-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Clera

Clera

Podlediad misol sy'n trafod barddoni gyda'r bwystfil barddol a elwir yn Aneurig (Aneirin Karadog ac Eurig Salisbury)

Gwefan: Clera

RSS

Chwarae Clera

Clera Chwefror 2023

Croeso i bennod y Mis Bach! Y tro hwn, cawn gyfle am fash-yp cyffrous rhwng Podlediad Clera a Haclediad, sef y podlediad hynaf yn y Gymraeg. Diolch i Sioned Mills a Iestyn Lloyd am ymuno â ni i drafod y posibilrwydd o weld AI yn camu i fyd barddoniaeth Gymraeg drwy raglenni fel ChatGPT a Dall-e. Ydy byd y beirdd yn dod i ben? Neu ydy beirdd am gael help llaw gyda'u crefft, fel y mae'r odliadur yn cynnig help llaw? Hefyd, cawn Orffwysgerdd gan fardd arobryn Cadair Eisteddfod Caerdydd eleni, Non Lewis, a chawn hefyd gwmni Tudur Dylan Jones a Gruffudd Antur. Mwynhewch!

Mon, 27 Feb 2023 23:01:54 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clera

Clera Ionawr 2023

Croeso i bennod mis y Cariadon. Ym mhennod mis Ionawr o clera cawn sgwrs gyda g Golygydd blodeugerdd wych newydd o'r enw 'Cariad, (Cyhoeddiadau Barddas), sef Mari Lovgreen. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Iestyn Tyne o'i gyfrol ddigidol newydd, 'Dileu', y Delicassy gan (Tudur) Dylan a Gruffudd Antur sy'n pwnco gyda ni am Eisteddfod fawreddog Caerwys, 1523 a'i harwyddocâd.

Wed, 25 Jan 2023 22:29:37 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clera

Clera Rhagfyr 2022

Nadolig llawen i chi gyd! Ym mhennod mis Rhagfyr o Clera bydd Gruffudd a'i Ymennydd llawn Manion yn trafod llinacahu barddol gyda ni yn y Pwnco, a detholiad o rai o hoff gerddi'r beirdd yn yr Orffwysfa, gyda Steffan Phillips, Mari George, Carwyn Eckley, Lowri Lloyd a Llŷr James. Nadolig dedwydd i chi gyd a diolch i bawb sy'n gwrando ar hyd y flwyddyn.

Sun, 18 Dec 2022 20:11:36 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clera

Clera Tachwedd 2022

Dewch mewn o'r gwynt a'r glaw i swatio gyda ni a mwynhau pennod y Mis Du. Yn y rhifyn hwn, byddwn yn Pwnco mewn 2 ran gyda'r Prifardd Llŷr Gwyn Lewis. Cawn hefyd Orffwysgerdd gan Elen Ifan o'i phamffled gyntaf o farddoniaeth, 'Ystlum'. Ac mae'r Delicassy gan Dylan hefyd yn ei ôl, gyda'r Prifardd Tudur Dylan Jones yn canfod perl fach arall i'n diddanu. Hyn a mwy! Mwynhewch

Wed, 30 Nov 2022 11:05:40 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clera

Clera Hydref 2022

Croeso i bennod mis Hydref 2022 o Clera. y tro hwn cawn sgwrs llawn o ddifyrrwch a dwyster gyda Phrifardd Coron Eisteddfod genedlaethol Tregaron, Esyllt Maelor. Hefyd, cawn flas o gyfrol gyntaf Elinor Wyn Reynolds, 'Anwyddoldeb', gyda'r gerdd wych 'Cysur'.

Mon, 31 Oct 2022 00:52:40 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clera

Clera Medi 2022

Ym mhennod mis Medi o bodlediad Clera cawn yr olwg gyntaf ar Gyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yng Nghwmni Osian Wyn Owen. Byddwn yn trafod a thafoli mwy ar gynnyrch llên y Brifwyl yn y misoedd i ddod hefyd. Cawn hefyd drafod cyfrol gyntaf o gerddi Osian yn y rhifyn hwn yn ogystal â hel atgofion am gyfnod Tudur Dylan Jones fel Meuryn yr ymryson, wedi iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o'r swydd. Cawn hefyd glywed rhai o gerddi buddugol y Brifwyl, o gywydd Geraint Roberts i'r Soned a enillodd Gadair Adran y Siaradwyr Newydd i Wendy Evans.

Thu, 29 Sep 2022 22:42:15 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clera

Clera'n Fyw o Steddfod Tregaron 2022

Clera'n fyw o Lwyfan y Llannerch yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 yn Nhregaron. Diolch i'r gwesteion gwych, Buddug Roberts, Jo Heyde a Llio Maddocks am eu cyfraniadau difyr a doeth i bennod a recordiwyd ar sadwrn ola'r Eisteddfod yng nghwmni Gruffudd Antur ac Aneurig.

Sun, 07 Aug 2022 23:01:19 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clera

Clera Gorffennaf 2022

Croeso i rifyn rhagflas y Brifwyl! Gyda chyfraniadau difyr a doeth gan Jo Heyde (trafod llyfrau barddol llyfr y flwyddyn), Anwen Pierce (Cywydd Croeso yr Eisteddfod), Gruffudd Eifion Owen a Iestyn Tyne yn ymateb i sylwadau gan Eifion Wyn a llawer mwy.

Fri, 29 Jul 2022 10:48:19 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clera

Clera Mehefin 2022

Croeso i bennod mis Mehefin o Clera! Cawn sgwrs gyda Phrifardd yr Urdd, Ciaran Eynon am ei gerdd arobryn ar y testun 'Diolch' yn ogystal â sgwrs gyda'n Posfeistr, Gruffudd Antur am y gyfrol fawreddog newydd, 'A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes gan Daniel Huws. Hefyd, mae llinell gynganeddol ddamweiniol y mis yn ei hôl! Hyn oll yn ogystal â Delicassy gan Dylan a Diweddgan gan Jo Heyde, sef ei cherdd fuddugol yng Nghadair Eisteddfod Llandudoch.

Wed, 29 Jun 2022 23:15:28 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Clera

Clera Mai 2022 - Huw Morys, 'Eos Ceiriog'

Croeso i rifyn mis Mai o Clera. Rhifyn arbennig yw hwn sy'n trafod a dathlu bywyd a gwaith y Bardd o Ddyffryn Ceiriog, Huw Morys. Mwynhewch

Wed, 25 May 2022 08:40:23 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy