-> Eich Ffefrynnau

Pen yn y Gêm

Pen yn y Gêm

Podlediad Cymraeg am Feddylfryd ac Iechyd Meddwl o fewn Chwaraeon

Gwefan: Pen yn y Gêm

RSS

Chwarae Pen yn y Gêm

Owain Tudur Jones: Cawr Canol Cae a Chyfryngau Cymru

Yn y bennod yma rwyf yn trafod gydag Owain Tudur Jones, cyn chwaraewr pêl-droed proffesiynol, cyflwynydd Heno ar S4C, a pundit pêl-droed ar raglen Sgorio S4C.


Bu chwarae Owain i sawl tîm ledled Prydain, gan gynnwys cyfnodau yn chwarae yng Nghymru, Lloegr, ac yn yr Alban. Yn ogystal, bu chwarae dros ei wlad ar sawl adeg, yn ennill 7 cap dros Gymru.


Yn anffodus, brwydrodd Owain gydag anafiadau trwy gydol ei yrfa, a bu anafiadau a gwendid i'w ben-glin yn ei orfodi i ymddeol yn 30 oed yn 2015.


Ers hynny mae Owain wedi camu mewn i ddiwydiant y cyfryngau yn naturiol. Ers dechrau ei yrfa yn y cyfryngau mae Owain wedi cyflwyno podlediad The Long Man's Football World Podcast, a chyd-gyflwyno Y Coridor Ansicrwydd gyda Malcolm Allen. Mae hefyd yn gyflwynydd ar raglen S4C Heno, ac yn pundit ar raglen pêl-droed S4C, Sgorio.


Rwyf yn siarad gydag Owain am ei brofiadau yn chwarae i'w glybiau a dros ei wlad, yr effaith corfforol a meddyliol cafodd anafiadau arno, ei ymddeoliad a'r symudiad i ddiwydiant y cyfryngau, a'r chwaraewyr gorau mae erioed wedi chwarae gyda.


Cofiwch ddilyn y podlediad os ydych yn mwynhau'r cynnwys!


Mwynhewch y bennod yma o Pen yn y Gêm!

Mon, 01 Apr 2024 09:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Pen yn y Gêm

Rhodri Jones: Hanes Cymro Cudd Syr Alex Ferguson

Yn y bennod hon rwyf yn siarad gyda chyn-bêl-droediwr Manchester United, Rhodri Jones. Roedd Rhodri wedi ymuno gydag academi’r clwb yn 1996, ac yn rhan o gyfres S4C ‘Giggs, Rhodri a Beckham’ yn y flwyddyn 2000. Ar ôl sawl anaf, bu rhaid i Rhodri ymddeol o bêl-droed yn ifanc iawn, ac erbyn hyn mae’n hyfforddi meddyliau actorion, pobl busnes, a mwy! Dwi’n gofyn i Rhodri am ei amser yng nghwmni Syr Alex Ferguson yn Man U, serennu mewn rhaglen S4C, y broses o ymddeol, a’r hyn mae’n gwneud erbyn hyn ar ôl pêl-droed. Paratowch am raglen llawn straeon diddorol, chwerthin, emosiwn a chyngor ysbrydoledig. Cofiwch ddilyn y Pod, a mwynhewch y bennod yma o ‘Pen yn y Gêm’.

Fri, 02 Feb 2024 07:30:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Pen yn y Gêm

Croeso i Pen yn y Gêm!

Helo, fy enw i yw Jack Thomas, a chroeso i bodlediad Pen yn y Gêm. Yn y podlediad yma byddaf yn siarad ag amryw o bobl o bob ban y wlad am eu profiadau gyda chwaraeon. O bêl-droedwyr y Premier League i Enillwyr aur yng ngemau’r Olympaidd, bydd rhywbeth i bawb ar y podlediad yma. Dwi am ddysgu am yr effaith mae chwaraeon yn cael ar iechyd meddwl, ac yn bwriadu dysgu o’r goreuon, fel mae cael eich pen yn y gêm! Os ydych chi yn edrych ‘mlaen i glywed mwy, dilynwch y pod ac ymunwch â’n tîm. Diolch i chi, mi welai chi cyn hir.

Tue, 30 Jan 2024 07:30:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch