-> Eich Ffefrynnau

Heb Asid: Storïau o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru

Heb Asid: Storïau o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru

Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru sy’n cyflwyno Heb Asid, cyfres o bodlediadau a straeon digidol sy’n bwrw golwg ar themâu a hanesion bywydau go iawn yn ein casgliadau. Yma yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru mae gennym filoedd o gofnodion hanesyddol lleol sy’n cynnwys bron naw can mlynedd o hanes yr ardal. Mae’r ddogfen hynaf sydd gennym ar hyn o bryd yn dyddio o 1138 ac rydym yn dal i gasglu eitemau heddiw. Ymunwch â’n harchifwyr a’u gwesteion arbennig wrth inni graffu’n fanylach ar y bobl a’r hanesion yn ein casgliadau a dod â rhai o’r straeon anhygoel yn fyw.

Gwefan: Heb Asid: Storïau o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru

RSS

Chwarae Heb Asid: Storïau o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru

Tu Hwnt i’r Inc a’r Papur: Y Casgliad Beiblau Cymraeg

Ymunwch â Bethan Hughes a Hedd ap Emlyn a fydd yn trafod cefndir y Casgliad Beiblau Cymraeg a ddaeth i law yn ddiweddar yn Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru.

Yn y bennod hon o Heb Asid, bydd Bethan a Hedd yn ymchwilio i darddiad y casgliad, y gwahanol ffyrdd y daeth y Beiblau amrywiol i law ac arwyddocâd y casgliad i Ogledd Ddwyrain Cymru.

Cerddoriaeth: The Long Way Home gan Scott Buckley – rhyddhau o dan. www.scottbuckley.com.au

Thu, 14 Mar 2024 10:08:16 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Heb Asid: Storïau o Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru

Oriel y Dihirod: Troseddwyr Gogledd Ddwyrain Cymru yn Oes Fictoria


Ymunwch â ni wrth inni ymchwilio i fywydau troseddwyr yn Oes Fictoria a thrafod y ffotograffau’r oedd yr heddlu’n eu defnyddio, y cosbau a roddwyd i bobl a chyflwr carchardai ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’r bennod hon yng nghyfres Heb Asid yn canolbwyntio ar ddwy o gyfrolau clawr lledr digon cyffredin yr olwg yn ein casgliadau, y “Llyfrau Lladron” sy’n llawn lluniau o ddrwgweithredwyr wedi’u dal ynghyd â disgrifiadau corfforol ohonynt a manylion am eu troseddau. Cafwyd y rhan fwyaf o’r troseddwyr yn y cyfrolau’n euog yn Rhuthun, ac eithrio ambell rai a aeth o flaen eu gwell mewn mannau eraill. Yr Uwch-arolygydd J Bradshaw oedd yn gyfrifol am gasglu’r cyfrolau at ei gilydd a byddai’r heddlu wedi eu defnyddio i adnabod drwgweithredwyr â chysylltiadau â gogledd Cymru.

Ein gwestai ar gyfer y podlediad hwn yw Richard Ireland.

Bu Richard Ireland yn darlithio yn Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth am ddeugain mlynedd cyn iddo ymddeol, yn arbenigo mewn hanes trosedd a chosb. Mae Richard wedi ysgrifennu llawer o erthyglau a nifer o lyfrau ar y pwnc, gan gynnwys Land of White Gloves?  A History of Crime and Punishment in Wales. Mae wedi bod ar y radio a’r teledu sawl gwaith hefyd, gan gynnwys y One Show ar BBC1 mewn darn wedi’i ffilmio yng Ngharchar Rhuthun yn sôn am drosedd a ffotograffiaeth.

Ein Swyddog Ymgysylltu Cymunedol, Katie, sy’n holi Richard.

Bydd y bennod hon yn cael ei chyflwyno yn Saesneg ond cadwch lygad am gynnwys Cymraeg gennym yn y dyfodol.

Cerddoriaeth: No.3 Morning Folk Song - Esther Abrami

Mon, 20 Nov 2023 10:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch