A Welsh language rugby podcast following Wales throughout Autumn 2020.
Gwefan: Y Sgarmes Ddigidol
Mwy o bodlediadau Chwaraeon
Heddiw, gyda 1,000 o ddyddiau i fynd cyn Cwpan Rygbi'r Byd 2023 yn Ffrainc, fe ddarganfyddodd Cymru pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y twrnament. Shane Williams a Rhys Patchell sydd yn ymuno â Rhodri Gomer i drafod y gystadleuaeth yn ogystal â thrafod cyfergydion yn rygbi.
Mon, 14 Dec 2020 19:00:00 +0000
Wrth i dîm Wayne Pivac baratoi at gêm olaf cyfres siomedig yr Hydref, Shane Williams, Nathan Brew ac Elinor Snowsill sydd yn ymuno â Rhodri Gomer i drafod yr ymgyrch hyd yn hyn, edrych ymlaen at y gêm yn erbyn yr Eidal ac ystyried pa reolau y dylid newid er mwyn gwella'r gamp.
Tue, 01 Dec 2020 15:45:00 +0000
Yn dilyn colled arall i Gymru, mae Rhodri Gomer yn mwynhau cwmni Nigel Owens, Shane Williams a chyn-hyfforddwr Georgia, Kevin Morgan. Bydd y tri gŵr doeth yn edrych yn ôl ar beth aeth o le yn erbyn y Gwyddelod ac ymlaen at y gêm yn erbyn Georgia.
Wed, 18 Nov 2020 16:15:00 +0000
Nigel Owens, Shane Williams a Ioan Cunningham sydd yn ymuno â Rhodri i drafod ymadawiad Byron Hayward o garfan Cymru, y golled yn erbyn yr Alban, ac i edrych ymlaen at Iwerddon v Cymru.
Wed, 11 Nov 2020 11:30:00 +0000
Shane Williams, Sioned Harries a Dyddgu Hywel sydd yn ymuno â Rhodri i drafod y golled yn erbyn Ffrainc ac i edrych ymlaen at gemau'r Menywod a'r Dynion yn erbyn Yr Alban.
Tue, 27 Oct 2020 11:00:00 +0000
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer gêm gynta'r Hydref, mae Shane Williams, Sioned Harries a Nigel Owens yn ymuno â Rhodri i edrych ymlaen at y penwythnos.
Mon, 19 Oct 2020 13:00:00 +0100