Yr wyf am geisio ateb y cwestiwn mwyaf poblogaidd wrth feddwl am recordio Podlediad.

Yr Ateb Gwyddonol

Ar gyfartaledd 26 munud yw’r amser mae pobol yn teithio i’r gwaith. Felly os ydych chi’n gwneud Podlediad 26 munud ydy hynny yn plesio pawb?

43 munud, ar gyfartaledd, yw hyd podlediad – felly be mae hynny’n golygu?

Mae’r 43 munud yn cynnwys Podlediadau poblogaidd a rhai sydd ddim yn boblogaidd.

Hyd cyfartaledd y 100 Podlediad mwyaf poblogaidd yw 53 munud.

Y Pod - Podlediadau Cymraeg

Yr Ateb Creadigol

Meddyliwch am hyn…

Dwi eisiau cael sgwrs gyda ffrind. Ydw i’n siarad ag ef am 17 munud, neu ydy 22 munud yn well i gael sgwrs gydag ef? Be ydych chi’n argymell?

Dwi am wneud ffilm… ond pa mor hir y dylai ffilm fod? 90 munud, 103 munud, pa hyd sydd well?

Dyw’r cwestiynau yma ddim yn gwneud synnwyr! Felly… pa mor hir y dylai podlediad fod?

Fe ddylai podlediad fod mor hir ac y dylai fod.

Bwriad podlediad yw adrodd stori neu gyfleu syniad. Mae’n wahanol i deledu a radio, does dim angen i bodlediad fod o hyd arbennig i ffitio amserlen.

Yr Ateb Hunanol

Mae rhai podledwyr yn dechrau recordio, gwneud y podlediad, yn gorffen recordio ac yna cyhoeddi’r recordiad.

Mae rhai yn dweud dyma be sy’n gwneud podlediad, eraill yn dadlau nad oes angen golygu o gwbwl.

Dyma Farn Y Pod

Dwi o’r farn bod angen gwaith golygu ar unrhyw podlediad.

Mae pob darn o sain sydd wedi ei recordio yn gallu fod yn well ar ôl golygu.

Mae golygu’r un mor bwysig a recordio’r podlediad.

Mi ddylai podlediad fod mor hir ac sydd angen, ac nid eiliad yn hirach.

Golygwch a sgleiniwch eich podlediad a gwnewch yn siŵr bod pob munud yn bwysig i’r gwrandawyr.

Pam mor hir y dylai Podlediad fod?