Podlediad yn trafod y gyfres deledu eiconig, ‘C’mon Midffîld’ - gan y ffans, ar gyfer y ffans. Er mai fel cyfres radio y dechreuodd ‘Midffîld’, ar y sgrin fach y gwnaeth ei marc go iawn. Gethin Owen (athro) a Tom Gwynedd (hyfforddwr awyr agored) fydd yn sgwrsio, gyda Caio Iwan (newyddiadurwr) yn llywio’r drafodaeth - tri ffrind sydd wedi tyfu i fyny yn addoli ‘Midffîld’. Bydd y tri yn trafod y penodau fesul un, ac yn cael cwmni gwesteion arbennig - ac annisgwyl - ar hyd y daith. Gwaith dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain
Gwefan: Pod Midffîld!
Mae'r gyfres gynta ar ben ac mae 'na wersi wedi'u dysgu. Yn y bennod arbennig yma, bydd yr hogia'n mynd drwy rai o uchafbwyntiau'r gyfres agoriadol, edrych 'nôl ar gyfraniadau'r gwesteion ac yn trafod rhai o negeseuon y gwrandawyr. Ymysg yr eitemau ar yr agenda mae Yncl Rufus, Post ar y Sul, beirdd cwsg a Geraint Wyn...
Gwefan: podmidffild.cymru Twitter: @podmidffild Facebook: @podmidffild Instagram: @podmidffild Ebost | Email: podmidffild@gmail.com
Tue, 22 Aug 2023 04:00:00 GMT
Ym mhennod ola’r gyfres, mae’r comiti yn gweld cyfle i fanteisio ar ysbryd yr ŵyl er mwyn codi pres i’r clwb. Mae Jean yn bygwth dod â gyrfa lewyrchus Tecs fel goli i ben yn gynt na’r disgwyl, tra bod Wali yn mynd o gwmpas y pentra’ yn “di-di-o”. Mae Picton - sy’n gwrthod gadael i George ddod i ddathlu ato fo a Sandra - yn derbyn ei fod o’n rhy fawr i fod yn Santa Clause. Ond pwy ydi’r person yn y wisg goch? Pwy gythraul sy’ isio twrci noson cyn Dolig? Ac yn bwysicach fyth, sut allwch chi gael watsh Gymraeg? Gwefan: podmidffild.cymru Twitter: @podmidffild Facebook: @podmidffild Instagram: @podmidffild Ebost | Email: podmidffild@gmail.com
Tue, 01 Aug 2023 04:30:00 GMT
Er ei bod hi’n noswyl gêm gwpan fawr, mae’r criw allan yn clybio ym Mhrestatyn. Wrth i Wali ddarbwyllo Picton fod Sandra yn saff yn nwylo Tecs, mae’r goli cyfrifol wedi’i ddallu gan Miss Candy Floss. Yr wythnos yma, bydd yr hogia’n trafod barddoniaeth Eifion Wyn, agwedd Sandra, ac anffyddlondeb Tecs.
Gwestai arbennig: Sian Naiomi
Gwefan: podmidffild.cymru Twitter: @podmidffild Facebook: @podmidffild Instagram: @podmidffild Ebost | Email: podmidffild@gmail.com
Tue, 25 Jul 2023 04:00:00 GMT
Mae’r FA yn bryderus am ymddygiad rhai o glybiau bach y gogledd. Picton sydd â’r dasg ddi-ddiolch o achub cam Clwb Pêl-droed Bryncoch ar y weirles, tra bod George allan yn dathlu’i ben-blwydd. Yn y cyfamser, mae Breian Fawr - ar dennyn rheolwr Llaneurwyn, Ned Thompson - yn chwilio am Gordon Whitehead, sydd wedi caboli efo’i wraig o. Mae’r cyfan yn mynd o ddrwg i waeth mewn gêm danllyd rhwng y ddau dîm.
Gwestai arbennig: Ian Gwyn Hughes
Gwefan: podmidffild.cymru Twitter: @podmidffild Facebook: @podmidffild Instagram: @podmidffild Ebost | Email: podmidffild@gmail.com
Tue, 18 Jul 2023 04:00:00 GMT
Mae ‘na ladron ym Mryncoch a chariad yn yr aer. Ond wrth i berthynas George a Sandra flodeuo, mae sawl un yn cael bai ar gam am y dwyn. Nid ‘pwy wnaeth’ ydi’r cwestiwn ar wefusau’r hogia wythnos yma, ond yn hytrach, faint oed ydi Elsi? Pwy oedd cyflwynydd ‘Pwy ‘di Pwy?’? A pham fod Tecs yn neud rownd bost ar y Sul? Gwefan: podmidffild.cymru Twitter: @podmidffild Facebook: @podmidffild Instagram: @podmidffild Ebost | Email: podmidffild@gmail.com
Tue, 11 Jul 2023 04:00:00 GMT
Mae Bryncoch angen streicar - ond ai “fandal” o’r dre ydi’r ateb i broblemau’r tîm? Yn yr ail bennod, bydd yr hogia’n trafod ymddangosiad cynta’ un o hoelion wyth y gyfres - y ‘number nine’ (sy’n gwisgo deuddeg) - George Huws.
Gwefan: podmidffild.cymru Twitter: @podmidffild Facebook: @podmidffild Instagram: @podmidffild Ebost | Email: podmidffild@gmail.com
Tue, 04 Jul 2023 04:00:00 GMT
Y bennod gynta’ un, a’r comiti cynta’ un. Mae Picton yn obeithiol ar drothwy tymor newydd, ond buan iawn y mae hynny’n newid. 35 mlynedd ers ei darlledu, bydd yr hogia’n trafod y bennod agoriadol, ac yn trio ateb rhai o gwestiynau mawr bywyd - be’ ma’ Wali yn ei weiddi ar y gwartheg? A fyddai Bryncoch wedi ennill y lîg efo Ritchie yn y tîm? A sut foi oedd yr ‘hen Huw’? Gwesteion arbennig: Wyn Bowen Harries (Tiwdor) a Gwen Ellis (Jên Tŷ Cocyn).
Gwefan: podmidffild.cymru Twitter: @podmidffild Facebook: @podmidffild Instagram: @podmidffild Ebost | Email: podmidffild@gmail.com
Tue, 27 Jun 2023 09:00:27 GMT
Wele ddyfod, mis y mêl, mis y gwcw, mis y... mis y trêl!
Gwefan: podmidffild.cymru
Twitter: @podmidffild
Facebook: @podmidffild
Instagram: @podmidffild
Ebost | Email: podmidffild@gmail.com
Sat, 24 Jun 2023 19:33:34 GMT