Podlediad yng nghwmni'r awdur o Gaerdydd, Llwyd Owen, a fydd yn croesawu gwestai arbennig am siat (ie, siat) yn y sied ym mhob pennod.
Gwefan: Does Dim Gair Cymraeg am RANDOM
Ysbeidiau-Heulog by Llwyd Owen
Sun, 28 Mar 2021 17:35:38 +0000
Chwarae Lawrlwythwch*CAFODD Y BENNOD HON EI RECORDIO O BELL, FELLY MADDEUWCH Y SYNAU CEFNDIROL PLIS!* Orig hyfryd yng nghwmni’r awdur slash sgriptiwr slash academydd slash cantor slash dramodydd slash cynhyrchydd ffilm a theledu, Fflur Dafydd. Pynciau llosg: ffeindio Y cyfrwng, dilysrwydd yr awdur, cydbwysedd gwaith-a-bywyd, bara banana, euogrwydd y gweithiwr llawrydd, Ble the fuck ma Penrhiwllan?, rhieni ysbrydoledig, Cymdeithas yr Iaith, enwau plant sili, eisteddfota, caws, Caryl Lewis, bysgio yn Aberaeron, Johnny Panic, RS Thomas, y gwaith, blydi plant, gwobrau lu, Ynys Enlli, Y Llyfrgell, Euros Lyn, Parch a llawer mwy.
Sun, 13 Dec 2020 14:47:37 +0000
Chwarae Lawrlwythwch