-> Eich Ffefrynnau

Sgwrsio am Brifysgol

Sgwrsio am Brifysgol

Wyt ti’n meddwl tybed a yw'r brifysgol yn iawn i ti? Gwranda ar fyfyrwyr prifysgol sy'n astudio ledled Cymru ar hyn o bryd wrth iddyn nhw rannu eu profiadau.

Byddwn yn trafod beth yw bywyd prifysgol, gan gynnwys y broses ymgeisio, rheoli arian, astudiaeth academaidd, ac addasu i fywyd myfyriwr.

Mae'r gyfres hon yn rhan o Barod ar gyfer Prifysgol, sef casgliad o adnoddau rhad ac am ddim sy'n cefnogi dysgwyr i ddechrau ar eu taith i addysg uwch.

Gelli di ddarganfod mwy wrth fynd i openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol. Mae gennym ni hefyd gyfres Saesneg ‘Let’s talk about Uni’ ar gael ble bynnag wyt ti’n cael dy bodlediadau.

Gwefan: Sgwrsio am Brifysgol

RSS

Chwarae Sgwrsio am Brifysgol

A alla’ i gymryd y naid i astudiaeth academaidd uwch?

Ydych chi’n poeni am yr heriau o astudio yn y brifysgol? Sut beth yw astudiaeth addysg uwch mewn gwirionedd?

Yn y bennod hon rydym yn mynd i’r afael â bywyd academaidd yn y brifysgol. Cawn glywed am brofiadau gwirioneddol myfyrwyr, ffyrdd newydd o astudio, rheoli amser, astudio trwy gyfrwng y Gymaeg, yr her o ddelio ag aseiniadau ac arholiadau - ac yn bwysicach na dim, y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael pan fo’i hangen.

openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol

Mon, 07 Aug 2023 23:45:02 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrsio am Brifysgol

A alla’ i fforddio mynd i’r brifysgol?

Ydych chi’n poeni am y gost o fynd i’r brifysgol? A yw’n swnio fel breuddwyd anghyraeddadwy? A fydd wirioneddol yn werth chweil yn y tymor hir - yn enwedig gan mai’r unig beth mae pawb i weld yn sôn amdano’r dyddiau hyn yw dyled myfyrwyr?

Yn y bennod hon rydym yn mynd i’r afael ag arian yn uniongyrchol. Rydym yn trafod cyllidebu, rheoli eich arian a byw’n annibynnol, yn ogystal â Chyllid Myfyrwyr a ffyrdd ymarferol o gydbwyso swydd wrth astudio.

openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol

Mon, 07 Aug 2023 23:35:01 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrsio am Brifysgol

Fydda i’n ffitio i fywyd myfyriwr?

Mae bywyd prifysgol yn fwrlwm o brofiadau newydd - sy’n gyffrous ond hefyd yn frawychus. Ydych chi’n poeni ynghylch cwrdd â phobl newydd neu lle fyddwch yn byw?

Yn y bennod hon rydym yn sgwrsio’n onest ynglŷn â’r agweddau cymdeithasol ar fywyd prifysgol - profiad y glas, gwneud ffrindiau, byw oddi cartref - neu’n wir, aros gartref.
Nid ymwneud ag astudio yn unig mae bywyd prifysgol – rydym yn rhannu ychydig o awgrymiadau ac yn chwalu rhai o’r mythau sydd ynghlwm â phrofiad cymdeithasol y myfyriwr.

openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol

Mon, 07 Aug 2023 23:25:01 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrsio am Brifysgol

Sut mae mynd drwy’r broses ymgeisio?

Felly rydych wedi penderfynu mynd amdani - a nawr mae’n amser gwneud cais! Sut ydych chi’n penderfynu lle a beth i astudio, a dewis y cwrs perffaith i chi? A lle dylech chi ddechrau gyda’ch Datganiad Personol?

Yn y bennod hon rydym yn eich arwain drwy’r broses ymgeisio, cam wrth gam, ac yn rhannu profiadau bywyd go iawn o’r broses ymgeisio, o Ffeiriau UCAS a Diwrnodau Agored, i benderfynu astudio try gyfrwng y Gymraeg, i lunio dewisiadau pendant a mynd drwy’r system Glirio.

openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol

Mon, 07 Aug 2023 23:15:02 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrsio am Brifysgol

A yw’r brifysgol yn addas i mi?

Mae pawb yn dweud mai’r brifysgol yw’r prif nod academaidd, un a fydd yn eich arwain yn y pen draw at yrfa a chyfleoedd bywyd llawer gwell - ond ai dyma’r opsiwn gorau i chi? A yw’n teimlo’n rhy frawychus, dychrynllyd, llethol, anodd, drud - ac a fyddai’n werth yr holl straen a gwaith beth bynnag?

Mae cymaint o bethau i’w hystyried y dyddiau hyn cyn penderfynu a yw bywyd prifysgol yn addas i chi. Yn y bennod gyntaf hon rydym yn trafod ystod o faterion a fydd efallai’n eich helpu chi i wneud y penderfyniad cychwynnol hwnnw, gan ymdrin â llu o brofiadau amrywiol. Ac os ydych yn meddwl y gallai’r brifysgol fod yn addas i chi, rydym yn edrych ar sut mae mynd ati i ddewis y brifysgol a’r cwrs delfrydol, yn ogystal â llu o bethau eraill!

openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol

Mon, 07 Aug 2023 23:05:01 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Sgwrsio am Brifysgol

Dyma Sgwrsio am Brifysgol

Wyt ti’n meddwl tybed a yw'r brifysgol yn iawn i ti? Gwranda ar fyfyrwyr prifysgol sy'n astudio ledled Cymru ar hyn o bryd wrth iddyn nhw rannu eu profiadau.

Byddwn yn trafod beth yw bywyd prifysgol, gan gynnwys y broses ymgeisio, rheoli arian, astudiaeth academaidd, ac addasu i fywyd myfyriwr.

Mae'r gyfres hon yn rhan o Barod ar gyfer Prifysgol, sef casgliad o adnoddau rhad ac am ddim sy'n cefnogi dysgwyr i ddechrau ar eu taith i addysg uwch.

Gelli di ddarganfod mwy wrth fynd i openlearn.com/barod-ar-gyfer-prifysgol. Mae gennym ni hefyd gyfres Saesneg ‘Let’s talk about Uni’ ar gael ble bynnag wyt ti’n cael dy bodlediadau.

Fri, 04 Aug 2023 08:12:47 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch