Mae RAJAR wedi cyhoeddi astudiaeth MIDAS ar gyfer chwarter 1af 2019.

Astudiaeth ar sut mae pobol yn gwrando ar Radio a Podlediadau yn y Deyrnas Unedig yw’r astudiaeth, ac mae’n dweud bod 14% o oedolion 15+ ym Mhrydain yn gwrando ar bodlediad yn wythnosol.

Mae 25% o bobol sy’n cyhoeddi podlediad rhwng 25 a 34 oed.

Mae 72% o wrandawyr podlediadau yn gwrando ar bodlediad yn ei chyfanrwydd ac mae 60% yn gwrando ar bob podlediad maen nhw wedi lawrlwytho.

Ffônau symudol yw’r brif ddyfais ar gyfer gwrando ar bodlediadau gyda 68% o oedolion dros 15 oed yn defnyddio ffôn symudol. Mae hyn yn uwch eto i bobol iau (70% ar gyfer oed 15-24, 82% ar gyfer oed 25-34).

Gweithgaredd unigol yw gwrando ar bodlediad gyda 92% yn gwrando fel unigolyn a 44% yn gwrando adref.

Dyma linc i astudiaeth MIDAS RAJAR.

RAJAR yn cyhoeddi astudiaeth MIDAS (C1 2019)