Trafod hefo rhai o genod mwyaf di-flewyn-ar-dafod Cymru.Podlediad yn dathlu merched Cymru, trwy geisio canfod pa nodweddion mae nhw’n ei rannu hefo gwrachod confensiynol.
Gwefan: Gwrachod Heddiw
CALAN GAEAF HAPUS WITCHEZ! Dyma bennod newydd o Gwrachod Heddiw i ddathlu. Yn y bennod yma, dwi'n siarad hefo'r actor / perfformiwr / bardd / cyfarfwyddwr o fri Lauren Albertina-Morais am yr holl bethau sydd yn ei gwneud hi'n wrachaidd.
Mwynhewch Hags,
A Plis @iwch fi hefo'ch gwisgoedd gwrachaidd!
Byddwch wych, Byddwch Wrachaidd
Sun, 31 Oct 2021 05:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchSgwrs gyda'r swynwraig Mhara Starling am wir ystyr y term "Gwrach". Yn y bennod hir hon o Gwrachod Heddiw, mae Mhara yn sôn am hanes swyngyfaredd a doethgrefft yng Nghymru, ei hanes personol hi a'r rhwystrau mae hi wedi wynebu yn ei bywyd i gyrraedd lle mae hi rŵan. Sgwrs ddwys, ddigri ac ysbrydol!
Byddwch Wych, Byddwch Wrachaidd xoxo
Tue, 17 Aug 2021 04:00:00 +0100
Chwarae LawrlwythwchSgwrs am Iechyd meddwl, cynrychiolaeth o ferched ifanc Mwslimaidd yn y cyfryngau yng Nghymru a ffitio mewn. Ymunwch hefo Mari Elen mewn sgwrs gwrachaidd hefo'r awdur ifanc Mahum Umer, un o gyd-awduron cyfres y Pump.
Mon, 19 Jul 2021 23:00:00 +0100
Chwarae LawrlwythwchTrafod hefo'r wrach Llinos Anwyl am ei chelf, pwer geiriau, pwysau teulu ar dy hunaniaeth a sut oedd merched yn cosbi dynion oedd yn gneud petha rybish yn yr hen ddyddiau.
Tue, 11 May 2021 17:00:00 +0100
Chwarae LawrlwythwchYr actor a’r model Emmy Stonelake ydy’r wrach dwi’n sgwrsio hefo heddiw, am nabod dy hun, cathod, drag race a bod yn ferched blewog ✨
Tue, 20 Apr 2021 06:00:00 +0100
Chwarae LawrlwythwchNabod dy werth, nabod dy gorff a Jini Me Jos. Sgwrs hefo'r perfformiwr / gwneuthiwr theatr a'r artist, Mirain Fflur am yr holl bethau sydd yn ei gwenud hi'r gwrach ydy hi.
Mwynhau y podlediad? Hoffwch, tanysgrifiwch a rhowch adolygiad bach. Mae o'n gwneud BYD o wahaniaeth, coeliwch chi fi! Trydarwch gan ddefnyddio #GwrachodHeddiw i adael i mi wybod pa bethau Gwrachaidd 'dachi 'di bod yn gwneud, rhannwch hefo ffrind a sleidiwch mewn i'n DMs i.
Bydwch wych, byddwch wrachaidd XOXO
Tue, 30 Mar 2021 03:00:00 +0100
Chwarae LawrlwythwchHeuldro'r Gaeaf Hapus fy swynwragedd ysbennydd!
Ym mhennod ola'r gyfres mi ydw i'n trafod hefo'r Academwrach hyfryd Hanna Hopwood Griffiths am ferched yr oesoedd canol , gwallt, esgor a sut mae hi'n gwneud ei bywyd hi'n haws.
Diolch am eich cefnogaeth yn ystod y misoedd diwethaf, dwi'n lyfio witchez fi.
Mon, 21 Dec 2020 14:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchDoula, Mam, Gwrach o Waunfawr. Sgwrs hefo'r hyfryd Mama Lleuad (Catrin Jones) am foddion, rhianta, placenta a natur.
Mwynhewch!
Wed, 09 Dec 2020 11:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch"Pan dwi'n cymharu'n ateb wan hefo be dd'udodd Mared Llywelyn am ri mwyar duon ym mhoced ei chwaer dwi fatha: Wyt ti'n serious?!"
Sgwrs hefo'r bardd a'r awdur Llio Maddocks am berthnasau, Ffrindiau, Matilda, yr obsesiwn hefo : "Dwi ddim fatha' genod eraill", periods a lot o chwerthin!
Mwynhewch!
Wed, 25 Nov 2020 15:00:00 +0000
Chwarae LawrlwythwchMadarch, cwtshus i goed, byw ben dy hun ac wrth gwrs Siwsi Dôl-y-Clochydd. Sgwrs hefo Brenhines byd gwrachaidd Cymru, Bethan Gwanas.
"Hefo synhwyro ysbrydion, ella dyna pam dwi’n gallu byw mewn tŷ ben fy hun... ma’ ‘na ysbrydion bob man, dwi’m yn gweld nhw... poeni dim arna fi”
Wed, 04 Nov 2020 19:00:00 +0000
Chwarae Lawrlwythwch