-> Eich Ffefrynnau

Podlediad Rhywbeth Creadigol?

Rhywbeth Creadigol?

Podlediad i weithwyr creadigol a rheiny sydd â diddordeb yn y maes. Bydd Rhywbeth Creadigol? yn dod â gweithwyr ac arbenigwyr o’r diwydiannau creadigol ynghyd i drafod y pynciau llosg sy’n effeithio arnyn nhw ar hyn o bryd, gan graffu ar yr ymchwil ddiweddaraf. Dyma bodlediad gan rwydwaith Caerdydd Creadigol ochr yn ochr â’r gymuned greadigol.

Gwefan: Rhywbeth Creadigol?

RSS

Chwarae Rhywbeth Creadigol?

Rhywbeth Creadigol? 3:3 Iechyd Meddwl yn y Sector Creadigol – Beth Ddylen ni Ystyried?

Yn y bennod hon, ry’n ni’n trafod iechyd meddwl yn y sector creadigol.

Mae Sian Gale yn Rheolwr Sgiliau a Datblygu yn CULT Cymru - sef undebau creadigol yn dysgu gyda’i gilydd - ac yn rhedeg cyrsiau Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl.

Mae Heledd Owen yn ddarlunydd sydd wedi dechrau busnes ei hun ers y cyfnod clo. Mae’n rhannu positifrwydd ac yn siarad yn onest am iechyd meddwl trwy ei chyfrifon cymdeithasol.

Tra bod 1 mewn 4 o bobol yn y Deyrnas Unedig yn dioddef o salwch iechyd meddwl bob blwyddyn, mae gweithwyr yn y sector creadigol tair gwaith mwy debygol o ddioddef o broblemau iechyd meddwl.

Recordiwyd y bennod hon ym mis Awst 2021.

Thu, 21 Oct 2021 20:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhywbeth Creadigol?

Rhywbeth Creadigol? 3:2 - Cymru Creadigol i Bawb - Beth yw Dylanwadwr LHDTC+?

Yn y bennod hon yr ydym yn trafod dylanwadwyr LHDTC+ yng Nghymru creadigol.

Mae Iestyn Wyn yn cyd-gyflwyno podlediad Esgusodwch Fi? ar BBC Sounds gyda Meilir Rhys Williams, ac mae’n gweithio i Stonewall Cymru fel rheolwr ymgyrchoedd, polisi ac ymchwil.

Mae Aisha-May yn actores, perfformiwr sioe gerdd ac yn gyflwynwraig. Aisha oedd un o cyflwynwyr y rhaglen LHDT+ cyntaf i bobl ifanc ym Mhrydain, sef y gyfres Ymbarél ar gyfer Stwnsh ar S4C, ac mae bellach yn cyd-gyflwyno’r podlediad Legally Lesbians.

Soniwyd amdano yn ystod y bennod

Recordiwyd y bennod hon ym mis Awst 2021.

Thu, 07 Oct 2021 21:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhywbeth Creadigol?

Rhywbeth Creadigol? 3:1 - Beth yw Dyfodol Technoleg Cymraeg?

Ym mhennod cyntaf y gyfres, rydyn ni’n cael cwmni Dr Sarah Cooper a Dewi Jones o Brifysgol Bangor i siarad am ddatblygiadau diweddaraf ym myd technoleg Cymraeg. Mae Dr Sarah Cooper yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn arbenigo mewn seineg, dwyieithrwydd a thechnoleg lleferydd. Mae Dewi Jones yn Beiriannydd Meddalwedd yn Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor sydd yn datblygu meddalwedd a systemau technoleg Cymraeg. Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar dechnoleg lleferydd gan fod seinydd clyfar gan 57% o bobl yng Nghymru erbyn hyn, ac mae’n faes sydd yn datblygu a thyfu’n gyflym. Recordiwyd y bennod hon ym mis Awst 2021.

Fri, 24 Sep 2021 08:17:46 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhywbeth Creadigol?

Rhywbeth Creadigol? 2:3 - Sut Le Yw'r Dirwedd Ddigidol - O'r Gweithle I'r Gymuned?

Ym mhennod olaf yr ail gyfres rydyn ni’n siarad am y dirwedd ddigidol yng Nghymru, gweithio ar-lein yn Gymraeg a pharhau i ymgysylltu â chymunedau. Huw Marshall, cyn-bennaeth digidol S4C a sylfaenydd y cyfrif Twitter Yr Awr Gymraeg, ac Angharad Evans, Cynhyrchydd gydag Artis Cymuned, sy’n ymuno â ni ar gyfer y bennod hon. Rydyn ni’n sgwrsio am sesiynau hyfforddi wrth symud o'r swyddfa i'r cartref, defnyddio dwyieithrwydd i ddatrys problemau, yr heriau o ymgysylltu â chymunedau ar hyn o bryd ac effaith y cyfan ar ein lles.

Thu, 15 Oct 2020 21:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhywbeth Creadigol?

2:2 - Sut I Annog Ffasiwn Meddylgar?

Yn ail bennod yr ail gyfres rydyn ni'n sgwrsio am ffasiwn, cynaliadwyedd a chyfrifoldeb gyda'r arlunydd Efa Lois sydd â phodlediad am siopau elusennol a Sylvia Davies sy'n rhedeg y busnes ecogyfeillgar, Eto Eto. Yn y bennod hon rydyn ni'n siarad am ymgymryd â meddwlgarwch ffasiynol, cyfrifoldeb brandiau i fod yn gynaliadwy, uwchgylchu a sut y gallwn ni fel unigolion ofalu am ein planed ac eraill trwy brynu llai a thrysori pob eitem sydd gennym.

Thu, 01 Oct 2020 20:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhywbeth Creadigol?

2:1. Ydyn Ni'n Barod Am Ddiwylliant Digidol?

Ym mhennod gyntaf yr ail gyfres mae'r Cynorthwyydd Datblygu Creadigol gyda National Theatre Wales, Dylan Huw, a Phrif Weithredwr y platfform aml-gyfrwng diwylliannol AM, Alun Llwyd, yn siarad am ffrydio'r celfyddydau, blinder digidol a dyfodol theatr a diwylliant ar-lein. Mae AM yn gymuned aml-gyfrwng yn dathlu a rhannu creadigrwydd diwylliannol Cymru ac ers lansio ym mis Mawrth mae wedi ffrydio Tafwyl a llu o waith celfyddydol arall gan gynnwys cynyrchiadau gan National Theatre Wales fel Go Tell The Bees. Mae National Theatre Wales wedi lansio Network,  rhaglen waith ddigidol newydd, a gynlluniwyd i gysylltu cynulleidfaoedd, cymunedau a gwneuthurwyr theatr â chyfleoedd i greu a phrofi theatr fyw, arloesol a gyflwynir drwy lwyfan digidol.

Thu, 17 Sep 2020 22:07:27 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhywbeth Creadigol?

1:3. Ydy Caerdydd yn Ddinas Cerddoriaeth?

Yn y drydedd bennod o 'Rhywbeth Creadigol?' rydym yn sgwrsio â DJ Bethan Elfyn a Katie Hall o'r band CHROMA, am yr hyn mae bod yn ddinas cerddoriaeth yn ei olygu i Gaerdydd a'r hyn mae'r sîn gerddoriaeth yn y ddinas yn ei olygu iddyn nhw. Mae Bethan Elfyn yn cyflwyno sioe ar BBC Radio Wales, yn cynnal prosiect Gorwelion sy’n cefnogi artistiaid newydd yng Nghymru a hefyd yn aelod o Fwrdd Cerddoriaeth Caerdydd. Katie ydy prif gantores y triawd Alt Rock o’r cymoedd, CHROMA.

Gwrandewch ar sengl ddiweddaraf Chroma, Tair Ferch Doeth, yma. 

Recordiwyd y bennod hon ym mis Ionawr 2020.

Thu, 26 Mar 2020 22:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhywbeth Creadigol?

1:2. A Yw Creadigrwydd Yn Ffordd o Fyw?

Yn ail bennod Rhywbeth Creadigol? rydym yn siarad am y cysylltiad rhwng hapusrwydd a chreadigrwydd gyda'r artist aml dalentog, Ani Saunders. 

Mae Ani'n siarad am ei gyrfa greadigol hyd yn hyn a'i phrosesau creadigol fel cerddor, artist gweledol a ffotograffydd. Mae'n gwneud PhD ar hyn o bryd sy'n edrych ar sut a pham y mae trefi ôl-ddiwydiannol yng Nghymru'n newid ai peidio trwy ymchwilio mewn i'r cyd-destun gwleidyddol, economaidd a diwylliannol ehangach. 

Mae'n creu cerddoriaeth pop electronig yn Gymraeg ac yng Nghernyweg, dan yr enw Ani Glass. Mae ei sengl newydd, Mirores, yn gyfoeth o synth-pop breuddwydiol a bydd gweddill yr albwm yn cael ei gyhoeddi ar y 6ed o Fawrth gyda thaith o Gymru yn dilyn. 

Fri, 21 Feb 2020 11:26:29 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Rhywbeth Creadigol?

1:1. Sut Beth Yw Dylanwadu Digidol?

Ym mhennod gyntaf Rhywbeth Creadigol? rydym yn gofyn y cwestiwn 'Sut beth yw dylanwadu digidol?'. 

Ar ôl clywed sut mae Dr Francesca Sobande o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn diffinio dylanwadwr digidol, mae'r crewyr cynnwys digidol Megan Fflur a Llio Angharad yn rhannu eu syniadau a'u profiadau nhw. 

Mae gan Megan mwy na 13,000 o ddilynwyr ar ei chyfrif ffasiwn Instagram, mae'n llysgennad i Boohoo ac mae'n rhedeg siop ar lein o'r enw Pethau sy'n gwerthu dillad a phethau cartref. 

Mae Llio yn rhannu cynnwys ar-lein am y llefydd gorau i fwyta. Mae ganddi fwy na 13,000 o ddilynwyr ar ei chyfrif Instagram, mae'n llysgennad i Sainsbury's a Beco ac mae'n arbenigo mewn marchnata digidol i Lywodraeth Cymru, yn gweithio ar brosiectau iaith Gymraeg fel Dydd Miwsig Cymru. 



Thu, 23 Jan 2020 22:00:00 GMT

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch