-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Yr Haclediad

Yr Haclediad

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Gwefan: Yr Haclediad

Mwy o bodlediadau Sioeau Ffeithiol

RSS

Chwarae Yr Haclediad

Rhagflast o'r Podcast

Wedi clywed am Yr Haclediad ar ôl ein llwyddiant ysgubol yn dod yn 2il yng Ngwobrau’r British Podcast Awards? Dim clem be ydy’r sioe random yma? Gwranda ar y nugget aur yma – dyma oreuon o’n sgyrsiau o 2019! Am fwy fel hyn bob mis, sdicia ni yn dy app podlediadau neu cer i haclediad.cymru (https://haclediad.cymru)

Tue, 14 Jul 2020 12:30:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Large Language Model Croft: Tomb Raider

Gyda S4C yn sacio un pennaeth ac Open AI yn sacio/ddim sacio un nhw, dyma bodlediad i chi sy wastad dan yr un arweinyddiaeth gadarn... ond sydd hefyd ddigon twp i wylio ffilms ofnadwy bob mis😅 Yn Haclediad Mis Tachwedd bydd Iest, Bryn a Sions yn datgymalu dyfodol OpenAI a’r Gynhadledd Bletchley; trafod mysterious airtags yn ymddangos ar dy ffôn; ffindio’r clustffonau bach gorau ac wrth gwrs gwylio Lara Croft: Tomb Raider ar BBC iPlayer am laffs y #FfilmAmDdim Da ni’n hynod ddiolchgar i bawb sy’n gwrando a chyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) bob mis - diolch arbennig i Matt M a Jamie am roddion hael mis Tachwedd☺️

Wed, 29 Nov 2023 10:30:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Tri Gwrach, un Pwmpen

Ma genno ni bennod mwy sgeri na climate change i chi Mis yma - neu mwy sgeri nac AI oleia😏 Ymunwch â’r frightmasters eu hunain, Iestyn, Bryn a Sions i drafod y Google Pixel 8, printers (!) a sut i wneud dim byd gyda Jenny Odell 😴 FfilmAmDdim y mis ydy The Witches of Eastwick - ffilm gwallt mawr gorau'r ganrif ddiwethaf? Gewch chi weld 🧙‍♀️🧙‍♀️🧙‍♀️ Diolch i Daf y Gath, ab Agwedd a Jamie am gyfraniadau arbennig i'r pot KoFi mis yma - da ni'n wirioneddol stunned pan mae gwrandawyr yn cyfrannu, diolch o galon i chi gyd 🥹 🎃 Calan Gaeaf hapus - joiwch spooky season 🕷️

Tue, 31 Oct 2023 15:00:00 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

SpecsDols G.I. Ken

Hwciwch y pumpkin spice lattes na i'ch veins i ddathlu dechre'r hydref efo Bryn, Iest a Sions 🍂🍁 Mae'r dyfeisiadau diweddaraf gen Apple, Amazon a Google dan y chwyddwydr - yn ogystal â bill amddiffyniad plant digidol llywodraeth Prydain a pa mor syndod o ddefnyddiol ydy Bing chat 💡 Ond mae na laffs hefyd - mae'r Ffilm Di Ddim Am Ddim mis yma yn un o'r rhai mwyaf contrafyrshal ers Valerian! Ydy G.I. Joe Origins: Snake Eyes (Channel 4) yn ffilm o ddychymyg bachgen 11 oed efo cool sword fights, neu yn llanast llwyr fel gyrfa Henry Golding druan? Gwrandewch i ffeindio allan! Diolch i bawb am wrando a chefnogi - popiwch geiniog yn y cwpan KoFi (https://ko-fi.com/haclediad) i helpu efo'r costau hostio os da chi'n joio be chi'n clywed 😘🙏

Sun, 24 Sep 2023 22:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Bwncath Seepage

Croeso i blow out diwedd y gwyliau i griw'r Haclediad - da ni'n rhoi Haf 2023 i'w wely gyda kraken o benod i chi ☺️ Ymunwch gyda Bryn, Sions ac Iestyn i weld final death throws TwiXter, yr argymhellion i gael awdurdod darlledu i Gymru a holi sut allith yr Eisteddfod ehangu allan o'r maes yn ddigidol... hyn oll a'r campwaith o FfilmI'rDim "Master and Commander: Far side of the World", pa weevil basa chi'n dewis?🤔 Saethwch eich cannon balls llawn arian draw i'r cyfrif KoFi neu rhannwch y sioe efo rwyn sydd angen cwtsh clustiau 😘 Diolch am eich cefnogaeth 🫶

Mon, 28 Aug 2023 10:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Treklediad: Deep Space Bryn

O'r diwedd, mae Bryn, Sions a Iestyn wedi ffendio ffordd i neud yr Haclediad yn hydynoed mwy o niche podcast na'r arfer... Ni'n neud pennod ar ffilm Star Trek 🤣 Na, na, peidiwch â mynd! Mae'n OK, mae genno ni lwyth o bethe arall, addo 😅 Fel bod ceir self driving rŵan yn road legal yn y DU, yr hwyl sydd i gael efo Bard a Bing, y trend weird o ffrydwyr NPCs ar Onlyfans ac wrth gwrs... Da ni'n gwylio Star Trek: Nemesis SORI NOT SORI. (cafodd y pod ei recordio CYN i Elon gael un normal iawn a newid Twitter i X dros nos - ond i fod yn onest, sa ni just wedi neud jôcs Vin Diesel am y peth probabli) Diolch o galon o bob UN ohonoch chi sy'n gwrando, a'r Unicorn Investors sy'n cyfrannu bob mis i gadw ni i fynd - da chi gyd yn blydi gwych 🥹

Sat, 29 Jul 2023 12:30:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Caernarfon Has Fallen

Rhy boeth i gysgu? Aircon yn freuddwyd pell? WEL, co’ chi Haclediad mis Mehefin i ffanio chi efo breezy chat tri ffrind am dechnoleg, billionaires a ffilms rybish Byddwn ni’n sipian coctêls oer a thrafod Reddit, VR Headset freaky newydd Apple, trip Bryn i dŷ’r Cyffredin a FfilmAmDdim-DiDdim waethaf (?) ein run ni o 40 hyd yn hyn: London has Fallen. Diolch o galon i bob un ohonnoch chi sy’n gwrando ac yn cyfrannu (https://ko-fi.com/haclediad) bob mis - chi’n ridic a da ni’n meddwl y byd ohonoch!

Mon, 26 Jun 2023 12:30:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Byth Di Bod i Japan

Mae’r Haclediad yn cael ei recordio mewn golau ddydd o’r diwedd -yup, mae’r haf yn dod! Byddwch yn barod am FfilmDiDdim(AmDdim) ridic o boncyrs - yr anhygoel Adventures of Buckaroo Banzai Across the 8th Dimension 😨 Hefyd y mis yma fe gewch chi chydig iawn o actual newyddion tech, a llwyth o travel vlog Sions wrth iddi ddychwelyd o daith gyfareddol i Japan 🗾 Hyn oll a llawer mwy ar Haclediad Mis Mai! Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, rhannu a hoffi’r sioe - chi werth y byd ❤️

Sun, 28 May 2023 20:15:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

AI Generated Gwynfor Evans

Be, pennod mis Ebrill YN mis Ebrill?! Ydy, mae'r Haclediad nôl i'w threfn arferol - gyda pennod jiwsi arall i'ch clustiau chi. Mis yma bydd Iest, Bryn a Sions yn trafod Humane AI a'i dyfais syth allan o'r ffilm "She", Alarms UK, Sioned yn ymuno â Mastodon fel rhywfath o hipster ac ein Ffilm Di Ddim Gymraeg gyntaf Y SŴN! A fydd Bryn yn cofio ei login S4C Clic? A fydd Sioned yn hitio'r sub standard tonic chydig yn galed? A fydd Iestyn yn pivotio i fod yn Anson Mount lookalike?! Yr atebion i hyn a llawer mwy yn Haclediad 121! Diolch am wrando, etc!!

Sat, 29 Apr 2023 17:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Yr Haclediad

Pennod Mis Mawrth but make it Mis Ebrill / “Cocaine be?!”

Mae hi di bod yn 'bit of a Mis' i griw'r Haclediad - so dyma chi treat bach, pennod mis Mawrth, ond ym mis Ebrill! Gyda franchise killer o Ffilm di Ddim, yr infamous Divergent:Allegiant, llwyth mwy o scramblo brêns gyda AI a fideo brilliant newydd arall ar y Metaverse gan Dan Olson mae genno ni gwerth mis o sioe arall i chi AM DDIM! Os hoffech chi helpu allan efo costau creu'r sioe a bil therapi'r cyflwynwyr, taflwch bit coin neu ddwy drew i'n cyfrif Ko-Fi fan hyn (https://ko-fi.com/haclediad) 😘 ☕ Diolch eto, a welwn ni chi ddiwedd y mis 😍

Sun, 02 Apr 2023 12:00:00 +0100

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Mwy