Yn anffodus does dim un gwasanaeth podlediadau sydd yn iawn ar gyfer pob un podlediad ond dyma rai o’r cwestiynau sydd angen ystyried wrth ddewis y safle ar gyfer eich podlediad.


Be yw’r storfa addas i’r podlediad?

Faint o gynnwys y byddwch yn llwytho yn fisol i’r gwasanaeth?

Oes angen neges ar flog i gyd-fynd gyda phob rhifyn o’r Podlediad?

Ydych chi am gynhyrchu video a sain?

Pa fath o stategau hoffech chi weld?

Ydy’n hawdd ychwanegu hysbysebion i benodau’r podlediad?

Faint ydych chi eisiau gwario ar eich podlediad?

Dyma rai o’r cwestiynau sydd angen ystyried wrth feddwl am greu podlediad.

Gwasanaethau cynnal Podlediadau – Angen talu

1. PodBean.

Mae PodBean yn cynnig amryw o becynnau ar gyfer podlediadau.

Mae PodBean yn dosbarthu’r podlediad ar Apple Podcasts, Google Play, Spotify, Amazon Alexa a llwyth o apiau podlediadau ac yn cynnig cefnogaeth 24/7. Mae PodBean wedi bod o gwmpas ers  2006.

Mae ’na becyn am ddim sydd yn galluogi llwytho 5 awr o sain y mis. Mae’r pecyn am ddim yn cynnig ychydig stategau ond am $9 y mis mae ’na becyn stategau fwy sylweddol ar gael.

Cost: Am ddim – $99 y mis

Gwefan: https://www.podbean.com/

2. Libsyn

Mae Libsyn yn safle cynnal podlediadau gyda phecynnau sy’n dechrau o $5 – mae’n hawdd defnyddio ac mae Libsyn yn un o’r cwmnïau podledu gwreiddiol.

Cost: $5 – $75 y mis

Gwefan: https://www.libsyn.com

3. Buzzsprout.

Mae pecyn am ddim gyda BuzzSprout ond byddaf yn awgrymu eich bod yn edrych ar y pecyn sydd yn $12 – nid yw’r pecyn am ddim yn cynnig lot o opsiynau ond mae’r pecyn sydd yn $12 y mis yn boblogaidd iawn.

Cost: $0 – $12 y mis

Gwefan: https://www.buzzsprout.com/

Gwasanaethau cynnal Podlediadau – Am Ddim

Mae ’na ddigon o wasanaethau cynnal Podlediadau sydd am ddim. Mae pecynnau am ddim fel arfer gydag ychydig iawn o opsiynau ond maen nhw’n ffordd dda o ddechrau Podlediad.

Dyma rai o’r gwasanaethau mwyaf poblogaidd yn 2019.

Anchor

Mae Anchor am ddim ac mae’n wasanaeth sydd yn hawdd defnyddio ac yn cynnig opsiynau sydd yn dibynnu ar eich gofynion.

Mae Spotify wedi prynnu Anchor felly mae’n hawdd cael eich podlediad ar Spotify – mae hefyd yn dosbarthu i Apple Podcasts, Google Play ac apiau Podlediadau.

Mae’r Anchor wedi dod yn boblogaidd iawn yn 2019 gyda podlediadau newydd.

Gwefan: https://anchor.fm/

Spreaker

Mae Spreaker yn cynnig gwasanaeth sy’n galluogi chi i greu a dosbarthu eich podlediad. Mae’n un o’r cwmnïoedd cynnal poblogaidd am ddim ac yn opsiwn da. Mae’n cynnig apiau am Android ac iOS hefyd.

Gwefan: https://www.spreaker.com/

Soundcloud

Mae Soundcloud yn opsiwn i gynnal eich podlediad ond y bydd angen i chi dosbarthu eich ffrwd RSS i’r platfformau ac apiau podlediadau.

Gwefan: https://soundcloud.com/

Pa wasanaeth sydd orau?

Mae’n dibynnu ar eich anghenion ond mae Y Pod yn hapus i helpu chi weithio allan pa wasanaeth sydd orau ar gyfer eich podlediad chi.

Cysylltwch i gael sgwrs.

Gwasanaethau Cynnal Podlediadau