Mae Lauren a’r criw wedi gadael haul neis Nice a theithio yn ôl i Versailles wrth i garfan Cymru baratoi ar gyfer brwydr fwya’r grŵp yn erbyn Awstralia. Rhys Patchell a’r mewnwr, Gareth Davies sydd yn ymuno â Lauren i drafod y cwbl.
Sat, 23 Sep 2023 12:00:00 +0000
Mae Lauren a’r criw wedi gadael haul neis Nice a theithio yn ôl i Versailles wrth i garfan Cymru baratoi ar gyfer brwydr fwya’r grŵp yn erbyn Awstralia. Rhys Patchell a’r mewnwr, Gareth Davies sydd yn ymuno â Lauren i drafod y cwbl.
Wed, 20 Sep 2023 15:00:00 +0000
Mae Lauren a chriw S4C wedi cyrraedd heulwen Nice ar gyfer her nesaf Cymru, Portiwgal. Emyr Lewis a Mason Grady sydd yn ymuno â’r pod i edrych ymlaen at y gêm fawr.
Thu, 14 Sep 2023 16:30:00 +0000
Yn dilyn y frwydr anhygoel a chorfforol yn Bordeaux, mae Lauren Jenkins yn cael cwmni Rhys Patchell i edrych yn ôl ar yr ornest ffrwydrol a’r fuddugoliaeth bwysig i dîm Warren Gatland.
Tue, 12 Sep 2023 16:00:00 +0000
Mae Warren Gatland wedi cyhoeddi’r 23 fydd yn wynebu Fiji yn Bordeaux ac mae Lauren yn cael cwmni Gwyn Jones a Rhys Priestland i drafod y tîm ac edrych ymlaen at y gêm fawr.
Fri, 08 Sep 2023 16:00:00 +0000
Mae Lauren a’r criw wedi cyrraedd Ffrainc ac yn cael cwmni cyd-gapteiniaid Cymru, Jac Morgan a Dewi Lake.
Wed, 06 Sep 2023 12:00:00 +0000
Mae Cyfres yr Haf ar ben a phob llygaid yn troi at Gwpan y Byd yn Ffrainc. Rhys Priestland a Rhys Patchell sy’n ymuno â Lauren i edrych ymlaen at y gystadleuaeth fawr.
Wed, 30 Aug 2023 13:00:00 +0000
Mae Warren Gatland wedi enwi’r 33 fydd yn teithio i Ffrainc. Mike Phillips, Rhys Patchell a Rhys Priestland sy’n ymateb i’r cyfan.
Tue, 22 Aug 2023 15:30:00 +0000
Lauren Jenkins, Nathan Brew a Rhys Patchell sy’n dadansoddi’r ail gêm brawf yn erbyn y Saeson ac yn edrych ymlaen at y gêm olaf cyn i Warren Gatland enwi ei garfan ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.
Wed, 16 Aug 2023 13:00:00 +0000
Priestland a Patchel sy’n cadw cwmni i Lauren Jenkins, gyda’r newyddion diweddaraf o garfan Cymru, trafod eu capiau cyntaf, a sgwrs gyda’r prop Gareth Thomas.
Wed, 09 Aug 2023 15:15:00 +0000