Un o’r cwestiynau poblogaidd sydd yn cyrraedd e-bost Y Pod yw sut ydw i’n darganfod podlediad sy’n apelio ata i?
Mae’n anodd darganfod podlediadau sydd yn apelio. Mae rhai yn dweud bod yna broblem gyda’r gwefannau a ffyrdd ar gael i bobol darganfod podlediad.
Pwnc sy’n cael ei thrafod ar wefan The Podcast Host yw Podcast Discoverability.
Mae’n erthygl ddiddorol dros ben sydd yn trafod sut wnaeth pobol dod o hyd i’r podlediadau y maen nhw’n gwrando.

Mae rhai yn dweud bod angen siart, system argymhelliad neu algorithm yn debyg i Netflix, neu ffordd o adolygu neu hoffi podlediadau yn well sydd ddim yn seiliedig ar blatfform.
Y ddadl ar ochr arall yw bod podlediadau yn cael ei darganfod trwy gyfryngau cymdeithasol a thrafodaethau felly mae pobol yn rhannu podlediadau ymysg ei gilydd ac mae hyn yn fwy effeithiol.
Darllenwch yr erthygl i weld canlyniadau’r arolwg.
Erthygl The Podcast Host – Podcast Discoverability.