-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Yr Haclediad

Yr Haclediad

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Gwefan: Yr Haclediad

RSS

Chwarae Yr Haclediad

Rhagflast o'r Podcast

Wedi clywed am Yr Haclediad ar ôl ein llwyddiant ysgubol yn dod yn 2il yng Ngwobrau’r British Podcast Awards? Dim clem be ydy’r sioe random yma? Gwranda ar y nugget aur yma – dyma oreuon o’n sgyrsiau o 2019! Am fwy fel hyn bob mis, sdicia ni yn dy app podlediadau neu cer i haclediad.cymru (https://haclediad.cymru)

Tue, 14 Jul 2020 12:30:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Bwncath Seepage

Croeso i blow out diwedd y gwyliau i griw'r Haclediad - da ni'n rhoi Haf 2023 i'w wely gyda kraken o benod i chi ☺️ Ymunwch gyda Bryn, Sions ac Iestyn i weld final death throws TwiXter, yr argymhellion i gael awdurdod darlledu i Gymru a holi sut allith yr Eisteddfod ehangu allan o'r maes yn ddigidol... hyn oll a'r campwaith o FfilmI'rDim "Master and Commander: Far side of the World", pa weevil basa chi'n dewis?🤔 Saethwch eich cannon balls llawn arian draw i'r cyfrif KoFi neu rhannwch y sioe efo rwyn sydd angen cwtsh clustiau 😘 Diolch am eich cefnogaeth 🫶

Mon, 28 Aug 2023 10:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Treklediad: Deep Space Bryn

O'r diwedd, mae Bryn, Sions a Iestyn wedi ffendio ffordd i neud yr Haclediad yn hydynoed mwy o niche podcast na'r arfer... Ni'n neud pennod ar ffilm Star Trek 🤣 Na, na, peidiwch â mynd! Mae'n OK, mae genno ni lwyth o bethe arall, addo 😅 Fel bod ceir self driving rŵan yn road legal yn y DU, yr hwyl sydd i gael efo Bard a Bing, y trend weird o ffrydwyr NPCs ar Onlyfans ac wrth gwrs... Da ni'n gwylio Star Trek: Nemesis SORI NOT SORI. (cafodd y pod ei recordio CYN i Elon gael un normal iawn a newid Twitter i X dros nos - ond i fod yn onest, sa ni just wedi neud jôcs Vin Diesel am y peth probabli) Diolch o galon o bob UN ohonoch chi sy'n gwrando, a'r Unicorn Investors sy'n cyfrannu bob mis i gadw ni i fynd - da chi gyd yn blydi gwych 🥹

Sat, 29 Jul 2023 12:30:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Caernarfon Has Fallen

Rhy boeth i gysgu? Aircon yn freuddwyd pell? WEL, co’ chi Haclediad mis Mehefin i ffanio chi efo breezy chat tri ffrind am dechnoleg, billionaires a ffilms rybish Byddwn ni’n sipian coctêls oer a thrafod Reddit, VR Headset freaky newydd Apple, trip Bryn i dŷ’r Cyffredin a FfilmAmDdim-DiDdim waethaf (?) ein run ni o 40 hyd yn hyn: London has Fallen. Diolch o galon i bob un ohonnoch chi sy’n gwrando ac yn cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) bob mis - chi’n ridic a da ni’n meddwl y byd ohonoch!

Mon, 26 Jun 2023 12:30:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Byth Di Bod i Japan

Mae’r Haclediad yn cael ei recordio mewn golau ddydd o’r diwedd -yup, mae’r haf yn dod! Byddwch yn barod am FfilmDiDdim(AmDdim) ridic o boncyrs - yr anhygoel Adventures of Buckaroo Banzai Across the 8th Dimension 😨 Hefyd y mis yma fe gewch chi chydig iawn o actual newyddion tech, a llwyth o travel vlog Sions wrth iddi ddychwelyd o daith gyfareddol i Japan 🗾 Hyn oll a llawer mwy ar Haclediad Mis Mai! Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, rhannu a hoffi’r sioe - chi werth y byd ❤️

Sun, 28 May 2023 20:15:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

AI Generated Gwynfor Evans

Be, pennod mis Ebrill YN mis Ebrill?! Ydy, mae'r Haclediad nôl i'w threfn arferol - gyda pennod jiwsi arall i'ch clustiau chi. Mis yma bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod Humane AI a'i dyfais syth allan o'r ffilm "She", Alarms UK, Sioned yn ymuno â Mastodon fel rhywfath o hipster ac ein Ffilm Di Ddim Gymraeg gyntaf Y SŴN! A fydd Bryn yn cofio ei login S4C Clic? A fydd Sioned yn hitio'r sub standard tonic chydig yn galed? A fydd Iestyn yn pivotio i fod yn Anson Mount lookalike?! Yr atebion i hyn a llawer mwy yn Haclediad 121! Diolch am wrando, etc!!

Sat, 29 Apr 2023 17:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Pennod Mis Mawrth but make it Mis Ebrill / “Cocaine be?!”

Mae hi di bod yn 'bit of a Mis' i griw'r Haclediad - so dyma chi treat bach, pennod mis Mawrth, ond ym mis Ebrill! Gyda franchise killer o Ffilm di Ddim, yr infamous Divergent:Allegiant, llwyth mwy o scramblo brêns gyda AI a fideo brilliant newydd arall ar y Metaverse gan Dan Olson mae genno ni gwerth mis o sioe arall i chi AM DDIM! Os hoffech chi helpu allan efo costau creu'r sioe a bil therapi'r cyflwynwyr, taflwch bit coin neu ddwy drew i'n cyfrif Ko-Fi fan hyn (https://ko-fi.com/haclediad) 😘 ☕ Diolch eto, a welwn ni chi ddiwedd y mis 😍

Sun, 02 Apr 2023 12:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

The Iest and the Furious

Dewch am dro draw i diroedd pell Mastodon efo'r Haclediad mis yma - bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn gweld sut mae dechrau o'r dechrau ar rwydwaith gymdeithasol sy'n chydig o ddrysfa o'r tu allan. Da ni yma i ddal eich llaw i neud y naid! Byddwn ni hefyd yn rhoi Iest Test i'r frwydr am hawliau trans, yn ogystal â gwylio ffilm di ddim sy mor ridiculous allwn ni ddim hyd yn oed: Furious 7 Diolch o galon i bob un ohonoch chi sy'n gwrando, cefnogi a chyfrannu bob mis - caru chi! 😘

Thu, 23 Feb 2023 17:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Sh*tcake Mushrooms

Blwyddyn newydd dd- wps! OK so mae'r Haclediad braidd yn hwyr efo'r cyfarchion, ond dyma chi gwerth mis arall o #cynnwys tech a pop culture i'ch cadw i fynd yn 2023! Da ni'n popio draw i CES i weld skins newydd i dy gar, sensor piso a sut i optimeiddio dy hun i fod yn super hiwman. Ond pwy sydd angen hiwmans pan fydd AI yn neud y job drosa ni eniwe? Ffilm di ddim y mis ydy'r epic oesol Warcraft gan ffrind y sioe Duncan Jones - a bydd Iest, Bryn a Sions yn argymell beth ddylai chi wylio yn lle hwnnw yn yr after party. Joiwch, diolch am bob cyfraniad (https://ko-fi.com/haclediad) a welwn ni chi mis nesa!

Sun, 29 Jan 2023 23:45:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Sharknadodolig on Ice

Da ni’n dathlu heuldro’r gaeaf yn yr unig ffordd bosib eleni - efo llwyth o booze a ffilm ofnadwy(o dda!) Iep, mis yma ni’n parhau i CSI-io diwedd Twitter, yn gegrwth efo sgams FTX, ac yn dathlu FIND Y FLWYDDYN gan Iest - ffilm A CHRISTMAS ICETASTROHE (2014) Diolch o galon i chi GYD am wrando, cyfrannu a chefnogi elenni - welwn ni chi am fwy yn 2023 🥰

Sat, 24 Dec 2022 13:45:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy