Yn syml, mae’n hawdd.

Mae Podlediad yn ffordd i gyrraedd cynulleidfa byddwch chi ddim yn cyrraedd trwy wefan neu blog.

Mae ’na dwf yn y niferoedd o bobol sy’n gwrando ar bodlediadau yn gyson. Mae ’na ddisgwyl i’r nifer yma tyfu dros y blynyddoedd nesaf.

Mae ’na siawns i gysylltu gyda chynulleidfa ar lefel mwy personol.

Gyda syniad da, a bach o hyder technegol, yr ydych yn fwy na barod i ddechrau creu podlediad eich hun.

1. Cynlluniwch

Allai ddim crybwyll hyn digon, mae angen cynllunio eich Podlediad. Mae dilyn cynllun yn gwneud Podledu yn haws.

Faint o bodlediadau ydych chi eisiau cyhoeddi pob mis? Pa bynciau ydych chi eisiau trafod ac mewn pa drefn? Pryd ydych chi eisiau cyhoeddi rhifyn newydd? Ac yn y blaen.

Mae creu calendar ar gyfer podledu yn creu syniad clir o be chi angen ar gyfer pob pennod.

Ysgrifennwch lawr penodau, amserlen i gyhoeddi nhw er mwyn creu syniad i chi’ch hun o le rydych chi’n mynd gyda’r podlediad.

Mae amserlen glir yn golygu y gallwch feddwl am greu a recordio’r cynnwys.

2. Meicroffon

Mae angen buddsoddi mewn meic da! Mae ’na nifer o wahanol rhai ar y farchnad.

Mae ’na blog yma (5 Best USB Microphones For Podcasting – For all Budgets & Levels) sy’n ddefnyddiol https://www.shoutmeloud.com/best-podcast-microphone.html

Dwi’n hoff iawn o’r Blue Yeti (Amazon – tua £100) a hefyd y Neewer USB Microphone (Amazon – tua £25)

Mae ’na ddigonedd ar y farchnad, mae Meic da yn helpu gydag ansawdd y sain. Mae Pop filters yn helpu hefyd.

Meicroffon Blue Yeti

3. Graffeg broffesiynol a chyflwyniad

Heblaw eich bod yn Dylunydd proffesiynol byddaf yn awgrymu eich bod yn cael graffeg i wneud gan un.

Byddwch yn glir pa fath o graffeg sy’n adlewyrchu eich podlediad a gwnewch siŵr bod y graffeg yn edrych yn dda fel llun bach a mawr.

Does dim modd defnyddio cerddoriaeth fasnachol mewn podlediad oherwydd hawlfraint ond gwnewch siwr bod yna cyflwyniad clir a proffesiynol i’r podlediad neu bydd pobol ddim yn gwrando ymhellach.

4. Dilynwch amlinelliad

Dilynwch amlinelliad i gadw eich hun ar drac! Heb amlinelliad bras byddwch yn ffeindio eich hun yn trafod pob math o bethau amherthnasol i’r pwnc dan sylw,

Mi ddylai podlediad cynnwys cyflwyniad clir, corff y sgwrs a chrynodeb fel diweddglo. Does dim angen sgript ond byddai syniad o be chi angen trafod ac ym mha drefn yn gwneud gymaint o wahaniaeth.

Fe allwch chi olygu unrhyw malu awyr allan o’r fersiwn orffenedig os oes angen.

5. Byddwch yn bersonol

Mantais podlediad yw cysylltu gyda’ch cynulleidfa mewn ffordd fwy personol a dwfn.

Mae Podlediadau yn ffordd dda o ddweud straeon personol sy’n berthnasol i’r pwnc dan sylw.

Os ydych chi’n rhoi cyngor am rywbeth arbennig, mae’n syniad son am eich profiadau personol.

6. Eich Podlediad ar y we

Mae ’na ddigonedd o gwmnïoedd allan yna i “hostio” eich podlediad. Mae’n rhaid talu ar gyfer rhai ond nid eraill. Byddaf yn trafod hyn ymhellach yn y blog ond dyma’r rhai sy’n boblogaidd.

BuzzSprout, LibSyn, Blubrry, Audioboom, AnchorFm, SoundCloud,

Mae’n rhaid hefyd crybwyll eich Podlediad i rai apiau fel Spotify, iTunes, TuneIn, a Google Play.

7. Gofynnwch i’ch gwrandawyr i danysgrifio a gadael adolygiad

Mae Podlediadau newydd yn ymddangos yn adran “iTunes podcasts new & noteworthy” ar ôl i chi cael adolygiadau da. Cyn diwedd pob pennod dywedwch wrth eich gwrandawyr sut i danysgrifio ac i adael adolygiad os ydyn yn hoffi’r podlediad.

8. Dysgwch sut i olygu Sain

Mae’r gallu i olygu sain yn gwneud gymaint o wahaniaeth i safon eich podlediad. Mae dysgu sut i olygu sain yn gallu cymryd ychydig amser ond mae’n hanfodol i greu podlediad da.

Mae meddalwedd golygu ar gael am ddim, mae Audacity yn enghraifft dda o feddalwedd sy’n hawdd dysgu a defnyddio.

9. Byddwch eich hun

Efallai bod e’n hollol amlwg ond byddwch eich hun. Does dim angen golygu allan pob umm ac ahh, mae’r rhain yn gwneud y sgwrs yn fwy naturiol.

Gwenwch, a pheidiwch â chuddio eich acen. Mwynhewch y profiad o gael eich neges allan yna. Bydd pobol yn dechrau dilyn eich pennod nesaf.

Mae adeiladu dilyniant yn cymryd amser, peidiwch â disgwyl gormod yn y 6 mis cyntaf ond cadwch ati.

Ydych chi’n bwriadu creu Podlediad Cymraeg?

Cysylltwch â rhowch wybod am eich cynlluniau. Holwch am gyngor, ac fe wnâi fy ngorau i helpu.

Pam dechrau Podlediad?