-> Eich Ffefrynnau

Penny for your Thoughts gan Ysgol Busnes Bangor

Penny for your Thoughts gan Ysgol Busnes Bangor

Yn Ysgol Busnes Bangor rydym yn ymfalchïo yn rhagoriaeth ein hymchwil, ac rydym yn lledaenu hynny trwy addysgu a chyhoeddiadau rhyngwladol o ansawdd uchel. Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar bynciau cyfoes a chyfredol sy'n effeithio ar ein bywydau gwaith beunyddiol. Mae arbenigedd y tîm yn eang o ran ymchwil gan gynnwys yr argyfwng costau byw, effaith Brexit, trethiant ac ymddygiad defnyddwyr, ac arweinyddiaeth gyfoes, Yn ein cyfres o bodlediadau newydd mae ein hacademyddion yn trafod materion cyfoes, eu hymchwil arloesol ac yn rhannu eu syniadau â chi.

Gwefan: Penny for your Thoughts gan Ysgol Busnes Bangor

RSS

Chwarae Penny for your Thoughts gan Ysgol Busnes Bangor

Trafod Busnes ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol

Ym mhennod mis hwn o bodlediad ‘Penny for your Thoughts’ Ysgol Busnes Bangor, bydd y cyflwynydd, Darren Morely (Rheolwr Cyswllt Busnes), yn cael cwmni Rhys Evans (Cyfarwyddwr Ateb) a Dr Edward Thomas, sy’n Uwch Ddarlithydd Economeg, ar y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Gwrandewch i glywed sut aeth Rhys ati i sefydlu busnes Ateb yn Ynys Môn i gefnogi'r sectorau cyhoeddus a phreifat i fodloni safonau’r Gymraeg, a chydymffurfio â nhw. Mae Ateb yn cefnogi ac yn cynghori busnesau i ymgysylltu â’r Gymraeg mewn ffyrdd ystyrlon, cynaliadwy ac ymarferol. Clywch sut mae ymgysylltu â’r Gymraeg yn cwmpasu mwy na chydymffurfio; mae’n galluogi busnesau i wella teyrngarwch cwsmeriaid, eu mantais gystadleuol a’u hygrededd o fewn tirwedd y Gymru fodern. 

Fri, 29 Nov 2024 13:19:27 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Penny for your Thoughts gan Ysgol Busnes Bangor

Gwneud y mwyaf o'ch strategaeth farchnata ddigidol i wneud iddi weithio; pŵer dilysrwydd a dadansoddeg data

Mae pennod y mis hwn o ‘Penny for your Thoughts’ yn troi at farchnata digidol. Ymunwch â’r cyflwynydd, Darren Morely, ynghyd â’r gwesteion Medi Parry-Williams (sylfaenydd Making Places Work) a’r Uwch Ddarlithydd mewn Marchnata Busnes, Dr Steffan Thomas i ddysgu sut mae cyfryngau cymdeithasol a datblygiadau mewn technoleg yn newid sut mae busnesau’n estyn allan i ddenu a chyfathrebu â’u cynulleidfaoedd traged. Mae Medi, a arferai fod yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn y diwydiant Canolfannau Siopa, yn rhoi cipolwg ar ei busnes newydd cyffrous, MPW, sy'n ceisio 'dod â lleoedd yn fyw ac adfywio cyrchfannau adwerthu'. Mae hi'n rhannu pa mor bwysig yw marchnata digidol i'w busnes, ei chleientiaid, a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Gwrandewch ar ganllawiau a chyngor gan Medi a Steff ar sut y gall busnesau ddefnyddio pŵer marchnata digidol trwy wneud y mwyaf o'u llwyfannau digidol. Amlygir dulliau cyfoes megis strategaethau ymgysylltu dilys a phersonol, a phwysigrwydd dadansoddeg data er mwyn gwella a chyflawni ymgyrchoedd marchnata digidol mwy effeithiol ac ystyrlon.

Wed, 16 Oct 2024 02:03:05 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Penny for your Thoughts gan Ysgol Busnes Bangor

O wneud mymryn o bres ychwanegol i fod â busnes arobryn: Ewch amdani!

Mae pennod Gymraeg y podlediad Penny for your Thoughts y mis hwn yn cynnwys sgwrs ysbrydoledig rhwng Shoned Owen (Tanya Whitebits), Dr Siwan Mitchelmore (Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth yn Ysgol Busnes Bangor) ac, wrth gwrs, ein cyflwynydd Darren Morely. Shoned yw sylfaenydd a pherchennog y cwmni arobryn Tanya Whitebits sydd â dros 31K o ddilynwyr ar Instagram ac sy’n un o frandiau lliw haul gorau’r Deyrnas Unedig.  Ymunwch â ni i glywed sut y tyfodd Shoned, yr entrepreneur llwyddiannus o ogledd Cymru, o fod yn gwneud rhywfaint o bres ychwanegol ar yr ochr i fod â busnes llewyrchus yn y diwydiant harddwch a cholur. Gwrandewch ar gyngor Shoned a Siwan ynghylch pa mor bwysig yw meddylfryd o fod yn barod i roi cynnig arni a bod yn wydn a datblygu rhwydweithiau cymdeithasol. Dysgwch am bŵer cysylltu â dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol i gefnogi ymdrechion i dyfu eich brand, a pha mor bwysig yw mentora syniadaeth greadigol pobl ifanc i sicrhau dyfodol mwy disglair ac entrepreneuraidd. 

 

Tue, 10 Sep 2024 10:25:11 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Penny for your Thoughts gan Ysgol Busnes Bangor

Sut mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (Football Association of Wales: FAW) wedi defnyddio’r iaith, treftadaeth a gwaith cymunedol i gryfhau ei brand Cymreig

Ymunwch â’n cyflwynydd podlediadau Darren Morely, darlithydd Ysgol Busnes Bangor Carl Mathers ac Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, i glywed pennod gyntaf ein cyfres fer Gymraeg sy’n trafod pwysigrwydd y Gymraeg mewn marchnata a brandio. Mae’r podlediad yn amlygu sut mae dilysrwydd, gwreiddio yn y gymuned Gymreig a phresenoldeb mewn digwyddiadau diwylliannol allweddol fel Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ganolog i gryfhau ymgysylltiad â chefnogwyr a chwsmeriaid.

Mon, 19 Aug 2024 11:08:37 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Penny for your Thoughts gan Ysgol Busnes Bangor

Dileu'r mwg o amgylch sigaréts a vapes: yr hyn y mae marchnata cymdeithasol yn ei ddweud wrthym am ymddygiad peryglus defnyddwyr

Y mis hwn rydym yn canolbwyntio ein testun ar Ddiwrnod Canser y Byd a gynhelir bob 4ydd Chwefror. Mae Diwrnod Canser y Byd wedi tyfu i fod yn fudiad cadarnhaol i bawb, ym mhobman. Bob blwyddyn, mae cannoedd o weithgareddau a digwyddiadau'n cael eu cynnal ledled y byd ac yn ein hatgoffa'n bwerus bod gan bob un ohonom ran i'w chwarae i leihau effaith byd-eang canser. Fel rhan o Ddiwrnod Canser y Byd, mae cyfres podlediadau Ceiniog am dy Feddyliau gan Ysgol Busnes Bangor yn edrych i mewn i ddeall rôl defnydd peryglus o garsinogenau adnabyddus; gan gynnwys ysmygu ac wrth gwrs y duedd bryderus o anwedd. Trwy well dealltwriaeth o ymddygiadau peryglus defnyddwyr a'r rôl y mae marchnata cymdeithasol yn ei chwarae wrth gyfathrebu risgiau o'r fath i ddefnyddwyr, mae academyddion fel Dr Sara Parry, Uwch Ddarlithydd Marchnata yma yn Ysgol Busnes Bangor, yn cyfrannu at leihau effaith byd-eang canser.

Mae Dr Sara Parry yn Uwch Ddarlithydd Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor. Mae ei gwaith ymchwil wedi’i gyhoeddi mewn llawer o gyfnodolion a gydnabyddir yn rhyngwladol fel Journal of Business Research, Journal of Consumer Behaviour a British Journal of Management. Sara yw Cadeirydd Athena a Chynrychiolydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr Ysgol. Mae hi hefyd yn Bennaeth Blwyddyn 2 ar gyfer holl israddedigion Ysgol Busnes Bangor.

Sun, 26 Feb 2023 08:03:29 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Penny for your Thoughts gan Ysgol Busnes Bangor

Gwneud Treth Twristiaeth yn llai o faich: sut mae ymchwil yn ein helpu i ddeall y cyd-destun Cymreig

Mae Dr Rhys ap Gwilym yn Uwch Ddarlithydd Economeg yn Ysgol Busnes Bangor ac wedi bod yn ymwneud â phrosiect ymchwil sydd wedi cynghori ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gynlluniau Treth Twristiaeth Cymru. Gwyddom oll y gall treth fod yn gymhleth ac yn aml-haenog! Felly sut mae ymchwilydd yn mynd ati i ddadbacio mater mor gymhleth? Dewch i ni glywed am broses ymchwil Rhys, yr hyn a wnaeth a’r hyn a ddysgodd ar hyd y ffordd i wneud deall treth dwristiaeth yn llai cymhleth! Mae gan Rhys ddiddordeb mawr mewn polisi datblygu rhanbarthol a’i rôl yng Nghymru yn arbennig. Mae wedi bod yn brif ymchwilydd ar ddau brosiect ymchwil a ariannwyd gan grantiau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â threth gwerth tir a threthi twristiaeth. Mae’n aelod o Grŵp Polisi Economaidd y Sefydliad Materion Cymreig, lle bu’n ymwneud â datblygu papurau trafod ar economi Cymru. Yn ddiweddar cyfrannodd at “banel arbenigol ar sylfaen drethi Cymru a goblygiadau i bolisi cyhoeddus”.

Mon, 30 Jan 2023 18:05:55 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch