Dyma 11 “rheol” ar gyfer podledu!
1 – Nid rhaglen radio yw podlediad, hyd yn oed os ydy rhaglenni radio yn cael ei lawrlwytho fel podlediad!
2 – Ar gyfer y rhai ifanc ohonoch bydd byth yn berchen a radio, podlediadau yw eich radio, ond gwelwch reol rhif 1.
3 – Y pwnc a’r stori sydd yn arwain hyd podlediad.
4 – Mae Podlediadau ar gyfer genhedlaeth y clustffonau, byddwch yn barchus, cynnes ac yn fwyn yn eu pennau.
5 – Defnyddiwch regfeydd yn gall. Byddwch yn anffurfiol, cyfeillgar, ond a oes angen defnyddio iaith gref?
6 – Meddyliwch am bodlediad fel sinema i’r clustiau. Mae podlediad yn gallu fod yn sain sy’n ddylanwadol iawn.
7 – Dywedwch straeon mawr a pwysig, mewn ffordd bigog, emosiynol, gwir ond ffug.
8 – Byddwch yn glir – mae Podlediad yn gallu cynnig ffocws a chyd-destun i bwnc gymhleth a dryslyd.
9 – Mae Podlediadau yn blwyfol – maen nhw’n gallu uno cymunedau.
10 – Mae Podlediadau yn rhyngwladol, ble bynnag yw tarddiad y sain mae ar gael ar draws y byd.
11- Dilynwch bob rheol uwchben – newidiwch ac addaswch y rheolau, ond dim rhif 1.