-> Eich Ffefrynnau

Trafod Gwelliant

Trafod Gwelliant

Croeso i Trafod Gwelliant. Dyma bodlediad gan Gwelliant Cymru lle rydym yn creu gofod diogel i'r bobl hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal yng Nghymru sydd eisiau gwneud i'r system weithio ychydig yn well i bawb. Ym mhob pennod, byddwn yn siarad â rhai o'r arweinwyr ym maes gwella i gael eu mewnwelediadau a'u profiadau personol.

Gwefan: Trafod Gwelliant

RSS

Chwarae Trafod Gwelliant

'Ffordd Toyota' gyda Nick Pearn

Yn y bennod hon, eisteddodd Sarah Patmore, a Nick Pearn, Arbenigwr Egwyddorau yng Nghanolfan Rheoli Darbodus Toyota i drafod cydweithio ar wahanol brosiectau gwella, gan ganolbwyntio'n benodol ar wella effeithlonrwydd prosesau profion labordy yn ystod anterth Covid-19. Siaradodd Nick â ni am y gwaith y mae Canolfan Rheoli Darbodus Toyota yn ei wneud a sut y gall egwyddorion darbodus sydd wrth wraidd Ffordd Toyota helpu i fynd i'r afael â'r heriau sy'n cael eu hwynebu gan GIG Cymru.

Tue, 27 Sep 2022 10:22:19 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Trafod Gwelliant

Meddylfyrd Dylunio gyda Dr Philip Webb

Ar gyfer y bennod hon o 'Trafod Gwelliant', rydym yn trafod gwelliant ac arloesedd gyda Dr Philip Webb, Prif Weithredwr Arloesedd Anadlol Cymru.

Tue, 20 Sep 2022 13:54:40 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Trafod Gwelliant

Sepsis codi ymwybyddiaeth gyda Terence Canning

Yn y bennod hon o Trafod Gwelliant, siaradodd Terence Canning, Cyfarwyddwr Gweithredol Cymru ar gyfer Ymddiriedolaeth Sepsis y DU â Martine Price, Nyrs Arweiniol gyda Gwelliant Cymru am bwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o sepsis.

Tue, 20 Sep 2022 09:10:44 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Trafod Gwelliant

Barod i Fynd gyda Catherine Roberts a Robert Foley

Yn y bennod hon o Trafod Gwelliant, eisteddodd Catherine Roberts, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Grŵp Lleoliad Integredig Merthyr a Chynon a Robert Foley, Pennaeth Llif Cleifion o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i lawr gyda'r Athro John Boulton, Cyfarwyddwr Gwelliant Cymru, i dynnu sylw at y gwaith parhaus o wella llif cleifion a diogelwch cleifion yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.

Tue, 06 Sep 2022 09:40:25 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch

Chwarae Trafod Gwelliant

Trafod Gwelliant gyda Gwelliant Cymru

Croeso i Trafod Gwelliant. Dyma bodlediad gan Gwelliant Cymru lle rydym yn creu gofod diogel i'r bobl hynny sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal yng Nghymru sydd eisiau gwneud i'r system weithio ychydig yn well i bawb. Ym mhob pennod, byddwn yn siarad â rhai o'r arweinwyr ym maes gwella i gael eu mewnwelediadau a'u profiadau personol.

Tue, 30 Aug 2022 15:40:05 +0000

Chwarae PlayChwarae Lawrlwythwch