
SMART Towns Wales #1 - The why, the what and the how
This podcast takes a look back at the 4 Smart Town Masterclasses which highlighted how towns in Wales could benefit from Smart Technology to help them recover from the impact of COVID 19. The podcast also provides an overview of the support which will be available to towns via the Welsh Government as part of the 'Year of SMART Towns' project. Contributing to the podcast is Clive Davies from Cardigan, Linda Chandler from Hyperlocal Cities, and Dafydd Gruffydd from Menter Môn.
Mae'r podlediad yn edrych yn ôl ar y 4 gwersfeistr Trefi Smart oedd yn amlygu sut mae trefi yng Nghymru yn medru buddio wrth ddefnyddio Technoleg Smart. Mae'r podlediad hefyd yn rhoi trosolwg o'r gefnogaeth sydd ar gael i drefi fel rhan o'r cynllun "Blwyddyn Trefi Smart' Llywodraeth Cymru. Yn cyfrannu mae Clive Davies o Aberteifi, Linda Chandler o Hyperlocal Cities a Dafydd Gruffydd o Menter Môn.
Thu, 01 Apr 2021 16:19:56 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Beth yw dyfodol y Stryd Fawr?
Sgwrs rhwng Alaw Williams, Mirain Rhisiart a Cynan Glyn o ail cohort Llwyddo’n Lleol. Mae Cynan yn gobeithio agor siop goffi ar stryd fawr Caernarfon, ble mae Mirain yn rhedeg siop INDI ar-lein, ac mae Alaw am agor bar ‘Jinsan’ gan ddefnyddio hen drelar ceffyl. Tri a ffyrdd gwahanol o redeg ei busnesau, felly beth yw eu teimladau a meddyliau am ddyfodol ein strydoedd mawr?
Wed, 03 Mar 2021 09:26:52 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Ffiws - Rhys yn sgwrsio gyda Menai
Gofod Gwneud cydweithredol sydd wedi cael ei leoli yn 125 Stryd Fawr, Porthmadog ydi Ffiws. Mae’r gofod yn cynnwys amryw o wahanol offer uwch-dechnolegol yn ogystal â offer electroneg ac offer llaw. Gan bod Ffiws ar gau ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid-19, dyma sgwrs yn trafod Ffiws rhwng Rhys, Swyddog Prosiect Arloesi Gwynedd Wledig, a Menai, un o dechnegwyr Ffiws.
Fri, 12 Feb 2021 11:51:50 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Be wnawn ni hefo hefo gwlân? Sgwrs gyda Geraint Hughes am webinarau AGW
Yn y bennod yma mae Elin, Swyddog Prosiect Arloesi Gwynedd Wledig yn sgwrsio gyda Geraint Hughes am yr heriau sy’n wybebu’r diwydiant gwlân.
Fri, 06 Nov 2020 14:59:28 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Cwblhau gradd Prifysgol o sied, mewn gardd, yn Nefyn...
Sgwrs am y byd ffasiwn rhwng Swyn Ann Rice ac Eurgain Lloyd. Pan ddaw ein ‘steddfod, gigs, a digwyddiadau cymdeithasol yn ôl, bydd dilladau organig, unigryw a glow in the dark yn barod ar ein cyfer! 😍
Fri, 02 Oct 2020 14:35:51 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

A’i trend ydy symud i Gaerdydd?
Datganoli adranau o’r llywodraeth? 🤔
A’i trend ydy symud i Gaerdydd? 😱
Ydy’r system addysg wedi dyddio? 🥱
Ffermwyr mewn siwtiau a tyrau gwydr? 🤭
Gwrandewch ar bodlediad diweddaraf Llwyddo’n Lleol i glywed y sgwrs ddifyr yma.
Mae’n hen bryd i bobl ifanc gymryd y set flaen i drafod pethau fel hyn. Diolch Sioned ac Osian am gymryd rhan.
Fri, 04 Sep 2020 16:24:07 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Lleucu Gwenllian, un o griw LlLl 2050 yn holi’r artist, Lisa Taylor.
Mae Lleucu Gwenllian yn un o’r 14 entrepreneur ifanc sy’n rhan o griw Llwyddo’n Lleol 2050. Ei breuddwyd yw agor stiwdio greadigol yng Ngogledd Cymru, sy’n cynnig llwyfan a sicrwydd i unigolion eraill sy’n rhannu’r un doniau. Mae Lisa Taylor yn artist anhygoel, ac yn engrhaifft arbennig o rhywun sydd wedi taclo’r ddamcaniaeth nad oes posib llwyddo yn ei milltir sgwar. Dyma gyfle i Lleucu i’w holi hi am ei phrofiadau. Gwrandewch!
Wed, 29 Jul 2020 21:09:24 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Iechyd Meddwl - rhywbeth sy’n bwysig i ni gyd. Arddun, Erin ac Elen sy’n trafod...
Mae gan bawb iechyd meddwl, ond nid pawb sy’n siwr sut i siarad amdano ar adegau. Mae hyn yn enwedig pan nad yw’r meddwl mor iach ac y gallai fod. Dyma Arddun (meddwl.org) yn sgwrsio gyda Erin, un o’r criw Llwyddo’n Lleol sydd newydd gymhwyso fel hyfforddwraig iechyd meddwl ac eisiu datblygu ei gwasanaeth. Trafodaeth gonest sydd yma, gan obeithio fydd y gwaith mae’r ddwy yn ei wneud yn eu meysydd yn cynnig help llaw i’r rhai hynny sydd ei angen. “Does dim cywilydd gofyn am help...”
Tue, 14 Jul 2020 19:29:30 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Llundain > Gogledd Orllewin Cymru?
Mae Ifan Huw yn wreiddiol o Morfa Nefyn ond bellach yn byw yn Llundain... gwrandewch i glywed ei bersbectif o ar fywyd mewn dau fyd mor wahanol.
Tue, 30 Jun 2020 11:30:04 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Y da a’r drwg am aros yn lleol - gyda Jim Ellis
Sgwrs gonest yn cwestiynu, procio a herio’r sefyllfa sy’n wynebu ni fel pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru. Yda ni’n disgwl gormod? Yda ni’n styc mewn limbo? Oes na gyfleoedd? Gwrandewch ar beth sydd gan Jim i’w ddweud am ei ymgais o i lwyddo, a hynny yn lleol.
Thu, 18 Jun 2020 18:05:00 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Reboot Covid i Llwyddo’n Lleol
Mae Llwyddo’n Lleol wedi gorfod addasu yn sgîl COVID ond mae’r angen cymaint ag erioed. Dyma Elen a Dafydd yn siarad am y cynllun a sut byddwn yn cydweithio â phobl ifanc Môn a Gwynedd i ddangos fod modd llwyddo’n lleol.
Fri, 05 Jun 2020 12:43:04 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

The potential of producing and using Hydrogen as a fuel source on Ynys Môn
Dafydd from MM and Guto Owen from discuss the creation of a Hydrogen Hub on Ynys Mon to take advantage of renewable energy production in the area, and serve a potential significant market.
Mon, 10 Feb 2020 19:29:01 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Potensial cynhyrchu a defnyddio Hydrogen ar Ynys Môn.
Dafydd o MM a Guto Owen o Ynni Glan yn trafod potensial cynhyrchu a defnyddio Hydrogen yng Nghaergybi. English version also available.
Mon, 10 Feb 2020 19:21:28 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Why did Arloesi Gwynedd Wledig put Fitbits on cows?
In this episode we're discussing Arloesi Gwynedd Wledig's Fitbit on Cows project, which trialled tracking devices on a sample of cows at Glynllifon Farm College. Listen to expert James McIntyre, who installed the technology on the farm, and Rhodri Owen, Glynllifon Farm Manager, discuss the pilot and their initial opinion on the data collected.
The project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government. It’s also part funded by the Nuclear Decommissioning Authority (NDA) and Gwynedd Council.
Thu, 30 Jan 2020 17:42:46 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

How Crowdfunding has helped Menter Y Plu
In this episode Eleth talks to Tegid Jones from Menter y Plu and Rhian Hughes from Arloesi Gwynedd Wledig about their crowdfunding campaign. In the summer of 2019 Arloesi Gwynedd Wledig helped Menter y Plu run a crowdfunding campaign to raise money towards buying Tafarn y Plu in Llanystumdwy. The project has received funding through the Welsh Government Rural Communities - Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government. It’s also part funded by the Nuclear Decommissioning Authority (NDA) and Gwynedd Council.
Thu, 30 Jan 2020 17:42:27 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Sut mae Cyllid Torfol wedi helpu Menter y Plu
Mae Eleth yn siarad gyda Tegid Jones o Menter y Plu a Rhian Hughes o Arloesi Gwynedd Wledig am eu hymgyrch cyllid torfol. Yn haf 2019 bu i Arloesi Gwynedd Wledig helpu Menter y Plu i greu ymgyrch cyllid torfol ar gyfer codi arian i'w galluogi i brynu Tafarn y Plu yn Llanystumdwy. Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.
Thu, 30 Jan 2020 17:42:08 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

How wifi has made Cardigan smarter.
Dafydd talks with Clive Davies about how Cardigan went about installing a public wifi system in the town and have analysed data for the benefit of businesses, residents and visitors.
Mon, 20 Jan 2020 19:33:17 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Sut mae defnyddio wifi cyhoeddus yn Aberteifi i greu data defnyddio er budd busnesau a trigolion.
Mae Dafydd yn cyfweld a Clive Davies am system wifi cymunedol sydd wedi ei osod yn Aberteifi. Mae’r system yn casglu data sydd yn cael ei ddadansoddi a’i ddefnyddio i helpu busnesau, trigolion a ymwelwyr.
Mon, 20 Jan 2020 19:24:29 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Trosolwg o Gynllun Ffermio Fertigol
Trosolwg o gynllun ffermio fertigol Menter Môn gyda Geraint Hughes a Dafydd Gruffydd - fersiwn Gymraeg
Fri, 29 Nov 2019 19:56:07 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Vertical Farming - an introduction
An overview of Menter Mon's vertical farming project - English Version
Fri, 29 Nov 2019 19:51:34 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch

Llwyddo'n Lleol - Dylanwadwyr
Beth ydi Llwyddo'n Lleol 2050? Beth ydi 'dylanwadwr'? Bydd y cwestiynau yma yn cael eu hateb gan Dafydd ac Aaron.
Fri, 29 Nov 2019 10:27:46 GMT
Chwarae
Lawrlwythwch