
Digwydd bod As it happens
Ceisiadau Applications
Hyrwyddo To promote
Colled A loss
Dim rhyfedd No surprise
Cau cymryd Refusing to take
Pigion Dysgwyr – Elan Davies Felly os oes dant melys gyda chi, Melin Llynon ar Ynys Môn yw’r lle i fynd. Mae’r actores Elan Davies newydd ennill y brif wobr yn The Stage Debut Awards yn ddiweddar. Roedd Elan yn chwarae rhan Laura yng nghynhyrchiad diweddar Cwmni’r Frân Wen a Sherman Cymru o’r ddrama Imrie. A dyma Elan ar Dros Frecwast fore Mawrth i sôn mwy am y ddrama… Cynhyrchiad Production
Yn ddiweddar Recently
Y brif wobr The main award
Dynol Human
Arallfydol Otherworldly Darganfod To discover
Llwyfan Stage
Diwydiant Industry
Ehangach Wider
Pigion Dysgwyr – Neud Dim Deud
A llongyfarchiadau, on’d ife, i Elan am ennill y wobr bwysig honno. Ar BBC Sounds ar hyn o bryd mae’r awdur Llwyd Owen yn ein harwain ni ar daith drwy hanes Hip-Hop a Rap Cymraeg. Teitl y rhaglen yw Neud nid Deud, a dyma glip o Llwyd Owen yn sôn am sut daeth e ar draws Hip-Hop a Rap am y tro cyn-taf….. Y Brifwyl Yr Eisteddfod Genedlaethol
O bob cwr From every corner
Unigolion Individuals Rhan allweddol A key part
Yn ddiarwybod Unknowing
Argraffadwy Impressionable
Curiadau a chwpledi Beats and couplets
Cynhyrchu To produce
Pigion Dysgwyr – Chroma Arhoswn ni gyda’r byd miwsig modern yn y clip nesa yma, ond nid hip hop y tro yma ond roc trwm. Band tri darn o Bontypridd yw Chroma ac maen nhw ar fin rhyddhau eu halbwm newydd, a nhw oedd gwestai gwadd rhaglen Shelley a Rhydian. Dyma Katie, lleisydd y band, i sôn mwy am gyfle arbennig caeth y band i gefnogi un o grwpiau mawr yr Unol Daleithiau Ar fin rhyddhau About to release
Lleisydd Vocalist
Cyhoeddi’r Eisteddfod Proclaiming the Eisteddfod
Manceinion Manchester
Diolchgar Thankful
Anhygoel Incredible
Pigion Dysgwyr – Retro Foo Fighters! Mae’n dipyn o gamp i Chroma gael rannu gig gyda nhw on’d yw hi?
Mae Yvonne Holder yn prynu a gwerthu gwrthrychau a chynnyrch Retro. Dych chi’n cofio y Tamagotchi oedd yn boblogaidd iawn tua trideg mlynedd yn ôl? Wel dyma Yvonne i sôn mwy amdanyn nhw gydag Aled Hughes ar ei raglen ddechrau wythnos diwetha. Gwrthrychau a chynnyrch Objects and products
Bwydo To feed
Cyflwr Condition
Credi di byth You’ll never believe
Enghreifftiau prinnaf The rarest examples
Prinder Scarcity
Dymunol Desirable
Tue, 10 Oct 2023 12:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Heather Jones Mae’r tri chlip cynta i gyd am bobl amlwg sy wedi dysgu Cymraeg, a beth am i ni gychwyn gyda’r gantores Heather Jones? Yn yr ysgol dysgodd Heather Gymraeg yn ail iaith, ond buodd hi’n perfformio a recordio yn y Gymraeg am flynyddoedd maith. Mae Heather newydd gyhoeddi ei bod hi wedi canu’n fyw am y tro ola ac ar Bore Cothi esboniodd hi wrth Shan Cothi sut dechreuodd ei gyrfa ym myd canu
Amlwg Prominent
Cyhoeddi Announce
Ymennydd Brain
Yn gyfangwbl Completely
Tinc Tone
Pigion Dysgwyr – Johnny Tudor
Mae’n rhyfedd meddwl na fyddwn yn clywed llais Heather Jones ar lwyfannau Cymru eto on’d yw hi? Dysgu Cymraeg fel oedolyn ar gwrs Wlpan yng Nghaerdydd wnaeth y diddanwr, y dawnsiwr a’r canwr Johnny Tudor, ac roedd e’n dathlu 60 mlynedd ym myd adloniant eleni. Ar gyfer rhaglen Ffion Dafis bnawn Sul, aeth Lily Beau draw i gartre Johnny i’w holi. Dyma fe gydag un stori fach o’i yrfa... Diddanwr Entertainer
Dynwared To impersonate
Llwyfan Stage
Pigion Dysgwyr – Dinbych y Pysgod
A dw i’n siŵr bod gan Johnny lawer iawn o straeon difyr eraill o’i yrfa hir ym myd adloniant. Mae Jo Heyde wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn Ninbych y Pysgod erbyn hyn. Mae hi’n fardd, yn barddoni yn Gymraeg, ac wedi ennill cadair am ei barddoniaeth. Nos Fawrth diwetha ar raglen Caryl esboniodd Jo pam daeth hi i fyw i dde Sir Benfro yn y lle cyntaf……
Dinbych y Pysgod Tenby
Bardd Poet
Hala Treulio
Dim syndod No surprise
Yn syth bin Straight away
Unigryw Unique
Haenau Layers
Tirwedd Landscape
Llanw Tide
Cyfnewidiol Changeable
Awen Muse
Pigion Dysgwyr – Lliw Ddall
Wel dyna i chi dri sy wedi dysgu Cymraeg yn wych, ac sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r byd Cymraeg. Diolch Heather, Johnny a Jo. Mae Owen Jones o Gaerdydd yn un o’r 1 o bob 12 dyn sydd yn lliwddall, ond yn ôl gwyddonwyr dim ond 1 o bob 200 o ferched sy‘n lliwddall ac mae Bethan Rhys Roberts yn un ohonyn nhw. Ar gyfer Bore Sul yr wythnos diwetha trïodd Owen a Bethan sbectolau arbennig sydd i fod i gywiro eu golwg...dyma sut aeth pethau …. Cyfraniad gwerthfawr A valuable contribution
Lliwddall Colour blind
Yn ôl According to
Gwyddonwyr Scientists
Cywiro eu golwg Correct their eyesight
Llachar Bright
Sefyll mas To stand out
Cyfoethog Rich(colour)
Ffug Fake
Pigion Dysgwyr – 1973
Wel newyddion da i‘r rhai sy’n lliwddall on’d ife – mae’n debyg bod y sbectol newydd yn gweithio! Mae’r flwyddyn 1973 yn cael ei gyfri’n flwyddyn arbennig ym myd gwneud ffilmiau. Ond beth oedd mor arbennig am y flwyddyn honno? Cafodd Dion Wyn sgwrs gydag Owain Llyr ar Dros Ginio yr wythnos diwetha i esbonio mwy….. Cyfnod Period of time
Hogiau Bechgyn
Tywyll Dark
Agwedd Attitude
Eithafol Extreme
Naws Mood
Anhygoel Incredible
Pigion Dysgwyr – Max Boyce
Dion Wyn ac Owain Llyr oedd y rheina’n sgwrsio am pa mor bwysig oedd 1973 i fyd y ffilmiau. Ddydd Mercher diwetha roedd y canwr a’r diddanwr Max Boyce o Lyn Nedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae Max wedi bod yn diddanu pobl Cymru ac ar draws y byd ers diwedd y 60au. Cafodd Aled Hughes gyfle i holi Jed O’Riley o Glwb Rygbi Glyn Nedd sy’n ei adnabod e’n dda…. Cymuned Community
Sgwrs ddifyr An interesting conversation
Ymwybodol Aware
Pwysigrwydd Importance
Tue, 03 Oct 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Y Wladfa
Mae Llinos Howells o Ferthyr Tudful yn gweithio ar hyn o bryd yn y Wladfa, sef y rhan o‘r Ariannin ble mae siaradwyr Cymraeg yn byw. Yn ei gwaith bob dydd mae hi‘n dysgu Cymraeg i blant yr ysgolion lleol. Wythnos diwetha cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda hi i weld sut mae pethau‘n mynd hyd yn hyn... Yr Ariannin Argentina Union fis A month exactly
Rhagbrofion Preliminary competition
Llefaru Reciting
Braint o feirniadu The honour of adjudicating
Deng mlynedd ar hugain 30 years
Cyngerdd mawreddog A grand concert
Croesawgar Welcoming
Twymgalon Warm-hearted
Pigion Dysgwyr – Ann Evans
Llinos Howells oedd honna’n brysur iawn yn y Wladfa, ond i weld yn mwynhau bob eiliad. Merch arall o Ferthyr sydd yn y clip nesa - Ann Evans, dorrodd record Cymru i ferched dros 65 oed yn Hanner Marathon Casnewydd fis Mawrth diwetha, ond sydd erbyn hyn wedi cyflawni camp arall. Bythefnos yn ôl roedd hi yn Kenya yn cymryd rhan mewn ras barodd bump o ddiwrnodau drwy ardaloedd cadwraeth y wlad. Roedd rhaid rhedeg 30 milltir y dydd mewn tywydd poeth iawn. Dyma hi‘n sgwrsio gyda Alun Thomas ar Bore Sul ac yn sôn am un digwyddiad arbennig ar y daith…… Tu fas i Tu allan i
Cyflawni camp To fulfil an achievement
Ardaloedd cadwraeth Conservation areas
Heol (hewl) Ffordd
Eiddo Possessions
Perchen Ownership
Dwyn To steal
Gofidus Worried
Rhydd Loose
Dros y dibyn Over the precipice
Pigion Dysgwyr – Karen Wynne
Mae merched Merthyr yn hoff iawn o antur on’d dyn nhw? Ac roedd hi’n dipyn o antur i’r actores Karen Wynne yn ddiweddar wrth iddi hi gael ei derbyn i’r Cylch Hud. Dyma Karen ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn wrth Shan am y broses o gael eich derbyn i’r cylch arbennig hwn……. Cylch Hud Magic Circle
Mynd amdani Going for it
Syth bin bot Straight away
Digwydd bod Happened to be
Hanu Deriving from
Sêl bendith Seal of approval
Gweinidog Minister
Hud a lledrith Magic
Honni To claim
Arallfydol Otherworldly
Pigion Dysgwyr – Hafodwennog
Basai’r gair ‘hudolus’, falle, yn un gair i ddisgrifio taith Aelwyd Urdd Hafodwennog i Ffrainc. Mae’r aelwyd yn y wlad fel rhan o ymgyrch Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Cafodd Ifan Evans gwmni Gwenan Evans a Dai Baker o’r Aelwyd ar ei raglen yr wythnos diwetha i sôn mwy am daith...
Hudolus Magical
Ymgyrch Campaign
Swmpus Substantial
Arweinyddion cyfrifol Responsible leaders
Gweithdai Workshops
Cytgan Refrain
Pigion Dysgwyr – Gwion Clarke
A dw i’n siŵr bod aelodau’r Aelwyd wedi ysbrydoli cefnogwyr Cymru yn ystod y gêm bwysig honno yn erbyn Awstralia yn Lyon. Nos Fawrth diwetha cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Gwion Clarke o Gaernarfon. Mae Gwion yn sgriptio darnau comedi ac yn gomedïwr ei hun, a dyma fe’n sôn wrth Caryl am sut dechreuodd e yn y maes…….
Ysbrydoli To inspire
Testunau List of competitions
Creadigol Creative
Edmygu brwdfrydedd Admire the enthusiasm
Buddugol Successful
Doniol Funny
Deunydd Material
Llifo To flow
Difrifol iawn Very serious
Tawelwch Silence
Pigion Dysgwyr – John Shaw
A phob lwc i Gwion gyda’r gigs on’d ife? Ar Dros Frecwast fore Mercher clywon ni lais John Shaw. Mae John yn byw yn Utah ond roedd ei deulu’n dod Gymru yn wreiddiol. Alun Thomas aeth draw i Ysgol Llangynwyd ger Maesteg i weld John ar ei ymweliad cynta â gwlad ei gyn-deidiau Cyndeidiau Forefathers
Gwyddonydd coedwig Forestry scientist
Gweddill The rest of
Annerch To address
Troedio llwybrau Treading the paths
Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century
Cysylltiad Connection
Degawdau Decades
Bedyddwyr Baptist
Emyn Hymn
Wed, 27 Sep 2023 09:05:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Podlediad I Fyfyrwyr Bore Llun diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs ar ei raglen gyda Cerith Rhys-Jones a Steffan Alun Leonard. Mae’r ddau wedi rhyddhau podlediad newydd o’r enw 'Sgwrsio am Brifysgol' sy'n rhoi blas i ddarpar-fyfyrwyr ar beth yw bywyd coleg, gyda phrofiadau myfyrwyr go iawn. Rhyddhau To release
Darpar-fyfyrwyr Prospective students Rhannu profiadau Sharing experiences
Gwerthfawr Valuable
Cyflwyno To present
Teimlo’n gartrefol Feeling at home
I ryw raddau To some extent
Yn gwmws Yn union
Rhinwedd Merit
Mewnwelediad Insight
Trawstoriad eang A wide cross-section
Pigion Dysgwyr – Tomatos Podlediad gwerthfawr iawn ac amserol hefyd gyda chymaint o fyfyrwyr yn cychwyn ar eu taith brifysgol yn ystod y mis hwn. Ychydig wythnosau yn ôl ar Pigion clywon ni sgwrs rhwng Adam Jones sef Adam yn yr Ardd a Shan Cothi. Rhoddodd Adam her i Shan i dyfu tomatos ac adrodd yn ôl ar ddiwedd yr haf ar sut aeth pethau. Dyma ddarn o’r sgwrs gafodd y ddau wythnos diwetha…. Her A challenge
Teimlo fel oes Feels like ages
Crasboeth Scorched
Yn y cnawd In the flesh
Awdurdod Authority
Pencampwyr Champions
Carotsen Moronen
Llawn cystal Just as good
Iseldiroedd Netherlands
Chwerw Bitter
Pigion Dysgwyr – Fflemeg Wel pwy fasai’n meddwl mai rhywun o’r Iseldiroedd sy’n gyfrifon am liw oren moron, on’d ife! Iseldireg wrth gwrs yw iaith y wlad honno, ond mae hi hefyd yn cael ei siarad mewn rhan o Wlad Belg sef Fflandrys. Ac yn Fflandrys yn ddiweddar mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud Iseldireg yn unig iaith yr iard ysgol. Mae’r Dr Guto Rhys, yn byw ac yn magu ei blant yn Fflandrys a dyma fe i esbonio mwy am y sefyllfa ar Dros Ginio bnawn Mawrth…… Cenhedlaeth Generation
Tafodieithoedd Dialects
Cymhleth Complicated
Pryder A concern
Gorfodi To compel
Tybio To presume
Anniddigrwydd Discontent
Anghyfleus Inconvenient
Iaith leiafrifol Minority language
Iaith rymus A powerful language
Pigion Dysgwyr – Bethan Rhys Roberts Hanes sefyllfa gymhleth ieithoedd Gwlad Belg yn fanna gan Dr Guto Rhys. Mae’n wythnos a hanner bellach ers i ddaeargryn nerthol daro dinas Marrakech ac ardaloedd cyfagos. Un oedd yn y ddinas ar y pryd oedd Bethan Rhys Roberts, un o newyddiadurwyr BBC Cymru. Dyma hi ar raglen Bore Sul yn esbonio beth ddigwyddodd ar yr union eiliad pan darodd y daeargryn……
Daeargryn nerthol A powerful earthquake
Hynafol Ancient
Strydoedd culion Narrow streets
Sŵn byddarol A deafening noise
Dychrynllyd Frightening
Ymgynnull To congregate
Llafnau Slabs
Dymchwel To collapse
Sgrialu Scrambling
Anhrefn Disarray
Yn reddfol Instinctively
Pigion Dysgwyr – La Liga Ac yn drist iawn wrth gwrs buodd miloedd o bobl farw ym Morocco yn dilyn y daeargryn. Bethan Rhys Roberts yn fanna yn rhoi syniad i ni o’r sefyllfa ddychrynllyd ym Marrakesh. Mae tîm pêl-droed pentre Llanfairpwll ar Ynys Môn wedi cael noddwyr newydd ar gyfer y tymor newydd. Mi fydd enw’r gynghrair Sbaenaidd - LaLiga - ar flaen crysau'r chwaraewyr eleni. Ie wir, darn o España ar dir Ynys Môn. Hannah Thomas ydy ysgrifennydd y tîm, a dyma hi i esbonio mwy ar Dros Frecwast fore Mercher Noddwyr Sponsors
Ysgrifennydd Secretary
Yn raddol Gradually
Pwyllgor Committee
Manteision Advantages
Hogia Bechgyn
Diolchgar Thankful
Denu To attract
Pigion Dysgwyr – Clwb Ifor Bach Wel dyna ni, tybed fyddwn ni’n gweld Llanfairpwll yn chwarae yn erbyn Barcelona neu Real Madrid yn y dyfodol! Dych chi wedi ymweld â Chlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd erioed? Sefydlwyd y clwb bedwar deg o flynyddoedd yn ôl er mwyn rhoi llwyfan i fandiau Cymraeg chwarae, a hefyd fel man ble gallai siaradwyr Cymraeg y Brifddinas ddod i gymdeithasu. Nos Sul darlledwyd rhaglen i nodi y garreg filltir bwysig, hon ac mae cyfle wrth gwrs i chi wrando ar y rhaglen gyfan ar BBC Sounds….. Llwyfan A stage
Darlledwyd Was broadcast
Carreg filltir Milestone
Sylfaenwyr Founders
Cyfeddach Companionship
Hwb cymdeithasol Social hub
Sefydliad Establishment
Cynhyrchydd Producer
Pigion Dysgwyr – Rhys Taylor
Sefydliad arall oedd yn dathlu carreg filltir arbennig oedd Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, a dathlu pumdeg o flynyddoedd ers ei sefydlu oedd yr ysgol hon. Cafodd y cerddor Rhys Taylor sgwrs gyda Caryl Parry Jones wythnos diwetha gan fod Rhys yn gyn-ddisgybl yr ysgol. Nos Sadwrn roedd e’n un oedd yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Nghanolfan y Celfyddydau y dre fel rhan o’r dathliadau Cerddor Musician
Breintiedig Privileged
Oes euraidd Golden age
Preswyl Residential
Cerddorfeydd Orchestras
Brolio To boast
T’mod Rwyt ti’n gwybod
Tue, 19 Sep 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr - Gruffydd Vistrup Parry Mae Gruffydd Vistrup Parry yn byw yn Nenmarc sydd, yn ôl yr ystadegau, y wlad leia “stressful” yn Ewrob. Dyma Gruffydd i sôn mwy am y rhesymau symudodd e i’r wlad yn y lle cynta ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha…. Ystadegau Statistics
Calon Heart
Ymchwil Research
Perthynas Relationship Pigion Dysgwyr - Y Meddyg Rygbi Ac mae Gruffudd yn swnio’n hapus iawn gyda’i benderfyniad i symud i Ddenmarc on’d yw e? Dw i’n siŵr eich bod wedi sylwi bod Cwpan Rygbi’r Byd newydd ddechrau gyda’r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd. Mae Dewi Llwyd wedi bod yn dilyn Dr Gareth Jones, un o'r meddygon sy'n delio â'r nifer cynyddol o anafiadau ym myd rygbi. Enw’r rhaglen yw Y Meddyg Rygbi ac mae’r rhaglen gyfan i’w chlywed ar BBC Sounds wrth gwrs, ond dyma Gareth Jones yn sôn mwy am ei waith
Nifer cynyddol Increasing number
Fel petai So to say
Sylweddoli To realise
Curiad i’r pen Knock to the head
Y Gweilch The Ospreys
Pigion Dysgwyr – Angharad Jones Gobeithio na fydd Dr Gareth yn rhy brysur gydag anafiadau i’r pen yn ystod Cwpan y Byd on’d ife? Bore Mercher ar ei raglen, cafodd Aled Hughes gyfle i siarad ag Angharad Jones, sydd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Casgwent. Beth sy’n arbennig am Angharad yw ei bod hi wedi dysgu Cymraeg ei hunan a hynny mewn blwyddyn yn unig. Dyma hi i sôn mwy am ei siwrne i ddod yn siaradwr Cymraeg... Casgwent Chepstow
Tad-cu Taid
Sa i’n gallu Dw i ddim yn medru
Trosglwyddo To transmit
Yn gyfrifol am Responsible for
Mo’yn Eisiau
Dwyieithrwydd Bilingualism
Dw i’n dyfalu I guess
Her A challenge Pigion Dysgwyr – Mari Catrin Jones Gwych iawn Angharad, yn un o nifer o athrawon sy wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg mewn blwyddyn, drwy ddilyn y Cwrs Sabothol. Mae’r Athro Mari Catrin Jones yn ddarlithydd ieithoedd ym Mhrifysgol Caergrawnt ac ar Raglen Dei Tomos wythnos diwetha clywon ni hi’n sôn am un o ieithoedd llai Ynysoedd Prydain sef iaith ynys Jersey, sydd ond ychydig filltiroedd wrth gwrs oddi ar arfordir Normandy yn Ffrainc. Darlithydd Lecturer
Caergrawnt Cambridge
Pedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century
Saesneg oedd ei piau hi English took over
Ariangarwch Avarice
Yn gwmws Yn union
Yn raddol Gradually
Y plwyf The parish
Goresgyn To invade
Alltudio To exile
Pigion Dysgwyr – Y Drenewydd Diddorol on’d ife? A phob lwc i’r rhai sy’n ceisio ail-godi iaith Jersey.
24 awr yn…..yw slot achlysurol Caryl Parry Jones ar ei rhaglen gyda’r nos ble mae hi’n gwahodd person o dre neu bentre gwahanol i sôn am y lle a’r pethau sydd i’w gwneud yno. Tro Y Drenewydd oedd hi nos Fawrth a dyma Nelian Richards sy’n dod o’r dre i sôn mwy, gan ddechrau gydag un o ddynion enwog y dre sef Robert Owen….. Achlysurol Occasional
Cefnog Cyfaethog
Sefydlu To establish
Gweithlu Workforce
Diwygiwr cymdeithasol Social Reformer
Pigion Dysgwyr – Eilyr Thomas Hanes un o enwogion y Drenewydd, Robert Owen yn fanna ar raglen Caryl Parry Jones. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda’r athrawes ganu Eilyr Thomas yr wythnos diwetha. Yn ystod ei gyrfa mae hi wedi hyfforddi cantorion enwog fel i Jessica Robinson a Trystan Llŷr Griffiths a llawer o rai eraill. Dyma hi i sôn am sut dechreuodd hi ei hunan ar ei gyrfa ym myd canu O ddifri Seriously
Rhinweddau Merits
Angerddol Passionate
Ymroi To commit
Datblygiad y llais The development of the voice
Trueni Bechod
Ymgodymu Tackling
Tue, 12 Sep 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchCERYS MATTHEWS YN HOLI…
Roedd Dafydd Iwan yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ar Awst 24 a dydd Llun Gwyl y Banc roedd yna raglen arbennig i ddathlu bywyd Dafydd a Cerys Matthews oedd yn ei holi...
Alawon Tunes
Ystyried To consider
Offerynnau Instruments
Trefniadau Arrangements
Cofnodi To record (in writing)
Barddoniaeth Poetry
Ddim llawer o bwys Dim llawer o ots
Hen dad-cu Great grandfather
Erw Acre
Trosglwyddo To transmit
BORE SUL
…ie mae Dafydd Iwan yma o hyd – pen-blwydd hapus iawn Dafydd! Iwan Griffiths gafodd gwmni’r cyflwynydd a’r canwr clasurol Wynne Evans. Mae Wynne yn gallu dweud nawr ei fod yn gogydd enwog yn ogystal â chanwr gan ei fod wedi cyrraedd rowndiau cyn-derfynol y rhaglen deledu “Celebrity MasterChef” sy’n cael ei gyflwyno gan Gregg Wallace a John Torode…
Cyflwynydd Presenter
Y rowndiau cyn derfynol The semi finals
Alla i ddychmygu I can imagine
Ar waetha hynny In spite of that
Beirniaid Judges
Ieuenctid Youth
Yr her anodda The most difficult challenge
Yn glou Yn gyflym
Fy hunllef My nightmare
BETI A’I PHOBOL
..ac erbyn hyn mae Wynne wedi cyrraedd y rownd derfynol, a phob lwc iddo fe’r wythnos yma on’d ife? Elin Maher o Gasnewydd oedd gwestai Beti George yn ddiweddar. Mae wedi byw yn y ddinas ers 20 mlynedd ac mae hi wedi gweithio fel athrawes ac ymgynghorydd ym myd addysg ac nawr yn Gyfarwyddwr Rhieni dros Addysg Gymraeg. Mae hi wedi bod yn weithgar iawn yn sicrhau twf addysg Gymraeg yng Ngwent.
Ymgynghorydd Consultant
Cyfarwyddwr Director
Agweddau Attitudes
Ddim o reidrwydd Not necessarily
O blaid In favour of
Brwydr A battle
Dealltwriaeth Understanding
Heb os nac oni bai Without doubt
Cael ei chydnabod Being acknowledged
Diwylliant Culture
FFION DAFIS Braf clywed bod agweddau tuag at y Gymraeg wedi gwella yng Ngwent on’d ife, diolch i bobl fel Elin Maher. Hanna Hopwood fuodd yn cadw sedd Ffion Dafis yn gynnes bnawn Sul. Buodd hi’n sgwrsio am raglen newydd i blant, Dreigiau Cadi, gyda’r cynhyrchydd Manon Jones. Roedd y bennod gynta ar S4C ddydd Mercher yn dangos anturiaethau y dreigiau bach drwg Bledd a Cef ar Reilffordd Talyllyn yng Ngwynedd…
Cynhyrchydd Producer
Pennod Episode
Anturiaethau Adventures
Dreigiau Dragons
Y gyfres The series
Gwirfoddolwyr Volunteers
Delfrydol Ideal
Rhaglennni dogfen Documentaries
Fel petai As it were
Golygfeydd Scenes
BORE COTHI Bach o hanes Dreigiau Cadi yn fanna ar raglen Ffion Dafis. Caryl Parry Jones fuodd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes ar raglen Bore Cothi a dyma i chi ran o sgwrs gaeth Caryl gyda Carol Garddio am dyfu perlysiau...
Perlysiau Herbs
Hyblyg Flexible
Adnabyddus famous
Trilliw Tricolour
Deniadol Attractive
Goresgyn To survive
Llachar Bright
Gwydn Tough
IFAN JONES EVANS Digon o ‘tips’ ar dyfu perlysiau yn fanna gan Carol Garddio. Y gantores a’r cyflwynydd radio, Bronwen Lewis, oedd gwestai rhaglen Ifan Jones Evans yn sôn am ryddhau ei sengl diweddara, Un Dau Tri, ac yn sôn hefyd am pam dewisodd hi’r teitl yma i’r sengl.
Rhyddhau To release
Diweddara The most recent
Brwdfrydedd Enthusiasm
Cytgan Refrain
Cynulleidfa Audience
Moyn Eisiau
Tue, 05 Sep 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Stacey
Mae Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips wedi bod yn cadw sedd Emma Walford a Trystan Ellis Morris yn gynnes dros yr wythnosau diwetha ac yn ddiweddar caethon nhw air gydag un ddysgodd Gymraeg 25 mlynedd yn ôl. Stacey Blythe yw ei henw hi, mae hi’n storïwraig ac yn gerddor sy’n dod o Birmingham yn wreiddiol ond sy’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn...
Storïwraig Storyteller (female)
Cerddor Musician
Tmod Ti’n gwybod
Cyfansoddwraig Composer (female)
Ceinciau Branches
Bodoli To exist
Enaid Soul
Pigion Dysgwyr – Eiry Palfrey
Stacey Blythe yn fanna yn dal yn frwd dros y Gymraeg ar ôl ei dysgu 25 mlynedd yn ôl. Mae llyfr newydd ei gyhoeddi gan Eiry Palfrey sy’n sôn am hanes a thraddodiad dawnsio gwerin yng Nghymru. Llwybrau’r Ddawns yw enw’r llyfr, a dyma Eiry yn sôn wrth Nia Parry, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym yr wythnos diwetha, am gefndir cyhoeddi’r llyfr
Brwd Enthusiastic
Dogfen Document
Cyfrifol Responsible
Dow dow Very slowly
Dallt y dalltings Knowing the ins and outs
Hoelion wyth Eminent people
Adfer To restore
Aelwydydd Homes
Pigion Dysgwyr – Dwyeithrwydd
Bach o hanes dawnsio gwerin yng Nghymru yn fanna gan Eiry Palfrey, awdures Llwybrau’r Ddawns. Roedd ymchwil diweddar yn dangos bod gan unigolion oedd yn ddwyieithog sgiliau cof gwell na phobl oedd yn unieithog, ond dyw hi ddim mor syml â hynny yn ôl Dr Peredur Glyn Webb-Davies. Dyma fe’n sôn am yr unig elfen o’r ymchwil sy’n dangos bod cof gwell gan bobl ddwyieithog na’r rhai sy’n gallu siarad un iaith yn unig...
Ymchwil Research
Dwyieithog Bilingual
Llefaru To speak
Cymhleth Complicated
Cadarnhau To confirm
Pigion Dysgwyr – Elin Maher
Ond wrth gwrs mae sawl mantais dros fod yn ddwyieithog on’d oes yna? Yn enwedig yn Nghymru’r dyddiau hyn. Mae Elin Maher yn dod o Gwm Tawe’n wreiddiol ond yn byw yng Nghasnewydd gyda’i theulu ers ugain mlynedd. Buodd hi’n gweithio’n galed dros y blynyddoedd yn datblygu addysg Gymraeg, a’r Gymraeg o fewn y gymuned, yng Ngwent. Hi hefyd oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol wythnos diwetha a dyma hi’n sôn am ambell i her oedd rhaid ei hwynebu wrth ymladd dros addysg Gymraeg yn y Sir.
Her A challenge
Safleoedd Sites
Agwedd Attitude
Cynghorwyr Councillors
Ddim o reidrwydd Not necessarily
Brwydr A fight
Dealltwriaeth Understanding
Heb os nac oni bai Without doubt
Cydnabod To acknowledge
Dychymyg Imagination
Pigion Dysgwyr – Adri
A diolch byth am bobl fel Elin sy’n dal i frwydro dros addysg Gymraeg on’d ife? Mae Heledd Cynwal wedi bod yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes yn ddiweddar, a dydd Mercher diwetha gwahoddodd hi ddysgwraig Cymraeg o’r Iseldiroedd sef Adri Witens ar ei rhaglen. Mae Adri yn byw mewn tref fechan ger dinas yr Haag a dysgodd Gymraeg ar ôl iddi hi ymweld ag Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ddechrau’r 80au. Dyma hi’n sôn am daith awyren ddiddorol gaeth hi yn y gorffennol...
Iseldiroedd Netherlands
Anaddas Unsuitable
Tanwydd Fuel
Suddo To sink
Arfordir Coastline
Creigiau Rocks
Darlledu To broadcast
Doniol Funny
Pigion Dysgwyr – Dianne Roberts
On’d yw Atri’n gymeriad a hanner? Dianne Roberts yw Trysorydd Sioe Arddwriaethol Llangernyw ger Llanrwst. Eleni mae’r Sioe yn dathlu ei bod wedi cael ei chynnal am 175 o flynyddoedd. Dyma Dianne i sôn mwy..
Sioe arddwriaethol Horticultural show
Annog To encourage
Hen bryd About time
Hud a lledrith Magic
Tue, 29 Aug 2023 15:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Hiraethog
Mae yna ymgyrch ymlaen ar hyn o bryd gan Twristiaeth Gogledd Cymru i ddenu ymwelwyr i ardal Hiraethog yng ngogledd Cymru. Sara Gibson oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha wrth i Aled gymryd gwyliau bach ar ôl yr Eisteddfod. Dyma Eifion Jones o Lansannan, yn siarad â Sara am yr ardal arbennig hon
Ymgyrch Campaign
Denu To attract
Ywen Yew
Cynaliadwy Sustainable
Murluniau Murals
Cerflun Statue
Taflunydd Projector
Pererinion Pilgrims
Treffynnon Holywell
Pigion Dysgwyr – Brechu
Disgrifiad o ardal Hiraethog yn fanna gan Eifion Jones. Gyda’r sôn bod straen newydd o Covid wedi ymddangos cafodd Beti George sgwrs ar Beti a’i Phobol gyda meddyg teulu ddaeth i amlygrwydd ar ddechrau’r pandemig. Chwaraeodd Dr Eilir Hughes ran bwysig wrth geisio rheoli Covid-19 yn ei gymuned. Cafodd ei enwebu am ei waith ar gyfer un o wobrau Dewi Sant a dyma Beti yn ei holi …
Amlygrwydd Prominance
Enwebu To nominate
Sefydlu To establish
Brechu To vaccinate
Pellter Distance
Rhwystredigaeth Frustration
Darparu To provide
Cyflawnoch chi gampweithiau You achieved great things
Gwirfoddolwyr Volunteers
Herio To challenge
Pigion Dysgwyr – Drws y Coed
Gan obeithio na fydd rhaid i Dr Eilir Hughes gyflawni campweithiau tebyg yn y dyfodol agos on’d ife? Yr wythnos diwetha ar raglen Dei Tomos aeth Dei â’r gwrandawyr ar daith i ardal Drws y Coed yn Eryri. Dyma Bob Morus yr hanesydd lleol i sôn am rywbeth ddigwyddodd i gapel Drws y Coed yn 1892
Anferthol Huge
Ailadeiladu To rebuild
Difrod Damage
Addoliad Worship
O’r herwydd As a consequence
Oedfaon Services
Anghydffurfiol Nonconformist
Olion Remains
Amlinell Outline
Helaethu To extend
Pigion Dysgwyr – Eisteddfod 1956
Bob Morus oedd hwnna’n adrodd hanes capel Drws y Coes gyda Dei Tomos. Gyda'r miloedd erbyn hyn wedi gadael Boduan ac Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mae yna edrych ymlaen mawr at Eisteddfod 2024 yn Rhondda Cynon Taf. Dydy'r Eisteddfod ddim wedi bod yn yr ardal honno ers 67 o flynyddoedd. Aberdâr yng Ngwm Cynon oedd y lleoliad ym 1956, ac ar Dros Frecwast yr wythnos diwetha buodd Alun Thomas yn siarad â rhai o drigolion y cwm oedd yno bryd hynny, gan gynnwys yr actores Gaynor Morgan Rees cafodd ei magu yn yr ardal. Oedd yr eisteddfod honno’n wahanol i eisteddfodau’r dyddiau hyn tybed?
Trigolion Residents
Dawnsio gwerin Folk dancing
Ymgasglu To congregrate
Emynau Hymns
Cerflun Statues
Seremoni cyhoeddi Proclamation ceremony
Profiad gwefreiddiol A thrilling experience
Cymeradwyo Applauding
Bythgofiadwy Unforgettable
Pigion Dysgwyr – Dill Jones
Wel mae’n amlwg bod Gaynor Morgan Rees , a dw i’n siŵr llawer iawn o drigolion Rhondda Cynon Taf yn edrych ymlaen yn arw at y Steddfod. Dych chi wedi clywed am Dill Jones o Gastell Newydd Emlyn? Wel yr wythnos diwetha roedd hi’n ganrif ers iddo fe gael ei eni. Roedd e’n feistr ar y piano ac yn enwedig ar arddull y Stride sef math o jazz oedd yn boblogaidd yn 20au a 30au’r ganrif ddiwetha. Dyma’r cerddor jazz Tomos Williams yn sgwrsio gyda Bethan Rhys Roberts ar Bore Sul am fywyd Dill Jones…..
Canrif Century
Arddull Style
Trwy gydol ei yrfa Throughout his career
Ymwybodol iawn Very aware
Cymreictod Welshness
Angerdd Passion
Yn gwmws Exactly
Crebwyll Creativity
Cyd-destun Context
Trwytho Immersed
Pigion Dysgwyr – Deintyddiaeth
Hanes y pianydd jazz Dill Jones yn fanna ar Bore Sul. Dydd Iau diwetha ar Dros Ginio cafodd Gwenllian Grigg gwmni Siwan Phillips, sydd ar ei blwyddyn ola’n astudio deintyddiaeth ym Mhrifysgol Bryste. Gofynnodd Gwenllian iddi hi yn gynta faint oedd ei hoedran hi pan benderfynodd mai deintydd oedd hi am fod?
Profiad gwaith Work experience
Deintyddfa Dentist surgery
Amgylchedd gweithio Working environment
Mantais Advantage
Digwydd bod As it happens
Hynod o hir Extremely long
Cystadleuol Competitive
Tue, 22 Aug 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Trystan ab Ifan dw i ac i ddechrau'r wythnos yma …
Pigion Dysgwyr – Dechrau‘r Steddfod
Buodd Radio Cymru‘n darlledu o Faes yr Eisteddfod ym Moduan drwy’r wythnos diwetha gan ddechrau am ganol dydd ar y dydd Sadwrn cyntaf. Dyma sut dechreuodd y darlledu……
Darlledu To broadcast
Cynnau tan To light a fire
Cynnal To maintain
Blodeuo To flower
Eisteddfodwr o fri A renowned Eisteddfod person
Hawlio To claim
Deuawd Duet
Craith A scar
Llwyfan Stage
Noddi To sponsor
Pigion Dysgwyr – Martin Croydon
…ac wrth gwrs bydd blas ar sawl darllediad o’r Eisteddfod yn y podlediad wythnos yma, gan ddechrau gyda Martyn Croydon enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddeg mlynedd yn ôl. Daw Martin o Kidderminster yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o’n byw ym Mhen Llŷn.
Gwobr Prize
Enwebu To nominate
Rowndiau terfynol Final rounds
Gwrthod To refuse
Cyfweliad Interview
Beirniaid Judges
Cynifer So many
Cyfathrebu To communicate
Ysbrydoli To inspire
Cynulleidfa Audience
Terfynol Final
Pigion Dysgwyr – Dysgwr y Flwyddyn
Ac roedd Martyn yn un o’r criw fuodd yn brysur iawn yn cynnal gweithgareddau Maes D yn Steddfod Boduan. Ond pwy enillodd gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni tybed? Roedd pedwar ymgeisydd ardderchog wedi cyrraedd y rownd terfynol, a dydd Mercher yn yr Eisteddfod cyhoeddwyd mai Alison Cairns yw Dysgwr y Flwyddyn eleni. Daw Alison yn wreiddiol o’r Alban ond mae hi a’i theulu erbyn hyn yn byw yn Llannerchymedd ar Ynys Môn. Dyma hi’n sgwrsio ar Post Prynhawn yn dilyn y seremoni wobrwyo.
Y gymuned The community
Pigion Dysgwyr – Esyllt Nest Roberts de Lewis
A llongyfarchiadau i Alison ar ennill y wobr – dwi’n siŵr bydd hi’n mwynhau ei blwyddyn. Daw Esyllt Nest Roberts de Lewis yn wreiddiol o Bencaenewydd ger Pwllheli ond mae hi erbyn hyn yn byw yn ardal Gymraeg Patagonia, sef Y Wladfa, ac wedi bod yno ers nifer o flynyddoedd. Ar Dros Frecwast yr wythnos diwetha cafodd Kate Crocket gyfle i’w holi hi gan ofyn iddi’n gynta iddi pam aeth hi allan i’r Wladfa yn y lle cynta?
Yn y cyfamser In the meantime
Annerch To address (a meeting)
Y cyfryngau The media
Dylanwadu To influence
Rhyngrwyd Internet
Yn anymwybodol Unaware
Pigion Dysgwyr – Cai Erith
Ac Esyllt oedd yn arwain Cymru a’r Byd, sef y Cymry sy’n byw ym mhob rhan o’r byd erbyn hyn, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni Os chwiliwch chi ar BBC Sounds gwelwch raglen arbennig wnaeth Aled Hughes ei recordio dan y teitl Mordaith. Rhaglen yw hi lle mae Aled yn hwylio o amgylch Penrhyn Llŷn yn sgwrsio gyda rhai o drigolion yr ardal. Morwr yw Cai Erith a dyma fe’n sôn ychydig am ei fywyd
Penrhyn Peninsula
Trigolion Residents
Porthladdoedd Ports
Yn llythrennol Literally
Wedi dy hudo di Has lured you
Pigion Dysgwyr - Ffobia
Hanes bywyd diddorol Cai Erith yn fanna ar raglen Mordaith. Buodd Catrin Mai yn siarad ag Emma Walford a Trystan Ellis Morris ar eu rhaglen yn ddiweddar. Mae gan Catrin ffobia anarferol iawn… sbyngau, neu sponges! Dyma Emma yn holi Catrin gynta…….
Cyffwrdd To touch
Colur Makeup
Fatha Yr un fath â
Trin To treat
Nadroedd Snakes
Corynnod Pryfed cop
Arnofio To float
Amsugno To absorb
Tue, 15 Aug 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Lloyd Lewis
Gwestai arbennig Bore Sul yn ddiweddar oedd y rapiwr Lloyd Lewis. Mae e wedi perfformio ar y cae rygbi, ar deledu, ac mae e’n falch ei fod e'n Gymro Cymraeg aml-hil. Dyma Lloyd yn sôn wrth Betsan Powys am ei ddyddiau ysgol...
Yn ddiweddar Recently
Aml-hil Mixed-race
Amrywiaeth Variety
Ystyried To consider
Pigion Dysgwyr - Nofio yn y Seine
Y rapiwr o Cwmbrân , Lloyd Lewis oedd hwnna’n sgwrsio gyda Betsan Powys. Cyn bo hir mae'n bosib bydd pobl Paris yn gallu nofio yn yr afon Seine. Mae can mlynedd union wedi mynd heibio ers i nofio yn yr afon gael ei wahardd am fod gwastraff o bob math yn peryglu iechyd y nofwyr. Dyma Ceri Rhys Davies sy'n byw ym Mharis yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar Dros Ginio wythnos diwetha…...
Gwahardd To ban
Deugain mlynedd 40 years
Cydnabyddiaeth Acknowledgement
Brwnt Budr
Yn raddol Gradually
Mynd i’r afael To get to grips
Breuddwyd gwrach Pipe dream
Pigion Dysgwyr – John Eifion Jones
Ac ers y sgwrs honno daeth y newyddion bod nofio yn y Seine wedi cael ei wahardd eto oherwydd lefel y gwastraff yn yr afon. Gobeithio bydd popeth yn iawn erbyn Gemau’r Olympaidd on’d ife? Yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 1999 enillodd y tenor John Eifion Jones y Rhuban Glas i gantorion. Mae’r Rhuban Glas neu Gwobr Goffa David Ellis yn 80 oed eleni ac ar Raglen Bore Cothi wythnos diwetha gofynnodd Shan Cothi i John Eifion Jones, beth oedd e’n gofio am yr adeg enillodd e’r gystadleuaeth……
Gwobr Goffa Memorial Prize Y to ifanc The young generation
Y darnau gosod The set pieces
O’r neilltu To one side
Unawd Solo
Nefolaidd Heavenly
Dehongli To interpret
Pigion Dysgwyr – Bara Caws
Y tenor John Eifion Jones oedd hwnna’n sôn am yr adeg enillodd e’r Rhuban Glas, ond pwy fydd yn ennill y Rhuban yn Eisteddfod Boduan tybed? Ac yn ystod wythnos y Steddfod eleni, bydd Cwmni Theatr Bara Caws yn perfformio Dinas, sef gwaith un o ddramodwyr enwoca’r ardal sef Wil Sam Jones. Ysgrifennodd Wil Sam y ddrama ar y cyd â’r awdur Emyr Humphreys. Aeth Ffion Dafis draw i holi Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, gan ofyn iddi hi pam penderfynodd y cwmni berfformio Dinas yn y Steddfod….
Enwoca Most famous Ar y cyd â In collaboration with
Cyfarwyddwr Artistig Artistic Director
Talu teyrnged To pay tribute
Anghyfarwydd Unfamiliar
Yng nghrombil yr adeilad In the depths
Euraidd Golden
Traddodiad llenyddol Literary tradition
Llygad y ffynnon The source (lit: the eye of the well)
Diddanu To entertain
Pigion Dysgwyr – Alan Whittick
Drysau a grisiau amdani felly! Mae dramâu Theatr Bara Caws wastad yn boblogaidd yn yr Eisteddfod a digwyddiad poblogaidd, a phwysig, arall ydy cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - gwobr sy’n bedwar deg oed eleni. Ac i ddathlu, mae na aduniad mawr o holl enillwyr blaenorol y wobr wedi ei drefnu yn yr Eisteddfod eleni. Un o’r dysgwyr cynta i ennill y wobr hon oedd Alan Whittick, sydd yn byw yn ardal Llangurig ger Llanidloes ym Mhowys. Dyma fe ar Bore Sul yn sgwrsio gyda Betsan Powys
Aduniad Reunion
Blaenorol Previous
Cyflwyno To introduce
Ymddiddori To be interested in
Trwy gyfrwng Through the medium of
Yn anad dim More than anything
Pigion Dysgwyr – Rhedeg yn Araf
Ac mae pedwar o ddysgwyr gwych yn cystadlu am y wobr – cawn wybod ddydd Mercher pwy sydd wedi ennill Dych chi wedi clywed am y arfer ddiweddara o Redeg yn Araf? Mae Siwan Elenid yn arwain Clwb Rhedeg yn ardal y Bala, a buodd hi’n siarad gyda Jennifer Jones bnawn Mawrth diwetha ar Dros Ginio am yr arfer newydd yma...
Hygyrch Accessible
Cynhwysol Inclusive
Cyfryngau cymdeithasol Social media
Oriawr Watch
Tue, 08 Aug 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchSHELLEY & RHYDIAN
Yr awdures Manon Steffan Ros oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae Manon wedi ennill Gwobr Medal Yoto Carnegie am ei llyfr “The Blue Book of Nebo” sy’n gyfieithiad o’i llyfr “Llyfr Glas Nebo” enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018. Sut deimlad oedd ennill gwobr Carnegie tybed…
Y Fedal Ryddiaith The prose medal
Wedi gwirioni Over the moon
Braint Privilege
Enwebu To nominate
Rhestr fer Short list
Coelio Credu
Trosi To translate
Yn reddfol Instinctively
Addasu To adapt
Llenyddiaeth Literature
Hunaniaeth Identity
CLONC
Manon Steffan Ros oedd honna’n sôn am lwyddiant anferthol “Llyfr Glas Nebo” sydd wedi ei gyfieithu i nifer fawr o ieithoedd. Roedd rhaglen gomedi newydd ar Radio Cymru dros y penwythnos, wedi cael ei hysgrifennu gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn. Mae Gareth yn dysgu Cymraeg, a dyma i chi Radio Clonc...
Sy berchen Who owns
Yn sgil As a result of
Disgyrchiant Gravity
Wedi cythruddo Has angered
Atal To stop
Synau Sounds
Cael eu hystyried Being considered
Anferth Huge
Gwichian To squeak
Y diweddara The most recent
ALED HUGHES
Doniol iawn on’d ife? Blas ar Radio Clonc yn fanna – rhaglen gomedi newydd Radio Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Gwilym Morgan, enillydd Medal y Dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023, a hefyd gyda Rebecca Morgan, ei athrawes, a hithau wedi ennill Medal y Dysgwyr yn 2018. Mae Gwilym yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Caerdydd a dyma fe’n sôn am ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol...
Doniol Funny
Disgybl Pupil
Ysbrydoli To inspire
Cwblhau To complete
Y genhedlaeth nesa The next generation
Yn amlwg Obvious
Ewch amdani Go for it
ALED HUGHES
Wel dyna stori dda on’d ife? Yr athrawes a’r disgybl wedi ennill Medal y Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd. Ar raglen Aled Hughes clywon ni Iestyn Tyne, bardd preswyl Eisteddfod Llyn ac Eifionydd, yn sôn am y llaw-lyfr lliwgar ar gyfer ymwelwyr a dysgwyr, neu siaradwyr newydd, i’r Eisteddfod eleni. Aled Hughes fuodd yn ei holi.
Bardd preswyl Resident poet
Deunydd Material
Diwylliant Culture
Arwynebol Superficial
Annog To encourage
Gafael weddol A reasonable grasp
Cenedl ddwyieithog A bilingual nation
Safbwynt Perspective
Pwyllgor Llen Literature committee
Gwaddol Residue
BORE COTHI
On’d yw hi’n dda o beth bod yr Eisteddfod yn gwneud yn siŵr bod croeso i bawb ym Moduan eleni? Mae’r tri chlip nesa i gyd i wneud ag amaethyddiaeth, a hynny gan fod y Sioe Fawr, neu’r Sioe Frenhinol wedi cael ei chynnal yn Llanelwedd yr wythnos diwetha. Bechgyn “Trio” oedd gwesteion arbennig Shân Cothi yn y Sioe Fawr a chafodd Shân sgwrs gyda’r tri cyn iddyn nhw ganu ar lwyfan Radio Cymru yn y Sioe. Mae’r cantorion Emyr Wyn Gibson, Bedwyr Gwyn Parri a Steffan Lloyd Owen yn dathlu 10 mlynedd eleni fel Trio.
Amaethyddiaeth Agriculture
Y Sioe Fawr The Royal Welsh
Dwlu Hoff iawn
Asiad y lleisiau The blend of the voices
Cyfarwyddiadau Instructions
Yn unigol Individually
Doniau Talents
Yndw Ydw
Droeon Many times
BORE COTHI
Un arall welodd Shan Cothi ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd fore Iau oedd Huw Williams o’r Felinheli ger Caernarfon. Mae Huw yn ffarmwr balch ac ar dân dros gefn gwlad ac amaethyddiaeth.
Balch Proud
Ydy glei Of course it is
Golygfeydd godidog Superb views
Yn gyfarwydd Familiar
Cynnyrch Produce
Ffasiwn angerdd Such passion
Dieithr Unfamiliar
Beirniadu To judge
Annerch To address (a meeting)
BETI A’I PHOBOL
..ac mae Huw yn llawn angerdd dros amaethyddiaeth on’d yw e? Mared Rand Jones oedd gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar fferm yng Ngheredigion, ac ymunodd hi â’r Ffermwyr Ifanc pan oedd hi’n ddeuddeg oed. Erbyn hyn hi yw Prif Weithredwr y mudiad a dyma hi’n sôn am ei thad wnaeth ddysgu Cymraeg ar ôl cwrdd â mam Mared...
Prif Weithredwr Chief Executive
Bant I ffwrdd
Mynychu To attend
Tue, 01 Aug 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Deborah Morgante
Mae Deborah Morgante yn dod o Rufain yn yr Eidal ac wedi dysgu Cymraeg. Ar Dros Ginio bnawn Mawrth diwetha soniodd Deborah am y gwres tanbaid sydd wedi taro’r Eidal a gwledydd eraill Môr y Canoldir. Dyma Jennifer Jones yn gofyn i Deborah yn gyntaf pa mor brysur oedd Rhufain…lle sydd fel arfer yn llawn twristiaid…..
Gwres tanbaid Intense heat
Môr y Canoldir Mediterranean Sea
Rhufain Rome
Mewn gwirionedd In reality
Rhybuddio To warn
Oriau mân y bore The early hours
Mas Allan
Dioddef To suffer
Pigion Dysgwyr – Aled Hughes
Mi alla I dystio I’r gwres achos ro’n I ar Ynys Sicilly yn ystod yr wythnos. Mae Grayer Palissier yn siaradwraig Cymraeg newydd ac yn byw yn y Wyddgrug. Mae hi’n dod o Ynys Manaw yn wreiddiol a phenderfynodd hi ddysgu Cymraeg pan oedd ei phlant yn fach. Dyma hi’n esbonio wrth Aled Hughes yn ddiweddar pam bod gan y band Daniel Lloyd a Mr Pinc ran fawr i chwarae yn ei phenderfyniad i barhau i ddysgu’r iaith……
Ynys Manaw Isle of Man
Parhau To continue
Rhoi’r gorau i To give up
Anhygoel Incredible
Achub To save
Gwerthfawrogi To appreciate
Pigion Dysgwyr – Adam yn Yr Ardd
Llais Daniel Lloyd wedi ysbrydoli Grayer i gario ymlaen gyda’i Chymraeg. Da on’d ife? Dych chi’n tyfu tomatos o gwbl ac wedi gweld tomato bach yn tyfu y tu mewn i domato arall? Dyma Adam Jones neu Adam yn yr Ardd yn esbonio wrth Shan Cothi pam bod hynny’n digwydd…..
Ysbrydoli To inspire
Planhigyn Plant
Y cnwd cynta The first crop
Gorfwydo To overfeed
Aeddfedu To mature
Yn gyson Regularly
Bwydo To feed
Pigion Dysgwyr – Caryl
Dyna ni felly– peidiwch â gorfwydo eich tomatos! Ar ei rhaglen nos Fercher cafodd Caryl Parry Jones air gyda Sion Wyn o Ddinbych. Mae e’n aelod o’r Ford Gron yn y dref ac esboniodd wrth Caryl beth yw cefndir y mudiad
Y Ford Gron The Round Table
Bodoli To exist
Mudiad Rhyngwladol An international movement
Rhyw ben Sometime
Cymdeithasol Social
Achosion da Good causes
Gweithgareddau Activities
Hwyrach efallai
Chwarel Quarry
Angenrheidiol Necessary
Pigion Dysgwyr – Messi
Sion Wyn oedd hwnna’n rhoi ychydig o hanes y Ford Gron yn Ninbych. Mae un o chwaraewyr pêl-droed gorau'r byd, Lionel Messi, wedi ymuno â thîm pêl-droed Inter Miami yn yr Unol Daleithiau. Mae llawer yn ei gyfri’n un o'r pêl-droedwyr gorau erioed ac Ar Dros Frecwast fore Gwener cafodd Dafydd Morgan sgwrs gyda Dafydd Williams sy’n byw yn Miami am sut mae’r ddinas wedi ymateb i’r newyddion yma….
Yr Unol Daleithiau The USA
Ymateb To respond
Pigion Dysgwyr – Cennin Pedr
Dw i’n siŵr bydd hi’n newid mawr i Messi orfod perfformio mewn stadiwm mor fach on’ bydd hi? Mae rhai gwyddonwyr yn credu gallai Cennin Pedr fod yn ateb i ran o broblem cynhesu byd eang. Cafodd Catrin Haf Jones sgwrs gyda’r arbenigwr Dr Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth, i gael rhagor o wybodaeth am hyn…
Gwyddonwyr Scientists
Cennin Pedr Daffodils
Cynhesu Byd Eang Global warming
Ymchwil Research
Gwymon môr Seaweed
Heriau Challenges
Cynaeafu To harvest
Meddiginiaeth Medicine
Sylweddau Substances Cynalwadwy Sustainable
Gwraidd Root
Y diwydiant amaeth The agricultural industry
Tue, 25 Jul 2023 15:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Bore Sul
Mae’r cogydd Tomos Parry o Ynys Môn ar fin agor ei fwyty newydd yn Soho Llundain, ac ar Bore Sul yn ddiweddar cafodd Bethan Rhys Roberts sgwrs gyda fe am ei fenter newydd ………
Cogydd Chef
Ar fin About to
Dylanwadu To influence
Cynhwysion Ingredients
Gwair Grass
Gwymon Seaweed
Crancod Crabs
Cynnyrch Produce
Pigion Dysgwyr – Trystan ac Emma
A phob lwc i Tomos gyda’i fwyty newydd on’d ife? Llwyfan y Steddfod ydy enw sengl newydd y canwr o Fethel ger Caernarfon, Tomos Gibson. Mae e ar hyn o bryd yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai, a buodd Tomos yn sôn wrth Trystan ac Emma am y broses o gynhyrchu’r sengl
Cynhyrchu To produce
Ddaru o gymryd Cymerodd
Cerddorion Musicians
Cynnwys Including
Unigol Individual
Trefnu To arrange
Profiad Experience
Cyfansoddi To compose
Braint A privilege
Pigion Dysgwyr – Dei Tomos
Wel dyna Tomos arall i ni ddymuno pob lwc iddo heddiw – Tomos Gibson o Fethel gyda’i sengl newydd Llwyfan y Steddfod Yn ddiweddar darlledwyd rhaglen arbennig o Brifysgol Caergrawnt. Buodd Dei Tomos yn sgwrsio gyda nifer o’r Cymry Cymraeg sy’n astudio yno, ond yn gynta cafodd air gyda Mari Jones sy’n athro Ffrangeg ag yn gymrawd yng ngholeg Peterhouse. Gofynnodd Dei iddi yn gynta am hanes ei gyrfa……
Darlledwyd Was broadcast
Caergrawnt Cambridge
Cymrawd Fellow
Tafodiaith y Wenhwyseg The South East Wales dialect
Safoni To standardise
Mam-gu Nain
Doethuriaeth PhD
Ehangais i I expanded
Anogaeth Encouragement
Arolygwr Supervisor
Pigion Dysgwyr – Aled Hughes
Wel ie, mae’n drueni gweld rhai o’r tafodieithoedd yma’n diflannu on’d yw e? Ar Instagram a Facebook mae Cynllun Cofnod 2023 yn ceisio cofnodi enwau llefydd bro yr Eisteddfod eleni. Morwen Jones sydd yn rhedeg y prosiect a chafodd air gyda Aled Hughes ar ei raglen ddydd Mawrth diwetha……
Cofnod A record
Pwyllgor celf Art Committee
Codi ymwybyddiaeth raising awareness
Yn sylfaenol Basically
Yn dueddol o Tend to
Y galon The heart
Penillion a cerddi Verses and poems
Atgofion Memories Croesawus Welcoming
Mwynhad Enjoyment
Pigion Dysgwyr -Aderyn y Mis
Ie, on’d yw hi’n bwysig cadw a chofnodi’r hen enwau d’wedwch? Aderyn y Mis ar raglen Shan Cothi y mis yma yw’r Gnocell Fraith Fwya. Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan yn dwym a gofynnodd hi i’r adarwr Daniel Jenkins Jones sôn yn gynta am gynefinoedd y gnocell …
Cnocell Fraith Fwya Great spotted woodpecker
Cynefinoedd Habitats
Aeddfed Mature
Cynrhon Maggots
Dychmyga Imagine
Tiriogaeth Territory
Cyfarwydd Familiar
Disgyrchiant Gravity
Pigion Dysgwyr – Ifan Evans
Daniel Jenkins oedd hwnna’n sôn am y Gnocell Fraith Fwya . Mae Alan Hughes o Bentrefoelas yn 85 mlwydd oed ac wedi hyfforddi nifer fawr o drigolion yr ardal i i yrru ceir. Mae’n debyg mai dim ond 2 berson arall ar draws Prydain sy wedi bod yn hyfforddi yn hirach nag Alan. Dyma fe’n rhoi ychydig o’i hanes ar raglen Ifan Evans ddydd Mercher diwetha
Yn dragwyddol All the time
Tue, 18 Jul 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Cerys Hafana
Cerys Hafana, y cerddor ifanc o Fachynlleth oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol wythnos diwetha. Mae hi’n chwarae’r delyn ers pan oedd hi’n 7 mlwydd oed. Daeth hi i Fachynlleth i fyw yn blentyn bach o ddinas Manceinion. Dyma hi’n sôn am sefyllfa byd cerddoriaeth werin yng Nghymru, ymhlith pobl ifanc.
Cerddor Musician
Telyn Harp
Ymhlith Amongst
Offeryn Instrument
Cerddoriaeth (g)werin Folk music
Mae’n ddilys It’s valid
Mynegi eich hunain To express yourselves
Llawysgrifau Manuscripts
Plant yn eu harddegau Teenagers
Ysbrydoliaeth Inspiration
Pigion Dysgwyr – Cernyweg
Y cerddor Cerys Hafana oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George. Enillodd Matt Spry wobr Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 ac aeth ymlaen i fod yn diwtor Cymraeg gyda Phrifysgol Caerdydd. Mae’n dod o Aberplym neu Plymouth yn wreiddiol, ac nawr mae e wedi bod yn dysgu Cernyweg ers tua 8 mis. Wythnos diwetha ar raglen Aled Hughes cafodd Matt air gydag Aled i esbonio pam ei fod wedi mynd ati i ddysgu’r iaith …
Cernyweg Cornish language
Yn bennaf Mainly
Ar y ffin On the border
Cysylltu To contact
Wythnosol Weekly
O gymharu â Compared to
Anhawsa Most difficult
Yn rheolaidd Regularly
Hynod o bwysig Extremely important
Pigion Dysgwyr – Talwrn
A phob lwc i Matt gyda’r Gernyweg on’d ife? Cystadleuaeth rhwng dau dîm o feirdd ydy’r Talwrn a’r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Tir Iarll a’r Glêr, mewn rhaglen cafodd ei recordio yn Neuadd Pontyberem. Dyma Ceri Wyn Jones i osod tasg y limrig…..
Dim peryg No danger
Barddoniaeth Poetry
Gosod tasg Setting the task
Unwaith y flwyddyn Once a year
‘Na ryfedd That’s strange
Awgrymais I suggested
Fy ffiol oedd lawn My cup was overflowing
Pigion Dysgwyr – Gyrru Dramor
Wel dyna ddau limrig doniol on’d ife? P’run enillodd tybed? Dych chi wedi gyrru dramor erioed? Un sydd wedi gwneud yn aml yw arbenigwr moduro Rhaglen Bore Cothi, Mark James. Wythnos diwetha cafodd Mark sgwrs gyda Shan Cothi am beth sydd angen ei gofio pan dych chi’n gyrru ar gyfandir Ewrop.
Tramor Overseas
Arbenigwr Expert
Cyfandir Continent
Esgeuluso To neglect
Trwydded yrru Driving license
Pigion Dysgwyr – Dafydd Morgan
Pethau i chi gofio wrth yrru ar gyfandir Ewrop yn fan’na ar Bore Cothi. Awn i gyfandir arall nawr – Awstralia. Mae Dafydd Morgan o bentre Ffarmers yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn byw yn Awstralia ers mis Medi y llynedd. Mae Dafydd wedi bod yn gweithio ar ffermydd y wlad a dyma fe i sôn wrth Ifan Evans am y tywydd yno ar hyn o bryd…..
Gaeafau Winters
Porfa Pasture
Sulwair Silage
Plannu To plant
Ffrwythlon Fertile
Pigion Dysgwyr – Rhys Mwyn
Wel dyna ni, nid Cymru sy’n cael y glaw i gyd! Yn y cylchgrawn Far Out mae’r cerddor a’r canwr Paul Weller, fuodd gyda band The Jam, wedi dewis yr albwm Hotel Shampoo gan Gruff Rhys fel un o’i hoff albymau. Ymhlith ei hoff albymau eraill roedd rhai gan y Beatles, Stevie Wonder, Bob Marley a David Bowie. Dyma Rhys Mwyn ar Dros Frecwast fore Iau diwetha’n sôn am gerddoriaeth Rhys a’r Super Furry Animals
Tueddu i Tend to
Edmygu neu gwerthfawrogi Admire or appreciate
Petai Tasai
Arbrofol Experimental
Cydnabod To acknowledge
Tue, 11 Jul 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Carie Rimes
Perchennog Llaethdy Gwyn ym Methesda yng Ngwynedd yw Carie Rimes. Sgwrsiodd Carie gyda Shan Cothi wythnos diwetha, am wobr mae’r llaethdy newydd ei hennill ennill, sef y caws Cymreig gorau yng ngwobrau artisan Gwyl Gaws Melton Mowbray, a hynny am y trydydd gwaith yn olynol.
Perchennog llaethdy Dairy owner
Gwobr Award
Yn olynol In succession
Llefrith dafad Sheep’s milk
Unigryw Unique
Tueddu i Tends to
Llwyddiant Success
Pigion Dysgwyr – Glastonbury
A llongyfarchiadau mawr i Laethdy Gwyn am ennill y wobr fawr on’d ife? Ar Dros Ginio yn ddiweddar cafodd Cennydd Davies air gyda’r hanesydd pop Phil Davies. Buodd Phil yn edrych yn ôl dros Ŵyl Glastonbury gafodd ei chynnal yng Ngwlad yr Haf yn ddiweddar…….
Gwlad yr Haf Somerset
Darnau Pieces
Digon rhwydd Easy enough
Ro’n i’n synnu braidd I was rather surprised
Amau To suspect
Denu To attract
Fel mae’r sôn Apparently
Ei bai hi oedd o It was her fault
Pigion Dysgwyr – Dr Owain Rhys Hughes
Ddim pawb wedi plesio Phil Davies yn Glastonbury felly! Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos diwetha oedd Dr Owain Rhys Hughes . Mae’n dod yn wreiddiol o Benmynydd ar Ynys Môn, ac esboniodd e wrth Beti ychydig am system o’r enw Synapsis sef meddalwedd sy’n galluogi doctoriaid teulu i gael mynediad i system sy’n siarad gyda’r ysbyty a'r arbenigwyr
Meddalwedd Software
Galluogi To enable
Arbenigwyr Specialists
Yn rhad ac am ddim Free of charge
Cystadleuaeth Competition
Hyd yn oed Even
Pigion Dysgwyr – Dros Ginio
Dr Owain Rhys Hughes oedd hwnna’n esbonio pam bod Synapsis yn cael ei ddefnyddio yn Lloegr ond ddim yng Nghymru. Mae dwy fyfyrwraig o Ysgol Feddygaeth Caerdydd newydd gyhoeddi podlediad dan y teitl Paid Ymddiheuro. Elin Bartlett a Celyn Jones Hughes ydy eu henwau nhw, a dydd Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd y ddwy sgwrs gyda Jennifer Jones. Dyma Elin yn gynta i i ddweud pam aeth hi ati i greu’r podlediad
Wastad Always
Unigol Individual
Gwragedd Women
Pigion Dysgwyr – Porthcawl
Doedd gan Celyn fawr o ddewis cymryd rhan nag oedd? Aeth Caryl Parry Jones â ni i Borthcawl wythnos diwetha yng nghwmni Richard Howe ar gyfer yr eitem 24 awr yn…Dechreuodd Richard drwy sôn am ei fagwraeth yn y dre…
Magwraeth Upbringing
Ers sawl blwyddyn for a number of years
Cefn gwlad The countryside
Mas o’m cynefin Out of my habitat
Gwylanod Seagulls
Heidio To flock
Pigion Dysgwyr – Mari Pritchard
Richard Howe yn amlwg yn falch iawn o’i wreiddiau ym Mhorthcawl. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Mari Pritchard ar ei rhaglen yr wythnos diwetha. Mae Mari wedi bod yn brysur ar hyd y blynyddoedd yn hyfforddi ac yn arwain corau yn y gogledd yn ogystal â gweithio ym maes Theatr Ieuenctid. Dyma hi i sôn mwy am ei magwraeth ym mhentre Rhosmeirch ar ynys Môn
Cyflawni To achieve
Anferthol Huge
Meithrin To nurture
Dawn Talent
Cyfathrebu To communicate
Ffin Border
Ydy glei of course it is
Elwa To gain
Heriol Challenging
Ysbryd Spirit
Tue, 04 Jul 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Sulwyn Thomas
Gwestai gwadd rhaglen Bore Cothi ddydd Llun wythnos diwetha oedd y darlledwr Sulwyn Thomas. Am flynyddoedd lawer roedd gan Sulwyn raglen yn y bore ar Radio Cymru. Roedd e’n dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar a gofynnodd Shan Cothi iddo fe beth yw cyfrinach cadw’n ifanc ei ysbryd
Darlledwr Broadcaster
Cyfrinach Secret
Ysbryd Spirit
Ffodus Lwcus
Cam bihafio Misbehaving
Newyddiadurwr Journalist
Bant I ffwrdd
Dyfalu To guess
Pigion Dysgwyr – Ann Ellis
Sulwyn Thomas yn fanna’n swnio’n llawer ifancach nag wythdeg oed, a gobeithio iddo fe fwynhau’r dathlu yn Nhŷ Ddewi on’d ife? Ann Ellis yw un o benaethiaid cwmni Mauve Group sydd ar fin cael ei bresenoldeb cynta yng Nghymru. Mae’r cwmni yn helpu busnesau sefydlu mewn gwledydd newydd ar draws y byd. Yn ddiweddar ar raglen Bore Sul sgwrsiodd Ann gyda Bethan Rhys Roberts a dyma hi‘n sôn am sut dechreuodd y cwmni mewn cwpwrdd yn yr Eidal….
Sefydlu To establish
Ar fin cael About to have
Penaethiaid Heads
Hardd Pretty
Uwchben Above
Pigion Dysgwyr – Richard Hughes
Rhyfeddol on’d ife, fel mae’r cwmni bach wedi tyfu i weithio mewn dros gant o wledydd! Richard Hughes o Gaernarfon oedd gwestai gwadd Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos diwetha. Mae e wedi bod yn gweithio ym maes cyfrifiadureg a mathemateg ers y 60au. Mae'n rhaglennydd cyfrifiadureg ac wedi gweithio ar systemau ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Cynhaliodd Beti y sgwrs ar Zoom a gwrandewch ar be sydd gan Richard i ddweud am hynny…..
Cyfrifadureg Computer science
Rhaglennydd Programmer
Yn ddyddiol Daily
Arbenigo To specialise
Chwedl y Sais As they say in English
Addas Appropriate
Rhan helaeth The majority
Dadansoddi To analyse
Pigion Dysgwyr – Ian Parry
Mae ieithoedd cyfrifiadureg yn swnio’n llawer mwy cymhleth na’r Gymraeg on’d yn nhw? Buodd Ian Parri’n gweithio fel newyddiadurwr, fel tafarnwr ac fel tiwtor Cymraeg i Oedolion ac nawr mae e newydd gyhoeddi llyfr ar Wyddeldod. Buodd Ian yn gyrru o amglych arfordir Iwerddon am naw wythnos yn ei gartre modur. Dyma fe i sôn mwy am y daith wrth Dei Tomos...
Gwyddelod Irishness
Y Weriniaeth The Republic
Dulyn Dublin
Ymestyn To extend
Y machlud The sunset
Yn ei anterth At its peak
Trefniant swyddogol Official arrangement
Penrhyn Peninsula
Yn ei sgil As a consequence
Pigion Dysgwyr – Talwrn Ian Parri oedd hwnna’n sôn am ei daith o gwmpas Iwerddon. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Y Talwrn a’r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Dros yr Aber a Dwy Ochr i’r Bont. Cafodd y rhaglen ei recordio yn Neuadd Bentref Y Groeslon yng Ngwynedd. Dyma Ceri Wyn Jones yn gosod un o’r tasgau ar gyfer y beirdd…
Mawl Praise
Dychan Satire
Casâf Dwi’n casáu
Hy Audacious
Yr heidiau The swarm
Oedi Staying
Cyn ymlwybro Before making their way
Fe lofruddiaf I will murder
Malwod di-frys Unhurried snails
Ochneidio Groaning
Pigion Dysgwyr – Cor Dysgwyr Ardal Wrecsam
Dw i’n falch mai malwod mae Rhys am eu lladd – ro’n i’n poeni am ychydig pwy oedd e’n mynd i fwrw gyda’r rhaw yna! Bore Mercher diwetha ar raglen Shan Cothi cafodd Shan gwmni Pam Evans Hughes. Pam yw arweinydd Côr Dysgwyr Ardal Wrecsam, neu Côr DAW, a dyma hi i esbonio mwy am hanes y côr…
Bwrw To hit
Rhaw Spade
Arweinydd Conductor
Cerddorol Musical
Trwy gydol fy oes All my life
Traddodiadol traditional
Tue, 27 Jun 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Dorian Morgan
Bore Llun wythnos diwetha ar ei rhaglen, cafodd Shan Cothi gwmni Dorian Morgan. Mae Dorian newydd ddod yn ôl o daith 60 diwrnod ar draws Ewrop, dyma fe i ddweud mwy am y daith...
Bant I ffwrdd
Cledrau Rails (of railway)
Pasg Easter
Galluogi To enable
Yn ddi-dor Uninterrupted
Pigion Dysgwyr – Trystan ac Emma
Wel cafodd Dorian fargen yn fanna on’d do fe? Dw i ‘n siŵr ei fod wedi gweld nifer o wledydd Ewrop yn y 60 diwrnod yna! Yn ddiweddar ar raglen Trystan ac Emma clywon ni raglen arbennig i ddathlu’ Campio a Charafanio’. Mae Geth Tomos yn garafaniwr brwd ac esboniodd e wrth Trystan ac Emma pam ei fod mor hoff o’i garafán
Yn ddiweddar Recently
Brwd Enthusiastic
Cerddor Musician
Hafan o heddwch A peaceful haven
Adlen Awning
Troedfedd A foot (measurement)
Pigion Dysgwyr – Carno
Mae Geth Tomos yn amlwg wrth ei fodd yn aros yn ei garafán. Ym mhentre Carno ym Mhowys mae tafarnwr wedi bod yn tynnu peintiau o gwrw ers 60 blynedd. John Williams yw ei enw ac enw’r dafarn yw Y Tŷ Brith. Craig Duggan aeth draw ar ran Dros Frecwast yn ddiweddar i’w weld..
Llefydd Places
Cofiadwy Memorable
Cyflog Wages
Degawdau Decades
Y gyfrinach The secret
Y gymuned gyfan The whole community
Gwŷr Menfolk
Pigion Dysgwyr – Vaughan Smith
Pobl Carno oedd y rheina’n sôn am y tafarnwr John Williams. Daw Vaughn Smith o’r Unol Daleithiau ac mae wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Mae e wedi bod ar ei daith gynta i Gymru. Ond y peth rhyfeddol am Vaughn yw ei fod yn gallu siarad 36 o ieithoedd!!
Rhyfeddol Amazing
Ffinneg Finnish
Cyfandiroedd Continents
Pigion Dysgwyr – Heledd Fflur
36 o ieithoedd – waw mae Vaughn yn polyglot go iawn on’d yw e? Arbenigwraig garddio rhaglen Caryl yw Heledd Fflur a’r wythnos diwetha ar ei rhaglen esboniodd Heledd wrth Caryl pa lysiau sydd yn dda i’w hau yr adeg yma o’r flwyddyn
Arbenigwraig Expert (female)
Hau To sow
Cnwd Crop
Mewn rhes In a row
Sicrhau To ensure
Hedyn A seed
Tyfiant Growth
Dyfrio To water
Egino To germinate
Cynhesach Warmer
Pigion Dysgwyr – Alwyn Sion
Ac arhoswn ni gyda garddio yn y clip nesa ‘ma. Yr wythnos diwetha roedd y diddanwr Alwyn Sion yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed. Gwahoddodd Shan Cothi e ar ei rhaglen, mae e’n arddwr brwd a dyma fe i sôn am ei lysiau arbennig
Diddanwr Entertainer
Mwy na lai More or less
Canolbwyntio To concentrate
Uchafbwynt Highlight
Efeilliaid Twins
Yr hyd a’r lled The length and breadth
Tue, 20 Jun 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr - Aled Hughes
Mae Siop Tir a Môr yn Llanrwst wedi ennill y wobr am siop Pysgod a Sglodion orau Gogledd Cymru gan ddarllenwyr y Daily Post. Aeth Aled Hughes draw i siarad â pherchennog y siop Wyn Williams yn ddiweddar..
Ddaru ni Wnaethon ni
Estyniad Extention
Yn werth ei weld Worth seeing
Llymaid A swig
Coelio Credu
Gwaith haearn Iron works
Gwyrth Miracle
Caniatâd Permission
Sefyll yn llonydd Standing still
(H)wyrach Efallai
Pigion y Dysgwyr – Myfanwy Alexander
Llongyfarchiadau i Tir a Môr on’d ife? Mae’r bwyd yn swnio’n flasus iawn. Dych chi wedi bod yn Nhrefaldwyn o gwbl? Mae hi’n dref hanesyddol ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ac yn dref oedd yn boglogaidd iawn gyda Julie Christie a Salman Rushdie. Dyma Myfanwy Alexander yn dweud mwy wrth Rhys Mwyn...
Y ffin The border
Hamddenol Leisurely
Ling di long At your own pace
Awyrgylch Atmosphere
Bodoli To exist
Pensaerniaeth Architecture
Ffynnu To thrive
Llonyddwch Tranquillity
Cuddio To hide
Pigion Dysgwyr – Carwyn Graves
Mae Myfanwy Alexander yn amlwg yn meddwl y byd o’r dref fach bert ym Mhowys – Trefaldwyn. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl yr wythnos diwetha oedd yr hanesydd bwyd Carwyn Graves. Dyma fe i roi ychydig o hanes y crempog …..
Pancos Crempogau
Llydaw Brittany
Delwedd image
Marchnata Marketing
Yn sgil hynny Because of that
Dydd Mawrth Ynyd Shrove Tuesday
Lletygarwch Hospitality
Y cynnyrch The produce
Anghofiedig Forgotten
Hynafol Ancient
Pigion Dysgwyr – Sharon Morgan
Ie wir, mae’r crempog yn rhy flasus i’w gadw at Ddydd Mawrth Ynyd yn unig , on’d yw e? Buodd yr actor Dafydd Hywel farw yn diweddar ac ar Bore Cothi wythnos diwetha clywon ni’r actores Sharon Morgan, sy’n perthyn i Dafydd, yn edrych yn ôl ar ei yrfa.
Dirdynnol Poignant
Munud o dawelwch A minute’s silence
Dan ofalaeth Under the supervision of
Ysbrydoliaeth Inspiration
Llwyfan Stage
Aruthrol Stupendous
Darlledu To broadcast
Dawn anhygoel Incredible talent
Cofiadwy Memorable
Pigion Dysgwyr – Caryl
Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan yn gynnes yn fanna ac yn sgwrsio gyda Sharon Morgan, a bydd colled mawr ar ôl Dafydd Hywel, mae hynny’n sicr. O dro i dro mae Caryl Parry Jones ar ei rhaglen yn ‘treulio 24 awr yn…’ sef cyfle i bobl sôn am beth sydd i’w wneud yn rhai o bentrefi a threfi Cymru. Tro Nefyn ym Mhen Llŷn oedd hi yr wythnos diwetha a chafodd Caryl sgwrs gyda Mared Llywelyn am yr hyn sydd i’w wneud yn y dref….
Digwydd bod Happened to be
Harddwch Beauty
Rhyngwladol International
Llongau Ships
Penwaig herrings
Amgueddfa Forwrol Maritime Museum
Pigion Dysgwyr – Dei Tomos
Dw i’n siŵr bod Nefyn wedi bod yn brysur iawn yn ystod y tywydd braf yma, mae’n lle hyfryd iawn. Cyn athrawes Gymraeg o Ddinbych yw golygydd newydd cylchgrawn Merched y Wawr sef Y Wawr. Cafodd Dei Tomos gyfle i sgwrsio gydag Angharad Rhys yr wythnos diwetha am ei rôl newydd.
Golygydd Editor
Rhifyn Edition
Cynrychiolydd rhanbarth Regional representative
Profiad Experience
Golygu To edit
Cyfrannu To contribute
Croesair Crossword
Mewn trafferth In difficulty
Ymgymryd â To undertake
Tue, 13 Jun 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Cofio Amelia Earhart 28.05
Gan fod Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Llanymddyfri wythnos diwetha, y dref honno a Sir Gar oedd thema’r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy. Buodd e’n chwilio am hanesion o’r sir a dyma i chi glip bach o raglen “Ddoe yn ôl” o 1983 a Gerald Jones, cyn bennaeth Brigâd Dan Sir Gaerfyrddin yn llygad dyst i Amelia Earhart yn glanio ym Mhorth Tywyn o’r America yn 1928.
Llygad dyst Eye witness
Arbenigo To specialise
Lodes Merch
Ehedeg Hedfan
Porth Tywyn Burry Port
O bellter From a distance
Pigion Bore Sul Nicky John 28.05 Hanesion diddorol am Amelia Earhart yn fanna gan Gerald Jones . Gwestai arbennig Iwan Griffiths ar raglen Bore Sul oedd Nicky John, y gohebydd chwaraeon. Mae hi wedi gweithio ar raglen Sgorio ar S4C ers tua 17 o flynyddoedd, a dyma hi’n sôn am uchafbwyntiau ei gyrfa.
Gohebydd Correspondent
Uchafbwyntiau Highlights
Dychryn To frighten
Gwibio heibio Flying past (lit: darting past)
Rhyngwladol International
Braint Privilege
Ar lawr gwlad At grassroots level
Pigion Shelley & Rhydian Llyr Ifans 27.05
Wel ma Nicky John wrth ei bodd gyda’i gwaith on’d yw hi? Llyr Ifans oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Mae o’n cymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith ar S4C ar hyn o bryd yn helpu’r actor Neet Mohan, sydd i’w weld ar Casualty, i ddysgu Cymraeg. Buodd Llyr hefyd yn actio ar Casualty ddwywaith ac wedi dod ar draws Neet yn y gyfres...
Cyfres Series
Digwydd bod It so happened
Bellach By now
Awydd Desire
Gweithgareddau Activities
Carchar Rhuthun Ruthin Gaol
Anhygoel Incredible
Synau Sounds
Pigion Bore Cothi Marlyn Samuel 29.05
A tasech chi eisiau gweld pa mor dda yw Llŷr fel tiwtor mae’n bosib ei weld yn dysgu Neet at S4C Clic. Elain Roberts enillodd Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd eleni , ond cafodd Shan Cothi sgwrs gyda un o gyn enillwyr y Fedal - yr awdures Marlyn Samuel. Enillodd Marlyn y Fedal yn Eisteddfod yr Urdd Merthyr Tydfil yn 1987. Ei ffug enw oedd ‘Sallad‘ – pam tybed? Wel ‘roedd Marlyn yn ffan mawr o’r opera sebon Dallas, ond tasai hi wedi rhoi Dallas fel enw basai pawb wedi ei hadnabod – felly penderfynodd droi’r enw o gwmpas! 22 oed oedd Marlyn ar y pryd, ac yn gweithio fel Gohebydd Môn a Gwynedd i’r rhaglen radio Helo Bobol
Ffug enw Pseudonym
Ffodus Lwcus
Y flwyddyn cynt The previous year
Testunau Syllabus (list of competitions)
Cynrychiolydd Representative
Fy nghyfnither My female cousin
Duwadd annwyl Dear me
Rhybudd Warning
Dim siw na miw Not a word
Pigion Siarcod Jake Davies 29.05
Marlyn Samuel oedd honna’n cofio’r adeg pan enillodd hi Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd. Y biolegydd Jake Davies, oedd yn sôn am siarcod oddi ar arfordir Cymru ar y rhaglen wyddonol Yfory Newydd. Mae’n gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru ac i Sw Llundain, a dyma fe’n siarad am ei waith yn astudio’r moroedd ym Mhen Llŷn...
Cymunedau Communities
Gwaith maes Fieldwork
Abwyd Bait
Mecryll Mackerels
Rhywogaethau Species
Bad achub Lifeboat
Cynefinoedd Habitats
Pigion Sara Gibson 31.05
Hawdd iawn gweld bod Jake yn frwd iawn am ei waith on’d yw hi? Bore Mercher roedd Sara Gibson yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym. Cafodd hi sgwrs am y pryder ynglŷn â datblygiad deallusrwydd artiffisial. Dyma’r cerddor Lewys Meredydd yn sôn am effaith AI ar greu cerddoriaeth...
Brwd Enthusiastic
Pryder Concern
Deallusrwydd Intelligence
Creu Creating
Bwrlwm Babble
Yn y bôn Essentially
Ffynnu To flourish
Meddalweddau Software
Cynhyrchu To produce
Tue, 06 Jun 2023 13:01:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchRhaglen Caryl Parry Jones Ar ei rhaglen wythnos diwethaf, mi gafodd Caryl sgwrs efo Ieuan Mathews o Gwmni Theatr Pontypridd. Mae’r cwmni ar hyn o bryd yn llwyfannu y sioe gerdd Grease. Mi ofynnodd Caryl iddo fo‘n gynta, faint o sioeau maen nhw‘n arfer perfformio bob blwyddyn... Llwyfannu - To stage Sioe gerdd - Musical Cymeriadau - Characters Iesgob annwyl! - Good grief! Y brif ran - The main part
Rhaglen Bore Sul Yn 1963 recordiwyd Cymanfa Ganu arbennig yn Neuadd Albert Llundain gyda dros 5,000 o gantorion yn cymryd rhan. Mi roddodd Alun Thomas, cyflwynydd y rhaglen, apêl ar y cyfryngau cymdeithasol am unrhyw un oedd yn bresennol yn y recordiad hwnnw i gysylltu efo fo. Ac yn wir, mi gafodd ymateb gan Non Thomas, sy’n dod o Ferthyr yn wreiddiol, ond sy'n byw yn Hirwaun yng Nghwm Cynon erbyn hyn... Cymanfa Ganu - A hymn singing festival Cyflwynydd - Presenter Cyfryngau cymdeithasol - Social media Ymateb - Response Ymuno â - To join Gwasanaeth sifil - Civil Service Dipyn o fenter - Quite a venture Profiad - Experience Dych chi’n gallu dychmygu - You can imagine Y wefr - The thrill
Rhaglen Trystan ac Emma Mi fuodd Casi ac Elen o Ysgol Treganna, Caerdydd yn ddigon lwcus yn ddiweddar i dderbyn llythyr arbennig iawn yn y post. Roedden nhw wedi anfon llythyr at y naturiaethwr a’r darlledwr enwog David Attenborough. Mi ofynnodd Trystan ag Emma i’r ddwy pam penderfynon nhw anfon llythyr ato fo... Darlledwr- Broadcaster Yn ddiweddar - Recently Arwr - Hero Cyflwyniad - Presentation Brathu - To bite Sefydlu - To establish Baswn i’n tybio - I would assume
Rhaglen Ar Blât Y ddarlledwraig Siân Thomas oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar ei chyfres yr wythnos diwethaf. Dyma Sian yn sôn am wyliau gwahanol iawn gafodd hi yn y gorffennol... Mis mêl - Honeymoon Sa i’n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Wedi gweini ar iâ - Served on ice Trwchus - Thick Amrwd - Raw Cig carw - Venison Anhygoel - Incredible Pert - Pretty Yn go gloi - Quite quickly
Rhaglen Aled Hughes Mae Tegan Rees o Gwm Rhondda yn fyfyrwraig newyddiaduraeth, ond mae hi hefyd wedi cynrychioli Cymru mewn Bowlio Lawnt. Wythnos diwethaf ar raglen Aled Hughes mi ofynnodd Nia Parry (a oedd yn cyflwyno yn lle Aled Hughes) i Tegan, pryd dechreuodd hi chwarae bowls... Newyddiaduraeth - Journalism Cynrychioli - To represent Wastad - Always Chdi - Ti Pryderus - Concerned Cyffro - Excitement Braslun - Outline
Rhaglen Caryl Parry Jones Ar Ynys Môn mae na griw o ferched yn nofio’n gyson yn y môr drwy’r flwyddyn hyd yn oed yng nghanol y gaeaf. Maen nhw’n nofio dan faner Nofwyr Titws Tomos Môn!! Dyma un ohonyn nhw, Sian, i sôn mwy wrth Caryl Parry Jones… Yn gyson - Regularly Hyd yn oed - Even Baner - Flag Titw Tomos - Blue Tit Calon - Heart Trochiad - Ducking Canmol - Praise
Wed, 31 May 2023 10:48:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Ewan Smith
...ar ei raglen wythnos diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs gydag awdur sydd hefyd yn siaradwr Cymraeg newydd, ac wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Ewan Smith yw ei enw, a dyma Aled yn ei holi’n gynta am ble yn union mae e’n byw…
Cylchgronnau Merched Women’s magazines
Aelod Member
Hen Ferchetan Old Maid (title of folk song)
Prif gymeriad Main character
Am hwyl For fun
Gwasg Press
Cyhoeddi Publish
Yn seiliedig ar Based on
Yn addas i Suitable for
Pigion Dysgwyr – Wil Rowlands
Ewan Smith oedd hwnna’n sôn am ei nofel Hen Ferchetan sydd yn addas i ddysgwyr lefel Canolradd ac Uwch. Gwestai Beti George yr wythnos hon oedd yr artist o Ynys Môn, Wil Rowlands. Esboniodd Wil wrth Beti sut cwrddodd e â dau eicon enwog ar yr un diwrnod. Un oedd Andy Warhol a dyma Wil i esbonio pwy oedd y llall...
Hap a damwain llwyr Pure luck
Efrog Newydd New York
Ynghlwm â Connected to
Cynhadledd Conference
Waeth i mi I might as well
Cyfarwydd familiar
Pen ar gam Head tilted
Wedi llorio Floored
Difaru To regret
Manteisio To take advantage of
Pigion Dysgwyr – Valmai Rees
Cwrdd â Johnny Cash ond methu â chofio ei enw, doniol on’d ife? Roedd tad Valmai Rees o Foelfre ar Ynys Môn, yn gapten ar longau masnach ac yn cael teithio’r byd gyda’i swydd. Ond yr hyn sydd yn arbennig am Valmai yw ei bod hi a’i mam yn cael teithio gyda fe ar rai o’r teithiau yma. Ar raglen Dei Tomos yn ddiweddar buodd Valmai’n sôn wrth Dei am y profiad hwnnw…
Llongau masnach Merchant ships
Morwrol Sea-faring
Del Pert
Hynod o hardd Extremely pretty
Ganwyd fi I was born
Cefnforoedd Oceans
Dim mymryn o ofn No fear whatsoever
Pigion Dysgwyr – Debra Drake
Hanes teulu morwrol Valmai Rees yn fanna ar raglen Dei Tomos. Ar Bore Cothi ddydd Mawrth cafodd Shan air gyda Debra Drake. Mae Debra wedi bod ar gyfres Sewing Bee ar y teledu. Dyma Debra yn dweud wrth Shan beth mae hi wedi bod yn ei wneud ers iddi hi fod ar y gyfres….
Cyfres Series
Andros o dda Really good
Gwnïo neu wau Sewing or knitting
Gwaith saer Carpentry
Cyflawni rhywbeth To achieve something
Campwaith Masterpiece
Goro Gorfod
Pigion Dysgwyr – Seiclo
…ac mae Debra Drake wedi bod yn brysur iawn ers iddi fod ar Sewing Bee on’d yw hi? Gwahoddodd Caryl Parry Jones Ben a Brond o Glwb Hoci Un Olwyn Caerdydd, i gael sgwrs fach ar ei rhaglen nos Fercher. Dyw Caryl erioed wedi eistedd ar feic un olwyn, a gofynnodd hi i Ben yn gynta ers pryd roedd e’n seico fel hyn…
Olwyn Wheel
Poblogaidd Popular
Ymunais i â I joined
Pigion Dysgwyr – Trey McCain
Mae angen dipyn o sgil i chwarae hoci ar feic un olwyn on’d oes? Yn ddiweddar buodd Aled Huws ar ymweliad â Banc Bwyd Arfon ac yno gafodd air gyda Trey McCain, Americanwr sydd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl. Dyma Trey yn sôn am pwy, a faint o bobl sydd yn ymweld â’r banc bwyd y dyddiau hyn…..
Wedi cynyddu’n sylweddol Has increased substantially
Yn ddiweddar Recently
Yn gyson Consistently
Profi caledi Suffering hardship
Cywilydd Shame
Cyfathrebu To communicate
Hanfodol Essential
Ti bo Rwyt ti’n gwybod
Tue, 23 May 2023 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr - Catherine Woodword
Wythnos diwetha ar ei rhaglen cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Catherine Woodward. Roedd Catherine yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed a dyma Shan yn gofyn iddi hi sut yn union oedd hi am ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn...
Dathliadau Celebrations
Cysylltu To contact
Becso Poeni
Gwisgo lan To dress up
Noswaith i ryfeddu A wonderous evening
Casglu To collect
Bryd ‘ny At that time
Pigion Dysgwyr – Betty Williams
… a gobeithio bod Catherine wedi cael parti gwych on’d ife? Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl oedd cyn Aelod Seneddol Conwy Betty Williams. Dyma hi’n esbonio wrth Beti pam aeth hi i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cynta…
Cyngor Plwyf Parish Council
Cludiant Transport
Pwyllgorau Committees
Yr awydd i gynrychioli The desire to represent
Araith Speech
Oedi To hesitate
Mynwentydd Cemeteries
Llwch llechen Slate dust
Cydymdeimlad Sympathy
Deddfu To legislate Pigion Dysgwyr – Ifan Gwilym
Y cyn aelod seneddol Betty Williams oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George. Dych chi’n credu mewn ofergoelion? Fasech chi’n cerdded o dan ysgol, neu pasio rhywun ar y grisiau? Carl ac Alun fuodd yn cadw sedd Trystan ag Emma yn dwym yn ddiweddar ac ofergoelion ym myd chwaraeon oedd un o’r pynciau buon nhw’n eu trafod ar y rhaglen. Dyma Ifan Gwilym i sôn mwy am hyn…
Cyn aelod seneddol Former MP
Ofergoelion Superstitions
Twym Cynnes
Tyfu barf To grow a beard
Rownd cynderfynol Semi-final
Hylendid Hygiene
Y garfan The squad
Trwy gydol Throughout
Pigion Dysgwyr – Non Parry
Ifan Gwilym oedd hwnna’n sôn am ofergoelion byd chwaraeon. Mae cyfres newydd o Ar Blât wedi cychwyn ar Radio Cymru gyda’r cogydd Beca Lyne-Perkis yn cyflwyno. Yn y bennod gynta ddydd Sul Non Parry o’r band Eden oedd y gwestai. Gofynnodd Beca iddi hi beth oedd ei hatgof cynta o goginio…
Atgof cynta First memory
Glöwr Coal miner
Uwchben Above
Arogl Smell
Gallwn i ddychmygu I could imagine
Llanast Mess
Prysurdeb Rush
Hylif Liquid
Unigryw Unique
Pigion Dysgwyr – Mullett
Non Parry yn fanna’n cofio am brofiadau coginio ei phlentyndod. Beth sydd gan Rod Stewart, Paul McCartney, Dolly Parton a Miley Cyrus yn gyffredin…wel buon nhw i gyd gyda mullet ar un adeg. Dydd Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones sgwrs gyda’r hanesydd ffasiwn Sina Haf i sôn am yr adfywiad sy wedi bod yn y steil gwallt arbennig yma….
Adfywiad Revival
Eitha trawiadol Quite striking
Poblogaidd Popular
Gwar Nape of the neck
Y ganrif gyntaf The first century
Cerflun Statue
Amlwg Obvious
Pigion Dysgwyr – Twm Morys
Wel y mullet amdani felly!! Bore Iau ar raglen Aled Hughes buodd y bardd Twm Morys yn rhoi ychydig o hanes y siantis môr. Ond oes yna draddodiad canu siantis yng Nghymru? Dyma Twm i sôn mwy…
Traddodiad Tradition
Perchnogion llongau Ship owners
Cyflogi To employ
Cyfandaliadau Shares
Milwyr Soldiers
Emynau Hymns
Mor gyfarwydd â nhw So familiar with them
Gwerin Folk
Amrywio To vary
Tue, 16 May 2023 12:59:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Sioned Lewis
Sioned Lewis oedd gwestai Beti a'i Phobol, wythnos diwetha. Mae hi'n gwnselydd ac yn seicotherapydd a hi yw cwnselydd rhaglen Gwesty Aduniad ar S4C. Mae hi’n dod o Ddolwyddelan yn wreiddiol a buodd hi'n gweithio mewn sawl swydd wahanol, yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Yn 1999 roedd rhaid i Sioned adael ei swydd oherwydd canser y fron ac roedd hynny’n adeg ofnadwy iddi hi. Ond yn y clip yma, sôn mae hi am ei ffrind gorau pan oedd hi’n ifancach...
Pwdu To pout
Golau Fair
Del Pert
Diog Lazy
Crafu To scratch
Gwrthod symud Refusing to move
Wedi hen fynd Long gone
Pigion Dysgwyr – Eluned Lee
Sioned Lewis yn sôn am Pwyll ei cheffyl bach a’i ffrind gorau ar Beti a’i Phobol. Roedd rhaglen Shan Cothi yn rhoi sylw i wirfoddoli yr wythnos diwetha ac mae Eluned Lee yn gwirfoddoli gyda’r RSPB ar Warchodfa Ynys Lawd, Ynys Môn. Dyma hi i sôn ychydig am y Warchodfa…
Gwarchodfa Ynys Lawd South Stack Nature Reserve
Gwirfoddoli To volunteer
Clogwyni Cliffs
Nythu To nest
Angerddol Passionate
Braint Privilege
Cyd-destun Context
Goleudy Lighthouse
Gweladwy Visible
Y grug a’r eithin The heather and gorse
Pigion Dysgwyr – Biden
Mae Eluned yn amlwg wrth ei bodd yn gwirfoddoli ar Ynys lawd. Ar raglen fore Sul yn ddiweddar cafodd Elliw Gwawr gyfle i holi Robert Jones o dalaith Vermont yn yr Unol Daleithiau. Mae Robert wedi dysgu Cymraeg a dyma fe‘n sôn am y gwahaniaeth mae e’n ei weld rhwng y cyn Arlywydd Donald Trump a Joe Biden, gan ddechrau gyda Biden.
Talaith State
Cyn arlywydd Former President
Yn iau Younger
Pryderu To worry
Pigion Dysgwyr – I Tunes
Barn Robert Jones yn fanna am Joe Biden a Donald Trump. Mae hi’n ugain mlynedd ers i gwmni Apple lansio iTunes Store. Ar Dros Ginio bnawn Mawrth buodd John Hywel Morris sydd yn Uwch Reolwr gyda PRS yn esbonio wrth Jennifer Jones sut a pham dechreuodd yr arfer o lawrlwytho cerddoriaeth……
Uwch Reolwr Senior Manager
Lawrlwytho To download
Teyrnasu To reign
Ffrydio To stream
Diwydiant cerddoriaeth The music industry
Elwa To profit
Dioddef To suffer
Poblogaidd Popular
Darlledwyr Broadcaster
Pigion Dysgwyr – Bryn Jones
Wel ie, does dim llawer o siopau recordiau go iawn y dyddiau hyn nag oes, gyda chymaint o gyfle i lawrlwytho cerddoriaeth. Mae Bryn Jones yn byw yn Poznan, Gwlad Pwyl ac wedi priodi merch o’r wlad honno. Ond ei gariad cynta oedd tîm pêl-droed Wrecsam. Roedd tad Bryn yn ffan mawr o Wrecsam yn ogystal ond yn anffodus buodd e farw bedair blynedd yn ôl. Beth fasai tad Bryn wedi ei wneud o’r holl sylw sy wedi bod i dim pêl-droed Wrecsam yn ddiweddar tybed? Dyma Bryn yn sgwrsio gyda Carl ac Alun ar eu rhaglen arbennig nos Fawrth…
Y pumdegau The 50’s
Dw i’m Dw i ddim
Ymysg Amongst
Trychineb Disaster
Gwead The fabric
Cydnabod To acknowlege
Pigion Dysgwyr – Linda Gittins
Ac roedd y rhaglen honno yn cyd-fynd gyda thaith bws y tîm pêl-droed o gwmpas dinas Wrecsam a dw i’n siŵr basai tad Bryn wedi bod wrth ei fodd o weld cymaint o bobl ar y strydoedd i groesawu’r tîm. Ar ei rhaglen yr wythnos diwetha cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Linda Gittins. Hi, Penri Roberts a’r diweddar Derek Williams oedd tîm creadigol sioeau Cwmni Theatr Maldwyn. Dyma Linda i sôn am daith y tîm i Lundain...
Y diweddar The late Hwyrach Perhaps
Gwrandawiadau Auditions
Trio ein gorau glas Trying our best
Ym mhob agwedd In every aspect
Cefn llwyfan Back stage
Lodes fach y wlad A country girl
Rhywbeth byw Something live
Gwefr Thrill
Iasol Thrilling
Boed hi’n Whether it be
Tue, 09 May 2023 12:59:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Geraldine MacByrne Jones
Mae Geraldine MacByrne Jones yn yn byw yn Llanrwst, ond yn dod o’r Wladfa yn wreiddiol, sef y rhan o Ariannin ble mae’r Gymraeg yn dal i gael ei siarad. Yr wythnos diwetha buodd hi’n sgwrsio gyda Aled Hughes am sut mae’r ddwy wlad, Cymru a’r Ariannin wedi ei hysbrydoli i farddoni…..
Ariannin Argentina
Ysbrydoli To inspire
Barddoni To write poetry
Tirwedd Landscape
Ysbryd Spirit
Daearyddiaeth gorfforol Geography
Dychymyg Imagination
Ysgogi To motivate
Digwyddiadau hanesyddol An historical event
Pigion Dysgwyr – Dafydd Cadwaladr
Mate ydy’r diod mwya poblogaidd yn y Wladfa ond basai nifer yn dweud mai te ydy diod mwya poblogaidd Cymru, ac roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Yfed Te yn ddiweddar. Ar eu rhaglen fore Gwener buodd Trystan ac Emma yn sgwrsio gyda un sydd yn ffan enfawr o yfed te sef Dafydd Cadwaladr o Fethesda. Dyma fe i sôn am ei hoff de…
Nodweddiadol Typical
Arogl Aroma
Cryfhau a chyfoethogi To strengthen and enrich
Cwdyn Bag
Ysgafnach Lighter
Amrywiaethau Varieties
Deilen A leaf
Cychwyn crino Begins to wither
Gwelltglaets Green grass
Pigion Dysgwyr – Clare Mackintosh
Dafydd Cadwaladr oedd hwnna’n sôn am ei hoff de. Ar ei rhaglen am y Celfyddydau, buodd Ffion Dafis yn sgwrsio gyda’r nofelwraig boblogaidd o ogledd Cymru, Clare Mackintosh. Dyma Clare yn esbonio ychydig am ei gyrfa cyn iddi ddod yn nofelwraig llawn amser…
Poblogaidd Popular
Cefndir Background
Defnyddiol Useful
Ymchwilio To research
Troseddau Crimes
Pigion Dysgwyr – Iola Ynyr
Clare Mackintosh yn sôn am sut mae hi wedi dod â’i phrofiadau fel ditectif i mewn i’w nofelau. Dydd Sul ar Beti a’i Phobol, Iola Ynyr oedd y gwestai. Mae Iola yn cynnal gweithdai ‘Ar y Dibyn’ – sydd yn herio’r stereoteip o bobol sydd â dibyniaeth. Buodd Iola yn gaeth i alcohol ar un adeg ond mae hi wedi derbyn cymorth 12 cam ac mae hi’n sobor nawr ers dros bedair blynedd. Yn y clip nesa mae hi’n sôn am y prosiect Ar y Dibyn...
Ar y dibyn On the edge
Herio To challenge
Dibyniaeth Addiction
Yn gaeth i Addicted to
Camdrin sylweddau Substance abuse
Digon difyr Interesting enough
Unigolion Individuals
Llenyddiaeth Cymru Literature Wales
O nerth i nerth From strength to strength
Y weledigaeth The vision
Yn benodol Specifically
Pigion Dysgwyr – Bethan Wyn Jones
A phob lwc i brosiect ‘ Ar y Dibyn’ on’d ife? Mae’r naturiaethwraig a’r ddarlledwraig Bethan Wyn Jones newydd ymddeol o ysgrifennu erthyglau a hefyd o gyfrannu i raglen byd natur Galwad Cynnar ar Radio Cymru. Buodd Dei Tomos ar ei raglen yn sgwrsio gyda hi’n ddiweddar gan ddechrau drwy ei holi am sut dechreuodd hi ysgrifennu colofn i’r Herald Cymraeg.
Darlledwraig Broadcaster
Rhywiogaethau Species
Arfordir Môn Anglesey coast
Planhigion meddigyniaethol Medicinal plants
Y golygydd The editor
Ymateb darllenwyr Readers’ response
Rwbath rwbath Any old thing
Wedi mynd i drafferth Had gone to the bother
Pigion Dysgwyr – Aderyn y Mis
Ac i aros gyda byd natur, bob mis ar raglen Shan Cothi mae’r adarwr Daniel Jenkins Jones yn sgwrsio gyda Shan am un aderyn penodol. Y tro yma roedd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan yn dwym a’r aderyn dan sylw gan Daniel oedd Gwennol y Bondo. Ydych chi’n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng Gwennol y Bondo a Gwennol cyffredin? Dyma Daniel yn esbonio...
Gwennol y Bondo House Martin
Gwennol cyffredin An ordinary Sparrow
Plu Feathers
Gwddf Neck
Cynffon fforchog Forked tail
Pryfetach Insects
Uchder Hight
Tebygol Likely
Tue, 02 May 2023 09:56:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Nia Williams
Cafodd Aled Hughes gwmni y seicolegydd Nia Williams yr wythnos diwetha i drafod chwerthin. Pam bod ni chwerthin tybed, a pha effaith mae chwerthin yn ei gael ar y corff? Dyma Nia’n esbonio...
Chwerthin Laughter
Treiddio i mewn To penetrate
Ymwybodol Aware
Ysbrydoli To inspire
Cadwyn A chain
Pryderus Concerned
Dygymod efo To cope with
Dychwelyd To return
Parhau To continue
Pigion Dysgwyr – Andy Bell
Nia Williams oedd honna’n sgwrsio gydag Aled Hughes am chwerthin. Am dros ganrif, Sydney oedd dinas mwyaf poblog Awstralia. Ond erbyn hyn Melbourne sydd gyda’r teitl hwnnw, ar ôl i ffiniau‘r ddinas newid i gynnwys rhannau o ardal Melton. Ond mae rhai 'Sydneysiders' fel mae nhw'n cael eu galw - yn anhapus - ac yn cwestiynu'r ffordd y mae Melbourne wedi mynd ati i ehangu. Cafodd y newyddiadurwr Andy Bell sy’n byw yn Awstralia air am hyn gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio bnawn Mawrth…..
Canrif Century
Poblog Populous
Ffiniau Borders
Ehangu To expand
Diffiniad Definition
Maestrefi Suburbs
Tyfiant Growth Tiriogaethau Territories
Taleithiau States
O ganlyniad As a consequence
Pigion Dysgwyr – Delyth Badder
Hanes brwydr dinasoedd Awstralia yn fanna gan y newyddiadurwr Andy Bell. Mae Dr Delyth Badder yn casglu hanes llên gwerin o Gymru ac credu’n gryf bod gwahaniaeth rhwng yr ysbrydion sy’n cael eu gweld yng Nghymru a’r rhai sy’n cael eu gweld yng ngweddill gwledydd Prydain, fel y buodd hi’n egluro wrth Rhys Mwyn, nos Lun...
Llên gwerin Folklore
Ysbrydion Spirits
Cael eu crybwyll Being alluded to
Dros Glawdd offa Over Offa’s Dyke
Gwrachod Witches
Tylwyth teg Fairies
Amaethyddol Agricultural
Ystrydebol Stereotyped
Cynfas wen White sheet
Ystyrlon Meaningful
Pigion Dysgwyr – Cob
Wel dyna ni, mae hyd yn oed ein gwrachod a’n tylwyth teg yn wahanol yng Nghymru! Yn ddiweddar buodd John Dilwyn yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen nos Sul am hanes adeiladu y Cob ym Mhorthmadog. Dyma John i sôn am William Alexander Maddox cynllunydd y Cob
Dyn dŵad A stranger
Ei hoel o His mark
Magwraeth freintiedig A privileged upbringing
Etifeddo eiddo To inherit property
Tirfeddiannwr Landowner
Bargyfreithiwr Barrister
Gwaed Gwyddelig Irish blood
Mi gladdwyd y tad His father was buried
Harddwch Beauty
Tynfa The pull
Pigion Dysgwyr – Caryl
Ac erbyn hyn wrth gwrs mae Ffordd Osgoi Porthmadog yn croesi’r Traeth Mawr, a does dim rhaid defnyddio’r Cob o gwbl. Daw Pegi Talfryn o Seattle yn wreiddiol a daeth i Gymru ar ôl syrthio mewn cariad â’r Gymraeg a chwedlau Cymraeg. Mae hi’n diwtor Cymraeg erbyn hyn ac wedi sgwennu nofelau arbennig ar gyfer dysgwyr. Ond mae yna genre arbennig o lyfrau sydd yn apelio at Pegi ar hyn o bryd, a dyma hi’n sôn mwy am hynny wrth Caryl Parry Jones
Ffordd osgoi By-pass
Chwedlau Fables
Cyfuno To combine
Ffuantus Bogus
Annwfn The underworld
Pigion Dysgwyr – Aled Hughes
Pegi Talfryn oedd honna’n sôn am y math o lyfrau mae hi’n mwynhau eu darllen ar hyn o bryd. Daw Marta Listewnik o Poznan yng Nghwlad Pwyl a dydd Iau sgwrsiodd Aled Hughes gyda hi am ei chariad at y Gymraeg, gan ddechrau gyda’r gwaith mae hi wedi ei wneud yn cyfieithu nofel Caradog Pritchard, Un Nos Ola Leuad i Bwyleg….
Gwlad Pwyl Poland
Pwyleg Polish
I ba raddau To what extent
Pa mor gyffredin How common
Cydbwysedd balance
Adolygiadau Reviews
Cyfleu To convey
Profiadau plentyndod Childhood experiences
Wed, 26 Apr 2023 09:42:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBore Cothi
Dim ond ers blwyddyn mae Angharad Jones yn dysgu Cymraeg ac eto erbyn hyn mae hi’n ddigon rhugl i gynnal sgwrs ar Radio Cymru gyda Shan Cothi. Mae hi’n dod o Fedwas ger Caerffili a gofynnodd Shan iddi hi faint o Gymraeg oedd yn ei theulu... Pert Del
Yn ôl According to
Cenhedlaeth Generation
Mo’yn Eisiau
Llywodraeth Cymru The Welsh Government
Ffili credu Methu coelio
Yn gyffredinol Generally
Llwyfan Stage
Y Talwrn
Angharad Jones oedd honna sydd wedi dysgu Cymraeg yn wych a hynny mewn blwyddyn yn unig. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Talwrn Radio Cymru ac yn aml iawn mae beirdd gorau a mwya profiadol Cymru yn cymryd rhan. Yr wythnos diwetha ar Y Talwrn, cynhaliwyd cystadleuaeth wahanol i’r arfer. Am y tro cyntaf dwy ysgol oedd yn cymryd rhan sef Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, Caerdydd a hynny yng Nghapel Bethel, Rhiwbeina.
Pennill ymson Soliloquy
Goruchwyliwr Invigilator
Lleddf Miserable (but also = minor in music)
Y gamp The achievement
Dychmygu To imagine
Diniwed Innocent
Uniaethu To identify (with)
Arswydus Frightening
Cyfoes Modern
Haeddu To deserve
Ergyd A blow
Beti a’i Phobol
Dau bennill ymson arbennig yn fanna gan y disgyblion, a’r Meuryn, Ceri Wyn Jones, yn hapus iawn gyda’r ddau. Ar raglen Beti a’i Phobol, Al Lewis oedd y gwestai. Mewn sgwrs agored ac emosiynol ar adegau, buodd yn sôn wrth Beti am y profiad o golli ei dad yn ifanc a’r effaith gafodd hynny arno fe.
Meuryn Adjudicator Marwolaeth Death Cyhoeddi To announce Anghyfforddus Uncomfortable Amddiffyn fy hun Defending myself Galar Bereavement Claddu To bury Cynhyrchydd Producer Degawd Decade
Tue, 18 Apr 2023 10:16:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Al Lewis
Ar Beti a’i Phobol dydd Sul diwetha cafodd Beti gwmni y cerddor Al Lewis fel gwestai. Esboniodd Al sut aeth e ati i sgwennu llythyrau ac i e-bostio er mwyn cael gwaith yn Nashville, Tennessee a llefydd eraill……
Cynhyrchydd Producer
O fewn Within
Cerddoriaeth Music
Dychmygu To imagine
Breuddwydion Dreams
Hynod dalentog Extremely talented
Profiad anhygoel An incredible experience
Hwb A boost
Ar y trywydd iawn On the right track
Cael ei barchu Being respected
Pigion Dysgwyr – Sonia Edwards
Profiad anhygoel i Al Lewis yn fanna yn Nashville, Tenesse. Buodd y nofelydd Sonia Edwards yn sgwrsio gyda Dei Tomos ar ei raglen yr wythnos diwetha am ei nofel ddirgelwch newydd. Dyma Sonia i sôn mwy….
Llacio To loosen
Dirgelwch Mystery
Llofruddiaeth Murder
Yn feddalach Softer
Ymgynghori To consult
Ymchwil To research
Cyffuriau Drugs
Darganfod To discover
Yn ymarferol Practical
Doethuriaeth PhD
Pigion Dysgwyr – Jason Mohammad
A dyna i chi Sonia Edwards yn rhoi blas i ni ar ei nofel ddirgelwch newydd fydd yn y siopau’n fuan. Un o westai Shelley a Rhydian yn ddiweddar oedd y darlledwr Jason Mohammad. Mae Shelley a Rhydian yn rhoi cyfle i’w gwestai bob wythnos ddewis caneuon Codi Calon. Un o ddewisiadau Jason oedd “Pride in the Name of Love” gan U2. Dyma fe i sôn mwy am ei ddewis…..
Yn ddiweddar Recently
Darlledwr Broadcaster
Codi Calon Raising the spirits
Cyfweliadau Interviews
Watsio Gwylio
T’m bod Rwyt ti’n gwybod
Atgofion Memories
Pigion Dysgwyr – Theatr Wild Cats
Y darlledwr Jason Mohammad oedd hwnna’n esbonio pam mai “Pride in the Name of Love” oedd ei ddewis fel Cân Codi Calon. Ac roedd angen codi calon arno gan i’w dîm, Dinas Caerdydd, golli i Abertawe yn y ‘Derby’ Cymreig nes ymlaen y diwrnod hwnnw. Yn Aberhonddu mae yna gwmni theatr arbennig wedi ei sefydlu o’r enw Theatr Wild Cats sy’n gweithio gydag unigolion sydd ag anableddau dysgu. Mae Gwenno Hutchinson yn gwirfoddoli gyda’r Theatr ac esboniodd hi wrth Caryl Parry Jones ar ei rhaglen nos Fawrth, sut aeth ati i helpu’r criw…..
Anableddau dysgu Learning disabilities
Gwirfoddoli To volunteer
Gweithgaredd Activity
Yn gyfleus Convenient
Haeddu To deserve
Cyfraniad Contribution
Cymdeithasu To socialise
Celfyddydau Arts
Pigion Dysgwyr – Vaughan Evans
Gwenno Hutchinson oedd honna’n sôn am y gwaith pwysig mae Theatr Wild Cats yn ei wneud. Dych chi yn gwybod beth yw Northern Soul? Wel, daeth Vaughan Evans ar raglen Aled Hughes fore Llun wythnos diwetha i esbonio mwy am y symudiad cerddorol hwn……
Symudiad cerddorol Musical movement
Tanddaearol Underground
Curiad Beat
Cefn gwlad The countryside
Tywyll Dark
Digalon Downhearted
Pigion Dysgwyr – Dylan Rhys Parry
A dyna ni’n gwybod llawer mwy am Northern Soul a’r Wigan Casino nawr, diolch i Vaughan Evans. Mae Dylan Rhys Parry wedi ei ddewis fel un o arweinwyr y rhaglen deledu S4C Ffit Cymru am 2023. Gweinidog yw Dylan sy’n byw yn Coety ger Pen-y-bont ar Ogwr, ond sy’n dod o Gaernarfon yn wreiddiol. Buodd Dylan yn sgwrsio gyda Heledd Cynwal fore Mercher diwetha a gofynnodd Heledd iddo fe’n gyntaf pam ei fod e wedi rhoi ei enw ymlaen i fod yn rhan o’r gyfres.……..
Gweinidog Minister
Y gyfres The series
Gwaed Blood
Clefyd siwgr Diabetes
Canlyniadau Results
Ysgogiad Impetus
Canrannau Percentages
Tue, 11 Apr 2023 11:01:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchCafodd Aled Hughes sgwrs wythnos diwetha gyda Sioned Mair am Fondue, bwyd sydd yn dod yn ôl i ffasiwn y dyddiau hyn. Ond beth yn union yw Fondue? Doedd dim syniad gydag Aled a dyma i chi Sioned yn esbonio…
Toddi To melt
Mae’n debyg Probably
Amrwd Raw
Rhannu To share
Argymell To recommend
Pigion Dysgwyr – Troi’r Tir
Mae’n debyg bod Fondue yn un o nifer o fwydydd y 70au sy’n dod yn ôl i ffasiwn. Cyw iâr mewn basged unrhyw un? Mae Troi’r Tir ar Radio Cymru yn rhoi sylw i faterion ffermio a chefn gwlad, a’r wythnos diwetha dysgon ni ychydig am waith y fet. Mae Malan Hughes yn filfeddyg yn ardal Y Ffor ger Pwllheli a dyma hi yn rhoi syniad i ni o’r math o waith mae hi’n ei wneud o ddydd i ddydd……
Milfeddyg Vet
Un ai Either
Ymddiddori To take an interest in
Ambell i lo Some calves
Cathod di-ri Innumerable cats
Pry lludw Wood lice
Silwair Silage
Ardal eang A wide area
Pigion Dysgwyr - Maori
Wel am fywyd prysur ac amrywiol sy gan milfeddygon on’d ife? I Seland Newydd nawr - ble mae Iwan Llyr Jones, sy'n dod o Finffordd ger Penrhyndeudraeth Gwynedd yn wreiddiol, yn byw. Cafodd Iwan ei ganmol ar-lein am iddo ddewis cael ei seremoni dinasyddiaeth yn Seland Newydd yn gyfan gwbl drwy’r iaith Maori. Dyma Iwan ar Dros Frecwast fore Iau yn esbonio wrth Dylan Ebenezer faint o’r iaith Maori sydd i’w chlywed yn Seland Newydd
Canmol To praise
Dinasyddiaeth Citizenship
Ymateb Response
Trawiadol Striking
Sylw Attention
Tyngu llw To swear an oath
Tebygrwydd Similarity
Pigion Dysgwyr – Nina
Iwan Llyr Jones oedd hwnna’n sôn am y sylw gafodd e ar TiK ToK ar i’w bartner bostio’r seremoni dinasyddiaeth Maori ar Tik Tok. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Nina Evans Williams yr wythnos diwetha. Llwyddodd Nina i ennill cystadleuaeth addurno cacennau Salon Culinaire yn Llundain yn ddiweddar. Ynys Môn oedd yr ysbrydoliaeth dros ei haddurniad a buodd Nina’n sôn wrth Shan Cothi sut aeth hi ati i gynrychioli’r Ynys ar ei chacen...
Addurno To decorate
Yn ddiweddar Recently
Cynrychioli To represent
Ysbrydoliaeth Inspiration
Teyrnged Tribute
Golygfeydd hardd Lovely scenery
Arfordir Coastline
Goleudy Lighthouse
Tonnau Waves
Pigion Dysgwyr – Elin Angharad
Ac o un artist at artist arall. Gwestai Beti George yr wythnos diwetha oedd y grefftwraig lledr o ganolbarth Cymru Elin Angharad. Mae gwaith celf wedi bod o ddiddordeb mawr i Elin ers pan oedd hi’n ifanc. Buodd hi’n astudio cwrs celf yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, ac erbyn hyn mae hi wedi cychwyn busnes ei hunan yn dylunio a chreu cynnyrch lledr ym Machynlleth. Dyma hi’n sôn am draddodiad crefft ei theulu
Dylunio To design
Lledr Leather
Gwneuthurwr dreser Cymreig Welsh dresser maker
Anghyffredin Unusual
Diwydiant cig Meat industry
Lladd-dai Abattoirs
Cymhorthydd Assistant
Cymharol fach Relatively small
Gwledig Rural
Dio’m bwys Does dim ots
Pigion Dysgwyr – Kamalagita
Elin Angharad oedd honna ar Beti a’i Phobol yn sôn am ei theulu ac am ei gwaith yn dylunio a chreu cynnyrch lledr. Yr wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn sgwrs gyda Kamalagita Hughes o Dreorci. Dysgodd Kamalagita Gymraeg ar ôl un noson fythgofiadwy mewn clwb yn y de, ble roedd band Cymraeg yn chwarae. Dyma hi i sôn mwy am y noson honno….
Bythgofiadwy Unforgettable
Egni Energy
Diwylliant Culture
Ieuenctid Youth
Mon, 03 Apr 2023 23:01:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Fiona Bennett
Weloch chi’r gyfres ‘The Piano’ oedd ar y teledu yn ddiweddar? Cyfres oedd hon sy’n rhoi cyfle i bianydd amatur chwarae o flaen panel o feirniaid i drio ennill gwobr, sef perfformio yn y Festival Hall yn Llundain. Un gymerodd ran yn y gyfres oedd y gantores Fiona Bennet a buodd hi’n siarad gyda Shan Cothi am y profiad
Beirniaid Judges
Cyfres Series
Credwch e neu beidio Believe it or not
Cyfrinach Secret
Cyfansoddi To compose
Angladd Funeral
Hysbys(eb) Advert
Mabwysiadu milgwn Adopting greyhounds
Dere lan Tyrd i fyny
Ar bwys ein gilydd Wrth ymyl ein gilydd
Pigion Dysgwyr – Beti George
Ychydig o hanes Fiona Bennett ar y gyfres ‘The Piano’ yn fanna ar Bore Cothi. Buodd Delyth Morgan yn chwarae rygbi dros Gymru yn y gorffennol ac nawr mae hi'n rheoli tîm rygbi merched Cymru dan 18 ac 20 oed. Ond ugain mlynedd yn ôl symudodd hi i fyw i Seland Newydd. Cafodd hi waith yno, priododd hi a buodd hi'n datblygu rygbi merched yno. Dyma Delyth yn sôn wrth Beti George am ble roedd hi yn byw pan oedd hi yn Seland Newydd...
Datblygu To develop
Deugain munud 40 minutes
Deg ar hugain o winllannoedd 30 vineyards
Ariannin Argentina
Selsig yn y rhewgell Sausages in the fridge
Rhyddid Freedom
Sefydlu To found
Gweithgareddau corfforaethol Corporate activities
Tu hwnt Beyond
Pigion Dysgwyr – Finyl
On’d yw bywyd yn Waiheke yn swnio’n wych? Delyth Morgan oedd yn disgrifio’r ynys ar Beti a’i Phobol. Am y tro cynta mewn tri deg pump o flynyddoedd mae mwy o recordiau finyl yn cael eu gwerthu na CD’s. Beth yw’r apêl felly? Dyna ofynnodd Jennifer Jones i’r ffan finyl Aled Llewelyn ar dros Ginio bnawn Mawrth
Cloriau Covers
Hel To collect
Adnabyddus Famous
Y cyfrwng penodol The specific medium
Yn tyrchu drwy Rummaging through
Ansawdd Quality
Gwatsiad Gwylio
Unigryw Unique
Plethu Meshing
Seinydd clyfar Smart speaker
Pigion Dysgwyr – Cerdded Nordig
Pwy fasai wedi meddwl flynyddoedd yn ôl, on’d ife, byddai finyl yn dod yn ôl i ffasiwn? Nos Fawrth ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Catrin o Nordig Cymru. Math o gerdded a chadw’n heini yw Cerdded Nordig, a holodd Caryl Catrin sut dechreuodd ei diddordeb yn y maes.
Mwyafrif Majority
Traws gwlad Cross country
Yn fwy ddiweddar More recently
Hyfforddi Training Pigion Dysgwyr
Wel dyna i chi ffordd wahanol o gadw’n heini – Cerdded Nordig.
Mae Rhian Mills yn ymgynghorydd cwsg, sef person sydd yn helpu pobl i sefydlu patrymau cwsg ac mae busnes gyda hi o’r enw Rested Mama. Cafodd Rhian sgwrs gydag Aled Hughes fore Mercher diwetha gan roi cyngor i ni am beth i’w wneud tasen ni’n deffro ganol nos...……
Ymgynghorydd cwsg Sleep Consultant
Cyngor Advice
Ail-afael To rekindle
Beryg ei bod ar ben That’s it, probably
Syth bin Straight away
Canolbwyntio To concentrate
Synnwyr Sense
Pigion Dysgwyr – Olwen Jones
Cyngor da gan Rhian yn fanna am sut i fynd yn ôl i gysgu ar ôl deffro ganol nos. Cafodd Olwen Jones ei llun yn ‘The Daily Telegraph’ yn ddiweddar i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Mae Olwen a’i theulu yn ffermio ger Tregaron a buodd hi’n rhoi hanes tynnu’r llun wrth Shan Cothi ...
Diwrnod Rhyngwladol y Merched International Woman’s Day
Cartrefol dros ben Very homely
Cwtsio lan Cuddling up
Cwympo mewn cariad Falling in love
Cylchgronau byd eang Worldwide magazines
Sulgwyn Whitsun
Ar yr amod On condition
Mon, 27 Mar 2023 23:01:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Doctor Cymraeg
Cafodd Steven Rule ei eni yn Nghoed-llai ger yr Wyddgrug ond mae llawer yn ei nabod erbyn hyn fel y Doctor Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol. Ar Twitter mae Steven yn ateb cwestiynau dysgwyr Cymraeg am yr iaith. Gofynodd Aled Hughes iddo fe’n gynta, gafodd Steven ei fagu ar aelwyd Cgymraeg?
Aelwyd Home
Cyfryngau cymdeithasol Social media
Yr Wyddgrug Mold
Bodoli To exist
Bellach By now
Fel petai As it were
Ar y ffin On the border
Anogaeth Encouragment
Pigion Dysgwyr – Dawnswyr Mon
On’d yw hi’n braf cael clywed am blant y ffin yn cael Dysgu Cymraeg? Daliwch ati Doctor Cymraeg! Buodd Mair Jones yn sgwrsio gyda Shan Cothi ar ei rhaglen yr wythnos diwetha yn apelio am aelodau newydd i ymuno â chriw Dawnswyr Môn. Dyma Mair i esbonio yn gynta sut a pryd ffurfiwyd y grŵp...
Mi ddaru John sefydlu John formed
Treulio To spend (time)
Y clo The lockdown
Ail-gydio To rekindle
Gwlad Pwyl Poland
Cynulleidfaoedd Audiences
Anferth Huge
Yn rhwydd Yn hawdd
Yn helaeth Extensively
Pigion Dysgwyr – Geraint Roberts
Felly os dych chi’n byw yn y gogledd orllewin ac eisiau dysgu dawnsio gwerin , cysylltwch â dawnswyr Môn.
Fe gafodd Trystan ac Emma gwmni y pibydd o Ystradgynlais Geraint Roberts ar eu rhaglen yn ddiweddar. Mae Geraint yn chwarae’r bib Gymreig mewn gorymdeithiau a phriodasau, a bu’n esbonio beth yn gwmws yn ei farn e yw eu hapel
Mewn – gallech chi ddweud Allan – I ddweud y gwir Hyd – 1’39”
Pigion Dysgwyr – Pryd Ma Te
Felly os dych chi’n byw yn y gogledd orllewin ac eisiau dysgu dawnsio gwerin , cysylltwch â dawnswyr Môn.
Nos Lun ar ei raglen gwahoddodd Rhys Mwyn - Mair Tomos Ifans, Carys Huw, Sian Wheway a Nia Owens i’r stiwdio. Yn yr 80au ffurfion nhw fand o’r enw Pryd Ma Te. Dyma Mair Tomos Ifans yn gynta i sôn am ba offeryn roedd hi yn chwarae yn y band
Offeryn Instrument
Mi ddaru ni benderfynu Penderfynon ni
Genod Merched
Chdi Ti
Pigion Dysgwyr – Quincy Jones
Criw Pryd Ma Te yn fanna’n cofio dyddiau cynnar y band efo Rhys Mwyn. Ddydd Mawrth diwetha roedd y cerddor a’r cyfansoddwr Quincy Jones yn dathlu ei benblwydd yn 90 oed. Ar Dros Ginio y diwrnod hwnnw cafodd y cerddor jazz Tomos Williams gyfle i edrych yn ôl dros ei yrfa, gan ddechrau drwy sôn am ble gafodd Jones ei fagu…..
Y cerddor a’r cyfansoddwr The musician and composer
Ardal ddiwydiannol Industrial area
Hiliaeth Racism
Rhaglenni dogfen Documentaries
Llygod Ffrengig Rats
Cnewyllyn o brofiadau A grain of experiences
Y tu hwnt i Beyond
Tlodi enbyd Extreme poverty
Ysgoloriaeth Scholarship
Mireinio ei grefft To refine his craft
Pigion Dysgwyr – Berwyn Rowlands
Bach o hanes Quinzy Jones yn fanna ar ddiwrnod ei benblwydd yn 90 oed. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol bnawn Sul oedd Berwyn Rowlands. Berwyn oedd sylfaenydd gwyl ffilmiau Iris sef gwyl ffilmiau ar gyfer y gymuned LGBTQ+ . Dyma fe i sôn am ei ddyddiau Ysgol ar Ynys Môn
Sylfaenydd Founder
Mynedfa Entrance
Babanod Infants
Arlunio Painting
Gwnïo Sewing
Cofrestr register
Gydol yr wythnos Throughout the week
Ymddangos To appear
Chwysu chwartiau Sweating like a pig ( lit: sweating quarts)
Pigion Dysgwyr – Sandra de Pol
Dw i’n meddwl bod ysgolion Môn wedi newid yn fawr ers dyddiau ysgol Berwyn Rowlands. Wel gobeithio on’d ife? Dros yr wythnosau nesa bydd Aled Hughes yn sgwrsio gyda rhai o enillwyr Gwobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn y gorffennol i nodi 40 mlynedd er cychwyn y wobr. Wythnos diwetha dechreuodd Aled drwy holi enillydd y flwyddyn 2000 sef Sandra De Pol sy’n dod o’r Ariannin yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel tiwtor Cymraeg.
Ariannin Argentina
Adfywio To revive
Disgynyddion Descendants
Diwylliant Culture
Enwebu To nominate
Cyfweliadau Interviews
Cyfathrebu To communicate
Ymdrech Attempt
Hynod o arwyddocaol Very significant
Heriol Challenging
Tue, 21 Mar 2023 09:48:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Adam yn Yr Ardd
Dyn ni i gyd wedi clywed, mae’n siŵr, am brinder a chostau tomatos yn ein siopau ni a dyma flas i chi ar sgwrs gafodd Shan Cothi gyda’r garddwr Adam Jones neu Adam yn yr Ardd am y ffrwyth yma. Mae Adam yn credu dylen ni dyfu tomatos ein hunain. Dyma fe’n sôn yn gynta’ am sawl math o domatos sydd yn bosib i ni eu tyfu.
Prinder Scarcity
Tueddol o To tend to
Yn glou Quick
Aeddfedu To ripen
Tŷ gwydr Greenhouse
Anferth Huge
Hadau Seeds
Chwynnu To weed
Olew olewydd Olive oil
Maethlon Nutritious
Pigion Dysgwyr - Pat Morgan
Ffwrdd a ni i’r tŷ gwydr felly i dyfu tomatos… Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl bnawn Sul oedd y cerddor Pat Morgan oedd yn aelod, gyda David R Edwards, o’r band chwedlonol Datblygu. Yn anffodus buodd David farw ddwy flynedd yn ôl, ond mae gan Pat atgofion melys iawn ohono……
Chwedlonol Legendary
Atgofion Memories
Wedi dwlu Wedi gwirioni
Wastad Always
Sbort Fun
Pigion Dysgwyr – Elin Roberts
Pat Morgan oedd honna’n rhannu ei hatgofion am Dave Dablygu. Dylunydd coron Eisteddfod Genedlaethol eleni yw Elin Roberts. Mae Elin yn gweithio allan o weithdy yng Nghaernarfon ac aeth Aled Hughes draw ati hi wythnos diwetha i weld sut oedd y paratoadau yn mynd ymlaen
Dylunydd Designer
Paratoadau Preparations
Undeb Amaethwyr Cymru Farmers Union of Wales
Wedi cael ei gymeradwyo Had been approved
Ysbrydoliaeth Inspiration
Gorffenedig Finished
Sgerbwd Skeleton
Yn hytrach na Rather than
Gwres heat
Hoel llosg A burn mark
Llechen Slate
Pigion Dysgwyr – Bryn Fon
A gobeithio, on’d ife, bydd yna goroni yn yr Eisteddfod eleni er mwyn i ni gyd gael gweld coron Elin Roberts. Gwestai Rhys Mwyn ar ei raglen nos Lun oedd y canwr a’r actor Bryn Fôn. Buodd Bryn yn sôn am ei yrfa ym myd cerddoriaeth, gan ddechrau gyda’r teimlad mae’n gael wrth gamu ar lwyfan i berfformio.
Camu ar To step on
Ymateb Response
Difyrach More interesting
Addoli To worship
Gwerthfawrogi To appreciate
Cysur Comfort
I ryw raddau To some extent
Cael eu denu Being drawn to
Cerddorion Musicians
O ddifri Seriously
Pigion Dysgwyr – Munud I Feddwl
Bryn Fôn oedd hwnna’n sgwrsio gyda Rhys Mwyn. Bob bore ar raglen Shan Cothi dyn ni yn cael clywed gwahanol unigolion yn rhoi Munud i Feddwl i ni. Dechrau’r wythnos diwetha tro Huw Tegid oedd hi, a dyma fe’n sôn am rywle arbennig mae e’n mynd heibio iddo wrth deithio ar yr A470.
Cyfarwydd Familiar
Swyn Charm
Dychmygu To imagine
Gwibio To dart
Cul a serth Narrow and Steep
Brigau Twigs
Llethrau Slopes
Yn drech na Greater than
Yn cael ei roi o’r neilltu Aside
Anogaeth Encouragement
Pigion Dysgwyr – Bethan Jones
Geiriau doeth Huw Tegid yn fanna yn rhoi mwy na munud i feddwl i ni. Nos Fercher ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Bethan Jones. Mae Bethan yn aelod o Glwb Blodau Celyn yn ardal Aberaeron a dyma hi’n sôn am y blodau dyn ni’n debyg o’u gweld ar ddechrau’r gwanwyn fel hyn…
Doeth Wise
Lili wen fach Snowdrop
Saffrwn Crocus
Bodlon Content
Wedi cael ei sefydlu Has been established
Deugain 40
Tue, 14 Mar 2023 00:01:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Handel
Cyfansoddwr y mis ar raglen Shan Cothi fore Llun oedd George Freidric Handel. Ymunodd Geraint Lewis â Shan i sôn mwy am y ffigwr mawr yma ym myd cerddoriaeth glasurol. Dechreuodd Geraint drwy sôn am dad Handel…
Cyfansoddwr Composer
Parchus Respectable
Cyfreithiwr Lawyer
Offerynnau Instruments
Colli ei dymer Losing his temper
Cwato To hide
Dianc To escape
Deifiol Crafty
Iachawdwriaeth! Goodness! (lit: salvation)
Wrth reddf Instinctive
Pigion Dysgwyr – Coffi
Y cyfansoddwr Geraint Lewis oedd hwnna’n disgrifio sut dechreuodd gyrfa arbennig iawn Handel. Pnawn Llun ar Dros Ginio cafodd Cennydd Davies sgwrs gyda pherchennog cwmni coffi Poblado yn Nantlle, Gwynedd, sef Steffan Huws. Diben y sgwrs oedd ceisio dod i ddeall pam bod y diwydiant a’r diwylliant coffi mor boblogaidd y dyddiau hyn.
Diben Purpose
Diwydiant a diwylliant Industry and culture
Deniadol Attractive
Arogl Smell
Cymdeithasol Social
Hel atgofion Reminiscing
Mam-gu a tad-cu Nain a taid `
Pigion Dysgwyr – William Owen Roberts
Cennydd Davies a Steffan Huws oedd y rheina’n sôn am boblogrwydd coffi. Tasai rhaid i chi symud tŷ, oes yna bethau dylech chi gael gwared ohonyn nhw cyn i chi symud? Credwch neu beidio llyfrau mae’r awdur William Owen Roberts eisiau eu gwaredu, gan ei fod yn bwriadu symud tŷ yn fuan. Dyma fe’n esbonio pam wrth Beti George...
Cael gwared o/gwaredu To get rid of
Cafn Trough
Llwythi Loads
Tomen A heap
Hel To collect
Rhif y gwlith Innumerable (lit: as numerous as the dewdrops)
Gwadd To invite
Methu dygymod â Can’t cope with
Troednodyn Footnote
Pigion Dysgwyr – CBD
Yr awdur William Owen Roberts ddim yn hoff iawn o Kindle felly, dych hi’n cytuno gyda fe bod cael llyfr go iawn yn well? Bore dydd Mawrth ar ei raglen buodd Aled Hughes yn sgwrsio gyda Dafydd Leigh o Benybont, perchennog cwmni Joio CBD. Chwe blynedd yn ôl sylwodd Dafydd bod newidiadau bach yn digwydd yn ei iechyd, a chafodd ddiagnosis o Ulceritive Colitis, sydd yn gyflwr difrifol iawn. Dyma Dafydd yn sôn am beth wnaeth e ei hunan i drio gwella ei iechyd, ac osgoi cymryd gormod o dabledi.
Cyflwr difrifol Serious condition
Anghyfreithlon Illegal
Ymchwil Research
Yn y pendraw In the end
Creu olew fy hun Create my own oil
Cyfrifoldeb Responsibility
Lleihau To reduce
Arwain To lead
Pigion Dysgwyr – Owen Williams
A phob lwc i Dafydd o ran ei iechyd a’i fusnes on’d ife? Ar raglen Caryl Parry Jones nos Fawrth, rhoddodd Caryl her i Owen Williams i greu Coctel arbennig i ddathlu Dydd Gwyl Dewi a dyma i chi gyngor Owen ar sut i wneud coctel Cymreig.
Her A challenge
Cyngor Advice
Awgrymu To suggest
Ysgawen Elderflower
Siglo To shake
Pigion Dysgwyr - Tryweryn
Beth fasai Dewi Sant yn ei feddwl o goctel yn cael ei greu i ddathlu ei ŵyl, tybed? Mae yna bodlediad newydd wedi ei ryddhau ar BBC Sounds dan y teitl Drowned. Cyflwynydd y Podlediad ydy Betsan Powys a buodd hi’n sgwrsio amdano gyda Kate Crockett fore Mercher. Dyma i chi flas ar y sgwrs...
Cyfrwng Medium
Yn gyfarwydd Familiar
Parhau To continue
Arwyddocâd Significance
Yn gyfansoddiadol Constitutionally
Euog Guilty
Tueddiad A tendency
Prif beiriannydd Chief engineer
Yn llwyr ddeall Completely understand
Haenau Layers
Tue, 07 Mar 2023 00:01:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Heledd Sion
...dwy Heledd - Heledd Cynwal a’r gwestai ar ei rhaglen, Heledd Sion. Buodd y ddwy yn sôn am fyd ffasiwn ac yn arbennig felly am ddillad ail law. Dyma Heledd Sion yn esbonio sut dechreuodd ei chariad hi at ffasiwn, a pham aeth hi ati i werthu hen ddillad ar y we
Uwch seiclo To upcycle
Gwinio To sew
Cyfnither Female cousin
Gwehyddu Weaving
Yn llonydd Still
Addasu To adapt
Awch Eagerness
Esblygu To evolve
Didoli To sort
Buddsoddi To invest
Pigion Dysgwyr - Francesca Sciarillo
Heledd Cynwal yn fanna’n cadw sedd Shan Cothi’n gynnes ac yn sgwrsio gyda Heledd Sion am uwch seiclo dillad. Francesca Sciarillo oedd Dysgwr y Flwyddyn yr Urdd yn 2019 ac eleni mae hi wedi bod yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Eidalwyr ydy rhieni Francesca, ac ar raglen Dei Tomos nos Sul buodd hi’n dweud faint o ddylanwad gafodd ei hathrawes Gymraeg arni, sef Nia Williams, pan oedd Francesca yn ddisgybl yn Ysgol Alun yr Wyddgrug .
Disgybl Pupil
Yr Wyddgrug Mold
Dylanwad Influence
Eidales Italian (female)
Sylweddoli To realise
Darganfod To discover
Pigion Dysgwyr – Dion Davies
Ac mae Francesca newydd gael ei phenodi fel swyddog hybu darllen yn adran blant y Cyngor Llyfrau. Pob lwc iddi yn ei swydd newydd on’d ife? A sôn am lwc, prynodd yr actor Dion Davies docyn loteri pan oedd e’n ymddangos mewn pantomeim yn Aberdaugleddau fis Rhagfyr, ond anghofiodd e bopeth am y tocyn. Dyma Dion yn sôn am beth ddigwyddodd pan oedd e’n gwagio ei gar ddechrau Chwefror…
Ymddangos To appear
Gwagio To empty
Hap a damwain Chance
Sa i’n gallu Dw i ddim yn medru
Pencadlys Headquarters
Pigion Dysgwyr – Costa Rica
Dyna beth yw sioc braf i’w chael – gwagio’r car a ffeindio eich bod wedi ennill pum deg pump o filoedd o bunnau ar y loteri! Nos Lun roedd y naturiaethwr Iolo Williams yn sôn am ei ymweliad â Costa Rica. Gwlad fechan ydy hi, tebyg i Gymru ond mae sawl peth yn wahanol rhwng y ddwy wlad a dyma Iolo‘n sôn ychydig am y gwahaniaethau rhwng Costa Rica a Chymru…
Dylanwad Influence
Argraff Impression
Amrywiol Varied
Gwlad werdd A green country
Tebygrwydd Similarity
Cynefinoedd Habitiats
Amcangyfrif Estimate
Gorchuddio To cover
Ugain y cant 20%
Pigion Dysgwyr – Angela Owen
Mae Iolo Williams yn amlwg wrth ei fodd gyda Costa Rica, on’d yw e? Nos Iau ar ei rhaglen cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Angela Owen. Mae Angela a’i ffrindiau wedi sefydlu Clwb Cerdded yn Mhen Llŷn a dyma hi‘n esbonio pam gwnaeth hi benderfynu sefydlu’r clwb arbennig yma yn y lle cynta
Sefydlu To establish
Awyr iach Fresh air
Anhygoel Incredible
Diogel Safe
Pigion Dysgwyr – Jac y Do
Angela Owen oedd honna’n sôn am lwyddiant Clwb Cerdded Pen Llŷn. Bob mis mae Daniel Jenkins Jones yn sgwrsio ar raglen Shan Cothi am aderyn y mis. A’r aderyn y mis yma oedd Jac y Do. Heledd Cynwal oedd unwaith eto’n cadw sedd Shan yn gynnes ddydd Mercher a dyma i chi flas ar y sgwrs cafodd hi gyda Daniel.
Jac-y-Do Jackdaw
Golygfa aeafol Winter scenery
Ar ein gwarthau ni Imminent
Heidio To flock
Drudwennod Starlings
Gwlad yr haf Somerset
Wrth iddi nosi As the night draws in
Cynrhon Maggots
Enw torfol Collective noun
Tue, 28 Feb 2023 00:01:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Aled Hughes 13.2
Sut beth oedd golchi dillad cyn dyddiau peiriannau golchi, neu cyn dyddiau trydan hyd yn oed? Wel, yn ystod yr wythnos diwetha yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, buodd plant ysgol yn cael gwybod mwy am hyn gan ‘ Anti Marged’ sef yr actores Rhian Cadwaladr. Dyma Mari Morgan o’r Amgueddfa yn sôn wrth Aled Hughes am y digwyddiad……
Amgueddfa Lechi Genedlaethol National Slate Museum
Dathlu arferion Celebrating the custom
Diwrnod penodol A specific day
Plantos Kids
Cyflwyno Presented
Cymhleth Complicated
Rhoi benthyg To lend
Teimlo trueni To pity
Bwrdd sgwrio Scrubbing board
Chwarelwyr Quarrymen
Pigion Dysgwyr - Jo Heyde
Plant y gogledd yn cael dipyn o sioc dw i’n siŵr o ddysgu sut oedd golchi dillad ers talwm gan ‘Anti Marged’. Dim ond ers pedair blynedd mae Jo Heyde (ynganiad – Haidy Cymraeg) o Lundain wedi dechrau dysgu Cymraeg, ac mae hi erbyn hyn yn bwriadu dod i Gymru i fyw. Dyma hi’n dweud wrth Dei Tomos pryd dechreuodd ei diddordeb hi yn y Gymraeg.
Cyfnod Period
Yn awyddus Eager
Gwasanaethau Services
Diolchgar Thankful
Yn raddol fach Gradually
Yn ei chyd -destun In its context
Mynd ati To go about it
Wedi fy machu i Has got me hooked
O’ch pen a’ch pastwn eich hun By your own devices
Yn reddfol Instinctively
Pigion Dysgwyr – Emma Lyle 14.2
Stori wych Jo Heyde oedd honna , sydd yn rhugl yn y Gymraeg ar ôl ei dysgu am bedair blynedd yn unig. Lansiwyd y ddol Barbie ar ddiwedd y 50au, ond mae natur a phwrpas y ddol wedi newid yn fawr er hynny. Ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones gyfle i holi un o ffans Barbie, Emma Lyle, am y newidiadau hyn...
Torri tir newydd Breaking new ground
Dychmygu To imagine
Bob lliw a llun All sorts
Yn ei chyfanrwydd In its totality
Yn ddihangfa o realiti An escape from reality
Cynhwysol Inclusive
Cadair olwyn Wheelchair
Ehangu To expand
Yn berthnasol Relevant
Uniaethu â To identify with
Pigion Dysgwyr – Bryn Tomos 14.2
Mae Barbie yn sicr wedi newid yn fawr ers fersiwn gwreiddiol y pumdegau , ond tybed beth yw hanes ei chariad Ken y dyddiau hyn? Nos Fawrth lansiodd Caryl Parry Jones slot newydd ar ei rhaglen sef “24 awr yn…….”a Betws-y-Coed oedd dan y chwyddwydr yn y slot cynta. Sut le oedd y pentref i dyfu fyny ynddo, oedd cwestiwn Caryl i Bryn Tomos - un gafodd ei fagu yno.
O dan y chwyddwydr Under the magnifying glass
I raddau To an extent
Wst ti be? Do you know what?
Fatha mywion Like ants
Wnaeth o fy nharo i It struck me
Y llwybrau a’r golygfeydd The paths and scenery
Pigion Dysgwyr – Mattie Roberts
Darlun o Fetws-y-Coed yn fanna gan Bryn Tomos, gaeth ei fagu yn y pentref. Mae Mattie Roberts o Gaerdydd wedi bod yn codi arian ar gyfer ysgol yn Accra, prif ddinas Ghana, ers blynyddoedd. Dyma hi’n sôn wrth Shan Cothi am yr ysgol a pham ei bod hi’n awyddus i’w helpu...…..
Prif ddinas Capital
Adnoddau Resources
Hynod o anodd Extremely difficult
Pigion Dysgwyr – John Thomas 13.2
A gobeithio bydd Mattie’n llwyddiannus drwy godi arian unwaith eto i helpu’r ysgol yn Ghana on’d ife? Ar ei raglen mae Ifan Evans yn sgwrsio gyda chynrychiolwyr timau rygbi ar draws y wlad, a’r wythnos diwetha tro y Strade Sospans oedd hi. Cafodd Ifan air gyda John Thomas cadeirydd y tîm hwnnw….
Cynrychiolwyr Representatives
Anhygoel Incredible
Cynyddu ein niferoedd Increasing our numbers
Undeb Rygbi The Rugby Union
Tue, 21 Feb 2023 13:12:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Dion
Mae Dion Paden, sy’n dod o Gerrigydrudion yn Sir Conwy yn wreiddiol, wedi symud i fyw i Darwin yng ngogledd Awstralia, ac yn ddiweddar cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Dion. Gofynnodd Shan iddo fe’n gynta pam symudodd e i Awstralia?
Yn ddiweddar Recently
Pigion Dysgwyr - Meinir
Dion o Darwin yn siarad gyda Shan Cothi yn fanna. Ar raglen Beti a’i Phobol ddydd Sul y gwestai oedd Meinir Thomas o Ynys Môn. Mae Meinir yn chwarae hoci i dîm dros 55 Menywod Cymru. Mae hi’n hoffi nofio gwyllt hefyd a dyma Meinir i ddweud beth sydd mor arbennig am nofio ym mhob tywydd a hynny drwy’r flwyddyn.
Menywod Merched
Arnofio To float
Tonnau Waves
Plentyndod Childhood
Golwg gwirion arna i I looked ridiculous
Be ar y ddaear…? What on earth…?
Gwefreiddiol Thrilling
Morlo Seal
Pigion Dysgwyr – Dros Ginio 6.2
Meinir yn poeni dim am beth mae pobl yn ei feddwl amdani’n nofio’n wyllt, chwarae teg iddi hi. Gwestai Dewi Llwyd yn y slot 2 cyn 2 ar Dros Ginio bnawn Llun oedd y cyn bêl-droediwr a’r arlunydd Owain Vaughan Williams, a’i frawd Gethin. Mae Owain erbyn hyn yn hyfforddi gôl-geidwaid Fleetwood Town ac mae Gethin yn gerddor ac yn drydanwr. Dyma’r ddau yn sôn am rywbeth anffodus ddigwyddodd yn eu plentyndod…
Arlunydd Artist
Gôl-geidwaid Goalkeepers
Yn gerddor ac yn drydanwr A musician and electrician
Sail Basis
Go dyngedfennol Really fateful
Llithro To slip
Dychmygu To imagine
Cymar Partner
Dihangfa An escape
Pigion Dysgwyr – Geraint Rhys Whittaker
Y ddau frawd, Owain a Gethin oedd rheina’n sgwrsio gyda Dewi Llwyd. Yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi bod yn recordio synau anifeiliaid sydd yn byw ym mhegwn y gogledd a phegwn y de. Mae nhw’n aml yn synau does neb byth yn eu clywed. Un sydd wedi gweithio yn y maes yma yw Geraint Rhys Whittaker a buodd e’n siarad am ei waith ar Dros Frecwast fore Mawrth.
Gwyddonwyr Scientists
Synau Sounds
Pegwn y gogledd North Pole
Darganfod To discover
Mor rhyfeddol So amazing
Ail-ddadansoddi To reanalyse
Nodau Aims
Ysbrydoli To inspire
Swnllyd Noisy
Amgylchedd Environment
Pigion Dysgwyr – James Cuff
Stori wyddonol anhygoel yn fanna ar Dros Frecwast. Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i ddysgu Cymraeg? Cerddoriaeth Gymraeg oedd ysbrydoliaeth James Cuff ddechreuodd dysgu Cymraeg bedair blynedd yn ôl. Erbyn hyn mae e’n ddigon hyderus yn yr iaith i siarad am ei daith bersonol gyda’r Gymraeg ar Radio Cymru. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd e gydag Aled Hughes…
Anhygoel Incredible
Cymreictod Welshness
Mo’yn Eisiau
Becso Poeni
Colli mas To lose out
Pigion Dysgwyr – Snwcyr Amlwch
Gobeithio, on’d ife, bod yna rai eraill fel James gaeth eu hysbrydoli i ddysgu Cymraeg ar Ddydd Miwsig Cymru, ddydd Gwener diwetha. Ar ei rhaglen nos Fercher cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Jeff Price o Amlwch. Jeff yw Is-Gadeirydd clwb snwcer y dre sydd yn dathlu 90 mlynedd ers ei sefydlu. Gofynnodd Caryl i Jeff yn gynta sawl bwrdd snwcer sydd yn y clwb
Is-gadeirydd Vice chairman
Sefydlu Founded
Mae hi’n glamp o neuadd It’s a huge hall
Calch (sialc) Chalk
Rheolaeth Management
Wed, 15 Feb 2023 07:12:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Shan Jones
Dych chi wedi gwylio’r rhaglen, Priodas Pum Mil ar S4C o gwbl? Mae tîm y rhaglen yn gwneud holl drefniadau priodas ac yn ffilmio’r cyfan. Ar Chwefror 19 bydd priodas Shan Jones o bentref Llanuwchllyn a’i gŵr Alun i’w gweld ar y rhaglen. Priododd y ddau haf y llynedd, a chafodd Shan Cothi ar Bore Cothi gyfle i holi Shan Jones ar ddydd Santes Dwynwen, gan ddechrau drwy ofyn, sut brofiad oedd e i gael y camerâu yn eu dilyn nhw ar y diwrnod mawr?
Ffeind Caredig
Cymwynasgar Obliging
Am oes For life
Ystyried To consider
Goro (gorfod) fi wneud dim byd Doedd rhaid i mi wneud dim
Anhygoel Incredible
Rhannu’r baich Sharing the load
Pwysau Pressure
Clod Praise
Pigion Dysgwyr – Gareth John Bale
Shan Jones oedd honna’n sôn am y profiad o gael tîm Priodas Pum Mil i drefnu ei phriodas. Nesa, dyn ni’n mynd i gael blas ar sgwrs gafodd Bethan Rhys Roberts gyda Gareth Bale ar ei rhaglen Bore Sul. Nage nid y Gareth Bale yna , ond yr actor Gareth John Bale. Mae e’n actor sydd wedi gweithio ar nifer o ddramâu, nid am bel -droed y Gareth Bale arall, ond yn hytrach am rygbi ac yn arbennig felly sioe- un-dyn ble roedd e’n portreadu Ray Gravell...
Mwy diweddar More recently
Yn gyfarwydd Familiar Hirgron Oval
Degawd Decade
Canmlwyddiant Centenary
Awyrgylch Atmosphere
Naws Mood
Ymateb ysgytwol A terrific response
Her A challenge
Uniaethu gyda To identify with
Pigion Dysgwyr – Munud i Feddwl 31.1
Nid rygbi ond pêl-droed oedd thema Munud i Feddwl y Parchedig Ddoctor Manon Ceridwen James fore Mawrth ar Bore Cothi. Beth allen ni ddysgu o wylio’r gêm gwpan gyffrous ddiweddar rhwng Wrecsam a Sheffield Utd tybed? Gwerthfawrogi ein cymuned yn un peth, yn ôl Manon..
Parchedig Reverend
Gwerthfawrogi To appreciate
Cynghrair League
Gornest Match
Tylwyth teg Fairy
Diffuant, angerddol Genuine, Passionate
Diwylliant Culture
Dehongli To interpret
Cyfrifoldeb Responsibility
Cyfraniad Contribution
Pigion Dysgwyr – Nia Wyn Jones
Manon Ceridwen James oedd honna’n rhannu Munud i Feddwl gyda ni ar Bore Cothi. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl wythnos diwetha oedd Dr Nia Wyn Jones o Brifysgol Bangor. Hanes Cymru ydy’r pwnc mae hi’n darlithio arno a gofynnodd Beti iddi hi’n gynta sut mae mae hi’n llwyddo i gael ei myfyrwyr i gymryd diddordeb yn y pwnc…..
Darlithio To lecture
Cyfleu’r wybodaeth To convey the information
Cymhleth Complicated
Gwrthryfel Rebellion
Taith dywys Guided tour
Y Gadeirlan The Cathedral
Y Mers The Marches
Esgob Bishop
Bodoli mewn dogfennau Existing in documents
Goroesi To survive
Pigion Dysgwyr – Salsa
Wel dyna syniadau ymarferol gwych o ddod a hanes Cymru yn fyw on’d ife? Nos Fercher cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Sion Sebon. Mae Sion yn mynd i nosweithiau clwb Salsa Bangor yn rheolaidd, a dyma fe’n rhoi syniad i ni o beth sy’n digwydd yn y nosweithiau hyn...
Yn rheolaidd Regularly
Gosodedig Fixed
Symudiadau pendant Definite moves
Cysylltiad Connection
T’bod? (wyt) Ti’n gwybod?
Pigion Dysgwyr – Bat out of Hell
A dyna ni, os dych chi’n byw ochrau Bangor ac yn ffansïo ‘chydig o salsa , dych chi’n gwybod ble i fynd. Mae Sioned Evans o Bancyfelin ger Caerfyrddin yn Sydney Awstralia ar hyn o bryd, yn gweithio ar Sioe Gerdd Bat Out of Hell fel Is Gyfarwyddwr ac mae hi hefyd yn chwarae’r allweddellau yn y gerddorfa. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Sioned wythnos diwetha gan ofyn iddi hi’n gynta faint o bobl oedd yn y cast.
Sioe Gerdd Musical
Is Gyfarwyddwr Associate Director
Allweddellau Keyboard
Cerddorfa Orchestra
Offerennau taro Percussion instruments
Tue, 07 Feb 2023 13:53:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Angharad a Elizabeth
Cafodd Angharad Alter ac Elizabeth James, sy’n gweithio i Gymwysterau Cymru, eu magu yn Whitby yn Swydd Efrog, cyn i Angharad a’i theulu symud i Reading. Cafodd Shan Cothi sgwrs gyda’r ddwy am eu profiadau o ddysgu Cymraeg. Dyma beth oedd gan Angharad i’w ddweud yn gynta.
Cymwysterau Cymru Qualifications Wales
Annog ein gilydd Encouraging each other
Y cyfnod clo The lockdown
Rhyfeddol Astonishing
Cyd-destun Context
Cydbwysedd Balance
Cyfleoedd Opportunities
Awyrgylch Atmosphere
Pigion y Dysgwyr – Beti 29.1
Syniad diddorol on’d ife – creu ystafelloedd siarad Cymraeg er mwyn dod i arfer â sgwrsio yn yr iaith. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl bnawn Sul oedd Rhian Boyle, awdur y ddrama radio Lush. Dyma Rhian yn esbonio wrth Beti ychydig am ei dyddiau ysgol ym Mhorthaethwy, Ynys Môn.
Mae gen i gywilydd I’m ashamed
Amddiffyn To defend
Ysgaru To divorce
TGAU GCSE
Hunangofiant Autobiography
Trais Violence
Fatha Fel
Cyboli Messing around
Anghyfreithlon Illegal
Mwg drwg Cannabis
Pigion y Dysgwyr – Sarah Hill 23.1
...ac mae drama Rhian Boyle, ‘Lush’, i’w chlywed ar BBC Sounds ar hyn o bryd. Nos Lun ar raglen Rhys Mwyn roedd Dr Sarah Hill yn dewis ei hoff gerddoriaeth ac yn sgwrsio gyda Rhys am ei dewisiadau. Dyma hi’n sôn am un gân arbennig gan Dafydd Iwan
Dechreuad Beginning
Doethuriaeth Doctorate
Cynulleidfa fychan A small audience
Cyfoes Contemporary
Yn seiliedig ar Based on
Cân werin Folk song
Yr Unol Daleithiau The United States
Pigion Dysgwyr – Benny Hill 24.1
Dr Sarah Hill oedd honna’n sôn am ‘Mae’n wlad i mi’ – addasiad Dafydd Iwan o gân Woody Guthrie. Pnawn Mawrth ar y Post Prynhawn cafodd Dylan Jones gyfle i sgwrsio gyda Julie Kirk Thomas. Yn niwedd y 70au a dechrau’r 80au roedd Julie yn un o’r Hill‘s Angels, merched oedd yn rhan bwysig o raglen gomedi Benny Hill. Dyma Julie i sôn am sut berson oedd Benny....
Addasiad Adaptation
Swil Shy
Caredig Kind
Hael iawn Very generous
Ddaru fi Wnes i
Cynhyrchydd Producer
Cyfres Series
Pigion Dysgwyr – John Rees Trends Antiques 2023
Julie yn fanna yn sôn am gymeriad y comedïwr Benny Hill. Mae John Rees yn arbenigwr hen greiriau a nwyddau ‘vintage’. Mae e hefyd yn rhedeg cwmni Cow and Ghost Vintage ag yn gwerthu ei nwyddau yn y “Bazaar Vintage and Antique Warehouse” yn Arberth. Dyma fe ar Bore Cothi fore Llun...
Hen greiriau Curios
Ro’n i’n dwlu ar Ro’n i wrth fy modd efo
Trugareddau Bric-a-brac
Ymfalchïo To be proud of
Ymchwil Research
Yn glou Yn sydyn
Cyfoes Modern
Gwerthfawrogi To appreciate
Ansawdd Quality
Pregethwr Preacher
Pigion Dysgwyr – Cetra 25.1
Mae’r hen bethau wastad yn dod yn ôl i ffasiwn on’d yn nhw? Dim ond ers 2019 mae Cetra Coverdale Pearson wedi bod yn dysgu Cymraeg. Mae Cetra yn byw yn Swydd Derby ond cafodd hi ei geni yn swydd Stafford. Cafodd Cetra (Setra) sgwrs gyda Aled Hughes fore Mercher a buodd hi’n sôn am yr adeg clywodd hi’r Gymraeg gynta ar wyliau ym Mhorthmadog….
Yn y fan a’r lle There and then
Anhygoel Incredible
Tanio To inpire
Brwdfrydedd Enthusiasm
Her A challenge Profiad Experience
Cyfrwng medium
Tue, 31 Jan 2023 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Chris Summers
Mae’r cogydd o Gaernarfon Chris Summers newydd symud i Lundain i weithio fel prif chef tafarn hynafol y Cheshire Cheese ar Fleet Street yng nghanol dinas Llundain. Cafodd Trystan Ellis Morris gyfle i holi Chris am ei yrfa fel chef, gan ddechrau gyda’r adeg pan wnaeth e gyfarfod â Gordon Ramsay.
Hynafol Ancient
Lasai fo Basai fe wedi gallu
Poblogaidd Popular
Coelio Credu
Parch Respect
Cyflwyno To introduce
Sbio Edrych
Smalio Esgus
Padell ffrio Ffrimpan
Pigion Dysgwyr – Nerys Howell 16.1
Chris Summers yn amlwg â pharch mawr tuag at Gordon Ramsay, a r’yn ni’n aros ym myd y cogyddion gyda’r clip nesa. Buodd y gogyddes Nerys Howell yn sgwrsio gyda Shan Cothi am y gwahanol ffyrdd r’yn ni’n defnyddio sbeisys...
Ryseitiau Recipes
Sy’n cynnwys Which include
Sawrus Savoury
Tanllyd Fiery
Pobi To bake
Ymchwil Research Penodol Specific
Buddion iechyd Health benefits
Meddyginiaethau Medicines
Afiechydon Illnesses
Pigion Dysgwyr – Munud I Feddwl 17.1
Nerys Howell oedd honna’n siarad am sbeisys gyda Shan Cothi. Arhoswn ni gyda Bore Cothi i wrando ar y Parchedig Ddoctor Manon Ceridwen James yn rhoi Munud i Feddwl i ni fore Mawrth.
Parchedig Reverend
Digalon Trist
Dyled Debt
Manteisio To take advantage of
Llonni’r galon To gladden the heart
Diddanu To entertain
Iselder Depression
Tywynnu Shining
Cadarnhaol Positive
Cysuro To comfort
Pigion Dysgwyr – Joe Healy 16.1
A rhywbeth arall sy’n llonni’r galon ar ddydd Llun Glas yw dysgu Cymraeg on’d ife, a does dim gwell esiampl o hynny na Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 ac sydd nawr yn diwtor Cymraeg i Oedolion ei hunan. Mae Joe yn dod o Wimbledon yn wreiddiol, a chafodd Aled Hughes sgwrs gyda fe a chael ychydig o’i hanes...
Sylweddoli To realise
Cynrychioli To represent
Anhygoel Incredible
Yn llythrennol Literally
Trywydd Thread
Enwebu To nominate
Pigion Dysgwyr – Peaky Blinders 17.1
Ie, anhygoel on’d ife? Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn ac nawr yn dechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Mae’r gantores a’r actores Mabli Gwynne ar hyn o bryd yn perfformio yn Sioe Peakey Blinders yn Camden yn Llundain. Cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda hi fore Mercher am y sioe.
Cymeriadau Characters
Creadigol Creative
Denu To invite
Menyw Merch
Gwyddeles Irish Woman
Greda i! I don’t doubt it!
Adolygiadau Reviews
Clyweliad Audition
Pigion Dysgwyr – Caren Hughes 17.1
Mabli Gwynne oedd honna’n sôn am ei chymeriadau yn sioe Peaky Blinders. Pa mor daclus ydy eich tŷ chi? Wel os dych chi eisiau ‘tips’ ar sut i dacluso, Caren Hughes o Ynys Môn ydy’r un i chi. Dyma hi’n dweud wrth Caryl Parry Jones am y ffordd orau i gadw’r ystafell ymolchi’n daclus...
Cadachau Cloths
Di-raen In poor condition
Gweddill The rest of
Tue, 24 Jan 2023 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Dysgwyr – Kath Morgan 8.1
Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl wythnos dwetha oedd cyn gapten pêl-droed merched Cymru, Kath Morgan. Mae angen bod yn berson hyderus iawn i gymryd y swydd honno on’d oes? Wel nid felly yn ôl Kath...
Cyn gapten Former captain
Yn falch Proud
Difaru To regret
Braint An honour
Ymfalchïo To be proud of oneself
Cyfrifoldeb Responsibility
Gormod o bwysau Too much pressure
Mynnu To insist
Cyfarwyddiadau Instructions
Pigion Dysgwyr 10.1 – Gareth Bale
O cyn-gapten tîm merched Cymru i gyn-gapten tîm dynion Cymru - Gareth Bale, a daeth y newyddion yr wythnos diwetha bod y pêl-droediwr enwog yn ymddeol. Dyma Nic Parri yn edrych yn ôl ar ei yrfa ar Dros Frecwast fore Mercher.
Cyfadde(f) To admit
Di-ri(f) Innumerable
Annisgwyl Unexpected
Ystyried To consider
Syllu To stare
Llusgo To drag
Pencampwriaeth Championship
Ysbrydoliaeth Inspiration
Aruthrol Huge
Breuddwydiol, euraidd Dreamy, golden
Yng nghysgod In the shadow
Pigion Dysgwyr – Aled Hughes 9.1
R’yn ni’n aros yng Nghaerdydd ar gyfer y clip nesa o raglen Aled Hughes. Cafodd Aled sgwrs gyda Tim Hartley am yr ymgyrch lwyddiannus i gael datblygwyr i ddefnyddio enwau Cymreig ar stad o dai sydd ar hen bencadlys BBC Cymru yn Llandaf. Dyma Tim yn sôn mwy am hanes y pencadlys a rhai o’r strydoedd sydd wedi ei henwi ar ôl unigolion enwog.
Ymgyrch llwyddiannus A succesful campaign
Datblygwr Developer
Pencadlys Headquarters
Unigolion Individuals
Safle wreiddiol The original site
Darlledwr Broadcaster
Fel petai ysbrydion yna As if spirits were there
Cawr Giant
Cofnodi To record
Sefydlydd Founder
Cadw ar gof To keep on record
Pigion Dysgwyr - Alun Gibbard 13.1
Mae’n braf gweld bod enwau Cymraeg ar ardal sydd â hanes pwysig iawn o ran yr iaith, on’d yw hi? Mae Shan Cothi yn gwahodd rhywun i roi Munud I Feddwl i ni bob dydd. Mae’r rhan yma o’r rhaglen yn rhoi munud i ni feddwl a sefyll yn ôl o brysurdeb ein bywydau bob dydd. Tro Alun Gibbard oedd hi fore Gwener.
Dychmygwch Imagine
Coedwig Wood
Y tu draw Beyond
Tirwedd Landscape
Cysurus Comforting
Gwrando’n astud Listen closely
Cyfarwydd Familiar
Sefyll yn rhydd Freestanding
Ehangder The expanse
Pigion Dysgwyr – Vicky Alexander 11.1
Munud i Feddwl ar ffurf llun bach yn fanna gan Alun Gibbard. Nos Fercher ar raglen Caryl cafodd hi sgwrs gyda Vicky Alexander o Lanbradach. Mae Vicky yn helpu yn Nghanolfan Soar ym Merthyr Tydfil a hi sydd yn rhedeg y siop lyfrau yno dyma hi i sôn mwy am y lle.
Enfys Rainbow
Cefnogi To support
Cynhesrwydd Warmth
Canolfan Gelfyddydol Arts centre
Creadigol Creative
Tue, 17 Jan 2023 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchAled Hughes – Warner Brothers 5.1 Sefydlwyd y cwmni ffilm Warner Brothers ganrif yn ôl i eleni. Bore Iau cafodd Aled Hughes gwmni Dion Hughes yr adolygydd ffilm i sôn ychydig am y cwmni enwog hwnnw. Adolygydd Reviewer
Sefydlwyd Was established
Canrif A century
Creu To create
Anferth Huge
Brodyr Brothers
Y dechreuad The beginning
Datblygu To develop
Parhau Continuing
Bodoli To exist
Beti a’I Phobl – Rhian Morgan Ychydig o hanes cwmni Warner Brothers yn fanna ar raglen Aled Hughes. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl yr wythnos diwethaf oedd yr actores a’r gomediwraig Rhian Morgan. Dyma hi’n sôn am yr adeg pan fuodd hi’n perfformio yng Nghadeirlan St Paul’s yn Llundain
Y Gadeirlan The Cathedral
Portreadu To portray
Dywediadau Sayings
Llwyfan Stage
Ganwyd Was born
Bri Popular
Credwch neu beidio Believe it or not
Syfrdan Astounded
Dychmygol Imaginary
Pigion Dysgwyr – Nofio Oer 3.1 A Rhian Morgan wedi rhoi dipyn o sioc i gynulleidfa St Paul’s dw i'n siŵr. Mae llawer o bobl yn dathlu’r flwyddyn newydd drwy fynd i nofio yn y môr, er bod y môr yn oer iawn yr adeg yma o’r flwyddyn. Un sydd wrth ei bodd yn nofio drwy’r flwyddyn, heb boeni am y tywydd, yw Heather Hughes o Ynys Môn. Cafodd hi air gyda Rhodri Lewis ar Dros Ginio bnawn Mawrth a gofynnodd Rhodri iddi hi pam wnaeth hi fentro i’r môr oer yn y lle cyntaf… Cynulleidfa Congregation
Gwaedlif ar yr ymennydd Haemorrhage on the Brain
Sbïo Edrych
Modd i fyw Great pleasure
Pa mor fodlon How satisfied
Tŷ’d efo fi Dere gyda fi
Anadla! Breath!
Menig Gloves
Pigion Dysgwyr – Rhys Meirion 2.1 Ac mae Heather Hughes yn amlwg yn mwynhau’r profiad o nofio yn y môr oer erbyn hyn. Mae cyfres newydd o Canu Gyda Fy Arwr wedi dechrau ar S4C, cyfres ble mae Rhys Meirion yn gwireddu breuddwyd aelodau o’r cyhoedd ac yn rhoi cyfle iddyn nhw ganu gyda’u harwyr. Cafodd Mari Grug gyfle i holi Rhys am y gyfres newydd... Cyfres Series
Arwr Hero
Gwireddu breuddwyd To fulfil a dream
Aelod o’r cyhoedd Member of the public
Gwyddoniaeth Science
Enwebu To nominate
Darganfyddiad A discovery
Profiad Experience
Atgofion Memories
Anghenraid A necessity
Pigion Dysgwyr – Cwm Rhyd y Rhosyn 4.1 Pa arwr fasech chi’n ei ddewis i ganu gyda chi tybed? Dw i’n siŵr basai llawer ohonoch yn enwi Dafydd Iwan, ac ar raglen arbennig gyda Huw Stephens clywon ni Dafydd ac Edward Morris Jones yn cofio un o recordiau plant mwya econig y Gymraeg, ryddhawyd union bum deg mlynedd yn ôl - Cwm Rhyd y Rhosyn….. Rhyddhawyd Was released
Magwraeth Upbringing
Rhyfeddol o ffodus Very lucky
Parchedig Reverend
Callach na fi Wiser than me
Diwylliedig Cultured
Olwynion Wheels
Injan ddyrnu Threshing-machine
Boneddiges Gentlewoman
Pigion Dysgwyr – Braille 4.1 Dafydd Iwan ac Edward oedd y rheina'n sôn am y recordiad eiconig Cwm Rhyd y Rhosyn. Ar Ionawr y 4ydd 1809 cafodd y Ffrancwr Louis Braille ei eni. Fe oedd y dyn ddyfeisiodd y system o ddarllen ag ysgrifennu ar gyfer bobl sydd a nam ar eu golwg neu sy’n ddall. Bore Mercher cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Hannah Stevenson sydd yn defnyddio Braille bob dydd. Nam golwg Visual Impairment
Dall Blind
Sa i’n gallu Dw i ddim yn medru
TGAU GCSE
Dirywio to deteriorate
Cyflwr Condition
Dychrynllyd Frightening
Agwedd Attitude
Casgliad A collection
Gwahanol gyfuniadau Different combinations
Cwtogi To shorten
Tue, 10 Jan 2023 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBore Cothi – Iau – 29/12/22 Heledd Cynwal oedd yn cyflwyno Bore Cothi yn lle Shan Cothi wythnos diwetha a buodd hi’n gofyn i sawl person sut flwyddyn oedd 2022 wedi bod iddyn nhw. Roedd yr awdures Caryl Lewis wedi cael blwyddyn cynhyrchiol iawn, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma...
Cynhyrchiol Productive
Ymhelaethwch! Say more!
Llwybr Path
Anarferol Unusual
Datblygu To develop
Mynd ati To go about it
Yn fy nhwpdra In my stupidity
Tueddu Tend to
Naill ai...neu Either...or
Cynrychioli To represent
Dros Ginio – Iau 29/12/22 Yr awdures Caryl Lewis yn sôn am ei blwyddyn brysur ac anarferol. Rhaglen arall fuodd yn edrych yn ôl ar 2022 oedd Dros Ginio a chlywon ni rai o’r sgyrsiau diddorol gafwyd yn ystod y flwyddyn. Dyma flas ar sgwrs rhwng Alun Thomas a’r Dr Elain Price sydd yn ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe. Gofynnodd Alun iddi hi beth oedd ei hoff ffilm... Darlithydd Lecturer
Astudiaethau Cyfryngau Media studies Sy’n serennu Which stars
Ces i fy swyno I was charmed
Egni Energy
Cyfoeth Richness
Cenedlaethau Generations
Yn gwirioni ar Yn dwlu ar
Y llinell orau The best line
Aled Hughes – Mawrth 27/12/22 Ie, mae hi’n adeg gweld hen ffilmiau ar y teledu on’d yw hi? Mae hi hefyd yn adeg y Panto a chafodd Sara Gibson sgwrs gydag Erin Dolan sydd yn cymryd rhan Maid Marian ym mhanto Robin Hood yn Theatr Colwyn...
Y rhan The part
Cynyrchiadau Productions
Ddaru nhw Wnaethon nhw
Rhediad llawn A full run
Tarfu ar To disturb
Profiad Experience
Ymarfer To rehearse
Bore Cothi – Iau – 29/12/22
...Sara Gibson oedd yn holi yn fanna gan mai hi oedd yn cyflwyno yn lle Aled Hughes wythnos diwetha. Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol oedd yn rhoi Munud i Feddwl i ni fore Iau a dyma beth oedd ganddi i’w ddweud...
Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu Director of Teaching and Learning
Cynhesrwydd ysbryd The warmth of the spirit
Agosáu Approaching
Adlewyrchu’n dawel Reflecting quietly
Cyhoeddwyd Was announced
Gwahanu To separate
Cyfyngu ar hawliau Restricting the rights
Dymchwel To demolish
Heddychlon Peaceful
Ar raddfa fach On a small scale
Ar y Marc – Sadwrn – 24/12/22 Helen Prosser yn fanna am i wneud pethau da a phwysig ar raddfa fach yn y flwyddyn newydd. Ar ôl cyfnod o fis heb gemau, tybed sut bydd sêr Uwch Gynghrair Lloegr yn ymdopi pan fyddan nhw'n ail-ddechrau chwarae . Wel, Mathew Banks, o Bwllheli yn wreiddiol, ydy Prif Hyfforddwr Cryfder a Chyflwr, neu Strength & Conditioning Coach i dîm cynta Southampton. Gofynnodd Dylan Jones iddo fe sut un ydy Nathan Jones, y Cymro sydd yn rheolwr newydd ar y clwb...
Uwch Gynghrair Premier League
Ymdopi To cope
Yn cael ei benodi Being appointed
Cynlluniau hyfforddi Training plans
Yn galetach Harder
Addasu To adapt
Dros Frecwast – Gwener – 30/12/22 Ond yn anffodus colli wnaeth Southampton eto ddydd Sadwrn ac maen nhw ar waelod y tabl erbyn hyn. Yn ystod yr wythnos daeth y newyddion trist am farwolaeth y peldroediwr eiconig Pele. Bethan Clement fuodd yn siarad gyda’r comedïwr a’r ffan pêl-droed Gary Slaymaker gafodd y cyfle i gwrdd â Pele pan aeth i’w ffilmio. Bonheddwr Gentleman
Croen Skin
Ynni Energy
Parch Respect
Rhyngwladol International
Amddiffynnwr Defender
Cydnabod To acknowledge
Crynhoi dylanwad Summarise the influence
Ehangach Wider
Rhyfeddol Amazing
Thu, 05 Jan 2023 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchTroi’r Tir – Cofio’r Nadolig 18.12 Buodd Troi’r Tir yn hel atgofion am Nadoligau’r gorffennol. Un o’r rheini siaradodd ar y rhaglen oedd Bessie Edwards o Gribyn ger Llanbedr-Pont-Steffan, a dyma hi’n cofio dydd Nadolig oedd yn wahanol iawn i Nadoligau’r dyddiau hyn... Hel atgofion Recollecting
Tylwyth Teulu
Arferiad A custom
Celyn Holly
Addurno To decorate
Dim byd neilltuol Nothing particularly
Melysion Sweets
Cyngerdd cystadleuol A competitive concert
Adloniant Entertainment
Bore Cothi – Alwyn Sion 20.12 Blas ar Nadoligau’r gorffennol yn fanna gydag atgofion Bessie Edwards. Yn ystod wythnos y Nadolig ar Bore Cothi clywon ni Shan Cothi yn holi gwahanol bobl beth yw ystyr y Nadolig iddyn nhw. Dyma i chi Alwyn Sion yn sôn am sut oedd cymuned ffermio ardal Meirionnydd yn paratoi at yr Ŵyl….. Gwyddau Geese
Nefoedd Heaven
Plentyndod Childhood
Prysurdeb Business
Pluo To pluck
Cynnau tân To light a fire
Llygad barcud A keen eye
Rhwygo To tear
Braster Fat
Glynu To stick
Aled Hughes Rysait Nadolig 19.12 Pluo twrci ar gyfer ei rostio oedd Alwyn a’i deulu mae’n debyg, ond nid dyna sut oedd hi ers talwm. Dyma Elin Thomas yn esbonio wrth Aled Hughes sut oedd pobl yn coginio twrci yn y gorffennol pell... Brodorol Native
Darganfod To discover
Y cyfnod Tuduraidd The Tudor Age
Poblogaidd Popular
Ymhlith Amongst
Bonheddig Aristocratic
Uchelgeisiol Ambitious
Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century
Ymarferol Practical
Cyfrol Tome
Trystan ac Emma – Iwan Jones 16.12 Dw i’n siŵr bod nifer ohonon ni wedi bwyta llawer gormod dros yr Ŵyl, ond mae angen i Iwan Jones o Lwynygroes ger Tregaron fod yn ofalus iawn faint a beth mae e’n ei fwyta, a hynny oherwydd ei fod yn hoff iawn o gystadlu mewn cystadlaethau Ironman. Mae Iwan newydd ddod yn ôl o’r Unol Daleithiau ar ôl cystadlu ym mhencampwriaeth Ironman y byd. Dyma fe’n esbonio wrth Trystan ac Emma sut mae paratoi at gystadleuaeth o’r fath... Wedi bennu Wedi gorffen
Ymroddiad Commitment
Cyffwrdd To touch
Egni Energy
Yn feddyliol gryf Mentally strong
Llonydd Tranquil
Dros Ginio – Traddodiadau’r Nadolig 19.12 Iwan Jones oedd hwnna’n sôn am sut mae paratoi’n gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer cystadleuaeth Ironman. Ar Dros Ginio cafodd Dewi Llwyd sgwrs gyda’r hanesydd Nia Watkin Powell am hanes Gŵyl y Nadolig. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Cymharol diweddar Fairly recent
Cydnabuwyd Was acknowledged
I ryw raddau To some extent
Yr Ymerodraeth Rufeinig The Roman Empire
Mabwysiadu To adopt
Troad y rhod Solstice
Ailymddangos To reappear
Led-led Throughout
Wedi goroesi Has survived
Dynodi To note
Cofio – Nadolig 21.12 Diddorol on’d ife, bod cymaint o arferion y Nadolig wedi dod yn wreiddiol o’r oes cyn Crist. Ac i orffen yr wythnos hon dyma glip o raglen Cofio gyda W J Jones o Fangor yn cofio cinio Nadolig anarferol gafodd e yn yr Aifft adeg yr Ail Ryfel Byd. Yr Aifft Egypt
Y lluoedd arfog The Armed Forces
Gweinyddiaeth Administration
Rheidrwydd Necessity
Ufuddhau To obey
Pa mo afresymol bynnag However unreasonable be it
Byddent Basen nhw
Llw tragwyddol An eternal oath
Atgas Detestable
Yn awchus Eagerly
Fri, 30 Dec 2022 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchRadio Ysbyty – Codi Calon Claf 18.12 Nos Sul buodd Huw Stephens yn rhoi hanes dyddiau cynnar Radio Ysbyty Glangwli Caerfyrddin, gafodd ei sefydlu bum deg mlynedd yn ôl. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Huw gyda sylfaenydd yr orsaf, y darlledwr Sulwyn Thomas
Cafodd ei sefydlu Was established
Sylfaenydd Founder
Darlledwr Broadcaster
Fy annwyl wraig My dear wife
Cadeirio Chairing
Ffodus Lwcus
Cymysgu’r sain Mixing the sound
Ro’n i’n methu’n deg I couldn’t at all
Aelod selog A faithful member
Ambell I Gan – Bronwen Lewis 11.12 Ychydig o hanes sefydlu Radio Ysbyty Glangwli yn fanna gan Sulwyn Thomas. Cafodd Gwennan Gibbard gwmni’r gantores Bronwen Lewis ar y rhaglen Ambell i Gân. Gofynnodd Gwenan iddi hi yn gynta pwy sydd wedi dylanwadu arni hi
Dylanwadu To influence
Tyfu lan Tyfu fyny
Tad-cu Taid
Emynau Hymns
Traddodiadol Traditional
Yn grac Yn flin
Cyfweliad Interview
Swnllyd Noisy
Swynol Beautifully
Ffili Methu
Bore Cothi - Banc Bwyd Eglwys Crist 13.12 Bronwen Lewis oedd honna’n sôn am ei theulu cerddorol. Dydd Mawrth ar Bore Cothi aeth Shan Cothi i Eglwys Crist Caerfyrddin ble mae aelodau’r eglwys wedi sefydlu banc bwyd ar gyfer y gymuned. Yn gyntaf dyma y Parchedig Delyth Richards gyda ychydig o gefndir y fenter Parchedig Reverend
Esgob Bishop
Bendithio To bless
Addoli To worship
Cynnyrch Produce
Blwch Box
Yn gyson Regularly
Beti a’I Phobl – Marc Howells 18.12 Da iawn aelodau Eglwys Crist, ond dyw hi’n drueni bod rhaid agor banciau bwyd y dyddiau hyn? Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol bnawn Sul oedd Marc Howells o Ddinbych yn wreiddiol, fe yw pennaeth Adnoddau Dynol y cwmni meddyginiaeth Astro Zeneca. Adnoddau Dynol Human Resources
Meddyginiaeth Medicine
Llywodraethau Governments
Datblygu To develop
Diwydiant gwyrdd Green industry
Yr amgylchedd The environment
Aled Hughes – Joseff Gnagbo 14.12 Golwg bach gwahanol yn fanna ar waith y cwmni meddyginiaeth Astro Zeneca ar Beti a’i Phobol. Bore Mercher cafodd Aled Hughes gwmni Joseff Gnagbo. Daw Joseff o’r Traeth Ifori yn wreiddiol cyn iddo fe orfod ffoi oddi yno. Erbyn hyn mae’n byw yng Nghymru ac yn rhugl yn y Gymraeg. Gofynnodd Aled iddo fe beth mae Cymru wedi ei gynnig iddo fe…. Gorfod ffoi Had to escape
Cyfrannu To contribute
Personoliaeth Personality
Ymladd To fight
Trefedigaeth Colony
Annibyniaeth Independence
Hyrwyddo To promote
Troi’r Tir – Jamie Stroud 12.12 Joseff Gnabo , wnaeth ffoi o’r Traeth Ifori , dod yn rhugl yn y Gymraeg ac sydd nawr yn gweithio fel tiwtor Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Gwych on’d ife? Un arall sy wedi dysgu Cymraeg ydy Jamie Stroud sy’n gweithio ar fferm lysiau gydweithredol Tyddyn Teg ger Caernarfon. Mae’r fferm yn cyflenwi 170 o focsys llysiau yr wythnos i’r gymuned leol yn ogystal â chynnal siop fferm, becws a llysiau i siopau a bwytai lleol. Buodd Jamie ar raglen Troi’r Tir ddydd Llun i esbonio mwy am waith y fferm
Cydweithredol Cooperative
Cyflenwi To supply
Hinsawdd Climate
Bwydydd Cyflawn Wholefoods
Anarferol Unusual
Pannas Parsnips
Cynhaeaf To harvest
Meithrinfa planhigion Plant nursery
Hau hadau Sowing the seeds
Cnwd Crop
Bresych Cabbage
Tue, 20 Dec 2022 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBore Cothi – Rhys Taylor 5.12 Beth yw eich hoff garol Nadolig? Falle cewch gyfle i glywed y band jazz, Rhys Taylor a’i Fand, yn ei pherfformio ar Carioci Carolau Cothi cyn y Nadolig. Dyma Rhys Taylor ei hun ar raglen Bore Cothi wythnos diwetha yn sôn am ei hoff garolau e.... Traddodiadol Traditional
Morio canu Singing their hearts out
Poblogaidd Popular
Amrywiaeth Variety
Sioeau cerdd Musicals
(Carolau) plygain Traditional Welsh carols
Trefniant Arrangement
Cydio To grasp
Croen gwŷdd Goosebumps
Disglair, pur, nefolaidd Brilliant, pure, heavenly
Caryl – Llanllwni 5.12 Carioci Carolau Cothi, rhywbeth i edrych ymlaen ato on’d ife? Ac mae plant bach ardal Llanllwni ger Llanbedr Pont Steffan yn edrych ymlaen bob bore i weld pa ddrygioni mae’r hen gorachod ar y silff wedi bod yn ei wneud yn ystod y nos, fel clywon ni gan Nerys Thomas ar raglen Caryl... Drygioni Naughtiness
Corachod Elves
Wedi gwirioni’n lân Infatuated with
Peth diweddar A recent thing
Beti A'i Phobol – Shan Ashton 11.12 Mae plant ysgol feithrin Llanllwni wir yn edrych ‘mlaen at y Dolig on’d yn nhw? Shan Ashton oedd gwestai Beti ar Beti a’i Phobol bnawn Sul. Mae Shan wedi cael gyrfa amrywiol ac wedi gorfod magu ei phlant ar ei phen ei hun, ar ôl iddi hi a’i gŵr wahanu pan roedd y plant yn ifanc. Sut wnaeth hi ymdopi â’r sefyllfa anodd yma? Dyna un o gwestiynau Beti iddi hi...
Gwahanu To separate
Ymdopi â To cope with
Cymdogion Neighbours
Heb eu hail Second to none
Asgwrn cefn Backbone
Llifo To saw
Man a man Might as well
Agwedd iach A healthy attitude
Breintiedig Privileged
Dros Ginio – John Eifion a Helen Medi 5.12 Shan Ashton oedd honna yn sgwrsio gyda Beti George Bob dydd Llun mae Dewi Llwyd ar Dros Ginio yn cael cwmni 2 cyn 2. Tro brawd a chwaer oedd hi yr wythnos hon, John Eifion a Helen Medi. Mae’r ddau yn gerddorol iawn a chafodd y ddau eu magu ar fferm Hendre Cennin rhwng Penygroes a Chricieth yng Ngwynedd. Dyma Helen i ddechrau yn sôn am eu magwraeth... Magwraeth Upbringing
Aelwyd Hearth
Arddegau Teenage years
Cymdeithasau Societies
Diddanu To entertain
Dylanwadu To influence
Deuawd Duet
Cylchwyl A local festival
Llenyddol Literary
Rheolaidd iawn Very regularly
Aled Hughes – Adrian Cain 7.12
John Eifion a Helen Medi yn sôn am eu magwraeth gerddorol ar fferm Hendre Cennin . Dydd Mercher cafodd Aled Hughes sgwrs gydag Adrian Cain o Ynys Manaw. Mae Adrian yn athro yn unig ysgol Manaweg yr ynys sef Bunscoill Ghaelgagh (yngenir fel ‘Bynsgwl gilgach’). Mae Adrian yn siarad pedair iaith - Cymraeg, Manaweg, Gwyddeleg a Saesneg. Dechreuodd Adrian ddysgu Cymraeg tua phum mlynedd yn ôl ac mae e nawr yn dysgu ychydig o Gymraeg i blant yr ysgol ar Ynys Manaw. Ynys Manaw Isle of Man
Manaweg Manx
Gwyddeleg Irish Language
Tŵf Growth
Ifan Evans Eden 6.12
On’d yw hi’n braf clywed am dŵf y Manaweg? Pob lwc iddyn nhw ar Ynys Manaw gyda’u hiaith arbennig.
Mae gan y grŵp Eden sengl Nadolig allan sef Adre Nôl, a phrynhawn ddydd Mawrth cafodd Ifan Evans siawns i sgwrsio gyda Non Parry o’r grŵp gan ofyn iddi hi yn gynta beth oedd hi’n gwneud y prynhawn hwnnw. Addurno To decorate
Goleuadau Lights
Tue, 13 Dec 2022 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBore Cothi - Huw Williams 29.11 Ddechrau’r wythnos buodd Sian Cothi yn darlledu o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Dydd Mawrth cafodd gyfle i siarad ag un o filfeddygon yr Ŵyl sef Huw Williams o Dywyn, Meirionydd. Beth yn union yw gwaith y milfeddygon yn ystod y Ffair Aeaf? Dyma Huw yn esbonio...
Ffair Aeaf Winter Fair
Milfeddygon Vets
Darlledu Broadcasting
Hamddenol Leisurely
Archwilio To inspect
Anhygoel Incredible
Y cylch The ring
Beirniad Judge
Rhesymu’n gyhoeddus Outlining the reasons publicly
Arddangoswyr Exhibitioners
Beti a’I Phobl – Sylvia Davies 4.12 Blas ar waith milfeddygon y Ffair Aeaf yn fanna ar Bore Cothi.
Sylvia Davies oedd gwestai Beti George bnawn Sul . Dyma i chi ran o’r sgwrs ble mae hi’n esbonio pam wnaeth hi benderfynu mynd i’r brifysgol i astudio anthropoleg ar ôl iddi hi ddechhrau gweithio mewn banc...
Doedd fy mryd i ddim I wasn’t inclined
Trywydd traddodiadol A traditional path
Aeth ar gyfeiliorn Went astray
Ennill fy nhamed To earn my living
Gradd Degree
Tystiolaeth Evidence
Tystysgrif Certificate
Dyrchafiad Promotion
Mo’yn Eisiau
Crefydd Religion
Dros Ginio – Rhys Mwyn 28.11 Sylvia Davies oedd honna’n esbonio wrth Beti George beth wnaeth iddi hi benderfynu mynd i brifysgol yn hytrach nag aros yn y banc. Nia Ceris oedd yn cyflwyno Dros Ginio bnawn Llun a chafodd hi sgwrs gyda’r cyflwynydd radio a’r archeolegydd Rhys Mwyn am y mosaig anhygoel o oes y Rhufeiniaid cafodd ei ffeindio ar dir fferm yn Swydd Rutland. Ydy hi’n bosib i rywbeth mor hen a hynny fod mewn cyflwr da? Dyma beth oedd gan Rhys i’w ddweud... Y Rhufeiniaid The Romans
Cyflwr Condition
Wedi cael llonydd Been undisturbed
Goroesi To survive
Aredig Ploughed
Ail gladdu To rebury
Cofnodi To record
Y bedwaredd ganrif The fourth century
Chwalu To destroy
Gaeafau garw Rough winters
Tir sad Stable land
Caryl – Professor Llusern 30.11 Beth fydd yn digwydd i’r mosaig hwnnw tybed, fydd e’n cael ei ail gladdu fel roedd Rhys yn ei awgrymu? Cawn weld on’d ife? Cafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio â chonsuriwr nos Fercher o’r enw Professor Llusern. Mae e’n dod o Fostyn yn Sir y Fflint a gofynnodd Caryl iddo fe pa mor anodd yw hi i ymuno â’r Magic Circle….neu’r Cylch Hud….. Consuriwr Magician
Hen ddywediad Old saying
Cyfrinachau hud a lledrith Magic secrets
Enwebu To nominate
Dros dro Temporary
Wir o ddifri Really serious
Bore Cothi - Cwn Selsig 30.11 Wel dyna ni, os dych chi’n ffansio bod yn gonsuriwr, dych chi gwybod beth i’w wneud nawr. Erbyn bore Mercher roedd criw Shan Cothi wedi dod yn ôl o’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd i’r stiwdio yng Nghaerfyrddin lle cafodd gyfle i siarad ag Emma Hughes sydd yn berchennog ar Seth. Ci Daschund yw Seth ag Emma yw sefydlydd Cymdeithas Cŵn Selsig Gogledd Cymru, a gofynnodd Shan iddi hi‘n gynta faint o aelodau sydd yn y gymdeithas Sefydlydd Founder
Perchennog Owner
Mae gen i ofn I’m afraid
Pryderon Worries
Gweddol rhwydd Eitha hawdd
Ifan Evans – Llanbed 1.12 Ramp i gŵn selsig – dyna dda on’d ife? Aeth criw Rhaglen Ifan Evans allan o’r stiwdio ddydd Iau a mynd draw i Lanbedr Pont Steffan gan ei bod yn noson siopa hwyr y dref. Cafodd Ifan gyfle i holi Meinir Evans gwraig leol ddechreuodd busnes pobi yn ystod y cyfnod clo. Gofynnodd Ifan iddi hi’n gynta beth yn union yw’r busnes Pobi To bake
Y cyfnod clo Lockdown
Syndod o dda Surprisingly well
Shwd (sut) fraint Such a privilege
Cacs Cacennau
Ffili Methu
Ieuenctid Youth
Deugain mlynedd 40 years
Ddim digon o blwc Not brave enough
Danteithion Delicacies
Tue, 06 Dec 2022 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBore Cothi – Iestyn Jones Mae Iestyn Jones o Gapel Hendre yn Sir Gaerfyrddin yn gerddor llwyddiannus sy’n gweithio yn y West End, ac ar hyn o bryd mae e’n aelod o gerddorfa sioe ‘Back to The Future’. Buodd Iestyn yn sôn wrth Shan Cothi am ei yrfa…………. Cerddor llwyddiannus A successful musician
Cerddorfa Orchestra
Sioe gerdd Musical theatre
Dwlu ar Wrth ei fodd efo
Llwyfan Stage
Anghyffredin Unusual
Profiadau Experiences
Trwy rinwedd By virtue of Beti a’i Phobl – John Owain Jones 27.11 Iestyn Jones oedd hwnna’n sôn am rai o’i brofiadau yn y West End ar Bore Cothi. Pnawn Sul ar Beti a’i Phobl y Parchedig John Owain Jones oedd gwestai Beti. Bydd e’n ymddeol fel gweinidog ar Ynys Bute yn yr Alban ym mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel gweinidog yno. Dyma fe’n sôn am sut dechreuodd ei gysylltiad â’r ynys...
Parchedig Reverend
Gweinidog Minister
Yn y fyddin In the army
Hel pres Casglu arian
Llongau Ships
Ymerodraeth Empire
Ffrindiau mynwesol Bosom pals
Ddaru Wnaeth
Naill ai Either
Gwas priodas Best man
Gwneud Bywyd yn Haws – Lloyd Henri 22.11 Y Parchedig John Owain Jones yn fanna, ac mae Owain yn cyfrannu’n aml i’r slot Thought for Today Radio Alban ac wedi cyfrannu hefyd i’r Daily Service Radio 4. Bydd e hefyd yn cyfrannu ar Munud i Feddwl, Radio Cymru. Nos Fawrth ar ei rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws, cafodd Hanna Hopwood gwmni Lloyd Henri , athro coginio sydd wedi sgwennu llyfr o’r enw Cegin Mr Henri. Gofynnodd Hanna iddo fe’n gynta pam aeth o ati i sgwennu’r llyfr Ymarferol Practical
Cynyddu To increase
Enfawr Huge
Llwyth Loads
Gwastraff Waste
Yn eu harddegau In their teens
Rhwng y cloriau Between the covers
Heriol Challenging
Cynhwysyn Ingredients
Sawrus Savoury
Aled Hughes – Ian ap Dewi 21.11
Dw i’n siŵr basai hwnna’n gwneud anrheg Dolig neis i rywun –Cegin Mr Henri. Dyw hi ddim yn bosib dianc rhag pêl-droed y dyddiau hyn nag yw hi? Bore Llun aeth Aled Hughes i Ganolfan yr Urdd Llangrannog a chafodd air gyda Ian ap Dewi sylfaenydd tîm pêl-droed y pentre sef Crannog. Dianc rhag To escape from
Sylfaenydd Founder
Cyfaill Ffrind
Y gynghrair The league
Cais Application
Cymuned Community
Ieuenctid Youth
O dipyn i beth Little by little
Mas Allan
Caryl – Eleri Lloyd Jones 22.11
Hanes sefydlu tîm pêl-droed Crannog yn fanna ar raglen Aled Hughes. Cafodd Caryl Parry Jones gyfle i sgwrsio gyda Eleri Lloyd Jones o Ffostrasol yng Ngheredigion ar ei rhaglen nos Fawrth. Mae Eleri yn athrawes wrth ei gwaith bod dydd, ond gyda’r nos mae hi’n hoff iawn o uwchgylchu dodrefn.
Uwchgylchu Upcycle
Dodrefn Celfi
Tywyll Dark
Gweddill The rest
Yn dueddol Tend to
Cael gwared To get rid of
Harddwch Beauty
Derw Oak
Goleuo To lighten
Newid ei wedd To change its complexion
Bore Cothi – Elinor Young Os nad oeddech chi’n gwybod beth ydy uwchgylchu o’r blaen, dych chi’n siŵr o fod yn gwybod nawr! Wythnos diwetha roedd rhaglen Shan Cothi yn rhoi sylw i elusennau bychain Cymru a buodd Elinor Young o Cŵn Cymorth Cariad yn siarad â Shan am y gwaith mae ei chi Tana yn ei wneud ar ran yr elusen Elusennau bychain Small charities
Lles Welfare
Cleifion Patients
Mwythau Pandering
Delwedd Image
Ystyried To consider
Tue, 29 Nov 2022 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBore Cothi - Gruffydd Rees 16.11
Ydy gwenyn yn cysgu dros y gaeaf? Nac ydyn, ddim yn ôl y gwenynwr Gruffydd Rees o’r Dryswyn yn Sir Gaerfyrddin. Dyma Gruffydd yn dweud mwy wrth Shan Cothi…..
Gwenyn Bees
Cwch Hive
Para To last
Peillio To pollinate
Hanfodol Essential
Diwydiant Industry
Cnwd Crop
Trystan ac Emma – Gari’r Gwiningen
Y gwenyn yn brysur yn bwyta mêl drwy’r gaeaf – braf on’d ife? Nesa dyma i chi hanes Gari, anifail anwes Emma o Lanbedrog ym Mhen Llŷn, sydd wrth ei fodd yn mynd am dro i’r traeth gyda thri o gŵn Emma. Dim byd yn rhyfedd am hynny nag oes? Wel oes, gan mai cwningen ydy Gari. Dyma Emma’n sgwrsio gyda Trystan ac yr Emma arall…
Cwningen Rabbit
Aballu And so on
Dychmygu To imagine
Ymateb Response
Aled Hughes – Nyrsus Phillipines 14.11
Felly peidiwch â chael gormod o sioc tasech chi’n gweld cwningen yn mynd am dro ar draethau Pen Llŷn! Fore Llun cafodd Aled Hughes gyfle i sgwrsio gyda Noel Davies mab Lottie, nyrs o Ynysoedd Philippines yn wreiddiol, ddaeth draw i Gymru i weithio yn y Gwasanaeth Iechyd gyda nifer o nyrsys eriall o’r Ynysoedd. Llais Noel ei hunan dyn ni’n ei glywed ar ddechrau’r clip pan oedd e’n 6 oed. Mae e dipyn yn henach nawr ac ymunodd e gydag Aled i ddathlu 21mlynedd ers i nyrsys o’r Ynysoedd gyrraedd Cymru ac i roi ychydig o’i hanes personol e…
Uffernol Hellish
Cyn gyd-weithwraig annwyl A dear former colleague
Yn gyfarwydd Familiar
Poblogaidd Popular
Hyfforddi To train
I chdi I ti
Beti – Iestyn Davies 20.11
Noel Davies oedd hwnna’n sgwrsio gydag Aled Hughes yn sôn gymuned Philippino y gogledd.
Bnawn Sul ar raglen Beti a’i Phobl, cyn dditectif ac Uwch Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru, Iestyn Davies oedd y gwestai. Dyma fe’n sôn am rywbeth doniol iawn ddigwyddodd iddo fe pan oedd e’n blismon ar Ynys Môn
Uwch Arolygydd Superintendent
Cau stopio Gwrthod stopio
Buarth Farmyard
Drewi Stinking
Sylweddoli To realise
Yn wirioneddol In reality
Caryl – Wendy Williams 14.11
Wel dyna stori dda ‚on‘d ife ? Nos Lun a’r raglen Caryl roedd Wendie Williams o Gaerfyrddin yn sôn am y rhaglen deledu Yma O Hyd a’r effaith mae’r gân arbennig hon wedi ei gael y tu hwnt i fyd siaradwyr Cymraeg…
Y tu hwnt Beyond
Cysylltu To contact
Torf Crowd
Ias A shudder
Aberth Sacrifice
Ymgyrchu Campaigning
Hunaniaeth Identity
Llefain Crïo
Angerdd Passion
Bore Cothi – Manon Fisher Jenkins 15.11
Ac mae sawl fersiwn o’r gân i’w gael erbyn hyn on’d oes, ers Cwpan y Byd. Mae Manon Fisher Jenkins o Gaerdydd wedi newid gyrfa sawl gwaith er mai yn ei phedwardegau yn unig mae hi. Ond erbyn hyn mae hi wedi dod o hyd i yrfa sydd wrth ei bodd. Dyma hi’n esbonio wrth Shan Cothi...
Gradd Degree
Amgueddfa Museum
TAR PGCE
Tost Sâl
Mamolaeth Maternity leave
Hedyn A seed
Tad-cu Taid
Rhandir Allotment
Dwlu Mwynhau
Andros o ffodus Lwcus iawn
Tue, 22 Nov 2022 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Ry'ch chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse ydw i, ac i ddechrau'r wythnos yma...
Aled Hughes - Dafydd Iwan 7.11 Roedd Dafydd Iwan yn westai ar raglen Aled Hughes fore Llun i sôn am Yma o Hyd, y gân sydd wedi ei dewis fel anthem tîm Pêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Recordiwyd Yma o Hyd gynta bron i bedwar deg mlynedd yn ôl, ond mae hi wedi cael bywyd newydd yn ddiweddar, gyda recordiad newydd sydd wedi cael sylw mawr y tu hwnt i Gymru. Tu hwnt Beyond
Wedi hen arfer Well used to
Bodoli ers degawdau Existed for decades
Rhyfedda Strangest
Pwysleisio’r angen Stresses the importance
Ail-greu To recreate
Ers tro For a long time
Ysbrydoli To inspire Yr alwad The call
Llorio To floor
Bore Cothi – Roy Noble 7.11 ...a buodd chwarter miliwn o blant ysgol Cymru yn canu Yma o Hyd fel rhan o Jiwbili yr Urdd, gwych on’d ife? Ddydd Llun hefyd cafodd Shan Cothi gyfle i groesawu y darlledwr Roy Noble oedd yn edrych ymlaen at ei ben-blwydd yn 80. Dechreuodd Roy drwy sôn am ei ddyddiau cynnar yn darlledu……. Darlledwr Broadcaster
Traffordd Motorway
Bwrw To hit
Yr Hollalluog The Almighty
Camsyniad Camgymeriad
Menwyod Merched
Wejen Cariad
Yn gymharol ddiweddar Fairly recently
Traddodiad Tradition
Beti a’I Phobl – Meleri Davies 13.11 Roy Noble oedd hwnna’n siarad gyda Shan Cothi. Brynhawn Sul, Meleri Davies o Fenter Ogwen oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl. Mae brawd Meleri, Dewi Prysor, yn nofelydd a gofynnodd Beti oedd diddordeb gyda hi mewn creu llenyddiaeth yn ogystal Llenyddiaeth Literature
Dihangfa An escape
Rhyddiaith Prose
Cerddi rhydd Free verse
Chwant An inclination
Cyfrwng Medium
Atomfa Nuclear power station
Dylanwad Influence
Amaethwyr Farmers
Ymbelydredd Radiation
Peri dychryn To cause alarm
Dros Ginio - Delyth Wyn a Elin Fflur 8.11 Blas ar sgwrs gafodd Beti George gyda Meleri Davies oedd hwnna, a nawr cawn wrando ar ran o sgwrs cafodd Jennifer Jones ar Dros Ginio gyda Delyth Wyn ag Elin Fflur sef cynhyrchydd a chyflwynwraig y gyfres deledu Sgwrs Dan y Lloer. Cynhyrchydd Producer
Cyflwynwraig Female presenter
Addas i’r cyfnod Suitable for the period
Dynoliaeth Humanity
Rhyfeddu To wonder
Gwerthfawrogi To appreciate
Cymdeithasu To socialise
Cefnlen Backdrop
Creu’r naws Creating the atmosphere
Caryl - Heledd Fflur 8.11 Ac mae rhaglenni Sgwrs Dan y Lloer wedi bod yn rhai gwych on’d yn nhw? Heledd Fflur, sydd yn dod o Drewyddel, Sir Benfro yn wreiddiol, yw garddwraig wadd rhaglen Caryl gyda’r nosau, a’r wythnos yma buodd hi’n sôn wrth Caryl am gyfrinachau tyfu moron da Cyfrinachau Secrets
Dyfrhau To water
Os wedwn i If I say so
Pridd Soil
Parhau To continue
Yn hytrach na Rather than
Diog Lazy
Sychder Drought
Arwynebedd Surface area
Tueddol i Tend to
Ifan Evans – Clive Edwards 10.11 Dyna ni wedi cael gwybod sut i dyfu moron da – dyfrhau o’r gwaelod! Brynhawn Iau buodd Ifan Evans yn siarad gyda’r canwr Clive Edwards am ei gryno ddisg, neu CD, newydd, Dyddie Da, sy'n cael ei ryddhau cyn bo hir.
Llongyfarchiadau Congratulations
Offerynwyr Instrumentalists
Ffair Aeaf Winter Fair
Hala Anfon
Diniwed Innocent
Tue, 15 Nov 2022 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBETI A’I PHOBOL - MIRAIN IWERYDD
Y cyflwynydd Mirain Iwerydd oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ydy Mirain ac mae hi’n cyflwyno Hansh a Stwnsh Sadwrn ar S4C, a’r Sioe Frecwast Radio Cymru 2 fore Sul. Mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd bob nos Fercher ar Radio Cymru. Cefndir Jamaicaidd ac Indiaidd sydd gan fam Mirain a gofynnodd Beti iddi oedd hi wedi profi hiliaeth o gwbl o’r herwydd…
Hiliaeth Racism O’r herwydd As a consequence Dathlu diwylliant Celebrating the culture Synnu To be surprised Ffodus Lwcus (G)wynebu To face Cymharol Relatively Cyfryngau cymdeithasol Social media Becso Poeni Bodoli To exist
SHELLEY A RHYDIAN
Mirain Iwerydd oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George. Yr actor, canwr a sylwebydd Rhys ap William oedd gwestai Shelley a Rhydian brynhawn Sadwrn. Rhys oedd yn sylwebu yn Stadiwm y Principality yn ystod y gêm rygbi rhwng Cymru a’r Crysau Duon ddydd Sadwrn diwetha ond beth tybed yw hanes y sgidiau arbennig iawn mae e’n eu gwisgo yn ystod y gêm?
Sylwebydd Commentator Y Crysau Duon The All Blacks Cefnogaeth Support Rhyngwladol International Gan amlaf Usually Dylanwadu To influence
NIA PARRY - GOGGLEBOX Yn anffodus doedd Rhys ddim yn gallu dylanwadu ar y sgôr ddydd Sadwrn wrth i Gymru golli’n drwm yn erbyn y Crysau Duon. Mae Huw Williams o Frynaman yn un o dri brawd (Mike a Stephen yw’r ddau arall) fydd yn ymddangos ar y gyfres newydd Gogglebocs Cymru cafodd ei weld am y tro cynta nos Fercher diwetha. Nia Parry fuodd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Huw am y gyfres...
Ymddangos To appear Cyfres Series Yr Wyddgrug Mold Swyddogol Official Anghytuno To disagree Hogyn Bachgen Licsen Baswn i’n hoffi Dodi pethau lan Rhoi pethau i fyny Sbort Hwyl
BORE COTHI - ALED HALL
Hanes y brodyr o Frynaman ar Gogglebox Cymru yn fanna ar raglen Aled Hughes. Mae’r tenor o Bencader, Aled Hall, newydd gyhoeddi ei hunangofiant “O’r Da I’r Direidus”. Gofynnodd Shan iddo a oedd cyfnod wedi bod ble roedd e‘n meddwl bod pethau‘n galed, ac ei fod wedi gwneud y peth iawn yn dilyn y llwybr cerddorol.
Hunangofiant Autobiography Direidus Mischievous Y llwybr cerddorol The musical path Llwyfan Stage Cyfarwydd â Familiar with Sa i’n credu Dw i ddim yn credu Ystyried To consider Cynulleidfa fyw A live audience Braidd dim Hardly any Annog To encourage
DROS GINIO - DAU CYN DAU
…a dw i’n siŵr bydd hanesion diddorol iawn yn hunangofiant Aled Hall. Brawd a chwaer o Aberystwyth oedd ar Dau Cyn Dau yn y rhaglen Dros Ginio. Mae Gwenan Creunant yn gweithio i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen ac mae Deian yn gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg. Dyma i chi flas ar y sgwrs…
Ymddiriedolaeth Trust Rhan fwyaf eich oes Most of your life Bwrlwm Buzz Amrywiaeth variety Cymuned glos A close community Atgofion a magwraeth Memories and upbringing Tafod ym moch Tongue in cheek Gwirionedd Truth
BORE COTHI - MARK ADEY
Gwenan a Deian yn fanna yn amlwg wrth eu boddau gydag Aberystwyth. Mae Mark Adey yn athro Gwyddoniaeth yn ysgol Uwchradd Llanisien, Caerdydd ac mae e hefyd yn ffan mawr o Elvis ac yn perfformio tipyn fel Elvis. Mae e’n dod o Bontlliw ger Abertawe yn wreiddiol a gofynnodd Shan Cothi iddo a oedd e’n clywed Cymraeg ar yr aelwyd pan oedd e’n blentyn.
Gwyddoniaeth Science Ar yr aelwyd At home Trwy gyfrwng Through the medium of Rhyfedd Strange Cyfarwyddo To become familiar with Sail Foundation Dynwared To imitate Enfawr Huge Llwyth o Loads of Addas Appropriate
Tue, 08 Nov 2022 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBORE COTHI Buodd Mari Grug yn cadw sedd Shân Cothi yn gynnes ddechrau’r wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Eirian Muse o Garmel ger Caernarfon am greu basgedi. Dechreuodd diddordeb Eirian mewn basgedi pan gafodd daleb i fynd i weithdy creu basgedi fel anrheg penblwydd tua phum neu chwe blynedd yn ôl. Dyma Eirian yn dweud yr hanes… Taleb - Voucher Ar hap - Accidentally Helyg - Willow Sir Amwythig - Shropshire Cymhwyster - Qualification Gwledig - Rural Hwb - A boost Gwlad yr Haf - Somerset Cynnyrch adnewyddadwy - Renewable produce Hyblyg - Pliable Trwch - Thickness
BETI A’I PHOBL Eurig Druce ydy Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni ceir Citroën yn y Deyrnas Unedig a fe oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae’n dod o bentref Bethel ger Caernarfon yn wreiddiol a phwy gwell nag Eurig i drafod ceir gyda Beti. Dyma i chi flas ar y sgwrs … Rheolwr Gyfarwyddwr - Managing Director Y Deyrnas Unedig - The UK Anferth - Huge Cynhyrchu’n unigol - Individually produced Diwydiant - Industry Sylfaen - Foundation Trydanol - Electrical Perthnasol - Relevant
ALED HUGHES Roedd y grŵp cerddorol HAPNOD yn boblogaidd yn ystod yr 80au. Roedd pedwar aelod o’r grŵp - Cefin Roberts, Rhian Roberts, Gwyn Vaughan Jones ac Ann Llwyd. Dyma nhw’n sôn wrth Aled Hughes sut cafodd y grŵp ei ffurfio yn y lle cynta, Ann sy’n siarad gynta. Tywysog - Prince Trefniannau - Arrangements Emynau - Hymns Cyfres - Series Unig - Lonely Cyhoeddus - Public Dere - Tyrd
JONATHAN YN 60 Mae’r cyn-chwaraewr rygbi Jonathan Davies yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 eleni a buodd e’n edrych yn ôl ar ei fywyd a'i yrfa gyda Sarra Elgan. Dyma fe’n sôn am yr adeg pan fuodd ei dad farw, a Jonathan ond yn bedair ar ddeg oed. Paratoi - To prepare Twlu - Taflu Yn grac - Yn flin Llefain - Crïo Cyfnod - Period Mam-gu - Nain
CLONC Roedd yna gystadleuaeth rhyfedd iawn ar Radio Cymru wrth i Radio Clonc gymryd drosodd tonfeddi Radio Cymru nos Fawrth. Dyma i chi “Richard” o Gaernarfon yn trïo ennill gwobr fawr cystadleuaeth Alff a Bet… Rhyfedd - Strange Tonfeddi - Wavelength Di o’m bwys - Dydy o ddim yn bwysig Llythyren - Letter Asiantaeth Gofod - Space Agency Teyrnas - Kingdom Madarch - Mushroom Unigryw - Unique
COFIO Cymdeithas oedd thema’r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy bnawn Sul. Dyma glip o raglen o ddiwedd y ganrif ddiwetha gyda phobl ar draws Cymru, yn hen ac ifanc, yn trafod sut mae cymdeithas a chymuned wedi newid. Cymuned - Community Rhywsut - Somehow Elfen - Element Bodoli - To exist Y cymoedd - The valleys Fawr o neb - Hardly anyone Hwn a’r llall - This and that Tlodi - Poverty Hela cwningod - Hunting rabbits Hwyrach - Efallai Parch - Respect Wedi darfod - Has ceased to exist
Tue, 01 Nov 2022 12:05:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBETI A’I PHOBOL Joe Healy, enillydd Dysgwr y Flwyddyn oedd gwestai Beti George yn ystod Wythnos y Dathlu. Mae Joe’n dod o Wimbledon yn ne Llundain yn wreiddiol ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers deg mlynedd. Daeth i Gaerdydd i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros yno. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac yn y clip yma mae’n sôn am sut wnaeth teulu Mared, ei cyn- gariad, ei helpu i ddysgu’r iaith… Treulio amser - To spend time Mynd mas - Mynd allan Profiad - Experience Mam-gu - Nain Cymdeithasol - Sociable Gorfodi - To force Cefnogol - Supportive Becso - Poeni Trochi - To immerse
ALED HUGHES Dim ond ers mis Ebrill eleni mae Katie Owen o Ferthyr yn dysgu’r iaith ar ôl iddi gymryd rhan yn y rhaglen Iaith ar Daith gyda’r DJ Huw Stephens yn fentor iddi hi. Dyma hi’n sgwrsio gydag Aled Hughes… Gwahanol - Different Tad-cu - Taid
ALED HUGHES Cafodd Laura Jones o Gaerdydd ychydig o wersi Cymraeg yn yr ysgol, ond penderfynodd ddysgu’r Gymraeg fel oedolyn er mwyn cyfieithu rhannau o’r Quran. Dyma flas ar y sgwrs cafodd hi gydag Aled Hughes... Oedolyn - Adult TGAU - GCSE Annog - To encourage Gyrfa - Career Cyfleoedd Gwaith - Work opportunities Bwlch - A gap Dywediadau - Sayings
ALED HUGHES Beth tybed oedd rheswm Kelly Webb-Davies sy’n dod o Awstralia’n wreiddiol dros ddysgu’r iaith? Fel cawn ni glywed mae hi’n briod â Peredur Glyn awdur nofel o’r enw ‘Pumed Gainc y Mabinogi’ ac mae hi wedi magu ei mab drwy’r Gymraeg. Dyma hi’n sgwrsio efo Aled Hughes... Ieithyddiaeth - Linguistics Bathu term - To coin a phrase Sillafu - To spell Seiniau - Sounds Clwt - Cewyn Llwglyd - Hungry
BORE COTHI Mae stori Sara Maynard o Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol. Cafodd hi ei haddysg mewn ysgolion Cymraeg ond ar ôl gadael ysgol collodd hi ei hyder o ran sgwennu Cymraeg. Aeth hi ar gwrs Cymraeg i Oedolion i wella’r sgil yma ac erbyn hyn mae hi’n swyddog iaith ym Mhrifysgol De Cymru. Ysgol gynradd - Primary School Ysgol Gyfun - Secondary School Trwy gyfrwng - Through the medium of Ysgrifenedig - Written Sbarduno - To spur
BORE COTHI Cafodd Shân Cothi sgwrs ddiddorol arall gyda Dickon Morris, cafodd ei eni yng Nghaergrawnt, ei fagu yn Sir Benfro ond sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd. Mae e’n gweithio fel daearegydd ac yn amlwg mae e wrth ei fodd gyda’r gwaith... Caergrawnt- Cambridge Daearegydd - Geologist Plentyndod - Childhood Dinbych y Pysgod - Tenby Diwydiant - Industry Tirwedd - Landscape Llethrau serth - Steep slopes Amrywiaeth - Variety
Tue, 25 Oct 2022 12:11:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBETI A’I PHOBOL Mae Bethan Wyn Jones yn awdures llyfrau natur, ac mae colofn natur gyda hi bob wythnos yn yr Herald Gymraeg sydd yn rhan o’r Daily Post. Hi oedd gwestai Beti George wythnos diwetha a yma hi’n sôn am yr adeg pan fuodd ei gŵr hi farw… Cyflwyniad - Introduction Galar - Bereavement Gwlad Pŵyl - Poland Gofal dwys - Intensive care Go lew - Ddim yn ddrwg Meddygon - Doctors Canmol - To praise Amodau - Conditions Sioc enbyd - Devastating shock Anghredinedd - Disbelief
ALED HUGHES Maggie Ogunbanwo o Benygroes ger Caernarfon fuodd yn siarad efo Aled Hughes fore Mercher, ar ôl iddi hi ennill Gwobr Mentergarwch yng Ngwobrau Womenspire Chwarae Teg 2022... Gwobr Mentergarwch - Entrepreneur Award Ysbrydoli - To inspire Rhan fwyaf - Mainly Pres - Arian Goro - Gorfod
IFAN EVANS Mae Alun Rees, yn dod o Sir Gaerfyrddin, neu Sir Gar, yn wreiddiol ond erbyn hyn mae e’n byw yn Nashville, America ac yn gweithio efo’r rhaglen deledu “American Pickers”. Mae e’n teithio ar draws y wlad gyda’i waith – o Nashville i Kansas i Mount Rushmore – tua 14 awr yn ei fan! Adnabyddus - Enwog Llanw lan â thanwydd - Fill up with fuel Cerddorol - Musical Antur - Adventure Yn ddiweddar - Recently Rhaglen ddogfen - Documentary Darlledu - To broadcast Deuawd - Duet Amrywiol - Varied Unigryw - Unique
DROS GINIO Mewn pum wythnos bydd Cymru yn chwarae pêl-droed yn erbyn Unol Daleithiau America yn Qatar. Dyma fydd y tro cynta i Gymru fod yn nghystadleuaeth Cwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd. Pa fath o le yw Qatar? Pa fath o groeso caiff cefnogwyr Cymru yno? Mae Rhodri Ogwen yn byw yno ers tua 10 mlynedd a dyma fe’n siarad ar Dros Ginio… Cynnwrf - Excitement Canolbwyntio - To concentrate Rhwydwaith - Network Gwelliannau bach - Small improvements Cefnogwyr - Fans Cyfweliad - Interview Pwyllgor Trefnu - Organising Committee Llysgennad - Ambassador Gradd - Degree Diogel - Safe
CARYL PARRY JONES Un sydd yn sicr o fod yn Qatar ydy Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Pêl-droed Cymru. Fe oedd gwestai Caryl nos Fercher a buodd yn sôn am daith emosiynol yn ddiweddar i Ypres, Gwlad Belg. Roedd taid Ian Gwyn Hughes, Lewis Valentine, yn y Rhyfel Byd Cyntaf a llwyddodd Ian i ddod o hyd i gofeb ym mynwent Tyne Cot, gydag enw ffrind ei daid arni. Dyma Ian yn dweud yr hanes... Rhyfel Byd Cyntaf - First World War Mynwent - Cemetary Cofeb - Monument Bedd Hedd Wyn - The grave of Hedd Wyn ( a Welsh poet) Croesoswallt - Oswestry Cafodd ei saethu - Was shot Corff - Body Ymchwil - Research Almaenig - German
COFIO Trysor oedd thema’r rhaglen archif Cofio gyda John Hardy ac yn ôl 2009 buodd e’n sgwrsio gyda David Clement o Ffynnon Taf ger Caerdydd am y dyddiadur buodd e’n ei gadw ers 1957. Dyma i chi flas ar y sgwrs... Sylw - Attention Cofnodi - To note Cyflawni - To achieve Amcangyfrif - Estimate Pori - To browse Yr ifanca - Y fenga Menyw - Dynes Llefain - Crïo Erchyll - Terrible
Fri, 21 Oct 2022 09:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchTAITH DDRYMIO TUDUR OWEN Mi roedd Tudur Owen yn chwarae drymiau i fand o’r enw Pyw Dall yn niwedd yr 80au ac mi roedd o isio dechrau chwarae eto….creisis canol oed falle? Mi osododd her iddo fo’i hun i ddysgu’r drymiau eto ac mi gafodd o sgwrs efo un o ddrymwyr gorau a mwya profiadol Cymru, Graham Land, a chlywed sut wnaeth o gymryd diddordeb mewn drymio yn y lle cynta… Gosod her - To set a challenge Profiadol - Experienced Sbïad - Edrych Camgymeriad - Mistake Profiad - Experience
GWNEUD BYWYD YN HAWS Caffein oedd pwnc rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth efo Hanna Hopwood. Mewn coffi dan ni‘n gweld caffein fel arfer, ond mae o i'w gael mewn diodydd eraill hefyd fel buodd Dr Teleri Mair yn sôn ar y rhaglen… Symbylydd - Stimulant Ymennydd - Brain Egni - Energy Yn fwy effro - More awake Cyffur - Drug Yn benodol - Specifically Rheswm meddygol - Medical reason Esgyrn - Bones Yn gymedrol - Moderately
ALED HUGHES Bore Llun ar ei raglen mi gafodd Aled Hughes sgwrs efo Megan Cynan Corcoran o ardal Beddgelert, sydd wedi bod yn chwilio i hanes ei theulu, ac sydd wedi darganfod ei bod yn perthyn i Rhodri Mawr, un o hen Dywysogion Cymru! Ymchwil - Research Canrifoedd - Centuries Tarddiad - Origins Yr Anwyliaid - The Anwyl clan Llyfrgell Gen(edlaethol) - The National Library Arfbais - Coat of arms Cyswllt - Connection Cist - Chest Genedigaeth(au) a marwolaethau - Birth(s) and deaths Cynefin - Habitat
ALED HUGHES Cafodd Aled Hughes sgwrs efo’r actores o Benarth, Morfydd Clark sy’n chwarae rhan y cymeriad Galadriel yn y gyfres Lord of the Rings – Rings of Power sydd ar y teledu ar hyn o bryd. Ond mi fuodd Morfydd yn chwarae rhan cymeriad chwedlonol arall yn y gorffennol sef Blodeuwedd, mewn drama lwyfan Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma hi’n sôn wrth Aled am y profiad hwnnw... Chwedlonol - Mythical Uchafbwyntiau - Highlights Hollol anhygoel - Totally incredible Tu fas - Outside Lleoliad - Location Traddodiadol - Traditional Y gyfres - The series Llong rhyfel - Warship Arwres - Heroine
BORE COTHI Rhywbeth arall sydd ar y teledu, ac yn y sinemâu, ar hyn o bryd ydy Blonde, addasiad ffilm o nofel am fywyd un o eiconau mwya Hollywood, Marilyn Monroe. Aeth Lowri Haf Cooke i weld y ffilm ar ran rhaglen Bore Cothi. Addasiad ffilm - A film adaptation Dadleuol - Controversial Dehongliad - Interpretation Adnabyddus - Enwog Camdrin - To abuse Delwedd - Image Eithriadol - Exceptional Amrwd - Raw Dychrynllyd - Frightening Trais - Violence
BORE COTHI Mae Syr Bryn Terfel yn mynd ar daith o gwmpas Prydain y mis yma ac mi gafodd o sgwrs efo Shân Cothi am raglen perfformiadau’r daith. Dyma i chi flas ar y sgwrs… Cydio - To grasp? Cyfansoddwr - Composer Amryddawn - Versatile Dramodydd - Dramatist Alawon - Melodies Telyn - Harp Yn arw - A great deal
Tue, 11 Oct 2022 13:34:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBETI A’I PHOBOL Karl Davies oedd gwestai Beti George yr wythnos hon. Mae Karl newydd ddod yn ôl i Gymru ar ôl bod yn dysgu Saesneg i oedolion am bedair blynedd yn China…a dyma fo’n sôn am hanes Cadi, y gath fach, wnaeth deithio mewn awyren yr holl ffordd o China i Gaerdydd... Y gradures fach - Poor thing (lit: the little creature) Mabwysiadu - To adopt Erchyll - Dreadful Epaod - Apes
TRYSTAN AC EMMA Mae Elsi Williams yn dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond yn byw yn Llandudno erbyn hyn. Mae hi’n mynd i nifer fawr o ddosbarthiadau ffitrwydd i gadw’n heini, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ‘ma. Trïwch ddyfalu be ydy oedran Elsi wrth i chi wrando arni’n sôn am gadw’n heini – mi gewch chi’r ateb cyn diwedd y clip… Ddaru - Gwnaeth Coedwig - Wood Clychau’r gog - Bluebells Anhygoel - Incredible DEI TOMOS Roedd y Moody Blues yn fand poblogaidd iawn yn y chwedegau a’r saithdegau ac mae’n debyg mae Nights in White Satin oedd un o’u caneuon mwya enwog. Roedd un o aelodau’r band, Ray Thomas, yn perthyn i'r cyflwynydd, cerddor ac actor Ryland Teifi. Fo oedd gwestai Dei Tomos nos Fawrth a dyma fo’n rhoi ychydig o’r hanes... Cyflwynydd - Presenter Cerddor - Musician Yn enedigol o - A native of Yn fachan - Yn fachgen Dur - Steel Ar fy mhwys i - Wrth fy ymyl i Modrybedd - Aunties Roedd e’n dwlu ar - Roedd o’n dotio ar ALED HUGHES Mae’r cyflwynydd Bethan Elfyn wedi bod yn sal ers 2005 ac wedi bod yn aros am drawsblaniad ysgyfaint am flynyddoedd er mwyn iddi hi gael gwella. O’r diwedd mae hi wedi cael clywed ei bod ar y rhestr am drawsblaniad... Trawsblaniad ysgyfaint - Lung transplant Wedi cwympo - Has fallen Triniaeth - Treatment Dirywiad - Deterioration Celloedd - Cells Dinistrio - To destroy BORE COTHI Mi gafodd Shân Cothi sgwrs efo Martina Roberts sy’n dod o’r Weriniaeth Tsiec yn wreiddiol ond sydd nawr yn dysgu yn Sir Benfro. Dyma hi’n sôn am sut dechreuodd hi ddysgu Cymraeg... Y Weriniaeth Tsiec - The Czech Republic Ystyried - To consider Denu - To attract Gwella - To improve Almaeneg - German language GWNEUD BYWYD YN HAWS Mi fuodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Branwen Llywelyn sydd wedi derbyn her 'Medi Ail Law', ond beth yn union ydy’r her ‘ma? Her - A challenge Mae'n hysbys - It’s known Amgylchedd - Environment Diwydiant - Industry Hinsawdd - Climate Mynd i'r afael - To get to grips with Codi ymwybyddiaeth - To raise awareness Annog - To encourage Ar hap - Randomly Egwyddorion - Principles Annibynnol - Independent
Tue, 04 Oct 2022 12:37:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchRadio’r Cymry Mae hi bron yn ganrif ers i'r geiriau Cymraeg cyntaf gael eu clywed ar y radio. Yn y gyfres newydd, Radio’r Cymry, mae Hywel Gwynfryn yn edrych ar raglenni, digwyddiadau â'r cymeriadau sydd wedi gwneud Radio Cymru yr hyn ydy o heddiw. Yn 1935 daeth Sam Jones yn Bennaeth y BBC ym Mangor ac roedd hi’n ddechrau ar gyfnod cyffrous iawn yn hanes Radio Cymraeg. Dyma ei ysgrifenyddes, Morfudd Mason Lewis, yn sôn am y dyddiau hynny..... Canrif - Century Cyfres - Series Pennaeth - Head Parchu - To respect Peirianwyr - Engineers Tyrfa - A crowd Rhaglenni byw - Live programmes Pennill - A verse A ddeuai - Fasai’n dod
Aled Hughes Aeth Aled Hughes draw i Forfa Nefyn ym Mhen Llŷn i gwrdd â Reuben Hughes, sy’n bencampwr reslo braich! Mae o’n aelod o glwb reslo braich Roar yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin, ac mae o newydd ennill ei gystadleuaeth reslo braich gynta. Pencampwr - Champion Am sbort - For fun Yr amser yn brin - Time was scarce Penderfynol - Determined Diogelwch - Safety Poendod - A worry Gwarchod - To protect Rhoi'r fantais - To give an advantage Cryfder - Strength
Gwneud Bywyd yn Haws Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, buodd Hanna Hopwood yn sgwrsio efo Dr Elinor Young. Mae gan Elinor gi therapi o’r enw Tana sydd yn rhan o gynllun Cŵn Cymorth Cariad a dyma hi’n sôn ychydig wrth Hanna am y cynllun… Cafodd ei sefydlu- Was established Hwlffordd - Haverfordwest Disgwyliadau - Expectations Hyfforddiant - Training Cyfathrebu - To communicate Perchennog - Owner Lles - Welfare Dychryn - To frighten Llyfu - To lick
Bore Cothi Therapi sy’n cael sylw yn y clip nesa ‘ma hefyd, sef Adweitheg, neu Reflexology. Mi roedd hi’n Wythnos Adweitheg y Byd wythnos diwetha, ac mi fuodd Sioned Jones yn sgwrsio efo Shân Cothi am y therapi. Mae Sioned yn dod o Waunfawr yng Ngwynedd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae hi’n byw yng Nghaerdydd ac yn berchen ar gwmni J Reflexology yn y ddinas. Cysur - Comfort Adweitheg - Reflexology Heriau - Challenges Gradd ychwanegol - An extra degree Addas - Suitable Dan bwysau - Under pressure Egni - Energy Treulio - To digest Crediniol - Convinced Beichiogi - To become pregnant
Bore Cothi Sut mae gwybod y gwahaniaeth rhwng colomen a sguthan? Dyna oedd cwestiwn Shân Cothi i Daniel Jenkins Jones, a dyma fo’n ateb mewn ffordd ddiddorol iawn. Colomen - Pigeon (Y)sguthan - Wood Pigeon Gwahaniaethu - To differenciate Turtur Dorchog - Collared Dove Tlws - Pretty Coedwigoedd - Woodlands Yn bla - A plague Cerddorol - Musical Atgoffa - To remind Sill - Syllable
Aled Hughes Tybed ydy amser yn ymddangos i fynd yn arafach i blant nag ydy o i oedolion? Mae Dr Rhys Morris yn gweithio yn adran astroffiseg, Prifysgol Bryste, ac mae’n grediniol bod hynny’n digwydd. Dyma fo’n esbonio pam mae o’n credu hynny wrth Aled Hughes... Ymddangos - To appear Hŷn - Henach Atgofion - Memories Canran - Percentage Ymenydd - Brain Golygfeydd - Scenes Cyfnod llai - A shorter period Manylyn - A detail Gweledol - Visual
Tue, 27 Sep 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchDros Frecwast Y garddwr o Fôn, Medwyn Williams, yn cofio cwrdd â’r Frenhines Elizabeth yr 2il mewn sgwrs efo Dylan Ebenezer. Brenhines - Queen Cynllunio - To plan Arddangosfa - Exhibition Deuthi - Dweud wrthi hi Gwybodus iawn - Very knowledgable Byd garddwriaethol - Gardening world Croen - Skin
Bore Cothi Shân Cothi yn cael sgwrs efo enillydd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022, Dr Edward Rhys-Harry o Benclawdd, Abertawe. Gofynodd Shân iddo fo sut deimlad ydy hi i glywed ei ddarnau yn cael eu perfformio gan gerddorfa neu gantorion? Tlws y Cerddor - The Musicians Trophy Darnau - Pieces Cerddorfa neu gantorion - Orchestra or singers Unig - Lonely Cyfansoddi - To compose Sefyllfa gyhoeddus - A public setting
Aled Hughes Mae Sian Davies a Dyddgu Mair Williams o Nefyn wedi sefydlu busnes arlwyo pysgod, Môr Flasus, ym Mhen Llŷn ac aeth Aled Hughes draw i gael sgwrs efo Dyddgu am y fenter. Arlwyo - Catering Crancod - Crabs Cwta - A meagre Gweledigaeth - Vision Lleihau - To reduce Cynnyrch - Produce Penrhyn - Peninsular Cregyn - Shell Potes - Soup Cimwch - Lobster
Bore Cothi Brenhines Canu Gwlad o Ddyffryn Aeron, Cererdigion oedd gwestai Shan Cothi fore Iau. Recordiodd ei sengl cynta ar label Cambrian yn ôl yn 1969 pan oedd hi’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Aeron, ac mae hi wedi bod yn perfformio ers dros 50 mlynedd . Pan holodd Shan y gantores, Doreen Lewis, roedd hi newydd ddod yn ôl o Ddulyn Canu gwlad - Country & Western Disgybl - Pupil Dulyn - Dublin Llanw - Llenwi Sa i'n cofio - Dw i ddim yn cofio Nefoedd! - Good heavens! Cyfanwaith - The complete set Dw i'n dwlu ar - Dw i wrth fy modd efo
Geraint Lloyd Cafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Trystan Phillips, Pennaeth Ysgol Penparc, Aberteifi ac sydd yn ogystal yn Faer Aberteifi. Un o Rhuthun ydy o yn wreiddiol ond mae o wedi setlo yng Ngheredigion ers 20 mlynedd ac wedi ymuno â chôr lleol. Cystadlu - To compete Llwyddiannus - Succesful Ffodus - Lwcus Canlyniad - Result Cynulleidfa - Audience Dan ei sang - Full to the brim Gwobr - Prize Cyn arweinydd - Former conductor Braint - A privilege
Gwneud Bywyd yn Haws Nos Fawrth mi gafodd Hanna Hopwood sgwrs efo Sioned Hâf o Gaerdydd am ei thaith colli pwysau, sy’ wedi arwain at drawsnewid y ffordd mae hi’n cynllunio bwyd. Trawsnewid - To transform Colli pwysau - To lose weight Cynllun penodol - Specific plan
Wed, 21 Sep 2022 15:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchAled Hughes Hanes anhygoel, ac emosiynol, Gerallt Wyn Jones gafodd ei fabwysiadu yn chwe mis oed o Fanceinion a chael ei fagu ym Methesda, Gwynedd. Aeth Aled Hughes draw ato am sgwrs a dyma Gerallt yn sôn am yr adeg pan ddaeth o i gyswllt efo’i deulu biolegol am y tro cynta… Dod i gyswllt - Come into contact Anhygoel - Incredible Mabwysiadu - To adopt Y fenga - Yr ifanca Tridiau - Tri diwrnod Angladd - Funeral
Beti a'i Phobol Ann Ellis, Prif Weithredwr y Mauve Group, sef cwmni sy’n gweithio mewn nifer fawr o wledydd ar draws y byd, oedd gwestai Beti George. Mae ganddi bedwar cartre – ar ynys Cyprus, yn Rhufain, yn Dubai ac yn Miami ond cafodd Ann ei magu ym Merain, Sir Ddinbych, sef cartref uchelwraig o’r unfed ganrif ar bymtheg, Catrin o Ferain. Dod o hyd i - To find Prif Weithredwr - Chief Executive Rhufain - Rome Uchelwraig - Noblewoman Yr unfed ganrif ar bymtheg - 16th century Hardd - Beautiful Cyfoethoca - Richest Cytundeb - Contract Ysbrydoli - To inspire Menywod - Merched
Gwneud Bywyd yn Haws Roedd hi’n wythnos ymwybyddiaeth Meigryn wythnos diwetha, ac roedd gan Hanna Hopwood raglen arbennig yn edrych ar Feigryn, neu Migrane, sy’n effeithio ar un ymhob saith person. Ei gwestai arbennig oedd Dr Anna Maclean, a mi roedd rhaid i Dr Anna ymddeol yn gynnar o’i swydd fel meddyg teulu oherwydd meigryn cronig ac erbyn hyn mae hi’n weithgar yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr. Ymwybyddiaeth Meigryn - Migrane Awareness Cyflwr - Condition Dyddiol - Daily Diolch i’r nefoedd - Thank goodness Byd enwog - World famous Chwistrelliad - Injection Cyffur - Drug
Cofio Pensaernïaeth oedd pwnc y rhaglen archif “Cofio gyda John Hardy “ bnawn Sul. Roedd gwreiddiau’r pensaer enwog Frank Lloyd Wright yng Nghymru. Cafodd ei fam ei geni ar fferm yn Llandysul ac enw ei gartre yn America oedd “Taliesin”. Mi fuodd Ian Michael Jones yn rhoi ychydig o hanes y pensaer i ni. Pensaernïaeth - Architecture Gwefreiddiol - Thrilling Trawiadol - Striking Bythgofiadwy - Ever-memorable Andros o stori - A heck of a story Dylunio - To design Erw - Acre Rhaeadr - Waterfall Fel petai - As if Hud a lledrith - Magic
Crwydro’r Cambria Mae Dafydd Morris Jones, sy’n ffermio yn ardal Ponterwyd, Ceredigion ac Ioan Lord, sy’n hanesydd diwydiannol, yn crwydro mynyddoedd y Cambria ar eu beics gan roi cipolwg ar hanes a thirwedd yr ardal. Ioan sy’n dweud lle yn union oedden nhw y diwrnod o’r blaen. Hanesydd diwydiannol - Industrial historian Cipolwg - A glimpse Tirwedd - Landscape Mwyngloddiau aur - Gold mines Gweithfeydd aur Rhufeinig - Roman gold works Am wn i - As far as I know Plwm - Lead Oes efydd - Bronze age Talaith - Region Ansawdd - Quality
Bore Cothi Mae Gŵyl Fwyd a Diod flynyddol yr Alban yn cael ei chynnal ar hyn o bryd. Mae Marian Evans yn byw yn Lossiemouth, tref glan y môr, rhwng Inverness ac Aberdeen a buodd Marian yn sôn am frecwast traddodiadol y wlad ar Bore Cothi... Ffasiwn beth - Such a thing Ansawdd - Texture Morwyr pysgota - Fishermen Saim - Fat Cynhesu - Twymo Enllyn - Dairy products Y llwybr cul - The narrow path
Fri, 16 Sep 2022 13:57:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBore Cothi Sarah Astley Hughes sy’n byw yng Nghaerdydd, ond sy’n dod Lanrhaeadr ym Mochnant, Powys yn wreiddiol, fuodd yn sôn wrth Shelley Rees Owen ar Bore Cothi fore Iau am ei phenderfyniad i groesawu’r gwallt llwyd ar ôl cael llond bol o orfod lliwio ei gwallt bob pythefnos!
Croesawu - To welcome Lliwio - To dye Sylweddoli - To realise Ffili - Methu Colurwraig - Make-up artist
Bwrw Golwg Ddechrau wythnos diwetha mi ddaeth y newyddion am y llifogydd ofnadwy sydd wedi taro Pacistan. Dyma i chi Tom Davies o’r elusen Cymorth Cristnogol yn sôn am y drychineb…
Llifogydd - Floods Trychineb - Disaster Heb rybudd - Without warning Diflannu’n weddol glou - Disappearing quite quickly Distryw - Destruction Ceisio dygymod â - Trying to come to terms with Yn sgil - As a consequence of Cilio - To recede Newid hinsawdd - Climate change Argyfyngau - Crisis
Cymry a Mwy Pan symudodd Gwenfair Griffith a’i theulu i Sydney, Awstralia, sefydlodd hi Grŵp Chwarae Cymraeg er mwyn helpu ei phlant i gadw cysylltiad â’u gwreiddiau yng Nghymru. Yn y rhaglen hon, mae Gwenfair yn cwrdd â Lin Dodd sy’n byw yng Nghaerffili, ond sy’n dod o Tseina yn wreiddiol, ac sy’n ceisio dod yn rhan o’r gymuned leol …
Y gymuned leol - The local community Cyfathrebu - To communicate Y profiad - The experience
Aled Hughes Mae Vaughn Smith o Washington yn medru siarad 36 o ieithoedd ac mae’n rhugl mewn 24 ohonyn nhw! Rhai o’r ieithoedd mae o’n eu siarad ydy Rwmaneg, Ffineg, Sbaeneg, Pwyleg, Norwyeg, Iseldireg….ac erbyn hyn mae Cymraeg ar ei restr o ieithoedd yn ogystal.
Pwyleg - Polish Iseldireg - Dutch Defnyddiol - Useful Tras Cymreig - Welsh heritage Ar ei thraws - Across it Y Deyrnas Unedig - The UK Cefais fy swyno - I was enchanted Yn ddiweddarach - Later on
Dros Ginio Draw i Feirionnydd aeth Dewi Llwyd i gwrdd â thad a merch o bentre Llanuwchllyn, sef Huw Antur a Marged Gwenllian. Mae Huw yn Gyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd yng Nglanllyn ac mae Marged hefyd yn gweithio i’r Urdd fel Swyddog Cymunedol Meirionnydd.
Cyfarwyddwr Gwersyll - Camp Director Swyddog Cymunedol - Community officer Dylanwad - Influence Dau gan llath - 200 yards Tebyg - Similar Milltir sgwâr - Square mile Hwyrach - Perhaps Ymgyrchu - Campaigning Cynyddu - To increase Lleihau - To decrease
Aled Hughes Cyhoeddodd Aled Hughes newyddion cyffrous ar Radio Cymru ddydd Mercher diwetha! O Hydref y 3ydd, mi fydd cyflwynydd newydd ar y tonfeddi bob nos Lun i Iau o 9 tan hanner nos. Pwy ydy o, neu hi. tybed…?
Cyflwynydd - Presenter Tonfeddi - Wavelength Ar fin datgelu - About to disclose Llawn cyffro - Full of excitement Rhoi’r gorau iddi - To give it up Arloesol - Pioneering Cyfrwng - Medium Heb unrhyw amheuaeth - Without any doubt Cynulleidfa - Audience
Fri, 16 Sep 2022 13:39:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchDros Ginio Mae Jeremy Paxman wedi dweud ei fod am roi’r gorau i University Challenge wedi 28 mlynedd o gyflwyno’r cwis. Dr Alun Owens fuodd yn sôn wrth Dewi Llwyd am ei amser ar y rhaglen yn 2015 pan oedd o’n fyfyriwr yn Mhrifysgol Abertawe. Dyna oedd y tro cynta i Brifysgol Abertawe fod ar y rhaglen ers tua 20 mlynedd.
Rhoi’r gorau i To give up Haerllug Cheeky Camddeall To misunderstand Ymdrech An attempt Dychrynllyd Frightening Yr ystafell werdd The green room Lled awgrym A hint of a suggestion Delwedd darlledu Broadcasting image Croesholwr Cross examiner Dirmygus Scornful
Bore Cothi Dr Alun Owens oedd hwnna’n sôn am ei brofiad ar University Challenge. Mi fuodd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes wythnos diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo’r arbenigwraig ffasiwn, Sina Haf Hudson am y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake fuodd farw ar Awst 5 eleni... Persawr Perfume Oglau Fragrance Hawlio To claim Fyw i rywun arall No-one else would dare Blaenllaw Prominent Dylanwadu To influence Plentyndod Childhood Arddull Style Efrog Newydd New York Ymysg Amongst
Dysgwr y Flwyddyn Joe Healy Ychydig o hanes y cynllunydd ffasiwn o Siapan , Issey Myake yn fan ’na ar Bore Cothi. Ar raglen Aled Hughes cafodd Bryn Tomos sgwrs efo enillydd cystadleuaeth Dysgwr y flwyddyn yn Eisteddfod Ceredigion eleni sef Joe Healy o Wimbledon ond sydd erbyn hyn wedi setlo yng Nghaerdydd. Gofynnodd Bryn iddo fo oedd o wedi clywed am y Gymraeg pan oedd o’n blentyn ysgol yn Llundain. Tyfu lan Growing up Ymwybodol Aware Ysgogi To motivate Ysbrydoli To inspire Mo’yn Eisiau
Shelley & Rhydian a Sarra Elgan ...a llongyfarchiadau mawr i Joe ar ennill Dysgwr y Flwyddyn ynde?.
Y gyflwynwraig Sarra Elgan oedd gwestai Shelley Rees Owen a Rhydian Bowen Phillips fore Gwener – a buodd hi’n sôn am roi gwersi Cymraeg i chwaraewr rygbi enwog iawn o Dde Affrica, Bryan Habana.
O ddifri Seriously Stwr A row Hala Anfon Dishgwl Edrych Awyddus Eager Brwdfrydedd Enthusiasm Ymateb Response Profiad anhygoel An incredible experience
Ni y Nawdegau Sarra Elgan oedd honna fuodd yn diwtor Cymraeg ar Bryan Habana! Buodd Esyllt Sears y ddigrifwraig yn edrych yn ôl ar oes aur y nawdegau yng Nghymru. Dyma hi’n trafod “brand” Cymru, neu ella diffyg brand Cymru. Digrifwraig Comedienne Oes aur Golden Age Diffyg Lack of Byth yn buddsoddi ceiniog Never investing a penny Arbenigwyr Experts Cael gwared o nadroedd Getting rid of snakes Gwelededd Visibility Anwastad Rugged Mabwysiadu arloesedd Adopting innovation Beti a’i Phobol ‘Brand Cymru’ yn cael amser caled gan Esyllt Sears yn fanna. Yr artist Seren Morgan Jones o Aberystwyth oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Pan oedd hi’n 15 oed symudodd y teulu i Kuwait, ond nid dyna ddiwedd ei theithio, fel cawn ni glywed...
Mas Allan Awyddus Eager Twymo lan Warming up Tamaid bach Tipyn bach Porfa las Green grass Anialwch Desert
Tue, 30 Aug 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchCofio -
Gwersylla oedd thema Cofio dros y Sul ac mi gaethon ni gyfle arall i glywed Wil Parry Williams o Dregarth yng Ngwynedd, yn sôn am weithio fel Red Coat yng ngwersyll Butlins, Pwllheli rhwng 1954 a 1961. Agorwyd y gwersyll 75 mlynedd yn ôl a chlywon ni’r recordiad arbennig yma am y tro cynta ar raglen Cofio yn 2009.
Gwersylla To camp
Oddeutu About
Ychwanegol Additional
Gan benna(f) Mainly
Adnoddau Resources
Cychod Boats
Adran feithrin Nursery
Adloniant Entertainment
Diddori To entertain
Dyletswyddau cyffreinol General duties
Dei Tomos – Wel ia, hi di hi yn wir – hanes diddorol Butlins Pwllheli yn fanna ar Cofio. Aeth Dei Tomos i Aberystwyth i weld llyfrgell bersonol Gerald Morgan sydd yn awdur, ac yn gyn athro a phrifathro. Mi aeth draw i’w gartref a chael gweld rhywbeth prin iawn - copi o Destament Newydd William Salesbury oedd yn dyddio’n ôl i 1567!
Prin iawn Very rare
Rhagair Introduction
Biau To own
Yn gymharol ddiweddar Fairly recently
Casglwyr Collectors
Cofi dre Person o Gaernarfon
O fath yn y byd Of any kind
Bore Cothi - Dei Tomos oedd hwnna’n cael golwg ar lyfrgell arbennig Gerald Morgan. Shelley Rees Owen fuodd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes ddydd Mercher diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo Daniel Jenkins Jones o’r RSPB am y Pâl neu’r Puffin. Colur dros eu pig Makeup over their beak
Triongl Triangle
Llachar Bright
Mas yn yr Iwerydd Out in the Atlantic
Nythu To nest
Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century
Llongddrylliad Shipwreck
Llygod mawr Rats
Difa To destroy
Beti a’i Phobol - Bach o hanes y palod yn fanna , bechod eu bod wedi ein gadael ni erbyn hyn ynde? Cafodd Beti George sgwrs efo’r dylunydd a’r gemydd Ann Catrin Evans o Dregarth ger Bangor. Ann wnaeth Coron Eisteddfod yr Urdd eleni. Dyma Beti’n gofyn iddi hi ai cael gyrfa ym maes celf oedd hi eisiau ei wneud erioed?
Dylunydd a gemydd Designer and jeweller
Coron Crown
Cam i’r tywyllwch A step into the unknown
Celfyddydau The arts
Bywoliaeth A livelihood
Clod Praise
Hybu To promote
Cefnogaeth Support
Cydnabyddiaeth Acknowledgement
Ni y Nawdegau - Ann Catrin Evans yn siarad efo Beti George am ei gwaith fel dylunydd a gemydd. Nos Iau ar Radio Cymru, y ddig-rifwraig Esyllt Sears oedd yn edrych yn ôl ar Oes Aur y 90au ...
Digrifwraig Female comedian
Oes aur Golden age
Aberthu To sacrifice
Uchafbwyntiau Highlights
Maeddu Curo
Ymdrechion Attempts
Llwyfannau Stages
Dygymod To put up with
Goroesi To survive
Amherthnasol Irrelevant
Bore Cothi - Esyllt Sears oedd honna’n edrych yn ôl ar y nawdegau. Mi roedd hi’n Wythnos y Bandiau Pres ar Bore Cothi ac mi gafodd Shelley Rees Owen sgwrs efo Tomos Evans o Fand Cross Keys, enillodd Dosbarth 4 a 3 yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron. Dyma i chi flas ar y sgwrs,,,
Bandiau pres Brass bands Llwyddiannus iawn Very successful Dyrchafu To be promoted Darnau Pieces Yn glou Quickly Crynhoi To summarise
Tue, 23 Aug 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchStiwdio Nofel hanesyddol enillodd gwobr Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac ar Stiwdio buodd Nia Roberts yn dathlu bywyd a gwaith awdures sy’n enwog ar ei nofelau hanesyddol sef Marion Eames. Hi sgwenodd Y Stafell Ddirgel a’r Rhandir Mwyn, ac roedd hi hefyd yn gerddor talentog. Cafodd hi ei geni yn 1921 a buodd farw yn 2007. Aeth Nia draw i Ddolgellau i gwrdd â’r Dr Buddug Hughes yng Nghapel y Tabernacl I gael ‘chydig o hanes cynnar Marion Eames…
Cymry alltud Welsh exiles
Dianc To escape
Yn ddiwylliannol ac yn grefyddol Culturally and religiously
Cyfarfu Gwladys a William Gwladys and William met
Yr aelwyd The home
Prinder tai affwysol Severe housing shortage
Prin oedd ei gafael ar y Gymraeg Her grasp of Welsh was very weak Chwithig aruthrol Lletchwith iawn
Awyddus Eager
Cyfoedion Peers
Aled Hughes
Ychydig o hanes bywyd cynnar yr awdures Marion Eames yn fan’na ar Stiwdio. Dach chi’n dechrau pob sgwrs yn Gymraeg? Mae Awel Vaughan Evans o Adran Seicoleg Prifysgol Bangor yn ymchwilio i beth sy'n gweithio orau i annog pobl i ddechrau sgyrsiau yn y Gymraeg. Dyma hi’n siarad efo Aled Hughes fore Mawrth.
Ymchwilio To research
Annog To encourage
Arbrawf Experiment
Cortyn gwddw Lanyard
Yn fwy tebygol More likely
Ysgogi To inspire
Caniatâd i’r ymennydd Permission for the brain
Yn benderfynol Determined
Llwybr yr Arfordir Coastal path
Daearyddiaeth Geography
Dei Tomos
Y swigen oren yn gweithio felly – da ynde? Dei Tomos fuodd yn holi’r dramodydd a’r sgriptiwr o Bensarn Ynys Môn, Dewi Wyn Williams, oedd yn cofio y crwydriaid yn galw heibio ei fferm ar yr Ynys. Un ohonyn nhw oedd Washi Bach, crwydryn oedd yn eitha enwog ar Ynys Môn.
Crwydriaid Tramps
Piser Pitcher
Bing Alley in a cow house
Yn fratiog iawn Very ragged
Mwmian To mumble
Gwneud Bywyd yn Haws
Hanes Washi Bach yn fan’na ar raglen Dei Tomos. Mae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd, ond yn astudio ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd ac ar Gwneud Bywyd yn Haws buodd Kayley yn edrych yn ôl ar ei phrofiadau fel myfyrwraig y flwyddyn gyntaf gan siarad yn onest am iechyd meddwl ac am hunan anafu.
Profiadau Experiences
Hunan anafu To self harm
Barddoni To write poetry
Lles Welfare
Cerdd A poem
Gor bryder Anxiety
Trafod yn agored To talk openly
Gwaethygu To worsen
Ffili Methu
Mo’yn canolbwyntio Want to concentrate
Ni y Nawdegau Kayley Sydenham oedd honna ac os dach chi’n fyfyriwr sy’n cychwyn yn y coleg mae’n bosib cael help a phob math o gyngor drwy gyfrwng y Gymraeg ar les a iechyd meddwl wrth fynd ar myf.cymru Ar Ni y Nawdegau buodd y gomedÏwraig Esyllt Sears yn edrych yn ôl ar y 90au ac yn canolbwyntio ar ffilmiau Cymraeg. Dyma hi’n sôn am ffilm o 1992 cafodd ei enwebu am Oscar – ‘Hedd Wyn’..
Lles Welfare
Cafodd ei enwebu Which was nominated
Yn gwegian yn feddw In a drunken stupor
Degawd Decade
Ffynnu Thriving
Yn borcyn Naked
Dadansoddi To analyse
TGAU GCSE
Beti a’i Phobol Ifan Jones Evans
Esyllt Sears oedd honna’n edrych yn ôl ar y ffilm Hedd Wyn. Ffermwr a darlledwr o Geredigion oedd gwestai Beti George – Ifan Jones Evans - un sydd i’w glywed ar Radio Cymru o ddydd Llun hyd at ddydd Iau. Cafodd Ifan ei fagu ym Mhont-rhyd-y-groes yng Ngheredigion, ac mae’n sôn yn y clip yma am hanes diwydiant yr ardal, yn arbennig felly y gweithfeydd plwm, arian a sinc
Darlledwr Broadcaster Diwydiant Industry Gweithfeydd plwm Lead works Olion Remains Twyni tywod Sand dunes Nant A brook Mwynau Minerals Tirwedd Landscape Gadael ôl To leave a mark
Tue, 16 Aug 2022 10:34:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchGwneud Bywyd yn Haws Hanna Hopwood yn holi Gwenllian Thomas, sy’ wrth ei bodd yn gwneud triathlon – nofio, rhedeg a beicio! Mae hi’n fam brysur ond mae cymryd rhan mewn triathlon yn rhan bwysig o’i bywyd. Sut dechreuodd ei diddordeb yn gamp tybed?
Camp Sport
Bant I ffwrdd
Dim taten o ots Dim ots o gwbl
Croesawu To welcome
Meddylfryd Mindset
Rhannu profiadau To share experiences
Dros Frecwast – Gemau'r Gymanwlad
Gwenllian yn fan’na yn sôn am ei diddordeb mewn triathlon sef un o’r campau cynta i ddigwydd yn Ngemau’r Gymanwlad eleni. Agorwyd y Gemau yn Birmingham ar yr 28ain o Orffennaf a chafodd Ifan Gwyn Davies sgwrs efo Ashleigh Barnikel sy’n cymryd rhan yn y Gemau fel aelod o garfan Jiwdo Cymru...
Gemau’r Gymanwlad Commonwealth Games
Carfan Squad
Un fodfedd dros bum troedfedd Five foot one
Dwywaith ei maint Twice her size
Pencampwraig Champion (female)
O ddifri Seriously
Rhyngwladol International
Torfeydd Crowds
Ail wynt Second wind
Dros Frecwast – Ewros y merched
A phob lwc i garfan Cymru yn y Gemau ynde? Mi wnawn ni aros ym myd y campau efo’r clip nesa ‘ma, ond i fyd pêl-droed y tro ’ma ac i gystadleuaeth Ewros y Merched 2022. Y Gymraes Cheryl Foster oedd yn dyfarnu’r gêm gynderfynol rhwng Ffrainc a’r Almaen wythnos diwetha ac roedd Cheryl yn arfer chwarae i dîm pêl-droed merched Cymru. Lowri Roberts fuodd yn sgwrsio efo Owain Llyr cyn y gêm..
Dyfarnu To referee
Cynderfynol Semi final
Y Seintiau Newydd TNS
Dychmygu To imagine
Ysbrydoli To inspire
Y genhedlaeth nesa The next generation
Bore Cothi
Yr Almaen enillodd gan fynd â nhw i’r ffeinal yn erbyn Lloegr, ac mi gafodd Cheryl gêm dda iawn fel dyfarnwr.
Cafodd Shan Cothi sgwrs efo Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause Mae Helgard yn dod o ardal Pfalz yn Yr Almaen yn wreiddiol, a daeth hi i Gymru yn 2005 ac erbyn hyn mae’n byw yn Aberaeron. Dwy flynedd ar ôl iddi hi symud i Gymru, dechreuodd Helgard ddysgu Cymraeg ac o fewn ychydig fisoedd, roedd hi’n rhugl. Pa mor anodd oedd dysgu Cymraeg iddi hi…?
Prif Weithredwr Chief Executive
Parhau To continue
Mwyafrif Most
Aled Hughes
Ac mae Helgard yn cael ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni drwy dderbyn y Wisg Werdd. Buodd Aled Hughes yn siarad efo Meirion Pritchard o Landysul ond sy nawr yn byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd efo cwmni Meta. Dyma’r cwmni sy’n berchen ar Facebook, Instagram a Whatsapp ac sy’n datblygu’r dechnoleg nesa ym myd realaeth rithiol , neu virtual reality. Dyma Meirion yn sôn ychydig wrth Aled am ei gefndir ac am ei waith..
Anrhydeddu To honour
Y Wisg Werdd The Green Gown
Efrog Newydd New York
Sy’n berchen ar Which owns
Datblygu To develop
Amrywiol Varied
Hyrwyddo To promote Pensaer Architect
Celf Art
Dylunio To design
Dros Ginio Guto ac Elis
Meirion Pritchard oedd hwnna’n sôn am sut dechreuodd ei ddiddordeb yn y byd digidol
Dau frawd oedd gwesteion Alun Thomas ar “Dau cyn Dau” bnawn Llun. Dau fardd o bentre Trefor yng Ngwynedd oedd y gwestai. Guto Dafydd, sydd wedi ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a’i frawd Dr Elis Dafydd sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd. Gofynnodd Alun i Guto’n gynta oedd y cysylltiad efo barddoniaeth yna pan oedd o’n ifanc
Barddoniaeth Poetry
Ddim fel y cyfryw Not as such
Gwirioni ar Dwlu ar
Pori To browse
Adeiladol Constructive
Sylw a bri Attention and fame
Clod Praise
Cenfigen Jealousy
Cyfathrebu To communicate
Aeddfedu To mature
Tue, 02 Aug 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn
Mi fuodd Aled Hughes yn cael sgwrs efo’r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn 2022. Mi fydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Tregaron wythnos nesa. Bore Llun mi gafodd o gyfle i ddod i nabod Stephen Bale, un o’r pedwar sydd yn y ffeinal. Mae Stephen yn dod o ardal Castell-nedd yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o’n byw yn Sir Fynwy.
Rhestr fer Short list
Cyhoeddi To announce
Castell-nedd Neath
Sir Fynwy Monmouthshire
Cwrs dwys Intensive course
Yn y pendraw In the end
Degawd Decade
Gohebydd Correspondent
Rhyngwladol International
Y Llewod The Lions
Hyrwyddo To promote
Pigion Aled Hughes DyFlwyddyn – Sophie Tuckwodd
Stephen Bale oedd hwnna – gohebydd rygbi sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn eleni. Dydd Mawrth mi gafodd Aled gyfle i gael sgwrs efo Sophie Tuckwood un arall sydd ar y rhestr fer. Daw Sophie o Nottingham yn wreiddiol ond symudodd hi i Sir Benfro ddeg mlynedd yn ôl. Wynebu To face
Ar yr un pryd At the same time
Yr ifanca Y fenga
Cyfathrebu To communicate
Pigion Aled Hughes DyFlwyddyn – Joe Healy
Ac mae Sophie erbyn hyn wedi ennill cymhwyster Dechrau Dysgu i fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion ac mae hi’n dysgu dosbarthiadau Mynediad yn Sir Benfro.. Cyfle i ddod i nabod Joe Healy oedd hi ddydd Mercher. Mae Joe yn dod o Wimbledon yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o’n byw yng Nghaerdydd.
Gwiwer Squirrel
Diwylliant Culture
Cysylltiad Connection
Braidd ‘di gadael Hardly left
Ymwybodol Aware
Iau ‘fengach/ifancach
Pigion Aled Hughes Rhestr fer dysgwr y flwyddyn – Ben Ó Ceallaigh
Mae Aled yn amlwg yn mwynhau sgwrsio efo’r 4 sydd ar restr fer Dysgwr y Flwyddyn ac yn synnu bod eu Cymraeg nhw cystal ar ôl cyn lleied o amser yn dysgu. Dydd Iau mi gafodd o gyfle i sgwrsio efo’r pedwerydd ymgeisydd, Ben Ó Ceallaigh sydd ond wedi bod yn dysgu ers 20 mis! Daeth Ben i Gymru o Iwerddon flwyddyn yn ô,l ac erbyn hyn mae o’n darlithio yn Gymraeg.
Darlithio Lecturing
Ymgeisydd Candidate
Gwyddeleg Irish language
Rhwystredig Frustrating
Parhau To continue
Rhyfeddol Amazing
Mynychu To attend
Diolchgar Thankful
Pigion – Bore Cothi Sioe Fawr Lowri
Dyna bedwar dysgwr gwych ynde? Pob lwc i bob un ohonyn nhw yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn wythnos nesa.
Roedd y Sioe Fawr ymlaen yn Llanelwedd wythnos diwetha am y tro cynta ers tair blynedd ac mi roedd Shan Cothi wrth ei bodd yng nghanol hwyl y sioe. Clwyd oedd Sir Nawdd y sioe a mi gafodd Shan air efo Lowri Lloyd Williams, llysgennad y sioe, fore Llun. Mae Lowri’n dod o Efenechtyd ger Ruthin. Rownd derfynol Final round
Y Sioe fawr The Royal Welsh
Nawdd Sponsorship
Llysgennad Ambassador
Braint ac anrhydedd An honour and a privilege
Cynrychioli To represent
Atgofion Memories
Cystadlu To compete
Agosatrwydd Intimacy
Pigion – Ar Blat Roy Noble
Shan a Lowri yn amlwg wrth eu boddau yn y Sioe yn Llanelwedd. Cafodd Beca Lyne-Pirkis gwmni y darlledwr Roy Noble i drafod bwyd. Ydy Roy yn hoffi bwyta allan tybed?
Darlledwr Broadcaster
Ers achau A long time ago
Pan o’n i’n caru When I was courting
Lan lofft I fyny’r grisiau
Swllt A shilling
Wejen Girlfriend
Beudy Cowhouse
Hanesyddol Historical
Tue, 26 Jul 2022 13:41:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchCor y Byd Llangollen
Cȏr CF1 o Gaerdydd enillodd gystadleuaeth Cȏr y Byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen eleni. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Eilir Owen Griffiths, arweinydd y côr a Shan Cothi fore Llun diwetha.
Arweinydd Conductor
Ymarfer Rehearsal
Datblygu To develop
Paratoi To prepare
Llwyfan A stage
Symudiadau Movements
Cerddorion Musicians
Creu To create
Balch Proud
Anwen bowlio i'r gymanwlad
…a llongyfarchiadau mawr i Eilir ac i gôr CF1 ynde? Eleni mi fydd Anwen Butten yn cystadlu am y chweched tro yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham, ac mi fydd y gemau’n cychwyn ar yr 28ain o Orffennaf. Mae Anwen wedi cael ei dewis fel Capten Tîm Cymru yn y gemau eleni, felly bydd hi’n gapten ar 202 o athletwyr o Gymru. Gofynnodd Shan Cothi i Anwen sut dechreuodd hi ar y bowlio….
Gemau’r Gymanwlad Commonwealth Games
Tîm hŷn Senior Team
Hyfforddi To coach
Cefnogwr brwd An enthusiastic supporter
Profiadol Experienced
Yn olygu Means
Anrhydedd Honour
Dros Ginio Dyfrig a Rhodri
…a phob lwc i Anwen ac i dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwald nes ymlaen yn y mis.
Tad a mab o Ddolgellau oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y tad , Dyfrig Siencyn, yn arweinydd Cyngor Gwynedd a’r mab, Rhodri ap Dyfrig yn Gomisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C. Dyma Dyfrig i ddechrau’n sôn am ei rôl fel arweinydd y cyngor...
Gomisiynydd Cynnwys Ar-lein Online Content Commissioner
Y gallu The ability
Cymhellion Motives
Nodweddion Characteristics
Dadleugar Argumentative
Etifeddu To inherit
Perthynas Relationship
Anawsterau Difficulties
Chwaraeon rygbi De Affrica
Dyfrig Siencyn a’i fab Rhodri oedd rheina yn sgwrsio efo Dewi Llwyd. Mi gafodd tîm rygbi Cymru fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn De Affrica yn Ail brawf Cyfres yr Haf. Gareth Anscombe a Josh Adams oedd arwyr Cymru yn Stadiwm Toyota, Bloemfontein yn ennill y gêm i Gymru yn y munudau ola. Heledd Anna, cyflwynydd Chwaraeon Radio Cymru fuodd yn trafod efo tîm sylwebu’r gêm, dau gyn chwaraewyr i dimau rhyngwladolCymru, Emyr Lewis a Caryl James...
Buddugoliaeth hanesyddol An historic victory
Ail brawf Cyfres yr Haf The second test in the Summer Series
Arwyr heroes
Tîm sylwebu Commentary team
Yn ysu Itching
Maswr Outside half
Mewnwr Scrum half
Bore Cothi HG yn 80
...ac yn anffodus collodd Cymru’r trydydd prawf yn Cape Town ddydd Sadwrn, ar ôl perfformiad da iawn.
Dydd Mercher y 13eg o Orffennaf mi roedd y darlledwr Hywel Gwynfryn yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mi ddaeth o mewn i'r stiwdio at Shan Cothi i ateb cwestiynau am ei barti penblwydd delfrydol . Un o westeion y parti yn sicr basai’r diweddar Hywel Teifi Edwards...
Delfrydol Ideal
Y diweddar The late
Areithiwr Orator
O’r frest Off the cuff
Di-nodyn Without notes
Cŷn a morthwyl Hammer and chisel
Cynhwysfawr Comprehensive
Cynhesu To warm
Cynghrair League
Diwrnod Dathlu Dai
Tad Huw Edwards y BBC oedd Hywel Teifi Edwards a phen-blwydd hapus iawn i’n Hywel ni ynde? Dydd Sul cyn y Sioe Frenhinol mi roedd Radio Cymru yn cael diwrnod i gofio a dathlu bywyd y diweddar Dai Jones oedd yn cyflwyno’r rhaglen Cefn Gwlad. Mi roedd Dai hefyd yn ganwr arbennig iawn fasai wedi medru gwneud gyrfa iddo’i hun ym myd yr opera. Dyma glip o’r archif lle roedd Beti George yn holi Dai ar gyfer Beti a’i Phobol yn 1989. Y Sioe Frenhinol The Royal Welsh Cefn Gwlad The countryside Hiraethu To long for Pridd Soil Brycheiniog Breconshire Llond dwrn A small amount Aredig Ploughing Dyled A debt Cyfryngau media Mwyniant Pleasure
Tue, 19 Jul 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchDros Ginio Beti a Raymond
Mam a mab o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y cyn Aelod Seneddol Betty Williams a’i mab, y Rhingyll , neu Sarjant, Raymond Williams sy’n gweithio i Heddlu Gogledd Cymru.
Cyn Aelod Seneddol - Former Member of Parliament
Yn hen gyfarwydd - Very familiar
Llwyddiant ysgubol - A roaring success
Petrusgar - Hesitant
Y naill a’r llall - One or the other
Trychineb - Disaster
Ffasiwn beth - Such a thing
Am wn i - As far as I know
Serth - Steep
Brwdfrydig - Enthusiastic
ABC Y Geiriadur
Raymond Williams a’i fam Betty yn sôn am ran Raymond yn y gyfres Y Llinell Las.
Taith drwy’r wyddor yng nghwmni Ifor ap Glyn ydy ABC y Geiriadur, i ddathlu canmlwyddiant Geiriadur y Brifysgol - geiriadur mwya Cymru. Mae’r geiriadur ar gael ar-lein erbyn hyn ,ac mae o am ddim! Mae’r awdures Manon Steffan Ross yn gwneud defnydd mawr o’r geiriadur ar-lein fel buodd hi’n sôn wrth Ifor…
Canmlwyddiant - Centenary
Penodol - Specific
Gweddu - To suit
Antur - Adventure
Cyd-destun - Context
Amaethyddol - Agricultural
Mynediad i’r bydoedd - Access to the worlds
Dylsa - Dylai
Stiwdio Phyllis Kinney
Yr awdures Manon Steffan Ross oedd honna’n sôn am sut mae hi’n defnyddio’r Geiriadur ar-lein wrth sgwennu ei cholofn yn Golwg.
Dydd Llun y 4ydd o Orffennaf mi roedd Phyllis Kinney yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed, a buodd ei merch, Eluned Evans yn sôn wrth Nia Roberts am ddyddiau cynnar ei Mam yn America. Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn rhan enfawr o fywyd Phyllis ers ei dyddiau cynnar yn Pontiac, Michigan. Mi roedd Phyllis a’i gŵr Meredydd Evans, wrth gwrs, yn awdurdod ar ganu gwerin Cymraeg.
Awdurdod ar ganu gwerin - An authority on folk music
Graddau di-rif - Many degrees
Meistr mewn cyfansoddi - Masters in Composing
Sbarduno - To inspire
Parchedig - Reverend
Cyflwyniad - Introduction
Ddaru hi - Wnaeth hi
Gweinidog - Minister
Trwy gyfrwng - Through the medium of
Emynau - Hymns
Gwneud Bywyd Yn Haws - Aids
A phen-blwydd hapus iawn i Phyllis Kinney ynde, yn gant oed ac yn ôl ei merch mewn hwyliau da iawn. Ar Gwneud Bywyd yn Haws yr wythnos hon buodd Hanna Hopwood a’i gwesteion yn nodi pedwar deg mlynedd ers buodd farw’r Cymro Terrence Higgins – un o’r bobl cynta ym Mhrydain i farw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS. Dyma i chi ran o sgwrs rhwng Hanna a Mark Lewis sydd yn Uwch Swyddog Polisi i Grŵp HIV ac AIDS Aelodau Seneddol San Steffan . Dyma’r ddau yn sôn am bodlediad newydd A Positive Life sydd ar gael ar BBC Sounds .
Yn gysylltiedig ag - Associated with
San Steffan - Westminster
Holl bwysig a chanolog - All important and central
Tyfu lan - Tyfu fyny
Hoyw - Gay
Cwato - Cuddio
Bore Cothi Elinor Ychydig o hanes Terrence Higgins yn fan’na ar Gwneud Bywyd yn Haws. Elinor Staniforth o Gaerdydd fuodd yn siarad efo Heledd Cynwal ar Bore Cothi. Dechreuodd Elinor ddysgu Cymraeg yn 2019 ac mae hi wedi derbyn swydd fel Tiwtor Cymraeg efo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin ym Mhrifysgol Bangor. Dyma hi’n esbonio pam dechreuodd hi ddysgu’r iaith…
TGAU - GCSE
Rhydychen - Oxford
Tanio - To fire
Pam lai - Why not
Cymdeithasu - To socialise
Yn llythrennol - Literally
Bore Cothi Llangollen A phob lwc i Elinor ynde, yn ei swydd newydd efo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin Prifysgol Bangor. Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ôl ar ôl y cyfnod clo. Mi fydd y dre yn llawn lliw efo cantorion a dawnswyr o bob rhan o’r byd yn cystadlu yn y pafiliwn. Mae’r gyflwynwraig Sian Thomas wedi bod yn arwain y llwyfan cystadlu ers rhai blynyddoedd. Beth sy’n arbennig am yr Eisteddfod hon felly?
Cantorion - Singers
Rhyngwladol - International
Cyflwynwraig - Female presenter
Melin ddŵr - Water mil
Prydferth - Pretty
Ar gyrion - On the outskirts
Tyle - Hill
Cwympo mas - To fall out
Cytûn - In harmony
Atseinio - To echo
Dyletswyddau - Duties
Tue, 12 Jul 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchDei Tomos Gwilym Owen
Dw i’n siwr ein bod ni i gyd yn gwybod am Harri’r Wythfed a’i chwe gwraig, ond ar raglen Dei Tomos clywon ni hanes bonheddwr o ogledd Cymru, Edward Gruffydd, oedd fel Harri wedi priodi sawl gwaith, a hynny pan oedd Harri’n frenin. Un o Stad y Penrhyn ger Bangor oedd Edward a dyma i chi ran o sgwrs cafodd Dei amdano efo’r darlithydd Gwilym Owen o Brifysgol Bangor...
Bonheddwr - Genlteman
Mewn gwirionedd - In reality
Fawr hŷn - Hardly any older
Pwys mawr - Great pressure
Cyfoethocach - Richer
Cefnog - Well-off
Dylanwadu - To influence
Tystiolaeth - Evidence
Dychwelyd - To return
I’r neilltu - To one side
Dros Ginio Elfyn ac Alun
Doedd na ddim sôn bod Edward wedi cael yr un problemau cyfreithiol a gafodd Harri o ran priodi sawl gwaith – ond hanes ddiddorol ynde? Dau frawd o fyd y gyfraith oedd gwesteion Dewi Llwyd ar Dros Ginio, y bargyfreithiwr a’r gwleidydd Elfyn Llwyd a’i frawd y plismon Alun Hughes. Roedd eu tad yn blismon, felly roedd y gyfraith yng ngwaed y ddau! Elfyn, y brawd mawr, sy’n siarad gynta ...
Cyfreithiol - Legal
Bargyfreithiwr - Barrister
Ddaru - Wnaeth
Ganwyd - Was born
Sicrhau - To ensure
Beti a’i Phobol
Hanes Elfyn Llwyd yn enwi ei frawd yn fan’na, ar raglen Dewi Llwyd
Yr artist Meirion Jones oedd gwestai Beti George ac yma mae’n sôn am dafodiaith Mwldan - ardal wledig ger Aberteifi. Mi wnaeth Meirion ymchwil MA ym Mhrifysgol Llambed, neu Llanbedr Pont Steffan, ar y dafodiaith. Oedd o’n gyfarwydd ag ardal a thafodiaith Mwldan cyn gwneud yr ymchwil? Dyma fo’n ateb cwestiwn Beti...
Tafodiaith - Dialect
Cyfarwydd â - Familiar with
Crwt - Bachgen
Mynychu - To attend
Crynhoi - To assemble
Ysgolhaig - Scholar
Cofnodi - To record
Danto - To lose heart
Ofergoeliaeth - Superstition
Talwrn – Pennill Mawl Y CWPS A’R FFOADURIAID
Golwg ar dafodiaith arbennig ardal Mwldan yn fan’na ar Beti a’i Phobol. Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy’r Talwrn Radio Cymru. Dyma i chi un gerdd o gystadleuaeth yr wythnos diwetha rhwng tîm y ‘Cwps’, Aberystwyth a thîm y ‘Ffoaduriaid’ - er dw i ddim yn meddwl eu bod yn ffoaduriaid go iawn rhywsut! Sylwebwyr chwaraeon oedd testun y gerdd...
Cerdd - Poem
Ffoaduriaid - Refugees
Sylwebwyr chwaraeon - Sport commentators
Testun - Subject
Chwiban - Whistle
Cyffur - Drug
Dall - Blind
Gweiddi’n groch - Shouting loudly
Harten - Heart attack
Môr o ddagrau llaith - A sea of moist tears
Bore Cothi Y Gwcw
Wel am gerdd hyfryd ynde? Dach chi wedi clywed y gog, neu’r gwcw eleni? Wel, os nad ydych chi, fydd na ddim llawer o gyfle i’w chlywed eto gan fod y gwcw am ddechrau ar ei thaith yn ôl i Affrica cyn bo hir, fel buodd Daniel Jenkins-Jones o’r RSPB yn sôn wrth Shan Cothi
Marchogaeth - Horse riding
Yn fy unfan - Still
Arwydd - A sign
Ar fin - About to
Goroesi - To survive
Creaduriaid - Creatures
Eos - Nightingale
Gwenoliaid - Swallow
Diwylliant - Culture
Clychau’r Gog - Bluebells
Bore Cothi Dawnsio ...ac arhoswn ni efo Bore Coffi am y clip nesa – ond i fyd y bale awn ni y tro ‘ma. Mae Luke Bafico (pron. Bahfeeko) o Gaerdydd yn ddawnsiwr proffesiynol ac mae o wrthi’n ymarfer ar gyfer fersiwn modern o’r bale The Nutcracker fydd yn teithio Cymru yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Dyma Luke yn esbonio wrth Shan Cothi sut dechreuodd o ym myd y ddawns
Nes ymlaen - Later on Tyfu lan - Tyfu fyny
Tue, 05 Jul 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBeti a'i Phobol Aled Roberts
Ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, mi gaethon ni gyfle i ail-wrando ar sgwrs Beti efo Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fuodd farw mis Chwefror eleni yn 59 mlwydd oed. Cafodd Aled ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, a dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae o'n esbonio wrth Beti beth oedd o'n ei weld yn heriau'r swydd a sut oedd o'n eu hwynebu...
Heriau - Challenges
Hwyrach - Efallai
Arweinydd cyngor - Council leader
Hamddenol - Leisurely
Gwthio - To push
Awyddus - Eager
Adlewyrchu - To reflect
Cryfder - Strength
Twf aruthrol - Huge growth
Drwy gyfrwng - Through the medium of
...ac mae colled mawr i Gymru ac i'r Gymraeg ar ôl Aled Roberts.
Aled Hughes ac Meurig Rees Jones
Buodd Syr Paul McCartney yn perfformio yn Glastonbury wythnos diwetha ac yntau newydd ddathlu ei benblwydd yn 80. Ond oeddech chi'n gwybod bod y Beatles yn ymwelwyr cyson â Phortmeirion? Meurig Rees Jones ydy Rheolwr Lleoliadau Portmeirion, a buodd o'n siarad efo Aled Hughes fore Llun am gysylltiad y canwr a'r ardal dros y blynyddoedd
Rheolwr Lleoliadau - Location Manager Y cyswllt - The contact
Bythynnod hunanarlwyo - Self catering cottages
Ar les byr - On a short lease
Gatws - Gatehouse
A dyna i chi hanes pobl enwog yn mwynhau gwyliau moethus yn y chwedegau ym Mhortmeirion.
GBYH Campio
Math gwahanol iawn o wyliau sy nesa wrth i Hanna Hopwood holi beth sy'n gwneud bywyd yn haws wrth fynd i wersylla. Kelly Morris sy'n esbonio beth ydy apêl y math yma o wyliau...
Moethus - Luxurious
Gwersylla - Camping
Cyfeillgar - Friendly
Mas tu fas - Outside
Dw i'n dwlu mynd - Dw i wrth fy modd yn mynd
Chwarae aboiti - Playing around
Sbort - Hwyl
Hala amser - Treulio amser
Llanw - Llenwi
Ia, mae gwersylla'n sbort, tydy, ond i'r tywydd fihafio ynde?
BORE COTHI CROQUET 2206
Mae'n debyg fod y gêm croquet wedi dod yn fwy poblogaidd yn dilyn cyfresi fel Bridgerton ac un o'r rhai sy wedi dechrau chwarae'r gêm ydy Davyth Fear o Lanrug ger Caernarfon. Aeth Davyth a'i wraig, Rhiannon, i ddiwrnod agored yng nghlwb croquet Llanfairfechan yn 2018 a phenderfynu rhoi tro arni a dyn nhw ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.
Rheolau - Rules
Dyfeisio - Devise
Yr Ymerodraeth Brydeinig - The British Empire
Cymhleth - Complicated
Naill ai - Either
Hanes croquet yn nhref fach lan y môr Llanfairfechan yn fan'na ar Bore Cothi.
DROS GINIO NEIL AC ALED ROSSER
Tad a mab, Neil ac Aled Rosser oedd gwestai dau cyn dau efo Dewi Llwyd. Mae'r ddau yn gerddorion ac mae Aled, y mab, yn byw yn y gogledd ac mae Neil yn byw yng Nghaerfyrddin, ac newydd ymddeol o ddysgu. Dyma i chi ran o'r sgwrs ble maen nhw'n sôn am effaith y cyfnod clo ar eu bywyd teuluol...
Cerddorion - Musicians
Turnio pren - Woodturning
Rhingt - Rhwng
Rhwystredig - Frustrating
Ffili - Methu
Heolydd - Ffyrdd
Ddim rhy ffôl - Ddim yn rhy ddrwg
Gweld eisiau - Colli
Aelwyd gerddorol - A musical home
Pwysleisio - To emphasise
A dan ni'n aros efo cerddorion yn y clip nesa. Cafodd Georgia Ruth sgwrs efo'r delynores Catrin Finch.
GEORGIA A CATRIN FINCH Mae Catrin wedi bod yn perfformio ers blynyddoedd efo Seckou Keita, sy'n canu'r Kora, offeryn o Orllewin Affrica. Mae Catrin a Seckou wedi rhyddhau tair albwm gyda'i gilydd. Ond doedd ei phrofiad cynta o gydweithio efo perfformiwr Kora ddim yn un hapus iawn. Toumani Diabaté oedd y perfformiwr ac yn Theatr Mwldan, Aberteifi oedd y cyngerdd. Dyma Catrin yn dweud yr hanes...
Telynores - Female harpist
Offeryn - Instrument
Yn llythrennol - Literally
I ystyried - Considering
Parhau - To continue
Wed, 29 Jun 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchGwneud Bywyd yn Haws Oeddech chi’n gwybod mae’r Ffindir a’r Swistir ydy’r ddwy wlad hapusa i fyw ynddyn nhw? Wel yn ôl un adroddiad beth bynnag. Dewch i ni gael clywed dipyn am fywyd yn y ddwy wlad gan Dwynwen Hedd o’r Swistir a Tristan Owen Williams o’r Ffindir. Dyma nhw’n sgwrsio efo Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws.
Mor ddwfn - So deep Diwylliant - Culture Cyd-fynd - To agree Traddodiad - Tradition Coedwigoedd - Forests Penodol - Specific Ysgogi - To motivate Noeth - Naked Bedydd tân - Baptism of fire
A sôn am sauna, os dach chi isio gwybod rhagor gan Trystan a Dwynwen ac am fywyd yn y Ffindir a’r Swistir yna agorwch ap BBC Sounds a theipio’r geiriau Gwneud Bywyd yn Haws i fewn i’r bar bach chwilio.
Aled Hughes a Maggie Morgan Wedi dysgu Cymraeg mae Maggie Morgan a buodd hi’n chwilio mewn i hanes ei theulu yn y gobaith o ddod o hyd i’r rhesymau pam nad oedd ei theulu bellach yn siarad Cymraeg. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo Maggie ar ei raglen fore Llun.
Bellach - By now Di-Gymraeg - Non Welsh speaking Mewn gwirionedd - In reality Teulu estynedig - Extended familly Tad-cu - Taid Aelod - Member Yr aelwyd - The hearth Mamiaith - Mother tongue
Mae mwy o hanes Maggie i’w gael yn y rhaglen arbennig ‘Fy Achau Cymraeg’ ar BBC Sounds
Ifan Evans a Nan Thomas Enillodd rhaglen Ifan Evans wobr arbennig mewn ŵyl Geltaidd yn ddiweddar ac un o’r cynta i’w longyfarch ar ei raglen oedd Nan Thomas o Eglwyswrw. Roedd Nan yn falch bod Cymru’n gwneud yn dda ar lwyfan rhyngwladol ac yn awyddus i ni gymryd rhan fel gwlad yn yr Eurovision Song Contest, ond pwy fasai Nan yn licio ei weld yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth tybed?
Achau - Ancestry Gwobr - Award Llongyfarch - To congratulate Llwyfan rhyngwladol - International stage Cynrychioli - Represent Pwy gelen i? - Pwy gawn ni? Yr unig fai - The only fault Pallu - Gwrthod
Dewis da ynde? Morgan Elwy enillodd Can i Gymru y llynedd, ac mae o’n diwtor Cymraeg yn ogystal!
Rhys Mwyn a Catrin Saran Buodd Rhys Mwyn yn trafod sut mae cerddoriaeth yn siapio ein bywydau efo Catrin Saran o Abertawe. Aeth Catrin yn eitha emosiynol wrth gofio am ei mam-gu yn canu ‘Y Darlun – Dwy Law yn Erfyn’ – iddi pan oedd hi’n blentyn...
Mam-gu - Nain Erfyn - Praying Difyr - Diddorol Wyres - Grand-daughter
‘Y Darlun – Dwy Law yn Erfyn’ dyna i chi gân hyfryd, syml ac un emosiynol iawn i Catrin Saran ynde?
Bore Cothi - Shan Cothi a Debra Drake Os dach chi’n gwylio ‘The Great British Sewing Bee’ dach chi’n siŵr o fod yn nabod Debra Drake sydd yn cystadlu yn y rhaglen. Mi wnaeth hi blesio’r beirniaid yn arbennig yr wythnos o’r blaen ac ennill gwobr ‘Dilledyn yr Wythnos’. Dyma Debra yn sôn am y gystadleuaeth wrth Shan Cothi... Beirniaid - Judges Dilledyn - Garment Uffar o brofiad - Hell of an experience Gwnio - To sow Her - A challenge Cyd-destyn - Context Becso - Poeni Cywrain - Elaborate Trawsnewid - To transform Dyluniad - A design Lluchio - Taflu
A phob lwc i Debra efo’r gystadleuaeth o hyn ymlaen!
Dei Tomos a Dani Schlick Mi symudodd Dani Schlick o Berlin i Gymru saith mlynedd yn ôl, mae hi wedi dysgu Cymraeg ac erbyn hyn mae hi’n gweithio i’r Mentrau Iaith. Dyma hi’n egluro wrth Dei Tomos sut daeth hi i Gymru i ddechrau, a pham ei bod hi wedi dysgu Cymraeg.
Wedi gwirioni ar - Wedi dwlu ar Tebygrwydd - Similarity Synau - Sounds Ymdopi - To cope Ieithyddol - Linguistic Cam - A step Mynychu digwyddiadau - Attending evebts Cysylltiadau - Connections
Tue, 21 Jun 2022 15:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchDros Ginio Dafydd Iwan Mi fydd tîm pêl-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd ar ôl i'r tîm guro Wcráin yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos diwetha. Mi wnaeth y crysau coch yn wych ond roedd canu'r Wal Goch yn bwysig hefyd yn enwedig wrth iddyn nhw ganu 'Yma o Hyd' efo Dafydd Iwan. Dyma Dafydd yn sôn am y profiad ar Dros Ginio
Breuddwyd - A dream Cyfuno - To combine Manteisio ar y cyfle - Taking advantage of the opportunity Bwriadol - Intentional Mynegi teimladau - Expressing the feelings Rhyfeddol - Wonderful Cyfraniad - Contribution Trefnwyr cefn llwyfan - Backstage organisers Profiad bythgofiadwy - An unforgettable experience
Ac mi gyrhaeddodd y gân 'Yma o hyd' rhif 1 yn siart I-Tunes wythnos diwetha - anhygoel ynde?
Arfon Wyn Un o arwyr Cymru yn y gêm oedd y gôl-geidwad, neu'r gôli, Wayne Hennessey. Aeth Wayne i ysgol gynradd Biwmares pan oedd o'n blentyn a dyma i chi Arfon Wyn, oedd yn bennaeth yr ysgol ar y pryd, yn sôn wrth Dylan Ebenezer am sut dechreuodd gyrfa bêl-droed Wayne...
Pennaeth - Head Hogyn dymunol - A likeable boy Dihyder - Lacking in confidence Dirprwy - Deputy Syth bin - Straight away Menyg - Gloves Wedi dotio - Wrth ei fodd Y gamp - The sport
Diolch i staff Ysgol Biwmares ynde, am roi'r cyfle cynta i Wayne Hennessy.
Beti a Geraint Davies Geraint Davies oedd gwestai Beti a'i Phobol dydd Sul Eleni mae Geraint wedi ymddeol fel cynghorydd sir dros ardal Treherbert yng Ngwm Rhondda ar ôl iddo fo wneud y gwaith am dros 30 mlynedd. Buodd o hefyd yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda rhwng 1999 a 2003, roedd o'n fferyllydd yn y cwm am flynyddoedd maith a hefyd yn aelod o'r clwb tenis lleol. Dyn prysur iawn felly...
Aelod Cynulliad - Assembly member Fferyllydd - Chemist Cyflwyniad - Introduction Sbort mawr - Llawer o hwyl Parhau eich bywyd - Prolong your life Ymennydd - Brain Poblogaidd - Popular Rhyfedd - Strange Wedi cwympo - Had fallen O ganlyniad - As a consequence
Diddorol ynde - Covid wedi gwneud i bobl feddwl mwy am eu hiechyd a'u ffitrwydd.
Aled Hughes ac Alex Harry Gemau'r Gymanwlad Mi wnawn ni aros ym myd y campau rŵan ond y tro 'ma efo Gemau'r Gymanwlad. Bydd y gemau'n cael eu cynnal yn Birmingham ddiwedd mis Gorffennaf ac un o'r athletwyr fydd yn mynd i Birmingham ydy Alex Harry, sy'n dod o Lanelli yn wreiddiol, ac sy wedi cael ei dewis yn rhan o dim reslo Cymru. Dyma flas i chi ar y sgwrs rhwng Aled Hughes ac Alex...
Gemau'r Gymanwlad - The Commonwealth Games Pwysau - Weight I gael dy ystyried - For you to be considered Cynrychioli dy wlad - Representing your Country
Aled Hughes a Non Stanford Pob lwc i Alex ynde a hefyd i Non Stanford sydd yn rhan o dîm triathlon Cymru. Pa fath o baratoadau mae hi wedi eu gwneud ar gyfer Gemau'r Gymanwlad tybed? Aled Hughes oed yn holi eto...
Paratoadau - Preparations Canolbwyntio - To concentrate Cic lan y pen-ôl - A kick up the backside Cydwybod - Conscience
Geraint Lloyd a Nia Medi Wel, dan ni wedi sôn am bêl-droed, tenis, athletau ac rŵan dan ni'n mynd i glywed hanes criw bach sydd am seiclo o Lundain i Amsterdam - Fflamingos Pinc Trystan. Mae'r pum 'fflamingo' am wneud y daith er cof am eu ffrind Trystan Gwyn Rees fuodd farw dair blynedd yn ôl. Geraint Lloyd fuodd yn holi un o'r criw, Nia Medi...
Er cof am - In memory of Cymeriad lliwgar - A colourful character Tyle - Hill Galar - Bereavement Cyfnod tywylla ein bywydau - Darkest period of our lives Doniol - Amusing Cynghori - To advice
Tue, 14 Jun 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBeti a Ceri Isfryn Mae Ceri Isfryn wedi gweithio ar sawl gyfres deledu fel The One Show, Watchdog Rogue Traders, a Panorama a hi ydy cynhyrchydd y gyfres House of Maxwell sy'n dilyn hanes Robert Maxwell a'i deulu. Dim ond dwy oed oedd Ceri pan fuodd Robert Maxwell farw yn 1991. Faint felly oedd hi'n gwybod am hanes teulu Maxwell cyn dechrau gweithio ar y gyfres? Dyma hi'n sgwrsio efo Beti George...
Cynhyrchydd - Producer Cenhedlaeth - Generation Dylanwad - Influence Ymchwilio - To research Diflasu - To become bored of Iddew - Jew Datblygu - To develop Moesau - Morals Cofeb - Memorial Delwedd - Image
Ceri Isfryn yn sôn wrth Beti George am ei gwaith ymchwil i deulu Robert Maxwell.
Dros Ginio Ieuan a Rhisiart Y ddau frawd Ieuan Wyn Jones a Rhisiart Arwel oedd y ddau cyn dau efo Dewi Llwyd . Roedd Ieuan yn arfer bod yn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru ac mae Rhisiart yn gerddor. Faint o ffrindiau oedden nhw pan oedden nhw'n ifanc tybed? Dirprwy Brif Weinidog Cymru - Deputy First Minister of Wales Cerddor - Musician Traddodiad - Tradition Ddaru - Gwnaeth Difyr - Diddorol Ffraeo - To row Prin dw i'n cofio - I hardly remember Tueddiad - A tendency Ar wahân - Separately Cecru - Bickering
Y ddau frawd Ieuan Wyn Jones a Rhisiart Arwel yn fan'na'n sgwrsio gyda Dewi Llwyd.
GBYH Eleri Evans Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth cafodd Hanna Hopwood gwmni Eleri Evans sy'n byw yng Ngorllewin Cymru gyda'i gŵr Ian, a'u plant Alys sy'n 7, Aaron sy'n 9 a Liam sy'n 17. Oherwydd gwahaniaeth oedran y plant roedd hi'n anodd weithiau cadw pawb yn hapus. Dyma Eleri'n sôn am sut aeth y teulu ati i geisio gwella'r sefyllfa...
Mo'yn - Eisiau Llwyth - Loads Sylweddoli - To realise Mynd am wâc - Mynd am dro Mae e'n dwlu ar - Mae o wrth ei fodd efo
Wel dyna syniad da ynde - gwrando ar leisiau'r plant a chadw pawb yn hapus!
Rhydian a Shelley ac Esther Rhydian a Shelley fuodd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes ac mi gaethon nhw sgwrs efo Esther, sy'n 13 oed ac yn mynd i Ysgol David Hughes, Porthaethwy ar Ynys Môn. Ar ei ffordd i Eisteddfod yr Urdd oedd Esther, a dyma hi'n sôn am yr holl gystadlu oedd o'i blaen...
Parti Deulais - Two voice party Llefaru Unigol - Solo recitation Côr Gwerin - Folk Choir Detholiad - A selection Tawelu - To quieten Cyngor - Advice Cefnogi - To support Enfawr - Huge
Wel mi roedd Esther wedi cael eisteddfod brysur yn doedd?
Bore Cothi Sioned Mair a Caryl Parry Jones Buodd Caryl Parry Jones a'i ffrind Sioned Mair yn cystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd pan oedden nhw yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy Sir Ddinbych, a dyma glip bach ohonyn nhw'n hel atgofion am y cyfnod yna..
Hel atgofion - Reminiscing Arweiniad - Leadership Ysbrydoli - To inspire Roedd y brwdfrydedd yn heintus - The enthusiasm was infectious Creu ymdeimlad o berthyn - Create a feeling of belonging Bodoli - To exist Hyfforddi - Coaching Y diweddar - The late
Caryl ac Sioned yn amlwg wedi mwynhau cystadlu yn Eisteddfodau'r Urdd.
Stiwdio Os wnaethoch chi wrando ar yr Eisteddfod wythnos diwetha dw i'n siŵr eich bod wedi clywed sawl côr ac unigolion yn canu caneuon oedd wedi cael eu cyfansoddi gan Robat Arwyn. Mae Robat yn dod o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol ond erbyn hyn mae'n byw yn Nyffryn Clwyd yn agos at le cafodd Eisteddfod eleni ei chynnal. Gofynnodd Nia Roberts iddo fo pryd ddechreuodd ei ddiddordeb mewn cyfansoddi...
Cyfansoddi - To compose Dylanwadau cynnar - Early influences Alawon - Tunes Arbenigo - To specialise Unawdydd - Soloist
Tue, 07 Jun 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBeti a Sian Eirian Mae Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Nimbych yr wythnos hon ac mi gafodd Beti George gwmni Cyfarwyddwr Dros Dro yr Eisteddfod, Sian Eirian, ar Beti a'i Phobol fore Sul. Yn y gorffennol buodd Sian yn gweithio fel Pennaeth Rhaglenni Plant S4C a dyma hi'n sôn am yr adeg aeth hi â CYW (y cyw annwyl felly- eicon rhaglenni plant bach) i gyfarfod â Boris Johnson pan oedd o'n Faer Llundain...
Cyfarwyddwr Dros Dro - Temporary Director Awyddus I ymestyn - Eager to extend Adran Gyfathrebu - Communications Department Sylweddoli - To realize Tanddaearol - Underground Heddlu cudd - Secret police Terfysgwr - Terrorist Gweithredu - To act (upon) Degau ar ddegau - Many (lit: tens on tens)
Hanes 'Cywgate' yn fan'na gan Sian Eirian.
Butlins Oeddech chi'n gwybod bod yna Eisteddfodau o fath yn Butlins Pwllheli ac yn Butlins y Barri ers talwm? Wel cystadleuaeth talent oedden nhw cael eu galw mewn gwirionedd! Buodd Ffion Emyr yn cyflwyno rhaglen oedd yn edrych yn ôl ar 75 mlynedd ers agor Butlins Pwllheli. Dyma hi'n cael sgwrs efo Bob Morris fuodd yn gweithio yn Butlins, ac sy'n cofio gweld Billy Butlin ym Mhwllheli, ac yna hanes Mair Evans o Lanbedr Pont Steffan, neu Llambed, wnaeth yn dda iawn yn y cystadlaethau talent - ei mam Janet sy'n dweud yr hanes.
Datganiad - Statement Gwersyllwyr - Campers Beirniadaeth - Adjudication Beirniaid - Judges Wedi dotio ar - Wedi dwlu ar Neb llai na - None other than Gwlad yr Haf - Somerset
Meddyliwch ennill cystadleuaeth dalent a Catherine Zeta Jones yn dod yn ail i chi - gwych yn de?
Bore Cothi a Manuela Manuela Niemetscheck, sy'n seicotherapydd celf, oedd dysgwr y flwyddyn Bwrdd Betsi Cadwaladr. Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ac roedd y tri beirniad yn cytuno mai Manuela oedd yn haeddu teitl Dysgwr y Flwyddyn. Dyma Manuela ar Bore Cothi yn rhoi ychydig o'i hanes hi ac yn sôn am ei swydd ddiddorol ...
Haeddu - To deserve Llwyth - Loads Dwyieithog - Bilingual Bwrw ymlaen - To get on with it
Mae talent dysgu ieithoedd anhygoel gan Manuela yn does?
Dros Ginio Caryl a Miriam Mam a merch, Caryl Parry Jones a Miriam Isaac, oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Caryl sy'n dechrau'r sgwrs, yn cofio am ei magwraeth yn Ffynnongroyw, Sir y Fflint.
Gwerthfawrogi magwraeth - Appreciating the upbringing Pentref glofaol - A coal mining village Pwll glo - Coal mine Brawdgarwch - Brotherhood Y Parlwr Du - Point of Ayr Diwylliant - Culture Nefolaidd - Heavenly Arddull - Style
Mae'n amlwg bod Caryl a Miriam wedi cael magwraeth wrth eu boddau, ac atgofion melys iawn gan Miriam o Nain a Taid
I Mewn I'r Gol Yn 2021, mi fuodd yna newid anferth i Glwb Pêl-droed Wrecsam wrth i ddau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney brynu'r clwb! Cyhoeddodd y ddau fideo aeth yn feiral - a chael Maxine Hughes , sy'n byw yn yr Unol Daleithiau i gyfieithu ar y pryd ar y fideo. Rŵan dan ni'n mynd i glywed lleisiau Maxine, Wayne Phillips, fuodd yn chwarae i Wrecsam, a hefyd Cledwyn Ashford sy'n sgowt I academi'r clwb yn sôn am y newid ddaeth i'r clwb ers i'r sêr ddod mewn. Dylan Griffiths, o Adran Chwaraeon Radio Cymru, fuodd yn dilyn y stori
Cyfieithu ar y pryd - Instantaneous translation Perchnogion - Owners Cadarnhad - Confirmation Hyrwyddo - To promote Sylw byd eang - Worldwide attention Disgleirio - To shine Llwyfan - A stage Argraffiadau cynnar - Early impressions Breuddwyd - A dream Yn y cefndir - In the background
A dw i'n siŵr bod ffans Wrecsam i gyd yn drist ddydd Sul pan gollodd y clwb gêm fwya'r tymor o bum gôl i bedair. Stiwdio Tlws y Dysgwr Ac mi ddown ni'n ôl at Eisteddfod yr Urdd efo'r clip ola. Mae gan Francesca Sciarrillo atgofion melys iawn o'r Eisteddfod gan iddi hi ennill Medal y Dysgwyr pan oedd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd yn 2019, ac erbyn hyn mae hi'n byw ei bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ei rhieni'n dod o'r Eidal yn wreiddiol a dyma Francesca yn disgrifio sut gwnaeth ei thad ymateb i'w llwyddiant yn yr Eisteddfod
Atgofion - Memories Trwy gyfrwng - Through the medium of Yr Wyddgrug - Mold Cyfarwydd - Familiar
Tue, 31 May 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchDei Tomos a Gwyn Elfyn Yr actor Gwyn Elfyn oedd gwestai Dei Tomos wythnos diwetha. Fo oedd Densil yn Pobol y Cwm am flynyddoedd ac yn siarad efo acen de Cymru ar y rhaglen. Ond yn y clip nesa dan ni'n clywed Gwyn yn sgwrsio efo Dei Tomos efo acen ogleddol Blaenau Ffestiniog. Pa acen ydy yr un naturiol iddo fo felly?
Tafodiaith - Dialect Cyfeillion - Ffrindiau Honni - To claim Lwcus ydy Gwyn Elfyn ynde, yn medru siarad yn naturiol yn nhafodiaith y de a'r gogledd.
Gwenno Williams Tafarn yr Heliwr Dydd Llun cafodd Aled Hughes sgwrs efo Gwenno Williams o dafarn gymunedol Yr Heliwr yn Nefyn. Roedd pobl Nefyn wedi codi arian i brynu'r adeilad ac i ail-wneud rhannau o'r dafarn er mwyn ei chael yn barod ar gyfer y cyhoedd. Awgrymodd Aled wrth Gwenno bod stori yr Heliwr yn stori o gymuned yn uno ac yn llwyddo a dyma oedd ymateb Gwenno... Cymuned - Community Hwb - A boost Gwireddu - To make it happen Ail-wneud - To redo Gwirfoddoli - To volunteer Budd mawr - A great benefit Gwobr - Prize Ysbrydoliaeth - Inspiration Mentrau cymunedol - Community enterprises Cyd-weithio - To co-operate Aballu - And so on
Mae hi'n braf iawn gweld yr holl fentrau cymunedol yma'n llwyddo yn tydy?
Aled Hughes Dr Who Daeth newyddion cyffrous am y gyfres Doctor Who wrth i'r doctor nesa gael ei enwi, sef yr actor Ncuti Gatwa. Cafodd Ncuti ei eni yn Rwanda a'i fagu yn yr Alban. Mae'n enwog am ei ran yn y gyfres boblogaidd Sex Education, a fo fydd yn chwarae rhan Doctor rhif un deg pedwar yn y gyfres eiconig. Mae Alun Parrington yn "Whovian" sef un o ffans enfawr y gyfres, a dyma fo'n sôn wrth Aled Hughes am Ddoctoriaid y gorffennol...
Cyfres - Series Cyfnod - Period (of time) Dal fy nychymyg - To catch the imagination Goro - Gorfod Pennod - Episode Gadael argraff - To leave an impression Gwatsiad - Edrych ar Cenhedlaeth - Generation Alun Parrington oedd hwnna'n amlwg yn edrych mlaen at gyfres newydd Dr Who.
Bore Cothi maeth bwyd Mae Angharad Griffiths wedi cymhwyso fel therapydd maeth ar ôl tair blynedd o astudio ac mae hi wedi agor clinig maeth i ddysgu pobl am fwyd, ac yn arbennig felly pwysigrwydd bwyta bwyd maethlon. Dyma glip o Angharad yn esbonio wrth Shan Cothi pa fath o fwydydd sy'n rhai maethlon... Cymhwyso - To qualify Maeth - Nutrition Maethlon - Nutritious Yn dueddol o - Tend to Ymddangos - To appear Cynhwysion - Ingredients Lleihau - To reduce Mo 'yn - Eisiau
Bore Cothi Ffrwythau Tun Tybed fasai Angharad yn ystyried bod tun o peaches, neu eirin gwlanog, yn fwyd maethlon? Wel mae'n bosib cawn ni'r ateb yn y clip nesa ma o raglen Bore Cothi, lle mae'r cogydd Nerys Howell yn cymharu ffrwythau tun efo ffrwythau ffres... Hylif - Liquid Twymo i dymheredd - Warm to tempretature Triniaeth gwres - Heat treatment Toddi - To melt Braster - Fat Mwynau - Minerals Amrywio - To vary
Diddorol ynde, manteision ar y ddwy ochr yn fan'na wrth gymharu ffrwythau ffres efo ffrwythau tun.
Beti a'i Phobol Russell Isaac Roedd Russell Isaac yn arfer gweithio fel newyddiadurwr ond erbyn hyn mae o'n gweithio efo'r Cenhedloedd Unedig. 40 mlynedd yn ôl aeth Russel draw i ochr arall y byd ar ran rhaglen newyddion Cymraeg ITV - Y Dydd- ac ar ran y rhaglen Saesneg Report Wales, i adrodd am ryfel Ynysoedd y Malfinas. Dyma fo'n sôn wrth Beti George sut gaeth o wybod ei fod yn gorfod mynd draw yno... Y Cenhedloedd Unedig - United Nations Llynges - Navy Ar fin - About to Cysylltiadau - Connections Ymchwilydd - Researcher Mynnu - To insist Archentwyr - Argentinians Gorchymyn - A command Cyfarwyddyd - Instruction
Tue, 24 May 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBeti a Dr Sara Louise Wheeler Mae'r Dr Sara Louise Wheeler yn dod o ardal Wrecsam yn wreiddiol, ac mae hi'n falch iawn ei bod hi'n siarad efo acen arbennig pentref Rhosllannerchrugog. Ond fel cawn ni glywed yn y clip nesa doedd pawb ddim yn hoff o'r acen honno...
Magwraeth - Upbringing Tafodiaith - Dialect Herio - To challenge
Os dach chi isio gwybod rhagor am hanes diddorol Sara mi fedrwch chi wrando ar y sgwrs yn llawn ar bodlediad Beti a'i Phobol.
Aled Hughes a Grant Peisley Mae Grant Peisley yn chwarae criced i dîm dros 50 oed Cymru er ei fod yn dod o Awstralia'n wreiddiol. Mae o'n byw yng Nghymru ers dros ugain mlynedd erbyn hyn, ac wedi dysgu Cymraeg. Mae criced yn ofnadwy o bwysig i bobl Awstralia - felly sut deimlad ydy chwarae dros Gymru i Grant tybed? Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes...
Rhyngwladol - International Cwpan y Byd - World Cup Ers yn ddim o beth - Since being a small child
Braf clywed Grant yn disgrifio ei hun fel Cymro Newydd yn tydy, a dwi'n siwr bydd o'n falch iawn o fod yn rhan o dîm Cymru yn erbyn Awstralia.
Erin Bryfdir Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 10 oed eleni ac mae'r coleg wedi medru helpu llawer o bobl i ddilyn cyrsiau yn y prifysgolion ac mewn addysg bellach drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o'r rheini ydy Erin Bryfdir sydd yn Sister yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, a dyma hi'n sôn am sut wnaeth cyflwyniad gan y coleg, pan oedd hi yn yr ysgol uwchradd, newid ei bywyd.
Drwy gyfrwng - Through the medium of Cyflwyniad - Presentation Disgybl - Pupil Megis dechrau - Just starting Ysbrydoli - To inspire Gradd - Degree Ysgoloriaeth Cymhelliant - Incentive scholarships Llysgennad - Ambassador Mantais - Advantage Darlithoedd - Lectures
Erin Bryfdir oedd honna , un o'r miloedd sydd wedi manteisio ar y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Rob Malcolm Jones cocktails. Faint ohonoch chi sy'n mwynhau coctêls? Mae na gymaint o wahanol rai yn does? Mae Rob Malcolm Jones yn byw yn Efrog Newydd ac yn nabod ei goctêls yn dda. Shan Cothi gaeth sgwrs efo fo fore Mawrth
Efrog Newydd - New York Ffurfiol - Formal O ddifri - Seriously Bodoli - To exist Poblogaidd - Popular Cynrychioli - To represent Egniol - Energetic
Wel dyna ni - y Dirty Martini amdani!
GBYH - Eilir Owen Griffiths Mae iechyd meddwl wedi dod mwy i'r amlwg ers y cyfnod clo, ac roedd hi'n wythnos iechyd meddwl wythnos diwetha. Cafodd Hanna Hopwood gwmni yr arweinydd côr a'r cerddor Eilir Owen Griffiths fuodd yn siarad am y tro cyntaf yn gyhoeddus am ei siwrne iechyd meddwl bersonol.
Arweinydd côr - Choir conductor Cerddor - Musician Yn gyhoeddus - Publicly Y lle tywylla(f) - The darkest place Eithafoedd - Extremes Creadigol - Creative Yr wythnos ganlynol - The following week Cyfansoddi - Composing
Yr arweinydd côr a'r cerddor Eilir Owen Griffiths yn siarad yn bersonol iawn am ei sefyllfa yn ystod y cyfnod clo.
Bore Cothi - Hot Cakes Mae na gyfres newydd ar BBC3 - Hot Cakes- ac mae dau o Gaerdydd, Gareth a'i bartner Ryan o gwmni Let them See Cake yn serennu yn y gyfres. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo'r ddau a chanfod bod Ryan wedi dysgu Cymraeg dros y cyfnod clo ac mai dyma oedd ei gyfweliad cynta yn Gymraeg..
Cyfres - Series Canfod - To discover Cyfweliad - Interview Joio mas draw - Really enjoing
Tue, 17 May 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBore Cothi Anne Henrot Un o Wlad Belg ydy Anne Henrot ac mi ddechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1984 ar ôl bod ar wyliau i Gymru. Mi wnaeth hi deithio ar hyd a lled Cymru pan oedd hi yma - o Gaerdydd i Fangor. Mae hi wedi ymweld â Chasgwent sawl gwaith ac mae wrth ei bodd gyda'r ardal. Dyma Anne yn dweud wrth Shan Cothi sut a pham dechreuodd hi ddysgu Cymraeg.
Gwlad Belg - Belgium Yn rhyfeddol - Wonderous Ail-ddechreuais i - I re-commenced
Anne Henrot, fuodd yn Nant Gwrtheyrn am bythefnos yn unig, a heblaw am hynny wedi dysgu Cymraeg yn ei chartref yng Ngwlad Belg. Gwych ynde?
Aled Hughes ac Ezzati Ariffin Mae E'zzati yn dod o Brunei yn wreiddiol, ond mae hi'n disgrifio ei hun fel "merch Bruneian yng Nghymru" erbyn hyn. Buodd hi'n egluro wrth Aled Hughes mwy am yr ŵyl Hari Raya Aidilffitri sydd yn dathlu diwedd cyfnod ymprydio Ramadan.
Gŵyl - Festival Ymprydio - Fasting Am wn i - As far as I know Canolbwyntio - To concentrate Dihuno - Deffro Bennu - Gorffen Dathliad - A celebration
A phob hwyl i bawb fydd yn dathlu Hari Raya Aidilffitri, neu Eid al-Ffitr iid ffitr, ynde?
Gwneud Bywyd yn Haws - Carys Mai Hughes Mae Carys Mai Hughes yn gweithio o'i champerfan yn hytrach nag o adre er mwyn teithio Ewrop a gwneud y gorau o bob eiliad o'i hamser hamdden. Dyma hi ar Gwneud Bywyd yn Haws yn sgwrsio o lan Llyn Léman...
Darlledu - To broadcast Ar bwys - Wrth ymyl Rhyngwladol - International Diflasu - To become weary of Gwenu - Smiling Sa i'n mynd - Dw i ddim yn mynd
Dyna'r bywyd ynde - mae gweithio o'r camperfan yn gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys Mai Hughes dw i'n siŵr o hynny.
Papur Ddoe Mae Elin Tomos yn dilyn hanesion o hen bapurau newydd yn y gyfres Papur Ddoe. Mae hi'n dod ar draws sawl stori ddifyr fel hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis cafodd ei saethu yn ei ben gyda phistol llaw yn 1844. Dyma'r hanesydd Erin White i roi ychydig o'r hanes.
Llofruddiaeth - Murder Yn dwyn yr enw - Named Tyddyn - Smallholding Cynnyrch - Produce Y Chwyldro Diwydiannol - The Industrial Revolution Swm sylweddol - A considerable amount Tollborth - Toll gate Ymosodiad gan ladron - An attack by thieves Tystion - Witnesses Daethpwyd o hyd - Was found Cwato - Cuddio
Hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis yn fan'na ar Papur Ddoe.
Ifan Evans a Nigel Owens Un o'r pethau unigryw ym myd rygbi Cymru ydy timau cymunedol o bob oedran yn cael chwarae rowndiau terfynol eu cystadlaethau yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd. Er bod Nigel Owens wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi, buodd o yn y Stadiwm yn helpu efo'r gemau. Cafodd Ifan Evans sgwrs efo fo am y digwyddiad...
Dyfarnwr - Referee Rowndiau terfynol - Finals Gêm y gymuned - The community game Rowndiau terfynol - Finals Cyfleoedd - Opportunities Yr Undeb - The Union (WRU) Unigryw - Unique Profiad - Experience Wastad - Always
Braf gweld Nigel yn helpu'r gêm gymunedol yn tydy?
Stiwdio Cefyn Burgess Mae'r artist Cefyn Burgess yn cofio arian yn cael ei gasglu yn yr ysgol Sul ers talwm ar gyfer cenhadaeth yr Eglwys Bresbyteraidd yn Casia India. Cyn y cyfnod clo aeth o draw i Casia er mwyn cael dysgu mwy am bobl y rhan yna o'r byd, ac mae o wedi creu arddangosfa artistig o'i brofiadau yno. Aeth Elinor Gwynn draw i Storiel, Bangor i weld yr arddangosfa a chael gair efo Cefyn am y gwaith. Os dach chi yn yr ardal o gwbl mae'r arddangosfa ymlaen tan yr 2il o Orffennaf 2022.
Arddangosfa - Exhibition Casgliad - Collection Bylchau cenhadol - Missionary collection boxes Yn gyfarwydd - Familiar Dychymyg - Imagination Yn fy oed ac amser - At this stage in my life Ehangach - Wider Talaith - State
Tue, 10 May 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchAled Hughes a Vaughn Smith
Glanhau carpedi yn Washington, yn yr Unol Daleithiau, ydy gwaith Vaughn Smith. Mae'n gallu siarad 24 iaith yn rhugl, mae o'n hyperpolyglot. Mae'r Gymraeg yn un o'r ieithoedd hynny a dyma fo'n cael sgwrs yn Gymraeg efo Aled Hughes
Hyd y cofiaf - As far as I remember Ces i fy swyno - I was enchanted Yn ddiweddarach - Later Brodorol - Native Gwyddeleg - Irish language
Vaughn Smith ddysgodd un o ieithoedd brodorol Mecsico oherwydd ei fam, a'r Gymraeg oherwydd cefndir ei dad - ond beth am y 22 o ieithoedd eraill? Anhygoel ynde?
Aled Hughes ac Iwan Rheon
Bydd lawer ohonoch chi'n cofio'r actor Iwan Rheon am ei berfformiadau fel Ramsay Bolton yn Game of Thrones. Mae o wedi actio yn Gymraeg yn y gorffennol - fo oedd Macsen White yn Pobol y Cwm, ond heb actio yn Gymraeg ers rhai blynyddoedd erbyn hyn. Y newyddion da ydy ein bod ni'n mynd i weld Iwan cyn bo hir ar S4C mewn cyfres newydd sbon 'Y Golau'. Dyma glip ohono fo'n sgwrsio efo Aled Hughes
Cefndir - Background Anhygoel - Incredible Cyfres - Series Llwyfan - Stage Atgofion melys - Fond memories Chwedl - Legend Anferth - Huge Amrywiaeth - Variety Cymeriadau - Characters Yn dueddol - To tend to
Iwan Rheon oedd hwnna'n sôn am ei yrfa ac am gyfres newydd ar S4C ' Y Golau'.
Bore Cothi ac Angharad Mair
Tasech chi'n cael mynd ar fordaith - ble basech chi'n mynd a phwy fasech chi'n mynd efo chi? Dyma oedd dewis y gyflwynwraig Angharad Mair ar Bore Cothi
Mordaith - Cruise Cyflwynwraig - Female presenter Aduniad - Reunion Gwaith ymchwil - Research Ffrindiau hoff gytûn - Best friends
Mordaith ddiddorol iawn i Angharad a'i ffrindiau, yn enwedig os bydd Elvis yno!
Pigion - Ni'n Dau Efeilliaid
Nic Parri fuodd yn cyflwyno rhaglen arbennig am efeilliad. Mae Nic ei hun yn un o efeilliaid ac yn y clip yma mi gawn ni ei glywed yn sgwrsio efo efeilliaid bach o Fethesda yng Ngwynedd, Anni Glyn a Kate Ogwen
Efeilliaid - Twins Yr un fath - Identical Ffraeo - To row
O, annwyl de? Yr efeilliaid Anni a Kate oedd y rheina, ond pa un o'r ddwy oedd yn rhoi'r golau mlaen tybed?
Gwneud Bywyd yn Haws
Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws gaeth Hanna Hopwood gwmni Lliwen MacRae un o sylfaenwyr y grwp facebook GeNi sy'n rhoi llwyfan i famau beichiog a mamau newydd i rannu profiadau.
Annwyl - Cute Sylfaenwyr - Founders Beichiog - Pregnant Profiadau - Experiences Heb ofni - Without fear O leia - At least Pynciau - Subjects Ymuno - To join Fatha - Yr un fath â
Felly os dach chi'n fam newydd neu'n feichiog cofiwch am dudalen Facebook GeNi.
Mali Harries Yr actores Mali Harries, sy'n chware rhan Jaclyn Parri yn yr opera sebon, Pobol y Cwm, fuodd yn sôn am fod yn fentor iaith i'w ffrind, yr actores Amanda Henderson. Mae Amanda, sy'n chware'r rhan Robyn yn y gyfres Casualty, wrthi'n dysgu Cymraeg efo help Mali yn y gyfres Iaith ar Daith ar S4C.
Ffrindiau mynwesol - Bosom pals Twymgalon - Warmhearted Egnïol - Enegetic Yn gyfarwydd â - Familiar wuth Wedi cael ei throchi - Has been immersed
Tue, 03 May 2022 13:06:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBore Cothi - Ciwcymbyr Mae na ddywediad Saesneg 'cool as a cucumber' yn does? Ond beth sydd y tu ôl i'r dywediad hwn tybed? Alison Huw fuodd yn sgwrsio am hyn efo Shan Cothi...
Sail wyddonol - A scientific basis Oeri'r gwaed - Cools the blood Ar drothwy - The onset of Cynnwys - To include Dyfrllyd - Watery Unigryw - Unique Si - A rumour Rhesymol - Reasonable Rhwydd - Hawdd Cnwd - Crop
Dyna ni felly - ewch ati i blannu'ch ciwcymbers!
Eden Cafodd y band Eden ei ffurfio yn 1996 ac ar ôl cyfnod o beidio perfformio mi ddaethon nhw'n ôl at ei gilydd yng ngwyl fawr Caerdydd, Tafwyl, yn 2016. Cafodd hyn ei ddisgrifio fel 'comeback' y ganrif ar Golwg 360! Roedd Rachael Solomon yn aelod o'r band a hi oedd gwestai Iwan Griffiths fore Sul. Dyma hi'n sôn am y profiad o berfformio yn Tafwyl...
Man a man - Might as well Ymateb - Response Symudiadau - Movements Cynulleidfa - Audience Synnu - To be surprised Cysylltu - To connect
Www, caneuon newydd gan Eden - rhywbeth i edrych ymlaen ato ynde?
Aled Hughes Siarcod Ar raglen Aled Hughes clywon ni Lowri O'Neill, myfyrwraig bywydeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn sôn am ei phrofiadau yn nofio efo siarcod yn Hawaii. Oedd hi mewn cawell? Oedd yna reolau am sut i ymddwyn wrth nofio efo nhw? Dyna oedd rhai o gwestiynau Aled i Lowri...
Bywydeg - Biology Cawell - Cage Ymddwyn - To behave Bwystfil - Monster O hyd - Length Yn y bôn - Basically Cystadleuaeth syllu - Staring competition Ymddangos - To appear to Ysglyfaethod gweithredol - Predator Yn ôl pob golwg - Apparently
Merch ddewr iawn ydy Lowri O'Neill ynde?
Bore Cothi - deg uchaf adar Dan ni'n aros efo byd natur rŵan ond efo rhywbeth dipyn llai peryglus na siarcod sef yr adar sy'n dod i'n gerddi yng Nghymru. Gofynnodd yr RSPB i bobl nodi pa adar oedden nhw'n eu gweld yn eu gerddi ac mi wnaeth Daniel Jenkins Jones rannu deg ucha yr arolwg ar raglen Shan Cothi...
Arolwg - Survey Crybwyll - To mention Ymdrech - Attempt Ji-binc - Chaffinch Pioden - Magpie Nico - Goldfinch Ysguthan - Woodpigeon Drudwy - Starling Titw Tomos las - Blue tit Aderyn y to - House Sparrow
Aderyn y to yn ennill unwaith eto, chwarae teg ynde?
Dros Ginio - Mererid a Hanna Mam a merch oedd gwesteion Dau cyn Dau Dewi Llwyd bnawn Llun diwetha a'r ddwy yn byw yn ardal Caerfyrddin, sef y prifardd Mererid Hopwood a'i merch, y cyflwynydd radio a theledu Hanna Hopwood. Nid yng Nghymru cafodd Hanna ei geni a dyma Mererid yn dweud rhagor am hynny...
Prifardd - National crowned/chaired poet Cyflwynydd - Presenter Tystysgrif geni - Birth certificate Yn benderfynol - Determined Sylweddoli - To realize Y cyfnod Llundeinig - The London period
...a dyna beth da bod y teulu wedi symud i Gymru ynde, fel ein bod ni'n medru gwrando ar Hanna'n cyflwyno Gwneud Bywyd yn Haws ar Radio Cymru.
Y Ffatri Ddillad Roedd ffatri ddillad Laura Ashley yn gyflogwr pwysig yng ngogledd Powys gan roi gwaith i tua wyth cant o bobl yr ardal ar un adeg. Buodd Eddie Bebb o Lanidloes yn gweithio i'r cwmni am 37 o flynyddoedd a chafodd Sian Sutton sgwrs efo am ddyddiau cynnar a llewyrchus Laura Ashley...
Cyflogwr - Employer Llewyrchus - Prosperous Hwb - A boost Ysbryd - Spirit
Tue, 26 Apr 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchStiwdio Sharon a Saran Ar Stiwdio nos Lun mi gafodd Nia Roberts gwmni'r fam a'r ferch, yr actorion, Sharon a Saran Morgan. Mae Saran newydd ennill gwobr Marc Beeby y 'Best Debut Performance' am ei pherfformiad yn y ddrama radio 'Release' ar Radio 4 yn Ionawr 2021. Gyda'i mam yn y proffesiwn, oedd hi'n syndod bod Saran hefyd wedi dilyn yr un llwybr gyrfa? Gwobr - Award Mewn gwirionedd - In reality Sa i'n credu - Dw i ddim yn meddwl Disgyblaethau - Disciplines Llefain - Crïo Rhwystro - To obstruct Ei hargymell hi - To recommend her Llawfeddyg - Surgeon Bregus - Vunerable O fy herwydd hi - Because of me Cynyrchiadau - Productions
Saran Morgan yn falch iawn o ddilyn ôl-traed ei mam yn tydy?
Aled Hughes a Toda Sgwrs o'r archif sy nesa, o 2020, pan brofodd Toda Ogunbanwo a'i deulu hiliaeth ym mhentre Penygroes, Gwynedd, pan gafodd swastika ei beintio ar ddrws garej eu cartre. Aled Hughes fuodd yn sgwrsio efo Toda. Profi - To experience Hiliaeth - Racism Blin - Angry Derbyniol - Acceptable Ymddiheuro - To apologise Galwad - A calling Gweinidog - Minister Dallt - Deall Plentyndod - Childhood
Profiad ofnadwy o hiliaeth yn fan'na i deulu Toda ym Mhenygroes Gwynedd.
Nant Gwrtheyrn Pedwardeg mlynedd yn ôl mi gyrhaeddodd y criw cynta o ddysgwyr Cymraeg Nant Gwrtheyrn. Ond lle mae'r dysgwyr rheini rŵan? Mae Wyn Roberts, rheolwr cyfathrebu a marchnata'r Nant, wedi dod o hyd i un o'r tiwtoriaid cynta, ond rŵan mae o eisiau cysylltu efo'r dysgwyr gwreiddiol...... Cyfathrebu a marchnata - Communications and marketing Hogyn - Bachgen Pentref chwarelyddol - A quarrying village Atgyfodi - Resurrect Y diweddar - The late Yn uniongyrchol - Directly Hel atgofion - To reminisce
Felly os dach chi'n nabod rhywun oedd yn un o'r dysgwyr gwreiddiol cysylltwch â Wyn yn y Nant.
Beti a Dai Jones Buodd Dai Jones, Llanilar farw fis Mawrth eleni a chollodd Cymru un o'i chymeriadau mwya lliwgar. Buodd Dai ar nifer o raglenni Cymraeg ar S4C ac ar Radio Cymru gan gynnwys Sion a Sian, Cefn Gwlad ac Ar Eich Cais. Mi gaethon ni gyfle'r wythnos diwetha i glywed rhaglen arbennig, efo Beti George yn sgwrsio efo Dai yn 2002, a dyma i chi flas ar y sgwrs... Tafodiaith - Dialect Gwybyddus - Familiar Rhaff - Rope Llacio - To loosen Llenwi - To fill Mor dynn - So tight Ar ei liniau - On his knees Lan - i fyny Cynhyrfu - To agitate
Y diweddar Dai Jones oedd hwnna'n sôn wrth Beti George am rai o'i anturiaethau.
Dros Ginio Dyfan ac Arfon Gwilym Dau frawd oedd y Ddau Cyn Dau fuodd yn siarad efo Alun Thomas ar Dros Ginio pnawn Llun sef yr actor Dyfan Roberts a'r canwr gwerin, Arfon Gwilym. Dyma nhw'n sôn am eu magwraeth... Anturiaethau - Adventures Awgrymu - To suggest Telynores - Harpist (female) Celfyddydau - Arts Anochel - Inevitable Dylanwadau - Influences Diwylliant - Culture Roedd bri ar y canu - Singing was popular Anogaeth - Encouragement Adrodd - Recitation
Bach o hanes y ddau frawd Dyfan Roberts a Arfon Gwilym ar Dros Ginio.
Gwlad yr Ia Cafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Alaw Edwards o Drefriw, Llanrwst sy'n byw ar hyn o bryd yng Ngwlad yr Iâ. Mae Alaw newydd ddechrau gweithio yno fel au pair ac mae hi'n byw mewn pentre o'r enw Suðureyri, pentre pysgota bach yng ngogledd gorllewin yr ynys. Pam dewisodd fynd yno i weithio tybed? Gwlad yr Iâ - Iceland Argraff - Impression Agwedd - Attitude Penodol - Definite
Tue, 19 Apr 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchTroi'r Tir Lamb Cam Mae'n dymor wyna a llawer o ffermydd erbyn hyn efo camerâu yn y siediau i gadw llygad ar y defaid a'r ŵyn. Mae Fferm Llwyn yr Eos yn Amgueddfa Werin Cymru, St Ffagan, wedi bod yn ffrydio ffilmiau o'r ŵyn bach yn cael eu geni ers blynyddoedd. Dyma Bernice Parker, sy'n gweithio i'r amgueddfa efo'r hanes... Tymor wyna - Lambing season Amgueddfa Werin Cymru - National Museum of History Ffrydio - To stream Yn gyfrifol am - Responsible for Cadw mewn cysylltiad - Keeping in contact Ymatebion - Responses Ar wahân - Apart Yn llythrennol - Literally Darlledu - To broadcast Gwatsio - Gwylio Byd-eang - Worldwide
Felly os dach chi eisiau gweld ŵyn bach yn cael eu geni, dach chi gwybod lle i fynd!
Beti a Carren Lewis Mae Carren Lewis yn dod o Benrhyndeudraeth ger Porthmadog yn wreiddiol, ond dreuliodd cyfnod yn byw yn Marmaris yn Nhwrci. Buodd Carren yn sôn wrth Beti George am yr adeg aeth hi i gartref plant yn Ne Ddwyrain Twrci gan feddwl bod dau blentyn yna iddi hi eu mabwysiadu . Ond siom cafodd hi fel cawn ni glywed yn y clip nesa ma... Cartref plant - Orphanage Mabwysiadu - To adopt Hogan - Merch Dall - Blind Ddaru ni - Wnaethon ni Genod - Merched Cefndir - Background Amgylchiadau - Circumstances
A nes ymlaen yn y sgwrs clywon ni bod Bedri wedi setlo'n iawn efo'i deulu newydd ac newydd gwneud ei arholiadau TGAU.
Newsround 50 Mae'r rhaglen newyddion Newsround yn dathlu ei phenblwydd yn hanner cant eleni a bore Mawrth mi roedd Alex Humphreys, cyflwynydd tywydd S4C sydd hefyd wedi cyflwyno Newsround, yn trafod y rhaglen ac yn esbonio pam mae cyflwyno newyddion i blant yn wahanol i'w gyflwyno i oedolion. TGAU - GCSE Cyflwynydd - Presenter Trwy gydol eu hoes - Throughout their lives Newyddiaduriaeth - Journalism Dyfalu - To guess Yn gyhoeddus - Publicly Trafod - To discuss Cyd-bwysedd - Balance Y buarth - The (school) yard Cyflawn - Complete Gwasanaethau brys - Emergency services
Alex Humphreys oedd honna'n sôn am Newsround, y rhaglen newyddion i blant.
Cloddio Aur Mae Aur Clogau'n enwog ac yn ffasiynol iawn y dyddiau hyn. O ardal Dolgellau daw'r aur ac mae'r daearegwr Elin Mars Jones yn cloddio am yr aur ar hyn o bryd. Dyma hi'n sgwrsio efo Aled Hughes am ei gwaith ... Daearegwr - Geologist Cloddio - To mine Aur - Gold Cynhyrchu - To produce Graddio - To graduate Canfod strwythurau - Finding structures
Hanes cloddio aur Clogau yn fan'na gan Elin Mars Jones.
Huw Foulkes a Côrdydd Weloch chi ffeinal Côr Cymru ar S4C? Wel am gystadleuaeth dda ynde? Côrdydd enillodd a dyma arweinydd y côr Huw Foulkes yn siarad efo Shan Cothi am y noson fawr... Chwys domen - Sweating buckets Wedi gwirioni'n lân - Were over the moon Beirniaid - Adjudicators Hollol gytûn - Unanimous Disgyblaeth - Discipline Cegrwth - Open mouthed Anghrediniaeth lwyr - Total disbelief Wedi dod i'r brig - Had won Byd o les - A world of good Beiddgar - Bold Wedi elwa - Had profited
Huw Foulkes yn amlwg wedi gwirioni efo perfformiad Côrdydd yng nghystadleuaeth Côr Cymru.
Dros Ginio Mam a merch oedd gwestai Dewi Llwyd pnawn Llun yn y slot dau cyn dau. Roedd Eirwen Thomas yn arfer gweithio fel athrawes ac mae ei merch, Elinor Williams, yn un o benaethiaid Ofcom yng Nghymru. Mae'r ddwy'n byw yn agos iawn i'w gilydd ym mhentre bach Llanedi, yn Sir Gaerfyrddin. Yn y clip nesa 'ma mae Elinor yn sôn am ei Alopecia
Penaethiaid - Chjef officers I ddygymod ag o - To cope with it Cyflwr - Condition Moel - Bald Cymhleth - Complicated Pendantrwydd - Determination Tebygolrwydd - Likelyhood
Tue, 12 Apr 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPost Prynhawn - Beryl y Nyrs
Ar Post Prynhawn dydd Llun mi gafodd Nia Cerys sgwrs efo Beryl Roberts, nyrs arbennig sy newydd ymddeol yn 55 oed. Cychwynnodd ei gyrfa yn ysbyty Clatterbridge ac mae hi wedi gweithio gyda chleifion Canser ers hynny yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac yn Wrecsam. Dyma i chi flas ar y sgwrs ... Cleifion - Patients Triniaethau - Treatments Y gweddill - The rest Datblygu - To develop Pennaeth - Head Sgileffeithiau - Side-effects
A phob lwc i Beryl ar ei hymddeoliad ynde?
Beti a Beks
Beks - Rebekah James oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Roedd Beks yn arfer cyflwyno rhaglenni ar Radio Cymru ond erbyn hyn mae hi'n byw yn Hong Kong. Dyma i chi ran o'r sgwrs efo Beti ble mae Becks yn esbonio pam gwnaeth hi werthu ei thŷ, a'i char a rhoi'r gorau i'w gyrfa efo'r BBC ugain mlynedd yn ôl.... Cyflwyno - To present Rhoi'r gorau i - To give up Cwympo - Syrthio Anhygoel - Incredible Delfrydol - Ideal Yn llythrennol - Literally Enfawr - Huge Ysgariad - Divorce Go gyhoeddus - In the public eye
...ac mae Beks yn dathlu ei phenblwydd yn 50 eleni a dw i'n siŵr bydd yna dipyn o ddathlu draw yn Hong Kong.
Aled Hughes - Edina a Lin
Y Gymraeg sydd yn cysylltu Edina Potts-Clement o Hwngary a Lin Dodd o Tsieina ac mae'r ddwy erbyn hyn yn gweithio yn yr un ysgol - Ysgol Gymraeg Caerffili. Gofynnodd Aled Hughes i'r ddwy ohonyn nhw ar ei raglen bore Mawrth pam wnaethon nhw ddysgu Cymraeg
Addysg Cyfrwng Cymraeg - Welsh medium education
Cymraeg yw iaith y dyfodol - clywch clywch Lin.
Bore Cothi - Rich Pooley
Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes fore Iau a buodd hi'n sgwrsio efo Richard Pooley sy'n byw yn Shotton yn Sir y Fflint, ond sy'n dod o Gaerdydd yn wreiddiol ac sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 8 mlynedd. Mae Richard wedi dechrau Clwb Siarad Shotton i roi cyfle i ddysgwyr ac i siaradwyr y Gymraeg yr ardal ddefnyddio'r iaith Ymdrech - Attempt Cylchdaith - Circuit Addas - Appropriate Profiadau - Experiences Cefnogol - Supportive
Syniadau gwych yn fan'na gan Richard Pooley am sut i roi cyfleoedd i bobl ardal Shotton ddefnyddio eu Cymraeg.
Ar Blat - Owain Wyn Evans
Buodd Beca Lyne-Pirkis yn siarad efo Owain Wyn Evans, y cyflwynydd tywydd, ac os dach chi'n cofio llwyddodd Owain i chwarae'r drymiau am 24 awr er mwyn codi arian i Plant Mewn Angen y llynedd. Dyma Owain yn sôn am sut oedd drymio wedi bod o help iddo fo mewn cyfnodau anodd pan oedd o'n ifanc... Cyfnodau - Periods of time Hoyw - Gay Ffonau symudol - Mobile phones Estron - Foreign
Owain Wyn Evans y cyflwynydd tywydd oedd hwnna'n sgwrsio efo Beca Lyne-Pirkis.
Byd Iolo Aeth Iolo Williams ar daith i Allerdale yng ngogledd yr Alban - rhyw awr a hanner i'r gogledd o Inverness ac mi aeth o â ni, gwrandawyr Radio Cymru, ar y daith efo fo.....
Gwarchodfa - Nature reserve Erwau - Acres Hir dymor - Long term Ail-wylltio - Rewilding Ysgubor - Barn Baw - Excrement Ucheldir - Highlands Tylluan - Owl Nythu - To nest Hela - To hunt
Tue, 05 Apr 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchGwneud Bywyd yn Haws - Mirain Rhys Am 6 ar nosweithiau Mawrth mae Hanna Hopwood a'i gwesteion yn trafod be sy'n gwneud bywyd yn haws, a'r thema wythnos diwetha oedd teimladau plant. Dyma glip o'r Dr Mirain Rhys sy'n Uwch Ddarlithydd mewn seicoleg ym Mhrifysgol Met Caerdydd, yn esbonio pa mor bwysig ydy cael plant i feddwl yn bositif, a sut mae'n bosib gwneud hynny efo sylwadau cadarnhaol... Uwch Ddarlithydd - Senior lecturer Sylwadau cadarnhaol - Affirmations Ar hap - Randomly Darbwyllo unigolion - To convince individuals Y gwirionedd - The truth Yn ehangach - Wider Cyflawni - To achieve Gallu - Ability Datblygu - To develop Hyblyg - Flexible Ac i glywed rhagor o'r sgwrs yna rhwng Hanna a'r Dr Mirain Rhys mae'n bosib gwrando eto ar ap BBC Sounds drwy chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws.
Marchnad Llanbed Ychydig o hanes Marchnad Llanbedr Pont Steffan, neu Llambed, sy nesa. Mae'r farchnad wedi ennill gwobr Y Farchnad Orau yng Nghymru gyda'r Slow Food Awards. Dyma ymateb Jane Langford, un o drefnwyr Marchnad Llanbed ac un o'r stondinwyr, Yve Forrest o Cegin Yve i'r wobr... Pleidleisio - To vote Syndod - A surprise Cynhyrch - To produce Ansawdd - Quality Blawd - Flour Cynnyrch - Product Bro Morgannwg - Vale of Glamorgan Awyrgylch gefnogol - Supportive environment Cyfeillgar - Friendly Ychydig o hanes marchnad Llambed ar raglen Troi'r Tir wythnos diwetha.
Hanes cerdded Dach chi erioed wedi meddwl am hanes cerdded? Mae Andrew Green wrthi'n paratoi llyfr am hanes cerdded yng Nghymru. Pa mor bell yn ôl mewn hanes fydd o'n mynd tybed? Dyma fo'n sgwrsio efo Aled Hughes.... Arfordir - Coast Gwledig - Rural Pentwr - Heap Oes - Age Ôl traed - Footprint Darganfod - To discover Andrew Green oedd hwnna'n sôn am ei lyfr newydd am hanes cerdded yng Nghymru.
Bore Cothi a Tom Pitts-Tucker Shan Cothi gafodd air efo Tom Pitts-Tucker fore Mercher. Mae o'n byw ger Trefynwy ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers tua tair blynedd a dyma fo yn rhoi ychydig o'i hanes... Sir Efrog - Yorkshire Mo'yn dychwelyd - Eisiau dod yn ôl Meddygon teulu - GPs Anhygoel - Incredible Her - A challenge Annog - To encourage Diwylliant - Culture Allwedd - Goriad Tom Pitts-Tucker yn esiampl da o'r rhai sy'n dysgu Cymraeg ar ôl symud i fyw i Gymru.
Dwyieithrwydd Dros y Dwr Aeth Ifor ap Glyn i Wlad Belg i ddarganfod mwy am yr iaith Iseldireg yn Fflandrys a Brwsel a'i pherthynas efo'r Ffrangeg. Drwy lwc daeth ar draws Lieven Dehandschutter sydd â'r Iseldireg yn famiaith iddo, ond mae o hefyd yn rhugl yn y Gymraeg. Gwlad Belg - Belgium Iseldireg - Flemish Sefydlwyd - Was established Iaith weinyddol - Administrative language Y werin - The ordinary people Tafodieithoedd - Dialects Rhwydd hynt i ymgryfhau - A free hand to strengthen Pur anaml - Rarely Cellwair - Banter Diddorol ynde? Sefyllfa Iseldireg yng Ngwlad Belg debyg iawn i'r Gymraeg yng Nghymru.
Stiwdio - John Williams Mae'r cyfansoddwr John Williams wedi dathlu ei ben-blwydd yn 90 eleni. Yn ystod ei yrfa mae o wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer rhai o'r ffilmiau mwya eiconig yn hanes y sinema, gan gynnwys Star Wars, Superman, ET a Harry Potter. Efo enw fel John Williams ydan ni'n medru ei hawlio fel Cymro tybed? Wedi'r cwbl roedd ei dad yn cadw siop ym Mangor. Ond yn anffodus Bangor Maine oedd hwnnw ac nid Bangor Gwynedd. Americanwr oedd John Williams a dyma i chi gyfansoddwr arall, Owain Llwyd yn rhoi ychydig o'i hanes i ni...
Hawlio - To claim Cyfansoddwr - Composer Cyflawni - To achieve Enwebu - To nominate Parch - Respect Symlrwydd - Simplicity Cerddorfa - Orchestra Canadwy - Singable Ysbrydoli - To inspire Cyfarwyddwr - Director
Tue, 29 Mar 2022 13:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchCofio 'Theatr' Byd y Theatr oedd thema Cofio efo John Hardy ac mae byd y theatr Gymraeg wedi newid yn llwyr dros yr hanner canrif diwetha. Dyma Falmai Jones yn cofio sut gychwynnodd ei gyrfa hi a sut arweiniodd hynny at ffurfio'r theatr gymunedol Theatr Bara Caws... Cynulleidfaoedd Audiences Does bosib Surely Perthnasol Relevant Egin A bud Yn gorfforol Physically Sefydlog Settled Gwreiddiau Roots Heb fawr o bres Without much money Atgof Memory Peth a peth This and that
Falmai Jones oedd honna'n cofio dechreuad Theatr Bara Caws.
Gwneud Bywyd yn Haws - Naomi Saunders Mae gan Naomi Saunders dros gant o blanhigion yn ei chartref ac mae hi wrth ei bodd yn tyfu ffrwythau, llysiau a phlanhigion cartref, ond sut dechreuodd y diddordeb yma? Planhigion Plants Sbïo Edrych Nain a Taid Mam-gu a Tad-cu Ailgydio To resume Addurno To decorate Naomi Saunders yn fanna yn sôn am ei phlanhigion ar Gwneud Bywyd yn Haws.
Aled Hughes ac Elis James Buodd Elis James yn trafod dyfodol yr iaith efo Aled Hughes fore Iau a gofynnodd Aled iddo fo pam ein bod ni yng Nghymru'n poeni cymaint am y Gymraeg... Pryder naturiol Natural concern Ysgwyddo'r baich Shouldering the burden Cyfrifoldeb Responsibility Ymgyrchu Campaigning TGAU GCSE Dan warchae Under siege Bygythiad Threat Amddiffynnol Defensive Cefndryd Cousins Daioni Goodness ... a gobeithio'n wir bydd merch bach Elis yn dal ati efo'r Gymraeg draw yn Llundain, ynde?
AR BLAT - Beca a Mari Cyfres newydd ydy Ar Blât ac yn y clip nesa mi gawn ni glywed Beca Lyne-Pirkins a Mari Løvgreen yn trafod popeth "bwyd" ac yn enwedig bwyd cysur. Cyfres Series Bwyd cysur Comfort food Brenhines Queen Hallt Salty Llawdrwm Heavy handed Wystrys Oyster Mae'n amlwg bod Mari Løvgreen wir yn mwynhau cinio dydd Sul ei mam yn tydy?
Aled Hughes a Dr Jonathan Hurst Mae'r Dr Jonathan Hurst yn dod o Stockport yn wreiddiol ac yn byw yn Lerpwl. Mae o'n gweithio yn y Liverpool Women's Hospital ac yn Ysbyty Plant Alder Hey. Mae o wedi dysgu Cymraeg er mwyn siarad yr iaith efo'i gleifion o Gymru. Mi fydd Jonathan yn derbyn gwobr Dathlu Dewrder 2022 am wneud gwahaniaeth gwerthfawr i fywydau teuluoedd o ogledd Cymru drwy ddysgu Cymraeg a'i defnyddio efo'r cleifion. Cleifion Patients Gwobr Dathlu Dewrder Celebrating Bravery Award Gwahaniaeth gwerthfawr A valuable difference Cysylltiad Connection Babanod Babies Genedigaeth Birth Sylweddoli To realise Cymhleth Complicated Ystyried To consider Gwych iawn ynde, mae Jonathon yn llawn haeddu'r wobr yn tydy ?
Llythyr o Wcrain Dydd Iau ar Radio Cymru mi glywon ni gyfieithiad o ail lythyr yr awdur o Wcrain Andrey Kurkov, a'r tro 'ma gaethon ni ychydig o hanes ei frawd a'i deulu. Ifan Huw Dafydd oedd yn darllen. Llawn haeddu Fully deserves Droeon Several times Myfyrio To meditiate Pwyllog Measured Brwydro ffyrnig Fierce fighting Bochdew Hamster Cymharol ddiogel Comparatively safe Arfau Weapons Ffynnon A well Sythu Freezing
Tue, 22 Mar 2022 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchGeraint Lloyd a Ann Cooper Athrawes gelf oedd Anne Lloyd Cooper cyn iddi hi ymddeol ond rŵan mae ganddi fusnes yn gwerthu gwawdluniau , neu 'caricatures'. Roedd hi wedi gwneud un o Geraint Lloyd ac roedd yn falch iawn ohono fo, ond sut a pham wnaeth Ann ddechrau gwneud y lluniau 'ma? Dyma hi'n dweud yr hanes wrth Geraint... Gwawdluniau - Caricatures Graddio - To graduate Degawdau - Decades Gwerth chweil - Worthwhile Tomen o luniau - Heaps of pictures Gweddill - The rest Elfennau - Elements Anne Lloyd Cooper o Gapel Garmon yn Sir Conwy oedd honna yn sôn am ei busnes gwneud gwawdluniau.
Stiwdio Shirley Valentine Ar y podlediad wythnos diwetha clywon ni Manon Eames yn sôn am ei haddasiad hi o'r ddrama Shirley Valentine. Mae'r ddrama ar daith o gwmpas Cymru ar hyn o bryd ac mi aeth Branwen Cennard i'w gweld. Shelley Rees-Owen oedd yn cymryd rhan Shirley, sut hwyl gaeth hi tybed? Cafodd Nia Roberts sgwrs efo Branwen ar raglen Stiwdio... Addasiad - Adaptation Camu - To step Ysgubol - Sweeping Her aruthrol - A huge challenge Yn llythrennol - Literally Cyfathrebu - To communicate Cael eich denu - Being drawn into Menyw - Merch Cyffwrdd - To touch Roedd Branwen Cennard yn amlwg wedi mwynhau 'Shirley Valentine' yn doedd?
Bore Cothi gwylio adar Mae'r Dr Emyr Wyn Jones, meddyg o Doncaster, yn mwynhau byd natur a thynnu lluniau o adar ar gyfer ei gyfrif trydar. Dechreuodd ei ddiddordeb pan oedd yn fachgen ifanc ym Mhwllheli ac mae o wrth ei fodd efo enwau Cymraeg yr adar. Dyma ran o sgwrs cafodd Shan Cothi efo fo... (c)hwyaid - Ducks Dylanwad - Influence Bywydeg - Biology Modrwyon - Rings Brych y coed - Mistle thrush Gylfinir - Curlew Siglo - Waging Cnocell y coed - Woodpecker Troellwr bach - Grasshopper warbler Telor yr helyg - Willow warbler Tydy enwau Cymraeg ar adar yn wych 'dwch? Dw i wrth fy modd efo 'cnocell y coed' - dach chi'n medru ei glywed yn cnocio wrth ei enwi yn tydach?
Beti a'i Phobol Siân Elen Siân Elen Tomos ydy Prif Weithredwr GISDA, elusen sy'n cefnogi rhai sy'n ddigartref rhwng 16-25 oed yn y gogledd, a hi oedd gwestai Beti George. Prif Weithredwr - Chief Executive Digartrefedd - Homelessness Cynnydd - Increase Cynllunio - Planning Datblygu - To develop Darpariaeth - Provision Llety - Accommodation Buddsoddiad - Investment Y galw - The demand Rhestri aros - Waiting lists Siân Elen Tomos, o GISDA yn fan'na yn esbonio sut mae digartrefedd yn broblem fawr i bobl ifanc y gogledd.
Sam Robinson Mae Sam Robinson o Rydychen yn wreiddiol, wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair mlynedd. Mae o'n byw ym Machynlleth erbyn hyn yn ffermio ac adeiladu waliau. Cafodd o sgwrs hir efo Dei Tomos a dyma i chi ran o'r sgwrs ble mae o'n sôn am pryd clywodd o'r Gymraeg am y tro cynta... Rhydychen - Oxford Y Goron - The (Eisteddfod) Crown Barddoniaeth - Poetry Mynnu - To insist Adrodd - Narrating Ymwybodol - Aware Cydio - To take hold of Uffernol - Hellish Mewnfudwyr - Immigrant Safle - Position Doedd dim eisiau i Sam boeni am ei Gymraeg o gwbl, nac oedd?
Llythyr o Wcrain Dydd Iau ar Radio Cymru clywon ni gyfieithiad o waith yr awdur o Wcrain Andrey Kurkov, sy'n edrych yn ôl ar ddigwyddiadau yr wythnosau diwetha yn y wlad ac ar sut gwnaeth ei deulu ddianc o'u cartref yn Kyiv. Ifan Huw Dafydd oedd yn darllen. Mae'n bosib gwrando ar y llythyr ar BBC Sounds ac mi fydd llythyr arall wythnos nesaf. Dianc - To escape Llawenydd - Happiness Gofidiau - Worries Ffrwydrad - Explosion Pwyllo - To pause Rhyfel - War Ochneidio - To sigh Adnabyddus - Enwog Cymhlethdodau - Complications Difetha - To spoil
Tue, 15 Mar 2022 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBore Cothi Ieuan Rhys I le fasech chi'n licio mynd ar fordaith? Mwynhau'r haul 'falle yn y Caribî, neu teithio o gwmpas ynysoedd Môr y Canoldir? Nid dyna oedd ateb y diddanwr Ieuan Rhys i gwestiwn Heledd Cynwal fore Llun... Mordaith - Cruise Diddanwr - Entertainer Gwlad yr Iâ - Iceland Taro deuddeg (idiom) - To strike a chord Twym - Poeth Chwysu - To sweat Trwchus - Thick Tirwedd - Lanscape Oefad - Nofio Trais - Crime Helen Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi'n gynnes ac yn holi Ieuan Rhys am ei fordaith ddelfrydol.
Bore Sul Non Evans Bore Sul cafodd Iwan Griffiths sgwrs efo'r cyn chwaraewr rygbi Non Evans a sôn i ddechrau am ei magwraeth yn y Fforest ger Abertawe. Mae Non wedi ennill 87 o gapiau dros Gymru a hefyd wedi cystadlu dros ei gwlad mewn Jiwdo, Reslo a chodi Pwysau! Delfrydol - Ideal Cyn chwaraewr - Former player Magwraeth - Upbringing Lan - Fyny Dodi - Rhoi Ro'n i'n dwlu - Ro'n i wrth fy modd Codi pwysau - Weightlifting Ffurflen gais - Application form Ymgeisio - To apply Menywod - Merched Non Evans oedd honna'n sôn am ei magwraeth a hynny'n esbonio llawer am Non Evans, yr oedolyn sy'n hynod o heini.
Troi'r Tir Rebecca Morris o Gasblaidd, Sir Benfro sy'n siarad yn y clip nesa. Mae hi'n ffermio efo'i phartner ac yn godro defaid er mwyn gwneud caws defaid. Mae'r ddau newydd ddechrau busnes Ewenique Spirits lle mae nhw'n creu fodca sydd a 'whey', neu maidd, ynddo fo, sef y gwastraff sydd i'w gael ar ôl gwneud caws o'r llaeth defaid. Godro - To milk Maidd - Whey Llaeth - Llefrith Gwastraff - Waste Sefydlu - To establish Arbrofi - To experiment Cyfrinach - A secret Wel, whe-he a phob lwc efo'r fodca arbennig ynde?
Gwyl lyfrau Llyfrau plant oedd yn cael sylw Hanna Hopwood a'i gwesteion ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, a buodd Jo Knell yn sôn am y cynghorion mae hi wedi eu paratoi ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n dysgu Cymraeg, fel rhan o Ŵyl Ddarllen 'Amdani' Cynghorion - Tips Mas - Allan Datblygiad iaith - Language development Ynganiad - Pronunciation Mwya poblogaidd - Most popular I glywed rhagor o sgwrs Hanna Hopwood efo Jo Knell fel rhan o Ŵyl Ddarllen 'Amdani' Y Ganolfan Ddysgu Cymraeg Cenedlaethol, ewch i chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws yn ap BBC Sounds
Stiwdio Manon Eames Ar Stiwdio nos Lun diwetha, mi roedd Nia Roberts yn sgwrsio efo'r awdures Manon Eames am gynhyrchiad Cymraeg newydd o glasur Willy Russell, "Shirley Valentine". Nid dyma'r tro cynta i Manon addasu'r ddrama hon ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac fel mae hi'n egluro, y tro 'ma mae hi wedi wedi newid cyfnod a lleoliad y ddrama. Cynhyrchiad - Production Addasu - To adapt Cyfnod a lleoliad - Period and location Perthnasol - Relevant Gwirionedd - Truth Degawd - Decade Trafferth - Difficulties Ail-asesu - To reassess Unigrwydd - Loneliness Cynulleidfa - Audience Cyffyrddiadau - Touches Manon Eames yn fan'na yn sôn am 'Shirley Valentine ' drama Gymraeg sydd yn teithio theatrau Cymru ar hyn o bryd.
Trystan ac Emma Dach chi wedi gwneud rhywbeth gwirion erioed, a theimlo'n rêl ffŵl wedyn? Dyna ddigwyddodd i Trystan pan oedd o'n perfformio efo Band Pres Deiniolen. Dyma fo'n dweud yr hanes... Pres - Brass Llwyth - Loads Dibrofiad tu hwnt - Extremely inexperienced Sul y Cofio - Remembrance Sunday Y gofgolofn - The monument Deutha fi - Dweud wrtha i Yn ddistawach - Quieter Atgofion - Memories
Tue, 08 Mar 2022 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchShan Cothi a Geraint Jones Sut mae gwneud y dorth berffaith? Wel roedd hi'n wythnos Real Bread Week wythnos diwetha ac ar Bore Cothi mi gafodd Shan farn y pobydd Geraint Jones. Mae Geraint a'i wraig yn berchen ar fecws yn Llydaw a dyma oedd ganddo fo i'w ddweud wrth Shan... Llydaw - Brittany Burum - Yeast Toes - Dough Lefain - Leaven Crasu - To bake Codi chwant - To whet the appetite Malu - To mill Ffwrn - Popty Troad y ganrif diwetha - Turn of the last century Naws neilltuol - Special quality
Geraint Jones yn fan'na yn codi chwant ar Shan Cothi, ac arnon ni i gyd dw i'n siŵr!
Troi'r Tir Sam Robinson Mae'r bugail Sam Robinson yn dod o Rydychen yn wreiddiol ond mae o'n byw ym Mro Ddyfi yng ngogledd Powys erbyn hyn. Fel cawn ni glywed ar Troi'r Tir mae o erbyn hyn yn rhugl yn y Gymraeg ac yn mwynhau cymryd rhan yn y gymuned leol. Bugail - Shepherd Rhydychen - Oxford Athroniaeth - Philosophy Ta waeth - Beth bynnag Anhygoel - Incredible Tafodiaith - Dialect Hardd - Beautiful Gwirioni - Dwlu ar Tirwedd - Landscape Cyfoeth - Wealth
A Sam wedi codi acen hyfryd Gogledd Powys yn ogystal. Tasech chi eisiau dysgu mwy am Sam buodd erthygl amdano yn ddiweddar ar Cymru Fyw.
Post Prynhawn Brownies Pam bod criw o Brownies Tunbridge yng Nghaint yn cael cyfarfod Zoom efo Brownies Y Felinheli yng Ngwynedd? Carole Boyce oedd yn gyfrifol am drefnu'r digwyddiad a dyma hi'n rhoi'r hanes ar Post Prynhawn... Caint - Kent Rhwydwaith Menywod Cymru - Welsh Women's Network Ymateb - Response Cyflwyno - To introduce Ymwybodol o fodolaeth - Aware of the existance Heol - Ffordd Cyfarwydd - Familiar Cangen - Branch Daearyddiaeth - Geography
Ac yn ogystal â dysgu Cymraeg i Brownies Caint mae Carole yn diwtor Cymraeg i Oedolion yn dysgu dosbarthiadau ar-lein i ddysgwyr Sir Benfro a dysgwyr Prifysgol Bangor.
Aled Hughes Virginia a Porthcawl Ond dysgwyr o Virginia yng ngogledd America, ac o Borthcawl fuodd yn sgwrsio efo Aled Hughes wythnos diwetha. Beth ydy'r cysylltiad rhwng Anne De Marsay o Virginia, ag un o athrawon Ysgol Gynradd Newton ym Mhorthcawl, Henley Jenkins? Cawn wybod mewn munud ond i ddechrau dyma Anne yn dweud sut aeth hi ati i ddysgu Cymraeg. Medden nhw - They said Hudolus - Magical Ystod eang - A wide range Gwych ynde? Dysgu Cymraeg yn dod â phobl ar draws y byd at ei gilydd ac yn help i blant ysgol Cymru yn ogystal.
Cofio Enwau Dodo Rŵan ta - 'dodo' . Na, ddim fel yn 'dw i'n 'dod o' Gymru, a dim fel yr aderyn oedd yn arfer byw yn Mauritius. Na, mae 'dodo' yn hen air Cymraeg a dyma'r Dr Sara Louise Wheeler sy'n arbenigo ar enwau o bob math ,yn sôn am ei chysylltiad personol hi â'r gair... Arbenigo - To specialize Atgyfodi - To resurrect Nithoedd - Nieces Gan gynnwys - Including Ffurfiol - Formal Dilyniant - Sequel Tarddiad - Source Byddar - Deaf Ysgol breswyl - Boarding school Un genhedlaeth - One generation
Mae'n braf cael clywed am hen enwau'n cael eu hatgyfodi yn tydy?
Bore Sul Tomos Parry Tomos Parry oedd gwestai Elliw Gwawr fore Sul. Mae Tomos yn dod o Ynys Môn yn wreiddiol ac mae o'n yn berchen ar fwyty Brat yn Llundain. Mae gan y bwyty un seren Michelin ac fel cawn ni glywed mae gan Tomos gynlluniau i agor rhagor o fwytai yn y ddinas fawr... Yn amlwg - Obviously Uchelgais - Ambition Datblygu - To develop
Tue, 01 Mar 2022 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchMali Ann Rees Bore Sul
Bore Sul diwetha roedd yr actores Mali Ann Rees yn sgwrsio efo Betsan Powys am ei bywyd a'i gyrfa. Aeth Mali i goleg drama adnabyddus, ond fel clywon ni yn y sgwrs, doedd y cyfnod yn y coleg ddim yn un hawdd iddi hi.
Adnabyddus - Enwog Cyfnod - Period (of time) Her - A challenge Lan - Fyny Cyfarwyddwyr - Directors Goroesi - Surviving Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Ystyried - To consider Ta beth - Beth bynnag
Da clywed, ynde, bod penderfyniad Mail i ddal ati yn benderfyniad cywir, ac ei bod yn medru gwneud gyrfa i'w hunan fel actores.
Troi'r Tir
Mae Dai Jones yn dod o Gapel Bangor yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae o'n gweithio fel rheolwr fferm Woodlands ger Greenwich yn Llundain. Fferm gymuned yw hon a dyma Dai yn esbonio beth sy'n digwydd ar y fferm ar Troi Tir...
Cymuned - Community Cyfer - Acre Gwenith - Wheat Gwirfoddolwyr - Volunteers Gwartheg - Cattle Hwch - Sow Gwair - Hay Syndod - A surprise Argraff - Impression Pwysau - Pressure
Hanes beth sy'n digwydd ar fferm gymuned yn Llundain ar Troi'r Tir yn fan'na.
Beti a Edward Keith Jones
Edward Keith Jones oedd gwestai Beti George, a fo ydy Prif Ymgynghorydd Newid Hinsawdd Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr 8 mis diwetha mi gafodd salwch difrifol a buodd o yn yr ysbyty am wythnosau. Yn y clip yma mae o'n sôn am sut mae'r cyfnod hwnnw o salwch wedi newid y ffordd mae o'n edrych ar y byd ac ar y blaned...
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol - National Trust Prif ymgynghorydd - Chief consultant Newid hinsawdd - Climate change Difrifol - Serious Llai o amynedd - Less patience Llewygu - To faint Ymennydd - Brain Dynol - Human Anadlu - To breathe Llwyth - Loads
Edward Keith Jones oedd hwnna o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn swnio'n benderfynol iawn yn doedd? Beth arall fasech chi'n ddisgwyl gan ddyn ddringodd pob mynydd yng Nghymru, 183 ohonyn nhw, i ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant.
Munud i Feddwl Casia William
Yr awdures a'r bardd Casia William oedd yn rhoi munud i feddwl i ni fore Mercher a buodd hi'n sôn am y gêm sydd wedi troi'n ffenomenom ar draws y byd - Wordle
Penderfynol - Determined Yn eiddgar - Fervently Cynifer ohonom - So many of us Wedi cael ein hudo - Have been captivated Ehangu - To expand Yn gynyddol anghyfartal - Increasingly unequal Tegwch - Fairness Methdalwr - A bankrupt Byd-eang - Worldwide Cyfiawnder - Justice
Casia William yn rhoi munud i ni feddwl am pa mor anghyfartal ydy'r byd y dyddiau hyn.
Bore Cothi Syr Geraint Evans
Ar Bore Cothi buodd y bas bariton Anthony Stuart Lloyd yn rhoi ychydig o gefndir y canwr byd enwog Syr Geraint Evans fasai wedi dathlu ei ben-blwydd yn gant oed ar Chwefror un deg chwech eleni. Dechreuodd drwy sôn am y stryd lle cafodd Syr Geraint ei eni - stryd reit enwog a dweud y gwir...
Arweinydd - Conductor Menywod - Merched Rhyngwladol - International Ysgrifennydd Cartref - Home Secretary
Rhyfedd ynde, bod cymaint o enwogion wedi cael eu geni mewn un stryd fach yng Nghilfynydd ger Pontypridd.
Bore Cothi Sophie Tuckwood
Arhoswn ni efo Bore Cothi am y clip ola. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo Sophie Tuckwood sy'n dod o Nottingham yn wreiddiol ond sy'n byw yn Hwlffordd erbyn hyn. Mae Sophie wedi dysgu Cymraeg cystal fel ei bod wedi dechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg i oedolion, ac fel cawn ni glywed enillodd hi wobr arbennig iawn llynedd
Hwlffordd - Haverfordwest Gwobr - Award Yr ifanca - Y fenga Cwympo - Syrthio Trwy gyfrwng - Through the medium of
Tue, 22 Feb 2022 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBore Cothi ac Aled Jones
Dach chi wedi bod yn gwylio 'The Masked Singer'? Rhaglen ydy hon lle mae pobl enwog yn canu mewn gwisgoedd sydd yn cuddio pob rhan o'r corff, fel bod neb yn medru eu nabod nhw. Tasg y panel oedd dyfalu pwy oedd y tu ôl i'r wisg. Roedd y ffeinal nos Sul ac mi ddaeth y Gymraes Charlotte Church yn ail - hi oedd 'Mushroom'. Ond roedd Cymro yn y gystadleuaeth hefyd, Aled Jones - a fo oedd "Traffic Cone". Bore Mercher ar Bore Cothi mi gaeth Shan Cothi sgwrs efo Aled am y rhaglen...
Dyfalu - To guess Yr ail gyfres - The second series Chwyslyd - Sweaty O mam bach - OMG Taith Gadeirlan - The Cathedral Tour
CYMRU CARWYN Evan James
Ac os gweloch chi'r ffeinal - mi roddodd Charlotte Church gliw Cymraeg i'r panel, y gair 'modryb' - ond doedd hynny ddim wedi helpu'r panel o gwbl gan fod neb ohonyn nhw'n deall Cymraeg!
Mae Carwyn Jones yn teithio o gwmpas Cymru ac yn rhannu ychydig o hanes y llefydd mae o'n ymweld â nhw efo gwrandawyr Radio Cymru. Nos Iau, mi fuodd o ym Mhontypridd a chael hanes cynnar Evan James, sef awdur cân sy'n cael ei chlywed yn aml ar hyn o bryd yn ystod y gemau rygbi rhyngwladol... ia, yr anthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau . Dyma Gwen Griffiths....
Rhyngwladol - International Hynafol - Ancient Diwylliant - Culture Melin wlân - Woolen Mill Ar bwys - Wrth ymyl Cynhyrfus - Exciting Y Chwyldro Diwydiannol - The Industrial Revolution Camlas - Canal Beirdd - Poets Blaengar - Progressive
Cofio - Nigel Owens yn ymddeol
Gwen Griffiths oedd honna'n rhoi ychydig o hanes Evan James awdur geiriau 'Hen Wlad fy Nhadau' wrth Carwyn Jones.
Ymddeol oedd pwnc Cofio wythnos yma a chafodd John Hardy sgwrs efo Nigel Owens sydd wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi rhyngwladol ers dros dwy flynedd erbyn hyn. Gofynnodd John iddo fo oedd o'n colli'r dyfarnu o gwbl...
Dyfarnwr Rygbi Rhyngwladol - International Rugby referee Gweld eisiau - To miss Torf - Crowd Trosgais - Conversion Ysgol gyfun - Comprehensive school Y diweddar - The late Yn galetach - Harder Nawr ac yn y man - Now and then Cyfrifoldeb - Responsibility
Ifan a Tom Bwlch
Nigel Owens yn cadw ei hun yn brysur ar y fferm ar ôl iddo fo ymddeol fel dyfarnwr rygbi rhyngwladol. Pnawn Mercher mi gafodd Ifan Evans sgwrs efo ffarmwr bach arall, Tomos Lewis, un ar ddeg oed o Ddihewyd ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion. Mae Tomos wedi cymryd rhan yn rhaglen Cefn Gwlad efo Ifan yn 2020 ac mae wedi sôn wrtho fo o'r blaen ei fod wedi mynd i drafferthion yn yr ysgol am roi mwy o sylw i ffermio nag i'w waith ysgol. Dyma fo dweud wrth Ifan beth ddigwyddodd pan anghofiodd Tomos wneud ei waith cartref...
Trafferthion - Trouble Ambyti e - Amdano fo Rhwydd - Rhwydd Y Da a'r lloi - The cattle and calves Drygioni - Mischief Safle - Position Bachwr - Hooker Sa i'n gwybod - Dw i ddim yn gwybod Cais - A try Chwaled - A rout
Aled Hughes a Andrew White Star Wars
Dw i'n siŵr bod Tomos wedi mwynhau'r gêm ddydd Sadwrn gan fod Cymru wedi curo'r Alban o ugain pwynt i un deg saith.
Y Millennium Falcon ydy llong ofod mwya adnabyddus ffilmiau Star Wars, ond oeddech chi'n gwybod mai yn Noc Penfro cafodd y llong ei hadeiladu? Mi gaeth Aled Hughes sgwrs efo Andrew White o gronfa'r loteri i sôn am brosiect i greu arddangosfa yn Noc Penfro i ddathlu'r ffaith fod y Millennium Falcon wedi cael ei hadeiladu yno yn y 70au.
Adnabyddus - Famous Llong ofod - Space ship Arddangosfa - Exhibition Byd eang - Worldwide Sïon - Rumours Cyfrinach - Secret Denu - To attract Adfywiad economaidd - Economic renewal Atgyfnerthu - To strenghen Teimlad o falchder - Feeling of pride
Ar y Marc Lowri Serw Aled Hughes yn fan'na yn cael tipyn o hanes adeiladu'r Millenium Falcon yn Noc Penfro.
Mae Lowri'n dod o Lanrwst ac yn gweithio fel nyrs iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Ond mae hi hefyd yn ffan mawr o dîm pêl-droed Wrecsam. Mae hi wedi sefydlu grŵp sgwrsio ar gyfer merched sy'n cefnogi Wrecsam fel un ffordd o helpu efo unrhyw broblemau iechyd meddwl. Beth sy'n digwydd yn y sesiynau tybed? Dyma Lowri'n sgwrsio ar Ar y Marc
Sefydlu - To establish Cymuned - Community Gwerthfawrogi - To appreciate Gwamalu - To vacillate Angerddol - Passionate Boed - Whether it be Llifo drwy dy wythiennau - Flowing through your veins Gôl-geidwad - Goalkeeper Y Wefr - The thrill
Tue, 15 Feb 2022 14:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1. Theo Davies-Lewis a Beti ai Phobol
Buodd Beti George yn sgwrsio efo Theo Davies-Lewis y sylwebydd gwleidyddol sydd wedi sgwennu colofnau i'r Spectator, y Times a fo ydy prif sylwebydd gwleidyddol National Wales. Mae o hefyd i'w glywed ar Radio Cymru yn gyson yn trafod materion gwleidyddol a gofynnodd Beti iddo fo sut dechreuodd ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth...
Sylwebydd gwleidyddol - Political commentator Y chweched - The sixth form Ymgyrch - Campaign I ryw raddau - To an extent Llwyfan cenedlaethol - National stage Senedd ieuenctid - Youth parliament Rhydychen - Oxford Cyfweliadau - Interviews Darlledu - Broadcasting San Steffan - Westminster
2. Iwan Griffiths a Delme Thomas
Mae Theo Davies-Lewis yn brysur iawn fel sylwebydd gwleidyddol ac mae hi'n anodd credu mai dim ond 24 oed ydy o, yn tydy? Bore Sul diwetha Iwan Griffiths oedd yn cyflwyno rhaglen Bore Sul ac mi gafodd o gwmni'r cyn chwaraewr rygbi Delme Thomas a dyma Delme'n sôn am gael ei ddewis i chwarae dros y Llewod am y tro cynta yn 1966.
Cyn chwaraewr - Former player Y Llewod - The Lions Tu fas - Outside Llys-dad - Stepfather Atgofion - Memories Y mwya llwyddiannus - The most successful Y gyfres - The series
3. Bore Cothi - Sbeisys ar fwyd
Delme Thomas oedd hwnna'n sôn am y teithiau buodd o arnyn nhw efo'r Llewod. Bore Llun mi fuodd yr hanesydd bwyd, Elin Williams yn sôn am beth i roi ar fwydydd yn lle halen, a dyma hi'n esbonio wrth Shan Cothi am y gwahaniaeth mae ychwanegu perlysiau'n medru ei wneud i'r bwyd....
Ychwanegu - To add Perlysiau - Herbs Gweini - To serve (food) Yn gynhenid - Inherently Yn draddodiadol - Traditionally Hwb - A boost Rhwydd - Hawdd Mawn - Peat Corgimychiaid - Prawns Lleithder - Moisture
4. Bore Cothi - Blwyddyn Newydd Tsieineaidd
Ac mi wnawn ni aros gyda Bore Cothi am y clip nesa 'ma. Bore Mawrth buodd Shan yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ac yn sgwrsio efo Karl Davies, sy'n dysgu Saesneg i oedolion yn ninas Foshan, yn Tsieina. Blwyddyn y Teigr ydy hi eleni...
Sidydd - Zodiac Angerddol - Passionate Dewr - Brave Llonydd - Placid Cwningen - Rabbit Ymerawdwr - Emperor Ych - Ox Nofiwr glew - A courageous swimmer Cyn gynted â - As soon as Baedd - Boar
5. Geraint Lloyd a Simon Owen Williams
Karl Davies oedd hwnna'n sôn ychydig am ddathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineadd efo Shan Cothi. Nos Fercher, mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Simon Owen Williams sy'n gweithio yn America. Mae'n Bennaeth ar ysgol breifat yn Long Island Efrog Newydd ac mae'n siarad y Wenhwyseg, sef tafodiaith arbennig de-ddwyrain Cymru.
Efrog Newydd - New York Tafodiaith - Dialect Crwt - Hogyn Trais - Violence Ymadrodd - Phrase Safonol - Standard Hunan ddysgedig - Self taught Mam-gu - Nain Wilia - Siarad Aelwyd - Hearth
6. Trystan ac Emma - Nel y Parot
Mae'n braf clywed y Wenhwyseg yn fyw ac yn iach yn Efrog Newydd yn tydy? Dw i'n siŵr basai Nel, parot Mari Lloyd o Gommins Coch, yn medru dynwared Simon yn siarad y Wenwyseg. Mae Nel eisoes yn medru dynwared dwy acen Gymraeg, fel clywodd Trystan ac Emma fore Gwener...
Dynwared - To mimic Eisoes - Already Synau - Sounds Pert - Pretty Anferth - Huge Hardd - Beautiful Plu - Feathers Uniaith - Monolingual (acen) Gog neu Hwntw - A north Wales or south wales accent
Tue, 08 Feb 2022 14:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1. Beti a'i Phobol a Rebecca Roberts
Buodd Beti George yn sgwrsio efo'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi sgwennu pedair nofel ac wedi ennill sawl gwobr am ei llyfrau. Yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad efo anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel rhai merch yr awdur. Roedd Rebecca wedi bod yn ymgyrchu i gael Llywodraeth Cymru i awdurdodi ysbytai i wario ar goesau a breichiau prosthetig. Dyma hi'n sôn wrth Beti sut cafodd hi wybod bod yr ymgyrch wedi llwyddo...
Anabledd - Disability Ymgyrchu - To campaign Llywodraeth Cymru - The Welsh Government Awdurdodi - To authorize Arbenigol - Specialized Byd o wahaniaeth - A world of difference Deisebu - To petition Arbenigedd - Expertise Gwaith ymchwil - Research Dadlau fy achos - Arguing my case Rhoi cynnig arni - To give it a go
2. Cymru Carwyn Iau efo Max Boyce
Rebecca Roberts oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George am y gwahaniaeth mae cael coesau prosthetig wedi gwneud i fywyd ei merch. Yn y gyfres Cymru Carwyn mae Carwyn Jones yn trafod y pethau sy'n gwneud Cymru'n wlad mor arbennig, yn enwedig felly pobl a hanes y wlad. Yn y clip nesa mi gawn ni glywed Carwyn yn sgwrsio gydag un o drysorau mwya Cymru, Max Boyce.
Cymuned - Community Sylw - Attention Dwlu bod - Wrth fy modd bod Hollol lofaol - Predominantly coalmining Prydferth - Beautiful Mo'yn - Eisiau
3. Aled Hughes a Mirain Iwerydd
Carwyn Jones oedd hwnna'n sgwrsio gyda Max Boyce. Mi roedd Mr Urdd yn gan mlwydd oed wythnos diwetha ac mi lwyddodd yr Urdd i ddathlu'r pen-blwydd mewn steil drwy dorri record y byd am y nifer mwya o fideos o bobl yn canu'r un gân sef Hei Mistar Urdd. Bore Mercher mi roedd y cyflwynydd Mirain Iwerydd yn sgwrsio efo Aled Hughes am y cyfleoedd mae hi wedi eu cael efo'r Urdd gan gynnwys taith i Batagonia. Dyma Mirain yn sôn am y daith arbennig honno...
Cyflwynydd - Presenter O bob cwr - From every corner Y Wladfa - The Welsh settlement in Patagonia Diolchgar - Thankful Cyffelyb - Equivalent Hala ni mas - Anfon ni allan Llwyfan - Stage Lledaenu - Spread Neges Ewyllys Da - The Peace and Good Will Message Cyfrinach - Secret Ymwybodol - Aware
4. Betsan Powys ac Owain Wyn Evans
Mirian Iwerydd yn fan'na yn sôn am rai o'r pethau pwysig mae'r Urdd yn ei wneud. Mae Owain Wyn Evans yn gyfarwydd wrth gwrs fel cyflwynydd y newyddion a'r tywydd, ond yn ddiweddar mae o hefyd wedi dod yn enwog am ei ddrymio. Ar gyfer Plant Mewn Angen buodd o'n drymio am ddau ddeg pedair awr a chodi swm anhygoel o arian. Dyma fo'n datgelu mewn sgwrs efo Betsan Powys faint o bres yn union a godwyd...
Cyfarwydd - Familiar Pedair awr ar hugain- 24 hours Anhygoel - Incredible Datgelu - To reveal Taw - Mai Amlwg - Prominent Cefnogaeth - Support Anferth - Huge Her - A challenge Ffili - Methu
5. Isio Babi
Tri phwynt wyth miliwn o bunnau- dyna swm anhygoel ynde? Nos Fercher mi glywon ni stori Carys Barratt a'i gŵr, Craig, fuodd yn trio cael babi am flynyddoedd. Mae'r rhaglen yn dilyn hanes Carys dros y misoedd pan oedd hi'n paratoi i gael triniaeth IVF, misoedd o obaith ac o siom. Dyma Carys yn rhoi ychydig o gefndir i ni...
Triniaeth - Treatment Cefndir - Background Di-Gymraeg - Ddim yn siarad Cymraeg Gofal plant - Childcare Ffodus - Lwcus Llonni - Gwneud yn hapus Ar waith - Working
6. Trystan ac Emma a Mot y ci
Pob lwc i Carys ac i Craig ynde? Ac i orffen , dyma i chi hanes anhygoel Mot y ci, aeth ar goll am 5 wythnos. Aeth Tecwyn Vaughan Jones o Fae Colwyn â Mot am dro ond rhywsut aeth y ci ar goll. Ar ôl i Tecwyn chwilio a chwilio efo help cymdogion, drones, yn wir help y gymuned gyfan, o'r diwedd gwelodd neges ar Facebook oedd yn rhoi gobaith iddo fo .....
Mi ddaru - Gwnaeth Ymateb - Response Wedi crwydro - Had wandered Tebygrwydd - Similarity Anobaith llwyr - Sheer hopelessness Traddodiad - Tradition Dianc - To escape Rhuthro - To rush Sefyll yn stond - Standing still Yn cyfarth ac yn llyfu - Barking and licking
Fri, 04 Feb 2022 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1. Aled Hughes a Melanie Owen
Melanie Carmen Owen, sy'n dod o Aberystwyth yn wreiddiol ond sy'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn, oedd gwestai Aled Hughes bore Llun diwetha. Melanie fydd yn cyflwyno cyfres newydd o Ffermio ar S4C ond mae hi hefyd wedi mentro i fyd y 'stand-up'. Sut digwyddodd hynny tybed?
Caredig Kind Awgrymu To suggest Menywod Merched Beirniadu To adjudicate Yn fuddugol Victorious Profiadau personol Personal experiences Perthnasol Relevant Her A challenge Cynulleidfa Audience Addasu To adapt
2. Bore Cothi - Muhammad Ali
Melanie Owen oedd honna'n esbonio sut dechreuodd hi weithio ym myd 'stand-up'. Ar Ionawr 17 eleni basai Muhammad Ali wedi dathlu ei benblwydd yn 80 oed.
Un gafodd cwrdd â'r dyn ei hun, oedd Hywel Gwynfryn yn ôl yn 1966 draw yn LLundain, pan oedd Hywel yn gweithio fel gohebydd i'r rhaglen Heddiw. Roedd Cassius Clay (fel roedd Muhammad Ali ar y pryd) yn Llundain yn barod i focsio yn erbyn Henry Cooper, a chafodd e anrheg arbennig gan Hywel..
Syllu Staring Tawelwch Silence Cerddi Poems Pencampwr Bocsio'r Byd Boxing World Champion Na welwyd ei debyg o'r blaen Never seen his like before Wrth-law Nearby
3. Gwneud Bywyd yn Haws - Caris Hedd Bowen
Hywel Gwynfryn yn sôn wrth Shan Cothi am ei sgwrs gyda Cassius Clay, neu Mohammed Ali. Roedd y bocsiwr hwnnw'n enwog am ei farddoniaeth gyda llinellau fel: Float like a butterfly, sting like a bee. His hand can't hit what his eyes can't see. Tybed ai barddoniaeth TH Parry Williams oedd wedi ei ysbrydoli?
Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws cafodd Hanna Hopwood gwmni menyw arbennig sydd wedi wynebu sawl her gorfforol a meddyliol. Ar ôl iddi wella o ganser Hogkins Lymphoma roedd Caris Hedd Bowen yn teimlo'n ddiolchgar, ac yn teimlo fel tasai hi'n profi bywyd am y tro cynta. Dyma hi'n disgrifio ei theimladau wrth Hanna...
Ysbrydoli To inspire Diolchgar Thankful Cyfweliadau Interviews Mas y bac Allan i'r cefn Gwynto Arogli Yn grac Yn flin
4. Ar y Marc Sadwrn - Dave Rogers
Caris Hedd Bowen yn ysbrydoli Hanna Hopwood wrth rannu ei stori. I glywed y bennod yn llawn ewch draw i BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws.
Mae Dave Rogers yn byw yng Nghaerloyw ac wedi dysgu Cymraeg, a fe sy'n cynnal cyfri Twitter newydd Clwb Pêl-droed Casnewydd @YrAlltudion. Mae'r cyfrif yn ffordd o rannu newyddion am y tîm, y canlyniadau ac ati, ac hynny i gyd drwy'r Gymraeg. Mae llawer o gefnogwyr Casnewydd yn ddysgwyr ac mae Dave yn trio dysgu termau pêl-droed Cymraeg i'r dilynwyr, fel esboniodd e wrth Dylan Jones ar Ar y Marc...
Pennod Episode Caerloyw Gloucester Yr Alltudion The Exiles Canlyniadau Results Cefnogwyr Fans Dilynwyr Followers Tad-cu Taid
5. Ifan Evans a Mari Gwilym
Dave Rogers yn rhoi gwasanaeth Gymraeg i gefnogwyr Casnewydd - ac i'w fab hefyd.
Mae Ifan Evans wedi sôn sawl tro bod ofn llygod bach arno fe ac roedd e wedi dychryn pan welodd e lygoden bach yn y tŷ. Ar ei raglen ddydd Mawrth clywon ni hanes gan Mari Gwilym am gael llygod bach yn ei thŷ hi.
Olion Traces Baw llygoden Mouse droppings Hogia bach! Dear me! Cofi Dre Person o Gaernarfon Hadau Seeds Llygoden bengron goch Bank vole Cael gwared ar To get rid of Anghenfil Monster
6. Bore Cothi a Llew Richards
Mari ac Ifan yn trafod llygod yn fan'na. Mae Llew Richards sy'n 17 oed, a'i frawd Bryn sydd yn 15, wedi cychwyn menter newydd ar ddechrau blwyddyn newydd - rhentu cae er mwyn i bobol gael dod â'u cŵn yno i redeg a chwarae. Dyma Llew yn sôn wrth Shan Cothi am y fenter Newydd...
Dere Tyrd Wedi dod i glawr Has come about Ni sy berchen e We own it Gwartheg Cattle Tennyn Lead Llanw lan Welling up Rhyddid Freedom
Fri, 28 Jan 2022 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1) Aled Hughes - David Bowie
Basai David Bowie wedi bod yn 75 oed eleni a chafodd Aled Hughes sgwrs gydag un o'i ffans mwya , Ffion John. Dyma Ffion yn cofio'r tro cynta iddi hi glywed cerddoriaeth Bowie a sut gwnaeth hynny arwain at ei hobsesiwn gyda fe...
Y fenga Yr ifanca
Cynhyrchu To produce
Ymchwilio To research
Llewygu To faint
Gofod Space
Dychmygu To imagine
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol The National Trust
2) Cofio - Ymarfer Corff
Ffion Jones oedd honna'n sôn am ei hobsesiwn gyda David Bowie.
Ymarfer Corff oedd thema Cofio pnawn Sul diwetha, ac roedd cyfle i glywed rhan o sgwrs cafodd Dewi Llwyd yn 2015 gyda Becky Brewerton oedd yn chwarae golff yn broffesiynol. Un o Abergele ydy Becky ac adeg y sgwrs roedd hi newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 33 oed
Datgelu To reveal
Andros o ifanc Ifanc iawn
Yn y man Mewn munud
Ddaru o Gwnaeth e
3) Bore Cothi - Y Gylfinir
Enillodd Becky Brewerton sawl twrnament golff rhyngwladol ac mae hi dal yn ennill ei bywoliaeth ym myd golff. Daniel Jenkins Jones o'r RSPB ydy 'dyn yr adar' ar Bore Cothi a dydd Mercher buodd e'n trafod yr aderyn sy'n enwog am ei big, sef y gylfinir
Bywoliaeth Livelyhood
Y Gylfinir Curlew
Rhydyddion Waders
Cyfarwydd iawn Very familiar
Cyfandir Continent
Nythu To nest
Ar waenydd On moorlands
Rhostiroedd Heathlands
Plu Feathers
Cryman Sickle
4) Geraint Lloyd - Lluniau
Daniel Jenkins Jones o'r RSPB yn fan'na yn rhannu gwybodaeth am y gylfinir. Mae yna lyfr lluniau sydd yn rhoi ychydig o hanes ardaloedd Efailnewydd, Llannor a Penrhos ym Mhen Llŷn yn mynd i gael ei gyhoeddi'n fuan a Rhian Jones fuodd yn sôn am un o'r hanesion sydd yn y llyfr gyda Geraint Lloyd
Cyhoeddi To publish
Crefyddol Religious
Y Bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century
Porthladd Port
Am wn i I suppose
Gwasanaethau (religious) services
Sefydlu To establish
5) Bore Sul - Ariel Jackson
Hanes y capten llong Hugh Hughes a Baner Bethel yn fan'na ar raglen Geraint Lloyd. Penderfynodd Ariel Jackson o Napa, California ddysgu Cymraeg ar ôl iddi hi weld arwyddion Cymraeg am y tro cyntaf pan oedd hi yma ar wyliau. Erbyn hyn mae hi wedi bod yng Nghymru sawl gwaith, wedi dod yn rhugl yn yr iaith ac wedi dysgu Cymraeg i Puck ...ei chi!
Y Deyrnas Unedig The UK
Y ffin The border
Sir Fynwy Monmouthshire
Swynol Charming
Gorchmynion Commands
Cymuned Community
Llenyddiaeth Literature
Diwylliant Culture
Breuddwyd Dream
6) Gwneud Bywyd yn Haws - Cylchgronau
Ariel Jackson o Napa, California yn siarad ar Bore Sul efo Bethan Rhys Roberts. Nos Fawrth ar GBYH roedd Hanna Hopwood yn cael cwmni Rhiannon Jenkins o Eifionydd sydd wedi gweithio yn Llundain fel is olygydd ar gylchgronau Cosmopolitan, Men's Health, Women's Health a Runner's World. Pa fath o le yw ei weithio ynddo, tybed?
Is-olygydd Subeditor
Awyrgylch Atmosphere
Cymysgu To mix
Cylchgronau Magazines
Cynnwys Content
O dan bwysau Under pressure
Yn wirioneddol Really
Blaenllaw Prominent
Boed o Whether it be
Lles Welfare
Hyrwyddo To promote
Fri, 21 Jan 2022 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1) Cofio 02/01/22
Dyn ni’n aml iawn yn edrych yn ôl ar y flwyddyn flaenorol ddechrau Ionawr, on’d dyn ni? A dyma’n union ddigwyddodd ar Cofio yr wythnos diwetha wrth i nifer o glipiau gwych o’r archif gael eu hail-ddarlledu. Dyma un o’r goreuon, T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones am ei hatgofion o gadw gwesty yn y Rhyl am dros 40 o flynyddoedd...
Y flwyddyn flaenorol The previous year
Ail-ddarlledu To rebroadcast
Atgofion Memories
Ddaru Wnaeth
Gweithwyr cyffredin Ordinary workers
Enwogion Celebrities
Digri Doniol
Tynnu gwynebau Pulling faces
2) Rhaglen Beti a’i Phobol - 09/01/22
...a chafodd y clip yna ei recordio’n wreiddiol yn 1982.
Buodd Beti George yn sgwrsio gyda Samuel Kurtz, Aelod Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn Senedd Cymru. Mae'n weithgar iawn gyda'r Ffermwyr Ifanc ac yn cefnogi elusen DPJ. Elusen iechyd meddwl yng Nghymru ydy DPJ sydd yn helpu’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig ac mewn amaethyddiaeth. Dyma Samuel yn esbonio wrth Beti pa effaith cafodd y cyfnod clo ar ei iechyd meddwl e...
Ceidwadol Conservative
Elusen Charity
Gweithgar Active
Gwledig Rural
Amaethyddiaeth Agriculture
Digalon Depressed
Egni Energy
Cysgod Shadow
Hala Treulio
Sicrhau To ensure
3) Aled Hughes 04/01/22 – Mawrth
Samuel Kurtz yn dweud wrth Beti George ei bod yn bwysig siarad am unrhyw broblemau iechyd meddwl. Mae gan Aled Hughes bodlediad o’r enw "Siarad Moel" a bore Mawrth diwethaf cafodd e sgwrs gyda Heledd Iago sy'n gweithio ym maes geneteg. Gyda ffilm Spiderman yn boblogaidd iawn yn y sinemâu ar y foment gofynnodd Aled i Heledd fasai hi’n bosib rhyw ddydd i rywun allu cael pwerau fel rhai "Spiderman"?
Genynnau Genes
Pryfaid cop Corynod
Ymbelydredd Radioactivity
Gwyddonwyr Scientists
Bwlch Gap
Plentynnaidd Childish
4) Trystan ac Emma 07/01/22 – Gwener
Dych chi’n meddwl bod Aled yn ffansïo’i hyn fel Spiderman? Swnio felly, on’d yw e?
Ar Ionawr 1af, roedd y nofel Winnie The Pooh yn y newyddion gan ei bod erbyn hyn yn rhan o’r ‘parth cyhoeddus’, sy’n golygu nad oes hawlfraint arni hi bellach.’ ac ar eu rhaglen fore Gwener cafodd Trystan ac Emma sgwrs gyda Rhian Nash o Lwydcoed ger Merthyr Tudful, sydd yn ffan mawr o’r cymeriad Winnie the Pooh …..
Parth Cyhoeddus Public Domain
Hawlfraint Copyright
Casglu To collect
Enfawr Huge
Addas Suitable
Hudolus Magical
Rhinweddau Virtues
5) Aled Hughes 03/01/22 – Llun – Dyna i chi gwestiwn da gan Emma on’d ife – pa gymeriad o Winnie the Pooh dych chi’n debyg iddo tybed?
Bore Llun y 3ydd o Ionawr roedd hi’n 45 mlynedd yn union I’r diwrnod ers i Radio Cymru ddod i fodloaeth ac un o’r cyflwynwyr cynta y bore hwnnw oedd Hywel Gwynfryn a dyma fe’n sôn am y darllediad cyntaf hwnnw...
Bodolaeth Existence
Cyflwynwyr Presenters
Darllediad Broadcast
Cyfrifoldeb Responsibilty
Cynulleidfa Audience
Gweddill y diwrnod The rest of the day
Annog To encourage
O ddifri Seriously
Deugain a phump Pedwar deg pump
6) Dros Ginio - 06/01/21 – Iau - Llaeth
Hywel Gwynfryn oedd hwnna’n sôn am ddarllediad cynta Radio Cymru pedwardeg pump o flynyddoedd yn ôl.
Yn yr wythdegau, cyflwynwyd y ‘cwotâu llaeth’ oedd yn rheoli faint o laeth oedd ffermwyr yn cael ei gynhyrchu. I nifer yng nghefn gwlad Cymru, roedd hyn yn creu problemau mawr a buodd yna lawer o brotestiadau. .
Dyma’r newyddiadurwr Alun Lenny, oedd yn gweithio ar y stori ar y pryd, yn sôn wrth James Williams ar Dros Ginio am y protestiadau, ond hefyd yn sôn fel mae rhai wedi elwa wrth arallgyfeirio oherwydd y cwotâu....
Llaeth Llefrith
Cynhyrchu To produce
Elwa To profit Arallgyfeirio To diversify
Ffynnu To prosper
Rhewgell Freezer
Argyfyngus Critical
Fri, 14 Jan 2022 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchIfan Evans - Diolch o Galon – IOAN TALFRYN – 28/12/21
Enwebodd Tony Williams ei diwtor Cymraeg, Ioan Talfryn, i dderbyn Tlws Diolch o Galon ar raglen Ifan Evans. Ond fel ‘Llywelyn’ mae Ioan yn nabod Tony a chawn ni wybod pam hynny ar ôl i Ioan ateb galwad ffôn Ifan…
Enwebu To nominate
Tlws Trophy
Cyfleus Convenient
Cymorth Help
Ar flaenau fy nhraed On my toes
Astrus Anodd
Yn barhaol Constantly
Beti A’I Phobol – 02/01/22 – Kristofer Hughes
Tony, neu, i roi ei enw dosbarth Cymraeg iddo fe, Llywelyn, yn Diolch o Galon i’w diwtor Cymraeg, Ioan Talfryn, ar raglen Ifan Evans.
Mae sawl peth diddorol ac anarferol am Kristoffer Hughes. Mae e’n bagan, fe yw Pennaeth Derwyddon Ynys Môn, mae‘n awdur nifer o lyfrau am fytholeg a chwedlau Cymru. Fe oedd gwestai Beti George a dyma i chi flas ar y sgwrs gafodd e gyda Beti.
Anarferol Unusual
Pennaeth derwyddon Chief of the druids
Chwedlau Fables
Sbïwch Edrychwch
Distawu To silence
Urdd Order
Defodau Rites
Annog To encourage
Yn gamp go iawn A real achievement
Diwylliant Culture
Munud i Feddwl – 30/12/21 – Helen Prosser
Kristoffer Hughes yn fan’na yn canmol dysgwyr y Gymraeg, ac un sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i ddysgu Cymraeg i oedolion yw Helen Prosser sydd yn un o gyfarwyddwyr strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Hi gaeth y cyfle ola i Ddweud ei Dweud yn 2021 a dyma hi’n edrych ar y pethau positif o‘r flwyddyn diwetha, ac hefyd yn edrych ymlaen at 2022.
Cyfraniad enfawr Huge contribution
Cyfarwyddwyr Directors
Amgen Alternative
Datblygu To develop
Wedi ei ffrydio’n fyw Streamed live
Cynulleidfa Audience
Pwyslais Emphasis
Troedio caeau To tread the fields
Cymeradwyo To applause
Diweddglo A finale
Doniau Skills
Geraint Lloyd – 29/12/21 – Rhianwen Condron
Helen Prosser oedd honna’n dangos nad oedd 2021 yn ddrwg i gyd a bod lle i fod yn optimistaidd am 2022. Roedd Geraint Lloyd yn edrych yn ôl ar rai o sgyrsiau cofiadwy’r flwyddyn diwetha a dewisodd un gaeth e gyda Rhianwen Condron ddechrau mis Rhagfyr. Cafodd Rhianwen ei geni yng Nghymru ond symudodd i Stratford Upon Avon i fyw pan oedd hi’n 8 oed. Enillodd hi wobr Highway Heroes am ei gwaith yn helpu dynion sydd yn gweithio ar briffyrdd Prydain, gan gynnig cymorth iddyn nhw ymdopi gyda phroblemau iechyd meddwl...
Cofiadwy Memorable Gwobr Award
Priffyrdd Highways
Ymdopi To cope
Hewlydd (heolydd) Ffyrdd
Pryd ‘ny That time
Sut lwyddiant Such success
Hala Anfon
Oherwydd hyn Because of this
Jim Parc Nest – 26/12/21
Rhianwen Condron oedd honna, sydd yn gwneud gwaith arbennig gyda rhai o weithwyr ffyrdd Lloegr. I gael eich galw’n Brifardd mae’n rhaid i chi ennill un ai’r Gadair neu’r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r Prifardd T. James Jones wedi ennill y ddwy ddwywaith ac mae ei ddau frawd yn Brifeirdd hefyd! Er mwyn ennill y Gadair mae’n rhaid sgwennu cerdd mewn cynghanedd, hen grefft sydd â llawer iawn o reolau cymhleth. Mewn rhaglen arbennig cafodd Nia Roberts sgwrs gyda’r bardd gan ofyn iddo’n gynta pam dechreuodd o sgwennu mewn cynghanedd….
Cymhleth Complicated
Dylanwad Influence
Braint Privilege
Dw i’n dwlu Dw i wrth fy modd
Arddull Style
Beirniad Adjudicator
Awgrymu’n gynnil To suggest in a subtle way
Gor-glywed To overhear
Y casgliad The conclusion
Bore Cothi - Dydd Mawrth, 28ain o Ragfyr – Sian James
Ac nid yn unig mae brodyr T James Jones yn Brifeirdd ond mae ei wraig, Manon Rhys, a’i nai, Tudur Dylan, yn Brifeirdd hefyd! Buodd Heledd Cynwal yn cyflwyno ambell raglen Bore Cothi dros y gwyliau ac yn un o’r rhaglenni hynny cafodd hi gwmni’r gantores Sian James ar slot Y Fordaith. Ble basai Sian yn mynd ar fordaith ddychmygol tybed?
Cantores Female singer
Mordaith ddychmygol Imaginary cruise
O ystyried Considering
Di o’m bwys Dyw e ddim yn bwysig
Lodes Merch ifanc
Profiad hyfryd A lovely experience
Ddaru nhw Wnaethon nhw
Tirwedd Landscape
Trin a thrafod To discuss
Rhinweddau Virtues
Fri, 07 Jan 2022 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch01. Aled Hughes – Elfyn Jones
Does dim golygfa well, nac oes, na mynyddoedd Cymru yn wyn o dan eira ar ddiwrnod braf o aeaf. Mae’n demtasiwn mawr i fynd i ddringo’r mynyddoedd bryd hynny, on’d yw hi? Ond cofiwch, tasech chi’n mentro allan mae’r mynyddoedd yn gallu bod yn lefydd peryglus iawn, fel eglurodd Elfyn Jones sy’n gadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, wrth Aled Hughes
Yn union Exactly
Gorchuddio To cover
Anhygoel Incredible
Denu To attract
Ceudyllau Potholes
Twyllodrus Deceptive
Amgylchiadau Circumstances
Dyffrynnoedd Valleys
Yn wirioneddol Really
Offer Equipment
02. Cofio – Nia Roberts a Caryl Parry Jones
Cyngor da gan Elfyn Jones yn fan’na ar raglen Aled Hughes – byddwch yn ofalus os dych chi am ddringo’r mynyddoedd yn y gaeaf. Mae’n siŵr ein bod yn clywed mwy o ganu adeg y Nadolig nag ar unrhyw adeg y flwyddyn, gyda charolau, caneuon am Sion Corn i’r plant bach a chaneuon pop Nadoligaidd i’r plant mawr! Ond beth sy’n gwneud cân Nadolig dda? Dyma i chi farn Nia Roberts a Caryl Parry Jones...
Nadoligaidd Christmassy
Naws Mood
Cydio yn To attach to
Myfyrio To reflect
Addoli To worship
Dyfynodau Quotation marks
Ein heneidiau ni Our souls
Hud a swyn Magic and enchantment
Preseb Manger
Dyheu am To yearn for
03. Dros Ginio – Betsan Powys ac R Alun Evans
Ac ar ddiwedd y clip yna clywon ni ddarn o un o ganeuon Nadolig Caryl - “Drama’r Preseb”.
Dau sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i’r BBC dros y blynyddoedd oedd gwestai Dewi Llwyd ar Dros Ginio –R Alun Evans a’i ferch Betsan Powys. Buodd R Alun Evans yn gyflwynydd a chynhyrchydd gyda’r BBC am 32 o flynyddoedd ac yn weinidog gydag enwad yr Annibynwyr am flynyddoedd. Roedd Betsan yn Olygydd Rhaglenni y BBC nes iddi hi roi'r gorau i'r swydd yn 2018. Dyma i chi flas ar y sgwrs...
Cyflwynydd a chynhyrchydd Presenter and producer
Enwad yr Annibynwyr Independents denomination
Golygydd Rhaglenni Programme editor Siglen Swing
Parchu To respect
Penderfynol, ystyfnig Determined, stubborn
Cymwynasgar Obliging
Cefnogol Supportive
04. Hywel Gwynfryn a Sian Phillips (Darllediad Arbennig Dydd Nadolig)
Un arall sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r BBC dros y blynyddoedd ydy Hywel Gwynfryn a fe gafodd y cyfle i gael sgwrs gyda’r actores fyd enwog Siân Phillips, sydd yn dod o Waen-Cae-Gurwen yn Sir Castell Nedd Port Talbot yn wreiddiol. Dyma hi’n sgwrsio am un rhan o’i gyrfa wnaeth ddim gweithio cystal â hynny...
Cyfraniad enfawr A huge contribution
Cyhoeddwraig Announcer ( female)
Ro’n i’n dwlu ar Ro’n i wrth fy modd efo
Uffernol Hellish
Cyngor y Celfyddydau Arts Council
Clychau Bells Mas o anadl Out of breath
Pennaeth Head
05. Geraint Lloyd - Rhys Jones o Gwmffrwd
Dyna stori dda on’d ife? Mae hyd yn oed Sian Phillips yn gallu bod mewn trwbl gyda’i bos! Ddaeth Sion Corn i’ch tŷ fore Nadolig? Os mai dod lawr y simnai wnaeth e, gobeithio eich bod wedi gwneud yn siŵr bod y simnai’n lân iddo fe! Glanhawr simneiau ydy Rhys Jones o Gwmffrwd ger Caerfyrddin a gofynnodd Geraint Lloyd iddo fe pam dewisodd e wneud y swydd arbennig hon...
Glanhawr simneiau Chimney sweep
Bachan Dyn
(Di)bennu Gorfffen
Mo’yn Eisiau
Ffili Methu
Tystysgrif Certificate
Tannau nwy Gas fires
06. Geraint Lloyd – Ar y Map
Rhys Jones oedd hwnna , ac mae ganddo un o swyddi bwysica adeg yma’r flwyddyn on’d oes? Arhoswn ni gyda Geraint Lloyd am y clip nesa hefyd, aeth Geraint ‘Ar y Map’ i bentref bach Casnewydd Bach yn Sir Benfro, sydd yn enwog fel man geni y mor-leidr Barti Ddu. Mae undeg chwech cenhedlaeth o deulu Richard Davies wedi byw yn y pentre hwn, felly fe yw’r dyn i sôn am berson enwoca Casnewydd Bach a dyma fe’n sôn am hanes Barti Ddu wrth Geraint Lloyd...
Man geni Birthplace
Morleidr Pirate
Cenhedlaeth Generation Taw Mai
Yn lled ifanc Quite young
Crydd Cobbler
Cofnodi To record
Carreg goffa Memorial stone
Trichanmlwyddiant Tercentenary
Genedigaeth Birth
Marwolwaeth Death
Fri, 31 Dec 2021 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch01. Gwneud Bywyd yn Haws – Hyder Mewn Lliw
Dillad oedd yn cael sylw Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth a chafodd hi sgwrs gyda’r hyfforddwr delwedd Sonia Williams o’r cwmni ‘Hyder Mewn Lliw’…
Hyfforddwr delwedd Image coach
Cynllunio To plan
Canolbwyntio To concentrate
Pwysigrwydd Importance
Arna chdi Arnot ti
Cymryd sylw To pay attention
Ysbryd Spirit
Dos Cer
Yr union liw The exact colour
Penodol Specific
Drych Mirror
Coelio Credu
02. Beti a'i Phobol – Mei Jones
I glywed mwy o’r sgwrs yna ewch draw i wefan BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws, yno hefyd gewch chi glywed cyfweliad gyda Llio Angharad sy’n rhannu cynghorion ar sut i edrych ar ôl ein dillad.
Bu farw’r actor, sgriptiwr ac awdur Mei Jones yn ddiweddar, ac i gofio amdano ail-ddarlledwyd sgwrs cafodd Mei gyda Beti George rai blynyddoedd yn ôl. Er bod Mei wedi actio pob math o gymeriadau mae’n debyg mai fel Wali Tomos yn C’mon Midffîld y bydd llawer iawn o bobl yn ei gofio...
Y diweddar The late
Ail-ddarlledu To rebroadcast
Twmffat Idiot (idiomatic)
Y gyfres The series
Dim cythraul o beryg No way
Diawledigrwydd Mischief
Cysuro fy hun Consoling myself
Yn llythrennol Literally
03. Gareth yr Orangutan ar Bore Cothi
Y diweddar Mei Jones oedd hwnna mewn sgwrs gyda Beti George
Oeddech chi’n gwybod bod yna Orangutan sy’n siarad Cymraeg? Gareth yw ei enw ac mae’n swnio’n debyg iawn i Gog o Ddyffryn Nantlle. Falle mai dyna sut mae Orangutans yn siarad, pwy â ŵyr? Shan Cothi oedd yn holi Gareth am ei hoff sŵn…
Synhwyrau Senses
Cerddor Musician
Offerynau Instruments
Aballu And so on
Deilen A leaf
Haenen A layer
Crybwyll To mention
04. Trystan ac Emma – Delia Heaton
Gareth yr Orangutan ar Bore Cothi yn rhoi hysbys bach i’r gyfres “Gareth”, ddechreuodd nos Wener diwetha am 10yh ar S4C.
Mae Delia Heaton yn dod o Bentrecagal ger Castell Newydd Emlyn yn wreiddiol ond yn byw yn Nelson ger Caerffili ers blynyddoedd. Mae hi wedi bod yn ffan o Cliff Richard ers iddi fod yn ifanc iawn ac fel cawn ni glywed mae hi wedi teithio’n bell iawn i weld Cliff...
Pry’ny (pryd hynny) At that time
Sgrechian To scream
Sefydlu To establish
Wnelon nhw ddim Wnaethon nhw ddim
05. Pererin Wyf – Huw Williams
Un oedd yn canu yr un adeg â Cliff Richard, ac i ddweud y gwir mae’r ddau’n dal i ganu rhywfaint, oedd Iris Williams o Donyrefail ym Morgannwg. Un o’i chaneuon mwya enwog oedd Pererin Wyf sef cyfieithiad o ‘Amazing Grace’. Mae tad Georgia Ruth yn dod o Donyrefail hefyd a chafodd Georgia sgwrs gyda’i thad am y pentref bach hwn sydd yn Rhondda Cynon Tâf...
Diwylliant y cymoedd The culture of the Valleys
Traddodiad Tradition
Cymanfa ganu Hymn singing festival
Ail Rhyfel Byd Second World War
Losin Sweets
06. Geraint Lloyd – Rheilffordd Dyffryn Rheidol
Darlun o Donyrefail y gorffennol yn fan’na ar raglen Georgia Ruth, a hynny gan ei thad. Aeth Geraint Lloyd allan o’r stiwdio ddydd Mercher a chael cyfarfod â Chyfarwyddwr a Rheolwr Rheilffordd Rheidol, Llyr Ap Iolo. Rheilffordd fach yw hon sy’n mynd o Aberystwyrth i Bontarfynach. Mae llawer iawn o newidiau‘n digwydd gyda’r rheilffordd ar hyn o bryd a dyma Llyr yn sôn am rai ohonyn nhw
Cyfarwyddwr a Rheolwr Director and Manager
Pontarfynach Devil’s bridge
Buddsoddiad Investment
Ail-drefnu To rearrange
Atyniad Attraction
Storfa Storage area
Galluogi To enable
Ail-gydio To rekindle
Fri, 24 Dec 2021 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1. Dros Ginio - Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones Basai’n anodd ffeindio dau frawd mwy enwog yng Nghymru na Dafydd Iwan ac Alun Ffred Jones. Mae Dafydd yn ganwr enwog, ac Alun Ffred yn enwog yn y byd teledu ac, fel Dafydd Iwan, ym myd gwleidyddiaeth hefyd Ond pa mor agos ydy’r ddau ohonyn nhw fel brodyr? Dewi Llwyd gafodd gyfle i holi, ac eglurodd Alun i ddechrau ei fod o’n dipyn ifancach na’r brodyr eraill yn y teulu…
Rhyngddyn nhw Between them
Yr un cylchoedd The same circles
Dyn diethr A stranger
Cadw pellter Keeping a distance
Yn achlysurol Occasionally
Dotio ar Dwlu ar
Rhyfedda Strangest
Llywydd y Blaid President of Plaid Cymru
Gweini To serve
Wedi drysu Confused
2. Bore Cothi – Alwyn Humphreys a West Side Story Dafydd Iwan yn fan’na yn dweud nad oedd e a’i frodyr yn agos iawn at ei gilydd, ond hanes dau deulu oedd yn casáu ei gilydd sydd yn y ddrama ‘Romeo and Juliet’. Ac roedd y nofel, y sioe gerdd a’r ffilm ‘West Side Story’ yn seiliedig ar y ddrama honno. Dydd Gwener diwetha cafodd fersiwn newydd o’r ffilm ei gweld am y tro cynta. Cyfarwyddwr y ffilm ydy Stephen Spielberg ac mae cerddoriaeth wreiddiol Leonard Bernstein i’w chlywed yn y ffilm newydd. Dyma Alwyn Humphries yn rhoi ychydig o hanes West Side Story ar Bore Cothi…
Yn seiliedig ar Based on
Cyfarwyddwr Director
Y cyfle The opportunity
Cysylltu To link
Cwerylgar Quarrelsome
Dioddef o To suffer from
Yn rhyfeddol Astonishingly
Llwyfan Stage
Cynhyrchwyr Producers
Digalon Downhearted
Gwobrau Prizes
3. Gwneud Bywyd yn Haws - Addurno Hanes Leonard Bernstein a West Side Story yn fan’na ar Bore Cothi. Dych chi wedi codi’r goeden Nadolig eto? Mae Heledd Jones Tandy wedi codi ei choeden hi ers Rhagfyr y cyntaf ac mae hi wrth ei bodd gydag addurno, fel buodd hi’n sôn wrth Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws…
Caniatáu To permit
Beirniadaethau Criticisms
Llwm Bleak
Gwagle Void
Noeth Naked
Hel To collect
Rhoddion Gifts
Allor Altar
Defnydd Material
Trawsnewid To transform
4. Hiraeth – Noel James - Beth yw hiraeth? Hanna Hopwood yn holi Heledd Jones Tandy am addurno. Hefyd ar y rhaglen roedd Ann-Marie Lewis ac i glywed y rhaglen yn llawn ewch i BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws.
Gair sy’n anodd ei gyfieithu ydy ‘hiraeth’ on’d ife? Y comedïwr Noel James fuodd yn chwilio am yr esboniad gorau o’r gair a dyma fe’n holi’r awdures Angharad Tomos…
Gwirioneddol Actual
Brifo To hurt
Cyfeirio ato To refer to
Dyfyniad Quotation
Fy nhaid Fy nhad-cu
Carreg fedd Gravestone
Ysgrif Article
Melusaf The sweetest
5. Aled Hughes – Anwen Jones Dyna ddyfyniad da on’d ife, yn dangos bod hiraeth yn gallu brifo weithiau. Mae Anwen Mai Jones, yn Nyrs Arbenigol Diabetes Cymunedol yng Ngheredigion ac mae hi wedi ennill gwobr Nyrsio Cymunedol yn ddiweddar. Dyma hi’n dweud wrth Aled Hughes beth oedd y cynllun cymunedol enillodd y wobr iddi hi...
Arbenigol Specialist
Cymunedol Community
Darparu To provide
Clinigau Clinics
Cleifion Patients
Ail-strwythuro Restructure
Ymgynghori gyda’r meddygfeydd Consulting with the surgeries
Ardal wledig ddiarffordd A remote rural area
Bwlch Gap
Lleihau To reduce
6. Beti – John Alwyn Griffiths Anwen Mai Jones yn esbonio bod llawer iawn o’r cynlluniau gorau yn dod o’r rhai sy’n gweithio ar y llawr yn hytrach nag oddi wrth y rheolwyr. Mae John Alwyn Griffiths wedi sgwennu sawl nofel ditectif ond roedd e’n arfer gweithio fel ditectif yn ogystal, gydag Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Fe oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol a dyma fe’n sôn am y math o bobl oedd e’n synnu o’u gweld nhw’n twyllo.
.
Oedd e’n synnu He was surprised
Adran Dwyll Fraud Squad
Twyllo To defraud
Cyfreithwyr Lawyers
Cyfrifydd Accountant
Cyfaill Ffrind
Ar ei union Straight away
Fri, 17 Dec 2021 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch01. Beti – Laura Karadog
Clip o Beti a’i Phobol ddydd Sul diwetha, a Laura Karadog oedd gwestai Beti. Yn y clip hwn mae Laura’n sôn am yr amser buodd hi’n gweithio yn San Steffan fel profiad gwaith yn rhan o gwrs gradd mewn gwleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth. Fel gwnawn ni glywed cafodd hi brofiadau diddorol iawn yno….
San Steffan Westminster
Gradd mewn gwleidyddiaeth A politics degree
Breintiedig Privileged
Yn rheolaidd Regularly
Erchyll Awful
Hurt Stupid
Dinistrio bywydau Destroying lives
Diniwed Innocent
Grym Power
Tu hwnt Beyond
Heb os Without doubt
02. Bore Cothi – Rhona Duncan
Ychydig o hanes diddorol Laura Karadog yn fan’na ar Beti a’i Phobol.
Oes planhigion gyda chi yn y tŷ? Dych chi’n poeni fyddan nhw’n para dros y gaeaf? Os felly dylai’r tips glywon ni ar Bore Cothi fod o ddiddordeb mawr i chi. Rhona Duncan, sy’n rhedeg siop blanhigion yng Nghaerdydd, fuodd yn rhoi cynghorion ar sut i ofalu am blanhigion suddlon...
Planhigion suddlon Succulent plants
hinsawdd cras An arid climate
Dail Leaves
Mo’yn Eisiau
Gofod Space Hyd oes Lifespan
Enfawr Huge
03. Cofio – Bryn Terfel
Rhona Duncan oedd honna ac mae hi’n amlwg yn caru planhigion suddlon! Canu a Byd y Gân oedd thema Cofio wythnos diwetha. Dyma i chi glip o Bryn Terfel yn sgwrsio gyda Beti George yn ôl yn 1995 ac yn sôn am weithio gyda chantorion enwog ac yn sôn am sut mae hynny wedi effeithio ar ei ddiddordeb mewn gwin…
Cantorion Singers
Arweinyddion Conductors
Cig eidion Beef
Rhyngddon ni Between ourselves
04. Shelley a Rhydian yn holi Dan Lloyd
Tenoriaid ‘tempremental’, gwin a bwyd da – dyna i chi flas ar fywyd seren y byd opera yn fan’na ar Cofio. Daniel Lloyd oedd y gwestai cyntaf i ateb Ho Ho Holiadur y Sioe Sadwrn gyda Shelley a Rhydian, ond cyn iddo fe wneud hynny, holodd Shelley Dan am ei waith ar un o ffilmiau’r Muppets..
O nerth i nerth From strength to strength
Barf/Locsyn Beard
Aled Hughes – Carys Eleri Daniel Lloyd oedd hwnna’n sôn am ei ran e yn un o ffilmaiu’r Muppets. Dych chi wedi meddwl beth i’w gael yn anrheg Nadolig i rywun, wel mae hi wastad yn braf cael llyfr newydd on’d yw hi? Wel beth am lyfr newydd gan yr actores a’r gomedïwraig Carys Eleri ‘Dod nôl at fy nghoed’. Llyfr ydy hwn ble mae Carys yn sôn am rai o’r digwyddiadau sy wedi newid ei ffordd o feddwl a’i ffordd o fyw. Un o’r digwyddiadau hynny oedd marwolaeth ei thad ac yn y clip yma mae Carys yn sôn wrth Aled Hughes am daith beics o Lundain i Baris aeth hi a’i chwaer Nia arni ychydig wythnosau ar ôl iddyn nhw golli eu tad.
Dameg Parable
Ffili Methu
Sa i’n gwybod Dw i ddim yn gwybod
Angladd Funeral
Dim lot o glem Not much of an idea
Nunlle Nowhere
Pennod Chapter
Galar Grief
Datgelu To reveal
Tanwen Cray - Gucci Ac os dych chi eisiau gwybod sut aeth y daith beics – prynwch y llyfr! Ar raglen Aled Hughes ddydd Llun cafodd Aled gwmni’r hanesydd ffasiwn Tanwen Cray, a soniodd Tanwen am y ffilm ‘House of Gucci’ sydd yn y sinemâu ar hyn o bryd. Ond, oeddech chi’n gwybod bod yna Gymraes o Groesoswallt wedi prodi un o’r Guccis, sef un o deuluoedd mawr y byd ffasiwn? Olwen Price Gucci oedd hi a dyma Tanwen yn dweud yr hanes wrth Aled. Croesowallt Oswestry
Sefydlu To establish
Sylfaenydd Founder
Menyw Dynes
Y tîm cynhyrchu The production team Yn gysylltiedig Connected to
Offeiriaid A priest
Rhyfeddol Astonishing
Fri, 10 Dec 2021 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch01. GBYH - Leisa Mererid
Pam dylen ni ddysgu ioga i’n plant, a sut basai gwneud hyn yn eu helpu? Dyma rai o gwestiynau Hanna Hopwood ar Gwneud Bywyd yn Haws i’r awdures llyfrau ioga i blant, Leisa Mererid . Dyma flas i chi ar y sgwrs ...
Yn gynyddol Increasingly
Dyrys Complex
Ymwybyddiaeth o’n cyrff Awreness of our bodies
Delwedd corff Body image
Heriau bywyd Life challenges
Angor Anchor
Gorbryder Anxiety
Isymwybod Subconscious
Myfyrio To meditate
Synhwyrau Senses
Gorlethu To overwhelm
02. Aled Hughes - Dr Sara Wheeler
Leisa Mererid yn cael ei holi gan Hanna Hopwood. Hefyd ar y rhaglen roedd Nia Parry ac Anwen Gruffydd Wyn yn sôn am sut aeth y ddwy ffrind ati i sgwennu ‘Llyfr Bach Lles’, ac yn ogystal mae Laura Karadog yn sôn am ymarfer ioga. I glywed y sgyrsiau yma ewch draw at BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws.
Ar raglen Aled Hughes fore Mawrth, clywon ni sgwrs am Gastell Dinas ger Llangollen gyda’r Dr Sara Wheeler, a dechreuodd Aled a Sara sgwrsio drwy ddyflau o le daeth yr enw ar y castell...
Brân Crow
Gerllaw Nearby
Deillio To derive
Cymeriadau o chwedloniaeth Mythical characters Tueddu i fod Tends to be Yn answyddogol Unofficially Dyffryn Valley
Gorffwys To rest
03. Stiwdio - Twm Morys
Sgwrs am enw Dinas Brân yn fanna rhwng Aled Hughes a’r Dr Sara Wheeler. Mae hi bron yn flwyddyn ers marwolaeth yr awdur Jan Morris ac ar Stiwdio nos Lun, cafodd Nia Roberts sgwrs efo’i mab, y bardd a‘r cerddor Twm Morus. Dyma Twm yn sôn wrth Nia am ei fagwraeth gyda Jan...
Magwraeth Upbringing
Tomennydd Heaps
Annog To encourage
Coblyn o hwyl Great fun
Grym geiriau The power of words
I raddau To an extent
Atalnodi Punctuation
Llafar Spoken
Golygyddion Editors
Proflenni Proofs
Mympwy A whim
04. Sioeau Cerdd Steffan - Lili Mohammad
Twm Morys yn fan’na yn yn sôn am Jan Morris ac am ei fagwraeth gyda hi ar “Stiwdio gyda Nia Roberts” nos Lun diwethaf. I glywed rhagor o’r sgwrs ewch i BBC Sounds. Gwesteion Steffan Rhys Hughes ar ‘Sioeau Cerdd Steffan’ yr wythnos diwetha oedd merch ysgol o Gaerdydd, Lili Beth Mohammad, a dyma hi’n esbonio wrth Steffan o ble daeth ei diddordeb hi mewn sioeau cerdd...
Cyfryngau Media
Cantores amryddawn A versatile singer(female)
Arddulliau Styles
Yn benodol Specifically
Atgofion Memories
05. Dros Ginio - Angharad Lee
Y ferch ysgol o Gaerdydd, Lili Beth Mohammad, oedd honna yn sgwrsio gyda Steffan Rhys Hughes am sioeau cerdd.
Mae gan y Gymraeg fel pob iaith arall ei thafodieithoedd. Y Wenhwyseg ydy tafodiaith de-ddwyrain Cymru ond does dim llawer o bobl yn ei siarad erbyn hyn. Dyma ddau o’r de-ddwyrain, Vaughan Roderick ac Angharad Lee yn trafod pam mae hynny wedi digwydd...
Tafodieithoedd Dialects
Adennill To reclaim
Corfforol Physical
Galaru To mourn
Bodoli To exist
Yn gyfarwydd Familiar
Plethu To weave in and around
Yn weddol glou Quite quickly
06. Pigion - Geraint Lloyd gyda Elis a Sion
Vaughan Roderick ac Angharad Lee yn trafod y Wenhwyseg ar Dros Ginio. Dros y penwythnos buodd Geraint Lloyd yn mwynhau Eisteddfod y Ffermwyr Ifainc ym Mhontrhydfendigaid yng Ngheredigion. Cafodd sgwrs gyda sawl un fuodd yn cymryd rhan, a dyma i chi sgwrs cafodd e gydag enillwyr y ddeuawd dan wyth ar hugain oed, Elis Jones a Sion Eilir o Glwyd.
Deuawd Duet
Pysgotwyr Perl Pearl Fishers
Awydd Eagerness
Beirniad Adjudicator
Heriol Challenging
Rhwydd Hawdd
Aruthrol o dda Exceptionally good
Safon Standard
Clod Praise
Arwerthwr Auctioneer
Fri, 03 Dec 2021 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch01. Bore Cothi - Daniel Jenkins Jones - Cnocell Y Coed
Aderyn y mis ar raglen Bore Cothi oedd Cnocell y Coed. Roedd Caryl Parry Jones wedi gweld cnocell yn ei gardd ac roedd hi eisiau gwybod mwy am yr aderyn cyffrous. Oes mwy nag un math o gnocell i’w weld yng Nghymru tybed? Dyma beth oedd gan Daniel Jenkins Jones neu ‘Jenks’ i’w ddweud wrth Caryl….
Cnocell y Coed Woodpecker
Creaduriaid Creatures
Nythu To nest
Ymddangos To appear
Rhyfedd iawn Very strange
Onglau Angles
Madfall Lizard
Neidr Snake
Hardd Pretty
Rhyfeddu To marvel
Anarferol Unusual
02. Aled Hughes - Hayley Thomas
Llawer o wybodaeth yn fan’na am gnocell y coed gan Jenks. Fuoch chi’n edrych ar raglen Plant Mewn Angen y BBC nos Wener diwetha? Roedd y noson wedi codi miliynau o bunnoedd at elusennau plant. Gwych, on’d ife? Ar ddechrau wythnos her Plant Mewn Angen cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Hayley Thomas sy’n gweithio fel swyddog gyda phrosiect Thrive, prosiect sy’n rhoi cymorth i blant a’u mamau yn ardal Port Talbot ac Afan . Pa mor bwysig ydy arian Plant Mewn Angen i elusen fel Thrive? Dyma Hayley yn esbonio…
Esbonio To explain
Profiadau Experiences
Cam-drin Abuse
Canolbwyntio To concentrate
Diogelwch Safety
Cyfleoedd Opportunities
Lloches Refuge
Dychryn To frighten
03. Radio Cymru 2 – Strictly
Hayley Thomas oedd honna yn siarad am pa mor bwysig ydy arian Plant Mewn Angen i elusennau fel Thrive. Bob wythnos ar y Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2, mae Caryl Parry Jones yn dal i fyny gyda Meg Neal, i sôn am beth sy’n digwydd yn Strictly. Roedd rhywbeth arbennig iawn wedi digwydd wythnos diwetha a dyma Meg yn rhoi’r hanes i ni…
Hudolus Magical
Byddar Deaf
Egnïol Energetic
Ddim cystal Not so good
Meddwl y byd o’i gilydd Think the world of each other
04. Beti a'i Phobol - Steffan Huws
Hanes Strictly yn fan’na gan Meg a Caryl. Mae Steffan Huws, gwestai Beti George wythnos diwetha, wedi cael bywyd diddorol iawn. Mae Steffan yn dod o Bontypridd yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae’n rhedeg busnes coffi Poblado, yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd. Treuliodd Steffan lawer o amser yn byw ac yn gweithio dramor yn Taiwan ac yn Columbia yn ne America. Yn y clip nesa, mae Steffan yn sôn wrth Beti am y tro cynta iddo fe fentro dramor....
Alldaith Expedition
Cronfa Fund
Trobwynt Turning point
Yng nghanol nunlle In the middle of nowhere
Anferth Huge
Datblygiad personol Personal development
Dilornus Disparaging
Meddylfryd Mindset
05. Lisa Gwilym - Kizzy Crawford
Steffan Huws oedd hwnna’n sôn am ei brofiad yn mynd ar alldaith dramor am y tro cynta. Ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher roedd Kizzy Crawford yn sgwrsio am ei halbwm newydd ‘Rhydd’. Hi sgwennodd holl ganeuon yr albwm a hi chwaraeodd pob offeryn arno hefyd. Ac yn ogystal hi wnaeth gynhyrchu’r albwm mewn stiwdio yn ei chartref yn Aberfan
Offeryn Instrument
Cynhyrchu To produce
Cyfrannu To contribute
Hyder Confidence
Mae gen i gof I have a recollection
Wedi gwirioni Wedi dwlu ar
Rhyddhau To release
06. Sioeau Cerdd Steffan
..ac arhoswn ni gyda cherddoriaeth yn y clip nesa, ond cerddoriaeth o sioeau cerdd y tro ‘ma. Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Steffan Rhys Hughes wythnos diwetha gyda un o sêr y West End, Samuel Wyn-Morris, sy'n sôn am ei brofiadau'n perfformio yn y sioe gerdd Les Miserables.
Sioeau cerdd Musicals
Diwydiant Industry
Ddim yn fêl i gyd Not a bed of roses
Becso Poeni
Camu ar lwyfan To step on to a stage
Bwrw mlaen Get on with it
Dwlen ni Baswn i wrth fy modd
Fri, 26 Nov 2021 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1. Dros Ginio - Pabi Coch
Roedd hi’n Sul y Cofio ddydd Sul diwetha a llawer o bobl yn falch o wisgo’r pabi coch yn symbol i gofio am y rhai gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd. Ond o ble ddaeth y symbol yma? Pam mai pabi coch dyn ni’n ei wisgo? Dyma’r hanesydd Iwan Hughes yn rhoi cefndir y pabi coch mewn sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio…
Deillio To derive
Claddu To bury
Ffrind pennaf Best friend
Ysbrydoliaeth Inspiration
Teyrnged Tribute
Arferiad Custom
Mabwysiadu To adopt
Yn ddiweddarach Later on
Plant amddifad Orphans
Dylanwad Influence
Adnabyddus Aware
2. Rhaglen Aled –Merched yn y Rhyfel Byd 1af
Ychydig o hanes y pabi coch yn fan’na ar Dros Ginio. Ac i aros gyda Sul y Cofio cafodd Aled Hughes sgwrs gyda’r hanesydd Elin Tomos am gyfraniad merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf …
Cyfraniad Contribution
Delwedd traddodiadol Traditional image
Ymddwyn To behave Argraffu To print
Cymwysedig Qualified
Unigryw Unique
Wedi gwirioni’n lân Yn dwlu ar
Carcharorion Rhyfel Prisoners of War
Teimladwy Poignant
3. Rhys Mwyn - Geraint Jones - Planedau
Yr hanesydd Elin Tomos yn fan’na yn sôn am gyfraniad enfawr merched yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Nos Lun roedd Rhys Mwyn a’i westeion yn dewis a chwarae traciau oedd yn cyfeirio at y planedau a’r sêr, fel rhan o dymor y BBC, Ein Planed Nawr. Dyma glip o Rhys yn sgwrsio gyda Geraint Jones, sy’n bennaeth Astudiaethau’r Planedau yn yr UCL yn Llundain.
Ymchwil Research
Llong ofod Spaceship
Sadwrn Saturn Lleuadau Moons
Nentydd Brooks
Nwyon Gases
Hylif Liquid
Brwdfrydig Enthusiastic
Seryddiaeth Astronomy
4. Canu Protest
Geraint Jones oedd hwnna’n sôn am y blaned Sadwrn , y lleuadau a Blur gyda Rhys Mwyn. Mae cyfres rhif 3 o ‘Canu Protest’ yn ôl. Gruff Lynch a Dyl Mei sy’n edrych ar hanes canu protest yn Iwerddon, Yr Alban, a Lloegr. Yn y clip yma, dyn ni’n clywed gan Gruff a gan y casglwr recordiau Meurig Jones am gân brotest enwog y Beatles...
Arbrofol Experimental
Terfyn An end
Enwoca Most famous
Ddaru nhw Wnaethon nhw
5. Cerdd Dant, Canu Gwerin a'r Geroddorfa
Hanes cân brotest y Beatles Give Peace a Chance yn fan’na gyda Griff Lynch a Meurig Jones. Canu bach yn wahanol nawr sef canu gwerin a chanu cerdd dant. Mae cerdd dant yn fath arbennig o ganu yn Gymraeg sy’n gofyn am sgiliau gwahanol iawn i unrhyw fath arall o ganu. Cantores gwerin ydy Linda Griffiths a chafodd hi her i ganu cerdd dant gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Dyma Linda’n sgwrsio gyda Lisa Gwilym am ei phrofiad o ganu cerdd dant gyda’r gerddorfa.
Her A challenge
Yn gyhoeddus In public
Cyhur Muscle
Anadlu To breathe
Y bwriad The intention
Bedydd tân Baptism of fire
Amser prin Short space of time
Ces i gathod bach (idiom) I had kittens
Canolbwyntio To concentrate
Egwyddor Principle
Cyfleu To convey
6. Troi'r Tir - Meithrinfa Cwtsh y Clos
Linda Griffiths yn fan’na i weld wedi mwynhau’r profiad o ganu cerdd dant. Ar Troi’r Tir wythnos diwetha clywon ni am hanes meithrinfa ger Llanarthne, Sir Gaerfyrddin sydd ar glos fferm. Meithrinfa Cwtsh Y Clos yw enw'r ac a dyma Gwenllian Stephens ac Ann Davies yn rhoi hanes y feithrinfa…
Clos Farmyard
Cyd-berchennog Co-owner
Ansawdd Standard
Galluogi To enable
Achlysur Occasion
Ŵyna Lambing
Llo Calf
Da godro Milking cows
Caseg Mare
Antur Adventure
Fel y cyfryw As such
Fri, 19 Nov 2021 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1. Gwneud Bywyd yn Haws – Clip Cytiau Elliw Gwawr ac Angharad Haf Wyn
Mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i’r argyfwng newid hinsawdd yn ystod tymor yr Hydref gyda rhaglenni arbennig o’r enw ‘Ein Planed Nawr’. Un o’r rhaglenni hynny ydy ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ ac yn rhaglen wythnos diwetha clywon ni bod defnyddio clytiau, neu cewynnau, aml-ddefnydd yn llawer iawn gwell i’r amgylchedd na defnyddio’r rhai sy’n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith yn unig. Dyma glip o Hanna Hopwood yn sgwrsio gyda dwy fam sy’n defnyddio’r clytiau aml-ddefnydd, Angharad Haf Wyn ac Elliw Gwawr…
Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisis
Clytiau/cewynnau Nappies
Aml-ddefnydd Multiple use
Amgylchedd Environment
Ymchwil Research
Buddsoddi To invest
Arbrofi To experiment
Ymrwymo To commit
‘Ta beth Beth bynnag
Cyflwr Condition
Tueddu i hyrwyddo Tends to promote
2. Ifan Evans – Gwobr i Edna Jones
Dyna i chi flas ar raglen ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ gyda Hanna Hopwood sydd ar Radio Cymru bob nos Fawrth am 6pm. Ac os dych chi eisiau clywed mwy o’r sgwrs yma ewch draw i wefan bbc sounds, neu am ragor o raglenni sy’n sôn am yr amgylchedd ewch at y wefan bbc.co.uk/einplanednawr
Unwaith eto mae rhaglen Ifan Evans yn dweud ‘Diolch o Galon’ i rywun arbennig sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eu hardal, neu glwb, neu mewn cymdeithas arbennig. Wythnos diwetha aeth Ifan i Ynys Môn, i roi tlws Diolch o Galon i Edna Jones, Trefnydd CFFI yr Ynys
Tlws Trophy
Syfrdanu Astounded
Gweithgar Hardworking
Ces i fy nychryn I was shocked
Enwebiad Nomination
Talcen caled A hard grafft
Cyn-aelodau Former members
Mewn chwinciad In a jiffy
Becso Poeni
3. Newid Hinsawdd Taid a Fi – Micro Plastic
...ac os dych chi’n nabod rhywun dach chi’n meddwl dylai ennill tlws ‘Diolch o Galon’, cofiwch gallwch chi anfon enwebiad at Ifan drwy e-bost ar ifan@bbc.co.uk
Yn y rhaglen ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi’ mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i gyfarfod rhai o’r bobol ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith difyr ac phwysig i wella’r amgylchedd, yng nghwmni ei thaid, neu dad-cu, y naturiaethwr Duncan Brown. Yn y clip yma, mae Leisa yn cael sgwrs am feicroblastig gyda Nia Jones a’r Dr Dei Huws o Brifysgol Bangor.
Hudolus Magical
Mor brydferth So beautiful
Uwch Ddarlithydd Senior lecturer
Gwyddorau Môr Marine Science
Gwasgariad Dispersal
Llygredd Pollution
Amsugno To absorb
Tanwydd Fuel
Ynni Energy
Lleihau To reduce
4. Rhys Mwyn – Fflur Dafydd
Pwy fasai’n meddwl bod meicroblastig mor gyffredin on’d ife? Mae e yn ein siwmperi hyd yn oed! Roedd yr awdures Fflur Dafydd gyda Rhys Mwyn wythnos diwetha a buon nhw’n rhannu ei dewisiadau o draciau ffync. Yn ystod y sgwrs soniodd Fflur sut gwnaeth hi ddewis caneuon ar gyfer y gyfres deledu ‘Amgueddfa’ oedd ar S4C eleni, er mwyn cael rhoi rhagor o haenau i’r cymeriadau…
Cyffredin Wide-spread
Haenau Layers
Cymeriadau Characters Golygfeydd Scenes
Drych Mirror
Dylanwadau Influences
5. Geraint Lloyd – Randall Bevan
..a’r newyddion da ydy bod cyfres arall o Amgueddfa ar y ffordd, ac mae Fflur wrthi’n sgwennu’r sgript ar hyn o bryd. Randall Bevan o Ipswich sydd yn gyn-drampolinydd, ac yn 88 oed oedd yn cadw cwmni i Geraint LLoyd nos Fercher, a soniodd Randall ei fod wedi derbyn neges arbennig gan ffrind enwog iawn – pwy oedd e tybed?
Halais i Anfones i
Gynnau fach A moment ago
Tylwyth Teulu
Ŵyr a ŵyres Grandson and grandaughter
6. Clip Dros Ginio
Randall a Buzz – wedi dyna stori dda on’d ife? Wythnos diwetha, cyhoeddodd Wales Online restr o 15 o Gymry du dylen ni roi sylw iddyn nhw. Roedd Sian Jones, y steilydd gwallt 22 oed o Gaerdydd, yn un o’r pymtheg yma. Cafodd hi sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio, a dyma hi’n sôn am ei harbenigedd hi mewn gwalltiau unigolion duon…
Unigolion duon Black individuals
Cyhoeddi To publish
Arbenigedd Expertise
Penodol Specific
Yn cynnwys Including
Mor brin So scarce
Gradd Degree
Fy synnu i Surprises me
Hyfforddi Training
Fri, 12 Nov 2021 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch1. Dei Tomos – Llyfr Glas Nebo, Sara Borda Green
Mae’r nofel Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros wedi cael ei chyfieithu i sawl iaith, gyda Manon ei hun wedi ei chyfieithu i’r Saesneg. Mae Sara Borda Green yn dod o Batagonia ac mae hi wedi cyfieithu’r nofel i’r Sbaeneg. Ar raglen Dei Tomos buodd Sara’n sôn am rai o’r problemau gafodd hi wrth gyfieithu. Dyma i chi flas ar y sgwrs...
Y Wladfa Welsh settlement in Patagonia
Diwylliannol Cultural
Her A challenge
Dealledig Understood
Ariannin Argentina
Addasu To modify
Tŷ Gwydr Tŷ haul/conservatory
Cyffredin Common
Osgoi To avoid
Y golygoddion The editors
Penodol Specific
2. BORE COTHI – Naomi Saunders, planhigion y tŷ dros y gaeaf
Fasai tŷ gwydr, neu dŷ haul, yn help i gadw planhigion tŷ yn fyw dros y gaeaf tybed? Wel mae hynny’n dibynnu ar y tŷ ac ar pa mor gynnes ydy hi yn ôl Naomi Saunders fuodd yn siarad am ofalu am blanhigion tŷ gyda Shan Cothi…
Dyfrio To water
Gor-ddyfrio Overwatering
Canolbwyntio To concentrate
Oes tad Yes indeed
Amsugno To absorb
Dyfnder Depth
Gadael iddyn nhw fod To let them be
Goleuni Light
Tymheredd cyson Constant temperature
Rheiddiadur Radiator
3. Gwneud Bywyd yn Haws – Teleri James Jones
Digon, ond nid gormod o ddŵr felly i gadw’n planhigion tŷ yn fyw ac yn iach dros fisoedd y gaeaf, dyna gyngor Naomi Saunders i ni. Cynghorion ar sut i leihau gwastraff glywon ni ar Gwneud Bywyd yn Haws. Wrth edrych ymlaen at Cop26 mae Radio Cymru wedi bod yn rhoi sylw i’r argyfwng newid hinsawdd gyda chyfres o raglenni arbennig Ein Planed Nawr. Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd y Haws, clwyon ni Teleri James Jones yn sôn am ei hobi o werthu a phrynu yn ail law ar y we er mwyn lleihau gwastraff…
Cynghorion Advice
Lleihau gwastraff To reduce waste
Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisis
Ail-law Second hand
Newydd sbon Brand new
Cael gwared ar To get rid of
Dodrefn Furniture
4. Beti George – Paula Roberts
Teleri James Jones oedd honna’n siarad gyda Hanna Hopwood am ei harfer o werthu yn ail law drwy’r we er mwyn lleihau gwastraff. I glywed y rhaglen i gyd ewch i BBC Sounds a chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws, ble cewch chi glywed yn ogystal gyfweliad gyda Gwenllian Williams sy’n sôn am Eco Bryder Cafodd Beti George sgwrs gyda’r Dr Paula Roberts sydd yn darlithio mewn Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor. Mae Paula wedi treulio amser yn yr Arctig ac Antartica, ond am ei hanes yn seiclo yng Ngogledd Affrica byddwn ni’n clywed yn y clip nesa...
Eco Bryder Eco anxiety
Darlithio To lecture
Gwyddorau Naturiol Natural Sciences
Bwlch Pass
Bugeilio defaid Shepherding sheep
Cerrig Stones
Amlwg Obvious
Braw Fright
Copa Summit
Hŷn Henach
Denu sylw To draw attention
5. Bryn Tomos – Leisa a Duncan Brown
Hanes taith ddifyr a pheryglus Paula Roberts yn Morocco oedd hwnna ar Beti a’i Phobol. Yn y rhaglen ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi’ mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i gyfarfod rhai o’r bobol ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith difyr ac phwysig i wella’r amgylchedd, gan ddechrau ei thaith gyda’i thaid, neu dad-cu, y naturiaethwr Duncan Brown. Dyma Leisa a Duncan yn edrych ymlaen at y rhaglen gyda Bryn Tomos...
Amgylchedd Environment
Y frwydr i atal The fight to stop
Cynnwys To include
Mawndir Peatland
Gwair Grass
Gwrthsefyll llifogydd to withstand flooding
Arloesol Innovative
Hynod o falch Very proud
Tynna’r goes arall Pull the other leg
6. Geraint Lloyd – Dr Wynne Davies
Rhaglen ddiddorol ac amserol iawn arall ar Radio Cymru ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi’ . Derbyniodd Dr Wynne Davies un o brif wobrwyon Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru sef Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd a derbyniodd Fedal Arian y Gymdeithas yn ogystal. Dyma i chi flas ar sgwrs cafodd Geraint Lloyd gyda Dr Wynne Davies ble mae e’n sôn am ei gysylltiad hir iawn â’r Gymdeithas, a’r Sioe Frenhinol...
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru The Royal Welsh Agricultural Society
Gwobrwyon Awards
Is-Lywyddiaeth Oes Er Anrhydedd Honorary Life Vice President
Sylweddoli To realise
Olrhain hanes To trace the history
Merlod Ponies
Achau Pedigree
Pencampwriaeth Championship
Rhyfel War
Bridfa Stud farm
Pedolau Horseshoes
Fri, 05 Nov 2021 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchAled Hughes – Erin Fflur a Mari Elen
Mae pedair cenhedlaeth o deulu fferm y Pandy, Rhos-y-gwaliau ger y Bala wedi bod yn cystadlu mewn treialon cŵn defaid, a’r ddwy ferch fferm ifanc, Erin Fflur a Mari Elen ydy’r diweddara i gystadlu. Cafodd Aled Hughes air gyda’r ddwy a dyma i chi flas ar y sgwrs...
Cenhedlaeth Generation
Y diweddara The most recent
Rheoli To control
Ar gyrion On the outskirts
Praidd Flock
Canolbwyntio To concentrate
Amynedd Patience
Dallt Deall
Cyngor Advice
Yn y gwaed In the blood
Cynhaliwyd Was held
GWNEUD BYWYD YN HAWS
Hanes teulu fferm y Pandy a’r treialon cŵn defaid yn fanna. Buodd Theatr Genedlaethol Cymru yn teithio gyda’i drama ‘Anfamol ‘ yn ddiweddar. Hon ydy drama lawn gynta i’r cwmni ei llwyfannu’n fyw ers dechrau’r cyfnod clo, ac mae’n cymryd golwg ar fywyd mam sengl. Sut mae’r ddrama hon yn cymharu â rhaglenni teledu ar yr un thema, fel Motherland tybed? Dyna fuodd Hanna Hopwood a'i gwesteion Rhiannon Mair a Llinos Patchel yn ei drafod ar Gwneud Bywyd yn Haws
Llwyfannu To stage
Cyfresi Series
Pegynnu Polarizing
Cymeriadau Characters
Gor-ddweud To exaggerate Elfennau Elements
Anweledig Invisible
Rhianta Parenting
Denu To attract
Prydferthwch Beauty
Mor glou Mor gyflym
Datgelu’n raddol Gradually revealing
Arwyr Glew – Erwau’r Glo
Mae’n amlwg bod Llinos a Rhiannon wedi mwynhau ‘Anfamol ‘ yn fawr iawn. Mae’r diwydiant glo yn aml iawn yn cael ei gysylltu gyda llygredd, ond clywodd Aled Sam am gynllun sydd yn defnyddio glo gorllewin Cymru i buro dŵr ar draws y byd. Dyma Aled yn sgwrsio gyda Jeff Macavoy o gwmni glo Western Carbons ger Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin.
Y diwydiant glo The coal industry Llygredd Pollution
Puro To purify
Tunnell A ton
Rhyfedd Strange
Dros Ginio
Wel, wel, pwy fasai’n meddwl? Diemwntau du gorllewin Cymru yn puro dŵr Saudi Arabia. Dyna ddiddorol on’d ife? Wythnos diwetha, roedd Paul Simon yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed. Mae e wedi dylanwadu ar gerddorion ar draws y byd, gan gynnwys cerddorion Cymru fel Delwyn Sion, sydd yn dipyn o ffan o’r dyn o Efrog Newydd. Buodd e’n sôn ychydig am yrfa Paul Simon gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio...
Dylanwadu To influence
Rhyfeddol Astonishing
Degawd A decade
Poblogaidd Popular
Canwr gwerin Folk singer
Deuawdau Duets
Beti a’i Phobl – Ann Jones
Fasai hi ddim wedi bod yr un fath tasen nhw wedi cadw’r enw Tom and Jerry, na fasai? Cadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Merched, Ann Jones o Landdewi Brefi yng Ngheredigion oedd gwestai Beti George. Dyma hi’n sôn wrth Beti am bwysigrwydd y Sefydliad..
Sefydliad y Merched Women’s Institute
Pwysigrwydd Importance
Delwedd Image
Ymgyrchydd Campaigner
Yn wirioneddol Truly
Materion Cyhoeddus Public affairs
Cyfrifol Responsible
Amgylchedd Environment
Parchu llais To respect the voice
Geraint Lloyd
Dyna ni felly, Jerusalem ond ddim jam i Sefydliad y Merched! Yr arbenigwr hen bethau John Rees oedd gwestai Geraint Lloyd nos Fercher a buodd e’n sôn am rywbeth o’r enw ‘chippy paint’. Beth yw hwnnw tybed?
Arbenigwr Expert
Tad-cu Taid
Celfi Dodrefn
Gweithdy Workshop
Traul Wear and tear
Brwnt Budr
Fri, 29 Oct 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchCYMRY NEWYDD Y CYFNOD CLO - MOHINI GUPTA
Bardd o Delhi Newydd, Mohini Gupta, ddysgodd Cymraeg ar ôl iddi dreulio tri mis yn Aberystwyth yn 2017. Mae hi wedi cyfieithu cân boblogaidd yr Anhrefn a Candelas, Rhedeg i Baris, i Hindi ac mae’n gobeithio cryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy iaith yn y dyfodol. Dyma hi’n esbonio pam dechreuodd hi ddysgu Cymraeg
Bardd Poet
Cymrawd Fellow
Cwympo mewn cariad To fall in love
Mwyaf rhyfeddol Most amazing
Y gynghanedd Welsh metrical alliteration
Yn gysylltiedig â barddoriaeth Connected to poetry
Led-led y wlad Throughout the country
Gweithdy Workshop
Sylweddoli To realise
Cenhadon Missionaries
GWNEUD BYWYD YN HAWS – ROB LISLE A DAVID THOMAS
Mohini Gupta oedd honna’n sôn am y cysylltiad rhwng y Gymraeg a Hindi. Cafodd Hanna Hopwood gwmni rhai o gystadleuwyr 'Dysgwr y Flwyddyn 2021', i rannu cynghorion am sut i wneud bywyd yn haws wrth ddysgu Cymraeg. Mae Rob Lisle wedi bod yn helpu dysgwyr eraill i ddechrau sgwrsio yn Gymraeg mewn ffordd ymarferol a dyma e’n esbonio wrth Hanna sut mae e’n mynd o’i chwmpas hi...
Mynd o’i chwmpas hi To go about it
Dipyn o gamp Quite an achievment
Cymryd yn ganiataol To take for granted
Canolbwyntio Concentrating
Ystyried Considering
Gwybodaeth gyffredinol General information
Mo’yn Eisiau
BORE COTHI -MELANGELL DOLMA A RHIANNON OLIVER
Mae’n wych gweld rhai fel Rob, sydd wedi dysgu Cymraeg, yn rhoi help llaw i’r rhai sydd eisiau ei defnyddio. Un gafodd gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn fuan ar ôl ei dysgu ydy’r actores Rhiannon Oliver a lwyddodd i gael rhan yn ‘Enfys’ drama ddigidol Theatr Genendlaethol Cymru. Clywon ni’r hanes mewn sgwrs gafodd hi gyda Shan Cothi… Dwys Intensive
Cyngor Celfyddydau Cymru Welsh Arts Council
Llawrydd Freelance
GERAINT LLOYD – JAMES HORNE
Wel dyna brofiad gwych i Rhiannon on’d ife? Roedd Geraint Lloyd yn holi ‘dysgwr y dydd’ ar ei raglen wythnos diwetha ar nos Fawrth. Myfyriwr sy’n astudio ym Mhrifysgol Bangor o’r enw James Horne oedd yn cadw cwmni iddo fe.
Cwrs TAR PGCE course
Parhau To continue
Hedfan Flying
Cwrs Calan New Year’s course
GERAINT LLOYD – ELISABETH HALIJAS
Ac arhoswn gyda Geraint Lloyd nawr i glywed rhan o sgwrs gaeth e gydag Elisabeth Halijas dietegydd sydd yn byw a gweithio yng Nghaerdydd, ond sy’n dod o Estonia yn wreiddiol. Fel James Horne, mae hi wedi dysgu Cymraeg yn gyflym iawn – dim ond tair blynedd mae hi wedi bod wrthi. Gofynnodd Geraint iddi hi a oedd y Gymraeg yn help iddi yn y gwaith.
Defnyddiol Useful
Ymgynghoriad Consultation
Gwirfoddoli To volunteer
BETI GEORGE – GRANT PEISLEY
Wel dyna fywyd prysur sy gyda Elisabeth on’d ife? Ac mae’n wych ei bod hi, sy’n dod o Estonia yn medru cynnig gwasanaeth Gymraeg i’w chleientau. Grant Peisley oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Mae Grant yn dod o Picnic Point ger Sydney Awstralia yn wreiddiol ac roedd e’n hapus iawn pan ofynnodd Beti iddo fe am ei deulu….
Hynafiaid Ancestors
Ymhlith y carcharorion Amongst the prisoners
Go iawn Really
Cyswllt Connection
Ieuengaf Fenga/ifanca
Cyfnitherod Female Cousins
Wel dyna ni, mae wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar Radio Cymru wedi mynd â ni i India, Lloegr, Estonia ac Awstralia. Ond ble bynnag dych chi’n byw, o ble bynnag dych chi’n dod, dyn ni yn Radio Cymru a, dw i’n siŵr, pobl Cymru gyfan yn falch iawn ohonoch chi, ac yn falch o’ch cyfraniad at y bywyd Cymraeg. Daliwch ati!
Fri, 22 Oct 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
SIWRNA SIONED
Siwrna Sioned, sef rhaglen arbennig am ferch arbennig o Lanrug ger Caernarfon. Cafodd Sioned Roberts ddiagnosis o’r clefyd Motor Neurone yn 2006. Mae hi am ddefnyddio pob cyfle i rannu ei phrofiadau er mwyn helpu rhai eraill sydd â’r un clefyd. Dyma hi’n sgwrsio gydag Aled Hughes…
Clefyd Disease
Ymlaen llaw Before hand
Iesgob! Goodness!
Sylweddoli To realise
Cryfder Strength
Magwraeth Upbringing
Ymchwil Research
Triniaeth iachâd A cure
Ymwybyddiaeth Awareness
Cyfryngau cymdeithasol Social media
SIOE SADWRN SHELLEY A RHYDIAN
Ie, fel d’wedodd Aled, roedd Sioned yn gryf, yn ddewr ac yn onest yn fan’na wrth drafod ei phrofiadau hi o’r clefyd Motor Neurone. Rhodri Owen oedd gwestai Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a buodd e’n sôn am yr adeg pan aeth i gyfweld Matthew Rhys am y ffilm A Beautiful Day in the Neighbourhood. Ond doedd cael cyfweld Mattthew ddim yn ddigon i Rhodri, roedd e am gael gair gyda seren arall y ffilm, sef yr actor enwog Tom Hanks. Lwyddodd e i wneud hynny tybed? Dyma fe’n dweud yr hanes…
Dewr Brave
Cyfweld To interview
Rhes A row
Anhygoel Incredible
Yn llythrennol Literally
Tueddiad ofnadwy An awful terndency
GERAINT LLOYD
Stori anhygoel gan Rhodri Owen am sut lwyddodd e i gael cyfweliad gyda Tom Hanks. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda’r gyrrwr ralio Elfyn Evans ar ôl iddo fe ennill Rali'r Ffindir - y Cymro cyntaf i wneud hynny. Enillodd y gyrrwr o Ddinas Mawddwy, ger Dolgellau naw o 19 cymal y rali heriol yma, ac ennill pum pwynt bonws drwy ennill y cymal olaf.
Ffindir Finland
Cymal Stage (of race) Heriol Challenging
Yn fwy diweddar More recently
O’r cychwyn cynta From the very start
Ychydig o fantais A slight advantage
Yn dywyllach darker
Gwastad Level
Tymheredd Temperature
Cyn ised â As low as
BETI A’I PHOBL
Ac mae hi’n dal yn bosib i Elfyn ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd, felly pob lwc iddo fe. Buodd Beti George yn sgwrsio gyda'r fenyw fusnes Sioned Llywelyn Williams, ac yn y clip nesa mae Sioned yn sôn am ei chyfnod yn byw yng Nghaerdydd pan oedd hi’n ifancach, ac yn esbonio pam ei bod wedi dod yn ôl i fyw i Lanuwchlyn yn Ngwynedd, sef yr ardal ble cafodd hi ei magu…
Pencampwriaeth Championship
Ifancach Fengach
Wastad Always
Bwrlwm Buzz
Am gyfnod For a period
Cydnabyddiaeth Acknowledgment
Eithriadau Exceptions
Broydd Region
Yn fwy cyffredin More prevalent
Faswn i’n tybio I’d imagine
DEWI LLWYD
Sioned Llywelyn Williams oedd honna’n falch iawn o fod yn ôl yn Llanuwchllyn. Roedd stori dda gan westai pen-blwydd Dewi Llwyd sef Nia Roberts. Stori oedd hon am yr adeg Nia wedi mynd am glyweliad i chwarae rhan merch Owain Glyndŵr mewn ffilm ar gyfer S4C. Y cyfarwyddwr James Hill oedd yn gwneud y penderfyniad ac roedd Nia yn reit hyderus gan mai ei thad hi, J O Roberts, oedd wedi cael ei ddewis i chwarae rhan Owain. Pwy well felly na Nia i chwarae rhan ei ferch? Ond nid felly aeth hi, fel cawn ni glywed yn y clip yma…
Clyweliad Audition
Cyfarwyddwr Director
Hogiau Bechgyn
Diarth (dieithr) Strange
Cynhyrchu To produce
Trafodaeth A discussion
Fri, 15 Oct 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchShwmai... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Wynne Evans dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma, wythnos sy’n rhoi sylw i ddysgu Cymraeg dyn ni’n mynd at raglen …
BORE COTHI
Mae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd ac mae hi ar ei blwyddyn gynta ym Mhrifysgol Bangor yn astudio’r Gymraeg. Doedd ei rhieni hi ddim yn siarad Cymraeg o gwbl ond penderfynon nhw ei hanfon hi i ysgol Gymraeg. Hi enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd eleni, ac yn mis Medi, hi oedd Bardd y Mis Radio Cymru. Dyma hi’n sgwrsio gyda Shan Cothi am ei chefndir, ac i ddechrau holodd Shan am ei llwyddiant hi yn yr Eisteddfod…
Cefndir Background
Llwyddiant Success
Rhannu fy ngherddi Sharing my poems
Cysur Comfort
Di-Gymraeg Non Welsh speaking
Gwerthfawrogol Appreciative
Wythnos y glas Freshers Week
Cymdeithasu To socialise
GERAINT LLOYD
A phob lwc i Kayley, on’d ife, ym Mhrifysgol Bangor. Aeth Geraint Lloyd draw i Ynys Enlli ym Mhen Llŷn am y tro cynta yn ei fywyd wythnos diwetha, a chafodd gyfle i gyfarfod rhai o gymeriadau’r ynys. Lle hyfryd ond unig iawn ydy Enlli heddiw, ond sut oedd hi yno yn y gorffennol tybed? Dyma’r ffermwr Gareth Roberts yn rhoi ychydig o hanes y lle i ni…
Blaengar iawn Very progressive
Ar un cyfnod At one time
Ŷd Corn
Rhwyfau Oars
Cynnyrch Produce
Yr oes honno At that time
Diweddara Most recent
DEI TOMOS
Wel pwy fydde’n meddwl mai merched Enlli oedd yn arwain byd ffasiwn Pen Llŷn? Mae ardaloedd llechi Gwynedd wedi dod i sylw’r byd eleni ar ôl ennill statws Safle Treftadaeth Byd Unesco. Ond oeddech chi’n gwybod bod llawer iawn mwy i’r diwydiant llechi na chynhyrchu llechi to yn unig? Mae Pred Hughes wedi cyhoeddi llyfr am y diwydiant ac yn y clip yma o sgwrs gafodd e gyda Dei Tomos, mae e’n sôn am y broses o enamlo , hynny yw rhoi enamel ar lechen... Llechi Slates
Treftadaeth Heritage
Diwydiant Industry
Galwad enfawr A huge demand
Moethus Luxurious
Mwyafrif Majority
Rhiniogau Thresholds
Godidog Splendid
‘Sech chi’n taeru You’d swear
Plisgyn ŵy Egg shell
STIWDIO
Pred Hughes oedd hwnna’n esbonio’r broses o enamlo llechi wrth Dei Tomos. Nos Lun ar Stiwdio cafodd Nia Roberts sgwrs gyda Arfon Haines Davies am y llyfr mae e wedi ei olygu , sef “Hunanbortread David Griffiths”. Mae David Griffiths yn dod yn wreiddiol o Bwllheli ac mae e’n un o artistiaid portreadau mwyaf blaenllaw Prydain. Mae e wedi creu portreadau o lawer o enwogion dros y blynyddoedd, fel buodd Arfon yn egluro...
Blaenllaw Prominent
Brenhinol Royal
Straeon difyr Interesting stories
Braslunio Sketching
Archdderwydd Archdruid
Cynnwys To include
Diymhongar Unassuming
Prif Weithredwyr Chief Executives
Loncian Jogging
BORE COTHI
Dipyn bach o hanes yr artist David Griffiths yn fan’na gan Arfon Haines Davies. Nesa cawn ni glywed rhan o sgwrs rhwng y gantores canu gwlad o Geredigion, Doreen Lewis a Shan Cothi, ble mae Doreen yn sôn am ei mordaith delfrydol!
Canu gwlad Country (singing)
Mordaith delfrydol Ideal cruise
Traethau aur Golden beaches
Coed palmwydd Palm trees
Naws ffwrdd â hi Relaxed atmosphere
Ydy glei Ydy siŵr
Ffaelu Methu
Braint Privilege
Atgoffa To remind
SHELLEY A RHYDIAN
Doreen Lewis oedd honna’n breuddwydio am fynd yn ôl i’r Caribî. Hyfryd! Bob wythnos ar y Sioe Sadwrn, mae Shelley a Rhydian yn gofyn i un o enwogion Cymru gyflwyno ei anifail anwes i ni fel rhan o ‘Cynghrair y Cŵn’, a dyma Eleri Sion yn ein cyflwyno ni i’w chi bach hi, Ralffi.
Cynghrair y Cŵn Dog’s league
Anrhydedd Honour
Uchelael Highbrow
Ymateb To respond
Barus Greedy
Fy nghôl i My lap
Gwiwerod Squirrels
Ei dîn e His backside
Talent cudd Hidden talent
Toddi nghalon i Melts my heart
Wel mae Ralffi’n swnio’n gi bach bendigedig!
A dyna ni’r podlediad am wythnos arall. Ond cyn cloi, cofiwch am holl raglenni arbennig yr wythnos nesaf. Mae cwis “Cystadleu-IAITH” bob dydd am hanner awr wedi deuddeg. Cyfres “Cymry newydd y cyfnod clo” am hanner awr wedi chwech, a bydd bwletin newyddion arbennig bob nos am 8. Ewch i BBC Sounds am fwy o wybodaeth.
Diolch yn fawr am eich cwmni, a daliwch ati i wrando a siarad Cymraeg. Dw i’n lwcus mod i’n medru darlledu ar Radio Wales ac yma ar Radio Cymru. Tan y tro nesaf!
Fri, 08 Oct 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
COFIO
Plentyndod oedd thema Cofio yr wythnos diwetha a chlywon ni am blentyndod Isora Hughes, plentyndod gwahanol iawn gan ei bod wedi cael ei magu gan ei nani. Roedd mam Isora, Leila Megane, yn gantores enwog ac yn teithio’r byd yn perfformio, ond roedd ganddi ffordd arbennig iawn o adael Isora wybod ei bod yn meddwl amdani hi. T Glynne Davies oedd yn ei holi...
Gwâdd To invite
Yn ddigalon Trist
Anadlu To breathe
Peswch A cough
Wyddoch chi You know
BORE COTHI
Cantores arall sy’n gorfod teithio’r byd yw Rhian Lois a buodd hi’n sgwrsio am synhwyrau gyda Shan Cothi. Dyma hi’n trafod beth yw ei hoff arogl yn y byd, sef arogl Elsi. Ond pwy neu beth yw Elsi?
Synhwyrau Senses
Arogl A smell
Bant I ffwrdd
Llanw fy nghalon i Fills my heart
Croten Merch fach
Mam-gu Nain
GWNEUD BYWYD YN HAWS
Y gantores Rhian Lois oedd honna yn sôn am ei merch fach Elsi. Mae tymor yr Hydref yn dod a sialensau iechyd gydag e, a’r system imiwnedd oedd yn cael sylw Hanna Hopwood yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws. Buodd Hanna’n siarad gyda Ellie Armstrong o’r cwmni Chuckling Goat i gael gwybod mwy am sut mae’r diod Kefir yn gallu helpu gyda imiwnedd.
Ymateb Response
Hynod o lwyddiannus Extremely successful
Llaeth gafr Goat’s milk
Llys-fam Stepmother
Tawlu Taflu
Cyflyrau croen Skin conditions
Eitha tost Quite ill
ALED HUGHES
Kefir yn amlwg wedi gwneud bywyd yn haws i deulu Ellie Armstrong. Mae Morwenna Tang, yn dod o Shanghai yn China yn wreiddiol. Enw Cymraeg YuQi ydy Morwenna, a daeth hi i Gymru ddwy flynedd yn ôl gyda’i gŵr, Scott Griffiths, sy’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg trwy Duolingo ac ers dechrau’r cyfnod clo, ar gwrs gyda Dysgu Cymraeg Gwent. Beth wnaeth iddi hi benderfynu dysgu Cymraeg tybed?
Adnoddau Resources
Bodolaeth Existence
IFAN EVANS
Cymraeg gwych gan Morwenna yn fan’na ar ôl dim ond dwy flynedd yn dysgu’r iaith. Wythnos yma, cafodd Ifan Evans sgwrs gyda Marc Skone, oedd yn arfer perfformio gyda’r ‘boy band ‘ Cymraeg Mega. Mae e yn ôl yn perfformio nawr yn rhan o’r grŵp newydd Halo Cariad, a gofynodd Ifan iddo fe beth oedd e wedi bod yn ei wneud ers iddo fe adael Mega?
Hyn a llall This and that
Dim mor ffôl a hynny Not that bad
Profiadau Experiences
Cyfoethogi To enrich
Gwerth chweil Worthwhile
Cynhyrchydd Producer
Stŵr A row
BETI A’I PHOBL
Marc Skone oedd hwnna’n sôn am ei fand newydd Halo Cariad. Mae’r ffilm Dream Horse wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae’r ffilm yn seiliedig ar stori wir am griw o bobl o gymoedd de Cymru wnaeth fuddsoddi mewn ceffyl o’r enw Dream Alliance aeth ymlaen i rasio yn Grand National Cymru. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Beti George gyda chyfarwyddwr y ffilm Euros Lyn...
Buddsoddi To invest
Cyfarwyddwr Director
Adolygu To review
Crynhoi To summarise
Cynulleidfa Audience
Adloniant Entertainment
Cynhesrwydd Warmth
Llafar Vocal
Rhyngwladol International
Fri, 01 Oct 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … RECORDIAU RHYS MWYN
…blas ar sgwrs gafodd Rhys Mwyn gyda’r Eidales Francesca Sciarrillo, enillydd fedal y dysgwyr Eisteddfod yr Urdd 2019. Francesca oedd yn lawnsio Siart Amgen 2021 a buodd hi’n sôn am ba mor bwysig oedd artistiaid fel Datblygu, Gruff Rhys a Gwenno iddi hi wrth ddysgu Cymraeg.
Amgen Alternative
Telynau Harps
Llinach Linage
Dylanwadu To influence
Bodoli To exist Cantores Female singer
Annwyl Adorable
ALED HUGHES
Wel doedd dim eisiau i Francesca boeni dim am ei Chymraeg cyn sgwrsio efo Gwenno nac oedd – mae ei Chymraeg hi’n wych! Dych chi’n hoff o gyfresi trosedd? Mae sawl un ar y teledu y dyddiau hyn on’d oes? Mae cyfres newydd o Silent Witness ar BBC One ar hyn o bryd, ac mae Pembrokeshire Murders wedi cael enwebiad Bafta Cymru. Ond tybed pa mor realistig ydy’r rhaglenni hyn? Dyma farn Nia Bowen, sy’n batholegydd yn Nhreforys, Abertawe.
Cyfresi trosedd Crime series
Enwebiad Nomination
Ymchwil Research
Dwfn Deep
Cynhyrchwyr Producers
Mwy o alw Greater demand
Cael eu parchu Being respected
Hela rhyw lofrudd Hunting some murderer
Disgwyliadau Expectations
Golygfeydd Scenes
COFIO GRAV
Nia Bowen, y patholegydd o Dreforys, oedd honna’n sgwrsio gydag Aled Hughes. Ar y 12fed o Fedi eleni basai Ray Gravell wedi dathlu ei benblwydd yn 70 oed. Roedd Grav yn chwaraewr rygbi, yn gyflwynydd, yn actor a phawb yn hoff iawn ohono. P’nawn Sul roedd rhaglen arbennig gan John Hardy yn Cofio Grav. Dyma glip bach o Grav yn sgwrsio gyda Beti George yng nghlwb rygbi Mynydd-y-Garreg ger Cydweli yn 2004.
Crybwyll To mention
Cyfrifoldebau Responsibilities
Wap ar ôl Yn fuan ar ôl
Uchafbwynt Highlight
Heb os Without doubt
Sodlau Heels
Wedi dweud ar goedd Have proclaimed
Genedigaeth Birth
Bydwraig Midwife
Rhegi mewn gorfoledd Swearing in joy
BORE COTHI
Dyna gymeriad oedd Grav on’d ife? ac roedd hi’n dipyn o sialens i‘r actor Gareth John Bale chwarae rhan y dyn mawr mewn ffilm cafodd ei gweld ar S4C yn ddiweddar. Dyma fe’n sgwrsio gyda Shan Cothi am yr her a’r pwysau o actio cymeriad oedd mor enwog a phoblogaidd â Grav...
Her A challenge
Pwysau Pressure
Mae’r ymateb mor belled The response so far
Rhyddhad Relief
Droeon Several times
Anrhydedd An honour
Dyletswydd A duty
Dychwelyd To return
Dwlu ar To dote on
Cynulleidfa An audience
Cyfarwyddwr Director
BORE COTHI
Ac arhoswn ni gyda Bore Cothi nawr i glywed rhan o sgwrs cafodd Shan gyda Dylan Jones i drafod sut a pham buodd e a’i frindiau yn gwneud Her Tri 3 Chopa Cymru yn ddiweddar. Cerddon nhw Gadair Idris, Pen y Fan ac wrth gwrs, Yr Wyddfa...
Asgwrn Bone
Her Tri Chopa The Three Peaks Challenge
Elusen Charity
Cadw’n heini Keeping fit
Cyflwr Condition
Arbenigwyr Experts
Cyflawni To fulfil
DROS GINIO
Basai’n dipyn o her dringo’r tri chopa unrhyw adeg, ond roedd ei wneud tra’n dioddef o gyflwr ar y traed yn anodd iawn baswn i’n meddwl. Y seicolegydd chwaraeon, Seren Lois oedd yn ymuno â Vaughan Roderick ddydd Mercher i drafod sut mae llwyddo mewn chwaraeon ac i sônam yr her a’r pwysau sydd ar athletwyr ifanc, fel enillydd yr US Open, Emma Raducanu.
Trafod To discuss
Hyfforddwyr Coaches
Pencampwraig Female champion
Mewnol Inner
Balchder Pride
Boed hynny Whether it be
Goresgyn To overcome
Ymdopi To cope
Cysurus Comforting
Disglair Brilliant
Fri, 24 Sep 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
BORE COTHI Mae Gruffudd Eifion Owen yn Brifardd, hynny yw rhywun sy wedi ennill un ai’r gadair neu’r goron yn yr Eistedfod Genedlaethol, ond ddim am farddoniaeth oedd e’n sgwrsio gyda Shan Cothi, ond yn hytrach am synhwyrau. Tybed beth yw hoff flas a lliw y bardd o Ben Llŷn?
Barddoniaeth Poetry
Ond yn hytrach But rather
Synhwyrau Senses
Oes tad Goodness, yes
Chwalu To demolish
Balm i’r enaid Balm to the soul Ysgubol Sweeping
Cynnil Subtle
ALED HUGHES
Y Prifardd Gruffudd Eifion Owen oedd hwnna’n sôn am ei hoff liwiau a’i hoff flasau ar Bore Cothi, ac yn sôn am liwiau anhygoel yr aderyn Coch y Berllan. Wel Coch yr Old Trafford gafodd sylw ym myd chwaraeon dros y penwythnos gyda Ronaldo’n dod yn ôl i Manchester United, ac yn sgorio dwy gôl yn ei gêm gynta. Mae Ronaldo wedi cael dylanwad enfawr ar beldroedwyr eraill, gan gynnwys Katie Midwinter o dim pêl-droed Merched Bethel.
Dylanwad enfawr A huge influence
Arwr Hero
Oni bai am Were it not for
Ysbrydoli To inspire
Wedi mopio efo Wedi dwlu ar
Yn y gwaed In the blood
Efelychu To emulate
Prif gynghreiriau Main leagues
Syfrdanol Stunning
Ystadegau Statistics
DROS GINIO Ac i aros yn myd chwaraeon, mae Heledd Anna yn rhan o dîm chwaraeon y BBC a Heledd a’i thad Dafydd Roberts oedd gwestai Dau Cyn Dau ar Dros Ginio wythnos diwetha. Mae Dafydd wedi bod yn perfformio gyda’r grŵp Ar Log ers y saithdegau ac mae’r teulu i gyd gyda diddordeb mewn ceddoriaeth fel clywodd Iolo ap Dafydd. Ond pa mor gerddorol ydy Heledd tybed?
Edmygu To admire
Rhinweddau Virtues
Parodrwydd i fentro Willingness to venture
Meddylgar Thoughtful
Brwdfrydedd Enthusiasm
Difaru To regret
RHYS MWYN
Dafydd Roberts yn fan’na wedi perfformio gydag Ar Log ers y saithdegau, ond ers yr wythdegau mae Neil Rosser yn perfformio ac mae e dal wrthi, y tro ‘ma gyda band rocabili o’r enw Pwdin Reis. Prif gantores y band ydy Betsan Haf Evans a dyma hi a Neil yn sôn wrth Rhys Mwyn am beth sy wedi dylanwadu ar eu cerddoriaeth...
Dylanwadu To influence
Menywod Merched
Hygrydedd Integrity
Shwd gymaint Cymaint â hynny
GERAINT LLOYD
Mae llais arbennig iawn gan Betsan, ond oeddech chi’n gwybod bod yna gôr ar gael i bobl sy ddim yn medru canu’n dda o gwbl? Wel mae Cor Di-Dôn yng Nghaerdydd yn chwilio am aelodau newydd fel clywon ni gan Rhian Thomas fuodd yn sgwrsio gyda Geraint Lloyd….
Di-dôn Tuneless
Awgrymu To suggest
Sefydlwyd Was established
Yn gymdeithasol Socially Lletchwith Awkward
Cryn dipyn Quite a lot
Arweinydd Conductor
BORE COTHI
Côr Di-dôn Caerdydd yn chwilio am aelodau ac arweinydd newydd, pob lwc iddyn nhw on’d ife? Mae can mlynedd wedi mynd heibio ers i Harry Secombe gael ei eni. Roedd y comedïwr, actor, canwr a chyflwynydd teledu’n dod o Abertawe yn wreiddiol a dyma i chi flas ar sgwrs cafodd y cerddor a chyflwynydd Alwyn Humphreys am Harry Secombe gyda Shan Cothi...
Y fyddin The army
Rhyfel War
Adloniant Entertainment
Milwyr Soldiers
Diddanwr Entertainment
Cyfresi Series
Yn dwlu arno fe Yn ei hoffi’n fawr
Eidalaidd Italian
Cyfansoddi To compose
Denu To attract
Fri, 17 Sep 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, a’r wythnos hon dyn ni’n edrych yn ôl ar bythefnos o raglenni Radio Cymru a dechreuwn ni gyda …”
SHAN COTHI ....sgwrs rhwng Shan Cothi a Bardd y Mis, mis Awst sef Yr Athro Derec Llwyd Morgan. Gofynnodd Shan iddo fe ddisgrifio ei haf perffaith a dyma i chi Derec yn sôn am hafau ei blentyndod...
Yr Athro - Professsor
Llwyth o atgofion - Loads of memories
Lle maged i - Where I was brought up
Amhrofiadol - Inexperienced
Ymdrochi - Bathing
Crits - Bechgyn
Dwlu ar - Hoff iawn o Yn ei blyg - Crouching
Crwmp ar ei gefn - Hunchback
Broydd - Areas
Trigo - Byw
SHAN COTHI (Hann Hopwood) Yr Athro Derec llwyd Morgan oedd hwnna’n sôn am hafau ei blentyndod. Arhoswn ni gyda Bore Cothi nawr ond y tro hwn Hannah Hopwood oedd yn eistedd yn sedd Shan Cothi a chafodd hi sgwrs am adweitheg, neu reflexology, gyda’r Adweithegydd Elin Prydderch. Mae adweitheg wrth gwrs yn hen, hen driniaeth, ond faint ohonoch chi oedd y gwybod bod y driniaeth hon yn cael ei ddefnyddio i lacio wynebau. Dyma Elin yn esbonio...
Adweitheg - Reflexology
Triniaeth - Treatment
Llacio - To relax
Hynafol - Ancient
Goblygiadau - Implications
Pryder - Anxiety
Cymalau - Joints
Seibiant - A rest
Maethlon - Nutritious
Cyfrifoldeb - Responsibility
Mwy debygol o - More likely to
DROS FRECWAST Os oes rhywun yn haeddu cael trinaeth fel adweitheg, er mwyn ymlacio ar ôl deunaw mis y Covid, wel gweithwyr iechyd yw’r rheini yn siwr. Ond canu sydd yn helpu criw o weithwyr iechyd Llanelli ymdopi a’r sefyllfa ofnadwy maen nhw wedi ei wynebu. Dros y cyfnod clo buon nhw’n dod at ei gilydd ar Zoom i ganu, ond yr wythnos diwetha daethon nhw i gyd at ei gilydd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf. Roedd hi’n brofiad emosiynol iawn fel clywodd Garry Owen... Cantorion - Singers
Profiad - Expereince
Gweithiwr cymdeithasol - Social worker
Caredig - Kind
Croten - Merch fach
Cyfeillgar - Friendly
Rhyddhad - Release
Ers ei sefydlu - Since it was founded
Cŵn tywys - Guide dogs Cyfaddef - To admit
SIOE FRECWAST A canu o fathau gwahanol sydd yn y tri clip nesa yn ogystal. Mae Rhys Edwards yn enwog fel canwr a gitarydd y band Fleur de Lys o Ynys Môn. Ond mae Rhys yn athro mewn ysgol gynradd ar yr ynys hefyd. Beth mae’r plant yn feddwl o’i ganeuon tybed?
Yn dueddol i - Tend to
Disgyblion - Pupils
Datgan barn - To state an opinion
Ystyried fy nheimladau - Consider my feelings
Maddau - To forgive
Arwydd - Sign
DEI TOMOS Band tipyn hŷn na Fleur de Lys oedd yn cael sylw gan Dei Tomos wythnos diwetha sef Hergest, oedd yn dathlu 50 mlynedd ers iddyn nhw gyfarfod am y tro cynta. Ar Awst 31 1971 daeth pedwar cerddor – Derec Brown, Delwyn Sion, Geraint Davies, ag Elgan Phillip at ei gilydd i greu sŵn go arbennig gyda chaneuon fel Dinas Dinlle a Harbwr Aberteifi. Dyma i chi hanes ffurfio’r grŵp gan y bechgyn eu hunain…
Cyfarfyddiad - Meeting
Cyd-ddigwyddiad rhyfeddol - An amazing coincidence
Gor-ddweud - To exaggerate
Gwobr - Prize
Yn grac iawn - Very angry
Cael llwyfan - Perfforming on the main stage – Eisteddfod’s final round
Sylweddoli - To realise
Arwyr - Heroes
Dylanwad - Influence
Diflasu - To bore
BORE COTHI Math gwahanol o ganu nawr – canu operatig. Patrick Young ydy Cyfarwyddwr Cerdd OPRA Cymru a fe enillodd Gwobr Glanville Jones eleni, sef gwobr am gyfraniad arbennig i gerddoriaeth Cymru. Mae OPRA Cymru yn mynd â byd yr opera i gymunedau ar hyd a lled y wlad ac mae’n gwneud llawer o waith gyda phobl ifanc. Sut dechreuodd diddordeb Patrick mewn opera felly? Dyma fe’n dweud yr hanes wrth Shan Cothi...
Cyfarwyddwr Cerdd - Musical Director
Cerddorfeydd - Orchestras
Gwerthfawrogi - To appreciate
Caeredin - Edinburgh
Enfawr - Huge
Datblygu - To develop
Ysbrydoli - To inspire
Tinc - Tone
Anhygoel - Incredible
Agwedd - Attitude
Fri, 10 Sep 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
DROS GINIO Oeddech chi’n gwybod mai sefyll ar ddarn o blastig a phadlo llynoedd a moroedd Cymru ydy’r peth i’w wneud yn 2021? Padlfyrddio ydy’r gweithgaredd poblogaidd yma ac Elliw Gwawr gafodd sgwrs gyda Carwyn Humphries am hyn ar Dros Ginio
Padlfyrddio - Paddle boarding
Buddsoddi - To invest
Ansawdd - Quality
Hyfforddwyr - Trainers
Gorbryder - Anxiety
Gweithgaredd corfforol - Physical activity
Megis - Such as
Elfennau diogelwch - Safety elements
Tennyn - Leash
Gohirio - To postpone
SIOE FRECWAST Carwyn Humphries oedd hwnna’n sôn am badlfyrddio ar Dros Ginio. Y gantores Elin Parisa Fulardi, sydd hefyd yn perfformio fel El Parisa, oedd gwestai Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn dros y penwythnos a dyma hi’n sôn am sut dechreuodd hi berfformio pan oedd hi’n ifanc iawn…
Mo’yn - Eisiau
Cerdd dant - A form of singing with the harp
Alaw werin - Folk melody
Pabell - Tent
Profiad - Experience
Colli - To miss
BORE COTHI Eisteddfodau lleol wedi helpu Elin Parisa Fulardi ddechrau perfformio fel sawl artist Cymraeg arall, da on’d ife? Leisa Mererid oedd yn ateb cwestiynau “beth yw’r haf i mi” ar Bore Cothi a chlywon ni sut mae ei diddordeb hi mewn ioga wedi rhoi syniad iddi am greu adnoddau Cymraeg ar gyfer ysgolion cynradd…
Adnoddau - Resources
Un ai - Either
O fath yn y byd - Of any kind
Gwerthoedd - Values
Lles a budd - Welfare and well-being
Y byd sydd ohoni - The world as it is
Llonyddwch - Tranquility
Dilyniant - Sequence
Adnewyddu - To renew
Treulio - To digest
GWLEDYDD Y GAN Leisa Mererid oedd honna’n sôn wrth Shan Cothi am yr adnoddau arbennig mae hi wedi eu creu ar gyfer ysgolion cynradd. Beth dych chi’n wybod am Helsingfors, neu ddinas Vasa? Dych chi wedi clywed iaith Meankieli erioed neu glywed canu Yoik? Cewch wybod popeth am y rhain, a mwy, gyda Gwilym Bowen Rhys yn ei raglen Gwledydd y Gân. Yn y clip nesa mae o’n dysgu ychydig am yr iaith Ffineg.
Ffineg - Finnish
Ystyr - Meaning
Enghraifft - Example
Tybed - I wonder
HUNAN HYDER Da iawn Gwilym am lwyddo i ynganu’r gair anferth yna - well i mi beidio a thrio dw i’n meddwl…Nesa dyma i chi Gerallt Jones o’r cwmni Hyfforddi Grymus yn esbonio sut mae’r gweithgareddau mae e’n eu cynnal gyda phobl ifanc yn helpu gyda’u problemau iechyd meddwl ac yn eu helpu fe hefyd…
Maes - Field
Allanol - Outdoors
Hwylfyrddio - Sailboarding Trafferth - Difficulty
Meddyliol - Mental
BETI GEORGE Gerallt Jones oedd hwnna’n sôn am sut mae e’n helpu pobl ifanc gyda’u hunan hyder. Buodd Hazel Charles Evans farw yn ystod yr wythnosau diwetha a chafon ni gyfle arall i glywed sgwrs Beti George gyda Hazel yr athrawes, awdures ac un o ffrindiau mawr y Gymraeg. Roedd parch mawr i Hazel am ei gwaith yng Ngymru ac hefyd ym Mhatagonia. Ond fel cawn ni glywed yn y clip nesa, doedd dim dechreuad da iawn i’w gyrfa academaidd hi…
Esgusodion - Excuses
Eilradd - Secondary
O (fy) nghorun i’m sawdl - From head to toe
Sefyll arholiad - To sit an exam
Creulon - Cruel
Pigyrnau - Ankles
Seisnigaidd - English (nature)
Sosban - Person o Lanelli
Cymreigaidd - Welsh (nature)
Fri, 27 Aug 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
COFIO Mae llawer mwy o bobl yn dewis cael gwyliau yng Nghymru eleni a gwyliau oedd them ‘Cofio’ wythnos diwetha. Yn y clip nesa mae T Glynne Davies yn holi Mrs Hannah Jones fuodd yn cadw gwesty yn y Rhyl am dros bedwar deg o flynyddoedd... Rhyfel - War
Dogni - Rations
Gwerthfawrogi - To appreciate
Enwogion - Celebraties
Digri - Funny
Tynnu wynebau - Pulling faces
Maldodi - To pamper
POD DYSGWYR Dipyn o hanes Morecambe and Wise a Tony the Wonder Horse yn aros yn y Rhyl yn fan’na ar Cofio. Mae Nick Yeo, dyn ifanc o Gaerdydd wedi dechrau podlediad o’r enw Sgwrsio ar gyfer y rhai sy’n dysgu – ac sy’n rhugl yn y Gymraeg. Hannah Hopwood, oedd yn cyflwyno Bore Cothi, a hi gafodd “sgwrs” gyda Nick… Creu - To create
Bodoli - To exist
Anffurfiol - Informal
Rhithiol - Virtual
AmGen - Alternative
Profad arbennig - A special experience
GARMON RHYS Ie, cofiwch droi mewn i‘r podlediad ‘Sgwrsio’ pan gewch chi gyfle. Mae Garmon Rhys wedi cael rhan yn y sioe Tina – sioe gerdd am fywyd yr anhygoel Tina Turner. Dyma fe’n sôn am y profiad o gymryd rhan yn Tina gyda Caryl a Huw ar y Sioe Frecwast Sioe gerdd - Musical
Llwyfannu - To stage
Newid wedd - Transformation
Ailagor - To reopen
Anhygoel - Incredible
Am wn i - I suppose
Llwgu - To starve
Ailymweld - To revisit
Cyn hired - So long
Celfyddydau - Arts
GWNEUD BYWYD YN HAWS Mae hi’n swnio’n sioe gyffrous iawn on’d yw hi? Ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth buodd Hanna Hopwood yn holi Sian Files am ei phrofiadau fel aelod o'r 'sandwich generation'. Sut mae jyglo bod yn riant, cael gyrfa a gofalu am aelodau hŷn o’r teulu? Dyma Sian yn esbonio sut mae dechrau'r cyfrif Instragam Mamgu Mamgu wedi gwneud bywyd yn haws iddi hi…
Cyfrif - Account
Sawl rhaglen - Several programmes
Gofalu am - To care for
Sylweddolais i - I realised
Bachu ar y cyfle - Grasped the chance
Cofnodi - To record Talu sylw - To pay attention
RICHARD HOLT Sian Files oedd honna’n sôn am ei chyfrif Instragram Mamgu Mamgu. Weloch chi’r gyfres Richard Holt a’i Felyn Felys ar S4C? Os weloch chi h, byddwch yn gwybod bod Richard yn gogydd patisserie gwych iawn. Nawr mae e wedi agor bwyty bwyd melys mewn melin wynt ar Ynys Môn ac fel clywodd Nia Griffiths mae ei fenter newydd yn un sy’n cael dipyn o sylw ar yr ynys…
Cyfres - Series
Melin wynt - Windmill
Dw i’m be - I don’t know what
Cynhyrchu - To produce
Erioed wedi gweld - Never seen
Nod - Aim
Blawd - Flour
Gwenith - Wheat
Malu - To grind
MARED WILLIAMS A phob lwc i Rich Holt gyda’i fenter newydd on’d ife? Mae’r gantores Mared Williams wedi perfformio ar sawl llwyfan yng Nghymru dros y blynyddoedd ac wedi perfformio yn y West End fel un o gast Les Miserable. Clywodd hi’r wythnos diwetha bod ei halbwm Cymraeg cynta wedi ennill gwobr Albym Cymraeg y Flwyddyn eleni. Ifan Davies a Sian Eleri wnaeth longyfarch Mared a gofyn iddi sut oedd hi’n teimlo ar ôl clywed y newyddion. Dyma i chi sut wnaeth hi ymateb… Coelio - Credu
Cyfrinach - Secret
Rhannu - To share
Rhestr fer - Shortlist
Yn freintiedig - Privileged
Haeddu - To deserve
Golygu - To mean
Beirniaid - Judges
Aeddfedrwydd - Maturity
Coroni - To crown
Fri, 20 Aug 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
CRWYDRO'R CAMBRIA Yn y gyfres newydd, Crwydro’r Cambria, mae Ioan Lord a Dafydd Morris Jones yn mynd â ni ar daith i ganol mynyddoedd y Cambria gan ddechrau yn y clip yma gyda phentref bach Ponterwyd yng Ngheredigion…
Cyfres - Series
Arwydd - A sign
Eithriadol - Exceptional
Yn ddiweddar - Recently
Canolbarth Lloegr - The Midlands Gwythïen - Vein
Hewl (Heol) - Ffordd
Pellennig - Remote
Twr o bobl - A crowd of people
RHYS PATCHELL Cofiwch , tasech chi eisiau clywed pob rhaglen yn y gyfres honno ewch i wefan BBC Sounds. Mae cyflwynydd newydd ar Radio Cymru bob bore Sadwrn – y chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchel, a chwarae teg iddo, roedd atebion da gyda fe i gwestiynau digon anodd gan ddwy ferch fach
Cyflwynydd - Presenter
Chwaraewr rygbi rhyngwladol - International rugby player
Arbenigedd - Expertise
Diflasu ar - To become bored of
Cymhlethu - To complicate
Pyst - Posts
Llinell ddychmygol - Imaginary line
Bant â ni - Ffwrdd â ni
Taro - To hit
AR Y MARC Siocled a fajitas – deiet da i chwaraewr rygbi rhyngwladol Dwy ferch fach a Catrin Heledd yn ein helpu ni ddod i nabod Rhys Patchell yn well yn fan’na. Newid siâp y bêl nawr a chlip bach am bêl-droed. Mae sawl clwb bach wedi cael amser anodd iawn yn ystod cyfnod Covid felly roedd hi’n braf clywed sôn am glwb newydd yn cael ei ffurfio ym mhentref Llechryd yng Ngheredigion. Cai Emlyn oedd un o westeion Dylan Jones ar Ar y Marc yr wythnos yma a dyma fe’n sôn am y clwb newydd...
Digon dewr - Brave enough
Ymysg - Amongst
Y Gynghrair - The league
Rhyfeddol - Amazing
Adnabyddus - Enwog
Ieuenctid - Youth
Hen bennau - Old heads
Offer - Equipment
Caniatâd - Permission
Noddwyr - Sponsors
MIRAIN IWERDYDD A phob lwc i glwb pêl-droed Llechryd on’d ife? Mae Miriain Iwerydd wrth ei bodd gyda chrefftau, felly bob wythnos mae hi’n sgwrsio gyda rhywun sy wedi llwyddo i wneud gyrfa yn y maes. Yr wythnos yma – Elin Angharad oedd ei gwestai.
Yn gyfarwydd - Familiar
Graddio - To graduate
LLedr - Leather
Datblygu - To develop
Uniongyrchol - Directly
Arbrofi - To experiment
Gweithdy - Workshop
Breuddwyd - A dream
Creadigol - Creative
Di o’m bwys - Does dim ots
LISA ANGHARAD Elin Angharad oedd honna’n sgwrsio gyda Mirain Iwerydd am ei gwaith celf lledr. Weloch chi’r rhaglen ddrama wych The Pact ar BBC 1 yn ddiweddar? Un o’r sêr oedd Heledd Gwynn ac ymunodd hi gyda Lisa Angharad a buodd y ddwy’n sgwrsio am eu gwyliau…
Becso - Poeni
Noeth - Naked
Wastad - Always
Crac - Angry
Rhyddid - Freedom
Unigolyn - Individual
Hunllef - Nightmare
Cyfrifol - Responsible
SEREMONI DYSGWYR Ambell i stori ddifyr am wyliau yn fan’na gan Lisa Angharad a Heledd Gwynn. Ac i gloi – dyma Shan Cothi a Trystan Ellis yn cyhoeddi pwy oedd Dysgwr y Flwyddyn yr Eisteddfod AmGen eleni yng nghwmni Shirley Williams, un o’r beirniaid, a David Thomas yr enillydd
Beirniaid - Adjudicators
Datgelu - To reveal
Gwrach - Witch
Hud a lledrith - Magic
Braint - An honour
Ystyried - To consider
Cenhedlaeth goll - Lost generation
Ymwybodol - Aware
Trawsnewid - To transform
Cyfoethogi - To enrich
Ehangu fy ngorwelion - Widen my horizons
Fri, 13 Aug 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
Gwneud Bywyd Yn Haws Mae llawer ohonon ni wedi gorfod newid ein cynlluniau gwyliau dros cyfnod Covid, ond gwnaeth penderfyniad Carys Mai Hughes i ymestyn ei gwyliau cyn yr ail gyfnod clo newid ei bywyd hi am byth, fel clywon ni ar Gwneud Bywyd Yn Haws…
Ymestyn - To extend
Yr ail gyfnod clo - The second lockdown
Sa i’n mynd gartref - Dw i ddim yn mynd adre
Sa i’n beio ti - I don’t blame you
Swistir - Switzerland
Bore Cothi Mae teithio o gwmpas Ewrop mewn campervan wedi gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys on’d yw e? Shelley Rees oedd yn cyflwyno Bore Cothi ddiwedd wythnos diwetha a chafodd hi gwmni’r actores Rhian Cadwaladr. Actores ie, ond hefyd mae hi’n awdur, yn ffotograffydd ac fel cawn ni glywed yn y clip nesa, mae hi’n dipyn o gogyddes hefyd ac wedi ennill gwobr gan neb llai na Nigella Lawson…
Lawrlwytho - To download
Pobyddion - Bakers
Llachar - Bright
Cyfrif - Account
Gradd - Degree
Ieithoedd Canol Oesoedd - Middle Age Languages
Troi’r Tir Wel, llongyfarchiadau mawr i Rhian ond hefyd i Nigella am ddefnyddio’r Gymraeg. Mae merched o ardal Cynwyl Elfed yn Sir Gaerfyrddin wedi trefnu taith tractors i godi arian tuag at uned Cemotherapi Ysbyty Glangwili ger Caerfyrddin. Roedd dynion yn cael cymryd rhan hefyd ond ar un amod, fel cawn ni glywed! Dyma i chi rai o’r merched, a’r dynion, yn sôn am y daith…
Amod - Condition
Disgleirio - Shining
Yn flynyddol - Annually
Elusennau - Charities
Yn dost - Yn sâl
Cymuned - Community
Gwerthfawrogiad - Appreciation
Cydweithio - Cooperating
Mas - Allan
Silwair - Silage
Ifan Evans Amy Evans, Mared Powell, Malcolm Evans a Michelle Evans oedd y rheina yn sôn am daith tractors Cynwyl Elfed. Tybed oedd Malcolm wedi gwisgo fel merch ar gyfer y daith? Roedd Mared yn y clip yna yn sôn ei bod yn dod o Lampumpsaint yn Sir Gaerfyrddin. Ac o Lanpumpsaint mae Alun Rees yn dod yn wreiddiol hefyd, ond erbyn hyn mae o’n byw yn Nashville, ac yn gweithio ar raglen deledu yno. Cafodd Ifan Evans sgwrs gydag Alun a dyma i chi flas ar y sgwrs…
Trydanwr - Electrician
Cyfryngau - Media
Crwt - Bachgen Hyfforddi - To coach
Ar yr hewl (heol) - On the road
Offer - Equipment
Goleuni - Lights
Lleoliad - Location
Cofio Hanes Alun Rees sy’n byw yn Nashville oedd hwnna ar raglen Ifan Evans. Cyd-ddigwyddiadau oedd thema Cofio’r wythnos diwetha a dyma i chi glip o Aled Richard yn sôn wrth Shan Cothi am rywbeth rhyfedd iawn ddigwyddodd iddo fe …
Cyd-ddigwyddiadau - Coincidences
Arddegau - Teenage years
Hyd y gwyddwn i - As far as I knew
Dros Ginio Wel ie, ‘sbŵci’ iawn on’d ife? Dw i’n siŵr bod llawer mwy ohonon ni wedi treulio gwyliau’r haf yma ar lan y môr yng Nghymru yn hytrach na mynd dramor oherwydd Covid. A does unman gwell, nac oes, ond i ni gael y tywydd! Ar Dros Ginio ddydd Mawrth diwetha cafodd Jennifer Jones gwmni’r syrffiwr, nofiwr gwyllt a’r amgylcheddwr Laura Truelove i sôn am pa mor arbennig ydy’r môr iddi hi’n bersonol…
Amgylcheddwr - Environmentalist
Arfordir - Coast
Yn rheolaidd - Regularly
Deniadol - Attractive
Atynfa - Attraction
Dianc - To escape
Cyngor - Advice
Iselder - Depression
Methu ymdopi - Unable to cope
Rhagnodi - To prescribe
Ïonau - Ions
Fri, 06 Aug 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
LISA ANGHARAD
Dych chi wedi bod ar wyliau y tu allan i Gymru a chlywed pobl yn siarad Cymraeg? Yn ôl cyflwynydd y rhaglen deledu Cynefin, Sion Thomas Owen, mae hyn yn digwydd iddo fe bob tro mae’n mynd i ffwrdd. Fe oedd gwestai Lisa Angharad fore Gwener ar RC2, a dyma i chi ychydig o’r hanesion rannodd e am ei wyliau....
Cyflwynydd Presenter
Mam-gu Nain
Mo’yn Eisiau
Cnoi Brathu
Anghyfarwydd Unfamiliar
CARYL AC ALUN
Sion Thomas Owen oedd hwnna’n sôn am ddod ar draws pobl o Gymru ar ei wyliau. Cyflwynydd newydd Sioe Frecwast Bore Sul ar RC2, Miriain Iwerydd, oedd gwestai arbennig Caryl ac Alun yr wythnos yma. Mae’n debyg bod Mirain yn hoff iawn o fisgedi a dyma hi’n dewis ei hoff rai...
Mae’n debyg Apparently
STIWDIO
Dych chi’n cytuno gyda dewis Mirain? Mae’n rhaid dweud bod y bisged siocled tywyll yn swnio’n hyfryd! Mae Oriel Môn, oriel gelf ger Llangefni ar Ynys Môn, yn 30 oed eleni ac i nodi’r penblwydd hwnnw cafodd Nia Roberts sgwrs gydag artist o Fôn, Iwan Gwyn Parry, ar Stiwdio nos Lun. Cafodd yr oriel ei hagor yn wreiddiol er mwyn dangos gwaith yr artist bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe, ac mae Iwan yn cofio gweld Tunnicliffe wrth ei waith pan oedd Iwan yn blentyn bach. Pa effaith cafodd hynny ar ei yrfa fel artist tybed...?
Oriel gelf Art gallery
Cyffredin Common
Ymwybodol Aware
Dylanwad Influence
Trobwynt Turning point
Isymwybod Sub-conscious
Efelychu To emulate
Esblygu To evolve
Unigryw Unique
Ewyllys Will
Cenhedlaeth Generation
MOEL
Mae Iwan Gwyn Parri wir yn gobeithio bydd e’n berchen ar y darlun hwnnw rywdro on’d yw e? Mae gan Aled Hughes bodlediad gwych o’r enw Moel sy’n trafod pob math o bynciau gwahanol - a’r tro hwn, Ffilmiau Mawr Hollywood oedd yn cael sylw ac yn y clip hwn mae’n trafod ‘Gone with The Wind’...
Moel Bald
Oedi To delay
Dal allan Caught out
Heb ‘di Ddim wedi
Anhygoel Incredible
Ail-adeiladu To rebuild
Enfawr Huge
Y meddylfryd Mentality
SARA GIBSON
Ac o bodlediad ‘Moel’ i glip sy’n sôn am steiliau gwallt. Sara Gibson oedd yn cyflwyno rhaglen Aled ar Radio Cymru wythnos diwetha a chafodd hi air gyda’r barbwr Jason Parry o Gaernarfon am ddylanwad pêl-droedwyr ar ffasiwn gwallt dynion.
Enghraifft Example
Yn gyffredinol Generally
Ers talwm In the past
Poblogaidd Popular
Be ddiawl...? What on earth...?
SIOE FAWR SHAN
Ie, diddorol on’d ife - dw i’n siŵr eich bod yn cofio i lawer o blant ifanc Cymru liwio eu gwalltiau yn wyn er mwyn efelychu Aaron Ramsey pan oedd yn chwarae i Gymru yn Euros 2016. Roedd y Sioe Fawr, neu’r Sioe Frenhinol, ar ffurf wahanol eleni – ac er nad oedd posib mynd i Lanelwedd i fwynhau’r Sioe, roedd digon o adloniant amaethyddol yn digwydd, ac yn cael ei rannu ar Radio Cymru. A dyw’r sioe ddim yn sioe heb Shan Cothi nac yw? Dyma ran o sgwrs Shan gyda Melanie Owen am… beth arall… ond ceffylau!!
Y Sioe Frenhinol The Royal (Welsh) Show
Amaethyddol Agricultural
Tanio diddordeb To spark an interest
Tanllyd Fiery
Ymddiried ynddyn nhw Trust in them
Hyblyg Flexible
Y sylw The attention
Pencampwriaethau Championships
Pedoli To shoe
Berwedig Boiling
Prydferth Beautiful
Fri, 30 Jul 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
Sioe Frecwast Caryl a Huw
Mae Caryl Parry Jones a Huw Stephens yn cyflwyno’r sioe frecwast bob bore ar RC2 – a does dim byd gwell nac oes yna, na dechra’r bore gyda llond trol o chwerthin. A dyna’n union ddigwyddodd wythnos diwetha wrth i’r criw ymarfer eu hacenion Americanaidd…
Cyflwyno Presenting
LLond troll o chwerthin A barrel load of laughs
Acenion Accents
Sylwi To notice
Albanaidd Scotttish
Bore Cothi
Da, ond pwy sy’n dweud Kipper Tie y dyddiau hyn tybed? Mae Shan Cothi yn lico ei bwyd! Mae hi’n caru bwyta a siarad am fwyd, a’r wythnos yma cafodd hi gwmni Lisa Fearn ar ei rhaglen i sôn am ‘smwddis’…
Daioni Goodness
Maeth Nutrition
Chwalu To shatter
Llyfn Smooth
Ansawdd Texture
Cymhleth Complicated
Mwyar Berries
Di-siwgr Sugar free
Ysbigoglys Spinach
Y rhwydda yr hawdda
Clip Troi’r Tir
Lisa Fearn yn fan’na dweud bod mefus yn un o’r cynhwysion mwya poblogiadd yn y smwddis a mefus oedd ar fwydlen Terwyn Davies a chriw Troi’r Tir – wel, wedi’r cyfan mae Wimbledon newydd ddod i ben!
Tipyn o sylw A bit of attention
Pencampwriaeth Championship
Trigolion Residents
Cyfryngau cymdeithasol Social media
Cefdir blaenorol Previous background
Datblygu To develop
Croesffordd Crossroad
Fesul pwysau According to weight
Cofio Bwyd a Diod
A dw i’n siwr gwnaeth Shan fwynhau Cofio yr wthnos yma – achos y pwnc oedd… Bwyd a Diod. Tybed ai bwyd iach fydd yn cael sylw’r rhaglen yma yn ogystal?
Er gwaetha In spite of
Pob ymdrech Every attempt Mymryn o lonydd A little peace and quiet
Am wn i As far as I know
Cyffwrdd To touch
Clip Cerddwr Cudd
Ie, mae bwydo plant yn gallu bod yn her weithiau on’d yw e?
Ble roedd Cerddwr Cudd Catrin Angharad yr wythnos yma? Dyma hi’n ein hatgoffa ni o’r cliws cyn datgelu’r lleoliad…
Datgelu To reveal
Cerddwr cudd Secret walker
Her Challenge
Golygu To mean
Dyfalu To guess
Digon o ryfeddod Wonderful
Coelio Credu
Llamidyddion Porpoises
Prin Rare
Denu To attract
Clip Geraint Lloyd Leah a Sïan
Mae Pen Llŷn yn swnio’n lle gwych i fod ynddo fe yn ystod gwyliau’r haf on’d yw e? Mae Sïan Eluned yn ferch ysgol o’r Felinheli ger Caernarfon ac mae hi’n cystadlu mewn sioeau harddwch – ond dim rhai cyffredin, fel eglurodd ei mam, Leah, wrth Geraint Lloyd
Harddwch Beauty
Cymuned Community
Elusennau Charities
Yn gyfarwydd â Familiar with
Colur Make up
Gwirfoddol Voluntary
Fri, 23 Jul 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
DROS GINIO Dros yr wythnosau diwetha ar Dros Ginio mae Gwenfair Griffiths wedi bod yn holi rhai o newyddiadurwyr Cymru am eu Stori Fawr nhw... Betsan Powys oedd yn cael ei holi y tro diwetha a buodd hi’n sôn am sut oedd hi’n teimlo fel gohebydd ifanc yn Bosnia yn ystod y rhyfel oedd yno yn y 90au.
Gohebydd - Correspondent
Rhyfel - War
Sbïo - Edrych
Darbwyllo - To convince
Cyflawni - To achieve
Y fyddin - The army
Anghyfarwydd - Unfamiliar
Cydbwyso - Balancing
Dychrynllyd - Terrifying
Ergyd - A shot
STIWDIO Lleisiau Betsan Powys a rhai o’r milwyr fuodd yn ymladd yn Bosnia yn fan’na. Ar Stiwdio nos Lun, cafodd Nia Roberts gwmni’r Athro Menna Elfyn i drafod cyfrol mae Menna newydd ei golygu o’r enw “Cyfrinachau – Eluned Phillips”. Roedd Eluned yn fenyw ddiddorol iawn , roedd hi wedi teithio’r byd a dod yn ffrindiau gydag enwogion fel Picasso ac Edith Piaf. Roedd hi’n fardd ac yn awdur. Enillodd hi goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith y tro cynta yn 1967 ac wedyn yn 1983. Roedd hi wedi sgwennu nofel hunangofiannol ond wnaeth hi mo’i chyhoeddi. Dyma Menna’n egluro pam.....
Athro - Professor
Cyfrol - A volume
Enwogion - Famous people
Hunangofiannol - Autobiographical
Dagrau pethau - The sadness of it Amheuon - Suspicions
Sïon - Rumours
Mewn gwirionedd - In reality
SHAN COTHI Ychydig bach o hanes y fenyw ryfeddol Eluned Phillips yn fan’na gan Menna Elfyn. Pa ffilmiau sy’n gwneud i chi eisiau mynd ar wyliau? Buodd Dorien Morgan yn siarad gyda Shân Cothi am ffilmiau hafaidd, ac am wylio ffilmiau o’r car mewn ‘drive through’...
Y fenyw ryfeddol - The amazing woman
Dala lan - To catch up
Sa i’n dreifio - Dw i ddim yn gyrru
Simsan - Unsteady
Crybwyll - To mention
Cwympo - Syrthio
Efrog Newydd - New York
Cludo - To transport
Cymeriadau - Characters
Dylanwadu - To influence
TROI’R TIR A sôn am wyliau, sut fasech chi’n licio gwyliau mewn pod glampio? Mae Joyce Jenkins yn byw ar fferm ym Mlaenplwyf yng Ngheredigion ac mae hi wedi dechrau busnes gosod podiau glampio ar y fferm gyda’i merch yn nghyfraith Gwenan Jenkins. Dyma hanes y fferm a’r menter newydd.
Gosod - To rent out
Menter - Venture
Darn o dir - Piece of land
Clawdd - Wall
Golygfa - Scenery Mo’yn - Eisiau
Unigryw - Unique
Canu gwlad - Country & Western
ALED HUGHES ...a phob lwc i’r ddwy yn eu menter newydd ond’ife? Mae Michael Davies Hughes yn dod o Gricieth yn wreiddiol ond mae e ‘n byw yn Eureka, gogledd Califfornia erbyn hyn. Mae e newydd gwblhau y ras seiclo anodda yn y byd sef y Ras Ar Draws America. Mae hi’n ras dros 3 mil o filltiroedd, ar hyd 12 talaith wahanol, dros 175 mil o droedfeddi o ddringo, a hynny i gyd yn digwydd mewn 12 diwrnod… Waw Cwblhau - To complete
Talaith - State
Troedfeddi - Feet (measurement)
Seibiant - A respite
Corfforol - Physical
Gwthio - To push
Ddaru - Wnaeth
Twll dan grisiau - Cwtsh dan stâr Anialwch - Desert
GERAINT LLOYD Roedd hynny’n dipyn o gamp gan Micheal on’d oedd? I Arberth yn Sir Benfro aeth Geraint Lloyd wythnos diwetha i gael sgwrs am yr ardal gyda Dysgwr y Flwyddyn y llynedd, Jazz Langdon. Dyma i flas ar y sgwrs…
Dipyn o gamp - Quite an achievement
Ar bwys - Wrth ymyl Amgueddfa - Museum
Yn gyffedinol - Generally
Yn beodol - Specifically
Terfysgoedd Beca - The Rebecca Riots
Fri, 16 Jul 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
SIOE FRECWAST …Un o gyflwynwyr gorau Cymru, Heledd Cynwa,l oedd gwestai Cocadwdl Caryl Parry Jones a Geraint Hardy yr wythnos ‘ma a dyma hi’n ateb cwestiwn am wyliau tramor…
Cyflwynwyr - Presenters
Prydfertha - The most beautiful
Digon teg - Fair enough
Mwya trawiadol - Most striking
Tempro - To air
O’r cyfryw wely - From the said bed
Nefoedd - Heaven
Oglau’n neis - Smelling nice
DANIEL GLYN Pawb yn y stiwdio yn fan’na yn hiraethu am wyliau tramor, ond tybed fyddwn ni’n defnyddio arian digidol i dalu am ein gwyliau yn y dyfodol? Dych chi’n deall yn iawn beth yw arian crypto? Na? Doedd Dan Glyn ddim yn gwbod rhyw lawer chwaith, ond yn ffodus roedd ei westai, Euros Evans, yn gwybod y cyfan
Dylsa fi - Dylwn i
Pres - Arian
Ffydd - Faith
Cynhyrchu - To produce
Arian parod - Cash
Cyfalafiaeth - Capitalism
Cyfnod go ddrwg - Quite a bad period
LISA GWILYM Wel dyna ni felly, mater o ffydd ydy’r arain crypto, ond cofiwch bod gwerth yr arian yma’n medru mynd i fyny neu mynd i lawr. Mae sawl swydd ddiddorol wedi bod gan y gyflwynrwaig Amanda Prothero Thomas, fel clywodd Lisa Gwilym ar ei rhaglen fore Sul
Trwydded - Licence
Delfrydol - Ideal
Euraidd - Golden
Anhygoel - Incredible
SHAN COTHI A dyna hanes swydd ddiddorol Amanda Prothero Thomas yn Ynysoedd Cayman yn y Caribî. Roedd Bob Marley – sy’n enwog am ei fiwsig reggae- yn dod o ynysoedd y Caribî ac mae Morgan Elwy yn ffan mawr o’i waith. Enillodd Morgan gystadleuaeth Can i Gymru eleni gyda’i gân reggae Bach o Hwne a soniodd Morgan wrth Shan Cothi am ddylanwad cerddoriaeth Bob Marley ac eraill ar ei fywyd ...
Dylanwad - Influence
Wastad - Always
Clod - Praise
Dau ddegawd - Two decades
Ysbrydoliaeth - Inspiration
O safon - Of quality
BETI GEORGE Ac awn ni o ynysoedd y Caribî, cartref reggae, i Ynys Môn cartref Llinos Medi Huws . Hi yw Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn - un o arweinwyr cyngor ifancaf Prydain a hi oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Gofynnodd Beti iddi pam aeth hi i’r byd gwleidyddol yn y lle cynta ….
Y byd gwleidyddol - The political world
Dim bwriad o gwbl - No intention at all
Rhai unigolion - Some individuals
Aelod Cynulliad - Assembly Memeber
Trïo dwyn perswâd arna i - Trying to persuade me
Hybu - To encourage
Difaru - To regret
Cyngor - Advice
Pleidleisio - To vote
Es i o’i chwmpas hi - I went about it
DEI TOMOS Llinos Medi Huws oedd honna, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn - Mam Cymru. Ac roedd Catrin o Ferain yn cael ei galw’n Fam Cymru yn ogystal achos bod ganddi deulu mor fawr. Mae llun enwog o Catrin yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, llun ohoni gyda’i llaw yn gorwedd ar benglog. Clywon ni ychydig o hanes y llun yma mewn sgwrs rhwng Dei Tomos a Helen Williams Ellis o Lasfryn ger Pwllheli. Dyma i chi flas ar y sgwrs...
Penglog - Skull
Wedi hudo - Had lured
Unswydd - Of one purpose
Datgelu - To reveal
Ym meddiant - In the possession of
Amgueddfa - Museum
Yn gyfarwydd â - Familiar with
Gwys - Summons
Fri, 09 Jul 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
GERAINT LLOYD …mae Angharad Jones wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg i safon uchel iawn mewn dim ond naw mis. Dyma hi’n dweud wrth Geraint Lloyd pam aeth hi ati i ddysgu’r iaith… Safon - Standard
Anghredadwy - Unbelievable
Ysbrydoliaeth - Inspiration
Yn falch - Proud Is-deitlau - Subtitles
Cyfnod Allweddol - Key Stage
Drysau - Doors
Diwylliant - Culture
Cyfrifol - Responsible
Trosglwyddo’r iaith - Transferring the language
Y genedlaeth nesaf - The next generation
CATRIN ANGHARAD Angharad Jones oedd honna, ac mae hi wedi gwneud yn wych i ddysgu Cymraeg mewn cyn lleied o amser on’d yw hi? Mae Catrin Angharad yn ôl ar Radio Cymru ar b’nawniau Sadwrn, ac yn ei rhaglen bydd hi’n rhoi cliwiau i’r gwrandawyr ddyfalu ble mae’r ‘cerddwr cudd’ am fynd am dro. Y tir chliw dydd Sadwrn oedd traeth, Brynach, a storm. Nawr ‘te mae Sant Brynach gyda chysylltiad ag ardal Trefdraeth yn Sir Benfro, tybed ydy hwnnw’n gliw da, a thybed pwy oedd y cerddwr cudd? Cerddwr cudd - Secret Walker
Dyfalu - To guess
Yn wirioneddol - Truly
Rhaid i mi gyfaddef - I must admit
(Nid) nepell - Ddim yn bell
Tewhau - To fatten
Mas o dymor - Out of season
Hamddenol - Leisurely
Mewn dyfynodau - In quotation marks
TRYSTAN AC EMMA Catrin Angharad oedd honna’n siarad gyda’r cerddwr cudd, ac on’d yw hi’n drueni mawr mai dim ond un siaradwr Cymraeg sy’n byw yn y pentre bach hyfryd hwnnw erbyn hyn? Dych chi’n yrrwr da a gofalus? Byddwch yn onest nawr! Wel, cafodd Trystan ac Emma air gyda’r hyfforddwr gyrru Iwan Williams i glywed pa mor dda ydy pobl Cymru gyda’i sgiliau gyrru…
Llawlyfr - Handbook
Hanfodol - Essential
Cadw rheolaeth - Keeping control
Derbyniol - Acceptable
Gaethon nhw wared ar - They got rid of
Cyflwyno - To introduce
LISA ANGHARAD Wel mae’r prawf gyrru wedi newid dros y blynyddoedd on’d yw e? Lisa Angharad oedd yn cyflwyno y Sioe Sadwrn yr wythnos hon a gofynnodd Trystan ab Owen iddi hi am ei diddordeb mewn planhigion, achos roedd gyda fe stori FAWR i’w dweud am brynu planhigion... Cyn lleied - So little
Yn gyffredinol - Generally
ALED HUGHES Wel yn wir, mae mwy o arian nag o synnwyr cyffredin gydag ambell un on’d oes? Pan oedd Aled Hughes a Gav Murphy yn eu harddegau roedden nhw wrth eu boddau gyda gemau fideo. Buodd y ddau’n cael hwyl yn trafod gemau fideo retro yr 80 au a’r 90au ar raglen Aled, a dyma i chi eu barn ar un o gemau’r 80au – y Pac-Man
O’ch chi heb weld - You hadn’t seen
STIWDIO Dydy Aled a Gav ddim yn ffans mawr o Pac-man felly! Yr wythnos yma ar Stwidio buodd Nia Roberts yn trafod ffuglen hanesyddol gyda dau awdur sef Sion Hughes a Myrddin ap Dafydd. Dyma i chi flas ar y sgwrs...
Ffuglen hanesyddol - Historical fiction
Wastad - Always
‘nhaid - ‘nhad-cu
O’n cwmpas ni - Around us
Penodau - Chapters
Annisgwyl - Unexpected
Beth sy’n fy nharo i - What strikes me
Yr ymchwil anorfod - The unavoidable research
Y chwilota - The searching
Cyffwrdd - To touch Y cyffro cychwynnol - The initial excitement
Fri, 02 Jul 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
CARYL AG ALUN …wel pêl-droed wrth gwrs! Mae Cymru wedi llwyddo i fynd drwodd i rownd nesa’r Ewros ac mae Carl Roberts yn un o’r bobl lwcus sy wedi bod yn Baku ac yn Rhufain yn sylwebu ar gemau Cymru ar ran Radio Cymru. Cafodd Caryl ac Alun sgwrs gyda fe ar y Sioe Frecwast fore Iau…
Sylwebu - Commentating
Ychwanegu - To add Syth bin - Straight away
Ynganu - To pronounce
Awrgylch - Atmosphere
Yn drydanol - Electric
Yn y cnawd - In the flesh
Cymeradwyo - To applause
Parchus - Respectful
Di-ri - Countless
Llifoleuadau - Floodlights
MERCHED Y WAL GOCH Dim ond ychydig o ffans Cymru oedd wedi gallu mynd i Baku oherwydd Covid, ond roedd hi dal yn bosib clywed y Wal Goch yn canu drwy gydol y gêm. Mae’r Dr Penny Miles yn un o fenywod y Wal Goch ond dyw hi ddim wastad wedi cael croeso gan rhai o’r cefnogwyr eraill. Penderfynodd hi felly fod angen gwneud gwaith ymchwil i brofiadau menywod sy’n gwylio gemau pêl-droed, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ’ma…
Drwy gydol - Throughout
Menywod - Merched
Ymchwil - Research
Aelodau - Members
Rhannu eu profiadau - Sharing their experiences
Yn gyffredinol - Generally
Meithrin - To nurture
TITWS TAF …a dyn ni’n aros gyda merched a phêl-droed yn y clip nesa. Oeddech chi’n gwybod bod tîm pêl-droed merched yng Nghaerdydd o’r enw Titws Tâf Cymric? Dyma i chi rai o’r chwaraewyr yn dweud eu hanes …
Defod - Custom
Hogan - Merch
Rhanbarthol - Regional
Parhau - To continue
Gwledig - Rural
Hogiau - Bechgyn
Genod - Merched
Annog - To encourage
LISA GWILYM … dyn ni heb orffen eto gyda merched na gyda phêl-droed. Mae Sioned Dafydd yn brysur iawn ar hyn o bryd yn sylwebu ar y pêl-droed ar S4C, ond gaeth hi amser i sôn wrth Lisa Gwilym am ei dydd Sul perffaith , a hynny yn Madrid. Ond wrth gwrs roedd rhaid dod â thimoedd pêl-droed y ddinas mewn i’r sgwrs…
Dwlu ar - Mad about
Cartrefol - Homely
Prif ddinas - Capital city
Wrth ystyried - Considering
Ffili - Methu
Enfawr - Huge
Yn amlwg - Obviously
Yn gwmws yr un peth - Exactly the same
Sa i’n rhugl - Dw i ddim yn rhugl
Unioni - To unite
ESGUSODWCH FI Nid pêl-droediwr ond chwaraewr rygbi oedd tad y ‘TikToker’ Ellis Lloyd Jones, ac mae’r ffaith honno a’r ffaith bod Ellis yn berfformiwr drag wedi achosi ambell i broblem iddo fe yng nghymoedd y de. Fe oedd gwestai Podlediad Esgusodwch Fi wythnos diwetha a dyma i chi flas ar ei sgwrs…
Cymoedd - Valleys
Colur - Make-up
Yn falch - Pleased
FFION EMYR Y Perfformiwr drag TIK Tok, Ellis Lloyd Jones oedd hwnna’n sgwrsio ar Esgudowch Fi. Mae’r gantores Betsan Haf yn briod ag Eleri, a buodd hi’n rhannu ambell i stori am sut wnaeth eu perthynas ddatblygu gyda Ffion Emyr…
Cantores - Singer (female)
Datblygu - To develop
Cwrdd - Cyfarfod
Graddio - To graduate
Cwympo mewn cariad - To fall in love
Trefnu - To organise
Fri, 25 Jun 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
DEWI LLWYD ...pêl-droed wrth gwrs gan fod yr Ewros wedi cychwyn a Chymru wedi dechrau’n dda gyda gêm gyfartal yn erbyn tîm y Swistir. Cyn y gêm honno cafodd Dewi Llwyd air gydag Iwan Roberts cyn i Iwan deithio allan i Baku i weld dwy gêm gynta Cymru...
Gêm gyfartal - Drawn game
Gohirio - To postpone
Pencampwriaeth - Championship
Cefnogwyr - Fans
Awyrgylch - Atmosphere
Cenfigenus - Jealous
Dw i’n amau dim - I don’t doubt
Crynhoi - To summarise
Ymosodwr - Attacker
Yn ddyfnach - Deeper
SIOE FRECWAST A phob lwc i Gymru yn y gemau nesa on’d ife? Cofiwch mae’n bosib clywed sylwebaeth fyw ar holl gemau Cymru yn yr Ewros ar Radio Cymru. A phêl droed oedd pwnc Ffeithiadur y Sioe Frecwast gyda Caryl, Huw a Hywel Llion fore Llun, a chlywon ni nifer o ffeithiau diddorol iawn am y gêm...
Iesgob annwyl! Good grief!
Cynhyrchu To produce
Fel a gydnabuwyd As acknowledged
Iseldiroedd Netherlands
Clip Gilian Elisa
Mae yna dîm pêl-droed yn y Llanfairpwll enwog hefyd cofiwch! Rhydian Bowen Phillips a Shelley Rees oedd yn cyflwyno yn lle Trytsan ac Emma fore Gwener, a’r actores Gillian Elisa oedd eu gwestai a buodd hi’n sôn am ei phrosiect newydd yn LLundain...
Gwmws - Exactly
Adeiladol - Constructive
Ciniawa - To dine
Dan y Wenallt - Under Milk Wood
Llwyfannu - To stage
Ymarferion - Rehearals
DEWR Clywon ni Rhydian Bowen Phillips ar Bodlediad Dewr yn ogystal. Roedd Rhydian yn arfer perfformio gyda’r band Mega a buodd e’n sgwrsio gyda Non o’r band Eden am rai o’r sylwadau negyddol a chas roedden nhw’n derbyn ar gyfryngau cymdeithasol, yn enwedig ar o wefannau cymdeithasol cynta yn Gymraeg – maes-e…
Cas - Nasty
Cyfryngau cymdeithasol - Social media
Canmol - To praise
Bodoli - To exist
Sylwadau - Comments
Canolbwyntio - To concentrate
Yn fyw - Live
Cynulleidfa - Audience
Diflannu - To disappear
TRYSTAN AC EMMA Ie , mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn lefydd negyddol iawn on’d y’n nhw. Buodd Lowri Cooke yn adolygu’r ffilm newydd Dream Horse ar Bore Cothi a chlywon ni bod gan y ffilm gysylltiadau cryf iawn â Chymru.
Rhyfeddol - Amazing
Cyfarwydd - Familiar
Llwyth - Loads
Cyfarwyddwr - Director
Trin - To treat
Argraff - Impression
Urddas - Dignity
Nid nepell o - Ddim yn bell o
Gorbwysleisio - Overemphasising
Difreintiedig - Deprived
Ffraeth - Witty
LISA GWILYM Arhoswn ni gydag actorion Cymreig – y tro hwn Steffan Rhodri sy’n byw yn Llundain ar hyn o bryd. Beth mae e’n licio wneud ar ei ddydd Sul delfrydol? Rhannodd yr actor ei benwythnos perffaith gydag Ifan Davies oedd yn cyflwyno yn lle Lisa Gwilym
Delfrydol - Ideal
Cyflwyno - Presenting
Amrywio - To vary
Ymhellach - Further
Traddodiadol - Traditional
Arbrofol - Experimental
Dylanwadau - Influences
Dwyrain Canol - Middle East
Môr y Canoldir - Mediterranean Sea
Cyfuniad - Combination
Dychmygol - Imaginative
Fri, 18 Jun 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
BORE COTHI Credwch neu beidio roedd hi’n wythnos dathlu llaeth, neu lefrith, yr wythnos diwetha felly penderfynodd Bore Cothi ofyn i’r cogydd Kit ELlis rannu rhai o’i hoff ryseitiau llaeth – a daeth hi’n amlwg ei bod hi’n ffan mawr o’r stwff gwyn...
Yr un fagwraeth - The same upbringing
Godro - Milking
Cyflawn - Complete
Cryfhau - To strengthen
Tlodi - Poverty
Brasder - Fat
Cydbwysedd - Balance
Mwy o les - More good
Uchafbwynt - Highlight
Atgyfodi - To revive
TROI'R TIR Mwy o laeth/llefith nawr. Clywodd Troi’r Tir gan ffermwr ifanc o Ynys Môn sydd wedi arallgyfeirio ac yn godro defaid! Beth sy’r tu ôl i’r cynllun hwn tybed?
Arallgyfeirio - To diversify
Ar fin - About to
Ysgytlaeth - Milk shake
Addasu - To modify
Rhinweddau - Virtues
Cynhesu byd eang - Global warming
Yn faethol - Nutriciously
Egni - Energy
Amrwd - Crude
Ehangu - To expand
TRYSTAN AC EMMA Nid godro pengwiniaid mae Dafydd Wyn Morgan ond casglu unrhywbeth sy’n ymwneud â nhw. Buodd e’n sgwrsio gyda Trystan ac Emma am ei hobi diddorol ac rhywsut trôdd y sgwrs at y band Eden roedd Emma’n rhan ohono ac at eu cân eiconig ‘Paid â bod ofn’...
Chwarter canrif - A quarter of a century
Casgliad gwreiddiol - The original Yn glou iawn - Yn gyflym iawn
Ennill ei chalon hi - To win her heart
Mynd mas ‘da fi - Mynd allan efo fi
Yn ddiweddarach - More recently
Cyffesu - To confess
Ffefrynnau - Favourites
Yn gyson - Constantly
Dychwelyd - Returning
ALED HUGHES Basai ‘Paid â bod ofn’ yn gân dda i Angharad Mair ei chlywed cyn iddi fynd ar awyren, gan fod ganddi ofn hedfan. Dyma i chi ran o sgwrs gafodd Angharad gyda pheilot cwmni BA ble roedd hi’n gobeithio cael cyngor ar sut i ymdopi gyda’r ofn mawr yma...
Camu mewn - To step in
Crynu - Shaking
Ystadegau - Statistics
Diogel - Safe
Mynd o’i le - To go wrong
Y gyfrinach - The secret
Wrth y llyw - Steering
Hediad - Flight
ALED HUGHES Cyflwyno rhaglen Aled Hughes oedd Angharad Mair yn fan’na a’r clip hwnna’n dangos yn glir mai’r Gymraeg wrth gwrs ydy’r ateb i wella popeth! Cafodd Caryl a Geraint gwmni Megan Williams, sydd yn cyflwyno’r tywydd, ar eu rhaglen ar RC2 fore dydd Mercher. Ydy hi’n mwynhau’r swydd hon tybed?
Canmol To praise
Beio To blame
Cyflwyno Presenting
Clip Bronwen Lewis
Gobeithio bydd gan Megan lawer mwy o newyddion da i ni dros yr haf on’d ife? Mae’r gantores Bronwen Lewis wedi bod yn y newddion yn ddiweddar oherwydd llwyddiant ei chaneuon Cymraeg ar Tik Tok. Ond mae hi wedi llwyddo mewn sawl ffordd arall, ar raglen ‘The Voice’ ond hefyd fel actores yn y ffilm ‘Pride’. Dyma i chi flas ar sgwrs gaeth Bronwen gyda Rhydian a Shelley am ei rôl yn y ffilm honno…
Ar y gorwel - In the pipeline
Fflili - Methu
Profiad - Experience
Agwedd - Attitude
Y byd creadigol - The creative world
Ymateb - Response
Ysbrydoledig - Inspiring
Fri, 11 Jun 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
BETI GEORGE Gwestai Beti George wythnos diwetha oedd y newyddiadurwraig o Gonwy, Maxine Hughes sydd erbyn hyn yn gweithio yn Washington DC. Buodd hi’n byw yn Istanbul pan oedd hi’n gweithio i gwmni Newyddion TRT World ac yn 2016 roedd sawl sefyllfa beryglus wedi codi yn y wlad. Be oedd effaith hynny arni hi tybed? …
Profiad - Experience
Hardd - Pretty
Anhygoel - Incredible
Darlledwr - Broadcaster
Ymosod - To attack
Uffernol - Hellish
Awyrennau - Aeroplanes
GWNEUD BYWYD YN HAWS Roedd hi’n amser cyffrous ond peryglus iawn i Maxine a’i theulu yn Istanbul yn 2016 on’d oedd hi? Mae llawer iawn ohonon ni wedi gorfod hunan ynysu am rywfaint yn ystod y flwyddyn diwetha on’do? Ond doedd gan Mari Huws ddim dewis – roedd hi’n byw ar ynys fach Ynys Enlli. Hi ydy warden yr ynys ac mae hi wedi bod yn brysur yn cael rhai o dai Enlli yn barod ar gyfer ymwelwyr yn ystod yr haf. Nos Fawrth ar Gwneud Bywyd yn Haws caethon ni ychydig o flas bywyd ar yr ynys gan Mari...
Ynys Enlli - Bardsey Island
Anferth - Huge
Cynnal a chadw - To maintain
Her - A challenge
Llnau - Glanhau
Cyflwr - Condition
Goleudy - Lighthouse
Mae’n anodd dychmygu - It’s difficult to imagine Amlwg - Obvious
GWNEUD BYWYD YN HAWS Ychydig o flas ar fywyd Ynys Enlli yn fan’na ar Gwneud Bywyd yn Haws. Roedd hi’n benwythnos Gwneud Gwahaniaeth ar BBC Radio Cymru a buodd nifer o bobl yn siarad am eu profiadau o wneud gwahaniaeth yn y gymuned neu am beth sy wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau nhw. Lowri Morgan oedd gwestai Aled Hughes a soniodd hi am effaith rhedeg ar ei bywyd hi
Gwneud Gwahaniaeth - Making a difference
Mae’n rhaid i mi gyfaddef - I must admit
TGAU - GCSE
Ysgafnhau - To lighten
Amynedd - Patience
Hynod ysbrydoledig - Extremely inspiring
Yr un - The same
Corfforol - Physical
Cymhelliad - Motivation
Dewrder - Bravery
Hyfforddi - Coaching
IFAN EVANS Rhywun arall sy wedi gwneud gwahaniaeth yn ei chymuned yw Ela Jones – a hi oedd yn derbyn gwobr DIOLCH O GALON rhaglen Ifan, a dyma un o’i ffrindiau hi’n sôn mwy amdani wrth Ifan Jones Evans
Gwobr - Award
Gwirfoddol - Voluntary
Cyngor doeth - Wise advice
Dirwgnach - Uncomplaining
Yn ddiwyd - Diligently
Ychwanegol - Extra
Cymuned wledig - Rural community
Amhrisiadwy - Invaluable
Cydwybodol - Concientious
DROS GINIO Ela Jones yn llawn haeddu’r wobr on’d oedd hi? Mae cŵn defaid yn werthfawr iawn i ffermwyr, ond pwy fasai’n meddwl basai ci bach o Fangor yn cael ei werthu am bris dorodd record y byd! Jenifer Jones glywodd hanes LASSIE ar Dros Ginio
Cŵn defaid - Sheepdogs
Arwethiant - Sale
Blaenorol - Previous Rhinweddau - Virtues
Cynghrhair - League Hen-daid - Great grandfather
Cynharach - Earlier
Prin iawn - Very rare
Gast - Bitch
Clip Steffan Sioe Frecwast
Ac o seren y cŵn defaid i hanes rai o sêr Hollywood mewn ffilm a chysylltiadau cryf iawn â Chymru. Mi wnaeth Steffan Rhodri ymuno â Shelley a Rhydian i sôn am ei ffilm Hollywood newydd – Dark Horse...
Ffilm ddogfen Documentary
Perchen To own
Llwyddiannus iawn Very succesful
Cymeriadau Characters
Pentrefwyr Villagers
Sain Sound
Awgrymu To suggest
Talu teyrnged Paying a tribute
Fri, 04 Jun 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BETI A'I PHOBL Merch o Gaerdydd ydy Sara Yassine ond mae ei theulu hi’n dod o’r Aifft yn wreiddiol. Gofynnodd Beti i Sara beth mae Caerdydd yn ei olygu iddi hi
Yr Aifft - Egypt
Golygu - To mean
Trwy gydol fy mywyd - All my life
Hen dad-cu - Great-grandfather
Rhyfel Byd Cyntaf - First World War
Morwr - Seaman
GWNEUD BYWYD YN HAWS Ychydig o hanes Sara Yassine yn fan’na ar Beti a’i Phobl Mae hi wedi bod yn flwyddyn rhyfedd on’d yw hi? Pwy fasai wedi medru darogan fel roedd rhaid i ni gyd newid ein ffordd o fyw oherwydd Covid? Sut flwyddyn bydd eleni tybed? Dyma i chi glip o Llio Angharad, awdures y blog bwyd a theithio “dine and disco”, yn ceisio darogan beth fydd y 'trends' bwyd ar gyfer gweddill y flwyddyn…
Darogan - To predict
Dilynwyr - Followers
Dy hynt a dy helynt di - All about you
Ail- greu - To re-create
Datblygu - To develop
Eitha poblogaidd - Quite popular
Profiadau gwahanol - Different experiences
PENBLWYDD DEWI LLWYD Wel , tybed fyddwn ni’n gweld holl ‘trends’ Llio Angharad yn ystod y flwyddyn? Cawn ni weld on’d ife? Mae rhaglen Tudur Owen ar Radio Cymru yn boblogaidd iawn ond mae Tudur hefyd yn hoff o wneud gwaith ‘stand-up’. Fe oedd gwestai penbwlydd Dewi Llwyd fore Sul a soniodd e wrth Dewi am ei deimladau am fynd yn ôl ar lwyfan i berfformio…
Llwyfan - Stage Cynulleidfa fyw - Live audience
Ymwybodol - Aware
Camu ar - To step onto
Ail-gychwyn - To start again
Diweddaru fy neunydd - Update my material
Am wn i - I suppose
Padl fyrddio - Paddle boarding
Mae’n llonyddu rhywun - It’s relaxing
Cydbwysedd - Balance
Cyhyrau - Muscles
ALED HUGHES Tudur Owen yn edrych ymlaen mwy at badl fyrddio nag at fynd yn ôl i berfformio, ond dw i’n siŵr byddwn yn ei weld ar lwyfan eto cyn bo hir. Mae’r milfeddyg Malan Hughes wedi gweld llawer iawn o bethau rhyfedd wrth ei gwaith ac yn ddiweddar gwelodd hi rywbeth rhyfedd iawn – llo gyda thair llygad. Tynnodd hi lun o’r llo ac mae’r llun hwnnw wedi cael ei rannu ar draws y byd!
Milfeddyg - Vet
Gwlybaniaeth - Moisture
Y creadur - The creature
Aeiliau - Eyebrows
Amrannau - Eye lash
Pwy â ŵyr? - Who knows? Penglog - Skull
Cromfachau - Brackets
Caniatâd - Permission
Y diweddara - The most recent
DROS GINIO Hanes llo gyda thair llygad yn fan’na – diddorol on’d ife?l Mae’n 50 mlynedd ers rhyddhau albym Marvin Gaye – Whats Going On. Y cerddor Carwyn Ellis fuodd yn sôn wrth griw Dros Ginio am bwysigrwydd yr albym yn gerddorol, ac yn wleidyddol Rhyddhau - To release
Cerddor - Musician
Dylanwadol - Influencial
Enfawr - Huge
Cyd-destun - Context
Cefndir - Background
Hynod bwysig - Extremely important
Perthnasol - Relevant
Hiliaeth - Racism
AR Y MARC Y cerddor Carwyn Ellis oedd hwnna’n sôn am albwm eiconig Marvin Gaye. Roedd Abertawe yn chwarae yn erbyn Barnsley ar y Liberty nos Sadwrn diwetha mewn gêm ail-gyfle’r Bencampwriaeth. Abertawe enillodd ac ond i’r tîm ennill un gêm arall bydd Abertawe yn cael dyrcharfiad i’r Uwchgynghrair. Mae OJ wedi ei fagu yn Sheffield, yn ffan mawr o Barnsley ac yn dal i fyw yn yr ardal, ond sut a pham dysgodd e Gymraeg? Dyma fe’n esbonio ar Ar y Marc… Gêm ail-gyfle - Play off
Y Bencampwriaeth - The Championship
Dyrchafiad - Promotion
Uwchgynghrair - The Premier League
Rheolwyr - Managers
Uniongyrchiol - Direct
Cyfleon - Opportunities
Fri, 28 May 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchClip Bronwen Lewis
Mae’r gantores Bronwen Lewis o Gwm Dulais wedi dod yn dipyn o seren ar Tik Tok. Ond sut digwyddodd hynny tybed? Dyma hi’n dweud yr hanes wrth Shan Cothi..
Llwytho To load
Beth bynnag chi mo’yn Whatever you want
Cyfieithiadau Translations
Ffili credu Methu coelio
Sylw Attention
Clip Dan Glyn a Meilir Sion
Bronwen Lewis oedd honna’n sôn sut daeth hi’n seren Tik Tok. Yr actor, dyn busnes ac awdur, Meilir Sion, oedd yn ateb cwestiynau diog Daniel Glyn wythnos diwethaf. Os dych chi’n gwylio’r gyfres deledu Rownd a Rownd byddwch yn siŵr o fod wedi gweld Meilir ar yr iard gychod yn chwarae cymeriad Carwyn…. Ond tybed ydy Dan wedi gwneud ei waith ymchwil cyn y cyfweliad?
Cyfres Series
Iard gychod Boat yard
Ymchwil Research
Cyfweliad Interview
Bellach By now
Y gymdeithas gyfan The whole community
Ystrydeb Stereotype
Clip Priodas Sian Beca
Sian Beca, un arall sydd yn actio yn Rownd a Rownd d oedd yn westai ar raglen Ffion Emyr nos Wener ond doedd dim dryswch ynglŷn ag enw ei chymeriad yn y gyfres, Cathryn, y tro ’ma. Yn y clip yma gwnawn ni glywed ychydig o hanes dawns gynta diwrnod priodas Sian
Dryswch Confusion
Gwasanaeth Service
Tân gwyllt Fireworks
Yn iau Younger
Profiadol Experienced
Clip Haydn Holden
Actor mewn opera sebon arall oedd yn sgwrsio gyda Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn – sef Haydn Holden o Drawsfynydd sydd yn actio yn Coronation Street, ond hanes Matteo ei gi cawn ni yn y sgwrs nesa ’ma…
Manceinion Manchester Caer Chester
Mabwysiadu To adopt
Elusennau Charities
Achub To rescue
Hwyrach Efallai
Clip Troi’r Tir
Hanes achub Matteo, ci Haydn Holden oedd hwnna ar y Sioe Sadwrn. Dechreuodd Meinir Evans o ardal Llanbedr-Pont-Steffan fusnes coginio brownies o gegin ei fferm yn ystod y pandemig, a dyma hi’n dweud ei stori ar Troi’r Tir…
Pobi To bake
Gweithareddau Activities
Athrawes gyflenwi Supply teacher (f)
Canmol To praise
Ymateb Response
Archeb An order
Cefnogaeth Support
Poblogaidd Popular
Pice ar y maen Welsh cakes
Danteithion Delicacies
Clip Sion Dant Melys
Ac mi arhoswn ni gyda danteithion melys yn y clip nesa – dyma hanes Sion a James sy wedi sefydlu cwmni losin/da da/fferins neu swîts o’r enw Sweet Elite. Geraint Lloyd gafodd air gyda Sion sy nid yn unig yn rhedeg y cwmni ond hefyd ar gwrs coluro yn Llundain…
Sefydlu To establish
Coluro Make up
Tyfiant Growth
Y trywydd yma This track
Traddodiadol Traditional
Ers llawer dydd Ers talwm
Cymysgedd A mixture
Fri, 21 May 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
DDIM YN DDU A GWYN Mae dinas Minneapolis wedi bod yn y newyddion yn y misoedd diwetha gan mai dyna lle cafodd George Floyd ei lofruddio gan Derek Chauvin, oedd yn swyddog heddlu ar y pryd. Buodd y newyddiadurwraig Maxine Hughes yn dilyn yr achos mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru, Ddim yn Ddu a Gwyn. Mae Maxine yn dod o Gonwy yn wreiddiol ond yn byw yn Washington DC erbyn hyn, a dyma hi’n cael sgwrs gyda Gerallt Jones sy’n byw yn Minneapolis...
Achos llys - Court hearing
Llofruddio - Murder
O dan sylw - Under attention
Llinyn amser - Timeline
Protestiadau chwyrn - Fierce protests
Euogrwydd - Guilt
Anghydraddoldeb hiliol - Racial inequality
Carfan - A faction
Mynychu - To attend
Cyfryngau - Media
TROI’R TIR Dau o Gymry America yn fan’na yn rhoi syniad i ni o fywyd Minneapolis yn dilyn marwolaeth George Floyd. Mae cwmni byrgyrs ‘Ansh’ yng Nghaerdydd wedi bod yn boblogaidd iawn ers iddyn nhw agor ger Victoria Parc yn Nhreganna y llynedd. Dyma hanes Aled o’r Rhondda a Sion o Lanbedr Pont Steffan adawodd eu swyddi blaenorol i ddechrau eu busnes byrgyrs newydd.
Blaenorol - Former
Cigydd - Butcher
Cynnyrch - Produce
Awyddus - Eager
Diwylliant - Culture
Clymu mewn - To tie in
DEI TOMOS ...stori dda arall ar Troi Tir yn fan’na a phob lwc i’r ddau gyda’u busnes newydd on’d ife? Mae Dafydd Iwan wrth gwrs yn enwog am ei ganeuon, ond roedd Dei Tom yn awyddus i siarad gyda fe am ei lyfr newydd sy’n sôn am hanes rhai o’r caneuon hynny. Gofynnodd Dei iddo fe pwy oedd wedi dylanwadu mwya arno fe o ran cyfansoddi caneuon...
Dylanwadu - To Influence
Cyfansoddi - To compose
Ein hoes ni - In our time
Teimladau cymysg - Mixed feelings
Traddodiad canu gwleidyddol - A tradition of political singing
Tueddfryd - A tendency
Y dirwasgiad - The depression
Buddsoddi - To invest
Cyni - Adversity
Arwr - Hero
Uniongyrchol - Direct
BETI A’I PHOBL Dafydd Iwan oedd hwnna’n sôn am ddylanwad Woodie Guthrie ar ei ganeuon. Gwestai Beti George wythnos diwetha oedd y ddawnswraig Jen Angharad, a gofynnodd Beti iddi hi sut wnaeth hi gwrdd â’I phartner Zayn, a hynny dros 30 mlynedd yn ôl....
Ble gwrddoch chi? - Lle wnaethoch chi gyfarfod?
Digwydd bod - As it happens
Sylweddoli - To realise
Gweinyddu - Administrating
Pam lai? - Why not?
Y dechreuad - The beginning
DROS GINIO Wedi meddwl, mae cabaits a the yn swnio bach yn od on’d yw e? Mae Lowri Roberts sy’n byw yn Gaersallog, neu Salisbury, yn gweithio fel archeolegydd morol, ond beth yn union mae hynny’n ei olygu? Vaughan Roderick fuodd yn ei holi ar Dros Ginio…
Henebion - Antiquities
Yn cynnwys - Including
Llongdrylliadau - Shipwrecks
Dyfnderoedd - Depths
Taid - Tad-cu
Bedyddio - To baptise
Wedi eu claddu - Buried
Fri, 14 May 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
BORE COTHI Ar Bore Cothi cafodd Shan sgwrs gyda Menna Michoudis (YNGANIAD – MICH-W-DIS) sydd yn dod o Bontuchaf ger Rhuthun yn wreiddol ond sydd yn byw ar Ynys Skiathos yng Ngwlad Groeg ers dros 15 mlynedd bellach. Mae hi’n briod, mae dau o blant gyda hi ac mae hi’n gweithio mewn swyddfa dwristiaeth gyda’i gŵr. Holodd Shan sut gwrddodd hi a’i gŵr a dyma’r hanes...
Gwlad Groeg - Greece
Cwrdd â - Cyfarfod efo
Hogan hurt - Merch dwl
Prydferth - Beautiful
Andros o hen - Very old
Dotio ar - Dwlu ar
Duwies - Goddess
Anhygoel - Incredible
GERAINT LLOYD Hanes Menna o Skiathos yn fan’na ar Bore Cothi. Mae’r Ganolfan Genedlaethol sy’n gyfrifol am Gymraeg i Oedolion wedi gwneud apêl am ragor o diwtoriaid a buodd Geraint Lloyd yn sgwrsio gyda Helen Prosser o’r Ganolfan am hyn ond cafodd e sgwrs yn ogystal gyda Ali Evans sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg yn ei gweithle. Dechreuodd Geraint drwy ofyn o ble roedd Ali’n dod yn wreiddiol...
Canolfan Genedlaethol - National Centre
Gweithle - Workplace
Yn eitha diweddar - Quite recently
Hwlffordd - Haverfordwest
Sa i’n gallu - Dw i ddim yn medru
GWNEUD BYWYD YN HAWS Ali Evans oedd honna’n disgrifio ei thaith bersonol hi’n dysgu Cymraeg. Buodd Hana Hopwood Griffiths a’i gwesteion yn trafod beth sy’n troi tŷ yn gartref. Mae llawer o brofiad o symud tŷ gan Ann-Marie Lewis a buodd hi yn rhannu ‘tips’ ar droi adeilad yn gartref ar y rhaglen. Mae’r sgwrs honno i glywed ar BBC Sounds ac ewch i chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws os dych chi eisiau ei chlywed. Ond dw i am rannu clip o Heledd Jones-Tandy sy'n troi ei thŷ’n gartref wrth ddod o hyd i unrhyw esgus dros ddathlu…. Crempog - Pancake
Caniatáu - To allow
Beirniadaethau - Judgements
Llwm - Bleak
Gwagle - Emptiness
Addurniadau - Decorations
Pasg - Easter
Allor - Altar
Clustogau - Pillows
Crysurus - Comforting
Arbrofi - To experiment
Dychymyg - Imagination
DEWI LLWYD Dathlu ei phenblwydd oedd y gantores Kizzy Crawford a hi oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd. Mae’r artist o Aberfan yn 25 oed a dyma hi’n rhannu hanes un penblwydd sydd yn aros yn ei chof...
Yn fyw - Live
Arwresau - Heroines
Yn gyson - Constantly
Arwyr cerddorol - Musical heroes
Cefnogol - Supportive
Llwyddiant - Success
Adolygu - Revising
ALED HUGHES Ac awn ni i sôn am benblwydd arall nawr – penblwydd yr e-bost yn 50 oed. Doedd Aled Hughes ddim yn gallu credu bod cymant â hynny o amser wedi mynd heibio ers y digwyddiad hwnnw, felly gofynnodd e i Mei Gwilym am hanes yr e-bost...
Go iawn? - Really?
Dyfeisio - To invent
Cyfathrebu - To communicate
Llond bol - A gutsful
Gwrthod - To refuse
Y gweddill ohonon ni - The rest of us
SIOE TUDUR Hanes yr e-bost yn fan’na ar raglen Aled Hughes. Wel mae’r gwanwyn wedi cyrraedd a dw i’n siŵr byddwn ni i gyd yn gweld gwenyn o gwmpas y lle yn o fuan. Roedd Tudur Owen yn credu ei fod wedi gweld brenhines wenynen yn ei dŷ, ond roedd Dyl Mei wedi gwneud ei waith cartref ac yn rhoi gwers fach iddo fe ar fyd y gwenyn …
Gwenyn - Bees
Brenhines wenynen - Queen bee
Digwydd bod - As it happens
Dynion sain - Sound man
Llonydd - Still
Denu - To attract
Yr hogiau - The boys
Hwyrach ymlaen - later on
Mŵg - Smoke
Fri, 07 May 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
BORE COTHI Oes gyda chi hoff arogl? Arogl blodau gwyllt falle, neu dân coed neu fara yn cael ei bobi? Dw i’n siŵr basech chi’n cael eich synnu wrth glywed beth yw hoff arogl Donna Edwards, sy’n chwarae rhan Britt yn Pobol y Cwm. Hi oedd gwestai Y SYNHYWRAU Bore Cothi yr wythnos diwetha– a dyma hi’n siarad am ei hoff arogl…
Arogl - Smell
Synhwyrau - Senses Glöwr - Coal miner
Mŵg - Smoke
Tamprwydd - Dampness
Sicrwydd - Certainty
Tad-cu - Taid
Cysur - Comfort
Cnoi - To chew
GWNEUD BYWYD YN HAWS Falle na fasai llawer yn rhoi aroglau cwrw a sigaret fel eu hoff arogl ond mae’n hawdd deall sut basen nhw’n codi hiraeth ar Donna on’d yw hi? Ar Gwneud Bywyd Yn Haws wythnos diwetha clywon ni Sian Angharad yn sôn wrth Hanna Hopwood Griffiths am ei phrofiadau’n byw gydag 'alopecia areata' ers pan oedd hi’n ifanc iawn. Dyma i chi flas ar y sgwrs…
Wedi dychryn - Frightened
Gwaethygu - Worsen
Cuddio - To hide
Mewn penbleth - In a quandry
DROS GINIO Sian Angharad oedd honna’n sôn wrth Hanna Hopwood Griffiths am ei phrofiadau’n byw gydag 'alopecia areata'. Mae’n debyg bod llai ohonon ni’n prynu jîns ers y cyfnod clo, achos ein bod ni’n fwy cyfforddus mewn dillad llac! Ond dych chi’n gwybod unrhyw beth am hanes y jîns denim? Dyma i chi Judith Jones a Jenifer Jones yn rhoi’r hanes hwnnw i ni ar Dros Ginio…
Defnydd - Material
Gwau - To knit
Nes ymlaen - Later on
Darparu - To provide
Nwyddau - Goods
Cloddio am aur - Digging for gold
Rhan annatod - An integral part
TROI'R TIR Hanes y jîns denim yn fan’na ar Dros Ginio. Mae’r chwaraewr rygbi rhyngwladol Wyn Jones yn ffermio yn ogystal â bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol. Mae hyn yn gallu bod yn broblem adeg Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gan ei fod wastad yn digwydd yn ystod y cyfnod ŵyna fel clywon ni ar Troi’r Tir…
Ŵyna - Lambing
Y Chwe Gwlad - Six nations
Rhyngwladol - International
Crwtyn ifanc - Bachgen ifanc
Ieuenctid - Youth
Dim hawl - No right
Rhwyddach - Haws
DEWI LLWYD Wyn Jones yn fan’na yn sôn am y problemau o geisio bod yn ffermwr ac yn chwaraewr rygbi rhyngwladol yr un pryd. Y delynores Catrin Finch oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd yr wythnos yma a buodd hi’n sôn am sut basai hi’n licio newid delwedd y delyn yn y byd cerddorol. Dyma i chi glip bach o’i sgwrs gyda Dewi…
Telynores - Harpist (female)
Hyblyg - Flexible
Delwedd - Image
Cerddorddfa - Orchestra
Agwedd - Attitude
Offeryn - Instrument
Cefndir - Background
Hamddena - Spending leisure time
Dianc rhagddo fo - To escape from it
Tawelwch - Silence
SIOE FRECWAST Cerddor arall, Elin Fflur sy’n cyflwyno’r Sioe Frecwast fore Sul ar Radio Cymru 2 a dyma hi’n rhoi gwers i ni ar siopa yn yr ‘Ysgol Sul’…
Ail-agor - To reopen
Troedfeddi sgwâr - Square feet
Dylunio - To design
Yn wirion bost - Crazy
Y Môr Tawel - Pacific Ocean
Brodorol - Native
Cyfwerth â dant baedd - Worth the same as a boar’s tooth
Carthen Gymreig - A Welsh quilt
Derbynneb - Receipt
Fri, 30 Apr 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DEI TOMOS Buodd y canwr o Dreforus ger Abertawe, Neil Rosser, yn sôn am un o’i ganeuon enwoca ‘Ochr Treforus o’r Dre’ gyda Dei Tomos a dyma i chi flas ar y sgwrs...
Enwoca - Most famous
Adlewyrchu - To reflect
Traddodiad - Tradition
Cynefin - Local area
Cymeriadau - Characters
Hala - To spend (time)
Magwraeth - Upbringing Tylwyth - Teulu
Tyfu lan - Growing up
COFIO Neil Rosser yn fan’na yn sôn am ei gân ‘Ochr Treforus o’r Dre’ . Pen Llŷn oedd pwnc Cofio yr wythnos yma – a buodd John Hardy a Hywel Gwynfryn yn edrych yn ôl ar y cyfnod pan agorwyd Butlins yn ardal Pwllheli. Cafodd Hywel sgwrs gydag un oedd yn cofio’r adeg yn dda ac yn nabod Billy Butlins yn eitha da hefyd...
Cyfnod - period
Chwedl y bobl ddŵad - According to the visitors
Gweithio’n ddiwyd - Working hard
Ail-fildio - Rebuilding
Yr oes honno - In that time
ALED HUGHES Ychydig o hanes agor Butlins Pwllheli ar Cofio wythnos diwetha. Kong v Godzilla ydy un o ffilmiau mawr y sinema ar hyn o bryd, ac roedd barn gwahanol iawn i’w gilydd amdani gyda Gary Slaymaker ac Aled Hughes fel cawn glywed yn y clip yma... Allet ti dyngu - You could swear
Creaduriaid - Creatures
Dogfen - Documentary
Ara bach - Slowly Brywdro - Fighting
Chwedloniaeth - Mythology
Awch - Appetite
Torcalonnus - Heartbreaking
Cydio yn nychymyg - Catches the imagination
TRYSTAN AC EMMA Mae’n anodd meddwl am y ffilm nawr heb ddychmygu Taid, neu dad-cu, Godzilla yn cwympo mas gyda thaid Kong mewn rhyw dafarn on’d yw hi...Ac awn ni o fyd Godzilla a Kong nawr i fyd yr UFOs. Mae llawer o bobl yn honni eu bod wedi gweld Ufo ac mae Richard Foxhall yn un ohonyn nhw. Dyma fe’n disgrifio wrth Emma a Trystan beth welodd e uwchben Dyffryn Nanllte yng Ngwynedd 40 mlynedd yn ol… Honni - To allege
Cwympo mas - Falling out Llu awyr - AirForce
Hofrennydd - Helicopter
Llonydd - Still
Ymarfer - Exercise
Llachar - Bright
Adennydd - Wing
Ta waeth - Anyway
FY NGHYMRU Tybed beth welodd Richard yn Nhalysarn flynyddoedd yn ôl? Rhyfedd iawn on’d ife? Mae etholiad Senedd Cymru yn cael ei gynnal ar Fai 6ed eleni. Aeth y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, Nathan Brew, i holi barn pobl o gefndir BAME er mwyn gweld beth mae’r etholiad hwn yn ei olygu iddyn nhw...
Etholiad - Election
Cyn-chwaraewr - Former player
Rhyngwladol - International
Gwinedd (ewinedd) - Nails
Balch - Proud
Tebygrwydd - Similarity
Ysbrydoliaeth - Inspitration
Uniaethu - To identify (with)
BETI GEORGE Arhoswn ni gyda chwaraewyr rygbi rhyngwladol yn y clip nesa ‘ma. Buodd Beti George yn sgwrsio gyda Rhys Patchell, ac roedd gan Beti ddiddordeb mawr mewn beth mae Rhys a’i gyd-athletwyr yn ei fwyta er mwyn cadw’n heini
Cyd-athletwyr - Fellow athletes
Darparu - To provide
Amcan - Estimate
Llaeth - Llefrith
Claddu - To bury
Cyffredin - Normal
Cyhyrau - Muscles
Fri, 23 Apr 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
SHAN COTHI Y cerddor Brychan Llyr oedd gwestai Shan Cothi yr wythnos yma ac esboniodd e wrth Shan pam ei fod mor hoff o bobl, o fwyd ac o gerddoriaeth Yr Eidal…
Cerddor - Musician
Hala - Treulio
Cyfarwydd - Familiar
Annwyl - Endearing
Parchus - Respectable
Rhufain - Rome
Cyfle - Opportunity
Twr - A crowd
Eidalwyr - Italians
Wedi syfrdanu - Stunned
Rhyfeddu - To marvel
SIOE FRECWAST Brychan Llyr oedd hwnna yn sôn am gig arbennig iawn yn yr Eidal. Mae’r rhaglen Cymru, Dad a Fi ar S4C yn un boblogaidd iawn. Mae’r rhaglen yn dilyn Connagh Howard oedd yn un o sêr Love Island a'i dad, Wayne, ar daith drwy ynysoedd Cymru. Dyma nhw’n sgwrsio gyda Caryl a Huw Stephens am eu hymweliad ag Ynys Enlli.
Ynys Enlli - Bardsey Island
Profiad - Experience
Bythgofiadwy - Unforgettable
Cysylltiad hudolus - A magical connection
Cyfres - Series
TROI’R TIR Dysgodd Wayne Howard Gymraeg fel oedolyn a gwnaeth yn siŵr bod ei fab Connagh yn cael addysg Gymraeg. Mae’r ddau yn amlwg yn mwynhau eu teithiau o gwmpas ynysoedd Cymru. Mae Lydia Edwards yn dod o Fetws Gwerfyl Goch yn Sir Ddinbych a chafodd ei magu ar fferm ddefaid. Yn ystod y cyfnod clo aeth hi i weithio ar fferm ar Ynysoedd y Malvinas, neu’r Falklands. Dyma hi’n esbonio ar Troi’r Tir pam penderfynodd hi fynd draw yno
Y cyfnod clo - Lockdown
Hogan - Merch
Twrnai - Solicitor
Lapio gwlân - Skirting and rolling the fleece
Lluchio - To throw
Anhygoel - Incredible
Hunanynysu - To self-isolate
Cneifio - Shearing
Sa ti’n dreifio - Os nad wyt ti’n gyrru
HUW LLYWELYN A GARETH EDWARDS Bywyd gwahanol iawn yn hemisffîr y de yn fan’na i Lydia. Roedd y darlledwr chwaraeon Huw Llywelyn Davies yn ffrindiau gyda chyn fewnwr Cymru - Syr Gareth Edwards pan oedden nhw’n blant ac roedden nhw’n ymarfer rygbi gyda’i gilydd. Ond fel gwnawn ni glywed yn y clip nesa roedd byd rygbi’r plant yn dipyn gwahanol bryd hynny i’r byd fel mae e nawr…
Darlledwr - Broadcaster
Cyn-fewnwr - Former scrum half
Cyfnod - Period
Dyfarnwr - Referee
Crits - Bechgyn
Rhyngwladol - International
Ochrgamu - To sidestep
Heol(hewl) - Lôn
Dros yr ystlys - Into touch
Cryfder - Strength
Hyfforddwyr - Coaches
Unigolion - Individuals
DILWYN MORGAN Huw Llywelyn Davies a Syr Gareth Edwards yn cofio eu plentyndod yn fan’na. Mae yna nifer o ofergoelion yn y byd morwrol a buodd Dilwyn Morgan yn rhannu rhai ohonyn nhw ar y rhaglen Ar Lan y Môr …
Ofergoelion - Superstitions Byd morwrol - The seafaring world
Chwibanu - Whistling
Her - A challenge
Ail-fedyddio - To rebaptise
Hen goel - An old omen Anlwc - Bad luck
Oedd yn berchen - Owned
Celwydd - A lie
Un ai - Either
Y duwiau - The gods
PENBLWYDD DEWI LLWYD Dilwyn Morgan oedd hwnna’n sôn am rai o ofergoelion y byd morwrol. Y gantores Doreen Lewis oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd yr wythnos diwetha a hithau’n dathlu ei phenblwydd yn 70 oed. Gofynnodd Dewi iddi hi pa un oedd y pen-blwydd mwya cofiadwy iddi hi.
Cofiadwy - Memorable
Gyrfa - Career
Rhyfedda - Most amazing
Dros y fro i gyd - All over the area
Anrhegion - Presents
Mis mêl - Honeymoon
Cystal ag y bu - As good as it used to be
Adloniant - Entertainment
Ymateb - Response
Llonni - To become cheerful
Fri, 16 Apr 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
DROS FRECWAST
Chris Gunter ydy’r chwaraewr cyntaf yn hanes tîm pêl-droed Cymru i ennill cant o gapiau yn dilyn y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Mecsico wythnos diwetha. Mae cyn-golwr Cymru, Owain Fôn Williams, yn arlunydd da ac mae o wedi peintio llun arbennig i Chris i ddathlu’r achlysur. Dyma i chi Owain yn sgwrsio gydag Owain Llyr o adran chwaraeon Radio Cymru ar Dros Frecwast.
Arlunydd - Artist
Yn y gorffennol - In the past
Digon hawdd - Easy enough
Canfed - Hundredth
Cais - Request
Newydd sbon - Brand new
Creu - To create
Ei ên - His chin
Sbïo - Edrych
Cyfnod - a period of time
SIOE SADWRN
…a llongyfarchiadau mawr i Chris Gunter am ennill ei ganfed cap yn y gêm rhwng Cymru a Mecsico. Roedd hon yn gêm bwysig i Sioned Dafydd hefyd – y tro cynta iddi hi sylwebu’n fyw ar S4C ar gêm bêl-droed Cymru. Mae Sioned hefyd wedi dechrau podlediad pêl-droed newydd, Y Naw Deg, ar y cyd â chyflwynydd y Sioe Sadwrn – Rhydian Bowen Phillips. Buodd y ddau’n sgwrsio am hyn ac am gêm Mecsico ar y Sioe Sadwrn…
Sylwebu’n fyw - Commentating live
Ar y cyd â - Together with
Cyflwynydd - Presenter
Gwlad Belg - Belgium
Joio mas draw - Mwynhau yn fawr
Cyfres - Series
Pob agwedd - All aspects
Uwch Gynghrair Lloegr - English Premier League
Criw cynhyrchu - Production team
Hala - Anfon
Ymchwil - Research
GWNEUD BYWYD YN HAWS
…ac enillodd Cymru’r gêm honno o un gôl i ddim a Chris Gunter yn gapten ar y tîm! Capten tîm rygbi Cymru ydy Alun Wyn Jones ac mae ei wraig, y Dr Anwen Jones, wedi sefydlu blog o’r enw The Jones Essential ar ôl iddi hi benderfynu cymryd saib gyrfa yn dilyn cyfnod mamolaeth. Dyma hi’n esbonio rhai o’r rhesymau dros gymryd y saib ar Gwneud Bywyd yn Haws…
Saib gyrfa - A career break
Cyfnod mamolaeth - Maternity leave
Uwch ddarlithydd - Senior lecturer
Gradd meistr - Masters degree
Doethuriaeth - PhD
Dod i ben - Come to an end
Heriol - Challenging
TROI’R TIR
Dr Anwen Jones oedd honna’n esbonio pam ei bod hi wedi cymryd saib yn ei gyrfa. Hanes Ffion Medi a'i mam Mairwen Rees o Lanfynydd ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin sydd nesa. Mae’r ddwy wedi dechrau cwmni gosod blodau o’r enw ‘Sied yr Ardd’yn ystod y cyfnod clo. Ond pwy o’r ddwy ydy’r bòs tybed? Gosod blodau - Flower arranging
Fferm odro - Dairy farm
Ŵyna - Lambing
Cenhedlaeth - Generation
Ffair Aeaf Rithiol - Virtual Winter Fair
Cyfryngau cymdeithasol - Social media
Torchau - Wreaths
Archebu - To order
Deilen - A leaf
FFION EMYR
Mae’n amlwg mai Mam ydy’r bòs on’d yw hi? Ar raglen Ffion Emyr nos Wener, clywon ni am briodas arbennig Celyn a’i gŵr, Owen, o Gasnewydd, ond pam bod Dr Who yn rhan o’r stori yma? Dyma Celyn yn rhoi’r hanes...
Goleudy - Lighthouse
Llai traddodiadol - Less traditional
Casnewydd - Newport
Cwympo mewn cariad - To fall in love
Dw i’n cymryd - I assume
Darpar ŵr - Prospective husband
Dadwisgo - To undress
Anhygoel - Incredible
Sa i’n gwybod - Dw i ddim yn gwybod
TRYSTAN AC EMMA
Tardis mewn priodas yng Ngwent, pwy fasai’n meddwl on’d ife? Nid hen focs plismon fel y Tardis ydy diddordeb mawr Dai Mason ond hen geir, a buodd e’n rhestru’r holl geir sy yn ei garej mewn sgwrs gyda Trystan ac Emma. Dyma i chi flas ar y sgwrs…
Y chwedegau - The sixties
Llai pwerus - Less powerful
Yn ddiweddar iawn - Very recently
Eitha balch - Quite proud
Hen dad-cu - Great grandfather
Cyflwr gwael - Poor condition
Fri, 09 Apr 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
TROI’R TIR Mae Steffan Harri yn actor llwyddiannus sy wedi serenu ar lwyfan y West End mewn sioeau mawr fel Shrek, ond gyda’r theatrau ar gau, penderfynodd Steffan fynd yn ôl i helpu ar y fferm deuluol. Dyma fe’n dweud yr hanes ar Troi Tir
Parhau To continue
Ŵyna Lambing
Dyweddio To engage (to marry)
Gwarchod yr ŵyn swcis Looking after the pet lambs
Bugeilio Shepherding
Gwellt Hay
Byrlymus Extremely busy
Uffernol Hellish
Wlyb sopen Extremely wet
Colledion Losses
STIWDIO Yr actor Steffan Harri oedd hwnna’n rhoi blas ar fywyd fferm ar yr adeg prysur hwn iddyn nhw. Ac i ni aros myd y theatr, roedd dydd Llun diwetha yn Ddiwrnod Theatr y Byd, ac ar Stiwdio cafodd Nia Roberts sgwrs gyda Melisa Annis, sy’n byw yn Efrog Newydd ac yn gweithio ym myd y theatr yno. Yn y darn yma, mae Melisa’n egluro sut glaniodd hi yn Efrog Newydd yn y lle cyntaf a pha fath o waith mae hi’n ei wneud y dyddiau hyn...
Anhygoel - Incredible Dramodydd - Dramatist
Cyfarwyddo - To direct
Cynhyrchu - To produce
Pres - Arian
Ysiwrant iechyd - Health insurance
Cynhyrchiad - Production
DAF A CARYL Dipyn o hanes Melisa Annis yn fan’na ar Stiwdio. Mae llawer iawn ohonon ni angen mynd i’r siop trin gwallt ar ôl y misoedd pan oedd pob salon ar gau. Ond pa steil gwallt sy’n ffasiynol y dyddiau hyn tybed? Dyna un o gwestiynau Daf a Caryl i Paula Morris Jones o siop trin gwallt Paula’s yng Nghaernarfon a dyma oedd gyda hi i’w ddweud… Siop trin gwallt - Hairdressers
Yn ôl yn y dydd - Back in the day
Poblogaidd - Popular
Barf - Beard
Talcen - Forehead
Drych - Mirror
DEWI LLWYD Dw i’n siwr bod salon Paula a phob salon arall yn Nghymru yn brysur iawn y dyddiau ‘ma. Dymunodd Dewi Llwyd benblwydd hapus i gyn Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones ar ei raglen fore Sul. Mae Carwyn yn gweithio i Brifysgol Aberystwyth nawr a gofynodd Dewi iddo fe beth yw ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol
Cyn Brif Weinidog - Former First Minister
Cymysgedd - A mixture
Athro yn y Gyfraith - Professor of Law
Ymchwil - Research
Ymgynghori - Consulting Darlledu - Broadcasting
Datblygu - To develop
Gwleidydd - Politician
Bywoliaeth - Livelihood
Meysydd - Fields
LISA GWILYM Carwyn Jones yn swnio’n hynod o brysur yn fan’na. Un fasai’n hoff iawn o cael rhoi ei thraed i fyny ydy’r actores Hannah Danielgan ei bod hi’n disgwyl babi a hi oedd gwestai Bore Sul Lisa Gwilym ar RC2. Beth fasai Hanna’n ei wneud tasai hi’n ennill y loteri? Dyna oedd cwestiwn Lisa iddi hi
Rhodd - A gift
Yn haeddiannol iawn - Very deserving
Beichiogrwydd - Pregnancy
Delfrydol - Ideal
Ysu am - To long for
Cynnes clyd - Warm and cosy
Cloncian - Gossiping
Cymdeithasu - Socialising
HUW CHISWELL Hanna Daniel yn fan’na yn crisialu dymuniadau llawer iawn ohonon ni dw i’n siŵr o ran cymdeithasu pan ddaw’r cyfnod clo i ben. Un o ganeuon mwya eiconig Huw Chiswel ydy Nos Sul a Baglan Bay a buodd Chiz yn siarad gyda Geraint Lovegreen am gefndir y gan arbennig hon...
Ymdrin â - To deal with
Profiad - Experience
Diwylliannau - Cultures
Y cyfuniad - The combination
Cwmpasu - to encompass
Fri, 02 Apr 2021 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
NIA ROBERTS - MORFYDD CLARK Mae Morfudd Clark yn Seland Newydd ar hyn o bryd yn ffilmio cyfres newydd o Game of Thrones, a fel soniodd hi wrth Nia Roberts, roedd cael Cymro arall ar y set yn gysur mawr iddi hi…
Cyfres - Series
Cysur mawr - A great comfort
Cwympo mewn cariad - To fall in love
Profiad - Experience
Sylweddoli - To realise
So ti’n deall - Dwyt ti ddim yn deall
ALED HUGHES Morfudd Clarke yn cael amser i ymarfer ei Chymraeg tra’n ffilmio Game of Thrones- da on’d ife? Ar raglen Aled Hughes clywon ni sut mae’r môr a syrffio yn arbennig wedi helpu merch ifanc gydag iselder. Dyma i chi flas ar y sgwrs rhwng Aled a Laura Truelove o'r Rhondda …
Cyfnod o iselder - A period of depression
Nofio gwyllt - Wild swimming
Pwerus iawn - Very powerful
Cysylltiad - Connection
Ar bwys - Wrth ymyl
Rhyddhau - To release
Yn wirioneddol - Truly
DANIEL GLYN Laura Truelove o'r Rhondda yn esbonio wrth Aled Hughes sut mae syrffio wedi ei helpu i ymdopi gyda’i chyfnod o iselder. Y cerddor a’r actor Neil Williams, oedd yn arfer perfformio gyda’r band Maffia Mr Huws, oedd gwestai Daniel Glyn fore Sadwrn a soniodd e wrth Daniel am elusen sy’n bwysig iawn yn ei fywyd.
Cerddor - Musician
Elusen - Charity
Cartref gofal - Care Home
Gwyrthiol - Miraculous
Hollol amlwg - Totally obvious
Creu - To create
Yn fyw - Live
Baglu - To trip
COFIO …a gobeithio bydd cyfle i Neil gario ymlaen gyda’i waith pwysig unwaith bydd y cyfnod clo drosodd on’d ife? Dw i’n siŵr bod llawer ohonon ni’n falch ei bod yn bosib cael torri ein gwallt unwaith eto ar ôl misoedd y clo. Falle bod sawl ci hefyd yn edrych ymlaen at fynd i’r salon i gael ‘trim’ bach. Ar Cofio yr wythnos diwetha clywon ni Katie Hughes Ellis o Borthmadog sy'n berchen ar siop anifeiliaid a salon i gŵn ym Mhwllheli yn sôn am sut i steilio blew y cŵn
Sy’n berchen ar Who owns
I fyny’r grisiau lan stâr
Blew cwta Short haired
Dibynnu ar To depend on
Yn debyg i Similar to
Sgynnoch chi gi? Oes ci gyda chi?
TROI’R TIR Hanes salon cŵn Pwllheli oedd hwnna ar Cofio yr wythnos diwetha. Mae Janie Davies yn dod o Bumpsaint sir Gaerfyrddin yn wreiddiol ond erbyn hyn mae hi’n ffermio o yn Mayenne yng ngogledd orllewin Ffrainc gyda ei phartner. Dyma hi’n sôn ar Troi’r Tir am beth wnaeth iddi hi benderfynu setlo yn Ffrainc…
Fferm ddefaid - Sheep farm
Ma’s - Allan
Amser ŵyna - lambing season
Ŵyn swci - Pet lambs
Pert - Del
Tsêp - Rhad
IFAN EVANS Janie Davies o Sir Gâr y wreiddiol oedd honna’n sôn am ei phenderfyniad i ffermio yn Ffrainc. Roedd ffermwr arall o Sir Gâr i’w glywed ar Ant and Dec’s Saturday Night Takeaway nos Sadwrn. Steven John oedd y ffermwr hwnnw, a buodd e’n llwyddiannus mewn cystadleuaeth ar y rhaglen a dyma fe’n dweud wrth Ifan Evans beth enillodd e i gyd…
Gwobr - Prize
Bant - Away
Twym - Cynnes
Llond llwyth - A shedful
Bai Elin - Elin’s fault
Fri, 26 Mar 2021 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
TRYSTAN AC EMMA Roedd gan Trystan ac Emma ddiddordeb mawr mewn rhestr oedden nhw wedi ei weld o‘r gemau bwrdd mwya poblogaidd – a Monopoly oedd ar y brig wrth gwrs! Cafodd y ddau sgwrs gyda Dyfed Edwards o gwmni What Board Games i drafod y rhestr ac i ystyried apel gemau bwrdd yn gyffredinol
Rhestr - List Gemau bwrdd - Board games
Ar y brig - In the top spot
Ystyried - To consider
Yn gyffredinol - Generally
Yn amlwg - Obviously
Ennyn diddordeb - To arouse the interest
Ymddiddori - To be interested in
Ehangu meddyliau - To expand the minds
Rhyngrwyd - Internet
FFION EMYR A dw i’n siŵr bod llawer mwy ohonon ni wedi bod yn chwarae gemau bwrdd yn ystod y cyfnod clo on’d oes? Rhywbeth arall sy wedi bod yn boblogaidd yn ystod y flwyddyn ddiwetha ydy cwisiau. Daeth Cris, cwis feistr rhaglen Geth a Ger i gael sgwrs gyda Ffion Emyr nos Wener a rhoi tips iddi hi ar sut i ennill mewn cwis tafarn.
Yr un un diddordebau - Exactly the same interests
Ail-greu - To re-create
Rhyfeloedd - Wars
Dw i’n cymryd - I presume
Rhestrau - Lists
Prif Wenidogion - Prime Ministers
Arlywyddion - Presidents
Taleithau - States
ALED HUGHES Wel dych chi’n gwybod beth i’w wneud nawr pan fydd cwisiau tafarn yn ail-gychwyn – dim ffrindiau yn eich tîm! Gyda Phrifysgol Lerpwl yn dechrau cwrs gradd MA ar hanes a cherddoriaeth y Beatles, cafodd Aled Hughes a Meurig Rees Jones sgwrs am y cysylltiad rhwng y Fab 4 a Chymru
Gradd - Degree
Cerddoriaeth - Music
Cysylltiad - Connection
Ddaru nhw - Wnaethon nhw
Hel - To collect
Diswyddo - To sack
GERAINT LLOYD Meurig Rees Jones oedd hwnna yn sôn wrth Aled Hughes am y cysylltiadiau rhwng y Beatles a Chymru. Daeth y sianti yn boblogaidd iawn yn ddiweddar ar Tik Tok ac ar-lein. Ar raglen Geraint Lloyd buodd Anna Sherratt yn sôn am ei chôr rhithiol, Côr Pawb, ac yn rhoi her i Geraint ymuno â nhw i ganu ac i greu sianti môr
Her - A challenge
Sylweddoli - To realise
Caneuon gwerin - Folk songs
Ymuno â - To join
Dolen - Link
Archebu - To order
Ymchwilio - Researching
Yn y cefndir - In the background
SHELLEY A RHYDIAN Tybed fydd Geraint yn derbyn yr her? Dyn ni’n siŵr o gael gwybod ar ei raglen on’d dyn ni?. Matthew Rhys oedd gwestai Shelley a Rhydian bnawn Sadwrn. Fe oedd yn dewis rhai o’i hoff ganeuon ‘codi calon’ ac yn rhannu rhai o’i hanesion Hollywood – fel pan gafodd y fraint o eistedd ar bwys Michelle Obama mewn swper moethus!
Y fraint - The honour
Ar bwys - Wrth ymyl
Moethus - Luxurious
Pob arweinydd y byd - Every world leader
Fforcais i e - I forked it
Prawf - Proof
Ffrwydro - To explode
Wir Dduw - God’s truth
GWNEUD BYWYD YN HAWS Meddyliwch tasai‘r tomato wedi glanio ar ffrog Michelle – roedd Matthew yn lwcus iawn on’d oedd e? Yr wythnos hon ar Gwneud Bywyd yn Haws buodd Hanna Hopwood Griffiths yn sgwrsio gyda thri sydd wedi dysgu Cymraeg. Yn y clip yma mae hi’n sgwrsio gyda’r Dr Jonathan Hurst, meddyg yn Ysbyty Merched Lerpwl ac Ysbyty Plant Alder Hey sydd wedi dysgu Cymraeg er mwyn gallu siarad yn Gymraeg gyda theuluoedd o Ogledd Cymru sy’n gorfod mynd i’r ddwy ysbyty
Mynychu - To attend
Yn rheolaidd - Regularly
Ymddengys - It appears
Gwenu - Smiling
Fy annog - Encourages me
Fri, 12 Mar 2021 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
Sioe Frecwast - Andria Doherty Dych chi’n un o’r miliynau sy wedi gwylio It’s a Sin ar Channel 4? Roedd cysylltiad Cymreig cryf gyda’r gyfres gan fod dau o’r actorion yn dod o Gymru ac yn siarad Cymraeg. Roedd Andria Doherty yn actio rhan Eileen, mam un o brif gymeriadau’r gyfres, Colin. Andria oedd gwestai Daf a Caryl ar Radio Cymru 2 a dyma hi’n rhoi ychydig bach o’i hanes…
Cyfres - Series
Gwallgo(f) - Mad
Dros ben llestri - Over the top
Ymateb - Response
Poblogaidd - Popular
Enfawr - Huge
Ysgytwol - Mind-blowing
Diweddar - Recent
Adrodd - Recitation
Ychwanegolion - Extras
Nathan Brew Andria Doherty oedd honna, un o sêr It’s a Sin, yn sgwrsio gyda Daf a Caryl. Un arall o westeion RC2 yr wythnos diwetha, oedd y sylwebydd a’r cyn chwaraewr rygbi Nathan Brew. Gan fod y penwythnos diwetha yn un pwysig iawn i dîm rygbi Cymru oherwydd y gêm fawr yn erbyn Lloegr, roedd hi’n amserol iawn i Nathan sôn am obeithion Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Sylwebydd - Commentator
Amserol - Timely
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six nations
Synnu - Surprised
Ysbryd - Spirit
Anafiadau - Injuries
Yn hytrach na - Rather than Ymarfer - Training
Rheolau - Rules
Lleihau - To reduce
Byd Iolo Williams Roedd Nathan Brew yn optimistaidd yn fan’na am obeithion Cymru, ac roedd o yn iawn – enillodd Cymru o 40 – 24. Llongyfarchiadau mawr i dîm Cymru on’d ife?
Yn rhaglen Byd Iolo wythnos diwetha buodd Iolo Williams yn dweud wrthon ni sut mae e wedi ymdopi gyda chyfnod anodd y pandemig…
Ymdopi - To cope
Cynffon - Tail
Heb os nac oni bai - Without doubt Andros o anodd - Terribly difficult
Bywyd gwyllt - Wildlife
Ar gyrion - On the outskirts
Ffodus - Lwcus
Deutha chi - Dweud wrthoch chi
Yn llythrennol - Literally
Goroesi - To survive
Dros Ginio - Edwina Williams Iolo Williams yn fan’na yn esbonio sut mae o wedi ymdopi gyda chyfnod y pandemig. Dych chi’n gwisgo het? Oes het-fobl yr Urdd gyda chi? Roedd digon o angen het yn ystod tywydd oer yr wythnosau diwetha, ond ydy gwisgo het wedi dod yn rhywbeth ffasiynol erbyn hyn? Dyma farn Edwina Williams Jones ...
Cynllunydd - Designer
Dilledyn ymarferol - A practical clothing
Toreth - An abundance
Crasboeth - Boiling hot
Yn y cysgod - In the shade
Achlysuron - Occasions
Cefnogaeth - Support
Geraint Lloyd - casglu ceir Y cynllunydd Edwina Williams Jones oedd oedd honna’n trafod hetiau gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio.
Nid hetiau ond hen geir ydy diddordeb Sharon Jones Williams o Bentre Berw ar Ynys Môn. Roedd Geraint Lloyd wrth ei fodd yn sgwrsio gyda hi a chlywed am hanes yr hen Mercedes sy gan y teulu
Cau - To refuse
Miri - Fuss
Gynnau - A moment ago
Tyrchu - To rummage
(y)myrraeth - Curiosity
Chwilota - To search for
Dewi Llwyd - Osian Roberts Hanes diddorol Mercedes Sharon o Bentre Berw oedd hwnna, ar raglen Geraint Lloyd. Osian Roberts oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd wythnos diwetha. Fe yw cyfarwyddwr technegol tîm pêl-droed cenedlaethol Moroco, swydd fuodd e’n ei gwneud gyda thîm pêl-droed Cymru yn y gorffennol. Ond fel clywon ni yn y sgwrs gyda Dewi mae gan Osian sgiliau y tu hwnt i fyd y bêl…
Cyfarwyddwr technegol - Technical Director
Y tu hwnt - Beyond
Fy ngorwelion i - My horizons
Digrifwr - Comedian
Llefaru - To recite
Trin geiriau - To have a way with words
Sbïo - Edrych
Siarad cyhoeddus - Public speaking
Datblygu - To develop
Fri, 05 Mar 2021 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
Vicky Jones - Trystan ac Emma Roedd Vicky Jones o Benmaenmawr yn digwydd bod yn sgwrsio gyda Trystan ac Emma am wneud cacennau pen-blwydd, a dyma hi’n digwydd sôn am gwsmeriaid enwog iawn brynodd gacennau ganddi hi’n ddiweddar...
Yn ddiweddar - Recently
Digwydd bod - Happened to be
Pobi - To bake
Tra bo nhw - While they were
Baner - Flag
Neidr - Snake
Mwydod - Worms
Bethan Clements - Sioe Frecwast Vicky yn amlwg wedi gwneud argraff dda iawn ar griw ‘I’m a Celebrity’ gyda’i chacennau arbennig. Y sylwebydd chwaraeon, Bethan Clement oedd yn ateb cwestiynau cocadwdl-ydw ar raglen Huw Stephens wythnos diwetha. Dyma ffordd arbennig Huw o ddod i nabod ei westeion yn well – mae’n rhaid iddyn ateb bob cwestiwn gyda cocadwdl- ydw neu wrth gwrs cocadwdl- nac ydw !
Argraff dda iawn - A very good impression
Sylwebydd - Commentator
Y brenin - The king
Taten bôb - Baked potato
Ail-agor - To re-open
Digon têg - Fair enough
Gohebu - Commentating
Eilyddion - Substitutes Twymo lan - Warming up
Anwybyddu fi’n llwyr - Totally ignoring me
Ymddihero - To apologise
Gary Slaymaker - Dros Ginio Bethan Clements oedd honna’n cocadwdl-dw-io gyda Huw Stephens. Mae 30 mlynedd ers i’r ffilm Silence of the Lambs gael ei rhyddhau a buodd Vaughan Roderick a Gary Slaymaker yn trafod y ffilm ar Dros Ginio. Pa mor dda oedd y ffilm mewn gwirionedd – ydy hi’n un o’r goreuon? Dyma i chi flas ar y sgwrs
Rhyddhau - To release
Arswyd - Horror
Cynnil - Subtle
Creulon - Cruel
Ymhlith - Amongst
Os dymunwch chi - If you wish
Llofryddion cyfres - Serial Killers
Llwyddiant - Success
Gweddill ei oes - The rest of his life
Ebychiad - A gasp
Sugno’r awyr - Sucking the air
Anwen Davies a Nicola Cook - Dwy Fam a Dau Dad Wel mae’n swnio fel bod Anthony Hopkins wedi mwynhau arswydo pawb, on’d yw hi? Ar y rhaglen Dwy Fam a Dau Dad, clywon ni stori Anwen Davies, neu Nicola Cooks, oedd yn dod o Ystalyfera yn wreiddiol cyn iddi hi gael ei mabwysiadu gan deulu o’r Barri a chael enw newydd. Fel y clywon ni ar y rhaglen, er bod teulu newydd Anwen wedi bod yn agored iawn gyda hi, roedd ganddi gwestiynau o hyd am amgylchiadau ei mabwysiadu.
Mabwysiadu - To adopt
Amgylchiadau - Circumstances
Rhieni maeth - Foster parents
Croesawu - To welcome
Cynnwys - Contents
Ynglŷn â - About
Cyfrinachau - Secrets
Dewi Llwyd - Mei Emrys Cofiwch os dych chi eisiau gwybod mwy am stori Anwen dych chi’n gallu gwrando ar y rhaglen yn llawn ar Radio Cymru ar BBC Sounds. Mei Emrys oedd yn edrych drwy papurau’r penwythnos ar raglen Dewi Llwyd ac roedd sôn yn un o’r papurau am bêl-droedwyr enwoca Cymru – Gareth Bale. Ydy Bale cystal chwaraewr nawr ag oedd e’n arfer bod? Dyma farn Mei a Dewi ….
Cewri’r gorffennol - Past giants
Ar fenthyg - On loan
Ail-danio ei yrfa - Rekindle his career
Ddim yn ymddiried - Doesn’t trust
Gwrthodedig - Rejected
Alltud - Exiled
Cynghrair y Pencampwyr - Champions League
Cyfraniad - Contribution
Cydymdeimlo - Sympathy
Aled Hughes - Beca Brown Ac ar y gair, sgoriodd Bale gôl anhygoel i Spurs yn Ewrop wythnos diwetha. Mae’n debyg bod nifer o bobl wedi mabwysiadu cŵn dros y cyfnod clo ac un o’r rheini ydy Beca Brown. Dyma hi’n sôn wrth Aled Hughes sut aeth hi ati i fabwysiadu milgi o Iwerddon
Milgi - Greyhound
Heriau - Challenges
Croesfrid - Mongrel
Peri braw mawr - To cause a huge fright
Mor ddiethr â’i gilydd - As unfamiliar as each other
Ymdebygu - To resemble
Yr awydd i hela - The urge to hunt
Hyfforddwyr - Trainers
Milfeddygon - Vets
Gwobrwyo’r ymddygiad - To reward the behaviour
Yn y bôn - Essentially
Fri, 26 Feb 2021 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
Dros Ginio - Anthony Evans Morgi a Draenog y Môr- dyn nhw dim yn swnio’n ddeniadol iawn nac ydyn, er eu bod yn bysgod blasus iawn. Mae pysgotwyr yng Nghernyw eisiau newid enwau eu pysgod er mwyn iddyn nhw swnio’n fwy lleol a deniadol. Ddylai ni wneud yr un peth yng Nghymru? Dyma farn y cogydd Anthony Evans yn sgwrsio gyda Vaughan Roderick…
Morgi - Dogfish
Draenog y Môr - Sea Bass
Pwysleisio - To emphasise
Cregyn gleision - Mussels
Cynnyrch - Produce
Moethus - Luxurious
Croen - Skin
Papur tywod - Sandpaper
Dros Frecwast - Cledwyn Ashford Y cogydd Anthony Evans oedd hwnna yn meddwl dylid newid enwau rhai o‘r pysgod sy’n cael eu dal yng Nghymru. Mae ychydig bach o Hollywood wedi cyrraedd Wrecsam gyda’r newyddion bod yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi prynu’r clwb pêl-droed. Mae ffans y clwb wrth eu boddau a dyma un ohonyn nhw, Cledwyn Ashford, yn sgwrsio gyda chriw Dros Frecwast am y newyddion cyffrous
Dylanwad - Influence
Y gymuned - The community
Anhygoel - Incredible
Perchnogion - Owners
Dyled - Debt
Sicrhau pryniant - To clinch the purchase
Buddsoddi - To invest
Ieuenctid - Youth
Ysbryd - Spirit
Troi’r Tir - Emyr Lewis ..a nawr symudwn ni o bêl-droed i rygbi ac roedd Cymru’n chwarae yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y penwythnos diwetha. Ar Troi’r Tir yr wythnos diwetha, clywodd Terwyn Davies hanes ffermwr o ganolbarth Cymru sy bellach yn ffermio yn yr Alban. Pwy oedd e’n ei gefnogi yn y gêm fawr tybed?
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six nations
Y Canolbarth - Mid Wales
Sir Drefaldwyn - Montgomeryshire
Rheolwr - Manager
Gradd amaeth - A degree in agriculture
Sioe Frecwast - Emyr Lewis Gan ein bod ni newydd fod ym myd amaeth beth am i ni sôn am y Tarw – na nid yr anifail fferm ond Emyr Lewis oedd yn arfer chwarae fel rhif wyth i Lanelli ac i Gymru. Cafodd e’r enw tarw achos ei rediadau cryf fel wythwr yn torri drwy’r gwrthwynebwyr ond roedd dawn cicio ganddo hefyd fel buodd e’n sôn wrth Daf a Caryl…
Rhediadau - Runs
Gwrthwynebwyr - The opposition
Cryn dipyn o bwysau - Quite a lot of pressure
Digwydd bod - As it happens
Asgell - Wing
Buddugoliaethau - Victories
O’ch plaid chi - In your favour
Cenhedlaeth - Generation
Cerddorol - Musical
Unigryw - Unique
Gwneud Bywyd yn Haws - Cerys Davage Ac mae Emyr Lewis yn sylwebu ar holl gemau Cymru yn y Chwe Gwlad ar Radio Cymru. Un o effeithiau’r cyfnod clo yw nad yw hi wedi bod yn bosib mynd i wrando ar gerddoriaeth fyw. Mae’n debyg bod hyn wedi effeithio ar bobl ifanc yn fwy na neb. Ar Gwneud Bywyd Yn Haws, cafodd Hanna Hopwood sgwrs am hyn gyda Cerys Davage sydd ar ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth …
Sylwebu - To commentate
Cymdeithasol - Social
Gweld eisiau - To miss
Bloc Llety - Residential block
Mae e wir yn drueni - It’s a real shame
Yn gyfarwydd iawn - Very familiar
Dathlu - To celebrate
Cyfryngau cymdeithasol - Social media
Bore Cothi - Aled Llyr Gruffudd Cerys Davage o Brifysgol Aberystwyth oedd honna’n sôn am sut mae'r cyfnod clo wedi effeithio ar fywyd cymdeithasol myfyrwyr. Enillodd Aled Llŷr Gruffudd wobr yn ddiweddar am un o’i ffilmiau, a gofynnodd Shan Cothi iddo fe sut cafodd e’r syniad am y ffilm......
Gwobr - Award
Pwnc - Subject
Galar - Bereavement
Nain - Mam-gu
Gwacter - Emptiness
Di-nod - Pointless
Ysbrydoli - To inspire
Fri, 19 Feb 2021 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
TROI’R TIR Roedd gêm gynta Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn un gyffrous iawn gyda Chymru yn ennill o bum pwynt yn unig. Pwy tybed oedd Gwenan Morgan Lyttle yn ei gefnogi dydd Sadwrn gan ei bod hi bellach yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac wedi priodi Gwyddel? Dyma i chi glip o Gwenan yn sgwrsio gyda Terwyn Davies ar Troi Tir
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six Nations Championship
Cefnogi - To support
Gwyddel - An Irishman
Gwartheg - Cattle
Tad-cu - Taid
Bugail - Shepheard
Yn y gwaed - In the blood
Y Weriniaeth - The Republic
Hwyluso - To facilitate
Ar y ffin - On the border
DANIEL GLYN AC ELLIW GWAWR Dw i’n siŵr bod Gwenan yn hapus iawn dydd Sadwrn ar ôl i Gymru guro’r Iwerddon. Y newyddiadurwraig Elliw Gwawr oedd gwestai Daniel Glyn ar y sioe Frecwast dros y penwythnos. Dyma hi’n sôn am sut mae’r blynyddoedd diwetha wedi bod yn rhai diddorol iawn iddi hi…
Newyddiadurwraig - Female journalist
Anghyffredin - Uncommon
Prif Weinidogion - Prime Ministers Llywodraethu - To govern
Newid enfawr - A huge change
Llywodraeth Cymru - The Welsh Government
Anhygoel - Incredible
San Steffan - Westminster
Cyn lleied â - As little as
Gwefannau cymdeithasol - Social media Diddiolch - Thankless
TATŴS TRYSTAN AC EMMA Elliw Gwawr oedd honna’n sôn am waith newyddiadurwraig wleidyddol yn ystod y blynyddoedd prysur diwetha. Ar ôl i Brooklyn Beckham, y model sy’n fab i David a Victoria Beckham, gael tatŵ arall i ychwanegu at yr holl ink sy ar ei gorff, cafodd Trystan ac Emma sgwrs gydag Elin Mai o Lanberis sy hefyd yn dipyn o ffan o datŵs…
Na fo - Dyna fe/fo
Uniaethu - To empathise
Wastad - Always
Ymhelaethu - To expand
Ysgogi - To inspire
GWEN SGWRS YR HET Hanes tatŵs Elin Mai yn fan’na ar raglen Trystan ac Emma. Mae het Geraint Lloyd wedi teithio ar draws Gymru wrth i un gwrandäwr ei phasio at wrandäwr arall. Yr wythnos diwetha roedd yr het wedi cyrraedd Castell-Nedd a dyma Geraint yn holi perchennog newydd yr het - Gwen…
Ymgymryd â her - Taking up a challenge
Elusen - Charity
Elwa - To benefit
Gwledd - A feast
FFION DAFIS Gwen o Gastell-Nedd oedd honna, yn sôn am ei hetiau. Roedd gan yr actores Ffion “gwallt” Dafis ddewis anodd iawn i’w wneud yn ddiweddar - parhau i actio rhan Alwenna yn y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd neu wneud cyfres newydd o’r ddrama boblogaidd ‘Byw Celwydd’. Hi oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd dydd Sul gan ei bod yn dathlu ei phenblwyddd yn hanner cant. Dyma hi’n esbonio wrth Dewi pam gwnaeth hi ddewis ‘Byw Celwydd’…
Cyfres - Series
Yn werthfawrogol iawn - Very appreciative
Pryderus - Worried
Cyfuniad - A combination
Troi a throsi - Tossing and turning
Anwyldeb - Affection
Yn wythnosol - Weekly
Magwraeth - Upbringing
FY STORI I - DEWI TUDUR Penderfyniad anodd iawn yn fan’na i Ffion Dafis. Mewn rhaglen arbennig o’r enw Fy Stori i, glywon ni hanes yr artist Dewi Tudur sydd yn byw yn yr Eidal erbyn hyn. Yn y rhaglen clywon ni ei fod wedi cael cyfnodau trist iawn yn eu fywyd ond yn y clip yma dyma fe’n sôn am ddigwyddiad hapus iawn newidiodd ei fywyd yn llwyr…
Cyfeillgarwch - Friendship
Gwas y Neidr - Dragonfly
Selio - Based
Diniweidrwydd - Innocence
Cynhyrchwyr - Producers
Dyma fi’n digwydd - I happened to
Ro’n i wedi gwirioni - I was delighted
Unig ac anial - Lonely and desolate
Fri, 12 Feb 2021 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
Steffan Cennydd Os oeddech chi’n un o’r miliynau wyliodd y gyfres The Pembrokeshire Murders ar ITV yn ddiweddar, efallai eich bod chi’n cofio cymeriad mab y ditectif DCI Steve Wilkins. Luke Evans oedd yn chwarae rhan y ditectif a Steffan Cennydd o Gaerfyrddin oedd yn chwarae rhan y mab. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd Caryl a Daf gyda Steffan ar eu rhaglen yr wythnos yma
Mwya llwyddiannus - Most successful
Golygfa - Scene
Gyferbyn â - Opposite to
Mae’n fyd enwog - He’s world famous
Egni - Energy
Rhwydd - Hawdd
Derwen - Oak
Marian Brosschot Steffan Cennydd oedd hwnna ac roedd e’n amlwg wedi mwynhau cymryd rhan yn The Pembrokeshire Murders. Mae Marian Brosschot yn diwtor Cymraeg i Brifysgol Bangor a buodd hi'n dysgu Cymraeg ym Mhatagonia y llynedd. Mae hi’n rhugl mewn Cymraeg, Saesneg, Iseldireg a Sbaeneg ac mae hi nawr yn dysgu Daneg. Pwy well felly i roi cynghorion ar ddysgu iaith. Dyma ambell i gyngor rannodd hi ar raglen Aled Hughes wythnos diwetha. Gofynnodd Aled iddi hi oedd canu yn ffordd dda o ddysgu iaith…
Iseldireg - Dutch
Daneg - Danish
Ystyr dyfnach - A deeper meaning
Arwynebol - Superficial
Llythrennol - Literal Trwytho - To saturate
Dywediadau - Sayings
Chdi - Ti
Wsos - Wythnos
Ynganiad - Pronunciation
Am w’n i - As far as I know
Jonathan Simcock Rhywun sy wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg yn rhugl ydy Jonathan Simcock, er ei fod yn byw yn Derby. Mae Jonathon wedi bod yn trefnu clwb a gwersi Cymraeg i ddysgwyr ardal Derby a Nottingham ers blynyddoedd. Cafodd Shan Cothi sgwrs gydag e ar Bore Cothi a gofynnodd hi i Jonathon sut oedd Cylch Dysgwyr Derby a Nottingham wedi ymdopi â’r cyfnod clo…
Ymdopi - To cope
Arferol - Usual
Tu hwnt - Beyond
Ymhlith - Amongst
Alltud - Exiled
Cerdd - Poem
Offeryn - Instrument
Cymunedol - Community
Llawen - Merry
Llion Thomas Felly os dych chi’n barod i gymryd rhan yn y noson lawen cysylltwch â Jonathon Simcock, dw i’n siŵr basai’n falch iawn o glywed gennych. Mae gan Llion Tomos o Ynys Môn gi talentog iawn o’r new Max – fel clywodd Emma a Trystan ar eu rhaglen fore Gwener…
Dallt - Deall
Sillafu - To spell
Cawn ni weld - We’ll see
Aballu - And so on
Gwenith Evans Wel dyna ni berfformiad perffaith i noson lawen Cylch Derby – Llion rhaid i chi gysylltu â Jonathon Simcock! Therapydd cerdd ydy Gwenith Evans o Benparc ger Aberteifi, a buodd hi’n gweithio yn Seland Newydd tan tua dau fis yn ôl ond erbyn hyn mae hi’n byw yng Nghymru unwaith eto. Dyma hi’n sôn ychydig wrth Hanna Hopwood Griffiths am ei phrofiad yn Seland Newydd yn ystod y pandemig…
Ffodus - Fortunate
Eitha clou - Quite quickly
Llond llaw - Handful
Dihunais i - Wnes i ddeffro
Rhyddid - Freedom
Ffaelu - Methu
Sa i’n siŵr - Dw i ddim yn siŵr
Aeron Pughe Hanes y cyfnod clo yn Seland Newydd yn fan’na ar y rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws. Mae priodi yng nghefn gwlad Cymru yn gallu bod yn rhywbeth peryglus iawn yn ôl yr hanesion glywon ni ar Troi’r Tir. Dyma i chi Aeron Pughe o Gomins Coch ger Machynlleth i ddechrau yn rhoi hanes ei briodas e…
Drygioni - Mischief
Gwas priodas - Best man
Cwmpodd y goeden - The tree fell
Llanast - Mess
Budreddi - Dirt
Yn enedigol o - A native of
Fawr ddim cwsg - Hardly any sleep
Traddodiad - Tradition
Rhaffau - Ropes
Groes yr heol - Ar draws y ffordd
Fri, 05 Feb 2021 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
OWAIN TUDUR JONES Y cyn bêl-droediwr Owain Tudur Jones oedd gwestai Lisa fore Sul. Enillodd Owain saith cap pêl-droed dros Gymru ac mae e nawr yn sylwebu ar gemau pêl-droed ar ran S4C. Ond am ei ddiddordeb mawr mewn dringo mynyddoedd Eryri buodd e’n sôn wrth Lisa. Dyma i chi flas ar y sgwrs…
Sylwebu - To commentate
Sbïo - Edrych
Gwerthfawrogi - To appreciate
Golygfeydd - Views
Her - A challenge
Curiad y galon - The heartbeat
Cynyddu - Increasing
Datblygu - Develops
Adnabyddus - Well known
Ysfa - Urge
Gofal biau hi - Take care
TRYSTAN AC EMMA Owain Tudur Jones oedd hwnna’n sôn am ei hoffter o fynydda. Sut mae gwneud y baned berffaith? Dyma farn Eirlys Smith o Gaffi Paned Pinc yn Llangadfan ynm Mhowys ar raglen Trystan ac Emma…
Llaeth - Llefrith
Tywallt - To pour
Ymdrech - Effort
Llesol - Beneficial
Dail te - Tea leaves
Amgylchedd - Environment
Euog - Guilty
CLIP BWYD YN HAWS Tebot a dail te amdani felly! Mae llawer iawn ohonon ni’n gweithio o’n cartrefi y dyddiau hyn, sydd yn gallu bod yn dipyn o her o dro i dro. Gofynnodd Hannah Hopwood Griffiths i’w gwrandawyr am gynghorion gweithio o gartre. Dyma oedd rhai o’u tips nhw!
Ardal penodol - A specific area
Yn llythrennol - Literally
Cymudo - To commute
Diffodd - To switch off
Yr holl synhwyrau - All the senses
Ar bwys - Wrth ymyl
Egni - Energy
Ddim yn tycio - Doesn’t succeed
TROI’R TIR Digon o ‘dips’ yn fan’na ar sut i wneud gweithio o gartre’n fwy pleserus. Ar Troi’r Tir yr wythnos yma clywon ni hanes cwpwl o Sir Drefaldwyn sy'n ffermio ac yn tyfu madarch yn ardal Llanerfyl ym Mhowys. Dyma Gwenllian yn esbonio sut dechreuon nhw gyda’r fenter newydd
Madarch - Mushrooms
Prif Weithredwr - Chief Executive
Dirgelwch ac arbrawf - A mystery and experiment
Cyfeillgarwch - Friendship
Awyddus i arallgyfeirio - Eager to diversify
Madarch wystrys - Oyster mushrooms
Llwch llif - Sawdust
Ffwrn fawr ddiwydiannol - A large industrial oven
Cyfandirol - Continental
Perlysiau - Herbs
RHYS MEIRION Hanes menter tyfu a gwerthu madarch yn fan’na ar Troi’r Tir. Bob bore Gwener ar RC2 mae Huw Stephens yn dod i nabod ei westeion drwy ofyn nifer o gwestiynau iddyn ac mae’n rhaid ateb y cwestiynau drwy ddweud ‘cocadwdl-ydw’ neu ‘cocadwdl-nac ydw’. Y canwr enwog Rhys Meirion oedd yn ateb y cwestiynau wythnos yma
Dychmygwch - Imagine
‘Sti - You know
CLIP ANNES POST CYNTAF Rhys Meirion yn gwerthu hufen ia, pwy fasai’n meddwl? Does dim byd gwell ar benwythnos na chael brecwast llawn wedi ei goginio, a gwell byth os mai rhywun arall sydd wedi ei goginio fe. Yr actores Annes Elwy soniodd wrth Kate Crocket ar y Post Cynta sut mae hi wedi arallgyfeirio yn ystod y cyfnod clo drwy goginio brecwast a’i gludo i dai ei chwsmeriaid...
Cludo - To carry
Yn raddol bach - Gradually
Be yn y byd - What on earth
Yn dawel bach - Without much ado Lledaenu - To spread
Yn y pendraw - In the end
Fy nghynnal i - Keeps me going
Gwahaniaethu - To distinguish
Bywoliaeth - Livelyhood
Fri, 29 Jan 2021 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
AR Y MARC Mae Luke Williams o Stafford wedi dechrau cyfrif Twitter, Pêl-droed 5 munud - @PD5Munud, i helpu pobl ddysgu Cymraeg – a hynny drwy ddefnyddio eu cariad tuag at bêl-droed. Cafodd Dylan Jones air gyda Luke ar Ar y Marc
Dechreuwr - Beginner
Canolradd - Intermediate
Parhau - To continue
Barnau - Opinions
Cyfle - Opportunity
Gwelliannau - Improvements
BYWYD YN HAWS Blog Cymraeg i ddysgwyr sy’n licio pêl-droed – da iawn Luke - am syniad gwych. Hana Hopwood Griffiths oedd yn gofyn beth sy'n gwneud bywyd yn haws i Sophie Richards, ond am gyfnod doedd ei bywyd hi ddim yn hawdd o gwbl. Buodd Sophie am flynyddoedd yn diodde o boenau yn ei bol ac ar ei brest a doedd y meddygon ddim yn siŵr beth oedd yn bod arni hi. Yn y diwedd cafodd hi ddiagnosis ei bod hi’n diodde o’r cyflwr endometriosis ac mae hi erbyn hyn yn cynnal blog i helpu merched sy’n diodde o’r un cyflwr. Dyma Sophie’n dweud yr hanes…
Am gyfnod - For a period
Brest - Chest Diodde(f) - Suffering
Cyflwr - Condition
Bant - I ffwrdd
Tyfu lan - Growing up
Oddi ar y triniaeth - since the treatment
COFIWCH DRYWERYN Sophie Richards oedd honno, sy’n cynnal blog i helpu merched sy’n diodde o’r cyflwr endometriosis. Dw i’n siŵr eich bod wedi gweld y slogan ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ar hyd a lled Cymru ac ar sticeri ceir hefyd. Cafodd y slogan gwreiddiol ei beintio ar wal ar yr A487 ger Llanrhystud yng Ngheredigion ac ar Cofio yr wythnos diwetha cyfaddefodd yr academydd Meic Stephens wrth Beri George mai fe beintiodd y geiriau eiconig hynny yn y chwedegau a hynny pan oedd e’n dysgu Cymraeg…
Cyfaddefodd - Admitted
Y ddelwedd - The image
Darganfod - To discover
Ledled - Throughout
LISA GWILYM Meic Stephens yn cyfadde anghofio’r treiglad meddwl wrth beintio slogan enwoca’r Gymraeg! Dych chi wedi gwneud addunedau blwyddyn newydd eleni, ac os felly dych chi wedi llwyddo i’w cadw nhw hyd yn hyn? Yn yr Ysgol Sul ar raglen Lisa Gwilym ddydd Sul – edrychodd hi’n ôl ar hanes traddodiad gwneud addunedau…
Addunedau Resolutions
Mynychu Attend
Cyhydnos y gwanwyn Spring Equinox
Sicrhau To ensure
Yn fwy tebygol More likely
Dyled Debt
(G)addo dychwelyd promise to return
Y Rhufeiniaid The Romans
Hynafol Ancient
Crefyddol Religous
Diwylliant Culture
Yn benodol iawn Very specific
DROS GINIO Dyma i chi adduned blwyddyn newydd gwych- dwedwch wrth unrhyw ddysgwr dych chi’n ei nabod i wrando ar y podlediad hwn, ac ar bodlediadau Cymraeg eraill wrth gwrs! Mam a mab – Jên a Dylan Ebenezer oedd gwesteion Dau Cyn Dau Dewi Llwyd ar Dros Ginio. Mae Dylan a’i dad Lyn yn ffans mawr o dîm Arsenal, sut oedd hyn wedi effeithio ar ei bywyd fel teulu tybed?
Wedi gwirioni - Mad about
Agwedd - Attitude
Hunllef - Nightmare
Ei grud e - His cradle
Profiad poenus - A painful experience
Rhwydo - To ensnare
Gwadu - To deny
Gwarchod - To babysit
Dad-cu - Taid
Cyswllt - Connection
Brechlyn - Vaccine
TRYSTAN AC EMMA Gobeithio bydd Jên fel sawl mam-gu, neu nain, yn cael gweld eu hwyrion yn y dyfodol agos on’d ife? Dych chi’n ffan o Dr Who, beth ydy’ch barn chi o Jodie Whitaker fel y Doctor a phwy sech chi’n licio ei weld fel y Dr Who nesa? Dyma oedd barn y super-fan Harry Coles ar raglen Trystan ac Emma…
Cymuned enfawr - A huge community
Dilyniant - A following
Cyfres - Series
Sibrydion - Whispers
Camu mewn - To step in
Paid â dweud - You don’t say
Yn dy dyb di - In your opinion
Cymeriad - Character
Sirioldeb - Cheerfulness
Fri, 22 Jan 2021 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
Ffion Emyr a Tim …ga i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi gyd, ac ar ddechrau’r flwyddyn newydd, cafodd Ffion Emyr sgwrs gyda Tim, sy’n dod o Fethesda yng Ngwynedd yn wreiddiol ond sy erbyn hyn yn byw yn Fflorida. Cwestiwn cynta Ffion i Tim oedd ers pryd mae e’n byw yn Fflorida… Di mopio efo’r lle - Wedi dwlu ar y lle
Fatha - Fel (yr un fath â) Diodydd - Drinks
Beti George a Mark Drayford Coctêls arbennig Betesda yn fan’na …yr holl ffordd o Fflorida. Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford oedd gwestai Beti George yr wythnos diwetha ac yn y clip yma mae e’n sôn am yr adeg gwnaeth e ddysgu siarad Cymraeg yn rhugl…
Prif Weinidog - First Minister
Tad-cu - Grandfather
Cwrdd gyda - Cyfarfod efo
O ddifri - Seriously
Llywodraeth - Government
Degawd - Decade
Datganoli - Devolution
Cyfleon - Opportunities
Canolbwyntio - To concentrate
Dwyieithog - Bilingual
Elis James a Dafydd Iwan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, oedd hwnna yn sgwrsio gyda Beti George. Ond a ddylen ni gredu beth mae gwleidyddion yn ei ddweud wrthon ni? Dw i ddim yn siŵr ar ôl gwrando ar Dafydd Iwan, oedd yn siarad gyda Ellis James y rhaglen – Dwy Iaith Un Ymennydd Gwleidyddion - Politicians
Ymennydd - Brain
Beirniadu - To criticise
Dweud celwydd - Lying
Anwiredd - Untruth
Y gwirionedd - The truth
Celu - To conceal
Rhoi’r argraff - To give the impression
Esgus - To pretend
Cydymdeimlo - To sympathize
Osgoi cyfadde - To avoid admitting
Nigel Owens Nid dweud celwydd ond bod yn rhy onest oedd bachgen bach wrth siarad gyda’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens fel y cawn ni glywed yn y clip nesa pan oedd Nigel ateb cwestiwn Angharad Mair iddo fe sef o’r holl gêmau mae o wedi eu dyfarnu pa rai sydd yn aros yn y cof…
Dyfarnwr - Referee
Rownd derfynol - Final
Chwe Gwlad - Six Nations
Yn cynnwys - Including
Gwynebau - Faces
Crwtyn bach - Bachgen bach
Becso - Poeni
Achlysur - Occasion
Carys a Meryl Angharad Mair oedd honna yn cyflwyno rhaglen Aled Hughes ac yn sgwrsio gyda Nigel Owens sy newydd ymddeol o ddyfarnu gêmau rygbi. Carys Eleri a Meryl Evans, mam a merch o’r Tymbl yn Sir Gaerfyrddin, oedd gwesteion Dau Cyn Dau Catrin Heledd ar Dros Ginio yr wythnos diwetha a dyma nhw’n sôn am sut maen nhw wedi ymdopi gyda’r cyfnod clo
Y cyfnod clo - The lockdown
Gwefannau cymdeithasol Social media
Unigrwydd - Loneliness
Ymgymryd â her - Undertaking a challenge
Presenoldeb - Presence
Agosáu - To become closer
Yr aelwyd - The home
Ysgrifenyddes - Secretary (female)
Cetra Bore Cothi Carys Eleri a Meryl Evans, mam a merch o’r Tymbl sy’n amlwg wedi mwynhau cwmni ei gilydd yn ystod y cyfnod clo. Mae Cetra Coverdale Pearson yn dod o swydd Stafford yn wreiddiol ond yn byw yn ardal Derby erbyn hyn, ond fel cawn ni glywed o’r sgwrs hon gyda Shan Cothi, mae hi wedi dysgu Cymraeg yn arbennig iawn a hynny mewn ychydig dros flwyddyn. Dyma hi’n esbonio ar Bore Cothi pam penderfynodd hi ddysgu’r iaith a sut aeth ati i wneud hynny… Anhygoel - Incredible
Cwympo mewn cariad - To fall in love
Y cam cynta - The first step
Sylw - Attention
Ro’n i’n synnu - I was surprised
Fri, 15 Jan 2021 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
DROS GINIO … gadawodd Jessy y band Little Mix achos ei hiechyd wythnos diwetha. Buodd Vaughan Roderick yn sôn am hyn gyda Lloyd Macey, cyn gystadleuwr yr X-Factor, ar un o raglenni Dros, a buon nhw’n trafod hefyd y pwysau mawr sy ar bobl yn llygaid y cyhoedd,.
Pwysau - Pressure
Llygad y cyhoedd - The public eye
Sylwadau - Comments
Cystadleuwyr - Competitors
Creulon - Cruel
So nhw’n gadael - Dyn nhw ddim yn gadael
Ymateb - Response
Pydew - Well
Gwenwynig - Poisonous
Cyfathrebu - To communicate
Beirniadu - To criticise
ALED HUGHES Lloyd Macey oedd hwnna’n sôn wrth Vaughan Roderick am y pwysau sy ar bobl yn llygad y cyhoedd y dyddiau hyn. Wnaethoch chi sylwi ar seren ddisglair iawn yn yr awyr wythnos yma? Ai dyma oedd y seren mae sôn amdani yn Stori’r Geni tybed? Dyma farn y ffisegwr Aled Illtud oedd yn trio ateb cwestiwn mawr Aled Hughes yr wythnos yma 'Wnaeth seren y Nadolig ymddangos go iawn?'…
Seren ddisglair - A sparkling star
Stori’r Geni - The nativity
Y dynion doeth - The wise men
Sadwrn - Saturn
Ffrwydro - To explode
Egni - Energy
Tasgu - To spill
Bydysawd - The universe
Egni - Energy
PAPURAU DEWI LLWYD Aled Illtyd ac Aled Hughes oedd y rheina’n trafod seren Bethlehem. Glenda Jones a Prysor Williams oedd yn adolygu’r papurau ar raglen Dewi Llwyd fore dydd Sul a dyma i chi flas ar eu sgwrs ble maen nhw’n trafod beth sy’n boblogaidd i’w brynu y Nadolig hwn…
Adolygu - Reviewing
Yn ôl - According to
Mynd lan - Codi
Gwin wedi’i fwydo - Mulled wine
Gwerthfawrogiad - Appreciation
Gwerthiant - Sales
Tu fas - Outside
Rhybudd - Warning
Iawndal - Compensation
Addurniadau - Decorations
Ansawdd - Quality
DAF A CARYL Glenda Jones a Prysor Williams yn fan’na yn trafod beth sy’n boblogaidd y Nadolig yma. Mae’n debyg bod beiciau yn boblogaidd iawn hefyd gyda llawer mwy o bobl yn eu defnyddio ers y cyfnod clo, ond fydd yna newid yn y math o feiciau mae pobl yn eu prynu y dyddiau hyn tybed? Dyma i chi farn Marc Real ar y Sioe Frecwast gyda Daf a Caryl fore Mawrth. Amgylchiadau - Situations
Ail-feddwl - To rethink
Anferthol - Huge
Galluogi - To enable
Anhygoel - Incredible
Cynnydd - Increase
Serth iawn - Very steep
Chwysu - Sweating
TROI’R TIR Ond nid e-feic fydd gan Sion Corn i deithio o amgylch y byd wrth gwrs ond ceirw, a Rhian Tyne fuodd yn sôn wrth Terwyn Davies ar Troi’r Tir am gadw ceirw ym Mhen Llŷn…
Ceirw - Deer
Paratoi’r caeau - Preparing the fields
Uchder - Height
Trîn - To treat
Fatha - Yr un fath â
Unigrywder - Uniqueness
Silwair - Silage
Glaswellt - Grass
NADOLIG RADIO CYMRU Rhian Tyne oedd honna’n sôn am geirw Pen Llŷn. Gan ein bod mewn cyfnod clo arall dros y Nadolig beth gwell na chael Radio Cymru yn gwmni i chi. Dyma i chi flas o’r hyn gallwch ei glywed ar yr orsaf dros yr Ŵyl…
Yr orsaf - The station
I’ch aelwyd chi - To your home
Naws y Nadolig - The Christmas spirit
Cerddorfa Genedlaethol - National Orchestra
Oedfa - Religous service
Seren lachar - A bright star
Ynghyd - Together .
Fri, 25 Dec 2020 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
GWNEUD BYWYD YN HAWS Ar y rhaglen Gwneud Bywyd yn Haws mae Hanna Hopwood Griffiths a'i gwestai'n trafod beth sy'n gwneud bywyd yn haws iddyn nhw. Dyma Carys Evans, sy’n dod o Ynys Môn yn wreiddiol ond sydd nawr yn byw yn Sir Fynwy, ac mae hi’n ysgrifennu blog o’r enw Colon Lân , er mwyn rhannu beth wnaeth bywyd ychydig bach yn haws iddi ar ôl iddi gael diagnosis o gansr y coluddyn.
Cansr y coluddyn - Bowel cancer
Ymwybodol - Aware
Parhau - To continue
Profion gwaed - Blood tests
Rhyw fath o dyfiannau - Some kind of growths Iau - Liver
Ymledu - To spread
Cadarnhau - To confirm
Triniaeth - Treatment
Rhannu fy mhrofiadau - To share my experiences
STIWDIO Carys Evans oedd honna yn dweud beth wnaeth bywyd yn haws iddi hi ar ôl iddi gael newyddion drwg iawn am ei hiechyd. Wel, mae hi bron yn Nadolig ac felly mae’n siŵr bydd y ffilm ‘The Sound of Music ‘ i’w gweld ar ryw sianel dros y gwyliau. 'Teulu' oedd thema rhaglen wythnos diwetha o Cofio ac yn y clip yma mae Nia Roberts yn sgwrsio gyda Rhys Jones am hanes y teulu Von Trapp sef stori’r sioe gerdd a’r ffilm enwog…
Wedi ei seilio ar - Based on
Lleianes - Nun
Wedi hen godi ei ben - Had long since raised its head
Gorthrwm yr Iddewon - The oppression of the Jews
Canolbwyntio ar yr agwedd - Concentrating on the aspect
Rhyfeddol - Amazing
Ddaru nhw gynhyrchu - They produced
Gogoniant - The glory
Bywyd hollol annibynnol - Totally independent life
BORE COTHI Rhys Jones oedd hwnna yn sôn am ‘The Sound of Music’ ar Cofio. Wel, mae na beryg i ni or-fwyta, gor-yfed ac eistedd gormod ar y sofa yn gwylio ffilmiau fel ‘The Sound of Music’ dros y Nadolig on’d oes na? Dyma i chi gynghorion Anna Reich ar sut i gadw’n heini ac yn iach dros y gwyliau…
Ymchwiliwch nhw - Research them
Tro ar ôl tro - Time after time
Cymhleth - Complicated
Newid meddylfryd - Change the mindset
Cryno - Compact
Hallt - Salty
Sychedig - Thirsty
Chwerw - Bitter
HUW STEPHENS Dyna ni felly – jog bach cyn stwffio’r twrci! Trystan ap Owen oedd yn sôn am ffilmiau’r wythnos ar Sioe Frecwast Huw Stephens fore Gwener, felly pa ffilm Nadolig wnaeth Trystan ei hargymell i ni tybed?
Argymell - To recommend
Nadoligaidd - Christmassy
Addas iawn - Very suitable
Hud a lledrith - Magic
Wedi cael ei leoli - Has been located
Ymenydd - Brain
Cyfoethog - Rich
Troslais - Voiceover
Cymeriad - Character
Achub - To rescue
DROS GINIO Argymhelliad ffilm Nadolig deuluol yn fan’na gan Trystan ap Owen . I lawer ohonon ni, fasai hi ddim yn Ddolig heb y twrci, ond sut flwyddyn mae hi wedi bod i’r rhai sy’n gwerthu twrcwns? Carys Thomas a Sion Jones fuodd yn siarad gyda Jennifer Jones ar Dros Ginio…
Llawn mor brysur - Just as busy
Trefnus - Organised
Archebu - To order
Ymdopi - To cope
Y fwy cyndyn - More reluctant
Yn draddodiadol - Traditionally
Coron - Crown
Arferion - Habits
Rhewgell - Freezer
Gwerthiant - Sales
STIWDIO Sgwrs am dwrcwns yn fan’na ar beth arall ond Dros Ginio! Wrth i Coronation Street ddathlu 60 mlynedd ar y sgrîn, ar Stiwdio nos Lun buodd Nia Roberts a’i gwestai Dr. Manon Wyn Williams yn ceisio dadansoddi pam fod yr opera sebon wedi parhau’n boblogaidd am gymaint o amser.
Dadansoddi - To analyse
Gweithgaredd deuluol - A family activity
Yn cael ei darlledu - being broadcast
Yr holl atgofion - All the memories
Cymuned glòs - A close community
Dosbarth gweithiol - Working class
Cysurus - Comforting
Wedi cael ei beirniadu - Has been criticised
Delwedd - Image
Adlewyrchu - To reflect
Fri, 18 Dec 2020 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
Daniel Glyn - Connie Orff Y cymeriad drag – Connie Orff, neu Alun Saunders, oedd gwestai Daniel Glyn fore Sadwrn a buodd e’n sôn wrth Daniel am sut dechreuodd Alun berfformio fel y cymeriad ‘Connie Orff’……
Cymeriad - Character
Llwyfan - Stage
Cynulleidfa - Audience
Ffurfiau - Forms
Ysgol Glanaethwy - A Welsh language performance school
Geraint Lloyd - Llion Jones Hanes y cymeriad drag ‘ Connie Orff’ yn fan’na ar raglen Daniel Glyn. Mae hi wedi bod yn anodd gweudd llawer o bethau yn ystod y cyfnod clo, on’d yw hi? Ac un o’r pethau hynny yw priodi, fel clywon ni gan Llion Jones, sy’n athro Cymraeg, ac oedd wedi gorfod gohirio ei briodas ddwywaith yn ystod y cyfnod… Gorfod gohirio - had to postpone
Y pedwerydd ar bymtheg - The 19th
Digwydd bod - As it happened
Bellach - By now
Gwas Priodas - Best man
Darlledu’n fyw - To broadcast live
Yn rhithiol - Virtually
Yn gorfforol - Physically
Dathliad - Celebration
Dros Ginio - Elinor Wyn Reynolds Llongyfarchiadau i’r ddau ohonyn nhw a gobeithio cân nhw gyfle am ddathliad go iawn yn fuan on’d ife? Faint ohonoch chi sy wedi darllen nofelau ‘Bridgette Jones’ neu wedi gweld y ffilmiau amei bywyd hi? Llawer ohonoch chi dw i’n siŵr. Wyddoch chi bod dau ddeg pump o flynyddoedd wedi bod ers i’r nofel gynta amdani gael ei chyhoeddi? Dyma glip o Jennifer Jones ac Elinor Wyn Reynolds ar Dros Ginio yn dathlu chwarter canrif y cymeriad Bridgette Jones a’i dyddiadur
Yn llythrennol - Literally
Yr oriau mân - The early hours
Mor hurt - So stupid
Arwrol - Heroic
Seinio cloch - Sounding a bell
Oedd yn taro deuddeg - Which struck a chord Eitha diniwed - Quite innocent
Cyfryngau cymdeithasol - Social media
Bodoli - To exist
Mwyach - By now
Yn ddiweddarach - Later on
Aled Hughes - Cath Ayers Os ydy Bridgette Jones yn dathlu chwarter canrif, mae Coronation Street dipyn ar y blaen ac ar fin dathlu 60 mlynedd. Mae Cath Ayres wedi actio yn y gyfres a buodd hi’n sôn wrth Aled Hughes am gwrdd a sêr y gyfres pan gafodd ni rôl yn yr opera sebon eiconig.
Enwog - Famous
Cyffredin - Ordinary
Golygfa - Scene
Yn gwmws - Exactly
Bore Cothi - Meinir Evans Cath Ayres oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am ei phrofiadau’n action yn ‘Coronation Street’. Meinir Evans o gwmni Brownies Hathren oedd gwestai Bore Cothi fore Mawrth a gofynnodd Shan Cothi iddi hi beth oedd arwyddocâd yr enw ‘Hathren’ …
Arwyddocâd - Significance
Yn y gwaed - In the blood
Atgofion melys - Sweet memories
Aelwydydd amaethyddol - Agricultural homes
Tu fas - Outside
Llanw bola - Filling the stomachs
Cyndeidiau - Forefathers
Nant - Brook
Tarddu - To derive
Rhys Mwyn - John Gower Ychydig o hanes cwmni Brownies Hathren yn fan’na ar Bore Cothi. Roedd ‘The Clash ‘ yn un o fandiau ‘pync’ cynta Prydain a buodd Joe Strummer, un o aelodau’r band, yn byw yng Nghasnewydd ar un adeg. Tybed oedd e’n berson gwyllt bryd hynny fel y rhan fwyaf o berfformwyr pync? John Gower fuodd yn sôn wrth Rhys Mwyn am y rocyr gwyllt pan oedd yn byw yng Nghymru…
Yn ei ugeiniau cynnar - In his early twenties
Cynhyrchu - To produce
Yn gyson - Regularly
Prif leisydd - Lead vocalist
Canu gwerin - Folk singing
Di-nod - Insignificant
Teyrngedu’r ffaith - Attributing the fact
Trychinebus - Disastrous
Darganfod - To discover
Fri, 11 Dec 2020 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … "
ALED HUGHES - RHYS AB OWEN Mae na lawer o bobl yn credu mai rhywbeth newydd yw clywed Cymraeg yn cael ei siarad mewn rhannau o Gaerdydd. Ond mae llyfr Owen John Thomas, The Welsh Language in Cardiff : A history of survival yn dangos bod yr iaith wedi bod yn fyw iawn mewn sawl ardal o’r ddinas yn y gorffennol. Daeth mab yr awdur, Rhys ab Owen, i sgwrsio am y llyfr gydag Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs…
Y bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th Century Enghreifftiau - Examples
Y mwyafrif llethol - The vast majority
Cyfrifiad - Census
Yn fanteisiol iawn - Very advantageous
Delwedd - Image
Canrif yn ddiweddarach - A century later
Tu fas - Outside
Y dystiolaeth - The evidence
Yr Eglwys Newydd - Whitchurch
FFION EMYR - SANDRA LLAN Ychydig o hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd yn fan’na ar raglen Aled Hughes. Mae gan Ffion Emyr raglen newydd nos Wener ar Radio Cymru, a phob wythnos mae hi’n mynd i ofyn “pwy sy’n gwneud y coctel gorau yng Nghymru?” . Sandra Llan oedd ei gwestai cyntaf….
Mi fydd gynnon ni - Bydd gyda ni
Hyd yn oed - Even
Brifo - Anafu
Nei di’m cofio - Wnei di ddim cofio
TRYSTAN AC EMMA - JOHN PRITCHARD Hanes coctels peryglus Llanberis oedd hwnna ar raglen Ffion Emyr. Wel gwnaeth tîm pêl-droed Cymru yn dda yn y gêmau diweddar yn Nghwpan y Cenhedloedd ac ennill dyrchafiad i Grŵp A yn y gystadleuaeth. Ond oeddech chi’n gwybod bod yna dîm Pêl-droed Cerdded Cymru hefyd, a bod y tîm wedi ennill Cwpan y Byd? Beth yn union ydy Pêl-droed Cerdded? Dyna un o gwestiynau Trystan Ellis Morris ac Emma Walford i John Pritchard o Ynys Môn sy’n chwarae Pêl-droed Cerdded dros Gymru...
Cwpan y Cenhedloedd - Nations Cup
Dyrchafiad - Promotion
Pencampwr o fri - A renowned champion
Yr un rheolau - The same rules
Arferol - Usual
Pwyslais - Emphasis
Yn dda i ddim - No good
Dw i’n dychmygu - I imagine
GWNEUD BYWYD YN HAWS - GWENNO ROBERTS John Pritchard, un o sêr tîm Pêl-droed Cerdded Cymru oedd hwnna’n siarad gyda Trystan ac Emma ar eu rhaglen newydd sbon bob bore Gwener am 9. Mae Gwenno Roberts wedi dechrau cwmni codi pwysau o’r enw Vulcanna Fit ac yn ystod rhaglen gynta y gyfres newydd ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ gofynnodd Hannah Hopwood iddi hi pam yr enw Vulcanna?
Codi pwysau - Weightlifting
Edmygu - To admire
Ysbrydoliaeth - Inspiration
Ofnadwy o ddewr - Terribly brave
Mewn oes - In an age
Dyletswyddau - Duties
Ymgyrchu - To campaign
Prydferth - Beautiful
Noeth luniau - Nude portraits
Penodol - Specific
POST CYNTAF - ANT A DEC Wel dyna sgwrs aeth â ni o godi pwysau i Vulcanna i Michelangelo ac i golli pwysau, diddorol on’d ife? Os ydych chi’n un o’r MILIYNAU sy’n gwylio I’m a Celeb sy’n cael ei ffilmio yng Nghastell Gwrych ger Abergele, byddwch chi wedi clywed Ant a Dec yn siarad ychydig o Gymraeg. Cafodd Dylan Jones air gyda’u tiwtor Garffild Lewis ar y Post Cyntaf....
Y gyfres The series
Darlledu - Broadcast
Cyflwynwyr - Presenters
Llais cyfarwydd - A familiar voice
Ynganu - Pronunciation
Cywair - Register (of language)
Ymddiriedolaeth - Trust
Ymgynghorwyr - Consultants
Tîm cynhyrchu - Production team
Agwedd - Attitude
SIOE FRECWAST - CARYL A DAF Ac arhoswn ni gyda I’m a Celeb am y clip ola. Un sy’n byw yn agos iawn at Gastell Gwrych ydy Sian Rees a gofynnodd Caryl a Dafydd iddi hi sut ymateb sy wedi bod yn yr ardal i’r gyfres.. Ymateb - Response
Pwnc trafod - Talking point
Arferiad - A habit
Hyd y gwela i - As far as I can see
Yn eu hoed a’u hamser - Of a certain age
Byrlymu - Buzzing
Rhoi ni ar ben ffordd - Bring us up to date
Fri, 04 Dec 2020 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
JENI OGWEN - IFAN EVANS ...beth dych chi’n feddwl sy’n gyffredin rhwng Jenny Ogwen, oedd yn arfer cyflwyno rhaglenni teledu Cymraeg, ac Ifan Evans? Wel mae’r ddau â stori i’w dweud am Cliff Richards! Dyma i chi flas ar eu sgwrs nhw ar raglen Ifan...
Llofnod - Autograph
Diawch - Goodness (an exclamation)
Naill ai - Either
Ar bwys - Near to
Paid sôn - You don’t say
Gwaetha’r modd - Unfortunately
Trefdraeth - Newport (Pembrokeshire)
Nefolaidd - Heavenly
So ti - Dwyt ti ddim
Mor gaeth - So restricted
ALED HUGHES - SIOE FRECWAST HUW STEPHENS Jenny Ogwen yn fan’na yn sôn am Cliff Richards ac am Ynys y Barri ar raglen Ifan Evans. Aled Hughes oedd yn ateb cwestiynau Cocadwdl-do Huw Stephens wythnos diwetha – dyma i chi gyfle i glywed rhai o gyfrinachau Aled…
Cyfrinachau - Secrets
Ysgwydd - Shoulder
Cwlwm - Knot
Llwyth - Tribe
Eu hadnabod nhw - To know them
Ar faes y gad - On the battlefield
Rhwyfo - To row (a boat)
Parch - Respect
Yr un pryd - The same meal
RICH HOLT - SIOE SADWRN DANIEL GLYN Wel dyna ni’n cael gwybod am datŵs a thatws Aled yn fan’na! Mae‘r cogydd Richard Holt i’w weld ar S4C ar hyn o bryd yn y gyfres Anrhegion Melys Richard Holt, a fe wrth gwrs yw seren y sioe! Fe hefyd oedd gwestai arbennig Daniel Glyn fore Sadwrn a dyma Richard yn sôn ychydig am ei gefndir a’i waith.
Cefndir Background Cerddoriaeth Music Llygoden Ffrengig Rat Cyfuniad Combination Danteithion anhygoel Incredible delicacies Pwysau Pressure Newydd sbon Brand new
WRECSAM POST CYNTAF ..a chofiwch wylio Anrhegion Melys Richard Holt ar S4C i gael syniadau am gacennau blasus. Roedd yna ddathlu mawr yn Wrecsam wythnos diwetha wrth i’r newyddion dorri fod sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenny am brynu clwb pel-droed y dre. Cafodd Dylan Jones sgwrs am y newyddion hyn gyda Chris Evans, cadeirydd tafarn gymunedol Wrecsam, Saith Seren, ar Y Post Cyntaf…
Dioddef - To suffer
Gwireddu - To fulfil
Yn rheolaidd - Regularly
Boddi eu gofidiau - Drowning their sorrows
Wedi cryfhau - Has strengthened
Wedi cael ei ffrydio’n fyw - have been streamed live
Mentrau cymunedol - Community ventures
Byd-eang - Worldwide
Ymddiriedolaeth - Trust
Mewn bodolaeth - In existence
BETI A’I PHOBOL ...a phob lwc i glwb ac i dre Wrecsam gyda’r fenter newydd on’d ife? Mae cefndir teuluol Cymreig gan Robert Joseph Jones ond cafodd ei eni yn Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau ac mae o’n byw nawr yn nhalaith Efrog Newydd. Mae o wedi dysgu Cymraeg ac yn ei siarad yn rhugl fel clywon ni yn y sgwrs yma gyda Beti George
Unol Daleithiau - United States
Talaith Efrog Newydd - New York State
Etifeddiaeth Gymreig - Welsh heritage
Cyhoeddi - To publish
Tanysgrifio - To subscribe
Rhyfedd - Strange
Eglurhad - Explanation
GWENDA WATSON - ALED HUGHES Mae Cymraeg gwych gan Robert Joseph Jones on’d oes, i feddwl mai o hen lyfr ‘Teach yourself Welsh’ ddysgodd o’r iaith. Mae Gwenda Watson newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 90ed. Treuliodd hi ran o’i phlentyndod yn byw ar Ynys Enlli a buodd hi’n sôn ychydig am ei phlentyndod ar yr ynys wrth Aled Hughes...
Pobl mewn oed - The elderly
Gweinidog - Minister
Cymorth - Help
Ynys anghysbell - Remote island
Atgofion - Memories
Nefoedd ar y ddaear - Heaven on earth
Fri, 27 Nov 2020 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
Elin Angharad – Tro’r Tir Mae Elin Angharad o Fachynlleth ym Mhowys wedi dechrau busnes yn gwneud ac yn gwerthu ategolion lledr. Dyma hi’n sôn wrth griw Troi’r Tir am sut cafodd hi’r syniad o ddechrau’r busnes a sut aeth hi ati i’w sefydlu…
Ategolion lledr - Leather accessories
Sefydlu - To establish
Ymddiddori mewn - To take an interest in
Dilyn gyrfa - Pursue a career
Gweithdy - Workshop
Profiad Gwaith - Work experience
Penblwydd Cardiau Draenog - Bore Cothi Merch arall o Bowys sydd wedi sefydlu busnes ei hunan ydy Anwen Roberts a hi oedd un o westeion Shan Cothi yr wythnos yma. Mae ei chwmni, Cwmni Cardiau Draenog, wedi bod mewn busnes am 10 mlynedd ac mae gan Anwen gynlluniau arbennig am sut i ddathlu hynny. Arbenigo - To specialise
Cyfoes - Modern
Dylunio - To design
Casgliad - A collection
Yn go llwm - Really tough
Personoleiddio - To personalise
Yr amrywiaeth - The variety
Arddulliau - Styles
Anhygoel - Incredible
Archeb - Order
Richard Burton – Aled Hughes Wel am syniad da, ond’ ife? Tybed beth fydd yr anrhegion bach – cewch wybod os wnewch chi archebu cardiau gan Anwen! Roedd yr actor Richard Burton yn dod o Bontrhydyfen yn Nghwm Afan yn wreiddiol, a tasai fe’n fyw basai wedi dathlu ei benblwydd yn 95 oed yr wythnos yma. Cafodd Aled Hughes sgwrs am yr actor byd enwog gyda Sian Owen, ei nith, sy’n dal i fyw ym Mhontrhydyfen.
Cof plentyn - A child’s memory Atgof - a recollection Ffili symud - Couldn’t move Mo’yn mynd lan loft - Wanted to go upstairs
Enw’r Clip: Clip Penblwydd Bryn Terfel Rhaglen: Dewi Llwyd
Seren fyd enwog arall oedd yn dathlu ei benblwydd yr wythnos diwetha sef Bryn Terfel a fe oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd fore dydd Sul. Dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae Dewi’n holi Bryn a oes yna bendraw i yrfa canwr opera…
Pendraw - An end
Unwaith yn rhagor - Once more
Heb os nac oni bai - Without doubt
Cynulleidfa yn cymeradwyo - The audience applauding
Mwyniant - Pleasure
Cydnabyddiaeth - Acknowledgement
Cymhelliad - Motivation
Beirniaid - Adjudicators
Clod - Praise
Cyffelybu - Compare
Tony Ac Aloma - Cofio ‘Falle nad ydy’r ddeuawd Tony ac Aloma o Sir Fôn yn sêr byd enwog fel Bryn Terfel a Richard Burton, ond er hynny digwyddodd rhywbeth iddyn nhw mewn caffi yn Nhregaron yn y chwedegau wnaeth iddyn nhw ddechrau meddwl eu bod nhw wedi cyrraedd! Dyma’r ddau yn hel atgofion gyda John Hardy…
Deuawd - Duet
Hel atgofion - Reminiscing
Sêr y byd - Global stars
Pres - Arian
Pa mor boblogaidd - How popular
Ffefryn - Favourite
Gwyndaf Lewis - Geraint Lloyd Tony ac Aloma oedd rheina, sêr canu Cymraeg yn y chwedegau a’r saithdegau, yn cofio am ddigwyddiad arbennig yn Nhregaron. Cafodd Geraint Lloyd gyfle i longyfarch Gwyndaf Lewis o glwb Ffermwyr Ifanc Hermon am ennill gwobr ‘Cefnogwr Cymunedol y Flwyddyn’. Beth yn union oedd Gwyndaf wedi ei wneud i ennill y wobr? Wel llawer iawn o bethau, fel cawn ni glywed yn y clip nesa ’ma… Gwobr - Award Cefnogwr Cymunedol - Community supporter Enwebu - To nominate Yn llawn haeddu - fully deserve Ymdrechion rhyfedda - the most amazing effort s Hyfforddi - To train Elusennau - Charities Llwybr arfordir - Coastal path Cyfwerth â - Equivalent of
Fri, 20 Nov 2020 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma..."
Clip Sam Thomas – Geraint Lloyd
Mae gorsaf radio Bronglais – sef gorsaf radio Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yn dathlu ei phenblwydd yn 50 oed. Cafodd Geraint Lloyd hanes yr orsaf gan Sam Thomas o Lanafan a dyma i chi flas ar y sgwrs…
Gorsaf radio - Radio Station
Clwb ieuenctid - Youth club
Cynhyrchu - To produce
Sioe geisiadau - Request show
Cleifion - Patients
Darlledu - To broadcast
I ddod ynghlwm - To become involved
Gwirfoddoli - To volunteer
Amrywiaeth - Variety
Cyfoes - Contemporary
Clip Mark Drayford – Dewi Llwyd
Hanes gorsaf radio Bronglais yn fan’na ar raglen Geraint Lloyd. Dw i’n siŵr ein bod ni i gyd wedi gweld llawer iawn ar Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn rhoi gwybod i ni am sefyllfa Covid y wlad yn ystod y misoedd diwetha. Fe oedd gwestai Dewi Llwyd dydd Sul diwetha a chlywon ni bod teulu’r Prif Weinidog wedi bod yn sâl gyda Covid yn ystod y cyfnod hwnnw. Gofynnodd Dewi Llwyd iddo fe sut oedd e wedi dygymod â’r sefyllfa…
Prif Weinidog Cymru - First Minister of Wales
Dygymod â - To put up with
Yr Ail Ryfel Byd - The Second World War
O dan bwysau aruthrol - Under immense pressure
Cwympo’n dost - To fall ill
Ymdopi - To cope
Clip Tudur Owen
Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, oedd hwnna’n sôn wrth Dewi Llwyd sut oedd e wedi ymdopi pan fuodd aelodau o’i deulu’n sâl gyda Covid. Gyda’r tywydd yn oeri, penderfynodd Tudur, Manon a Dyl Mei ei bod hi‘n dywydd perffaith i swatio a chwarae gêm fwrdd – ond beth oedd eu hoff gêm fwrdd nhw tybed?
Swatio - To snuggle
Rheolau - Rules
Gwyddbwyll - Chess
Plentyndod - Childhood
Clip Siorts Clive
Tudur Owen a’r criw yn sôn am eu hoff gêmau bwrdd yn fan’na. Mae Clive Rowlands yn un o sêr byd rygbi Cymru. Buodd e’n gapten ar y tîm cenedlaethol yn y chwedegau ac wedyn yn hyfforddwr Cymru ar ôl iddo fe ymddeol fel chwaraewr. Buodd e hefyd yn rheolwr ar dîm y Llewod. Yn anarferol iawn cafodd ei wneud yn gapten tîm Cymru yn ei gêm gynta dros y wlad - gêm yn erbyn Lloegr. Dyma fe’n cofio’r gêm arbennig honno…
Cenedlaethol - National
Hyfforddwr - Coach
Y Llewod - The Lions
Anarferol - Unusual
Pencampwriaeth - Championship
Cyd-chwaraewyr - Team-mates Ymarfer - Practice
Parc yr Arfau - The Arms Park
Y tri chwarteri - The three-quarters
Mewnwr - Scrum half
Clip Ifan a Gary Gwallt
Trueni i Clive golli’r gêm gynta ‘na on’d ife? Mae Gary Jones, neu Gary Gwallt, yn byw yn Abir ger Benidorm. Trin gwallt ydy ei waith e ond mae hi wedi bod yn anodd iawn i’r busnes gario ymlaen oherwydd Covid. Beth felly mae Gary wedi bod yn ei wneud yn y cyfamser? Ifan Evans fuodd yn ei holi…
Trin gwallt - Hairdressing
Y cyfamser - The meantime
Distaw - Quiet Gwirfoddolwr ar gyfer elusen - A volunteer for a charity
Andros o hwyl - Loads of fun
Cyngor - Advice
Ymchwil - Research
Eitha llym - Quite strict
Clip Bore Cothi – Kit Ellis
Gary Jones oedd hwnna yn rhoi blas i ni ar fywyd Benidorm yn ystod y cyfnod clo. Blas ar fwyd wedi ei goginio’n araf sydd yn y clip nesa. Rhoddodd Shan a chriw Bore Cothi her i Kit Ellis, sef coginio sawl pryd yn ei ‘slow cooker’… a dyma sut aeth hi…
Y cyfnod clo - The lockdown
Her - Challenge
Hyder - Confidence
Arbrofi - To experiment
Y gyfrinach - The secret
Brasder - Fat
Rhwydd - Easy
Twlu - to throw
Oergell - Fridge
Fri, 13 Nov 2020 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …
Shelley a Rhydian - Sioe Sadwrn Roedd yr actor Ieuan Rhys yn astudio drama yn y coleg pan gafodd ei gyfle cynta i actio’n broffesiynol ac yn fuan iawn dechreuodd actio rhan Sarjant James yn Pobol y Cwm a buodd e’n actio’r rhan hwnnw am flynyddoedd maith. Fe oedd un o westeion Shelly a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a dyma fe’n esbonio sut cafodd e ei swydd actio gynta… Cwpla - To finish
Lan llofft - Upstairs
Cyfweliadau - Interviews
Cwrdd â - To meet
Pennod - Episode
Parodd - It lasted
Huw Stephens a Huw Chiswell - Sioe Frecwast Radio Cymru 2 Yr actor Ieuan Rhys oedd hwnna’n sôn am sut cafodd o’r cyfle i actio ar Pobol y Cwm. Mae Huw Stephens yn mynnu bod ei westeion yn ateb ei gwestiynau drwy roi’r gair Cocadwdl o flaen yr ateb. Dw i’n siŵr ei bod hi’n ddigon anodd i gofio’r holl atebion yes/no yn Gymraeg heb y dasg ychwanegol honno! Y canwr Huw Chiswell oedd yn ateb y cwestiynau Cocadwdl yr wythnos diwetha a dyma i chi sut aeth o ymlaen…
Diflas - Boring
Bronoeth - Topless
Eitha anghyffredin - Quite unusual
Cwlwm - Knot
Yn benodol - Specifically
Fy nghlustffonau - My headphones
Ymwrthod - To reject
Cyfaill - Friend
Suro’r syniad - Spoiled the idea
Fy isymwybod - My subconcious
Dewi Llwyd a Shan Cothi - Dewi Llwyd Huw Chiswell yn cocadwdlio efo Huw Stephens yn fan’na. Fel arfer cyflwyno rhaglenni mae Shan Cothi ond hi oedd gwestai Penblwydd Dewi Llwyd ddydd Sul. Sut oedd Shan am ddathlu’r diwrnod mawr tybed?
Ffordd unigryw - An unique way
Alla i ddychmygu - I can imagine
Yn hŷn (e)to - Older again
Marchogaeth - Horse riding
Uniaethu - To empathise
Meddiant - Possession
Fy niweddar ŵr - My late husband
Teulu gofaint - Blacksmith family
Angerdd - Passion
Daniel Glyn a Hannah Daniel - Sioe Frecwast Radio Cymru 2 Penblwydd hapus iawn i Shan Cothi. Yr actores Hannah Daniel oedd yn ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn wythnos diwetha a dyma i chi flas ar ei hatebion hi…
Cwestiynau diog - Lazy Questions
Cymeriad - Character
Eitha pert - Quite pretty
Hoff lwyfan - Favourite stage
Amgueddfa - Museum
Darlithoedd - Lectures
Atgofion melys iawn - Very sweet memories
Lisa Gwilym a Gary Melville Yr actores Hannah Daniel yn cofio am ei dyddiau ysgol wrth ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn. Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno rhaglen Aled Hughes wythnos diwetha a buodd hi’n sgwrsio gyda Gary Melville am hanes recordiau 7 modfedd…
Unol Daleithau - United States
Poblogaidd - Popular
Creu - To create
Offer - Equipment
Gwasgu - To press
Rhyddhau - To release
Gan amla(f) - More often than not
Disodli - To replace
Trystan ac Emma – Post Cyntaf Dipyn bach o hanes y byd recordiau yn fan’na gan Gary Melville. Cafodd seremoni wobrwyo BAFTA Cymru ei chynnal nos Sul a dau o’r enillwyr oedd Trystan Ellis Morris ac Emma Walford am eu gwaith yn cyflwyno’r gyfres Prosiect Pum Mil. Kate Crocket gafodd gyfle i longyfarch y ddau ar Post Cynta’ fore Llun…
Seremoni wobrwyo - Award ceremony
Llongyfarchiadau - Congratulations
Mae’n rhaid (i mi) cyfadde - I must admit
Llond y lle - Full up
Wedi cael eu henwebu - Had been nominated
Cefndryd - Male cousins
Esblygiad - Evolution
Yn y bôn - Basically
Cymunedau - Communities
Cyfranwyr - Contributors
Cyflawni - To achieve
Fri, 06 Nov 2020 17:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch"S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
Beti George Cafodd Beti George y cyfle i sgwrsio gydag Aran Jones o’r cwmni Say Something in Welsh ar ddiwedd wythnos dysgwyr BBC Radio Cymru. Yn ôl Aran, mae’r cwmni gafodd ei greu unarddeg o flynyddoedd yn ôl, yn newid cyfeiriad yn y ffordd maen nhw’n dysgu’r iaith. Dyma Aran yn dweud mwy am hyn wrth Beti…
Ymdrech sylweddol - A substantial effort
Addasiad niwrolegol - a neurological adjustment
Arbrofi - To experiment
Bron yn ddi-baid - Almost non-stop
Ymenydd - Brain
Cymhleth - Complex
Eitha hyblyg - Quite flexible
Dwys - Intense
Syfrdanol - Astounding
Cyflawni - To achieve
Ar y Marc Aran Jones o Say Something in Welsh oedd hwnna’n sgwrsio gyda Beti George. Un fuodd yn defnyddio gwefan Say Something in Welsh i ddysgu Cymraeg ydy’r Almaenwr Klaus Neuhaus. Does gan Klaus ddim cysylltiad â Chymru o gwbl heblaw am ei gariad tuag at tîm pêl-droed y wlad. Mae e’n ffan mawr o dîm Cymru ers chwarter canrif ac erbyn hyn mae e’n aelod llawn o’r wal goch ac yn dilyn y tîm ar hyd a lled y byd. A dyma pam mae e wedi dechrau dysgu Cymraeg fel buodd e’n esbonio wrth Dylan Jones ar Ar y Marc…
Peirannydd cyfathrebu - Communication engineer
Hyd yn hyn - Up to now
Awyrgylch - Atmosphere
Canlyniad - Result
Heulwen - Sunshine
Yr olygfa - The scene
Mo’yn - Eisiau
Yn ddiweddarach - Later on
Rownd derfynol - The final
Aled Hughes (Natalie Jones) Dysgu Cymraeg i blant fydd Natalie Jones ar ôl iddi orffen ei chwrs ymarfer dysgu. Cafodd Natalie ei magu ym Mhwllheli ond mae hi’n byw yn San Cler yn Sir Gaerfyrddin erbyn hyn. Yn ystod y mis yma mae hi wedi cael y cyfle, bob nos Iau ar S4C, i gyflwyno cyfres sydd yn rhan o fis Hanes Pobol Ddu yng Nghymru. Dyma hi’n sôn wrth Aled Hughes am beth hoffai hi weld yn newid yng Nghymru o ran y boblogaeth ddu…
Dinbych y Pysgod - Tenby
Hyfforddi - To train
Profiadau newydd - New experiences
Anweledig - Invisible
Hiliaeth - Racism
Bodoli - To exist
Parch a sylw - Respect and attention
Annhegwch - Unfairness
Balchder - Pride
Hunaniaeth - Identity
Bore Cothi Natalie Jones oedd honna’n sôn wrth Aled Hughes am brofiadau’r boblogaeth ddu yng Nghymru. Daeth y syniad o gael pobl noeth ar galendrau gan y Calender Girls ar ddiwedd y nawdegau, ac ers hynny dyn ni wedi gweld sawl calendr gyda phobl bron yn noeth, neu’n borcyn, yn aml iawn i godi arian at achosion da. A nawr mae Calendr Clo-rona ar werth i godi arian at wefan iechyd meddwl meddwl.org. Syniad Catrin Toffoc oedd hyn ac mae hi wedi perswadio deg o gantorion clasurol Cymru i ddangos y cyfan! Un ohonyn nhw ydy’r tenor Trystan Llyr Griffiths a buodd e’n esbonio wrth Shan Cothi sut aeth e ati i dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth...
Noeth - Naked
Ei dîn ma’s - His backside out
Y mannau iawn - The right places
Pipo ma’s - Peepimg out
Siglo chwerthin - Rolling with laughter
Y tywyllwch - The dark
Twlu - To throw
Hydrefol - Autumnal
Twym - Cynnes
Stiwdio Trystan Llyr Griffiths oedd hwnna’n esbonio ar Bore Cothi sut aeth e ati dynnu llun ohono’i hun yn hollol noeth ar gyfer calendr Clo-rona... Ar Stiwdio wythnos diwetha agwedd y Cymry tuag at gelf weledol oedd yn cael sylw ac yma mae Nia Roberts yn holi’r artist Mike Jones am ei fagwraeth, a faint o gelf oedd o’i gwmpas pan oedd e’n ifanc...
Agwedd - Attitude
Celf weledol - Visual art
Cyd-destun - Context
Ysbrydoliaeth - Inspiration
Lisa Gwilym Mike Jones yn esbonio wrth Nia Roberts beth wnaeth ei ysbrydoli e i fod yn artist. Mae’r band Ail Symudiad o Aberteifi yn perfformio ers y saithdegau ac mae’n debyg mai nhw yw un o’r grwpiau sydd wedi gigio mwyaf o gwmpas Cymru. Mae’r ddau frawd yn y band, Rich a Wyn wedi rhyddhau cân newydd. Dyma Rich yn cael sgwrs gyda Lisa Gwilym am greu’r gân honno a’r hanes y tu ôl iddi hi.
Rhyddhau - To release
Yr ysfa i greu - The desire to create
Y dôn - The tune
Testun - Text
Carcharorion rhyfel - Prisoners of War
Anghredadwy - Unbelievable
Yr un egwyddor - The same principle
Gwersyll - Camp
Fri, 30 Oct 2020 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchPost Cyntaf Roedd hi’n wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg BBC Radio Cymru wythnos diwetha a gaethon ni’r cyfle i glywed gan lawer iawn o ddysgwyr am eu bywydau a’u profiadau’n dysgu’r iaith. Dechreuodd yr wythnos fore Llun wrth i Dylan Jones holi Barry Lord o Drefaldwyn ym Mhowys. Cafodd Barry ei ysbrydoli i ddysgu’r Gymraeg ar ôl bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol pan aeth hi i ardal Meifod ym Mhowys yn 2015. Ond ydy’r pandemig wedi cael effaith ar ei brofiadau Cymraeg yn y dosbarth a’r tu allan i’r dosbarth?
Eu bywydau a’u profiadau - Their lives and experiences
Cafodd Barry ei ysbrydoli - Barry was inspired
Trefaldwyn - Montgomery
Hyder - Confidence
Pabell - Tent
Yn galonogol iawn - Very encouraging
Anhygoel - Incredible
Cyfathrebu - To communicate
Gan gynnwys - Including
Aled Hughes Barry Lord o Drefaldwyn yn dal i ddysgu ac i ddefnyddio’r Gymraeg er gwaetha’r pandemig. Mae Kai Saraceno yn dod o’r Eidal yn wreiddiol a buodd o’n byw yn y Ffindir ers pan oedd e’n naw oed. Ar hyn o bryd mae’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Dyma i chi glip o Aled Hughes yn ei holi am ei hanes e’n dysgu’r Gymraeg.
Er gwaetha - In spite of
Bodoli - To exist
Ar hap - By chance Cymeriad - Character
Mae’n deg dweud - It’s fair to say
Newid cyfeiriad - To change direction
Yn falch - Pleased
Cymuned - Community
Trafod - To discuss
Aled Hughes …a dyma i chi glip arall o Kai. Drwy gydol Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg roedd Kai ar ein sioeau yn gyson er mwyn sgwrsio gyda dysgwyr eraill a rhoi’r teimlad i ni gyd sut beth yw dod at yr iaith o‘r newydd fel oedolyn. Un ferch gafodd ei holi oedd Shaun McGovern, sy’n dod o Washington DC yn wreiddiol ond sy erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Dyma i chi flas ar y sgwrs…
Chdi - Ti
Gwatsiad - Gwylio
Ffindir - Finland
Yn ddiweddar - Recently
Y rhan fwyaf - Most
Wedi cuddio - Hidden
Shan Cothi Eidalwr yn siarad yn Gymraeg gydag Americanes am eu profiadau’n dysgur iaith – gwych on’d ife? Gwestai Sian Cothi i ddathlu’r wythnos arbennig hon oedd Janet Tabor o Gastell-Nedd. Mae hi wedi bod yn dysgu Cymraeg ers pedair blynedd a dyma hi’n sôn am ei thaith yn dysgu’r iaith.
Caeredin - Edinburgh
Caint - Kent
Casgwent - Chepstow
Hwb - Boost
Dychmygu - Imagine
Gerallt Lloyd Janet Tabor oedd honna wedi cael blas ar y Gymraeg drwy fynd ar un o gyrsiau Gwent. Tiwtor Cymraeg oedd un o westeion Geraint Lloyd wythnos diwtha – Eilir Jones sydd yn dysgu yng ngogledd ddwyrain Cymru. Mae Eilir hefyd yn gomedïwr ac yn berfformiwr a dyma fe’n egluro wrth Geraint pam oedd e eisiau dod yn diwtor a sut cafodd e’r swydd …
Tyrd draw - Come over
Fesul awr - Hourly
Hyfforddiant - Training
Cymwysterau - Qualifications
Cyngor - Advice
Gwerthfawrogi - To appreciate
Cefnogaeth - Support
Yr Wyddgrug - Mold
Sara Yassine Eilir Jones oedd hwnna’n sôn am fywyd tiwtor Cymraeg. Mae Sara Yassine a’i thad Ali yn dod o Grangetown, Caerdydd ac mae’r ddau’n siarad Cymraeg. Mae eu teulu yn dod o’r Aifft ac o Somalia yn wreiddiol. Dyma Ali’n rhoi o ychydig o hanes y teulu ac wedyn Sara’n chwilio am hanes poblogaeth leiafrifol Caerdydd.
Yr Aifft - Egypt
Lleiafrif - Minority
Mwyafrif y disgyblion - The majority of the pupils
Ymgynghorydd Treftadaeth - Heritage Consultant
Bedyddio - To baptise
Cofnod - Record
Cafodd ei gaethiwo - Was enslaved
Eu cadw’n gaeth - Kept captive
Y Gymanwald - The Commonwealth
O dras Prydeinig - Of British heritage
Fri, 23 Oct 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchAled Hughes Mae’r gân Bohemian Rapsody gan y band Queen yn enwog iawn ond roedd rhai yn y band eisiau galw’r gân yn Mamma. Fasai’r gân wedi bod mor boblogaidd gyda’r enw hwnnw tybed? Dyna buodd Geraint Cynan yn ei drafod gyda Aled Hughes a dyma i chi flas ar y sgwrs…
Mymryn - A little
Crybwyll - To mention
Cydio - To grasp
Crynhoi’r cyfnod - To summarise the period
Yn ddiamheuol - Without doubt
Mewn un ystyr - In one respect
Uchafbwynt - Highlight
Cyfarwyddwr - Director
Rhyddhau - To release Gweddu - To suit
Dros Ginio Geraint Cynan oedd hwnna’n trafod Bohemian Rhapsody ar raglen Aled Hughes. Roedd Marathon Llundain yn dathlu ei benblwydd yn bedwar deg eleni ond ras wahanol iawn oedd i’w chael penwythnos cyntaf Hydref eleni. Roedd y rhedwyr elitaidd yn rhedeg yn y ddinas fel arfer, ond roedd rhaid i bawb arall redeg ras rithiol. Un o’r rhai gymerodd ran yn y ras rithiol oedd Paul Williams o Lanfihangel y Creuddyn yng Ngheredigion a dyma fe’n siarad am y profiad gyda Dewi Llwyd..
Rhithiol - Virtual
Her anferth - A huge challenge
Y tywyllwch - The dark
Gweddill ein hoes - The rest of our lives
(Roedd…)wedi cael eu gohirio - Had been cancelled
Dw i’n casglu - I take it
Ar y brig - On top
Yn argoeli’n dda - It augurs well
Rhys Mwyn A phob lwc i Paul yn y rasys sydd i ddod on’d ife? Roedd Huw Jones yn bennaeth S4C yn y gorffennol ac wedi dal swyddi pwysig iawn ym mywyd cyhoeddus Cymru dros y blynyddoedd, ond daeth e’n enwog yn y chwedegau a’r saithdegau fel canwr pop a chanwr caneuon protest. Mae nifer o’r caneuon rheiny i’w cael ar albwm o’r enw Adlais gafodd ei rhyddhau yn wreiddiol yn 1976. Mae’r albwm ar gael yn ddigidol nawr a dyma i chi Huw yn esbonio wrth Rhys Mwyn sut gwnaeth e ddewis y caneuon ar gyfer yr albwm
Adlais - Echo
Y casgliad - The collection
Haeddu - To deserve
Awgrym - Suggestion
Priodol - Appropriate
Mwyafrif - Majority
Adlewyrchu - To reflect
Ymgyrchoedd - Campaigns
Cyfrifoldeb - Responsibility
Cenedlaethau - Generations
Sioe Frecwast Huw Jones oedd hwnna’n sgwrsio gyda Rhys Mwyn am yr albwm ddigidol Adlais. Mae cystadleuaeth Bake Off Channel 4 wedi dechrau’n barod. Mae Caryl a Daf wrth eu boddau yn trafod y sioe ac un arall sy’n mwynhau ydy’r canwr opera Alun Rhys Jenkins. Buodd y tri’n sgwrsio am fara soda a rhywbeth o’r enw ‘bogels’. Beth yw hwnnw tybed? Gwrandewch ar y clip nesa ’ma i ffeindio allan …
Eitha rhwydd - Quite easy
Triog - Treacle
Surdoes - Sourdough
Enfys - Rainbow
Bogel - Navel
Toes - Dough
Geraint Lloyd O diar, dw i’n meddwl bydd hi’n anodd edrych ar ‘bagel’ heb feddwl am fotwm bol ar ôl hynny...Nos Fawrth diwetha, cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda Gwenda Owen o Bontyberem. Gwenda oedd yn cael dewis cyngherddau oedd wedi aros yn y cof iddi hi, a dewisodd hi gyngerdd oedd yn golygu llawer iawn iddi hi’n bersonol …
Cancr y fron - Breast cancer
Triniaeth - Treatment
Llawdriniaeth - Surgery
Cyfres - Series
Uniaethu - To empathise
Ta waeth - Anyway
Llawn dop - Full to the brim
Cyfansoddi - To compose
Gwerthiant - The sales
Sian Cothi Gwenda Owen oedd honna’n rhannu atgofion am gyngerdd arbennig iawn gyda Geraint Lloyd. Mae hi wedi bod yn amser caled iawn i gantorion proffesiynol ers y cyfnod clo gan nad oedd yn bosib rhoi perfformiadau byw. Ond mae’r tenor Aled Hall wedi bod ar lwyfan Eglwys St James yn Islington, Llundain, y penwythnos diwetha yn perfformio gydag opera ensemble. Shan Cothi gafodd yr hanes ganddo ar Bore Cothi
Rhagarweiniad - Introduction
Hala - To send
Angerdd - Passion
Yn go glou - Quite quickly
Cantorion - Singers
Mo’yn - Eisiau
Cerddoriaeth fyw - Live music
Cynulleidfa - Audience
Becso - Poeni
Fri, 16 Oct 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchYr actores Siân Harries, Seran Dolma, tîm pêl-droed merched yng Nghaerffili a gemau fideo
Fri, 09 Oct 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchJoseph Gnagbo, Jason Edwards, y drymiwr Gethin Davies, a Beca Lyne Pirkis
Fri, 02 Oct 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchDyfed Thomas, Sioned Mills, Bethan Mair a sut all gragen cranc ein gwarchod rhag covid-19
Fri, 25 Sep 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchY peilot Robin Aled, Wiliam Lamb, Shelley Rees a gêm enfawr clwb pêl-droed Bangor 1962
Fri, 18 Sep 2020 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchTRYSTAN AC EMMA – TX: 31.8.20 – CYFUNIADAU RHYFEDD O FWYDYDD
Bwyd oedd yn cael sylw Emma Walford a Trystan Ellis-Morris wythnos diwetha ac yn y clip yma cawn glywed am rai o’r cyfuniadau rhyfedd o fwydydd mae rhai pobol yn eu mwynhau…
Cyfuniadau rhyfedd Strange combinations
Sylw Attention Mae’n debyg Apparently
Anarferol Unusual
Fatha Fel (yr un fath â)
GARI WYN – TX: 31.8.20 – SGWRS AM DECHNOLEG ARIAN
Cwstad a grefi – ych a fi! Yn rhaglen gyntaf ei gyfres newydd sy’n rhoi sylw i bob math o fusnesau, cafodd Gari Wyn sgwrs gyda Euros Evans, sydd yn hoff iawn o Bitcoins. Roedd Gari eisau gwybod pam bod Euros mor hoff o’r arian newydd...
Hwyrach (ŵrach) Efallai
Ysgubol Sweeping
Aur Gold
Sylweddoli To realise
Pres Arian
Ffydd Faith
Mudiad A movement
Anhygoel Incredible
Cofnod arian Financial record
Maes cymleth A complicated field
RHAGLEN ALED HUGHES – TX: 1.9.20 – TRAFOD CADW GWENYN EFO GRUFF REES
Tybed ydy Euros yn iawn a byddwn ni gyd yn defnyddio Bitcoins yn y dyfodol? Dyn ni wedi cael sawl stori am gadw gwenyn ar y podlediad yn ddiweddar ond ar raglen Aled Hughes clywon ni bod carchar yn Lloegr wedi dechrau cadw gwenyn. Ydy hyn yn medru bod o help i’r rhai sydd yn y carchar? Dyna ofynodd Aled i Gruffydd Rees ...
Gwenyn Bees
Carchar Prison
Ail-ddysgu To re-educate
Heol (hewl) Road
Rhwydd Hawdd
Cwyr Wax
Mas Allan
Cwch (gwenyn) Bee hive
Paill Pollen
CLIP Y SIOE FRECWAST - ADAM YN YR ARDD - TX 01.09/20
Gruffydd Rees yn fan’na yn esbonio sut basai cadw gwenyn yn gallu helpu’r rhai sy yn y carchar. Bob mis ar Sioe Frecwast Radio Cymru 2 mae’r garddwr o Gorslas yn Sir Gaerfyrddin, Adam Jones, yn rhoi cyngor i Daf a Caryl. Tatws a thomatos oedd yn mynd a’i sylw yn y clip nesa. Dechreuodd Adam drwy edrych yn ôl ar dywydd mis Awst a sut mae hynny wedi effeithio ar yr ardd….
Rhoi cyngor to give advice
Rhyfeddol Strange
Diogelu To secure
Cidnabêns Kidney beans
Ffyn Sticks
Cynaeafu To harvest Plicio To pluck
Medi ffrwyth dy lafur Reaping the fruits of your labour
Ffa dringo Runner beans
Caledu To harden
Prennaidd Wooden
Plannu To plant
RHAGLEN GERAINT LLOYD - CLIP O SGWRS TELERI BOWEN – AR Y MAP CYNWYL ELFED - TX: 1.9.20
Adam Jones oedd hwnna‘n rhoi cyngor i Daf a Caryl am beth i’w wneud gyda’u tomatos a’u tatws. Pa mor dda dach chi’n nabod eich milltir sgwâr? Wel pob nos Fawrth, mae Geraint Lloyd yn dod i nabod pentref neu dref wahanol yng Nghymru. Yn y clip nesa Cynwyl Elfed oedd yn cael sylw, ac un sydd yn nabod y lle yn dda ydy Teleri Bowen…
Milltir sgwâr Square mile
Gwledig Rural
Y priffordd The highway
Lan I fyny
Tad-cu Taid
Teuluol Familial
Diflannu To disappear
Sefydlu To establish
Y chweched ganrif The sixth century
Fri, 11 Sep 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchMarc Roberts, Huw Owen o Cyw, Cetra Coverdale Pearson, Osian Dwyfor
Fri, 28 Aug 2020 17:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchMALI LLYFNI Yn ystod y pythefnos nesa, mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i effaith Covid 19 ar bobl ifanc ar ein rhaglenni - ‘Haf Dan Glo’ . Nos Lun diwetha cafodd Nia Lloyd Jones sgwrs gyda Mali Llyfni o Benygroes yng Ngwynedd i holi sut oedd y pandemig wedi effeithio arni hi...
Cyflwyno To present
Amgylchiadau teuluol Family circumstances
Gweithwyr allweddol Key workers
Wedi (fy) nharo i Has struck me
Ansicrwydd Uncertainty
Y gymuned wedi eich cofleidio chi The community has embraced you
Holi To ask about
Cyflogi To employ
Y genhedlaeth nesa’ The next generation
Rhyfedd Strange
REBECCA HAYES Mae John Hardy yn cyflwyno rhaglen gynnar iawn ar Radio Cymru, ac os wnewch chi godi’n ddigon cynnar i wrando arni hi mae’n gymysgedd hyfryd ben bore o gerddoriaeth a sgyrsiau diddorol. Dyma i chi flas ar sgwrs gyda Rebecca Hayes fasai’n berthnasol i bob un ohonoch chi’n sy’n codi’n gynnar, gan gynnwys John Hardy wrth gwrs...
Perthnasol Relevant
Ceiliog Cockerel
Cyn-berchennog former owner
Dirwy A fine
Llwyth o gwynion Loads of complaints
Dihuno Deffro
Gwireddu To verify
Canfod To find
Honiadau Allegations
Shwd (Sut) beth Such a thing
Rhybudd Warning
WINNIE JAMES Cafodd Ifan Jones Evans sgwrs gyda Winnie James y gogyddes o Grymych yn Sir Benfro wythnos diwetha. Mae Winnie newydd briodi ond sut mae’r cyfnod clo wedi effeithio arni hi tybed?...
Mwy tebygol More likely
Torrodd hynny (fy) nghalon i That broke my heart
Chi m’bo Dach chi’n gwybod
Sa i di cael Dw i ddim wedi cael
Am sbel For a while
LISA ANGHARAD Mae yna ddigon o raglenni gwych i wrando arnyn nhw ar BBC Radio Cymru wrth gwrs, drwy’r dydd bob dydd, ond tybed beth mae Hywel Llion yn cynghori Lisa Angharad i’w wylio ar y teledu? Cynghori To advice
Dychmygu To imagine
Yn y bôn Essentially
Yn amlwg Obviously
Wastad Always
CARYS ELERI Sdim byd gwell na chael llythyr drwy’r post nac oes, ac fel eglurodd Carys Eleri wrth Catrin Heledd a Carl Roberts, cafodd hi lythyr arbennig iawn yn ddiweddar
Yn ddiweddar Recently
Ro’n i wedi hala’r gân I had sent the song
Rhyddhau To release
Perthynas Relationship
Yn gyson Consistently
Tad-cu Taid
Llosgi To burn
Llawysgrifen Handwriting
Am fod mor garedig For being so kind
CARYS EDWARDS A CAROL JONES Ac i orffen yr wythnos yma, dyma i chi Carys Edwards o Wenynfa Pen y Bryn a Carol Jones o gwmni jam y "Welsh Ledi" yn sôn am eu menter newydd wrth i'r ddau gwmni uno.
Gwenynfa Apiary
Stondin Stall
Mêl Honey
Ei chynnyrch hi Her produce
Manylion Details
Datblygu To develop
Cynhyrchu To produce
Cystadlu To compete
Canolbwyntio To concentrate
Eirin Plums
Yn dymhorol Seasonal
Fri, 21 Aug 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchDoedd dim Eisteddfod Genedlaethol eleni ond mi fyddwn ni’n edrych yn ôl ar Ŵyl AmGen Radio Cymru ar Pigion yr wythnos yma
Mae hi’n draddodiad i gael cywydd croeso i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal bob blwyddyn. Wrth gwrs mae pethau’n wahanol eleni ond ysgrifennodd y bardd Ceri Wyn Jones gywydd croeso i’r Eisteddfodd AmGen a dyma hi i chi…
Amgen Alternative
Bardd Poet
Cywydd Croeso A poem to welcome the Eisteddfod
Cerdd Poem
Sbort Fun
Adeg anghyffredin Unusual period
Er nad oedd yr Eisteddfod yn debyg i’r un dyn ni wedi arfer â hi , mae’r dysgwyr yn dal i gael lle pwysig iawn yn yr Eisteddfod AmGen. Dros y penwythnos cyhoeddodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn a dyma i chi Dona Lewis o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darllen y feiriniadaeth ar ran y tri beirniad…
Cyhoeddi To announce
Beirniadaeth Adjudication
Ein hysbrydoli Inspiring us
Rownd derfynol Final
Eu hymdrechion Their efforts
Wedi dod i’r brig To have won
Cyfweliad Interview
Mam-gu Nain
Prin oedd y cyfle The opportunity was rare
Cyfleoedd Opportunities
Er mwyn ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn roedd yn rhaid i’r 5 oedd ar y rhestr fer gynnal sgwrs radio gyda Shan Cothi, a dyma flas i chi ar sgwrs Jazz gyda Shan
Rhestr fer Short list Yn falch Proud
Teimlo’n euog Feeling guilty
Cymdeithasu To socialise
Cyfrwng Saesneg English medium
Safonau Standards
Cwympo To fall
Cyd-lynydd Co-ordinator
Yn gyfrifol am Responsible for
Datblygiadau pwnc Subject developments
Y dwlu ar To dote on
Mae’r gantores Gwawr Edwards wedi ennill 2 o brif wobrau canu’r Eisteddfod Genedlaethol yn y gorffennol a dyma hi’n sôn am sut oedd hynny wedi helpu ei gyrfa fel cantores broffesiynol Ysgoloriaeth Scholarship
Cystadleuaeth Competition
Ta beth Anyway
Cynhyrfu To stir
Llawn cystal siawns As good a chance as any
Ar fin mynd About to go
Braint o’r mwya The greatest honour
Pluen yn fy nghap A feather in my cap
Ymfalchïo To take pride in Gofynodd Shan Cothi i Stifyn Parri wobrwyo 3 pherson sy’n haeddu tlws eisteddfodol arbennig iawn – Tlws Steddfod Stifyn – a dyma pwy benderfynodd Stifyn oedd yn dod i’r brig…
Tlws Trophy
Beiriniadu To adjudicate
(fy) ngên yn syrthio My jaw dropping
Crio Llefain
Yn ddiweddarach Later
Llorio To floor
Creu cerddoriaeth Creating music
Beichio crio Crying my eyes out
Toda Ogunbanwo oedd yn rhoi araith Llywydd y Dydd Eisteddfod AmGen ddydd Gwener. Symudodd Toda Ogunbanwo, sy’n ugain oed, i Benygroes yng Ngwynedd o Harlow yn Essex pan oedd yn 7 mlwydd oed. Ym mis Mehefin eleni paentiodd rhywun swastica ar ddrws garej y teulu ym Mhenygroes. Roedd hyn yn sioc i lawer o bobl gan ei fod wedi digwydd mewn pentre bach Cymraeg ei iaith. Ond fel mae Toda yn dweud yn ei araith fel Llywydd, mae hiliaeth i’w chael ym mhobman Araith Llywydd y Dydd The President of the Day’s address
Coelio Credu
Datrysiad Resolution
Canran fawr A large percentage
Esgusodi ei hun Excusing himself
Caethweision Slaves
Nad ydy hiliaeth yn bodoli That racism doesn’t exist
Casineb Hate
Diwylliannau Cultures
Lleiafrif Minority Mae’r actor Rhys Ifans wedi treulio‘r cyfnod clo yn Llundain, a dyma fe’n rhoi syniad i ni o sut brofiad oedd bod dan glo yn y ddinas fawr dros y misoedd diwetha…
Dan glo Locked down
Profiad Experience
Dilys Valid
Yn benodol Specifically
Wneith o atseinio It will resonate
Wnaeth o (fy) nharo It struck me
Roedd y gwynt yn fy nghyffwrdd i The wind was touching me
Anwes A caress
Wel, dych chi wedi cael blas ar Ŵyl AmGen Rdio Cymru yn fan’na ond cofiwch bod POPETH o’r Ŵyl i’w glywed ar BBC SOUNDS felly gallwch chi fynd yn ôl i wrando ar unrhyw beth, unrhyw bryd.
Fri, 14 Aug 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchCofio Does dim llawer ohonon ni am fynd ar daith dramor eleni nac oes? Teithiau Tramor oedd pwnc Cofio wythnos diwetha a dyma glip o Emyr Wyn, Huw Ceredig, Dewi Pws, Ifan Gruffydd a John Pierce Jones yn chwarae’r rownd Beth yn y Byd ar y rhaglen Pwlffacan yn 2001. Bwriad y rownd oedd gweld pwy oedd y gorau am nabod ieithoedd tramor gan ddechrau gyda’r geiriau ‘estoy embarazada’
Hyddysg Learned
Gwybodus Knowledgeable
Bryn Terfel a Malcom Allen Ryn ni’n nabod Bryn Terfel fel un o leisiau enwoca Cymru – ond mae e hefyd yn ffan mawr o bêl-droed a fe oedd gwestai y cyn-bêldroediwr Malcolm Allen ar y Coridor Ansicrwydd. Dyma Bryn yn sôn am yr adegau pan wnaeth e gwrdd â’i arwyr o fyd opera a’r byd ffilmiau….
Alla i fentro dweud I can say without doubt
Yn rhan annatod An integral part
Y tymheredd The temperature
Wedi torri tir Has broken the ground Ein cenhedlaeth ni Our generation
Cerddor Musician
Manon Steffan Ross Rhywun arall sy’n ffan o bêl-droed ydy’r awdures Manon Steffan Ross – ac mae ei chariad at glwb Lerpwl i’w weld yn glir – ar ran o’i chorff!
Noson mor hwyliog Such a fun evening
Difaru To regret
Ystyried To consider
Uwchgynghrair Premier League
Ymddiheuriadau Apologies
Newid trywydd yn gyfangwbl Change tack completely
Diwylliedig Cultured
Gwenllian Jones a Daniel Glyn Roedd Gwenllian Jones yn arfer cyflwyno rhaglenni plant ar S4C ond erbyn hyn mae hi’n byw yn Awstralia. Hi oedd gwestai Dan Glyn fore Sadwrn ac roedd rhaid iddi hi ateb Cwestiynau Diog Daniel…
Cyflwyno To present Cwestiynau Diog Lazy Questions
I’r carn Rock solid
Cymeriad cryf A strong character
Y pegwn arall The other extreme
Dangos fy hun Showing off
Eisiau sylw Wanting attention
Llwyfan Stage
Allwedd Goriad
Dihirod Scoundrels
Cofio Gari Williams Mae Gari Wiliams yn cael ei ystyried yn un o’r diddanwyr mwya doniol yn hanes Cymru. Buodd Gari farw 30 mlynedd yn ôl a dyma i chi glip o’i ffrind agos, yr actor John Ogwen, yn cofio amdano fe ar Dros Ginio gyda Gwenllian Grigg…
Un o’r diddanwyr mwya doniol One of the funniest entertainers
Yn fy nyblau Laughing my head off
Heb iddo yngan gair Without him saying a word
Cysylltiad arbennig A special connection
Y rhan fwya Most
Yn fyw Live
Galwad Cynnar Mae’r cyfnod clo wedi bod yn adeg o addasu i lawer iawn ohonon ni ac ar Galwad Cynnar clywon ni sut mae peiriannydd o Lanberis wedi addasu ei gwmni er mwyn helpu meddygon a’r cyhoedd i fod yn fwy diogel rhag Covid 19. Gwaith cwmni Gethin fel arfer ydy cynhyrchu offer dringo, sut symudodd e o hynny i gynhyrchu offer meddygol? Dyma fe’n esbonio wrth Gerallt Pennant...
Addasu Adapting
Peiriannydd Engineer
Cynhyrchu ffer meddygol Manufacturing medical equipment
Argo! Goodness!
Dylunio To design
Yn arbenigo Specialise
Tystysgrif Certificate
Bellach By now
Y galwad The demand
Fri, 07 Aug 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchAled Hughes a hanes Sabrina Vergee
Efallai eich bod wedi clywed am rai sy wedi dringo 14 copa ucha Eryri, sy’n ddipyn o gamp. Ond mae Sabrina Verjee o Cumbria wedi rhedeg ‘Y Wrainwrights’ yn Ardal y Llynnoedd - 214 copa, ie 214, a hynny mewn 6 diwrnod, 17 awr a 51 munud. Hi ydy’r ferch gynta i wneud hyn ac un sy’n ei hadnabod yn dda ydy Jane Harries, golygydd Cylchgrawn Adventure She, a chafodd Aled Hughes dipyn o hanes Sabrina ganddi ar ei raglen...
Copa Summit
Camp Achievement
Edmygu To admire
Parchu To respect
Yn ddi-stop Without stopping
Anhygoel Incredible
Menyw Dynes
Bwriadu To intend
Mor glou So quickly
Aruthrol Tremendously
Chwyddodd e lan It swelled up
Dychmygu To imagine
Dyrchafiad Leed United
Mae ffans Leeds United yn meddwl bod y tîm hwnnw wedi creu dipyn o gamp, drwy ennill dyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr ar ôl iddyn nhw ddisgyn o’r Uwchgynghrair 16 o flynyddoedd yn ôl. Buodd Dylan Jones a rhai o ffans eraill Leeds yn dathlu ar Ar y Marc...
Dyrchafiad Promotion
Uwchgynghrair Premier League
Y chwiban ola The final whistle
Cefnogwyr Fans
Blynyddoedd maith Many years
Yn haeddianol Deservedly
Y ffyddloniaid The faithful
Ysbrydoliaeth Inspiration
Dadansoddwr Analyst
Gwyddbwyll Chess
Chwa o awyr iach A breath of fresh air
Cofio: Swyddi Swyddi cofiadwy oedd yn cael sylw ar Cofio wythnos diwetha wrth i rai o’r gwrandawyr rannu hanes rhai o’r swyddi oedd gyda nhw yn y gorffennol… Cofiadwy Memorable
Profiadau Experiences
Taro tant To strike a chord
Pigo Collecting
Yr henoed The elderly
Llnau Glanhau
Twrcwns Turkeys
Lleta Widest
Godro to ‘milk’
Ceiliogod Stags
Andros o lot o hwyl Loads of fun
Marc Roberts a Daniel Glyn
Cigydd oedd swydd tad Marc Roberts o’r band Catatonia. Oedd Marc wedi ystyried bod yn gigydd o gwbl pan oedd o’n blentyn? Dyna un o gwestiynau Daniel Glyn iddo fe fore Sadwrn...
Ystyried To consider
Cerddor Musician
Yn hŷn Yn henach
Gwaed Blood
Ddim gymaint Not as much
I ryw raddau To some extent
Gethin Jones
Tybed ai chef oedd y cyflwynydd teledu Gethin Jones eisiau bod pan oedd yn blentyn? Wel mae’n cael cyfle i ddangos ei ddoniau coginio ar hyn o bryd gan ei fod yn cystadlu yn y rhaglen Celebrity Masterchef. Mae Gethin yn Ffrainc ar hyn o bryd ond ymunodd e â Caryl a Daf i sôn am ei brofiadau ar y rhaglen, a dechreuodd wrth sôn am y seleb dall oedd yn cystadlu yn y sioe ac roedd yn ysbrydoliaeth i Gethin.
Cyflwynydd Presenter
Doniau Skills
Dall Blind
Ysbrydoliaeth Inspiration
Darllediad A broadcast
Cyllyll Knives
Winwnsyn Nionyn
Gwendidau Weaknesses
Angharad Tomos a Dewi Llwyd
Yr awdures Angharad Tomos oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd fore Sul a dyma hi’n sôn dipyn am yr her o gael plant i ddarllen rhagor o lyfrau yn oes y cyfrifiaduron...
Rownd cyn-derfynol Semi final
Yr her The challenge
Yn oes In the age of
Chwyldro Revolution
Yn gymharol brin Comparatively rare
Diddanu To entertain
Brwydr Battle
Ymddiddori To take an interest in
Pa bynnag gyfrwng Whichever media
Perthnasol Relevant
Fri, 31 Jul 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchBeti George ac Aled Roberts Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, oedd gwestai Beti George wythnos diwetha'. Cafodd Aled ei fagu yn Rhosllannerchrugog, oedd yn bentref Cymraeg ei iaith ger Wrecsam. Mae gan bobl Rhos acen arbennig iawn ond fel ddwedodd Aled wrth Beti, doedd hynny ddim yn fantais bob tro...
Mantais advantage
Ar eich tyfiant growing up
Swydd allweddol a key job
Diogelu to protect
Hwyrach maybe
Pwysau pressure
Profiad experience
Ifan Evans a Sara Gibson Daeth y newyddiadurwraig Sara Gibson i ymuno ag Ifan Evans ddydd Mercher i sôn am rai o straeon mwya poblogaidd Cymru Fyw, ond yn y clip nesa mae hi’n rhoi hanes her ffotograffiaeth arbennig iawn..
Her challenge
Y cyfnod clo lockdown
Sefydlu to establish
Sathru to trample
Cywrain skillful
Cofnod a record
Bord bwrdd
Pwerus iawn very powerful
Byw Heb Blastig Mae defnyddio llai o blastig yn cael ei gyfri’n un o’r heriau pwysica o ran achub y blaned. Ydych chi wedi lleihau eich defnydd o blastig yn y blynyddoedd diwetha? Ffion Francis oedd un o westeion Shan Cothi ddydd Mawrth, a buodd hi’n rhoi cyngor am y pethau bychain gallwn ni i gyd eu gwneud i wella’r sefyllfa..
Achub y blaned saving the planet
Lleihau reduce
Cyngor advice
Ail-lenwi to refill
Osgoi to avoid
Tatws Rhost Perffaith Mae Dafydd a Caryl yn cyflwyno’r Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2 – ac mae’n rhaid i’r ddau godi gynnar , felly dydy hi ddim yn syndod eu bod yn licio siarad am fwyd! Yr wythnos yma, roedd Caryl eisiau rhannu tips coginio gyda Daf - a dyma’r ffordd orau o goginio tatws rhost mae’n debyg!
Saim y cig the meat’s rendered fat
Twymo to heat
Ymddangos to appear
Gwefannau cymdeithasol social media
Mêl honey
Cwmni Tanya Whitebits Sioned Owen ydy’r enw – a’r brens – y tu ôl i’r cwmni lliw haul ffug llwyddiannus Tanya Whitebits. Jennifer Jones gafodd hanes y cwmni a’r entrepeneur o Drefor yng Ngwynedd ar Dros Ginio yr wythnos hon..
Ffug fake
Y peryglon the dangers
Heneiddio ‘r croen ageing the skin
Efeilliaid twins
Ariannu to finance
Cymwysterau qualifications
Mynychu to attend
Cynnyrch product
Symudol mobile
Drewllyd smelly
Datblygu to develop
Lisa Gwilym a Shan Cothi Gan fod Huw Stephens ar ei wyliau, Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno Sioe Frecwast Radio Cymru 2 fore Gwener. Shan Cothi oedd ei gwestai a phenderfynodd Lisa ofyn ychydig o gwestiynau Cocadwdl-do iddi!....
Ydw glei of course I have
Nefoedd wen Oh heavens!
Yn gyfarwydd â familiar with
Amrywio to vary
Bant â ti away you go
Yn glou quickly
Fel y cythraul like the devil
Delwedd image
Sa i’n.. dw i ddim yn..
Fri, 24 Jul 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchRHYS GWYNFOR Y canwr Rhys Gwynfor oedd yn cadw cwmni i Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn. Cawn glywed ychydig o hanes teulu Rhys i ddechrau cyn iddo fe rannu’r gyfrinach am sut i ennill cystadleuaeth Cân i Gymru, fel gwnaeth e gyda’r band Jessop a’r Sgweiri....
Cyfrinach Secret Cystadleuaeth Competition Cynllun Plan Pentre genedigol Native village Del Pert Mwy neu lai More or less Namyn With the exception of Ar lwyfan On stage Twyllo To cheat
HENO AUR AC ANGHARAD MAIR Mae cyfres newydd yn edrych yn ôl ar raglen Heno yn y 90au wedi dechrau ar S4C – Heno Aur. Angharad Mair fuodd yn sôn am y gwaith o gasglu clipiau o’r archif ar gyfer y gyfres gyda Lisa Gwilym fore Sul.
Cyfres Series Casglu Gathering Digideiddo Digitising Ymwybodol Aware Gwerth chweil Worthwhile Gwahanol agweddau Different aspects Amlwg Obvious Cyfweliadau Interviews Dadansoddi breuddwydion Analysing Diniwed Innocent
PENBWLYDD HAPUS CARYL LEWIS Yr awdures Caryl Lewis oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd yr wythnos yma, ac dyma hi’n sôn sut mae ei phlant yn ei helpu hi i ysgrifennu nofelau….
I’r perwyl hwnnw For that purpose Annibynnol Independent Cyn i chi gyhoeddi Before you publish Eu barn nhw Their opinion Tu hwnt Extremely Beirniadol Critical Llym Harsh Doniol Funny Addasu To adapt Eu hawydd nhw Their appetite Ysbrydoliaeth Inspiration
HEDDLU GOGLEDD CYMRU Mae yna gyfres newydd ar Radio Cymru sy'n dilyn rhai o blismyn y gogledd wrth eu gwaith bob dydd. Dyma flas ar Heddlu Gogledd Cymru gyda hanes un o’r plismyn yn delio gyda pherchennog ci oedd wedi lladd dafad.
Digwyddiad Incident Dianc To escape Tennyn A lead Bellach By now Ymgartrefu To settle Hyderus Confident Y pellter The distance Wal gerrig Stone wall Dinistro To destroy Bwriadu To intend
BRECWAST LISA ANGHARAD Mae Llio Angharad yn blogio am fwyd a hi oedd yn cadw cwmni i Lisa Angharad ar y Sioe Frecwast fore Sadwrn. Ac wrth gwrs – roedd y ddwy eisiau siarad am frecwast!
Dyfeisgar Innovative Creadigol Creative Anhygoel Incredible Ansicr Uncertain Cefnogi To support Sicrhau To ensure
ALLAN WILLIAMS A GERAINT LLOYD Nos Fawrth buodd Geraint Lloyd yn sgwrsio gyda Allan Williams o Flaencwrt yng Ngheredigion sydd yn dathlu hanner can mlynedd fel barbwr eleni. Buon nhw’n sôn am sut mae byd y barbwr wedi newid dros y blynyddoedd a daeth Geraint o hyd i gysylltiad teuluol gyda’r barbwr yn ystod y sgwrs.
Cysylltiad teuluol Family connection Amrywio Varying Pryd hynny At that time Trwm ei glyw Hard of hearing Cerwch! Get away! ( meaning you don’t say) Y Parchedig The Reverand
Fri, 17 Jul 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchAl Lewis a Lerpwl
Eleni enillodd clwb pêl-droed Lerpwl Uwchgynghrair Lloegr am y tro cynta erioed. Mae’r canwr Al Lewis yn ffan mawr o’r clwb a gofynnodd Dylan Jones iddo fe ar Ar y Marc sut oedd e’n teimlo ar ôl clywed y newyddion am lwyddiant Lerpwl… Dy deimladau Your feelings Uwchgynghrair Permier League Rhyddhad Relief Boddhad Satisfaction Gwaith ymchwil Research Cynghrair y Pencampwyr Champions League Moronen A carrot Addasu To modify
Y Cigydd Rob Rattray
Nos Fawrth buodd Geraint Lloyd yn sgwrsio gyda Rob Rattray o Lanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth, sydd yn dathlu pedwardeg mlynedd eleni o weithio fel cigydd, a dyma fe’n cofio’r dyddiau cynnar gyda Geraint. Chi’n go lew? Are you OK? Bwtsera Butchering Mam-gu a tad-cu Grandmother and grandfather ‘Benu To finish Palles i I refused to Dyn cyn ei amser A man before his time Ar yr asgwrn On the bone Coleg Amaethyddol Agricultural College Yn fy ngwaed i In my blood Y rhyfel The war
Peredur ap Gwynedd a'r band Pendulum
Band o Awstralia yn wreiddiol ydy Pendulum ond erbyn hyn maen nhw’n enwog ar draws y byd ac un o’u haelodau ydy Peredur ap Gwynedd. Dyma i chi flas ar sgwrs fach gafodd Peredur gyda Daniel Glyn pan oedden nhw’n sôn am yrfa Peredur yn y byd cerddorol…
Oriau mân y bore Early hours of the morning Ymwybodol Aware Man a man Might as well Ysbrydoliaeth Inspiration Mentro To venture
Bois y Rhondda
Pythefnos yn ôl roedd yna raglen o’r enw Bois y Rhondda ar S4C ac roedd yr ymateb i’r rhaglen yn ffafriol iawn gyda llawer iawn o bobl yn dweud eu bod wedi ei mwynhau’n fawr. Dyma i chi glip o Rhian Morgan Ellis a Cole, un o’r Bois ar y rhaglen, yn cael sgwrs gyda Rhydian a Shelley ar y Sioe Sadwrn.
Cais Request
Amlinellu Outlining
Hynt a helynt The fortunes
Awyddus Eager
Mewn gwirionedd In reality
Canfyddiad Perception
Addewid Promise
So ti Dwyt ti ddim
Profiad Experience
Gwefannau cymdeithasol Social media
Adolygiad Bois y Rhondda
Un o’r rhai oedd wedi mwynhau rhaglen Bois y Rhondda oedd Hywel Llion a dyma fe’n sôn wrth Dafydd a Caryl ar y Sioe Frecwast pa mor braf ydy cael portread realistig o Gwm Rhondda a’i drigolion…
Cynhyrchiad ‘Drych’ arall Another ‘Drych’ production
Cymeriadau Characters
Antur Adventure
Seren fach A little star
Ystrydebau Strerotypes
Milltir sgwar Square mile
Ymwybodol Aware
Pyllau glo Coal pits
Olion Remains
Y gymuned The community
Gobaith
‘Gobaith’ oedd y gair ddewisodd Ifor ap Glyn yr wythnos yma, gair pwysig iawn i lawer ohonon ni yn y cyfnod yma. Dyma Ifor yn sôn am y gwahanol ffyrdd dyn ni’n defnyddio’r gair ‘gobaith’ yn y Gymraeg.
Galluogi To enable
Diolchgar Thankful
Deillio Derives
Cawell Cage
Nwyon peryglus Dangerous gases
Ysgyfaint Lung
Diffygio Failing
Does na’m rhyfedd It’s not surprising
Mudiad ieuenctid Youth movement
Cyfleu To convey
Fri, 10 Jul 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchEnw’r Clip: Love Island Enw’r rhaglen: Y Sioe Sadwrn
…ydych chi un o ffans Love island? Doedd Shelley Rees un o gyflwynwyr Y Sioe Sadwrn ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd ar y rhaglen ond cafodd hi a Rhydian Bowen Phillips gyfle ar y Sioe Sadwrn i holi un oedd wedi cymryd rhan yn y rhaglen – Connagh Howard o Gaerdydd…
Cyflwynwyr Presenters
Cyfle Opportunity
Am y gorau For the best
Wedi arafu Had slowed down
Cwrdd â To meet
Troslais Voiceover
Bagiau ffa Bean bags
Cymreictod Welshness
Enw’r Clip: Robert Llywelyn Tyler Enw’r rhaglen: Beti a’i Phobol
Hanesydd o Gasnewydd, Robert Llywelyn Tyler, gafodd ei holi gan Beti George yr wythnos hon. Mae Robert yn byw yn Abu Dhabi erbyn hyn ond mae hanes Cymru a’r Gymraeg yn bwysig iawn iddo fe
Hanesydd Historian
Glöwr Coal Miner
Yr Ail Ryfel Byd The Second World war
Casnewydd Newport (Gwent)
Stad Cyngor Council estate
Ysgol Uwchradd Secondary school
Lladin Latin
Arddegau Teenage years
Cadw cysylltiad To keep in contact
Cyfeillion Friends
Enw’r Clip: Cân Sara Enw’r rhaglen: Ynys yr Hunan Ynyswyr
Gwesteion Dylan Ebenezer ar Ynys yr Hunan Ynyswyr yr wythnos hon oedd yr actor Llŷr Ifans a’r hanesydd a’r cyflwynydd Sara Huws. Dyma Sara yn dewis cân sydd yn un arbennig iawn iddi hi. ..
Hunan Ynyswyr Self isolators
Cerddorol Musical
Hafau Summers
Dylanwad Influence
Gwaddol Inheritance
Corfforol Physical
Campwaith Masterpiece
Enw’r Clip: Sharon Roberts Enw’r rhaglen: Daniel Glyn
Sharon Roberts, neu Gaynor ar Pobol y Cwm, fuodd yn ateb Cwestiynau Diog Daniel Glyn. Dechreuodd Daniel drwy ofyn i’r actores oedd hi’n hapus gyda’r enw Sharon pan oedd hi’n blentyn…
Cwestiynau Diog Lazy Questions
Y gyfres The series
Direidus Mischievous
Wedi cael fy hudo I was charmed
Dros ei ben a’i glustiau Head over heels
Un ai Either
Achub mynydd Mountain rescue
Wedi dy sbarduno Had spurred you
Pryd a gwedd Looks
Chwarae cuddio Playing hide and seek
Enw’r Clip: Y Theatr Genedlaethol Enw’r rhaglen: Daf a Caryl
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a BBC Cymru Fyw wedi creu tair drama feicro i fynd ar lein yn ddiweddar. Dyma’r actor Tara Bethan sydd yn cymryd rhan yn y dramâu yn sôn amdanyn nhw wrth Dafydd a Caryl Yn ddiweddar Recently
Theatr Genedlaethol Cymru National Theatre of Wales Ar y cyd Jointly
Y bwriad The intention
Cyfarwyddwyr Directors
Yr ochr dechnegol The technical side
Sain Audio
Ongl Angle
Torri ar draws To interrupt
Hynod effeithiol Highly effective
Enw’r Clip: Ffrind newydd Rhian Enw’r rhaglen: Galwad Cynnar
Dyma Rhian Arwel o Lantrisant yn sôn am ffrind newydd sydd wedi dod i fyw gyda hi a’i theulu yn ddiweddar. Gerallt Pennant oedd yn holi Rhian am hanes Wil y ffrind newydd
Hwyaden Duck
Yng nghyffiniau In the area
Yn tywynnu Shining
Lapio Wrapping
Cael gwared To get rid
Ymchwilo To research
Y caethiwo The confinement
Crwydro o’r nyth Wandering from the nest
Fri, 03 Jul 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchAL LEWIS AC ENDAF EMLYN Roedd Endaf Emlyn yn seren y byd pop yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ystod y chwedegau a’r saithdegau. Dydd Gwener diwetha’ cafodd 3 albym Endaf eu rhyddhau yn ddigidol. Mae Al Lewis yn ffan mawr o’i waith a gofynnodd Rhys Mwyn iddo ddewis rhai o’i hoff ganeuon gan Endaf Emlyn
Canwr cyfansoddwr Singer songwriter
Wnaeth fy nenu i Attracted me
Creu enw Made a name
Cysyniadol Conceptual
O flaen y gad Ahead of his time
Diethr Unheard of
Senglau Singles
Yn cael eu clymu at ei gilydd Are tied in together
Macrell Mackerel
Teimlad hireithus A nostalgic feeling
ANTONIO RIZZO A GWIN CYMREIG LLANSADWRN Mae Antonio Rizzo yn dod o Fanceinion yn wreiddiol ac mae ei rieni yn dod o’r Eidal. Dysgodd e Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac erbyn hyn mae e’n ei siarad yn rhugl. Mae Antonio wedi bod yn cynhyrchu gwin ers 2006 ac mae e’n gobeithio agor gwinllan yn Llansadwrn, Sir Gâr, yn y dyfodol. Shan Cothi gafodd ei hanes
Manceinion Manchester
Cynhyrchu To produce
Gwinllan Vineyard
Sir Gâr Carmarthenshire
Trefynwy Monmouth
Cernyw Cornwall
Unigryw Unique
Celf Art
BRIALLT WYN A GERAINT LLOYD Nos Lun diwetha, mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda Briallt Wyn o Gorsgoch ger Llanbedr Pont Steffan, neu Llambed, yng Ngheredigion sydd wedi creu grwp ar Facebook er mwyn dysgu iaith arwyddo i bobl. Dyma hi’n esbonio’r cyfan wrth Geraint...
Arwyddo To sign
Tad-cu a Mam-gu Taid a Nain
Byddar Deaf
Dall Blind
Sa i’n cofio Dw i ddim yn cofio
Yr wyddor The alphabet
Dod i ben To cope
Addasu To adapt
Swyddogol Official
Ymateb To respond
Dechreubwynt Starting point
AR Y MARC Mae pêl-droed yn ôl ac felly roedd Dylan Jones a chriw Ar y Marc yn hapus iawn wythnos diwetha. Ond roedd gan Dylan gwestiwn anodd i un o’r panelwyr – Iwan Griffith, sy hefyd yn ddyfarnwr pêl-droed....
Y cyfnod clo Lockdown
Dyfarnwr Referee
Diduedd Unbiased
Dylanwadu To influence
Torf Crowd
Awyrgylch Atmosphere
Y wefr The thrill
Yn wyliadwrus Cautious
Cwrt cosbi Penalty box
Cic o’r smotyn Penalty
Ddim yn weddus Foul (language)
COFIO TRYCHINEB HILLSBOROUGH Ac arhoswn ni gyda’r pêl-droed yn y clip nesa’ – ond i gofio trychineb Hillsborough tro ’ma. Vaughan Roderick a Dylan Llywelyn sy’n cofio’r drychineb ddigwyddodd yn 1989, wrth i’r rhaglen Cofio fynd â ni yn ôl i’r 80au.....
Trychineb Disaster
Canlyniadau Results
Gohebydd Commentator
Gwendid Weakness
Ystyried To consider
Platfformau cymdeithasol Social media
Trydar Tweeting
SIAN REES WILLIAMS Yr actores Sian Reese Williams oedd gwestai Beti George wythnos diwetha a dyma hi’n sôn am ei chymeriad, y ditectif Cadi John, yn y gyfres Craith.....
Cymeriad Character
Cyfres Series
Datblygu To develop
Pennod Episode
Menywod Women
Dyw hi ddim yn malio She doesn’t care
Dwys Intense
Bodoli To exist
Fri, 26 Jun 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchHEATHER JONES Mae Dewi Llwyd yn dymuno pen-blwydd hapus i un o’i westeion ar ei raglen bob bore Sul. Yr wythnos yma, y gantores Heather Jones oedd yn torri’r gacen pen-blwydd. Dyma Heather yn cofio am benblwyddi’r gorffennol – ei magwraeth yng Nghaerdydd a’i pherthynas gyda’r canwr Geraint Jarman…
Magwraeth Upbringing
Hudolus Magical
Plentyndod Childhood
Cernyw Cornwall
Bywiog Lively
Swil Shy
Denu To attract
Efengyl Tangnefedd The Gospel of Peace (a hymn)
Yn benderfynol Determined
IFAN EVANS A'R WELSH WHISPERER Bachgen bach deg mlwydd oed sy’n mynd i Ysgol Cilie Parc ydy Osian, ac ei arwr ydy’r perfformiwr Welsh Whisperer. Ar raglen Ifan Evans cafodd Osian y cyfle i holi ei arwr, ac roedd gyda fe gwestiynau diddorol iawn i’r Welsh Whisperer…
Arwr Hero
Yn y man In a moment
Enwoca Most famous
Glou Quick
Cerddoriaeth Music
Deuawd Duet
Rhed! Run!
Hendy-gwyn Whitland
YNYS YR HUNAN YNYSWYR Bob wythnos ar y rhaglen Ynys yr Hunan Ynyswyr mae dau westai yn trafod eu hoff lyfrau, eu hoff gerddoriaeth a’u hoff ffilmiau, er mwyn trio perswadio Dylan Ebenezer i adael iddyn nhw aros ar yr ynys. Y gwesteion wythnos diwetha oedd y gomedïwraig Esyllt Sears a’r actor Richard Ellis ac yn y clip mae’r ddau westai yn sôn am beth sydd wedi eu helpu drwy’r cyfnod clo, a beth fasen nhw’n mynd gyda nhw i’r ynys ...
Hunan-ynyswyr Self-isolators
Cyfnod clo Lockdown
Sylweddoli To realise
Pa mor llwglyd How hungry
Oesoedd yn ôl Ages ago
Argymell To recommend
PATRICK RIMES A BETI GEORGE Un sy’n gwneud rhywbeth bach yn wahanol yn ystod y cyfnod clo ydy’r cerddor Patrick Rimes. Mae Patrick wedi dod yn ôl i’w gartref ym Methesda, Gwynedd dros y cyfnod er mwyn helpu ei fam gyda’r busnes caws llaeth dafad...
Cerddor Musician
Godro To milk
Ar y gweill In the pipeline (idiom)
Ei chael hi’n anodd Finding it difficult
Pa mor hurt How stupid
Brwdfrydig Enthusiastic
Wedi cymryd yr awenau Taken charge of
Diadell A flock
Ffynhonnell Source
Rhy styfnig Too obstinate
Annibynnol Independent
DROS GINIO Buodd Jennifer Jones yn holi Jenni Hall sy’n fam i 10 o blant ar Dros Ginio yr wythnos yma. Sut, tybed, mae hi’n ymdopi gyda’r cyfnod clo? Dyma i chi flas ar y sgwrs...
Ymdopi To cope
Prif heriau Main challenges
Gafon ni drafferth We had difficulties
Hawsach Easier
Sylwadau Comments
STEFFAN RHYS HUGHES Mae’r cerddor Steffan Rhys Hughes wedi bod yn gwneud fideos cerddorol ers dechrau'r cyfnod clo. Penderfynodd e ddod â chriw o Gymry'r West End at ei gilydd i berfformio caneuon o sioeau a ffilmiau cerdd - er mwyn rhoi gwên ar wynebau pobl. Y syniad oedd codi arian i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac i annog pobl i fynd yn ôl i'r theatrau pan mae hi'n saff i wneud hynny. Daf a Caryl glywodd yr hanes....
Annog To encourage
Cantorion Singers
Balchder Pride
Canlyniad Result
Cysylltu â To contact
Taflu rhwyd To cast a net
Yn falch o wneud Happy to do so
Mor hael So generous
Negeseuon Messages
Creadigol Creative
Fri, 19 Jun 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchLOWRI MORGAN A DANIEL GLYN
Hanes Lowri Morgan yn teithio dwy awr i waelod Môr Iwerydd mewn llong danfor, er mwyn gweld y Titanic. Mae Lowri wedi cael sawl antur yn ystod ei bywyd ac mae wedi sgwennu amdanyn nhw yn ei llyfr newydd ‘Beyond Limits’ . Dyma hi’n sôn wrth Daniel Glyn sut oedd hi’n teimlo wrth weld y Titanic… Môr Iwerydd The Atlantic Ocean
Llong danfor Submarine
Yn gwmws Exactlly
Ei cholli hi Losing it (mentally)
Lleddfu To soothe Cwympo To fall
Ymchwil Research
Pa mor glou How quickly
Sylweddoli To realise
Cymaint o fraint How much of a privilege
Carreg fedd Tombstone
NON ROBERTS
Mae hi’n adeg cneifio ar ein ffermydd ac mae llawer o bobl ifanc drwy Gymru yn mynd o amgylch ffermydd i helpu gyda ‘r gwaith. Dyma Non Roberts, merch fferm o Dalyllychau, Caerfyrddin, a myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn sôn wrth Terwyn Davies am sut mae hi a’i ffrindiau’n helpu’r cneifio drwy lapio gwlân i bobl leol…
Profiadadau Experiences
Cneifio Sheering
Myfyrwraig Student (female)
Lapio To wrap
Cwrdd To meet
Gynnau Just now
Clymu sachau Tying sacks
Gwinio (gwnïo) Stichting
BRYN WILLIAMS A DEWI LLWYD
Y cogydd proffesiynol Bryn Williams oedd gwestai pen-blwydd Dewi Llwyd wythnos diwetha. Mae gan Bryn ddau fwyty yn Llundain ac un ym Mae Colwyn – Porth Eirias. Dyma i chi flas (sori eto) ar y sgwrs...
Cogydd Chef
Wedi’i hen sefydlu Well established
Bwydlen Menu
Gweini To serve
O safon Of quality
IFOR AP GLYN - Y GYMRAEG MEWN 50 GAIR
Yn y clip nesa cawn ni glywed Ifor ap Glyn yn trafod y gair ‘gwynt’. Gair pwysig iawn i forwyr ers talwm ac mae hynny wedi effeithio ar y ffordd dyn ni’n defnyddio’r gair heddiw. Dyma Ifor yn esbonio…
Yr hen forwyr gynt The ancient mariners
Iaith lafar Oral language
Wedi gostegu’n ddi-rybudd Had quelled without warning
Darogan To forecast
Ceiliog y Gwynt Weather vane.
Y Gwyddel The Irishman
Y meirw The dead
Ffroen yr ych The oxen’s nostril
Cyswllt newydd New context
Ar fin digwydd About to happen
HANES MARY HOPKIN
Roedd Mary Hopkin yn seren y byd pop Cymraeg a Saesneg yn niwedd y chwedegau ac yn ystod y saithdegau. Hi oedd un o’r artistiaid cynta i gael recordio ar label Apple ac roedd Paul McCartney yn sgwennu caneuon yn arbennig iddi hi. Roedd y cyfarwyddwr teledu Eurof Williams yn cofio Mary yn canu yn y capel ym Mhontardawe pan oedd hi’n ifanc. Erbyn hyn mae e wedi gwneud rhaglen deledu amdani hi, a buodd e’n sôn ar raglen Rhys Mwyn nad oedd hynny’n beth hawdd iawn i’w wneud
Cyfarwyddwr Director
Cyfres Series
Annibynwyr Independants
Eisoes Already
Awyddus Keen
Dychmygu To imagine
Yn ddiweddarach Later on
Hir a llafurus Long and laborious
Atgofion Memories
Si Rumour
DYLAN EBENEZER
Dylan Ebenezer, cyflwynydd y gyfres newydd – Ynys yr Hunan Ynyswyr, oedd gwestai Caryl a Daf ddydd Mercher a chafodd y ddau gyfle i holi Dylan am ei brofiadau ynysu ei hunan. Yn y clip yma cawn glywed sut mae Dylan yn cadw’n heini a beth mae e’n ei ddarllen yn ystod y cyfnod clo..
. Hunan ynyswyr Self-isolators
Y cyfnod clo The lockdown
Anadlu’n ddwfn To breathe deeply
Gollwng stêm To let off steam
Llwyth Loads
Cymeriad adnabyddus A famous character
Etifeddu To inherit
Rhyfeddol Amazing
Wedi mwynhau mas draw Really enjoyed
Cyfrannu To contribute
Fri, 12 Jun 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchYNYS YR HUNAN YNYSWYR
Mewn cyfres newydd ar Radio Cymru, mae Dylan Ebenezer yn cael dewis pwy sy’n cael aros ar yr ynys gyda fe ar ôl iddo fe glywed beth yw hoff lyfrau, caneuon a ffilmiau’r gwesteion. Dyma i chi’r chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchell yn trio perswadio Dylan i adael iddo fe aros ar yr ynys drwy sôn am ei hoff lyfr...
Hunan Ynyswyr’ Self Isolators
Awgrymu To suggest
Cyfres o ddarlithoedd A series of lectures
Yn seiliedig ar based on
Cyflawni breuddwydion Fulfilling dreams
Llefain To cry
Canllawiau Guidelines
Ysbrodoli To inspire
Darganfod To discover
Delwedd Image
Alla i ddychmygu I can imagine
EISTEDDFOD T
Drwy’r wythnos diwetha buodd Ifan Jones Evans a Nia Lloyd Jones yn rhannu pob cystadleuaeth yr Eisteddfod hon gyda gwrandawyr Radio Cymru. Dydd Mawrth clywon ni gystadleuaeth yr Ymgom i flwyddyn 6 ac iau. Ymgom Enfys Caerfyrddin o Adran Myrddin enillodd – sef Tomos, Esyllt, Serian ac Efa Haf, ac mi gafodd Nia sgwrs gyda Efa Haf i gael gwybod mwy am yr ymgom arbennig yma…
Ymgom Sketch
Iau Younger
Crafu ‘mhen Scratching my head
Hyfforddi To coach
Mo’yn To want
Yn wên o glust i glust With a broad smile
Diwedd cyfnod End of an era
Dymuno’n dda - To wish well
Llongyfarchiadau Congratulations
EISTEDDFOD T
Roedd yna gystadlaethau tra gwahanol yn yr Eisteddfod eleni hefyd a dyma Heledd Roberts yn sôn wrth Ifan Jones Evans a Nia Lloyd Jones am rai o’r cystadlaethau gwahanol hynny gan gynnwys ei hoff gystadleuaeth hi - Anifeiliaid Anwes Talentog!
Cyfryngau cymdeithasol Social media
Trydar Twitter
Beirniadu Adjudicating
Perthynas Relationship
Ci defaid Sheepdog
Casgliad o ddoniau A collection of talents
Uchafbwynt Highlight
Lleidr Thief
Cynllunio Planning
Y cyffro The excitement
SENGL NEWYDD YWS GWYNEDD
Mae Yws Gwynedd yn ganwr pop poblogaidd iawn ond dyw e ddim wedi rhyddhau albwm na pherfformio’n fyw ers rhai blynyddoedd. Lisa Gwilym fuodd yn siarad gyda Yws ar raglen Aled Hughes. Mae Yws wedi ysgrifennu ei gân cyntaf ers tair blynedd ac wedi gorfod gwneud hynny mewn ffordd ychydig yn wahanol y tro yma. Dyma fe’n son wrth Lisa am sut lwyddodd e a’r band i recordio cân heb fynd i’r stiwdio... Cyhoeddi To announce
Colli’r awen To lose the muse
Potsian Messing around
Yr hogia The lads
Lloft sbâr Spare bedroom
Anhygoel Incredible
CERDDORIAETH NEWYDD Tra’r oedd Lisa Gwilym yn edrych ar ôl rhaglen Aled Hughes, Sian Eleri oedd yn edrych ar ôl rhaglen Lisa! Ac ar nos Fercher cafodd hi gwmni dau aelod o’r grŵp Anelog – Danny Cattell a Lois Rogers o Ddinbych. Fel Yws Gwynedd dydy Anelog ddim wedi rhyddhau albwm ers rhai blynyddoedd ond mae ‘na un newydd ar y ffordd....
Rhyddhau To release
Rhedeg yn gyson Running regularly
Yn weddol ddistaw Relatively quiet
Ar hap Randomly
COFIO'R 60 A MARWOLAETH JFK
Thema Cofio yr wythnos diwetha oedd y chwedegau, ac yn y clip yma mae Charlotte Davies, Americanes sy wedi dysgu Cymraeg, yn sôn am y diwrnod cafodd JFK ei ladd
Yn ddiweddarach More recently
Ymateb Response
Annisgwyl Unexpected
Cefnogaeth Support
Hawliau sifil Civil rights
Cofrestru To register
Yn ei erbyn Against him
Adlewyrchu To reflect
Fri, 05 Jun 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchMyrddin ap Dafydd ar Aled Hughes
Dw i’n sîwr bod y rhan fwya ohonon ni wedi dysgu geirfa newydd un ai yn y dosbarth, wrth ddarllen neu, wrth gwrs, drwy wrando ar Radio Cymru. Ond mae na nifer o eiriau tafodieithiol wnawn ni ond eu clywed drwy ymweld ag ardaloedd arbennig yng Nghymru. Dych chi wedi clywed y gair ‘ “wilibowan” a “sbensh” er enghraifft? Dyma oedd gan Myrddin ap Dafydd i’w ddweud am hen eiriau’r Gymraeg wrth Aled Hughes yr wythnos hon.
Tafodieithol Dialectal
Wedi gwirioni Really liked
Ehangach Wider Y fraint The privilege
Yn hanu o Hails from
Yn y bôn Essentially
Moethus Luxurious Cogio Pretending
Yn glymau In Knots
Ffashiwn beth Such a thing
Catrin Gerallt a Hannah Daniel - Dau Cyn Dau ar Dros Ginio
Mam a merch o Gaerdydd fuodd yn cadw cwmni i Dewi Llwyd ar Dau Cyn Dau yr wythnos yma – sef Catrin Gerallt a Hannah Daniel. Mae Catrin Gerallt yn newyddiadurwraig brofiadol iawn sydd wedi gweithio ar raglenni fel Taro Naw, Manylu a’r One Show ac mae Hannah yn actores sydd wedi perfformio mewn cyfresi fel Gwaith Cartref, Hinterland ac Un Bore Mercher.
Newyddiadurwraig brofiadol An experienced (female) journalist
Cyfresi Series
I’r graddau To the extent
Y cyfyngiadau The restrictions
(G)wynebau cyfarwydd Familiar faces
Hogyn Bachgen
Mam-gu Nain
Cyfres newydd A new series
Gweld isie To miss
Caryl a Dafydd – Radio Cymru 2
Mae hi’n anodd gweithio ym myd comedi ar adeg mor sensitif ag yw hi nawr, ond dw i’n siŵr ei bod yn bwysicach, o bosib, oherwydd y sefyllfa i godi calonnau pobl. Y gomedïwraig Esyllt Sears oedd gwestai arbennig Caryl a Daf yr wythnos hon i sôn am sut mae’n bosib gwneud i bobl chwerthin y dyddiau hyn...
Trafod To discuss
Ystafell ddelfrydol Ideal room
Yn dynn Tightly
Cyffwrdd To touch
Ysgwyd ei ysgwyddau Shaking his shoulders
Chwerthiniad A laugh
Cynulleidfa Audience
Gynnau A moment ago
Saernïo To construct
Llenwi’r bwlch Filling the gap
Bore Cothi
Faint ohonoch chi sy’n coginio yn amlach y dyddiau hyn? Gaeth Shan Cothi wybod sut i wneud pasta ffres gan Michelle Evans Fecci a dyma i chi flas ar y sgwrs...
Diffyg A shortage
Oergell Fridge
Blawd Flour
Rhwydd Easy
Tylino To knead
Yn gwmws Exactly
Garlleg Garlic
Winwns Onions
Ysbigoglys Spinach
Dwlu wneud e Enjoy doing it
Cofio – Traed
Traed oedd pwnc Cofio yr wythnos diwetha a dyma glip o 2002 pan gafodd Nia Roberts sgwrs gyda Gwenno Saunders o Gaerdydd fuodd yn cymryd rhan yn y sioe Lord of the Dance gyda Michael Flatley. Cwestiwn Nia i Gwenno oedd sut mae’r dawnsio wedi effeithio ar ei thraed hi...
Gwyddelig Irish
Cystadleuaeth Competition
Canolbwyntio Concentrating
Ffiaidd Horrible
Niwed Harm
Cymorth Help
Beti a’i Phobol
Matt Spry o Aberplym (Plymouth) oedd gwestai Beti George wythnos dwetha. Matt oedd Dysgwr y Flwyddyn yn 2018 ac yn y clip nesa mae e’n sôn am ei hanes yn Lloegr, ei fam-gu o Gymru a pham dewisodd e’r enw Aberplym am Plymouth...
Ymuno â Joins with
Darganfod To discover
Cernyweg Cornish language
Ynganu To pronounce
Ymwybyddiaeth Awareness
Dyfnaint Devon
Tad-cu Taid
Cysylltiad Connection
Syfrdanol Amazing
Ar y ffin On the border
Thu, 28 May 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchIFAN EVANS Prysor Lewis
Mae Prysor Lewis yn dod o Aberaeron yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae e’n byw ar fferm yn nhalaith Texas yn yr Unol Daleithiau mewn cymuned o’r enw Guthrie. Mae e’n gowboi go iawn fel clywon ni pan gafodd Ifan Evans sgwrs gyda fe am ei fywyd a’i waith, a chywed ychydig o hanes ei gariad newydd hefyd!
Talaith State Yr Unol Daleithiau The United States Cymuned Community Sa i’n credu I don’t believe Ambell gymeriad The odd character Becso To worry Pen tost Headache Llawn canmoliaeth Full of praise Mas tu fas Outside --------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
DROS GINIO
Fformiwla 1
Roedd Pencampwriaeth Fformiwla 1 y Byd yn 70 oed wythnos yma. Mae Gwilym Mason Evans o Aberystwyth wedi gweithio gyda thimau fel Bennetton a Honda sawl gwaith yn ystod y Bencampwriaethau. Ond gweithio i’r Llu Awyr oedd e cyn hynny a dyma Vaughan Roderick ar y rhaglen Dros Ginio yn gofyn i Gwilym beth wnaeth iddo fe fod eisiau gweithio i dimau Fformiwla 1 …
Pencampwriaeth Championship Y Llu Awyr The Airforce Cyfweliad Interview Yr heolydd The roads O amgylch Around Peiriannau Machines Wedi bennu Finished Cyd-fynd Agree Antur Adventure --------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
GERAINT LLOYD
Cneifio
Ar ei raglen nos Fercher, cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda Llinos Owen o Feddgelert. Y llynedd cynhaliodd Llinos a’i gŵr Gareth gystadleuaeth Cneifio Gelert ac roedd e’n llwyddiannus iawn. Ma hi’n anodd iawn cynnal cystadleuaeth cneifio eleni wrh gwrs oherwydd Cofid 19, ond mae Llinos a Gareth wedi defnyddio’r dechnoleg ddiweddara i wneud yn siŵr bod y gystadleuaeth yn mynd yn ei blaen…
Cneifio Shearing Gohirio To postpone Datblygu to develop Do Tad Yes indeed Manylion Details Sut mae modd How it is possible Cyfarchion Greetings Amryw o gneifwyr Several shearers Pencampwr Champion Ar wasgar y byd All over the world --------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
LISA GWILYM
Manon Steffan Ross
Bob bore Dydd Sul ar ei rhaglen ar Radio Cymru 2 mae Lisa Gwilym yn mynd “Dan Do” gyda gwestai arbennig i weld sut maen nhw’n ymdopi gyda’r newid mawr yn ein ffordd o fyw oherwydd Covid 19. Yr wythnos dIwetha – yr awdures Manon Steffan Ros oedd ei gwestai. Sut mae ei bywyd hi wedi newid tybed?
Llawrydd Freelance I dy fywyd di gynt To your previous existance Mewnblyg Introverted Llofftydd Bedrooms Ychydig yn hŷn A bit older Tridiau Three days Oedolion cyfrifol Responsible adults Dianc to escape Y broses greadigol The creative process Y tu hwnt i Beyond --------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
DANIEL GLYN
Huw Brassington
Does dim llawer ohonon ni wedi bod yn cerdded y mynyddoedd yn yr wythnosau diwetha nac oes? Ond cyn i Covid 19 ein poeni ni roedd Huw Brassington wedi gwneud rhywbeth anhygoel a rhedeg 47 copa mewn 24 awr. A hynny gyda chriw camera yn ei ddilyn! Daniel Glyn gafodd yr hanes a gofyn y cwestiwn oedd ar wefusau pawb….sef pam?
Bellach By now Her Challenge Twyllo to cheat Cael ei olygu Being edited Ymwybodol Aware Eithafol Extreme Cyflawni To accomplish Trwy fy oes Throughout my life Pwysau Pressure Egni Energy Ffrwtian Spluttering Yn grediniol Convinced --------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
CARYL A DAF
The Great British Menu
Huw Brassington yn esbonio wrth Daniel Glyn pam wnaeth o redeg 47 copa mewn 24 awr . Dych wedi bod yn gwylio The Great British Menu ar BBC 2 o gwbl? Os ydych chi byddwch yn nabod yr enw Hywel Griffiths. Llwyddodd y cogydd o Fethesda yng Ngwynedd sydd gydag un seren Michelin yn ei fwyty ger Abertawe i gyrraedd ffeinal y gystadleuaeth. Fe oedd gwestai Caryl a Daf ar Radio Cymru 2 ac roedd y ddau eisiau clywed mwy am yr her oedd yn ei wynebu ar y rhaglen…
Rhyfeddu To be amazed Gweini To serve Am gamp! What an achievement Adolygiadau Reviews Gweiddi To shout Mwya trawiadol Most striking Cynnyrch Produce Llenyddiaeth Literature Cyfyngu To restrict
Fri, 22 May 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
Geraint Lloyd – Mercher 06/05/20 Dwynwen Hedd
…mae Dwynwen Hedd yn dod o Drefach ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae hi’n byw yn y Swisdir yng nghanol y mynyddoedd. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda hi ar ei raglen nos Fercher, ac yn y darn yma mae hi’n esbonio wrth Geraint sut mae ei bywyd hi wedi newid yn ddiweddar.
Clecs Gossip
Rheolau Rules
Dipyn llymach Quite a bit stricter
Cenfigefnus Jealous
Ffili Can’t
Y byd arlwyo The catering world
Tymhorol Seasonal
Diflannu To disappear
Mynd i bennu Going to end
Aroglu To smell
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Storiwyr – Sadwrn 09/05/20
Stori Ffion
Clywon ni sawl stori a jôc yn y rhaglen Storiwyr dydd Sadwrn. Dyn ni’n mynd i wrando nawr ar un o’r straeon sef hanes yr actores Ffion Dafis pan oedd hi’n teithio, neu’n trio teithio, o gwmpas Asia...
Antur Adventure
Cyntefig Primitive
Angenrheidiol Necessary
Gronyn tywod Grain of sand
Cael fy nghludo Being transported
Sibrwd To whisper
Drwgweithredwr Wrongdoer
Swyddog arfog Armed officer
Llygedyn o obaith A glimmer of hope
Gwerthfawrogol Appreciative
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Herbert a Heledd yn Achub y Byd -
Ffeindio cariad
Clip o bodlediad sy nesa. Mae podlediad wythnosol gan Catrin Herbert a Heledd Medi, dwy ferch o’r ddinas sydd fel arfer yn sgwrsio am newid eu ffordd o fyw er mwyn achub y blaned. Dydy’r clip dyn ni’n mynd i wrando arno ddim mor uchelgeisiol â hynny fodd bynnag – dyma i chi Catrin a Heledd yn sôn am eu bywyd carwriaethol yn ystod y cyfyngiadau.
Achub To save
Uchelgeisiol Ambitious
Bywyd carwriaethol Lovelife
Y cyfyngiadau The lockdown
Mewn perthynas In a relationship
Twym Warm `
Yn ddifrifol iawn Very serious
Esgus To pretend
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Aled Hughes – Llun 04/05/20
Kimono
Mae Karl Davies yn byw yn Tseina ar hyn o bryd ond mae e’n ymweld yn aml â Japan. Dros y blynyddoedd mae e wedi prynu sawl kimono a gofynodd Aled Hughes iddo fe beth oedd yr apêl…
Dilledyn Clothing
Cyson Regular
Mor gyfyng So confined
Sidan Silk
Anhygoel Incredible
Llac Loose
Ffedog Apron
Addurno To decorate
Y rhai mwya cain The most elegant
Gwniadwaith Embroidery
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Awr Werin – Mercher 06/05/20 Sian James
Ar yr Awr Werin wythnos diwetha buodd Lisa Gwilym yn edrych yn ôl ar albwm cynta Sian James 30 mlynedd yn ôl yng nghwmni Sian. Mae’r ddwy newydd wrando ar y gân Marchnad Llangollen o’r albwm ac mae Lisa’n meddwl bod dylanwad y band gwerin Gwyddelig Clannad arni. Beth oedd gan Sian i’w ddweud am hynny tybed...
Gwerin Folk
Gwyddelig Irish
Dylanwad Influence
Unigol Individual
Yn rhyfedd iawn Strangely enough
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Sioe Frecwast – Mercher 06/05/20 Jade Davies
Mae Jade Davies yn dod o Ruthun yn wreiddiol ond mae hi wedillwyddo i ddod yn seren y West End yn ifanc iawn. Sut ddigwyddodd hynny? Daf a Caryl fuodd yn ei holi hi ar y Sioe frecwast...
Llwyddo To succeed
Seren Star
Profi To prove
Graddio To graduate
Breuddwyd A dream
Fri, 15 May 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …”
Beti A’I Phobol – Sul a Iau – 26 a 30/04/20
Cai Wilshaw
Gwestai Beti George oedd y sylwebydd gwleidyddol Cai Wilshaw ac yn y clip yma mae e’n sôn am ei brofiad o weithio fel intern i Nancy Pelosi, sef menyw, neu ddynes, fwya pwerus Unol Daleithiau America
Sylwebydd gwleidyddol Political correspondent
Etholiadau Elections
Cyswllt Connection
Rhydychen Oxford
Ymweliad A visit
Gwleidyddiaeth Politics
Y Gyngres Congress
Swyddfa’r wasg The press office
Chwant Desire
Cynhadleddau’r wasg Press conferences
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
COFIO – Sul a Mercher 03 a 06/05/20 Colur Cai Wilshaw oedd hwnna’n sôn wrth Beti George am Nancy Pelosi. Gwesteion gwahanol iawn i Cai oedd gan Beti ar un o’i rhaglenni yn 1976. Pobol ifanc oedd thema Cofio wythnos diwetha a chlywon ni ran o sgyrsiau gafodd Beti gyda rhai o ferched y de yn cofio pa fath o golur oedden nhw’n ddefyddio pan oedden nhw’n ifanc... Colur Make-up Bodlon Willing Dodi To put on Mochyndra Filth Rhydd Free Nisied Handkerchief Bant Away Gwefusau Lips Heol Road
--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Oedfa – Sul 03/05/20
Ysbyty Gwynedd
Wel mae pethau wedi newid ers i Beti gael y sgwrs honno on’d dyn nhw? Mae llawer iawn ohonon ni’r dyddiau hyn yn ddiogel iawn yn ein cartrefi yn ystod y cyfnod anodd yma , ond mae llawer o bobl yn gorfod gweithio wrth gwrs. Un o’r rheini yw Menna Morris sydd yn gweithio fel nyrs yn Adran Frys Ysbyty Gwynedd. Ar raglen Oedfa ddydd Sul gofynnodd John Roberts i Menna ddisgrifio’r sefyllfa yn yr ysbyty ar hyn o bryd…..
Adran Frys A&E
Ardaloedd Areas
Gwisgoedd amddiffynol Personal Protection Equipment
Ffedog a menyg An apron and gloves
Unedau damweiniau Accident units
Argyfwng Crisis
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Sioe Frecwast Radio Cymru 2 gyda Daf a Caryl - Mawrth, 28/04/20
Dolly Parton
Mae ganddon ni le mawr i ddiolch i’r gweithwyr allweddol i gyd on’d oes? Menna Morris, nyrs yn Ysbyty Gwynedd fuodd yn siarad gyda John Roberts ar Oedfa. Sioned Mills ydy arbenigwraig Radio Cymru ar bodlediau a hi oedd yn cadw cwmni i Daf a Caryl ar y Sioe Frecwast ddydd Mawrth. Dyma hi’n sôn am un o’i hoff bodlediadau, na nid Pigion y Dysgwyr, ond un am Dolly Parton…
Gweithwyr allweddol Key workers
Arbenigwraig Expert (female)
Yn benodol Specifically
Cyfres Series
Yr eilyn The idol
Yn wirioneddol dda Really good
Dogfen Documentary
Egni Energy
Pennod Chapter
Amlenni Envelopes
Goddefgarwch Tolerance
----------------------------------------------------------------------------------------------------------
Lisa Gwilym – Mercher 29/04/20
Osian Candelas
Sioned Mills yn fan’na yn amflwg yn ffan mawr o Dolly Parton. Nos Fercher cafodd Lisa Gwilym sgwrs gyda Osian Williams o’r band Candelas a’i chwaer Branwen. Mae Osian yn byw yng nghartre’r teulu yn Llanuwchllyn ger y Bala a gofynnodd Lisa iddo fe ble mae e’n recordio’i gerddoriaeth y dyddiau hyn…
Gweddill y tŷ The rest of the house
Taflu llwyth o bethau Throwing loads of stuff
Cyfansoddi Composing
O ystyried Considering
Offer Equipment
Offerynnau Instruments
Yn syth bin Straight away
Yn fyw Live
Yn wyrthiol Miraculously
Yn ysu Yearning --------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Geraint Lloyd – Mawrth – 28/04/20
Sbaen A dw i’n siŵr bod yna edrych ymlaen mawr at albwm newydd Candelas. Mae Gwenno Fflur yn dod o Rydyfoel ger Abergele yn wreiddiol, ond mae hi ar hyn o bryd yn dysgu mewn Ysgol Brydeinig Ryngwladol yn Sbaen ac mae hi wedi bod yn byw ac yn gweithio yno ers 5 mlynedd. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda hi ddydd Mawrth a holi sut oedd pethau yn Sbaen erbyn hyn
Ysgol Brydeinig Ryngwladol International British School
Rheolau tipyn llymach Much harsher rules
Dw i’n byw a bod I spend all my time
Yn gaeth i’r cartre Confined to the house
Rhwystrau Obstacles
Dirwyon Fines
Caniatâd Permission
Y rhyddid The freedom
Derbynneb Receipt
Mygydau Masks
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Thu, 07 May 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchS'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Recordiau Rhys Mwyn Llun 20/04/20 Heledd Watkins "Mae clipiau'r wythnos hon i gyd yn sôn am sut mae gwahanol bobl yn ymdopi gyda'r sefyllfa anodd sydd wedi codi oherwydd Covid-19. Dyma Heledd Watkins o'r band HMS Morris yn dweud ar ba gerddoriaeth mae hi'n gwrando yn ystod y cyfnod yma..." ymdopi - to cope profiadau cerddorol - musical experiences gwyllt a gwallgof - wild and mad llwyth - loads droeon - several times yn benodol - specifically syllu - staring gorfeddwl - overthinking cynrychioli - to represent trefnu - arrange
Sioe Frecwast "Sul – 19/04/20 Meilir Rhys Williams ".Nesa, sut dach chi'n cadw'n brysur yn y cyfnod anodd yma - garddio, coginio, gwrando ar Radio Cymru? Ar y Sioe Frecwast dydd Llun clywon ni sut oedd yr actor Meilir Rhys Williams o Rownd a Rownd yn cadw ei hun yn brysur..." paratoi - to prepare gwreiddio - to root pobi - to bake gwyddbwyll - chess yn fras - broadly ffyn - sticks andros o hwyl - lots of fun Sioe Frecwast Daf a Caryl "Iau 23/04/20" Owain Wyn Evans Owain Wyn Evans ydy 'dyn tywydd' BBC North West Tonight, ond mae e, fel llawer ohonon ni, yn gorfod gweithio o gartre y dyddiau hyn. Cafodd llawer o wylwyr y rhaglen sioc wythnos diwetha wrth i Wyn orffen sôn am y tywydd a rhedeg at ei ddrymiau a'u chwarae'n fyw ac yn wyllt ar y teledu. Mae miloedd o bobl wedi gweld y clip ohono yn gwneud hyn a chafodd Daf a Caryl sgwrs gyda fe fore Iau am y digwyddiad alla i ddychmygu - I can imagine y blaned Mawrth - The planet Mars gwefannau cymdeithasol - social media dim clem - no idea cyflwynydd - presenter ysbrydoli - to inspire rhagolygon - forecast unigryw - unique anhygoel - incredible
Geraint Lloyd Llun 20/04 Dartiau Facetime "Ffordd wahanol iawn sy gyda Llion Thomas i gadw ei hun yn brysur dros y cyfnod yma. Dartiau ydy hobi Llion a 'sech chi'n meddwl basai'n anodd iawn cael gêm dartiau yn erbyn rhywun arall y dyddiau hyn. Ond mae Llion wedi ffeindio ffordd i wneud hynny, fel buodd e'n esbonio wrth Geraint Lloyd." yndw 'chan - ydw, fachgen taflu - to throw ble bynnag - wherever gormod - too much cystadlaethau mawr - big competitions
Bore Cothi Llun 20/04/20 "John Williams" "Mae'n bywyd pob un ohonon ni wedi newid gyda'r argyfwng yma on'd dyw e? Ond mae bywyd John Williams o Abergele wedi newid yn llwyr. Mae John yn colli ei olwg oherwydd Glaucoma, ond dyw e ddim yn hollol ddall. Cyn mis Mawrth eleni ei hoff ffordd o dreulio amser oedd teithio o gwmpas Prydain ar y bws neu ar y tren. Mae hynny wrth gwrs wedi stopio am nawr ond dyma John yn sôn wrth Shan Cothi am ei deithiau cyn y cyfyngiadau... " argyfwng - crisis coll ei olwg - losing his sight y cyfyngiadau - the lockdown hollol ddall - totally blind waeth heb â gofidio - there's no point worrying gwneud yn fawr ohono - to make the most of it teimlo'n gaeth - feeling confined cyffredin - normal gweddill y ffordd - the rest of the way ucheldiroedd - highlands
Bore Cothi Gwener 24/04/20 Jonathan Davies "Er nad ydy'r cyn chwaraewr rygbi Jonathon Davies yn gallu codi arian i'w hoff elusen - Ysbyty Felindre Caedrydd, mae o'n dal i gadw'n heini a chodi arian yr un pryd - a hynny"
ti byth yn llonydd - you're never still egni - energy mo'yn - eisiau cynnal yr elusennau - support the charities llywydd - president hashnod - hashtag colli chydig bach o chwys - shed a little sweat yr un mor dynn - as tight pwysau - weight ... a dyna ni am yr wythnos yma. Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r podlediad yma a'i fod wedi bod yn ddefnyddiol ac yn ddifyr i chi. Mae tudalen eirfa arbennig yn cyd-fynd a'r podlediad yma i'w chael ar bbc.co.uk/radiocymru/ a chlicio ar Pigion.
Thu, 30 Apr 2020 16:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchAled Hughes Gwener 17/04/20 Breuddwydio "Dych chi'n cofio eich breuddwydion? Dych chi'n breuddwydio am bethau gwahanol oherwydd argyfwng y feirws? Dyna rai o'r pethau gododd mewn sgwrs gafodd Ffion Dafis gyda'r seiolegydd Dr Mair Edwards. Yn ôl Dr Mair mae cwsg a breuddwydio yn bwysig iawn i’n iechyd meddwl ni ac mae'r adeg anodd yma yn gwneud i bobl freuddwydio mewn ffyrdd gwahanol iawn"
breuddwydion - dreams argyfwng - crisis hynod lachar - extremely vivid yr eglurhâd - the explanation trwmgwsg - deep sleep ymwybodol - aware pryder - concern yn fwy tebygol - more likely cyfuniad - a combination ansawdd cwsg - the quality of sleep
Ifan Evans Dydd Iau 16/04/20 Bronwen Lewis
"Ffion Dafis oedd honna yn eistedd yn sedd Aled Hughes ddydd Gwener diwetha ac yn cael sgwrs gyda'r Dr Mair Edwards am freuddwydio. Nid Ffion oedd yr unig un oedd yn eistedd yn sedd y cyflwynydd arferol. Dydd Iau Trystan Ellis Morris oedd yn cymryd lle Ifan Evans a buodd e'n sgwrsio gyda'r gantores Bronwen Lewis o Flaendulais yng Nghwm Nedd. Buodd rhaid i Bronwen ganslo sawl gig oherwydd y feirws a dyma hi'n sôn wrth Trystan am syniad gafodd hi i godi arian"
Y cyflwynydd arferol - the usual presenter ben ei waered - upside down creu - to create mo'yn - eisiau beth bynnag - whatever wedi crio'r glaw - had cried loads ffili credo - can't believe mor garedig - so kind elusennau - charities anhygoel - incredible
Geraint Lloyd Llun 13/04/20 ENDAF GRIFFITHS
"Pedair mil o bunnoedd am gig dwy awr - da on'd ife?. Buodd Clwb Ffermwyr Ifanc Pont-Siân yn codi arian mewn ffordd arbennig iawn ddydd Llun y Pasg. Bwriad aelodau'r clwb oedd cerdded, rhedeg neu seiclo yr holl ffordd o Gaerdydd i Gaergybi, taith o 218 milltir, a hynny heb adael eu cartrefi, er mwyn codi arian at ddau ysbyty yn y de-orllewin. Ond pa mor bell aethon nhw tybed? Endaf Griffiths – aelod o’r clwb fuodd yn ateb y cwestiwn hwnnw ar Raglen Geraint Lloyd nos Lun…"
Swyddogion - officials dechrau becso - beginning to worry chwalu'r targed - smashed the target yn hytrach na - rather than ymateb - response arweinyddion - leaders cyfrannu - contributing cronfa - fund unedau gofal dwys - Intensive care units annog - to encourage
Sioe Frecwast Llun 13/04/20 35 Diwrnod "Da iawn Clwb Ffermwyr Ifanc Pont-Siân, rhedeg i Baris - dipyn o gamp! Buodd Fflur Dafydd ar y Sioe Frecwast gyda Daf a Caryl fore Llun y Pasg ar Radio Cymru. Fflur ydy awdures y gyfres boblogaidd 35 diwrnod, a'r newyddion da ydy bod cyfres newydd yn dechrau cyn bo hir. Dyma Fflur yn edrych ymlaen at y gyfres... "
Y gyfres boblogaidd - the popular series cynulleidfa - audience yn gyfarwydd ag e - familiar with (it) corf - body y bennod - the first episode llawn cyfrinachau - full of secrets yn raddol - gradually yn cylchdroi - revolving y briodferch - the bride ysgafnder - levity