Mae’r seren tennis iau, Alys Harris yn llewygu wrth serfio ar gyfer y bencampwriaeth yn Wimbledon. A hithau mewn coma yn yr ysbyty, caiff ymweliad gan ei diweddar dad. All Daf, cyn-chwaraewr tennis, helpu Alys i wneud synnwyr o'i llewyg a pherswadio ei ferch i ddychwelyd i fywyd heb dennis? Drama bwerus a theimladwy, sy’n rhoi cipolwg ar gardiomyopathi hypertroffig (HCM) a sut mae’n effeithio ar gydberthnasau, breuddwydion a mwy. Cast: Ella Peel – Alys, Daniel Lloyd - Daf Awdur: Lisa Parry Cyfieithydd: Branwen Davies Cyfarwyddwr: Zoë Waterman
Gwefan: Deuce - Gan Illumine Theatre, Partneriaeth Genomeg Cymru, a Pharc Geneteg Cymru
Mae Alys, merch yn ei harddegau, yn gwybod pwy yw hi a beth mae hi eisiau. Wedi'i gyrru gan atgofion am ei thad, cyn-chwaraewr tennis proffesiynol llwyddiannus, y mae ei farwolaeth anesboniadwy yn ei phoeni, mae Alys yn serfio ar gyfer y gêm derfynol ym Mhencampwriaeth Iau y Merched yn Wimbledon. Yna mae’n llewygu.
A hithau mewn coma yn yr ysbyty, mae Alys yn cael ymweliad gan ei diweddar dad. Gyda chymorth Daf, rhaid iddi benderfynu pwy yw hi, beth mae hi eisiau, ac a ddylai ddychwelyd at ei chorff - a bywyd heb dennis.
Yn cynnwys Ella Peel, Daniel Lloyd, Mari Beard, Gareth John Bale a Mali Ann Rees; ysgrifennwyd gan Lisa Parry; cyfieithwyd i'r Gymraeg gan Branwen Davies; cyfarwyddwyd gan Zoë Waterman; golygu sain a dylunio gan Rhys Young. Recordiwyd Deuce yn Hoot Studios, Caerdydd.
Mae Deuce yn gynhyrchiad gan Illumine Theatre, mewn partneriaeth â Phartneriaeth Genomeg Cymru ac ar y cyd â Pharc Geneteg Cymru.
Os yw’r materion a godwyd yn Deuce wedi effeithio arnoch, mae cefnogaeth a gwybodaeth ar gael gan Sefydliad Prydeinig y Galon, Cardiomyopathy UK a Genetic Alliance UK
Alys: Ella Peel
Daf: Daniel Lloyd
Bethan / Gwestai: Mari Beard
Sylwebydd Un: Gareth John Bale
Sylwebydd Dau: Mali Ann Rees
Awdur: Lisa Parry
Cyfieithydd: Branwen Davies
Cyfarwyddwr: Zoë Waterman
Dylunio a golygu sain: Rhys Young
Mon, 03 Jul 2023 12:00:00 GMT
Deuce, drama sain newydd gan Lisa Parry, gydag Ella Peel a Daniel Lloyd yn serennu - dyddiad rhyddhau 3 Gorffennaf!
Mae Deuce yn gynhyrchiad gan Illumine Theatre, mewn partneriaeth â Phartneriaeth Genomeg Cymru ac ar y cyd â Pharc Geneteg Cymru.
Fri, 30 Jun 2023 12:00:00 GMT
Mae Deuce yn ddrama sain newydd gan Lisa Parry, gydag Ella Peel a Daniel Lloyd yn serennu.
Mae’r seren tennis iau, Alys Harris yn llewygu ar y prif gwrt yn Wimbledon. Tra bod Alys yn yr ysbyty mewn coma, mae hi'n ymwybodol o ymwelydd - ond beth mae ysbryd ei diweddar dad oedd yn arfer fod yn chwaraewr tennis proffesiynol yn ei wneud yno?
Dyddiad rhyddhau 3 Gorffennaf!
Wed, 28 Jun 2023 12:00:33 GMT